Pentre'r Plant/Y Torrwr Cerrig
| ← Yr Athro Newydd | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Dyddiau Prysur → |
PENNOD XV.
Y TORRWR CERRIG.
DEUAI rhai o blant yr ysgol o'r wlad, a hwy, fel rheol, fyddai y rhai cyntaf i gyrraedd yno yn y bore. Arferai plant y pentre redeg wedi i'r gloch ddechrau canu, ac o'r braidd y byddent yno cyn i'r drws gau. Ond cychwynnai bechgyn a genethod y wlad yn gynnar, disgwylient i'r gloch ganu. Ychydig fyddai'n trafaelu'r ffordd honno yn y bore, ac eithrio dydd ffair neu farchnad. Ond yr oedd yno un dyn yn yr un llecyn ar bob tywydd. Ni fyddai ei le byth yn wag. Ei enw oedd Mathew Dafis, a'i waith oedd "torri cerrig" ar y ffordd. Dyn bychan o gorff ydoedd; ag wyneb gwridgoch, a dau lygad siriol fel haul ar ddydd o haf. Eisteddai ar y pentwr cerrig gyda chlustog odano, a sgrîn ar ffurf cadair wellt uchel o'r tu cefn iddo i'w gysgodi rhag yr hin. Symudai'r "cysgod" yn ol y galw, i gyfarfod â chyfeiriad y gwynt a'r glaw. Clywid sŵn ei forthwyl o'r pellter, a'i ergydion yn amrywio, fel nodau mewn alaw—ysgafn a thrwm,—cyflym ac araf, bob yn ail. Ac felly hefyd y symudai'r twr cerrig. Wedi i un gyfran gael ei hollti, deuai pentwr arall i lanw ei lle.
Arferai'r plant sefyll i gael sgwrs fach â Mathew Dafis ar eu ffordd i'r ysgol. Ac un o'u cwestiynau cyntaf iddo fyddai :
"Beth ydyw hi o'r gloch? Ydan ni mewn pryd heddiw?"
Yr oedd clociau'r wlad yr adeg honno o flaen clociau'r pentre. Ni fyddai'r teulu yn gysurus eu meddwl oni byddai'r cloc rhyw awr "o flaen yr amser." A dywedai rhai o bobl Llanaber mai yr unig beth oedd ar y blaen yn y "wlad" oedd y cloc!
Ond gwyddai Mathew Dafis beth oedd hi ar y gloch. Yr oedd ganddo oriawr fawr yn ei logell, a honno wedi ei chydio wrth gadwyn o ledr, ac un pen iddi wedi ei sicrhau wrth fotwm ei wasgod. Ac wedi i'r plant amgylchu'r twr cerrig dodai'r morthwyl o'i law, a chydag arafwch tynnai'r watch fawr o'i logell, a dywedai'n bwyllog:
"Yr ydach chi yn reit saff am yr amser. Hanner awr wedi wyth,—newydd droi. Peth da ydi bod mewn pryd. Gwnewch eich gorau i ddysgu. 'Ches i ddim diwrnod o ysgol; 'd oedd dim byd felly yn y wlad yma pan oeddwn i yn hogyn."
Ond nid dyn anwybodus oedd Mathew Dafis. Ni wyddai gymaint am lyfrau a barddoniaeth â Sadrac Jones, ond gwyddai drwy sylwi a gwrando am bethau mewn Natur. Iddo ef, yn ystod boreau cynnar bywyd, y mae rhai o blant y cyfnod hwnnw'n ddyledus am wybod enwau adar a blodau, a gwybod am y bywyd rhyfedd a lecha mewn clawdd a llŵyn.
Bychan oedd ei gylch a chyffredin oedd ei orchwyl. Ond yr oedd mor siriol â'r gwanwyn, ac mor gyson yn ei orchwyl â goleuni'r dydd. Dyn y gweithdy oedd Sadrac Jones: dyn yr awyr agored oedd Mathew Dafis. Mainc y crydd oedd gorsedd y naill; twr cerrig oedd gorsedd y llall.
