Pentre'r Plant/Ffair Glamai
| ← Hanes y Sgrin | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Nansi Owen → |
PENNOD V.
"FFAIR GLAMAI.
UN ffair a gynhelid yn ystod y flwyddyn yn Llanaber, ond yr oedd honno yn ffair fawr a phoblogaidd. Adeg ei dyfodiad ydoedd mis Mai, a gelwid hi ar lafar gwlad yn "Ffair Glamai" (talfyriad, mae'n bosibl, o Galan Mai). Dyna ddull y wlad o siarad, cyn geni'r "orgraff newydd "i'r byd. "Ffair Glamai!"
Ac i'r cyfarwydd â hanes y pentre gwledig y mae swyn a barddoniaeth yn yr ymadrodd.
I blant y cyfnod hwnnw, dyna "Ffair y Byd." A byd go wych oedd y byd cyn y dilyw! Ac, fel y dywed haneswyr, teifl digwyddiadau mawr eu cysgod ymlaen. Disgynnai cysgod "Ffair Glamai" yn gynnar, a phrysurai olwynion bywyd a gwaith. Deffroai'r pentre o'i gwsg gaeafol; gwyngalchid y tai, a phaentid hwy yn holl liwiau'r enfys! Deuai gweithdy Sadrac Jones yn lle prysur iawn. Ni cheid hamdden i drafod barddoniaeth o gwbl, dim ond y lledr a'r esgidiau newydd. Gosodid y "sgrin" yn y gornel o'r neilltu, hyd ryw "amser cyfaddas," a phrin y cai Sadrac Jones hamdden i edrych dros ddalennau Utgorn y Bobl, yn ol ei arfer. Byddai mor brysur, ambell ddiwrnod, fel y byddai raid i "Nansi Owen " ei alw at ei "bryd bwyd."
"Y mae'r cinio'n oeri, Sadrac Jones; ac yr ydw i yn siwr eich bod bron a llwgu."
"Mi ddof ymhen ychydig funudau," dywedai Sadrac Jones, "wedi i mi roi'r pwyth olaf yn yr esgid yma."
Ond anghofiai wedyn, a deuai Nansi Owen o'r gegin i'r gweithdy.
"Welwch chi, Sadrac Jones, y mae'n rhaid i chi ddod at eich bwyd. 'D oes dim sens mewn gweithio am oriau heb yr un tamaid na llymaid. Mi fyddwch yn sâl, fel y buoch chi'r llynedd. Dowch at y bwrdd."
Ac wedi mynd i'r gegin, ond odid na ddywedai Nansi Owen fod yn rhaid iddo gael "gweithiwr i'w helpu". Yr oedd honno yn "hen stori," ond yn aros yn yr unfan y naill flwyddyn ar ol y llall.
"Rhaid i ni gysidro'r peth," dywedai Sadrac Jones. "Peth anodd iawn ydi taro ar weithiwr da."
Un hynod am 'gysidro' oedd Sadrac Jones. Dichon mai hynny oedd y rheswm ei fod yn para arwain bywyd "sengl." Anogai pobl hoff o ymyrryd â materion rhai eraill ef i briodi; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gael amser i "gysidro," a 'd oedd hwnnw byth yn dod i ben!
Ac felly gyda'r "gweithiwr" oedd i'w gynorthwyo. Deuai'r mater hwnnw i'r "bwrdd " yn gyson bob blwyddyn o flaen "Ffair Glamai," ac yna aros ar yr agenda am flwyddyn arall. Dyna'r drefn arferol,—Nansi Owen yn cyflwyno'r mater i sylw, a Sadrac Jones yn "cysidro."
