Pentre'r Plant/Yr Athro Newydd
| ← Y Tlws Arian | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Torrwr Cerrig → |
PENNOD XIV.
YR ATHRO NEWYDD.
DIWRNOD i'w gofio'n hir oedd diwrnod agor yr Ysgoldy newydd yn Llanaber. Adeiladwyd hi ar fin y ffordd mewn lle cyfleus i blant y pentre a'r wlad oddiamgylch. Dichon na chyfrifid hi'n ddim amgen nag adeilad hen ffasiwn erbyn heddiw, ond i'r sawl a'i gwelodd yn y dyddiau gynt ymddangosai'n rhywbeth newydd ar y ddaear. Dyna'r peth mwyaf newydd yn Llanaber y pryd hwnnw. Yr oedd iddi ddau borth, un ar gyfer y bechgyn a'r llall ar gyfer y genethod. Yr oedd meinciau'n rhesi ar y naill ochr a'r llall i'r adeilad oddi mewn, "lle tân" yn y canol, a desg uchel, lle y safai'r athro i alw'r enwau ac i gadw trefn. Nid oedd cadw trefn yn waith anodd ar y dechrau. Yr oedd yr athro yn newydd ac yn ddieithr, a theimlai'r plant raddau o ofn yn ei ŵydd.
Yr oedd Sadrac Jones wedi bod yn paratoi'r ffordd yn ein meddyliau ar gyfer ei ddyfodiad.
"Mi gewch chware teg, 'rwan, i ddwad ymlaen efo'ch addysg, a chofiwch chi fynd i'r ysgol yn gyson, a mynd mewn pryd, ac nid 'loetran' fel y byddai rhai ohonoch gyda'r hên athro."
"Ydach chi yn 'nabod y' scŵl' newydd, Sadrac Jones?"
'Scŵl newydd' wir. Pwy fu yn dysgu i chwi siarad fel yna? Rhaid i chwi beidio ag arfer geiriau o'r fath. Athro ydyw Mr. Powel, a gŵr bonheddig yng ngwir ystyr y gair. Cofiwch ei barchu, a bod yn ufudd."
"Ydi o yn ddyn ffeind, Sadrac Jones?"
'Dibynna hynny ar sut y byddwch chi'n ymddwyn, a gwneud eich gwaith. Chewch chi ddim hel esgusodion fel y byddai rhai ohonoch efo'r hên athro. Y mae Mr. Powel yn ddyn o ddifri, ond y mae yn sicr o ofalu y cewch chi bob chware teg."
Yr oedd yn eithaf amlwg fod Sadrac Jones yn meddwl yn fawr o'r athro newydd, a chan fod bechgyn y pentre yn meddwl mai Sadrac Jones oedd y dyn clyfra'n y wlad, fe fu hynny yn gryn fantais i Mr. Powel, er na wyddai ef ddim am y peth ar y pryd. Ond daeth i wybod yng nghwrs amser. Nid oedd plant Llanaber a'r cylch yn ddim gwell na phlant rhyw bentre arall, a buasai rhai ohonynt yn lled hy ar yr hên athro; parasant boen iddo lawer adeg, a dylasent gael eu ceryddu am y peth.
Ond daeth y rheiny i ddeall yn bur fuan nad gŵr i gellwair ag ef oedd yr athro newydd. Yr oedd rhywbeth yn ei edrychiad a barai i'r bechgyn fethu â bod yn ddibris ac yn afreolus. Gwelai i gyrrau pella'r ysgol, a chlywai'r ysmic lleiaf. Nid oedd yn bosibl ei dwyllo gyda dim. Ond pan wnaethai bachgen neu lodes ei orau, deuai gwen i wyneb yr athro, a rhyfedd y gwahaniaeth pan fyddai'n gwenu. Daethom i ddeall bob yn dipyn mai rhywbeth go fawr oedd ennill gwen yr athro. Nid arferai "wialen" na "chansen" i geryddu'r plant. Pan droseddai rhywun gofynnai iddo "aros ar ol," a siaradai ag ef yn bersonol. Ac i'r sawl a gofia'r munudau hynny—dim ond yr athro ag un o'r plant—ni raid dweud y buasai'n well gan rai ohonom gael curfa lled dost, na mynd trwy'r oruchwyliaeth honno drachefn.
