Pentre'r Plant/Yr Esgid a'r Gân
| ← Y Samaritan | Pentre'r Plant gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Nadolig y Pentre → |
PENNOD XI.
YR ESGID A'R GAN.
YR oedd Sadrac Jones wedi cyflogi gweithiwr. Buasai'r peth yn ei feddwl lawer tro, yn enwedig ar adeg brysur yn ei hanes. Ond gohirio'r drafodaeth fyddai'r diwedd. Nid hawdd oedd ganddo wneud cyfnewidiad yn ei ddull o fyw. Ond, fel rheol, digwydd pethau o'r fath yn sydyn ac annisgwyliadwy. Yr oedd Sadrac Jones yn brysurach nag arfer. Y mae'n debyg i'w gymwynas garedig i Twm Pirs yn ei waeledd effeithio'n ddistaw ar bobl yr ardal. Gwyddai pawb ddarfod iddo aberthu llawer mewn amser a chysuron i gynorthwyo'r truan a'r anghenus. Fodd bynnag, yr oedd y llanw yn troi o'i du, a chwsmeriaid newydd yn dod ato yn feunyddiol. Ac eto ni chymellai Nansi Owen ef, yn ol ei harfer, i geisio gweithiwr. Fe ddichon ei bod hi wedi blino ar y gorchwyl, gan deimlo bod y "bregeth" yn hollol aflwyddiannus. Ond, ryw fore, daeth dyn dieithr at ddrws y gweithdy, a gofynnodd am waith.
"Dowch i mewn," ebe Sadrac Jones. "A ydych yn gyfarwydd â gwaith crydd gwlad?"
"Ydwyf," ebe'r dyn. "Yr wyf wedi gweithio'r grefft mewn gwlad a thre, ac yn gwybod y gwaith sydd yn eisiau mewn ardal wledig fel hon."
Faint o gyflog ydych yn ei ofyn?"
"Cewch chwi benderfynu hwnnw," ebe'r dyn, "yn ol gwerth y gwaith. Yr unig beth wyf yn awyddus i'w gael ydyw ymborth a llety, a thipyn o hamdden gyda'r nos."
"Yr wyf innau yn hoffi hamdden," ebe Sadrac Jones, "ond yn methu â'i gael. Gorfod bod wrthi yn hwyr yn fynych; ond, os gallwn gytuno ar delerau, dichon y bydd yn haws cadw oriau mwy rhesymol."
"Felly y gweddai i bethau fod," ebe'r dyn. "Ni ddylai un crefftwr fod yn gaethwas i'w orchwyl, beth bynnag a fo; y mae eisiau hamdden i ddarllen a meddwl, a gweld natur yn ei hamrywiaeth a'i golygfeydd."
Edrychodd Sadrac Jones ar y dyn. Mynegai'r hyn a deimlai ef ei hun. Hawdd i enaid dyn gael ei grebachu ym myd y pethau a berthyn i "fara beunyddiol," a cholli golwg ar y byd ehangach—byd gweledigaethau diddarfod.
"Pryd y gellwch fod yn barod i ddechre ar y gwaith?" ebe Sadrac Jones.
"Y funud hon," ebe'r dyn.
Tynnodd ei got, a chymerodd ffedog ledr o'r ysgrepan a ddodasai ar lawr y gweithdy.
"A wnewch chwi orffen yr esgid yma?" ebe Sadrac Jones, "ac af innau i'r tŷ i drefnu pethau gyda Nansi Owen." Troes yn ol wedi cyrraedd y drws,—"Esgusodwch fi am ofyn,—beth yw eich enw?"
"Edward James. A oes arnoch eisiau gwybod rhagor?"
"Dim byd," ebe Sadrac Jones.
Yr oedd Nansi Owen yn eithaf balch ei fod wedi cyflogi gweithiwr. Dylasai fod wedi gwneud hynny ers talwm. Ond onid gwell fuasai cael rhywun yr oedd yn ei adnabod? Yr oedd eisiau bod yn ofalus, a'r dyn yn hollol ddieithr.
"Y mae hynny'n wir," ebe Sadrac Jones; "ond y mae rhywbeth yn dweud wrthyf mai Rhagluniaeth a'i gyrrodd o yma.
"Gobeithio eich bod yn dyfalu'n gywir," ebe Nansi Owen.
Profodd Edward James ei fod yn weithiwr cyflym a chelfydd. A rhoddai ei ymddygiad yn y tŷ fodlonrwydd mawr i Nansi Owen. Yr oedd mor syml a dirodres. Ni pharai na thrafferth na blinder. A phan ymgomiai gyda Sadrac Jones wrth y tân gyda'r nos, edrychai Nansi Owen arno dros ei hysgwydd, a meddyliai am y bachgen a aethai i ffwrdd ers llawer dydd. Mae'n wir nad oedd yn debyg iddo o ran pryd a gwedd. Gwallt golau oedd gan Lewis gwallt du, cyrliog, oedd gan Edward James. Ond parai'r olwg arno wrth y tân iddi freuddwydio breuddwydion,—anfarwol ydyw cariad mam!
