Pentre'r Plant (testun cyfansawdd)
| ← | Pentre'r Plant (testun cyfansawdd) gan Robert David Rowland (Anthropos) |
→ |
| I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Pentre'r Plant |


"Y LLE BUM YN GWARE GYNT."
PENTRE'R PLANT:
ATGOFION BORE BYWYD.
GAN
ANTHROPOS.

CAERNARFON:
Cyhoeddedig yn Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd.
Rhagair.
CYN gollwng y stori seml hon o'm llaw, dymunaf gydnabod fy nyled i'r Golygydd Cyffredinol—y Parch. John Owen, M.A.—a chyflwyno iddo fy niolch puraf am ei gynorthwy gwerthfawr gyda'r orgraff a'r gystrawen i ateb gofynion y cyfnod presennol.
Diolchaf hefyd i'r Pwyllgor am ei hynawsedd a'i barodrwydd i gyhoeddi fy llyfr, gan hyderu y caiff dderbyniad mor garedig ag a roddwyd i'w ragflaenydd—Y PENTRE GWYN.
Cyflwynir ef i blant yr oes newydd,
Gyda serch,
YR AWDUR.
Cynnwys
Ar y Rhiniog
Y Gweithdy
Dull o Gerdded
Hanes y Sgrin
Ffair Glamai
Nansi Owen
Beth sydd mewn Enw?
Hela'r Llwynog
Y Crwydryn
Y Samaritan
Yr Esgid a'r Gân
Nadolig y Pentre
Y Tlws Arian
Yr Athro Newydd
Y Torrwr Cerrig
Dyddiau Prysur
Ar Drothwy'r Haf
Pentre'r Plant
Ymwelwyr
Y Plismon
Dyfais y Meddyg
Y Gŵr Diarth
Y Caban Coed
Y Neuadd Newydd
Wedi llawer blwyddyn
Pentre'r Plant
Atgofion Bore Bywyd
PENNOD I.
AR Y RHINIOG.
"BORE da, Sadrac Jones. Y mae mistar yn gofyn a wnewch chwi drwsio'r sgidia yma erbyn nos Wener. Y mae arno eisiau mynd i'r farchnad ddydd Sadwrn i werthu'r perchyll."
"Hym! Trwsio o hyd! Ydi dy fistar yn meddwl bod pâr o sgidia i bara am byth? Dyma nhw, rwan, pâr campus yn eu dydd a'u tymor. Ond yr ydw i wedi eu clemio a'u gwadnu nes y mae nhw'n ddolur llygad i mi ac i bawb arall. Dywed wrth dy fistar, Tom, fod yn hen bryd iddo fo gael pâr newydd spon. Y mae'n ddisgrâs i ddyn fel y fo fynd i na ffair na marchnad efo sgidia y dylse fo fod wedi eu troi heibio ers llawer dydd."
"Ond mi wnewch eu trwsio y tro yma, Sadrac Jones ?" "Mi wnaf fy ngorau, er na fedra i na neb arall wneud job daclus ar bethau mor sâl."
Dyna ddull Sadrac Jones. Nid oedd ond crefftwr syml ym mhentre Llanaber, ond yr oedd yn hollol onest a di-dderbyn-wyneb. Gwyddai "fesur troed" ei gwsmeriaid mewn mwy nag un ystyr, a gwnai hynny wahaniaeth yn ei ymddygiad. Pe deuai rhyw gymydog tlawd â phâr o esgidiau gwael i'w trwsio, ni fuasai Sadrac Jones yn eu "beirniadu" o gwbl. Ond pan anfonai pobl mewn amgylchiadau cysurus bethau o'r fath i'w weithdy, nid oedd "blewyn ar ei dafod." Atgofiai hwynt, ambell dro, mai crydd oedd ef—nid cobler.
Gwnaeth esgidiau dan gamp i wladwyr y fro ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd sôn amdanynt ymhell ac yn agos. Gallai dyn fentro ar unrhyw dywydd ac i unrhyw daith, os byddai wedi ei ddiogelu ag esgidiau o weithdy Sadrac Jones.
Dyn bychan o gorff ydoedd: wyneb crwn, gwelw; llygaid duon, treiddgar—weithiau yn llym, a phryd arall yn pelydru gan hiwmor a natur da. Pan fyddai ar ei eistedd wrth ei waith gallesid tybio ei fod yn sionc a hoyw, ond wedi iddo godi gwelid ei fod, fel Jacob, yn "gloff o'i glun." Nid oedd yn fusgrell. Gallai ymlwybro yn weddol gyflym, er bod
y cloffni yn peri bod yn hawdd i'r cyfarwydd adnabod ei gerddediad. Nid arferai gerdded llawer nac ymhell. Dyn lled gartrefol oedd Sadrac Jones. Anfynych y gwelid ef yn unman ond yn ei weithdy, ac yn yr addoldy ar y Sul. Ond er nad ai lawer i "fysg pobl," fel y dywedir, deuai llawer ato ef. Deuai rhai ar fusnes, ac eraill i wybod sut yr ai pethau ymlaen yn y byd mawr, "yn gyffredinol." Deallai Sadrac Jones bethau o'r fath a medrai eu hegluro yn huawdl.
Y pryd hwnnw, gellid dweud mai ei weithdy ef oedd y "Neuadd Bentrefol " yn Llanaber.
Yr oedd safle'r gweithdy hwnnw ar lethr yr allt sydd yn arwain dros y mynydd i Dre Wen. Codasid capel ar y llecyn, ac yr oedd ryw adeg, nifer o dai wedi eu hadeiladu ar fin y ffordd. Nid oedd y "capel" wedi llanw disgwyliadau y rhai gychwynnodd yr "achos" yn y lle, ac ymhen rhai blynyddoedd caewyd ef. Wedi hynny gwerthwyd ef, a throwyd ef yn dŷ annedd. Yr oedd y tŷ hwnnw yn ddwy adran: dwy ystafell neu dair ar lawr, ac un ystafell gyffredinol uwchben. Yn ystafelloedd y llawr yr oedd preswylfod a gweithdy Sadrac Jones, ac yn yr ystafell uwchben y cartrefai Nansi Owen, gwraig weddw mewn cwrs o oedran, yr hon a adwaenid gan ei chydnabod fel " Nansi Owen y Llofft." Hi ofalai am gysuron beunyddiol Sadrac Jones, a goginiai ei ymborth, ac a lanhai'r tŷ.
Yr oedd y gweithdy ar lecyn amlwg, a golygfa lled eang i'w gweled oddi ar riniog y drws. Oddi tanodd yr oedd pentre Llanaber, a thros bennau'r tai gwelid y caeau gleision, a'r llwyni coed ar y llechweddau draw.
Ond er teced yr olygfa oddi allan oddi mewn yr oedd gogoniant y gweithdy, a hynny a bair iddo aros yn nyfnderau atgofion plant y pentre wedi eu gwasgar a'u chwalu i "bedwar ban y byd."
PENNOD II.
Y GWEITHDY.
ADWAENID adeilad ar ymylon pentre Llanaber wrth yr enw "Hen Gapel," a'r adeilad hwnnw, wedi ei droi i bwrpas arall, oedd gweithdy Sadrac Jones. Ond, er y cyfnewid, ni ellid dweud bod y fangre wedi ei darostwng mewn un modd. Yr oedd y gweithdy hwnnw yn rhywbeth mwy na lle i wneud esgidiau a'u trwsio. Y rheswm am hynny ydoedd fod byd meddwl Sadrac Jones yn lletach o gryn lawer na'i alwedigaeth feunyddiol. Cymerai ddiddordeb mewn llyfrau, a'i bleser ydoedd hyfforddi eraill i werthfawrogi addysg a gwybodaeth. Pan ddeuai bachgen ar neges i'r gweithdy, byddai Sadrac Jones yn sicr o ddefnyddio'r cyfle i ddysgu rhywbeth iddo, a chaniatau bod hynny yn bosibl. Gallai helpu'r anwybodus, ond y mae dylni yn drech na'r duwiau, a bu ambell dro yn drech nag amynedd Sadrac Jones.
Ond cyn manylu ar bethau o'r fath, gwahoddwn y darllennydd am dro i'r gweithdy, fel yr oedd yn y dyddiau dedwydd gynt. Cyn dod at y rhiniog, clywch guriadau'r morthwyl ar y lapstone. Nid yw'r curo yn gwbl reolaidd, fel sŵn cloch y llan. Mae'n debyg fod gweithrediadau meddwl Sadrac Jones yn effeithio ar waith ei ddwylaw.
Chwi a welwch y ffenestr acw sydd yn wynebu'r ffordd ffenestr fawr, lydan, fel yr oedd yng nghyfnod yr addoldy. Erys honno fel cynt. Yng ngweithdy'r crydd y mae'r ffenestr orau yn y pentre, a'r wlad o ran hynny. Mae'n debyg fod yna flodau amryliw ar silff y ffenestr. Ac os yw yn dywydd braf, siawns nad ydyw cath Nansi Owen y Llofft yn cymryd arni gysgu yn yr haul.
Ond dyna Dafydd Wyn y Ffridd yn mynd i mewn—hen ffrind i Sadrac Jones, ac un sydd wedi arfer dadlau llawer ag ef, yn enwedig ar bynciau ysgrythyrol. Gadewch i ni wrando'r ymgom.
"Bore da, Sadrac Jones.
A ydych yn brysur heddiw ?"
"Dim yn fwy felly nag arfer. Y mae rhywbeth i'w wneud bob dydd, ond tra bo iechyd a nerth ni ddylai neb gwyno. Dyna ddeddf fawr bywyd, fel y dywed y Salmydd, Dyn a â allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr.'
"Ie, fel y mae pethau'n bod; ond prin y mae'r adnod yna yn ffitio'ch galwedigaeth chwi, Sadrac Jones."
"Sut hynny?"
"Wel, a siarad yn fanwl, nid ewch chwi allan at eich gwaith. Daw'r gwaith yma atoch chwi. Adnod i ffermwr fel fi ydyw honna: dyn yn mynd allan i'r meysydd i aredig a hau, edrych ar ol yr anifeiliaid, a gweithio yn y cynhaeaf."
