Pentre'r Plant/Y Gweithdy
| ← Ar y Rhiniog | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Dull o Gerdded → |
PENNOD II.
Y GWEITHDY.
ADWAENID adeilad ar ymylon pentre Llanaber wrth yr enw "Hen Gapel," a'r adeilad hwnnw, wedi ei droi i bwrpas arall, oedd gweithdy Sadrac Jones. Ond, er y cyfnewid, ni ellid dweud bod y fangre wedi ei darostwng mewn un modd. Yr oedd y gweithdy hwnnw yn rhywbeth mwy na lle i wneud esgidiau a'u trwsio. Y rheswm am hynny ydoedd fod byd meddwl Sadrac Jones yn lletach o gryn lawer na'i alwedigaeth feunyddiol. Cymerai ddiddordeb mewn llyfrau, a'i bleser ydoedd hyfforddi eraill i werthfawrogi addysg a gwybodaeth. Pan ddeuai bachgen ar neges i'r gweithdy, byddai Sadrac Jones yn sicr o ddefnyddio'r cyfle i ddysgu rhywbeth iddo, a chaniatau bod hynny yn bosibl. Gallai helpu'r anwybodus, ond y mae dylni yn drech na'r duwiau, a bu ambell dro yn drech nag amynedd Sadrac Jones.
Ond cyn manylu ar bethau o'r fath, gwahoddwn y darllennydd am dro i'r gweithdy, fel yr oedd yn y dyddiau dedwydd gynt. Cyn dod at y rhiniog, clywch guriadau'r morthwyl ar y lapstone. Nid yw'r curo yn gwbl reolaidd, fel sŵn cloch y llan. Mae'n debyg fod gweithrediadau meddwl Sadrac Jones yn effeithio ar waith ei ddwylaw.
Chwi a welwch y ffenestr acw sydd yn wynebu'r ffordd ffenestr fawr, lydan, fel yr oedd yng nghyfnod yr addoldy. Erys honno fel cynt. Yng ngweithdy'r crydd y mae'r ffenestr orau yn y pentre, a'r wlad o ran hynny. Mae'n debyg fod yna flodau amryliw ar silff y ffenestr. Ac os yw yn dywydd braf, siawns nad ydyw cath Nansi Owen y Llofft yn cymryd arni gysgu yn yr haul.
Ond dyna Dafydd Wyn y Ffridd yn mynd i mewn—hen ffrind i Sadrac Jones, ac un sydd wedi arfer dadlau llawer ag ef, yn enwedig ar bynciau ysgrythyrol. Gadewch i ni wrando'r ymgom.
"Bore da, Sadrac Jones.
A ydych yn brysur heddiw ?"
"Dim yn fwy felly nag arfer. Y mae rhywbeth i'w wneud bob dydd, ond tra bo iechyd a nerth ni ddylai neb gwyno. Dyna ddeddf fawr bywyd, fel y dywed y Salmydd, Dyn a â allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr.'
"Ie, fel y mae pethau'n bod; ond prin y mae'r adnod yna yn ffitio'ch galwedigaeth chwi, Sadrac Jones."
"Sut hynny?"
"Wel, a siarad yn fanwl, nid ewch chwi allan at eich gwaith. Daw'r gwaith yma atoch chwi. Adnod i ffermwr fel fi ydyw honna: dyn yn mynd allan i'r meysydd i aredig a hau, edrych ar ol yr anifeiliaid, a gweithio yn y cynhaeaf."
"Dim o'r fath. Darlunia'r Salmydd bob gweithiwr gonest, pa un bynnag ai i mewn neu allan y byddo'n dilyn ei orchwyl."
'Ie, ie; ond sut yr esboniwch y darn cyntaf yn yr adnod?' Dyn a â allan.' Rhaid bod rhyw ystyr i'r geiriau."
"Oes, siwr. Y mae ystyr i bob adnod yn y Beibl. Ond nid pwnc o le yn unig ydyw. Gall dyn fynd allan heb gyflawni dim gwaith o gwbl. Dyn yn mynd allan ohono ei hun, er mwyn mynd i mewn i'w waith. Fel yna y dywed un esboniwr ar yr adnod."
Mynd i mewn i'w waith, aiê—Os felly, gellid dweud eich bod chwithau yn mynd i mewn i'r esgid sydd yn eich llaw."
"Dim o'r fath. Troed rhywun fydd yn mynd i mewn i hon un o'r dyddiau nesaf. Ond rhaid wrth feddwl i wneud esgid, mwy o feddwl nag a dybia rhai pobl."
"'Does neb yn ei bwyll yn amau hynny amdanoch chwi, Sadrac Jones. Ond gan eich bod wedi cyfeirio at yr adnod yn y Salmau hwyrach y medrwch roi goleuni ar bwnc arall. Sonia'r Beibl am wahanol grefftau: crefft y gof, y saer, a'r eurych; ond yn rhyfedd, nid oes gair amdanoch chwi, y cryddion."
"Tybed? Ddaru mi ddim meddwl am y peth fel yna o'r blaen. Ond, dyma'r Concordance—gwaith Peter Williams,—gadewch i ni weld, rwan. . . . Na, wir, dydi'r gair ddim yma o gwbl. Ond onid enwir y crydd yn y Beibl, y mae yna gyfeiriadau lawer at ei waith. Yr oedd esgidiau yn amser Abram, a rhaid bod cryddion yr adeg honno. A dywed Paul wrth yr Ephesiaid am wisgo am eu traed "esgidiau paratoad efengyl tangnefedd."
"Pa fath esgidiau fyddwch chwi'n feddwl ydyw'r rheiny, Sadrac Jones?"
"Fedra i ddim dweud hyd sicrwydd. Ond cofiaf yr adnod bob tro y gwnaf esgidiau i'r Parch. John Williams, Llwyn Onn, i fynd ar daith bregethu i'r South. Gofalaf am roi'r lledr gorau a'r gwaith gorau, yn yr esgidiau hynny, bob amser. A daw'r 'hen weinidog yma wedi dod adref o'i daith i adrodd yr hanes :
"Gawsoch chwi amser lled gysurus, Mr. Williams ?"
"Hynod felly," ebr yntau. "Cefais dderbyniad caredig ym mhob man. Rhai felly ydyw cyfeillion y De, ond yr oedd amryw o'r hen ffrindiau a adwaenwn ers talwm wedi cadw noswyl."
"Fuoch chwi yn gysurus o ran eich iechyd ?"
"Rhagorol. Cefais dywydd oer a gwlyb, ambell dro, ond yr oedd fy nhraed yn sychion ac yn gynnes. Peth mawr i bregethwr ar daith ydyw cael esgidiau esmwyth, ac yn weather-proof."
"Rhywbeth fel yna fyddai'n feddwl ydyw esgidiau 'paratoad efengyl tangnefedd.'"
"Digon tebyg. A chwithau wedi eu gwneud nhw, ynte? Dyna fel y mae hi, Sadrac Jones, y mae pawb yn medru troi'r dŵr at ei felin ei hun.' Ond y mae'r hyn a ddywedwch am hen weinidog Llwyn Onn yn eithaf gwir. Yr unig beth sych yn ei hanes ef ydyw—nid ei bregeth—ond ei draed. Mi gymera inna bâr yr un fath, os gwelwch yn dda."