Ond, wedi'r gweithio didor am wythnosau, dyna adeg y ffair yn nesau. Y dydd o'i blaen codai'r diddordeb i bwynt uchel, a "thorrid " yr ysgol ddydd yn gynnar yn y prynhawn. Pa ddiben oedd "cadw ysgol" a'r plant yn hanner gwallgof gan awydd am weld y "rhyfeddodau " a gludid i'r ffair? Dyna lle byddai pob math o gertwyni a wageni, yn cael eu tynnu gan bob rhywogaeth o greaduriaid, a'r sŵn yn fyddarol! Codid stondinau ar yr heol, a phebyll yn y maes cyfagos. Yr oedd Llanaber yn lle gogoneddus ar "Ffair Glamai"; a chredai rhai o'r hen drigolion, na fuont erioed allan o'r plwy', nad oedd hanner cymaint o bobol yn Llundain ag a welid yn Llanaber ym mis Mai.
Ond ni cheir y rhosyn heb y drain. Ac y mae'n rhaid cydnabod fod yno un peth yn "Ffair Glamai oedd yn ddraen i Sadrac Jones. Beth ydoedd? Ai'r difyrrwch a'r chwareuon? Nage, yr oedd Sadrac Jones yn ddigon ieuanc ei ysbryd i fwynhau pethau o'r fath. Ond arferai rhyw ddieithriaid ddod i'r ffair i werthu esgidiau "parod "—ready made. A themtiai eu rhadlonrwydd bobl i'w prynu. Meddylient eu bod yn cael "bargen," ac y mae rhyw duedd ryfedd yn y natur ddynol i brynu os bydd "bargen" i'w chael.
Nid ai Sadrac Jones i'r ffair, rhag iddo gael ei boeni gan yr estroniaid teithiol hyn a werthai nwyddau heb dalu na rhent na threth. Ond ai Nansi Owen yno yn fwy fel detective na dim arall. Gwelid hi yn sefyll ar gwr y dorf yn ymyl stondin yr "esgidiau parod," ac yn gwylio pwy fyddai yn prynu, ac, wrth gwrs, yn talu. Rhaid oedd gwneud hynny yn y ffair. "Un pris, ac arian parod"-dyna'r arwyddair. Ac wedi dod adref dywedai'r hanes.
"Yr ydych yn rhy ffeind o lawer, Sadrac Jones. Yr ydych yn gwneud esgidiau dan gamp, ac yn gorfod aros am fisoedd am dâl, ac mi welais y bobl hynny yn y ffair, o gwmpas yr hen stondin yna, yn prynu esgidiau, ac yn talu amdanynt ar law."
"Y maent yn debyg o weld eu ffolineb cyn pen ychydig wythnose," dywedai Sadrac Jones. ""D oes neb a fedr wneud esgid iawn am y pris yna, heb iddo ladrata'r lledr. Ond, o ran hynny, nid lledr ydyn' nhw—dim ond papur wedi ei wneud i edrych fel lledr!"
"Digon gwir," dywedai Nansi Owen, ac mi ddaw'r teulu yna atoch chi i ofyn i chi drwsio 'r esgidiau. Hym! fuaswn i ddim yn gwneud ffasiwn beth. Mi deudwn wrthynt yn blaen am fynd â'r esgidiau i'w trwsio i'r un fan ag y daru nhw eu prynu. Ond wnewch chi mo hynny, mi wn, yr ydach chi yn rhy ffeind."
Ac erbyn hyn, byddai Sadrac wedi dod ato ei hun.
"Os ydach chi'n dweud y gwir, Nansi Owen, yr wyf yn hollol dawel. Mae'n well gen i gael yr enw o fod yn ffeind na bod yn grib-ddeiliwr. Ac i be yr ydw i'n siarad am ryw ddosbarth a fanteisia ar y ffair i gael bargen? Yr ydw i yn cael mwy na digon o waith, ac iechyd i'w wneud. Diolch am hynny."
Ac wedyn ymneilltuai Sadrac Jones i'w ystafell i ddarllen yr erthygl arweiniol yn Utgorn y Bobl ar "Fasnach Rydd."