Bwthyn ar fin y ffordd oedd ei gartref â gardd fechan o flaen y tŷ. Yno tyfai'r blodau yn eu tymor, â gwrych o "bren bocs" o gwmpas y lle. Ac yr oedd y gwrych hwnnw yn gampwaith llaw a gwellaif. Yr oedd un ran ohono ar ffurf clochdy a "cheiliog gwynt" ar ei ben! Ni symudai'r ceiliog ddim. Ni allai. Pren bocs oedd ei ddeunydd. Ond troai pawb a ai heibio i edrych arno, a rhyfeddent at fedr y perchennog.
Trin y cerrig oedd ei orchwyl: trin yr ardd oedd ei bleser. Ond yr oedd mwy o ddelw'r ardd a'r blodau ar ei fywyd nag o ddelw'r cerrig a dorrai ar fin y ffordd. Gwyddai sut i hollti'r garreg, ac yr oedd celf yn ei ddull o ddefnyddio ei forthwyl. Awyddai ambell hogyn ysgol am " dreio ei law."
"Gaf i gynnyg torri'r cerrig yma, Mathew Dafis?"
'Cei, machgen i. Mi gaf innau gymryd fy anadl am funud neu ddau."
Ond methu y byddai'r bachgen er taro'n drwm. Ni ildiai'r mo'r garreg ddim.
"Nid yn y taro y mae'r dirgelwch," ebr Mathew Dafis. "Y mae eisiau dallt sut, a lle i daro, a rhaid iti ddysgu peth felly. Ond gwell i ti ddysgu dy wers yn yr ysgol, ac yna mi gei rywbeth gwell i'w wneud na thorri cerrig."
"Fuo chi'n hir yn dysgu eich gwaith, Mathew Dafis?"
"Wel, a deud y gwir, dysgu yr ydw i o hyd. Ar y dechrau mi fyddwn yn taro'n rhy drwm, ac yn torri coes y morthwyl wrth dreio torri'r garreg. Ond mi ddois i ddallt bob yn dipyn mai nid nerth braich ac ysgwydd ydi popeth. Weli di'r garreg yma? Daswn i yn ei gosod fel hyn, ni thorrai o gwbl. Ond wedi ei throi fel yma " (cnoc, a dyna'r garreg yn hollti'n llyfn a hwylus).
Fel yna y byddai Mathew Dafis yn diddori'r plant ac yn dysgu iddynt wersi syml, a ddaeth i feddu ystyr a gwerth gyda phethau eraill yn y blynyddoedd oedd i ddilyn.
Rywdro, wedi i ni droi allan i'r byd, gwelsom lyfr yn dwyn y pennawd—"The Art of Doing Things." Y mae celf ym mhob gorchwyl, a gellir troi'r gwaith symlaf yn fine art. Ond, erbyn meddwl, nid oedd cynnwys y llyfr hwnnw yn ddim amgen na gwedd arall ar y gwersi a gawsem gynt gan y torrwr cerrig ar fin y ffordd. Ac iddo ef a'i ddiwydrwydd syml yr oedd gwladwyr plwy Llanaber yn ddyledus am fod iddynt "ffordd dda " i'w thramwy yn feunyddiol. Mathew Dafis oedd road-mender ei fro, ac yr oedd ei orchwyl mor bwysig a'r eiddo'r athro ysgol, neu'r meddyg a ai heibio yn ei gerbyd i ofalu am y cleifion.
Y mae'r "torrwr cerrig" wedi ymado ers llawer dydd, a gwag yw'r bwthyn ar ymyl y ffordd. Ond pan yn ymweld â'r hên fro, ambell hirddydd haf, safwn ar y drofa, a dychmygwn glywed sŵn y morthwyl megis cynt!