"Dim o'r fath. Darlunia'r Salmydd bob gweithiwr gonest, pa un bynnag ai i mewn neu allan y byddo'n dilyn ei orchwyl."
'Ie, ie; ond sut yr esboniwch y darn cyntaf yn yr adnod?' Dyn a â allan.' Rhaid bod rhyw ystyr i'r geiriau."
"Oes, siwr. Y mae ystyr i bob adnod yn y Beibl. Ond nid pwnc o le yn unig ydyw. Gall dyn fynd allan heb gyflawni dim gwaith o gwbl. Dyn yn mynd allan ohono ei hun, er mwyn mynd i mewn i'w waith. Fel yna y dywed un esboniwr ar yr adnod."
Mynd i mewn i'w waith, aiê—Os felly, gellid dweud eich bod chwithau yn mynd i mewn i'r esgid sydd yn eich llaw."
"Dim o'r fath. Troed rhywun fydd yn mynd i mewn i hon un o'r dyddiau nesaf. Ond rhaid wrth feddwl i wneud esgid, mwy o feddwl nag a dybia rhai pobl."
"'Does neb yn ei bwyll yn amau hynny amdanoch chwi, Sadrac Jones. Ond gan eich bod wedi cyfeirio at yr adnod yn y Salmau hwyrach y medrwch roi goleuni ar bwnc arall. Sonia'r Beibl am wahanol grefftau: crefft y gof, y saer, a'r eurych; ond yn rhyfedd, nid oes gair amdanoch chwi, y cryddion."
"Tybed? Ddaru mi ddim meddwl am y peth fel yna o'r blaen. Ond, dyma'r Concordance—gwaith Peter Williams,—gadewch i ni weld, rwan. . . . Na, wir, dydi'r gair ddim yma o gwbl. Ond onid enwir y crydd yn y Beibl, y mae yna gyfeiriadau lawer at ei waith. Yr oedd esgidiau yn amser Abram, a rhaid bod cryddion yr adeg honno. A dywed Paul wrth yr Ephesiaid am wisgo am eu traed "esgidiau paratoad efengyl tangnefedd."
"Pa fath esgidiau fyddwch chwi'n feddwl ydyw'r rheiny, Sadrac Jones?"
"Fedra i ddim dweud hyd sicrwydd. Ond cofiaf yr adnod bob tro y gwnaf esgidiau i'r Parch. John Williams, Llwyn Onn, i fynd ar daith bregethu i'r South. Gofalaf am roi'r lledr gorau a'r gwaith gorau, yn yr esgidiau hynny, bob amser. A daw'r 'hen weinidog yma wedi dod adref o'i daith i adrodd yr hanes :
"Gawsoch chwi amser lled gysurus, Mr. Williams ?"
"Hynod felly," ebr yntau. "Cefais dderbyniad caredig ym mhob man. Rhai felly ydyw cyfeillion y De, ond yr oedd amryw o'r hen ffrindiau a adwaenwn ers talwm wedi cadw noswyl."
"Fuoch chwi yn gysurus o ran eich iechyd ?"
"Rhagorol. Cefais dywydd oer a gwlyb, ambell dro, ond yr oedd fy nhraed yn sychion ac yn gynnes. Peth mawr i bregethwr ar daith ydyw cael esgidiau esmwyth, ac yn weather-proof."
"Rhywbeth fel yna fyddai'n feddwl ydyw esgidiau 'paratoad efengyl tangnefedd.'"
"Digon tebyg. A chwithau wedi eu gwneud nhw, ynte? Dyna fel y mae hi, Sadrac Jones, y mae pawb yn medru troi'r dŵr at ei felin ei hun.' Ond y mae'r hyn a ddywedwch am hen weinidog Llwyn Onn yn eithaf gwir. Yr unig beth sych yn ei hanes ef ydyw—nid ei bregeth—ond ei draed. Mi gymera inna bâr yr un fath, os gwelwch yn dda."
PENNOD III.
DULL O GERDDED.
DYWEDIR bod tuedd mewn dynion i farnu eraill o gyferiad eu galwedigaeth eu hunain. Barna'r dyn fo yn gwerthu hetiau ei gwsmer yn ol maintioli ei ben. Y mae pen mawr, yn ei olwg ef, yn arwydd o ddyn mawr. Yr un modd gyda'r teiliwr. Un o'i wirebau yntau ydyw,—"y dillad yw'r dyn." Dibynna safle gymdeithasol, i gryn raddau, ar y dillad. Rhaid gwisgo yn drwsiadus neu fodloni eistedd yn y "seddau cefn." Gwelsoch bobl y "seddau blaen—yn dod i mewn i'r cyngerdd mawreddog," onid do? Onid oedd eu gwisgoedd yn orwych?
Cwestiwn pwysig ym mywyd y dosbarth etholedig hwnnw ydyw, "A pha beth yr ymddilladwn?" Y mae bod allan o'r ffasiwn iddynt hwy yn drychineb na ellir ei mynegi.
Ac y mae'n briodol i ni addef y gogwyddai Sadrac Jones at y gred hon, ar rai adegau, ac y barnai ei gyd-ddynion o safle ei alwedigaeth ei hun. Y peth cyntaf a welai ef pan ai heibio i ddyn dieithr ar y ffordd fyddai ei esgidiau.
Os credai Carlyle, ac os dysgai yr hyn a alwai ef yn "athroniaeth dillad"—the philosophy of clothes—credai Sadrac Jones yn ddiysgog, yn ei ffordd ei hun, fod y fath beth ag "athroniaeth esgidiau." Ac yn y peth hwn, o leiaf, safai'n deg ar ei diriogaeth ei hun. Oni ddywed dihareb hynafol y dylai'r crydd "lynu wrth ei esgid"? Os ydyw yn grydd da y mae yn awdurdod ar honno, a dylai gadw at ei randir. Gŵr y traed ydyw ef, nid gŵr y fraich, na'r pen.
Ond torrai "athroniaeth" Sadrac Jones dros y terfynau gosodedig, a chynhwysai awgrymiadau am y sawl fyddai'n arfer gwisgo 'r esgidiau. Trinid hynny yn y gweithdy, ryw ddydd, pan anfonwyd pâr o esgidiau i'w trwsio a'u gwadnu, fel y dywedir yn iaith y grefft.
"Ddaru chwi sylwi ar y gwahaniaeth yn null pobl o gerdded? Dyma bâr o esgidiau a ddengys fod ei berchen yn arfer pwyso'n drwm ar y sawdl. Hwnnw sy'n gwisgo allan gyntaf. Dyma un arall yn dangos bod y gwisgwr yn cerdded ar flaen ei droed."
Beth sydd yn cyfri am hynny, Sadrac Jones?" "Anodd ydyw esbonio'r peth. Ond y mae'n sicr o fod yn ffaith, ac yn perthyn i hanes teuluoedd yn yr ardal yma. Gellid eu rhannu yn ddau ddosbarth—teulu'r sawdl, a theulu blaen y troed. Dyna eu hanes ar hyd y blynyddoedd."
"Oes yna rywbeth yn wahanol yn eu nodweddion—eu dull o feddwl a gweithredu?"
"Mi fyddaf yn meddwl felly, wedi sylwi am gryn amser ar y peth."
"Beth ydyw'r gwahaniaeth?"
"O, y mae mwy o fynd yn nheulu blaen y troed, a mwy o sefydlogrwydd yn nheulu'r sawdl. Ond y mae yna beth arall sydd wedi fy nharo, lawer adeg, pan yn trwsio esgid."
"Beth ydyw hwnnw?"
"Dim ond peth eithaf syml—ffrwyth fy mhrofiad fel crydd. Dyna ydyw mewn gair,—ychydig iawn o bobl sydd yn arfer cerdded yn wastad. Try'r rhan fwyaf i un ochr—y sawdl neu flaen y troed."
Wel, a chaniatau hynny, try'r peth yn fantais i chwi fel crydd. Onid ar gyfrif y diffygion yna—os dyna'r gair priodol—y cewch chwi gymaint o waith trwsio esgidiau?"
"Eithaf gwir. Ac erbyn meddwl, y mae'r un peth yn bod ym mhob cylch. Ni fuasai angen am blisman nac ustus heddwch pe cerddai pawb yn wastad."
"A ydych yn awgrymu y dylid cosbi pobl am beidio â gwisgo esgidiau yn wastad, Sadrac Jones?"
"Dim o'r fath. Rhyw duedd naturiol ydyw hynny. Ond mi fuasai'n dda gennyf pe gellid cael rhyw foddion i gosbi'r sawl a ddaw i'r addoldy ar y Sul, yn ddiweddar, fel rheol,—a'u hesgidiau'n gwichian, nes tynnu sylw pawb."
"Dichon mai dyna sydd mewn golwg ganddynt—tynnu sylw, fel y dywedwch. Ond, fyddwch chwi ddim yn arfer gwneud esgidiau'n gwichian. ?"
"Na fyddaf, byth. Ond pryn y lodesi hwy yn y dre, a meddyliant y byd ohonynt eu hunain os bydd yr esgid yn gwichian ar lawr y capel. Dyna ferch y Weirglodd Lydan wedi bod am dymor yn Lerpwl, ac yn cerdded i'r 'moddion' fel tase consertina wrth ei thraed."
"Ie, ond cafodd y ferch fach yna bâr arall o esgidiau, mae'n amlwg. Cerddai i'w sêt yn hollol suful a distaw y Sul diwedda."
"Beth a barodd hynny, tybed? Gafodd hi gerydd gan rai o'r blaenoriaid?"
"Naddo, hyd y gwyddom. Daeth y cyngor o le arall. Mae'r peth i raddau yn gyfrinach. Un o feirdd yr ardal—gellwch ddyfalu pwy ydyw—a anfonodd englyn iddi drwy'r post."
Englyn?" A ydych yn ei wybod?"