Yn ei dro, siaradai Sadrac Jones am feirdd a barddoniaeth. Rhyfeddai braidd na sylwasai Edward James ar y "sgrîn" yn y gweithdy, er nad oedd wedi ei chyffwrdd ei hun yn ddiweddar, am fod y gwaith" yn llanw ei amser o fore hyd nos. Ond, yn ddiarwybod iddo ef, sylwasai Edward James ar y cynhyrchion " barddonol a orchuddiai'r "sgrin," a dichon iddo wenu 'n ddistaw, wrtho ei hun. Onid oedd darnau barddonol o'i waith ef wedi eu pastio'n ofalus ar y "sgrîn"? Ychydig a wyddai ef am Lanaber pan anfonai hwynt i'r wasg. A llai fyth y gwyddai am berchen y "sgrîn." Cadwodd y "gyfrinach" am gryn amser. Nid oedd ef, megis y mae arfer rhai, yn orawyddus am hysbysu eraill am ei orchestion" awenyddol. Ni soniai beunydd am ddrychfeddyliau," ac ni synnai'r anghyfarwydd â geiriau swnfawr, megis "crebwyll darfelydd."
Gallai ymddiddan am feirdd a barddoniaeth fel dyn cyffredin, heb fradychu ei hunan-bwysigrwydd. Nid oedd Sadrac Jones wedi meddwl bod ei "weithiwr " yn fardd "wrth fraint a defawd." Ond daeth i wybod ar ddamwain. Rhyw "ddarganfyddiad " oedd hynny yn fwy na dim arall.
Crybwyllasom mewn pennod flaenorol mai newyddiadur dewisol Sadrac Jones ydoedd Utgorn y Bobl. Darllennai ef bob gair, ond ei flasusfwyd ynddo oedd y "Golofn Farddol."
Ryw fin nos eisteddai Sadrac Jones yn ei gadair i ddarllen Utgorn y Bobl. Aethai Edward James, yn ol ei arfer, am dro i'r ffriddoedd, gan ddilyn llwybrau'r defaid i froydd y rhedyn a'r grug. Wedi bwrw golwg ar "newyddion yr wythnos" a'r "erthygl arweiniol," daeth Sadrac Jones at y "Golofn Farddol." Disgynnodd ei olygon ar ddernyn disgrifiadol—"Hen Felin Llanaber," a hoffodd ef yn fawr. Gwyddai am y lle er yn fachgen, ac yr oedd y darlun awenyddol yn dyner ac yn dlws.
Ar waelod y dernyn yr oedd yr enw "Idwal Ddu." Gollygodd y newyddiadur ar y bwrdd. "Idwal Ddu!" onid oedd darnau o'i waith ar y "sgrîn"? Aeth i'w chyrchu o'r gweithdy i'r gegin. Darllennodd amryw o ganeuon "Idwal Ddu" wrth olau'r gannwyll. Ond anfonesid y rheiny o rannau eraill o Gymru. A oedd mwy nag un "Llanaber"? Ond, a chaniatau hynny, beth am yr "Hen Felin"? Rhaid fod yr awdur wedi gweld honno; pe amgen, ni allasai ei disgrifio mor gywir. Pwy oedd "Idwal Ddu"? Tra y synfyfyriai ar y peth dychwelodd Edward James, wedi mwynhau ei daith yng nghwmni awel y nos.
"Wnewch chwi ddarllen y gân yma yn yr Utgorn?" ebe Sadrac Jones. "Yr wyf fi wedi cael hyfrydwch mawr gyda hi. Ni welais ddim erioed o'r blaen ar y testun."
Cymerodd Edward James y papur yn ei law, a dechreuodd ddarllen—nid fel un yn gwneud hynny ar yr olwg gyntaf. Yn wir, nid darllen y gân yr oedd, ond ei hadrodd, a chyn iddo orffen gwyddai Sadrac Jones mai ef oedd "Idwal Ddu." **** Ni fu ei arhosiad yn hir yn Llanaber. Cyffesodd mai pererin ydoedd, yn tramwy o'r naill dreflan i un arall, ac yn gweithio'i grefft i dalu ei ffordd. Ond yr oedd wedi arfaethu ysgrifennu llyfr o ganeuon a darnau disgrifiadol—"Cymru trwy lygad Bardd." Ac i'r amcan hwnnw teithiai'r wlad er mwyn dod i gyffyrddiad personol â'i hynafiaethau, ei phentrefi a'i golygfeydd.
Aeth llawer blwyddyn heibio er yr adeg y bu "Idwal Ddu" yn gweithio gyda Sadrac Jones. Ni thybiwn gyhoeddi'r "gyfrol" lafurfawr hyd y dydd hwn. A aeth y llafur hwnnw yn ofer? Fe ddichon y daw rhyw lengarwr o ddylanwad ar ei thraws ryw dro, ac y daw allan fel un o drysorau coll y dyddiau fu—"Cymru trwy lygad Bardd," gan Idwal Ddu.