Pentre'r Plant/Y Samaritan
| ← Y Crwydryn | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Yr Esgid a'r Gân → |
PENNOD IX.
Y CRWYDRYN.
Y MAE i bob peth yn y fuchedd hon ei adeg a'i dymor. Dyna drefn natur, ac y mae pob perchen greddf yn ei dilyn. "Yr ych a edwyn ei feddiannydd a'r asyn breseb ei berchennog." Ac yr oedd dosbarth tebyg o'r hil ddynol yn arfer ymweled ag ardal Llanaber ar adegau neilltuol o'r flwyddyn. Sut y daeth y trefniant hwnnw i fod, anodd fyddai penderfynu. Perthynai'r tylwyth teithiol hynny, mewn rhyw ystyr, yn lled agos i'r ych a'r asyn. Deiliaid greddf oeddynt i gryn raddau, ac fel yr ych a'r asyn yn dibynnu am eu porthiant ar garedigrwydd pobl eraill. Nid oeddynt nac yn llafurio nac yn nyddu, er eu bod yn lled hoff o "gywain i ysguboriau" os byddai'r ffermwyr yn caniatau, nid i ddyrnu'r yd na'i nithio, ond yn hytrach i orffwys dros nos. Yr ysgubor neu'r beudy fyddai bungalow crwydraid yn y dyddiau gynt. Deuent yno ym min yr hwyr, ac yr oedd yn ddefod gwlad i roddi "swper" iddynt, a siars bendant i beidio â golau' matsys' yn yr ysgubor rhag digwydd i'r gwellt fynd ar dân. Fel rheol, yr oeddynt yn greaduriaid eithaf diniwed, ac ni fyddent yn arfer lladrata eiddo neb. Yr unig neges oedd ganddynt ydoedd "hel eu bwyd," ac ni warafunai'r sawl a'u hadwaenai hynny iddynt. Ac yr oedd ganddynt ddawn i fwyta! Gallent ddal ati heb flino dim drwy gydol y dydd. Ni phoenid hwy gan yr hyn a elwir yn "ddiffyg treuliad." Bu Sadrac Jones, un adeg, yn dioddef oddi wrth yr anhwyldeb hwnnw. Ni theimlai ddim archwaeth at fwyd, ac yr oedd Nansi Owen wedi mynd i ofni amdano. 'Dydi o'n bwyta dim mwy na chyw deryn," meddai, "a dim rhyfedd, chwaith; sut y gall dyn gael blas ar ei ymborth ac yntau'n aros yn yr hen weithdy yna o fore i hwyr yng nghanol arogl lledr a chŵyr crydd? Mi ddyle fynd allan yn amlach; ond waeth i mi heb ddeud wrtho. Dowch at eich swper, Sadrac Jones."
Wyddoch chi beth, Nansi Owen, mi fuaswn yn rhoi cryn lawer pe cawswn i fenthyg stumog Twm Pirs." **** Yr oedd pawb yn yr ardaloedd yn adnabod Twm, ac ni fyddai neb yn gâs wrtho. Deuai yn ei dro, tua'r un adeg, y naill flwyddyn ar ol y llall. O ran ei olwg, nid oedd nac yn ieuanc nac yn hen. Yr oedd yn drwm o gorff, â wyneb fel lleuad lawn, a cherddai'n araf a phwyllog Ni welwyd ef yn rhedeg erioed, canys nid oedd arno eisiau dal y trên na dim arall. Un o'r gwŷr traed oedd Twm Pirs, ac yr oedd ei esgidiau yntau, fel yr eiddo cenedl Israel yn yr anialwch, yn gorfod gwisgo'n hir. Trwsiai Sadrac Jones dipyn arnynt pan ddeuai Twm ar ei ymweliad blynyddol â'r gweithdy. Rhoddai eraill iddo hen ddillad wedi eu "troi heibio," a chan nad oedd gan Twm ystafell i'w cadw cludai'r cwbl amdano, ac ymddangosai fel siop ddillad symudol. Sut y medrai gerdded â'r fath lwyth oedd ddirgelwch i bawb ond iddo ef ei hun. Golwg digon afluniaidd oedd arno, ond yr oedd mor ddiniwed fel yr oedd pawb yn hollol dawel. Ni lechai'r plant o'r neilltu pan ddeuai Twm at y tŷ, a chaniatâi hyd yn oed y cŵn iddo fynd a dod trwy'r buarth. Dichon y dechreuai ambell gi gyfarth, a rhuthro at y llidiart. Ond, wedi sylwi, deuai yn ol, fel pe yn dweud wrtho ei hun: "Dim ond Twm Pirs sydd yna; nid yw yn werth ei gyfarth ef."