"Mi glywais yr awdur yn ei adrodd. Yr oedd yn debyg i hyn:—
Lodes y Weirglodd Lydan—rhag angof,
Cymer gyngor bychan:
Ar y Sul bydd suful, Siân,—
Gochel esgidiau'n gwichian.
"Campus. Dyna englyn wedi gwneud gwaith rhagorol, ac y mae hynny yn fwy nag ennill gwobr. Rhaid i chwi ei ysgrifennu, ac yna gosodir ef ar y 'sgrin.'"
PENNOD IV.
HANES Y SGRIN.
CYFEIRIWYD at y "sgrîn" ar ddiwedd y bennod flaenorol. Ond ar gyfrif ei gwasanaeth yn y dyddiau a fu temtir ni i adrodd ychydig yn rhagor amdani. Rhyw ystyllennau teneuon oedd ei deunydd, a'r rheiny wedi eu cyd-gysylltu yn y fath fodd fel y gellid eu cau a'u hagor yn ol yr angen ar y pryd. Defnyddid hi i lawer pwrpas. Defnyddid hi weithiau fel cysgodlen rhag yr haul pan dywynnai'n danbaid ar ffenestr y gweithdy. Dro arall, ac yn fwy mynych, gosodid hi rhwng y fainc a'r drws fel amddiffyniad rhag y draft.
Ond gwnai Sadrac Jones ddefnydd arall o'r "sgrin," a hwnnw sydd wedi peri iddi aros yn ein hatgofion. Y mae gan blant y dydd heddiw eu "sgrin," ar ar honno y gwelant hud a lledrith y "darluniau byw." Gwelsom ninnau bethau rhyfedd oddi ar y "sgrîn yng ngweithdy Sadrac Jones cyn bod sôn ar cinema a'r "pictiwrs" a synna ac a swyna blant a phobl yr ugeinfed ganrif.
Ni honnai Sadrac Jones ei fod yn fardd wrth "fraint a defod," ond yr oedd ganddo chwaeth a hoffter at farddoniaeth. Gallasai yntau ddweud fel y Parch. Thomas Hughes, Machynlleth, pan werthai'r "Garnedd Arian"—detholiad a wnaethai ef ei hun,—"Nid wyf fi fardd, na mab i fardd, ond y mae gen i daste. Oes, siwr, y mae gen i daste, ac yr wyf yn adnabod blas barddoniaeth." Yr un modd gyda Sadrac Jones. Yr oedd ganddo yntau daste. Adwaenai flas a cham-flas. Derbyniai'r newyddiaduron Cymraeg wythnosol a ledaenid yn y cyfnod hwnnw, a darllenai hwynt yn fanwl. Gwyddai am wleidyddiaeth, masnach, hanes crefydd, a digwyddiadau cymdeithasol.
Ond y mae gennym sail i dybied mai yr hyn a roddai fwyaf o adloniant i'w feddwl ydoedd y "Golofn Farddol," yn y papur poblogaidd a elwid Utgorn y Bobl. Yr oedd yr adran farddonol o dan ofal un o boetau mwyaf adnabyddus y genedl; ac yn iaith flodeuog y cyfnod hwnnw dywedid bod y Golygydd yn pabellu yn rhywle ar "lethrau Parnasws," a bod ganddo ryw "wyntyll" anferth i nithio'r cynhyrchion a anfonid i'r swyddfa. Cipid llu ohonynt yn ddiseremoni gan y gwynt, ac ni chlywid dim amdanynt mwy. Llwyddai eraill i ddal y driniaeth, a rhestrid hwy gyda'r "gwenith gwyn.". Ac wedi iddynt fod ar y llawr-dyrnu cesglid hwy i'r ysgubor fel grawn aeddfed a chymeradwy." Yn eu tro ymhlith y lliaws rhoddid lle iddynt ar ddalennau Utgorny Bobl, ac yr oedd hynny, yn ol barn y cyfarwydd, yn drwydded i anfarwoldeb.
Ond yr oedd gan Sadrac Jones ei ffordd ei hun i ddangos ei edmygedd o'r beirdd a'u gwaith. Wedi darllen cân a'i boddiai, ei arfer ef oedd ei thorri allan o'r papur newydd a'i phastio ar y "sgrîn." Ac yn y modd hwnnw daeth y sgrîn yn fath o amgueddfa i farddoniaeth y dydd. Ychwanegid at yr etholedigion yng nghwrs amser, a bu hynny'n gyfrwng i ddenu ambell un i lwybrau'r awen, ac i wybod rhywbeth am eu hyfrydwch a'u swyn.
Erbyn i nifer o'r bechyn ddod i'r gweithdy fin nos, ond odid na fyddai Sadrac Jones wedi bod yn pastio rhyw ddarn newydd ar y "sgrîn." A'r peth nesaf fyddai ei symud yn ofalus er mwyn cael golau'r lamp o'r nenfwd i ddisgyn arni. Dichon bod y preint yn lled fân, ond pa waeth am hynny? Gallai ein llygaid weld y llythyren fanaf heb graffu dim. Ni wisgai neb ond Sadrac Jones spectol yn y gweithdy hwnnw.
'Rwan, fechgyn. Dyna i chwi gân newydd 'Pistyll y Llan.' Gadewch i mi eich clywed yn ei darllen. John, wnei di roi cynnyg arni i gychwyn?"
(John yn darllen).
"Ie, lled dda ar y cyfan, ond mi a'th glywais yn gwneud yn well. Mi ddylset dalu mwy o sylw i'r atal-nodau, a dangos mwy o deimlad. Ifan, dy dro di ydyw'r nesaf. Tyrd ymlaen."
(Ifan yn darllen).
"Braidd yn undonog oedd dy lais, Ifan. Yr oeddit yn rhy debyg i Dafydd Huws yn rhoi emyn allan yn y moddion,'—pob gair a llinell ar yr un nodyn o'r dechrau i'r diwedd. Y mae eisiau mwy o amrywiaeth wrth ddarllen, yn enwedig darnau disgrifiadol."
Ac wedi i'r naill a'r llall ddarllen y gân medrem hi ar dafod leferydd cyn diwedd y wers, wedi ei dysgu yn ddiarwybod!
Defnyddiai'r rhan fwyaf o feirdd yr Utgorn ffugenw, ac wrth yr enw hwnnw yr arferai Sadrac Jones sôn amdanynt. Un ohonynt ydoedd Idwal Ddu. Byddai ganddo ef ryw gân newydd yn fynych yn y Golofn Farddol." Ac erbyn i ni sylwi, yr oedd mwy o waith Idwal Ddu ar y "sgrîn nag odid o waith neb arall, ac eithrio Ceiriog a Mynyddog. Ef oedd awdur y gân boblogaidd
Cyfodwch y bin
Ar lawr sydd yn gorwedd;
Efallai bydd hyn
Yn dechrau anrhydedd.
A ydych yn ei 'nabod, Sadrac Jones?"
"Idwal Ddu?"
"Ie."
"Na, ni welais ef o gwbl. Ond yr wyf yn meddwl yn uchel amdano fel bardd. Pan welwch ei enw yn y 'Golofn Farddol' chwi ellwch fod yn sicr y bydd y Golygydd yn ei groesawu i "lethrau Parnasws," ac yn dweud—"Melus, moes mwy."
Ond yr oedd un peth arall na wyddem amdano ar y pryd oedd wedi effeithio'n ddistaw ar feddwl a barn Sadrac Jones. Beth ydoedd? Wel, dilynai'r bardd mwyn hwnnw yr un alwedigaeth ag ef ei hun! Crydd oedd Sadrac Jones, a dyna ydoedd Idwal Ddu—crydd a bardd!
A shoemaker, did you say?
Yes, what then?
A shoemaker and a poet?
True again!
PENNOD V.
"FFAIR GLAMAI.
UN ffair a gynhelid yn ystod y flwyddyn yn Llanaber, ond yr oedd honno yn ffair fawr a phoblogaidd. Adeg ei dyfodiad ydoedd mis Mai, a gelwid hi ar lafar gwlad yn "Ffair Glamai" (talfyriad, mae'n bosibl, o Galan Mai). Dyna ddull y wlad o siarad, cyn geni'r "orgraff newydd "i'r byd. "Ffair Glamai!"
Ac i'r cyfarwydd â hanes y pentre gwledig y mae swyn a barddoniaeth yn yr ymadrodd.
I blant y cyfnod hwnnw, dyna "Ffair y Byd." A byd go wych oedd y byd cyn y dilyw! Ac, fel y dywed haneswyr, teifl digwyddiadau mawr eu cysgod ymlaen. Disgynnai cysgod "Ffair Glamai" yn gynnar, a phrysurai olwynion bywyd a gwaith. Deffroai'r pentre o'i gwsg gaeafol; gwyngalchid y tai, a phaentid hwy yn holl liwiau'r enfys! Deuai gweithdy Sadrac Jones yn lle prysur iawn. Ni cheid hamdden i drafod barddoniaeth o gwbl, dim ond y lledr a'r esgidiau newydd. Gosodid y "sgrin" yn y gornel o'r neilltu, hyd ryw "amser cyfaddas," a phrin y cai Sadrac Jones hamdden i edrych dros ddalennau Utgorn y Bobl, yn ol ei arfer. Byddai mor brysur, ambell ddiwrnod, fel y byddai raid i "Nansi Owen " ei alw at ei "bryd bwyd."
"Y mae'r cinio'n oeri, Sadrac Jones; ac yr ydw i yn siwr eich bod bron a llwgu."
"Mi ddof ymhen ychydig funudau," dywedai Sadrac Jones, "wedi i mi roi'r pwyth olaf yn yr esgid yma."
Ond anghofiai wedyn, a deuai Nansi Owen o'r gegin i'r gweithdy.
"Welwch chi, Sadrac Jones, y mae'n rhaid i chi ddod at eich bwyd. 'D oes dim sens mewn gweithio am oriau heb yr un tamaid na llymaid. Mi fyddwch yn sâl, fel y buoch chi'r llynedd. Dowch at y bwrdd."
