Neidio i'r cynnwys

Pentre'r Plant/Hela'r Llwynog

Oddi ar Wicidestun
Beth sydd mewn Enw? Pentre'r Plant

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Y Crwydryn

PENNOD VIII.
HELA'R LLWYNOG.

TRINID llawer o bethau yng ngweithdy Sadrac Jones. Os oedd Llanaber i gryn raddau o olwg y byd, deuai "helynt y byd hwn" yno, ar ei dro, fel yr ymlêd tonnau'r môr i gilfachau pell. Parai ei dyfodiad gyffro a siarad, ac am ennyd newidiai bywyd ei liw a'i flas. Un o'r digwyddiadau cynhyrfiol hynny oedd yr hunt, fel y gelwid y peth ar lafar gwlad. Ystyr hynny ydoedd "hela'r llwynog." Ac yr oedd Llanaber, neu yn hytrach, yr ardal o amgylch, yn digwydd bod ar lwybr yr ymgyrch, fel y mae ambell bentref heddiw ar y main-line i'r brifddinas. Ond nid oedd time-table dyfodiad yr hunt mor sicr ag eiddo'r ffordd haearn. Dibynnai cwrs yr helfa i gryn fesur ar y llwynog ei hun! Gallai ef gymryd ei lwybr ei hun, oherwydd y mae, yn ol barn y cyfarwydd amdano, yn greadur llawn o ddyfais ac athrylith. Pe amgen, ni fuasai'n werth ei "hela " o gwbl. Gadewir y dôf a'r gwâr yn llonydd, ond am y gwyllt a'r anturus rhaid ei "hela" ef ym mha le bynnag y bo. Yr oedd rhai o drigolion Llanaber mewn cydymdeimlad â'r llwynog,' a phe gwelent ef ar ffo o flaen ei erlidwyr, ni cheisient ei atal ar ei hynt. Rhoid chwarae teg iddo ddianc, os gallai. Pob peth a ddyry LLWYNOG am ei einioes. Yr oedd eraill yn wahanol, ac yn orawyddus am iddo gael ei ddal a'i flingo, am y credent iddo fyrhau einioes ieir a gwyddau yn yr ardal.

Ond yr oedd un peth yr oedd pawb oll yn unfryd amdano, ac yn awyddus i'w weld drostynt eu hunain, nid amgen, yr olygfa a geid am ychydig o amser ar ddydd mawr yr "hela llwynog."

"Ydach chi'n meddwl y daw yr hunt ffor' yma, Sadrac Jones?"

"Y mae yn siwr o ddwad, oni bydd y llwynog wedi ei ddal yng Nghraig y Garth."

"Ydach chi am weithio fory?"

"Dim strôc, nes bydd yr hunt wedi mynd o'r golwg. Ond rhaid i chi beidio â myddaru fi heddiw. Rhaid i mi orffen y pâr sgidia yma cyn nos. Ewch at y sgrîn yna. Welwch chwi gân yn y gornel bella—Cerdd Hela' y gelwir hi?"

"Dyma hi, Sadrac Jones. Pwy a'i gwnaeth

"Edrychwch ar yr enw sydd yn y gwaelod. Beth ydi o?"

"John Blackwell (Alun)."

"Ie, siwr. A chrydd oedd yntau cyn iddo fynd yn berson plwy. 'Rwan, darllennwch dipyn o'r gân a wnaeth o pan arosai'n Sir Drefaldwyn."

Ninnau yn darllen:—

"Mae awelon dydd yn deffro,
Gwelwch ruddiau'r bore'n gwrido:
A glywch chwi sain corn hela'r Gelli,
Yn rhoi tafod i'r clogwyni?
Twrf helyddion—cŵn yn udo,
Popeth megis yn cyd-floeddio—
Heddiw ydyw'r dydd i ddala
Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa."


Dyna i chi ddyn wedi gweld yr hunt, ac yn medru ei disgrifio yn gampus. Ewch ymlaen at y pennill lle y mae o yn darlunio'r 'cŵn hela,' ac yn rhoi eu henwau."

"Gwelwch, ni wna nant na chlogwyn
Beri i Nimrod ŵyro mymryn:
Leader, Guider, Topper, German,
Fel yn hedeg drwy Gwm-aman:
Ringwood, Famous, Countess, Collier,
Blucher, Stately—am gyflymder,
Haeddant sylw yng ngherdd hela
Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa."


