Pentre'r Plant/Hanes y Sgrin
| ← Ffair Glamai | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Nansi Owen → |
PENNOD IV.
HANES Y SGRIN.
CYFEIRIWYD at y "sgrîn" ar ddiwedd y bennod flaenorol. Ond ar gyfrif ei gwasanaeth yn y dyddiau a fu temtir ni i adrodd ychydig yn rhagor amdani. Rhyw ystyllennau teneuon oedd ei deunydd, a'r rheiny wedi eu cyd-gysylltu yn y fath fodd fel y gellid eu cau a'u hagor yn ol yr angen ar y pryd. Defnyddid hi i lawer pwrpas. Defnyddid hi weithiau fel cysgodlen rhag yr haul pan dywynnai'n danbaid ar ffenestr y gweithdy. Dro arall, ac yn fwy mynych, gosodid hi rhwng y fainc a'r drws fel amddiffyniad rhag y draft.
Ond gwnai Sadrac Jones ddefnydd arall o'r "sgrin," a hwnnw sydd wedi peri iddi aros yn ein hatgofion. Y mae gan blant y dydd heddiw eu "sgrin," ar ar honno y gwelant hud a lledrith y "darluniau byw." Gwelsom ninnau bethau rhyfedd oddi ar y "sgrîn yng ngweithdy Sadrac Jones cyn bod sôn ar cinema a'r "pictiwrs" a synna ac a swyna blant a phobl yr ugeinfed ganrif.
Ni honnai Sadrac Jones ei fod yn fardd wrth "fraint a defod," ond yr oedd ganddo chwaeth a hoffter at farddoniaeth. Gallasai yntau ddweud fel y Parch. Thomas Hughes, Machynlleth, pan werthai'r "Garnedd Arian"—detholiad a wnaethai ef ei hun,—"Nid wyf fi fardd, na mab i fardd, ond y mae gen i daste. Oes, siwr, y mae gen i daste, ac yr wyf yn adnabod blas barddoniaeth." Yr un modd gyda Sadrac Jones. Yr oedd ganddo yntau daste. Adwaenai flas a cham-flas. Derbyniai'r newyddiaduron Cymraeg wythnosol a ledaenid yn y cyfnod hwnnw, a darllenai hwynt yn fanwl. Gwyddai am wleidyddiaeth, masnach, hanes crefydd, a digwyddiadau cymdeithasol.
Ond y mae gennym sail i dybied mai yr hyn a roddai fwyaf o adloniant i'w feddwl ydoedd y "Golofn Farddol," yn y papur poblogaidd a elwid Utgorn y Bobl. Yr oedd yr adran farddonol o dan ofal un o boetau mwyaf adnabyddus y genedl; ac yn iaith flodeuog y cyfnod hwnnw dywedid bod y Golygydd yn pabellu yn rhywle ar "lethrau Parnasws," a bod ganddo ryw "wyntyll" anferth i nithio'r cynhyrchion a anfonid i'r swyddfa. Cipid llu ohonynt yn ddiseremoni gan y gwynt, ac ni chlywid dim amdanynt mwy. Llwyddai eraill i ddal y driniaeth, a rhestrid hwy gyda'r "gwenith gwyn.". Ac wedi iddynt fod ar y llawr-dyrnu cesglid hwy i'r ysgubor fel grawn aeddfed a chymeradwy." Yn eu tro ymhlith y lliaws rhoddid lle iddynt ar ddalennau Utgorny Bobl, ac yr oedd hynny, yn ol barn y cyfarwydd, yn drwydded i anfarwoldeb.
Ond yr oedd gan Sadrac Jones ei ffordd ei hun i ddangos ei edmygedd o'r beirdd a'u gwaith. Wedi darllen cân a'i boddiai, ei arfer ef oedd ei thorri allan o'r papur newydd a'i phastio ar y "sgrîn." Ac yn y modd hwnnw daeth y sgrîn yn fath o amgueddfa i farddoniaeth y dydd. Ychwanegid at yr etholedigion yng nghwrs amser, a bu hynny'n gyfrwng i ddenu ambell un i lwybrau'r awen, ac i wybod rhywbeth am eu hyfrydwch a'u swyn.
Erbyn i nifer o'r bechyn ddod i'r gweithdy fin nos, ond odid na fyddai Sadrac Jones wedi bod yn pastio rhyw ddarn newydd ar y "sgrîn." A'r peth nesaf fyddai ei symud yn ofalus er mwyn cael golau'r lamp o'r nenfwd i ddisgyn arni. Dichon bod y preint yn lled fân, ond pa waeth am hynny? Gallai ein llygaid weld y llythyren fanaf heb graffu dim. Ni wisgai neb ond Sadrac Jones spectol yn y gweithdy hwnnw.
'Rwan, fechgyn. Dyna i chwi gân newydd 'Pistyll y Llan.' Gadewch i mi eich clywed yn ei darllen. John, wnei di roi cynnyg arni i gychwyn?"
(John yn darllen).
"Ie, lled dda ar y cyfan, ond mi a'th glywais yn gwneud yn well. Mi ddylset dalu mwy o sylw i'r atal-nodau, a dangos mwy o deimlad. Ifan, dy dro di ydyw'r nesaf. Tyrd ymlaen."
(Ifan yn darllen).
"Braidd yn undonog oedd dy lais, Ifan. Yr oeddit yn rhy debyg i Dafydd Huws yn rhoi emyn allan yn y moddion,'—pob gair a llinell ar yr un nodyn o'r dechrau i'r diwedd. Y mae eisiau mwy o amrywiaeth wrth ddarllen, yn enwedig darnau disgrifiadol."
Ac wedi i'r naill a'r llall ddarllen y gân medrem hi ar dafod leferydd cyn diwedd y wers, wedi ei dysgu yn ddiarwybod!
Defnyddiai'r rhan fwyaf o feirdd yr Utgorn ffugenw, ac wrth yr enw hwnnw yr arferai Sadrac Jones sôn amdanynt. Un ohonynt ydoedd Idwal Ddu. Byddai ganddo ef ryw gân newydd yn fynych yn y Golofn Farddol." Ac erbyn i ni sylwi, yr oedd mwy o waith Idwal Ddu ar y "sgrîn nag odid o waith neb arall, ac eithrio Ceiriog a Mynyddog. Ef oedd awdur y gân boblogaidd
Cyfodwch y bin
Ar lawr sydd yn gorwedd;
Efallai bydd hyn
Yn dechrau anrhydedd.
A ydych yn ei 'nabod, Sadrac Jones?"
"Idwal Ddu?"
"Ie."
"Na, ni welais ef o gwbl. Ond yr wyf yn meddwl yn uchel amdano fel bardd. Pan welwch ei enw yn y 'Golofn Farddol' chwi ellwch fod yn sicr y bydd y Golygydd yn ei groesawu i "lethrau Parnasws," ac yn dweud—"Melus, moes mwy."
Ond yr oedd un peth arall na wyddem amdano ar y pryd oedd wedi effeithio'n ddistaw ar feddwl a barn Sadrac Jones. Beth ydoedd? Wel, dilynai'r bardd mwyn hwnnw yr un alwedigaeth ag ef ei hun! Crydd oedd Sadrac Jones, a dyna ydoedd Idwal Ddu—crydd a bardd!
A shoemaker, did you say?
Yes, what then?
A shoemaker and a poet?
True again!