Ac wedi mynd i'r gegin, ond odid na ddywedai Nansi Owen fod yn rhaid iddo gael "gweithiwr i'w helpu". Yr oedd honno yn "hen stori," ond yn aros yn yr unfan y naill flwyddyn ar ol y llall.
"Rhaid i ni gysidro'r peth," dywedai Sadrac Jones. "Peth anodd iawn ydi taro ar weithiwr da."
Un hynod am 'gysidro' oedd Sadrac Jones. Dichon mai hynny oedd y rheswm ei fod yn para arwain bywyd "sengl." Anogai pobl hoff o ymyrryd â materion rhai eraill ef i briodi; ond yr oedd yn rhaid iddo ef gael amser i "gysidro," a 'd oedd hwnnw byth yn dod i ben!
Ac felly gyda'r "gweithiwr" oedd i'w gynorthwyo. Deuai'r mater hwnnw i'r "bwrdd " yn gyson bob blwyddyn o flaen "Ffair Glamai," ac yna aros ar yr agenda am flwyddyn arall. Dyna'r drefn arferol,—Nansi Owen yn cyflwyno'r mater i sylw, a Sadrac Jones yn "cysidro."
Ond, wedi'r gweithio didor am wythnosau, dyna adeg y ffair yn nesau. Y dydd o'i blaen codai'r diddordeb i bwynt uchel, a "thorrid " yr ysgol ddydd yn gynnar yn y prynhawn. Pa ddiben oedd "cadw ysgol" a'r plant yn hanner gwallgof gan awydd am weld y "rhyfeddodau " a gludid i'r ffair? Dyna lle byddai pob math o gertwyni a wageni, yn cael eu tynnu gan bob rhywogaeth o greaduriaid, a'r sŵn yn fyddarol! Codid stondinau ar yr heol, a phebyll yn y maes cyfagos. Yr oedd Llanaber yn lle gogoneddus ar "Ffair Glamai"; a chredai rhai o'r hen drigolion, na fuont erioed allan o'r plwy', nad oedd hanner cymaint o bobol yn Llundain ag a welid yn Llanaber ym mis Mai.
Ond ni cheir y rhosyn heb y drain. Ac y mae'n rhaid cydnabod fod yno un peth yn "Ffair Glamai oedd yn ddraen i Sadrac Jones. Beth ydoedd? Ai'r difyrrwch a'r chwareuon? Nage, yr oedd Sadrac Jones yn ddigon ieuanc ei ysbryd i fwynhau pethau o'r fath. Ond arferai rhyw ddieithriaid ddod i'r ffair i werthu esgidiau "parod "—ready made. A themtiai eu rhadlonrwydd bobl i'w prynu. Meddylient eu bod yn cael "bargen," ac y mae rhyw duedd ryfedd yn y natur ddynol i brynu os bydd "bargen" i'w chael.
Nid ai Sadrac Jones i'r ffair, rhag iddo gael ei boeni gan yr estroniaid teithiol hyn a werthai nwyddau heb dalu na rhent na threth. Ond ai Nansi Owen yno yn fwy fel detective na dim arall. Gwelid hi yn sefyll ar gwr y dorf yn ymyl stondin yr "esgidiau parod," ac yn gwylio pwy fyddai yn prynu, ac, wrth gwrs, yn talu. Rhaid oedd gwneud hynny yn y ffair. "Un pris, ac arian parod"-dyna'r arwyddair. Ac wedi dod adref dywedai'r hanes.
"Yr ydych yn rhy ffeind o lawer, Sadrac Jones. Yr ydych yn gwneud esgidiau dan gamp, ac yn gorfod aros am fisoedd am dâl, ac mi welais y bobl hynny yn y ffair, o gwmpas yr hen stondin yna, yn prynu esgidiau, ac yn talu amdanynt ar law."
"Y maent yn debyg o weld eu ffolineb cyn pen ychydig wythnose," dywedai Sadrac Jones. ""D oes neb a fedr wneud esgid iawn am y pris yna, heb iddo ladrata'r lledr. Ond, o ran hynny, nid lledr ydyn' nhw—dim ond papur wedi ei wneud i edrych fel lledr!"
"Digon gwir," dywedai Nansi Owen, ac mi ddaw'r teulu yna atoch chi i ofyn i chi drwsio 'r esgidiau. Hym! fuaswn i ddim yn gwneud ffasiwn beth. Mi deudwn wrthynt yn blaen am fynd â'r esgidiau i'w trwsio i'r un fan ag y daru nhw eu prynu. Ond wnewch chi mo hynny, mi wn, yr ydach chi yn rhy ffeind."
Ac erbyn hyn, byddai Sadrac wedi dod ato ei hun.
"Os ydach chi'n dweud y gwir, Nansi Owen, yr wyf yn hollol dawel. Mae'n well gen i gael yr enw o fod yn ffeind na bod yn grib-ddeiliwr. Ac i be yr ydw i'n siarad am ryw ddosbarth a fanteisia ar y ffair i gael bargen? Yr ydw i yn cael mwy na digon o waith, ac iechyd i'w wneud. Diolch am hynny."
Ac wedyn ymneilltuai Sadrac Jones i'w ystafell i ddarllen yr erthygl arweiniol yn Utgorn y Bobl ar "Fasnach Rydd."
PENNOD VI.
NANSI OWEN.
Y MAE drama bywyd yn bod yn y pentre gwledig, tawel, fel yn y ddinas fawr a phoblog. Dichon nad oes ynddi nemawr o olygfeydd cyffrous ac anghyffredin yn y pentre, ac nid ydyw ei chylchdro ond bychan a chyfyngedig. Ond i'r sawl a fedd lygad i weled, a chlust i wrando, y mae rhyw ddiddordeb diddarfod mewn bywyd ym mhob man. Ac un o'r rhai gorau am sylwi a thynnu casgliadau oedd Nansi Owen y Llofft. Nid oedd yn arfer crwydro o dŷ i dŷ, ac ni pherthynai i'r tylwyth atgas a ddyfeisia chwedlau, a'u lledaenu yn llechwraidd a maleisus. Pe felly, ni fuasai yn gymeradwy gan Sadrac Jones; yr oedd ef wrth reddf natur yn casau enllib a chelwydd â'i holl galon. Ceuai ei glustiau rhag gwrando ar gelanedd, a ffieiddiai y sawl a wnai ddrwg i'w gymydog.
Ond sylwai Nansi Owen. Dyna ei harfer. Nid o ran chwilfrydedd yn unig y gwnai hynny, ond am fod y ddawn ganddi. Yn oriau ei hamdden, ac ar dywydd haf, eisteddai yn y gadair wellt yn ymyl ffenestr y Llofft. Ni byddai'n segur. Byddai'r "hosan" ganddi, a'r gweill disglair yn clecian rhwng ei bysedd. Ond medr rhai pobl ddiwyd wneud mwy nag un peth yn gydamserol. Gallai Nansi Owen wau, a sylwi yn ddi-goll. Yr oedd golygfa ddymunol o flaen ei llygaid. Ni flinai ar honno. Gwyddai am bob cae, gardd a bwthyn yn y fro. Sylwai ar y meysydd a'r llechweddau. Hyfryd fyddai cael ein gwahodd ganddi, ambell ddydd, i eistedd wrth y ffenestr, a'r haul yn goreuro'r bryniau pell. Ac os gwyddom rywbeth am swyn golygfeydd syml a hudolus, dyledus ydym, i gryn raddau, am hyn oll i'r cyfnod dedwydd hwnnw.
Yr oedd ganddi ddawn i sylwi ar bethau, ac yn enwedig ar fywyd y Pentre. Yr oedd ei safle yn fanteisiol, a chanddi hithau lygad craff. Yr oedd y Llofft iddi hi fel arsyllfa i'r seryddwr. Dilynai'r sêr yn eu graddau, a gwyddai am bob "comed" a ddeuai ar dro i orbit y Pentre. Rhyw gwch gwenyn cymdeithasol oedd Llanaber, a dichon fod rhai o'r trigolion yn perthyn i adran y gwenyn meirch," ac yn fwy tueddol i golynnu nag i gasglu'r mêl. Ond yr oedd Nansi Owen yn ddiogel rhag y colynnau, canys syllu ar y cyfan o bell oedd ei harfer hi.
Ac eto gallai wau stori'r Pentre, fel yr hosan oedd yn ei llaw, ar ddiwedd dydd. Gwyddai os byddai'r meddyg wedi galw mewn tŷ, a deallai os byddai rhyw brofedigaeth wedi digwydd. Weithiau deuai dieithrddyn i'r Pentre, a sylwai Nansi Owen ar ei wisg a'i wedd. Ac os ai i aros dros nos i'r Gwesty—yr unig un yn Llanaber—gwyddai nad oedd neb yn "perthyn" iddo yn y lle. Mae'n debyg yr adroddai hynny, adeg swper, i Sadrac Jones.
"Yr oedd golwg drwsiadus arno,—efallai ei fod yn rhyw ŵr bonheddig."
"A oedd ganddo gerbyd a cheffylau?"
"Na, ar ei draed y gwelais ef—a deuai o gyfeiriad Bryn Du."
Hwyrach mai gwas gŵr bonheddig ydyw," dywedai Sadrac Jones. "Mae y rheiny yn gwisgo'n dda."
"Ydi o yn peidio â bod yn stiwart i'r Cyrnol Glyn? Mi glywais fod yr hen stiwart wedi colli'i le, a hwyrach mai dyma'r dyn newydd. Dichon ei fod wedi dod yma i weld drosto ei hun pa 'repârs' sydd eisiau ar y tai yn Lôn Isa. Ma 'nhw yn g'wilydd eu gweld, ac y mae'r tenantiaid wedi anfon at y Stiwart lawer gwaith, ond i ddim pwrpas hyd yn hyn."
"Gobeithio eich bod yn iawn, Nansi Owen; ond peidiwch â synnu os dod yma i godi'r rhenti y mae'r dyn diarth."
"Peth creulon fyddai hynny," ebe Nansi Owen, "a 'dydw i ddim yn meddwl, ar olwg y dyn, y gwnai'r fath beth."