"Bobol annwyl! dyna i chwi farddoniaeth! Onid oes yna fiwsig yn ENWAU y cŵn hela? Yr wyf yn dotio arnynt. Ond dyna ddigon heddiw, neu ni allaf byth orffen yr esgid yma." **** Drannoeth, yr oeddym wedi codi heb i neb ein galw. Yr oedd pawb yn effro'r bore hwnnw, ac ni allai neb wneud "strôc o waith " nes deuai'r hunt ar draws y wlad. Ymffrostiai rhai o'r hen bobol yn y ffaith iddynt fod yn dystion o'r olygfa am dros hanner cant o flynyddoedd, ac yr oeddynt yn ail fyw dyddiau eu mebyd. Aethom gyda Sadrac Jones i ben craig fel y gallem weled yr holl wlad. Ac yn y man dyna sŵn y corn hela yn dod gyda'r gwynt o'r pellter, ac O! y teimladau a'n meddiannai. Yr oedd yr hunt yn dod, er nad oedd eto yn y golwg. "Dacw nhw!" ebe Sadrac Jones, "yn dod dros ffriddoedd y Clegir Mawr." Daeth y fintai yn nes, a gwelem y cotiau cochion, a'r meirch yn carlamu ar draws y caeau, yn neidio dros y ffosydd a'r gwrychoedd, a'r cŵn yn cyniwair ar bob llaw. Ond, yn sydyn, dyna'r cŵn yn crynhoi at ei gilydd, yn tynnu eu hanadl atynt, ac yna yn cydgychwyn fel llinyn unionsyth, a'r meirch yn carlamu ar eu holau.

"Mae nhw wedi cael y trywydd 'rwan," ebe Sadrac Jones. "D ydi'r llwynog ddim ymhell. Mi gewch glywed y corn yn canu toc."

Aeth y fintai o'r golwg i lawr y gelltydd, ac ai cyfarthiad y cŵn yn wannach, wannach. Ond ym mhen cryn amser gwelid y cŵn yn dychwel dros y clogwyn, a'r "helsman" yn clecian ei chwip.

"Y mae o wedi eu gwneud nhw'r tro yna," ebe Sadrac Jones.

"Pwy?"

"Ond y llwynog, debyg iawn. Mae'n bosib ei fod yn berthynas i'r llwynog hwnnw yr oedd Alun yn sôn amdano,—"Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa.' Ond, 'rhoswch, dacw Wil Troed Buan' yn rhedeg at yr helsman.' Synnwn i ddim nad ydi Wil wedi cael cip ar y llwynog. Mae o yn gweled fel cath."

Ac yn sicr, felly yr oedd. Canodd y "corn hela," daeth y byddigions' oedd ar wasgar i'r un lle, a gostegwyd y cŵn gan yr helsman.' Yna cychwynnwyd eilwaith i gyfeiriad gwahanol, ac aethant o'n golwg.

"Waeth i ni heb aros yma yn hwy," ebe Sadrac Jones. "Yr ydym wedi gweled y cwbl sydd i'w weld heddiw."

Yr oedd y gyfaredd drosodd, a ninnau'n cofio bod arnom eisiau bwyd!

Drannoeth adroddai'r plant eraill eu hanes-rhai ohonynt yn byw yn lled bell o'r pentre. Yr wyf yn cofio stori Dafydd Glandŵr. Cymerasai ef ei safle ar ben llidiart yn agos i'w gartref. Daeth yr helwyr ar draws y cae fel corwynt, a phob un yn rhoddi naid dros y clawdd drain. Ond yr oedd yno un boneddwr hŷn na'r lleill. Daeth ef ar hyd y ffordd oedd yn pasio tŷ Glandŵr. Neidiodd Dafydd i lawr, ac agorodd y llidiart.

"Diolch i chwi, 'machgen i," ebe'r hen fonedd

"Mi fûm innau yn medru neidio dros bob gwrych a chlawdd, ond y mae'r amser hwnnw wedi mynd drosodd."

Estynnodd ei law, a rhoddodd bisin chwecheiniog i Dafydd am agor y llidiart—"chwech gwyn."

"Gwell i ti adael i mi gadw hwn," ebr ei fam, "i gofio am y diwrnod, a'r gŵr bonheddig ffeind."

"Gaf fi fynd a fo i'w ddangos i'r bechgyn yn yr ysgol?" ebe Dafydd.

"Cei, siwr; ond gofala am beidio â'i wario."

Nodiadau

[golygu]