Ond bu'r peth yn fendith i aml un, a daethom i wybod bod yr athro'n caru ein lles, ac yn awyddus am i ni droi ein cyfle i'r amcan gorau. Ni fyddem yn ail-adrodd yr hyn a ddywedai'r athro wrthym ar ein pennau'n hunain. Ac erbyn heddiw y mae'r atgofion yn rhy gysegredig i ni godi'r llen oddiarnynt, dim ond crybwyll y ffaith.
Ond efallai mai'r peth mwyaf boddhaol i ni yn yr athro newydd oedd ei fod ef, fel ninnau, yn "ffrindiau" i Sadrac Jones. Galwai yn y gweithdy wrth fynd i'w lety yn y ffermdy ar ben y bryn. Galwem ninnau ym min yr hwyr.
"Oes rhywbeth newydd ar y sgrin, Sadrac Jones?"
"Ydach chwi wedi gorffen eich tasgau ar gyfer yfory? Onid ydych, chewch chi ddim ymyrryd â'r sgrîn. Dysgu ydi'r peth cynta ac adloniant wedyn."
"Ydi Mr. Powel wedi gweld y sgrin, Sadrac Jones?"
"Ydi, ac y mae rhai englynion o'i waith wedi eu 'pastio' arni ers tro. Yr oedd hynny cyn i mi wybod amdano fel ysgolfeistr—dim ond fel bardd."
"Oes gyno fo ffugenw?"
"Nac oes. Y mae'n bodloni ar ddwy lythyren'J.P.'"
"Ydi o yn fardd da, Sadrac Jones?"
Campus. Mae o'n dallt y ' mesurau caethion,' ac wedi ennill gwobr am awdl mewn Eisteddfod."
"Beth ydi awdl?" ebem ninnau.
"Fedra i ddim sbonio'r peth i chi heddiw. Ond y mae'n rhaid cael bardd mawr i fedru gwneud awdl.
'Does neb yn y plwy yma yn gwybod beth ydi awdl heblaw Mr. Powel."
Ond ni soniai'r athro ddim am bethau felly gyda ni yn yr ysgol. Rhoddai ei holl sylw i'r gwersi, ac yr oedd i bob dydd ei wersi arbennig. Ysgolfeistr oedd Mr. Powel yn ystod y dydd a dim arall. Ym misoedd y gaeaf arhosai yn yr ysgol wedi i'r plant fynd adref. Ac wedi iddi nosi tynnai'r llenni i lawr a goleuai'r lamp. Gwelid y golau yn y ffenestri. Sut na fuasai'n mynd i'w lety? Nid oedd Sadrac Jones yn barod i esbonio'r dirgelwch.
"Y mae'n debyg ei fod yn cael mwy o heddwch i ddarllen ac astudio yn yr ysgoldy," oedd ei ateb.
Ond ryw noson, o gywreinrwydd, aeth dau ohonom yn ddistaw i iard yr ysgol, ac yr oedd mymryn o'r blind ar un ffenestr heb ei ollwng i lawr i'r gwaelod. Ac wedi inni ddringo i ben y wal, gwelem i mewn i'r ysgoldy. Ac yno yr oedd Mr. Powel, ond yn ddyn gwahanol iawn i'r hyn fyddai'n arfer bod yn ystod y dydd. Cerddai yn gyflym yn ol a blaen. Tynnai ei fysedd trwy ei wallt, ac yr oedd rhyw dân yn ei lygaid. Wedi bod felly am ysbaid safai wrth y ddesg, a dechreuai ysgrifennu. Ac yna cerddai yn ol a blaen, â darn o bapur yn ei law. Beth oedd yn ei wneud?
Aethom adre heb wybod. Ond yr oedd Sadrac Jones yn gwybod.
"Peidiwch a dweud gair wrth neb," meddai, "ond y mae'n debyg mai yr awen sydd wedi disgyn arno, a'i fod yn cyfansoddi awdl newydd."