Paham y craffai Nansi Owen gymaint ar y " dyn dieithr" a ddeuai i'r pentre? Gwnai hynny ers blynyddoedd lawer. A oedd hi yn disgwyl rhywun? Ni chrybwyllai hynny, ond yr oedd yn amlwg i'r sawl a wyddai orau fod ei meddwl yn cyffroi pan welai ryw estron yn dyfod ar hyd y ffordd i'r pentre. Nansi Owen! Ni wyddem ni'r plant am y "gofid cudd" oedd dan ei bron. Wedi hynny cawsom wybod. Yr oedd iddi hithau fachgen hoff—cannwyll ei llygaid, a heulwen ei bywyd. Ond ag ef yn llanc gwridog, hudwyd ef i adael ei gartref a'i ardal, i fynd i wlad bell. Nid oedd dim yn galw am iddo fynd—dim ond yr ysbryd aflonydd sydd yn gyrru rhai i eithafion byd, ysbryd anturio, a rhyw awydd anniwall am weled rhyfeddodau môr a thir. Ni ellid ei gadw o fewn terfynau cyfyng ardal wledig: yr oedd fel aderyn mewn cell. A phan gafodd y drws yn agored, aeth ymaith i'w fyd ei hun. Bu tipyn o sôn am y peth dros dymor, ond daeth rhywbeth arall i fod yn destun siarad y pentre. Symudodd Nansi Owen o'r bwthyn ar fin y ffordd i'r Llofft, i weini ar Sadrac Jones. Llithrodd blynyddoedd ymaith; ond ni ddaeth gair o hanes y bachgen, Lewis Owen. Diflannodd y cof amdano yn yr ardal—dyna hanes y byd, popeth yn "myned heibio," a rhywbeth arall yn cymryd ei le. Nid felly yng nghalon mam."
Yr oedd hi'n disgwyl o hyd. A phan welai rywun dieithr yn ymlwybro i'r Pentre, deuai rhyw olau i'w llygad, a churai ei chalon yn gynt." Ac er ei siomi filwaith, ni flinai ddisgwyl.
PENNOD VII.
"BETH SYDD MEWN ENW?"
Ni feddai pentre Llanaber unrhyw hynodion allanol. Yn y pethau hyn yr oedd yn eithaf tebyg i lawer pentre arall. Rhedai dwy ffordd trwyddo ar ffurf croes. A phe buasech yn cychwyn o'r canolbwynt—rhyw sgwâr fechan-gallasech gyfeirio eich camre i'r un a fynnech o bedwar pwynt y byd! Cychwynasai aml un, ond nid aethant yn bell. Nid oedd ysbryd anturio yn gryf yn y trigolion. Dyna un gwahaniaeth rhwng pentre yn y wlad a phentre ar lan y môr. Huda cyfaredd yr eigion fechgyn y pentrefi ar finion y lli. Y mae antur yn berwi yn eu gwaed. Ond erys plant y
bythynnod a'r ffermydd gwledig yn eu cynefin, os gellir cael gwaith ar eu cyfer. O'r hyn lleiaf, felly yr ydoedd pethau gynt cyn i gyfleusterau teithio ymestyn i fannau oedd, i raddau, allan o olwg y byd. Cyfarfyddai'r bechgyn fin nos ar y sgwâr—croesffordd y pentre. Lle difyr oedd hwnnw. Rhyw argraffiad bychan oedd, mewn preint mân, o "Trafalgar Square," Llundain.
Yng nghanol y pentre yr oedd Eglwys y Plwy, a'r fynwent, â muriau uchel, hynafol, o'u hamgylch. Yr oedd y porth a'r "garreg farch" yn "siarad am hen amseroedd." Yr oedd delw hynafiaeth ar bopeth—y tô mwsoglyd, tŵr y gloch, a'r coed yw a estynnai eu cangau llaes dros "briddellau'r dyffryn." Ac eto ni wnai presenoldeb yr eglwys a'r fynwent mo'r pentre yn lle pruddglwyfus. Os oedd distawrwydd oddimewn i'r muriau yr oedd digon o dwrw ac afiaith oddi allan, pan ddeuai'r plant ynghyd ym min yr hwyr ar nos o haf-hirddydd haf! Y maent wedi chwalu erbyn heddiw—ambell un wedi mynd ymhell ac wedi gweld rhyfeddodau'r dinasoedd mawrion. Ond ar ambell funud breuddwydiol, rhoddent lawer am awr neu ddwy ar sgwâr y pentre bach—"Trafalgar Square," yn wir, peidiwch â sôn! Yng nghalon plentyn y mae sgwâr y pentre'n fwy ardderchog na dim a wêl ar daith droellog bywyd.
Ac wrth feddwl am y plant fu'n chwarae ar un cyfnod o gwmpas y "garreg farch" y tu allan i furiau mynwent y plwy, ni allwn lai na sylwi bod eu henwau-yr " enw bedydd "—yn enwau ysgrythyrol, wedi eu benthyca o'r Hen Destament a'r Newydd. Nid aent mor bell yn ol ag "Adda," ond yr oedd "Abram" yn eu plith. Ac yn eu tro ymhlith y lliaws deuai, Moses, Samuel, Ruth, Abigail, Dafydd, Solomon, a nifer o'r proffwydi. Sut y digwyddodd hyn?
Tybed mai dylanwad y Rhodd Mam ydoedd? Holid ac atebid "pennod yr enwau" yn fynych yn yr Ysgol Sul:
"Pwy oedd y dyn llarieithiaf?—Moses."
"Pwy oedd y dyn cryfaf?—Samson."
Nid anturiodd neb roddi enw "Samson" ar restr y plant, a chryn gamgymeriad oedd gosod enw "Solomon" ar fachgen na ddaeth i fysg y "doethion" yn ei ddydd.
Yr unig eithriad i'r rheol o roddi enwau Beiblaidd ar y bechgyn a'r genethod yn yr ardal oedd tylwyth Huw William y Felin. Yr oedd ef yn hanesydd o gryn fri, a darllennai lawer. Ei brif bwnc oedd y Diwygiad Protestannaidd, a chai enwau'r Diwygwyr a'u gwaith le mawr yn ei ymddiddanion. Dywedir bod y melinydd yn dueddol i droi'r "dŵr at ei felin ei hun." Digon tebyg. A medr ambell un nad ydyw felinydd wneud y gwaith hwnnw yn bur ddeheuig. Ond yn hanes Huw William arweiniai pob ymgom yn y Felin, a phobman arall, i'r un man. Gallai'r sgwrs gychwyn gyda phris yr yd, a sŵn y malu, ond byddai Huw William yn rhoi' "tro ar yr olwyn," ac yn dechrau sôn am y "Diwygiad Protestannaidd." Felly y gwnai hefyd ar y Saboth. Pan fyddai brawd yn "holi'r pwnc" yn yr Ysgol Sul ai Huw William at y "gair a'r dystiolaeth" yn ei farn ef,—yr hen esbonwyr, "hen ŷd y wlad."
"Fel hyn y mae Calfin yn esbonio'r adnod."
Ac oni fyddai "Calfin" yn gyfleus, byddai "Luther " yn barod at yr alwad. Dadleuai eraill yn yr Ysgol Sul dros olygiadau mwy newydd—mwy diweddar; ond nid oedd dim a safai o flaen arwyr y "Diwygiad Protestannaidd." Ac nid isel fyddai "sŵn y malu" pan godai Huw William "fflodiart " y dyddiau gynt.
Yr oedd iddo ddau fachgen. Bedyddiwyd y naill yn" John Calfin," a'r llall yn "Martin Luther." Ni ddigwyddodd dim rhyfedd yn eu hanes hwy. Ym mhen rhai blynyddoedd troes "Calfin" at y Wesleaid, a diflannodd yr enw oedd mor bwysig yng ngolwg ei dad. Adwaenid ef o hynny allan fel "John C. Williams," a "Chalfin" a aeth i dir angof. **** Ryw ddydd, yn y gweithdy, gofynnodd un o'r cwmni,
"Sut y cawsoch chwi eich enw, Sadrac Jones?"
"Gan fy nhad a mam, wrth gwrs, yr un fath a chwithau."
"Ie, ond sut y cawsoch yr enw 'Sadrac' mwy na rhyw enw arall?"
"Wel, deud y gwir, mi fase'n llawn cystal gennyf gael enw mwy Cymreig. Ond 'd oes mo'r help am hynny, bellach, fel y mae gwaetha'r modd. 'D ydw i ddim am fynd mor bell â'r Gwyddel hwnnw a gredai y dylai dyn gael dewis ei dad a'i fam. Ond yr wyf yn meddwl yn sobr y dylai dyn gael dewis ei enw. Meddyliwch am deulu yn rhoi yr enw "Boaz"—gentleman farmer yn yr Hen Destament-ar fachgen oedd i dreulio ei oes fel saer maen! Ffug-enw noeth ydi peth felly."
"Rhoswch chwi, Sadrac Jones, onid ydyw'r beirdd y mae eu gwaith ar y sgrin' yma yn gwisgo ffug-enw?"
"Ydyn', wrth gwrs. Ond y nhw eu hunain sydd yn dewis hwnnw. Ac y mae'n rhaid cydnabod bod ambell un ohonynt wedi gwneud blunder ofnadwy."
"Sut hynny?"
Wel, dyma un wedi bedyddio ei hunan yn 'Eryr Bodabwy.' Dyn a'i helpo! 'Eryr! dim o'r fath beth. Buasai Robin Goch' yn nes at ei seis ef."
"Ie, ond beth am eich enw chwi?"
