Pentre'r Plant/Nansi Owen
| ← Ffair Glamai | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Beth sydd mewn Enw? → |
PENNOD VI.
NANSI OWEN.
Y MAE drama bywyd yn bod yn y pentre gwledig, tawel, fel yn y ddinas fawr a phoblog. Dichon nad oes ynddi nemawr o olygfeydd cyffrous ac anghyffredin yn y pentre, ac nid ydyw ei chylchdro ond bychan a chyfyngedig. Ond i'r sawl a fedd lygad i weled, a chlust i wrando, y mae rhyw ddiddordeb diddarfod mewn bywyd ym mhob man. Ac un o'r rhai gorau am sylwi a thynnu casgliadau oedd Nansi Owen y Llofft. Nid oedd yn arfer crwydro o dŷ i dŷ, ac ni pherthynai i'r tylwyth atgas a ddyfeisia chwedlau, a'u lledaenu yn llechwraidd a maleisus. Pe felly, ni fuasai yn gymeradwy gan Sadrac Jones; yr oedd ef wrth reddf natur yn casau enllib a chelwydd â'i holl galon. Ceuai ei glustiau rhag gwrando ar gelanedd, a ffieiddiai y sawl a wnai ddrwg i'w gymydog.
Ond sylwai Nansi Owen. Dyna ei harfer. Nid o ran chwilfrydedd yn unig y gwnai hynny, ond am fod y ddawn ganddi. Yn oriau ei hamdden, ac ar dywydd haf, eisteddai yn y gadair wellt yn ymyl ffenestr y Llofft. Ni byddai'n segur. Byddai'r "hosan" ganddi, a'r gweill disglair yn clecian rhwng ei bysedd. Ond medr rhai pobl ddiwyd wneud mwy nag un peth yn gydamserol. Gallai Nansi Owen wau, a sylwi yn ddi-goll. Yr oedd golygfa ddymunol o flaen ei llygaid. Ni flinai ar honno. Gwyddai am bob cae, gardd a bwthyn yn y fro. Sylwai ar y meysydd a'r llechweddau. Hyfryd fyddai cael ein gwahodd ganddi, ambell ddydd, i eistedd wrth y ffenestr, a'r haul yn goreuro'r bryniau pell. Ac os gwyddom rywbeth am swyn golygfeydd syml a hudolus, dyledus ydym, i gryn raddau, am hyn oll i'r cyfnod dedwydd hwnnw.
Yr oedd ganddi ddawn i sylwi ar bethau, ac yn enwedig ar fywyd y Pentre. Yr oedd ei safle yn fanteisiol, a chanddi hithau lygad craff. Yr oedd y Llofft iddi hi fel arsyllfa i'r seryddwr. Dilynai'r sêr yn eu graddau, a gwyddai am bob "comed" a ddeuai ar dro i orbit y Pentre. Rhyw gwch gwenyn cymdeithasol oedd Llanaber, a dichon fod rhai o'r trigolion yn perthyn i adran y gwenyn meirch," ac yn fwy tueddol i golynnu nag i gasglu'r mêl. Ond yr oedd Nansi Owen yn ddiogel rhag y colynnau, canys syllu ar y cyfan o bell oedd ei harfer hi.
Ac eto gallai wau stori'r Pentre, fel yr hosan oedd yn ei llaw, ar ddiwedd dydd. Gwyddai os byddai'r meddyg wedi galw mewn tŷ, a deallai os byddai rhyw brofedigaeth wedi digwydd. Weithiau deuai dieithrddyn i'r Pentre, a sylwai Nansi Owen ar ei wisg a'i wedd. Ac os ai i aros dros nos i'r Gwesty—yr unig un yn Llanaber—gwyddai nad oedd neb yn "perthyn" iddo yn y lle. Mae'n debyg yr adroddai hynny, adeg swper, i Sadrac Jones.
"Yr oedd golwg drwsiadus arno,—efallai ei fod yn rhyw ŵr bonheddig."
"A oedd ganddo gerbyd a cheffylau?"
"Na, ar ei draed y gwelais ef—a deuai o gyfeiriad Bryn Du."
Hwyrach mai gwas gŵr bonheddig ydyw," dywedai Sadrac Jones. "Mae y rheiny yn gwisgo'n dda."
"Ydi o yn peidio â bod yn stiwart i'r Cyrnol Glyn? Mi glywais fod yr hen stiwart wedi colli'i le, a hwyrach mai dyma'r dyn newydd. Dichon ei fod wedi dod yma i weld drosto ei hun pa 'repârs' sydd eisiau ar y tai yn Lôn Isa. Ma 'nhw yn g'wilydd eu gweld, ac y mae'r tenantiaid wedi anfon at y Stiwart lawer gwaith, ond i ddim pwrpas hyd yn hyn."
"Gobeithio eich bod yn iawn, Nansi Owen; ond peidiwch â synnu os dod yma i godi'r rhenti y mae'r dyn diarth."
"Peth creulon fyddai hynny," ebe Nansi Owen, "a 'dydw i ddim yn meddwl, ar olwg y dyn, y gwnai'r fath beth."
Paham y craffai Nansi Owen gymaint ar y " dyn dieithr" a ddeuai i'r pentre? Gwnai hynny ers blynyddoedd lawer. A oedd hi yn disgwyl rhywun? Ni chrybwyllai hynny, ond yr oedd yn amlwg i'r sawl a wyddai orau fod ei meddwl yn cyffroi pan welai ryw estron yn dyfod ar hyd y ffordd i'r pentre. Nansi Owen! Ni wyddem ni'r plant am y "gofid cudd" oedd dan ei bron. Wedi hynny cawsom wybod. Yr oedd iddi hithau fachgen hoff—cannwyll ei llygaid, a heulwen ei bywyd. Ond ag ef yn llanc gwridog, hudwyd ef i adael ei gartref a'i ardal, i fynd i wlad bell. Nid oedd dim yn galw am iddo fynd—dim ond yr ysbryd aflonydd sydd yn gyrru rhai i eithafion byd, ysbryd anturio, a rhyw awydd anniwall am weled rhyfeddodau môr a thir. Ni ellid ei gadw o fewn terfynau cyfyng ardal wledig: yr oedd fel aderyn mewn cell. A phan gafodd y drws yn agored, aeth ymaith i'w fyd ei hun. Bu tipyn o sôn am y peth dros dymor, ond daeth rhywbeth arall i fod yn destun siarad y pentre. Symudodd Nansi Owen o'r bwthyn ar fin y ffordd i'r Llofft, i weini ar Sadrac Jones. Llithrodd blynyddoedd ymaith; ond ni ddaeth gair o hanes y bachgen, Lewis Owen. Diflannodd y cof amdano yn yr ardal—dyna hanes y byd, popeth yn "myned heibio," a rhywbeth arall yn cymryd ei le. Nid felly yng nghalon mam."
Yr oedd hi'n disgwyl o hyd. A phan welai rywun dieithr yn ymlwybro i'r Pentre, deuai rhyw olau i'w llygad, a churai ei chalon yn gynt." Ac er ei siomi filwaith, ni flinai ddisgwyl.