Cai Twm fwyd a llety yn rhad, ond edliwiai rhai o'r ffermwyr iddo na wnai ddim i dalu am ei fwyd. Ac un tro tybiodd John Llwyd, Dôl Gam, y gallai berswadio Twm Pirs i fod yn ddefnyddiol. Yr oedd y brain fel pla yn y cae lle'r oedd y maip a'r rwdins. Ai John Llwyd at y gwrych gyda'i wn, a thaniai ergyd. Chwalai'r fintai am ennyd, ond gwyliai'r pickets y dyn â'r gwn, ac wedi iddo droi ei gefn rhoddent arwydd i'r fintai fod y maes yn glir.
Meddyliodd am fynd ati i lunio yr hyn a elwir yn "Fwgan Brain," a'i wisgo â hen ddillad a het fawr. Ond daeth Twm Pirs yno ar ei dro, ac wedi treulio noson yn y sgubor a chael breswast aeth at y tŷ i ddiolch am ei fwyd, yn ol ei arfer. Dyna gyfle John Llwyd wedi dod.
"Hoffet ti wneud rhywbeth i'n helpu gyda gwaith y fferm yma, Twm?"
"Beth fedra i wneud, mistar bach?"
"Dim ond mynd i'r cae maip acw i ymlid y brain i ffwrdd. Y cwbl sydd eisiau i ti wneud ydi sefyll yng nghanol y rhesi maip ac ysgwyd dy freichiau. phan glywi di'r corn cinio tyrd i'r tŷ i fyta efo'r gweision, ac mi gei chwecheiniog y dydd am dy waith."
"O'r gorau," ebe Twm Pirs.
Aeth i'r cae, ac yr oedd yr olwg arno yn ddigon i ddychryn y brain. Yr oeddynt yn gyfarwydd â "bwgan," ond ysgydwai hwn ei freichiau, a medrai droi ei ben i edrych arnynt. Ond yr oedd y bore yn desog a mwll, a daeth rhyw drymder i lethu Twm Pirs. Methai â chadw ei lygaid yn agored, ac yn raddol a diarwybod iddo'i hun syrthiodd i'r llawr, a gorweddodd rhwng y rhesi maip. Aeth yr oriau heibio; canodd y corn cinio," ond nid oedd hanes am Twm. Aeth John Llwyd i olwg y cae maip; gwelai'r brain wedi disgyn yn gatrodau duon, ac yn difa'r cnwd.
Ple'r oedd Twm, tybed? Dichon iddo flino ar ei swydd, ac ymado i rywle arall. Dychwelodd John Llwyd i'r tŷ. Cymerodd y gwn ar ei ysgwydd, a chyfeiriodd dan gysgod y clawdd i ymyl y cae. Taniodd ergyd. Cododd y brain ar eu hedyn. Deffrodd Twm o'i drwmgwsg, a chododd ar ei eistedd.
Dyna ergyd arall! Chwalai'r mwg glas uwchben y llecyn yr oedd Twm wedi dihuno ynddo, a chredai yntau ei fod wedi ei glwyfo yn farwol. "Yr ydw'i wedi fy saethu'n gelain," meddai, a disgynnodd yn ddiymadferth rhwng y rhesi maip. Gorfu i John Llwyd fynd yno i'w godi, a gwaith mawr oedd ei berswadio y gallai gerdded cam.
Methiant oedd Twm Pirs ym mhob cylch o fywyd. Methiant fu fel "hogyn gyrru'r wedd" oes, a methiant fu fel "bwgan brain."