"Os rhaid i chwi gael gwybod, fechgyn, y mae'r stori yn debyg i hyn. Yr oedd fy nhad yn edmygydd mawr o'r 'tri llanc' ym Mabilon. Yr oedd eu llun yn y Beibl Teuluaidd a roesid yn anrheg iddo ef a mam ar adeg eu priodas. A oeddynt yn debyg i'r gwreiddiol—fedra'i ddim bod yn siwr. Ond meddyliai nhad y byd o'r darlun hwnnw, a phan anwyd fi, cefais fy medyddio yn 'Sadrac '—y cyntaf o'r tri. Wedi hynny daeth y mrawd, ac ennwyd yntau yn 'Mesac.' Hyd hynny yr oedd popeth yn dda. Yna, dryswyd y plan. Merch oedd y plentyn nesaf. Ni ellid ei galw hi yn Abednego,' am resymau digonol—enw bachgen ydi hwnnw. Ond er mwyn cael enw mor agos ag oedd yn bosibl o ran sain, bedyddiwyd hi'n 'Abigail.'"
"Llafurwr oedd y nhad, yn gweithio yn y ffermydd, ond yr oedd yn awyddus i roi crefft i'r plant. Ac felly y daeth 'Sadrac' yn grydd; Mesac' yn deiliwr, ac 'Abigail' yn wniadwraig. Fi ydi'r unig un o'r tri sydd wedi aros yn yr ardal yma. Aeth 'Mesac' i gadw busnes i un o drefi Lloegr. Y mae 'Abigail' wedi ymfudo i'r Merica ers blynyddoedd, ac wedi dod ymlaen yn dda iawn. Hi oedd yr ieuengaf ohonom—tua'r un oed â Lewis, bachgen Nansi Owen. Aeth yntau i ffwrdd i rywle pell, ond hwyrach y daw yn ol."
PENNOD VIII.
HELA'R LLWYNOG.
TRINID llawer o bethau yng ngweithdy Sadrac Jones. Os oedd Llanaber i gryn raddau o olwg y byd, deuai "helynt y byd hwn" yno, ar ei dro, fel yr ymlêd tonnau'r môr i gilfachau pell. Parai ei dyfodiad gyffro a siarad, ac am ennyd newidiai bywyd ei liw a'i flas. Un o'r digwyddiadau cynhyrfiol hynny oedd yr hunt, fel y gelwid y peth ar lafar gwlad. Ystyr hynny ydoedd "hela'r llwynog." Ac yr oedd Llanaber, neu yn hytrach, yr ardal o amgylch, yn digwydd bod ar lwybr yr ymgyrch, fel y mae ambell bentref heddiw ar y main-line i'r brifddinas. Ond nid oedd time-table dyfodiad yr hunt mor sicr ag eiddo'r ffordd haearn. Dibynnai cwrs yr helfa i gryn fesur ar y llwynog ei hun! Gallai ef gymryd ei lwybr ei hun, oherwydd y mae, yn ol barn y cyfarwydd amdano, yn greadur llawn o ddyfais ac athrylith. Pe amgen, ni fuasai'n werth ei "hela " o gwbl. Gadewir y dôf a'r gwâr yn llonydd, ond am y gwyllt a'r anturus rhaid ei "hela" ef ym mha le bynnag y bo. Yr oedd rhai o drigolion Llanaber mewn cydymdeimlad â'r llwynog,' a phe gwelent ef ar ffo o flaen ei erlidwyr, ni cheisient ei atal ar ei hynt. Rhoid chwarae teg iddo ddianc, os gallai. Pob peth a ddyry LLWYNOG am ei einioes. Yr oedd eraill yn wahanol, ac yn orawyddus am iddo gael ei ddal a'i flingo, am y credent iddo fyrhau einioes ieir a gwyddau yn yr ardal.
Ond yr oedd un peth yr oedd pawb oll yn unfryd amdano, ac yn awyddus i'w weld drostynt eu hunain, nid amgen, yr olygfa a geid am ychydig o amser ar ddydd mawr yr "hela llwynog."
"Ydach chi'n meddwl y daw yr hunt ffor' yma, Sadrac Jones?"
"Y mae yn siwr o ddwad, oni bydd y llwynog wedi ei ddal yng Nghraig y Garth."
"Ydach chi am weithio fory?"
"Dim strôc, nes bydd yr hunt wedi mynd o'r golwg. Ond rhaid i chi beidio â myddaru fi heddiw. Rhaid i mi orffen y pâr sgidia yma cyn nos. Ewch at y sgrîn yna. Welwch chwi gân yn y gornel bella—Cerdd Hela' y gelwir hi?"
"Dyma hi, Sadrac Jones. Pwy a'i gwnaeth
"Edrychwch ar yr enw sydd yn y gwaelod. Beth ydi o?"
"John Blackwell (Alun)."
"Ie, siwr. A chrydd oedd yntau cyn iddo fynd yn berson plwy. 'Rwan, darllennwch dipyn o'r gân a wnaeth o pan arosai'n Sir Drefaldwyn."
Ninnau yn darllen:—
"Mae awelon dydd yn deffro,
Gwelwch ruddiau'r bore'n gwrido:
A glywch chwi sain corn hela'r Gelli,
Yn rhoi tafod i'r clogwyni?
Twrf helyddion—cŵn yn udo,
Popeth megis yn cyd-floeddio—
Heddiw ydyw'r dydd i ddala
Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa."
Dyna i chi ddyn wedi gweld yr hunt, ac yn medru ei disgrifio yn gampus. Ewch ymlaen at y pennill lle y mae o yn darlunio'r 'cŵn hela,' ac yn rhoi eu henwau."
"Gwelwch, ni wna nant na chlogwyn
Beri i Nimrod ŵyro mymryn:
Leader, Guider, Topper, German,
Fel yn hedeg drwy Gwm-aman:
Ringwood, Famous, Countess, Collier,
Blucher, Stately—am gyflymder,
Haeddant sylw yng ngherdd hela
Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa."
"Bobol annwyl! dyna i chwi farddoniaeth! Onid oes yna fiwsig yn ENWAU y cŵn hela? Yr wyf yn dotio arnynt. Ond dyna ddigon heddiw, neu ni allaf byth orffen yr esgid yma."
****
Drannoeth, yr oeddym wedi codi heb i neb ein galw. Yr oedd pawb yn effro'r bore hwnnw, ac ni allai neb wneud "strôc o waith " nes deuai'r hunt ar draws y wlad. Ymffrostiai rhai o'r hen bobol yn y ffaith iddynt fod yn dystion o'r olygfa am dros hanner cant o flynyddoedd, ac yr oeddynt yn ail fyw dyddiau eu mebyd. Aethom gyda Sadrac Jones i ben craig fel y gallem weled yr holl wlad. Ac yn y man dyna sŵn y corn hela yn dod gyda'r gwynt o'r pellter, ac O! y teimladau a'n meddiannai. Yr oedd yr hunt yn dod, er nad oedd eto yn y golwg. "Dacw nhw!" ebe Sadrac Jones, "yn dod dros ffriddoedd y Clegir Mawr." Daeth y fintai yn nes, a gwelem y cotiau cochion, a'r meirch yn carlamu ar draws y caeau, yn neidio dros y ffosydd a'r gwrychoedd, a'r cŵn yn cyniwair ar bob llaw. Ond, yn sydyn, dyna'r cŵn yn crynhoi at ei gilydd, yn tynnu eu hanadl atynt, ac yna yn cydgychwyn fel llinyn unionsyth, a'r meirch yn carlamu ar eu holau.
"Mae nhw wedi cael y trywydd 'rwan," ebe Sadrac Jones. "D ydi'r llwynog ddim ymhell. Mi gewch glywed y corn yn canu toc."
Aeth y fintai o'r golwg i lawr y gelltydd, ac ai cyfarthiad y cŵn yn wannach, wannach. Ond ym mhen cryn amser gwelid y cŵn yn dychwel dros y clogwyn, a'r "helsman" yn clecian ei chwip.
"Y mae o wedi eu gwneud nhw'r tro yna," ebe Sadrac Jones.
"Pwy?"
"Ond y llwynog, debyg iawn. Mae'n bosib ei fod yn berthynas i'r llwynog hwnnw yr oedd Alun yn sôn amdano,—"Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa.' Ond, 'rhoswch, dacw Wil Troed Buan' yn rhedeg at yr helsman.' Synnwn i ddim nad ydi Wil wedi cael cip ar y llwynog. Mae o yn gweled fel cath."
Ac yn sicr, felly yr oedd. Canodd y "corn hela," daeth y byddigions' oedd ar wasgar i'r un lle, a gostegwyd y cŵn gan yr helsman.' Yna cychwynnwyd eilwaith i gyfeiriad gwahanol, ac aethant o'n golwg.
"Waeth i ni heb aros yma yn hwy," ebe Sadrac Jones. "Yr ydym wedi gweled y cwbl sydd i'w weld heddiw."
Yr oedd y gyfaredd drosodd, a ninnau'n cofio bod arnom eisiau bwyd!
Drannoeth adroddai'r plant eraill eu hanes-rhai ohonynt yn byw yn lled bell o'r pentre. Yr wyf yn cofio stori Dafydd Glandŵr. Cymerasai ef ei safle ar ben llidiart yn agos i'w gartref. Daeth yr helwyr ar draws y cae fel corwynt, a phob un yn rhoddi naid dros y clawdd drain. Ond yr oedd yno un boneddwr hŷn na'r lleill. Daeth ef ar hyd y ffordd oedd yn pasio tŷ Glandŵr. Neidiodd Dafydd i lawr, ac agorodd y llidiart.
"Diolch i chwi, 'machgen i," ebe'r hen fonedd
"Mi fûm innau yn medru neidio dros bob gwrych a chlawdd, ond y mae'r amser hwnnw wedi mynd drosodd."
Estynnodd ei law, a rhoddodd bisin chwecheiniog i Dafydd am agor y llidiart—"chwech gwyn."
"Gwell i ti adael i mi gadw hwn," ebr ei fam, "i gofio am y diwrnod, a'r gŵr bonheddig ffeind."
"Gaf fi fynd a fo i'w ddangos i'r bechgyn yn yr ysgol?" ebe Dafydd.
"Cei, siwr; ond gofala am beidio â'i wario."
PENNOD IX.
Y CRWYDRYN.
