Neidio i'r cynnwys

Pentre'r Plant/Y Tlws Arian

Oddi ar Wicidestun
Nadolig y Pentre Pentre'r Plant

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Yr Athro Newydd

PENNOD XIII.
"Y TLWS ARIAN."

'NGHLENNIG I!--dyna'r ymadrodd atseiniai trwy bentre Llanaber ar ddydd cynta'r flwyddyn newydd. Nid oedd neb yn rhy hên na rhy falch i weiddi "Calennig," a'r cyntaf i weiddi ar ei gymydog a hawliai'r wobr. Ni fwynhâi pawb mo'r oruchwyliaeth honno, mwy nag unrhyw oruchwyliaeth arall sydd yn tybied rhoddi yn hytrach na derbyn. Eithriadau oedd y bobl hynny, ond gwyddai'r plant amdanynt, ac aent o'r tu arall heibio. Dyna ddedfryd y plant, mynd heibio'r drws, heb weiddi "Nghalennig i," a dywedai hynny gryn lawer am nodwedd y preswylwyr.

Ond yr oedd gweithdy Sadrac Jones yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar fore dydd Calan. Nid un neu ddau fyddai'n gweiddi, ond torf o blant, â'u lleisiau'n diaspedain tros y fro. Cymerai'r "Calennig" wahanol ffurfiau. Cacennau a melysion a geid yn y rhan fwyaf o'r tai. Ond meddyliai Sadrac Jones yn wahanol.

"Yr ydach chi wedi cael digon i'w fwyta yn ystod y Gwyliau," ebr ef, pan anerchai'r gynulleidfa fywiog oddi ar garreg y drws. "Ni ŵyr neb ohonoch am eisiau bwyd, a ŵyr?"

"Na ŵyr, Sadrac Jones."

"Y perigl ydyw fod rhai ohonoch wedi bwyta gormod. Ond cofiwch hyn,—os ydych am fod yn blant da, rhaid i chi ymroi ati i ddysgu, dysgu darllen a dysgu meddwl. A dyna ydw i am roi yn 'Galennig' i chwi, nid 'teisen' nac 'India-roc,' ond llyfr newydd. Dyma fo. A wnewch chi addo ei ddarllen a'i gadw'n lân?"

"Gwnawn."

"Codwch eich llaw. John Puw, wnei di gyfri'r dwylo?" (John yn gwneud).

"Deg ar hugain, Sadrac Jones."

O'r gorau. Ddaru ti dy gyfri dy hun?" "Naddo, mi anghofiais."

"Well i ti wneud. Faint ydi'r rhif yn awr?" "Un ar ddeg ar hugain."

Ie, ond rhag i ti fod yn odd number, mi alwaf ar Nansi Owen."

"Fuasech chwi yn leicio cael llyfr yn bresant, Nansi Owen?"

"Mae'n dibynnu sut lyfr fydd o, Sadrac Jones."

"Wel, ei enw ydi'r Tlws Arian, gan Tegidon."[1] "

"Rhoswch am funud, Sadrac Jones. Onid y fo a wnaeth y gân gampus honno, 'Hên Feibil Mawr fy Mam'? Mi glywais hên bregethwr o Sir Fôn—yr ydw i'n meddwl mai Owen Rolant oedd ei enw—yn canu 'Hên Feibil Mawr fy Mam' ar ddiwedd yr oedfa nes oedd pawb yn crio'n hidl. Beth ydi enw'r bardd, Sadrac Jones?"

"Tegidon—un wedi ei fagu ar ymyl Llyn Tegid."

"Felly'n wir. 'D oes dim byd sal wedi dwad o'r Bala, er bod ambell i stiwdent digon tila yn dwad yma ar y Sul. Ond y mae Doctor Edwards yn medru rhoi rhywbeth ynddyn' nhw, os caiff o chware teg."