Y MAE i bob peth yn y fuchedd hon ei adeg a'i dymor. Dyna drefn natur, ac y mae pob perchen greddf yn ei dilyn. "Yr ych a edwyn ei feddiannydd a'r asyn breseb ei berchennog." Ac yr oedd dosbarth tebyg o'r hil ddynol yn arfer ymweled ag ardal Llanaber ar adegau neilltuol o'r flwyddyn. Sut y daeth y trefniant hwnnw i fod, anodd fyddai penderfynu. Perthynai'r tylwyth teithiol hynny, mewn rhyw ystyr, yn lled agos i'r ych a'r asyn. Deiliaid greddf oeddynt i gryn raddau, ac fel yr ych a'r asyn yn dibynnu am eu porthiant ar garedigrwydd pobl eraill. Nid oeddynt nac yn llafurio nac yn nyddu, er eu bod yn lled hoff o "gywain i ysguboriau" os byddai'r ffermwyr yn caniatau, nid i ddyrnu'r yd na'i nithio, ond yn hytrach i orffwys dros nos. Yr ysgubor neu'r beudy fyddai bungalow crwydraid yn y dyddiau gynt. Deuent yno ym min yr hwyr, ac yr oedd yn ddefod gwlad i roddi "swper" iddynt, a siars bendant i beidio â golau' matsys' yn yr ysgubor rhag digwydd i'r gwellt fynd ar dân. Fel rheol, yr oeddynt yn greaduriaid eithaf diniwed, ac ni fyddent yn arfer lladrata eiddo neb. Yr unig neges oedd ganddynt ydoedd "hel eu bwyd," ac ni warafunai'r sawl a'u hadwaenai hynny iddynt. Ac yr oedd ganddynt ddawn i fwyta! Gallent ddal ati heb flino dim drwy gydol y dydd. Ni phoenid hwy gan yr hyn a elwir yn "ddiffyg treuliad." Bu Sadrac Jones, un adeg, yn dioddef oddi wrth yr anhwyldeb hwnnw. Ni theimlai ddim archwaeth at fwyd, ac yr oedd Nansi Owen wedi mynd i ofni amdano. 'Dydi o'n bwyta dim mwy na chyw deryn," meddai, "a dim rhyfedd, chwaith; sut y gall dyn gael blas ar ei ymborth ac yntau'n aros yn yr hen weithdy yna o fore i hwyr yng nghanol arogl lledr a chŵyr crydd? Mi ddyle fynd allan yn amlach; ond waeth i mi heb ddeud wrtho. Dowch at eich swper, Sadrac Jones."
Wyddoch chi beth, Nansi Owen, mi fuaswn yn rhoi cryn lawer pe cawswn i fenthyg stumog Twm Pirs." **** Yr oedd pawb yn yr ardaloedd yn adnabod Twm, ac ni fyddai neb yn gâs wrtho. Deuai yn ei dro, tua'r un adeg, y naill flwyddyn ar ol y llall. O ran ei olwg, nid oedd nac yn ieuanc nac yn hen. Yr oedd yn drwm o gorff, â wyneb fel lleuad lawn, a cherddai'n araf a phwyllog Ni welwyd ef yn rhedeg erioed, canys nid oedd arno eisiau dal y trên na dim arall. Un o'r gwŷr traed oedd Twm Pirs, ac yr oedd ei esgidiau yntau, fel yr eiddo cenedl Israel yn yr anialwch, yn gorfod gwisgo'n hir. Trwsiai Sadrac Jones dipyn arnynt pan ddeuai Twm ar ei ymweliad blynyddol â'r gweithdy. Rhoddai eraill iddo hen ddillad wedi eu "troi heibio," a chan nad oedd gan Twm ystafell i'w cadw cludai'r cwbl amdano, ac ymddangosai fel siop ddillad symudol. Sut y medrai gerdded â'r fath lwyth oedd ddirgelwch i bawb ond iddo ef ei hun. Golwg digon afluniaidd oedd arno, ond yr oedd mor ddiniwed fel yr oedd pawb yn hollol dawel. Ni lechai'r plant o'r neilltu pan ddeuai Twm at y tŷ, a chaniatâi hyd yn oed y cŵn iddo fynd a dod trwy'r buarth. Dichon y dechreuai ambell gi gyfarth, a rhuthro at y llidiart. Ond, wedi sylwi, deuai yn ol, fel pe yn dweud wrtho ei hun: "Dim ond Twm Pirs sydd yna; nid yw yn werth ei gyfarth ef."
Cai Twm fwyd a llety yn rhad, ond edliwiai rhai o'r ffermwyr iddo na wnai ddim i dalu am ei fwyd. Ac un tro tybiodd John Llwyd, Dôl Gam, y gallai berswadio Twm Pirs i fod yn ddefnyddiol. Yr oedd y brain fel pla yn y cae lle'r oedd y maip a'r rwdins. Ai John Llwyd at y gwrych gyda'i wn, a thaniai ergyd. Chwalai'r fintai am ennyd, ond gwyliai'r pickets y dyn â'r gwn, ac wedi iddo droi ei gefn rhoddent arwydd i'r fintai fod y maes yn glir.
Meddyliodd am fynd ati i lunio yr hyn a elwir yn "Fwgan Brain," a'i wisgo â hen ddillad a het fawr. Ond daeth Twm Pirs yno ar ei dro, ac wedi treulio noson yn y sgubor a chael breswast aeth at y tŷ i ddiolch am ei fwyd, yn ol ei arfer. Dyna gyfle John Llwyd wedi dod.
"Hoffet ti wneud rhywbeth i'n helpu gyda gwaith y fferm yma, Twm?"
"Beth fedra i wneud, mistar bach?"
"Dim ond mynd i'r cae maip acw i ymlid y brain i ffwrdd. Y cwbl sydd eisiau i ti wneud ydi sefyll yng nghanol y rhesi maip ac ysgwyd dy freichiau. phan glywi di'r corn cinio tyrd i'r tŷ i fyta efo'r gweision, ac mi gei chwecheiniog y dydd am dy waith."
"O'r gorau," ebe Twm Pirs.
Aeth i'r cae, ac yr oedd yr olwg arno yn ddigon i ddychryn y brain. Yr oeddynt yn gyfarwydd â "bwgan," ond ysgydwai hwn ei freichiau, a medrai droi ei ben i edrych arnynt. Ond yr oedd y bore yn desog a mwll, a daeth rhyw drymder i lethu Twm Pirs. Methai â chadw ei lygaid yn agored, ac yn raddol a diarwybod iddo'i hun syrthiodd i'r llawr, a gorweddodd rhwng y rhesi maip. Aeth yr oriau heibio; canodd y corn cinio," ond nid oedd hanes am Twm. Aeth John Llwyd i olwg y cae maip; gwelai'r brain wedi disgyn yn gatrodau duon, ac yn difa'r cnwd.
Ple'r oedd Twm, tybed? Dichon iddo flino ar ei swydd, ac ymado i rywle arall. Dychwelodd John Llwyd i'r tŷ. Cymerodd y gwn ar ei ysgwydd, a chyfeiriodd dan gysgod y clawdd i ymyl y cae. Taniodd ergyd. Cododd y brain ar eu hedyn. Deffrodd Twm o'i drwmgwsg, a chododd ar ei eistedd.
Dyna ergyd arall! Chwalai'r mwg glas uwchben y llecyn yr oedd Twm wedi dihuno ynddo, a chredai yntau ei fod wedi ei glwyfo yn farwol. "Yr ydw'i wedi fy saethu'n gelain," meddai, a disgynnodd yn ddiymadferth rhwng y rhesi maip. Gorfu i John Llwyd fynd yno i'w godi, a gwaith mawr oedd ei berswadio y gallai gerdded cam.
Methiant oedd Twm Pirs ym mhob cylch o fywyd. Methiant fu fel "hogyn gyrru'r wedd" oes, a methiant fu fel "bwgan brain."
PENNOD X.
"Y SAMARITAN."
YN nyddiau mebyd ni wyddem nemawr am un pentre ond yr un yr oeddym yn byw ynddo. Nid oedd oes y charabancs, a'r gwibdeithiau pell wedi gwawrio, ac nid oedd trip—y gair clasurol hwnnw!—wedi ei gysylltu a'r Ysgol Sul. Rhoddai ambell un hael ei galon wledd o dê a bara brith i'r plant, ac enillent anfarwoldeb yn eu golwg hwy! Ond, yn y dyddiau hynny, ychydig o "fara brith" a welid ar ford y werin. Ni chyfaneddai nemawr o gyfoethogion yn ardal Llanaber. Yr oedd y lle yn rhy ddinod. Fe ddichon bod gŵr Plas Teg yn eithriad. Yr oedd ef yn dir-feddiannydd, ac yn berchennog y Felin Wen. Ef a gynrychiolai'r plwy fel Gwarcheidwad, ac ef yn unig a dderbyniai llythyrau â'r gair "Ysw." ar yr amlen—"Joseff Lloyd, Ysw." Derbyniai Sadrac Jones ambell lythyr wedi ei gyfeirio fel hyn: "Mr. Sadrac Jones, Shoemaker, Llanaber." Methem ni'r plant â deall y dirgelwch. Ond dywedai Sadrac Jones mai felly yr oedd yn briodol. Derbyniai gŵr y Plas Teg y teitl yn rhinwedd ei swydd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid.
"Y mae yna wahaniaeth go fawr rhwng gwaith a swydd," ebe Sadrac Jones, "er eich bod chwi yn rhy ifanc i wybod am bethau dyrys o'r fath. Meddyliwch amdanaf fi yn gwneud esgidiau,—gwaith ydi hwnnw, a gwaith lled galed, hefyd. Ond swydd ydi bod yn Guardian y plwy, ac y mae'n rhaid cydnabod y peth. Fydd neb yn rhoi "Mr." o flaen fy enw i, ond ar gâs llythyr; ond pe buasech yn anfon llythyr at ŵr Plas Teg, ac yn anghofio rhoi "Ysw." ar ol ei enw, wn i ddim beth fuasai'n digwydd. Y mae'r gyfraith yn fanwl iawn gyda phobl mewn swydd."