Wedi hynny estynnodd Sadrac Jones gopi newydd spon danlli o'r Tlws Arian, yn gyntaf oll i Nansi Owen, ac yna i'r bechgyn o gwmpas y drws. A "chalennig" i'w gofio ydoedd hwnnw. Yr oedd ei enw'n dlws, a'i gynnwys yn dlws i gyd. Enillodd un neu ddau o'r bechgyn hynny "arian-dlws " mewn cystadleuaeth ar ol hynny. Ond annwyl yn eu golwg ydyw y Tlws Arian a dderbyniwyd o law Sadrac Jones ar drothwy blwyddyn sydd wedi ymado i'r distaw dir. Y mae'r Tlws Arian yn aros ymhlith llyfrau Cymru. Fe ddichon bod rhywrai yn ei gyfrif yn "hen ffasiwn" erbyn heddiw. Ond, yn sicr, y mae bendith ynddo i blant oes newydd na ŵyr nemawr am Degidon ac eraill o awduron hawddgar y ganrif a fu. **** Ond heblaw'r Tlws Arian, y mae peth arall sydd wedi peri i'r flwyddyn honno gadw ei gwyrddlesni ar lenni atgof. Buasai brwydr addysg yn bwnc y dydd yn Llanaber—yr ymrysonfa galed rhwng yr hên a'r newydd. Yn y gorffennol cedwid math o ysgol ddydd mewn ystafell berthynol i'r capel. Gweinidog oedd yr athro, a chyfunai ef wahanol orchwylion, megis pregethu, ffarmio a chadw ysgol. Yn yr adeg honno ni allai'r ysgol ddydd ei gadw ef. Cynhelid hi trwy roddion gwirfoddol, a rhoddion lled fychain oedd y rheiny ar y gorau. Ysgol ddigon cyffredin ydoedd, ysgol at "iws gwlad." Ond wedi'r frwydr, daeth tro ar fyd. Adeiladwyd ysgoldy yn y pentre, ac yr oedd eisiau "athro trwyddedig" i ofalu am addysg y plant. Daethai'r hên oruchwyliaeth i ben. Mawr y disgwyl am weled y "sgŵl newydd." Dywedid ei fod yn sgolor dan gamp, wedi bod yn y Coleg, ac yn gwybod popeth. Yr oedd cryn bryder ym meddyliau'r mamau a'r plant. Tybed yr arferai'r wialen? Un ffeind iawn oedd yr hên athro. Ni fyddai rhaid i un o'r plant ond cŵyno ei fod yn sâl, cai gennad i fynd adre ar ei union. A phan fyddai plentyn wedi anghofio'r home-lesson, byddai iddo fod ar neges dros ei fam yn esgusawd digonol. Ni orweithiai'r hên athro mo ymenyddiau'r plant, ond yr oedd ganddo ddawn arbennig i argraffu pethau ar eu cof. Beth am y dyn newydd? Tipyn yn geidwadol oedd pobl Llanaber gyda materion o'r fath. Yr oedd dieithrwch yn faen tramgwydd. Ond credai Sadrac Jones, fel arfer, mewn symud ymlaen gydag addysg a phopeth da. Ni fynnai ef ddychryn y plant, na chreu rhagfarn yn eu calonnau.

"Mi fyddwch wrth eich bodd," meddai, "efo'r athro newydd. Mae o wedi ei gymhwyso i gyfrannu addysg, ac arnoch chwi bydd y bai oni ddowch yn wybodus. Y mae bron yn amhosibl i un dyn fod yn ffarmwr ac yn ysgolfeistr. Buasai'n llawn mor hawdd i ddyn fod yn grydd ac yn deiliwr."

Nid oedd pawb mor selog dros addysg â Sadrac Jones. Oni ddaethai Hwn-a-Hwn ymlaen yn y byd heb gael ond "chwarter o ysgol."

Ond yr oedd y cyfnod newydd—fel llanw'r môr—yn dod i mewn, ac ar ei frig daeth yr athro newydd.


Nodiadau

[golygu]
  1. John Phillips (Tegidon 1810-1877), Y Tlws Arian, Wrecsam, Hughes a'i fab 1860