Arferai gŵr arall ddod i Lanaber unwaith yn yr wythnos, ac yr oedd yntau yn dal swydd bwysig yn enwedig i'r bobl dlodion—ynglŷn â Bwrdd y Gwarcheidwaid. Ei enw ar dafod yr ardal oedd "Mistar Mason," ac ef oedd y swyddog elusennol," neu, a siarad yn iaith y pentre, y "Lifin-Offis." Dyn tal, main, a golwg llym arno ydoedd ef, ac yn siarad yn uchel ac awdurdodol. Arferai gymryd ystafell ar gornel y pentre, ac yno y deuai'r "tlodion," yr afiach, y llesg, gweddwon ac amddifaid, i dderbyn eu dogn wythnosol o'r "plwy." Nid oedd ond bychan ddigon, canys ni ddaethai "blwydd-dal yr hên" i fod am lawer blwyddyn wedi hynny. Ni hoffai neb fynd at y "Lifin-Offis " hwnnw, ond rhaid i'r tlawd geisio anghofio ei deimladau yn fynych. Fe ddichon y cwynai ambell un fod y pau" (pay) yn ychydig, a'i fod yntau yn methu â chael ymborth ac ymgeledd dyladwy. Ond yr oedd gan y "Lifin Offis" ffordd effeithiol i ddistewi'r cyfryw rai, ac i osod ei arswyd arnynt. "Onid ydych yn fodlon ar eich siâr," meddai, "'d oes dim i'w wneud ond anfon ordor i chi fynd i'r workhouse." Dyna ystyr y peth, ond gair byrrach a ddefnyddiai'r swyddog,—Rhaid i chi fynd i'r 'Hows.'" Ac yr oedd ar bawb fyddai " ar y plwy" ofn y lle hwnnw. "Mynd i'r 'Hows'!" Gwell fuasai marw ar fin y ffordd. Dyna'r argraff oedd yn bod cyn gweddnewid y workhouse gan ddyngarwyr a wyddai am gyni'r tlawd a'r anghenus.
Ond yr oedd y "Samaritan"—cyfaill y dyn a syrthiodd ymhlith lladron--yn bod yn nyddiau'r deddfau celyd, ac ysbryd yr Efengyl yn gorffwys ar ei gymwynasau.
Ryw ddydd daeth y newydd i'r pentre fod Twm Pirs, y crwydryn, wedi ei gael yn gorwedd mewn llesmair ar fin y ffordd. Yr oedd yr hin yn eithafol o boeth, a dichon mai'r gwres oedd wedi ei orchfygu. Aeth y llanc a'i gwelodd wedi cŵympo i'r llawr i ffermdy oedd yn ymyl i hysbysu'r peth. Daeth y gweision gydag ef yn ol, ond yr oedd Twm Pirs, druan, yn gwbl ddiymadferth, ac ni chymerai sylw o ddim. Beth a ellid ei wneud ag ef? Ni ellid ei adael i drengi ar y ffordd. Ac nid oedd un o'r gweision yn abl i'w gario ar ei gefn. Ond y diwedd fu iddynt godi llidiart y cae oddi ar ei echel, a rhoi Twm Pirs i orwedd arno. Ac yn y dull hwnnw y cludwyd ef i'r ysgubor, a'i ddodi ar wely o wellt. Nid oedd y ffermwr yn fodlon iddo aros yno. Pa ddyled oedd arno ef i roddi llety i grwydryn? Gwaith y "plwy" oedd edrych ar ol cymeriadau o'r fath, yn fyw a marw. Ac yn hytrach nag anfon am y meddyg, anfonodd un o'r gweision i ddweud wrth y "Lifin-Offis am ddod yno, er mwyn symud Twm Pirs o'r ysgubor i'r "Hows."
Aeth y gwas i'w ffordd, a chan ei fod yn mynd trwy'r pentre, amlygodd y bobl awydd i wybod helynt Twm Pirs; ac wedi dweud yr hanes amlygai'r gwas ei fod ar frys. "Eisiau mynd i 'nol y ' Lifin-Offis' i fynd a Twm Pirs i'r 'Hows.'"
"Druan ohono," ebe rhywun o'r heol; "dyna'r lle gorau iddo fo, os caiff o fyw i fynd yno."
Rhedodd un o'r bechgyn i ddweud y newydd wrth Sadrac Jones, a gwelwodd ŵyneb Sadrac.
"Twm Pirs wedi ei daro'n sâl! Ble mae o, rwan?"
"Yn sgubor Cae Glas, ac y mae nhw am fynd a fo i'r Hows."
'Na, chaiff Twm Pirs ddim mynd i'r fan honno," ebe Sadrac Jones.
Ac yna galwodd ar Nansi Owen.
"Y mae arnaf eisiau i chwi wneud cymwynas," meddai. "Trefnwch y gwely sydd yn y stafell wag, a gwnewch y lle mor gysurus ag y medrwch.
Twm Pirs wedi ei daro'n wael iawn, ac y mae nhw yn trefnu i fynd a fo i'r 'Hows.' Ond chaiff o ddim ei lusgo i'r lle hwnnw. Mi âf i'w nol o yma, ac mi wnawn ein gorau iddo fo."
Yr oedd Nansi Owen fel un wedi ei syfrdanu. Tybed fod Sadrac Jones wedi mynd o'i bwyll? Ond y cwbl a ddywedodd oedd, "Mi wnaf bopeth a fedraf i wneud y lle'n barod."
Aeth Sadrac Jones i'r gwesty, a llogodd gerbyd. Yna aeth rhagddo i'r Cae Glas. Yr oedd Twm Pirs wedi agor ei lygaid, a daeth rhyw oleuni rhyfedd i'w wyneb llwyd, er na allai yngan gair. Codwyd ef yn dyner i'r cerbyd, ac wedi iddynt gyrraedd tŷ Sadrac Jones dodwyd ef i orwedd ar wely esmwyth yn yr ystafell wag. Ac yno y bu am wythnosau, a'i fywyd fel pendil cloc yn symud ol a blaen ar ffiniau deufyd.
Ond yn raddol dechreuodd wella, a rhyfedd y gwahaniaeth oedd ynddo rhagor y dyddiau gynt. Aethai ei feddwl trwy ryw gyfnewidiad distaw yn ystod ei selni trwm.
Ni fu Twm Pirs yn "grwydryn" ar ol hynny. Cafodd le fel gweithiwr ar ystâd boneddwr a wyddai am y gymwynas a wnaethai Sadrac Jones, ac ni fu gan y boneddwr achos i edifarhau. Deuai Twm Pirs ar adegau i dalu ymweliad â Sadrac Jones, ac nid oedd ball ar ei ddiolchgarwch am y gofal a'r tynerwch a gawsai ganddo ef a Nansi Owen.
"Wedi achub y mywyd i," ebe Twm Pirs, â'r dagrau yn ei lygaid. "Y chi ddaru nghadw i rhag mynd i'r Hows." "
"Paid a sôn am beth felly, rwan," ebe Sadrac Jones, dan wenu, "a thithau'n byw fel gŵr—bynheddig. Yr wyt ti yn edrych ar ol dy gyflog, onid wyt?"
"Ydw," ebe Twm Pirs, "ond"
"Ond beth?"
"Mi fûm yn y dre yr wsnos ddiwetha, yn y cerbyd efo mistar, ac mi brynes bresent bach. (Nid oedd Nansi Owen yn y tŷ ar y pryd). Dyma fo. ofynnis i'r siopwr bigo rhywbeth neis."
Agorodd Sadrac y parsel.
"Shôl newydd grand! Mi fydd Nansi Owen wedi rhyfeddu. Rhaid i ti aros nes daw hi yma."
"Na, mi wnewch chwi ei rhoi iddi drosta i. Dim ond deud, Presant bach gan yr hen Dwm Pirs.'"
Ac ymaith ag ef.
PENNOD XI.
YR ESGID A'R GAN.
YR oedd Sadrac Jones wedi cyflogi gweithiwr. Buasai'r peth yn ei feddwl lawer tro, yn enwedig ar adeg brysur yn ei hanes. Ond gohirio'r drafodaeth fyddai'r diwedd. Nid hawdd oedd ganddo wneud cyfnewidiad yn ei ddull o fyw. Ond, fel rheol, digwydd pethau o'r fath yn sydyn ac annisgwyliadwy. Yr oedd Sadrac Jones yn brysurach nag arfer. Y mae'n debyg i'w gymwynas garedig i Twm Pirs yn ei waeledd effeithio'n ddistaw ar bobl yr ardal. Gwyddai pawb ddarfod iddo aberthu llawer mewn amser a chysuron i gynorthwyo'r truan a'r anghenus. Fodd bynnag, yr oedd y llanw yn troi o'i du, a chwsmeriaid newydd yn dod ato yn feunyddiol. Ac eto ni chymellai Nansi Owen ef, yn ol ei harfer, i geisio gweithiwr. Fe ddichon ei bod hi wedi blino ar y gorchwyl, gan deimlo bod y "bregeth" yn hollol aflwyddiannus. Ond, ryw fore, daeth dyn dieithr at ddrws y gweithdy, a gofynnodd am waith.
"Dowch i mewn," ebe Sadrac Jones. "A ydych yn gyfarwydd â gwaith crydd gwlad?"
"Ydwyf," ebe'r dyn. "Yr wyf wedi gweithio'r grefft mewn gwlad a thre, ac yn gwybod y gwaith sydd yn eisiau mewn ardal wledig fel hon."
Faint o gyflog ydych yn ei ofyn?"
"Cewch chwi benderfynu hwnnw," ebe'r dyn, "yn ol gwerth y gwaith. Yr unig beth wyf yn awyddus i'w gael ydyw ymborth a llety, a thipyn o hamdden gyda'r nos."
"Yr wyf innau yn hoffi hamdden," ebe Sadrac Jones, "ond yn methu â'i gael. Gorfod bod wrthi yn hwyr yn fynych; ond, os gallwn gytuno ar delerau, dichon y bydd yn haws cadw oriau mwy rhesymol."
"Felly y gweddai i bethau fod," ebe'r dyn. "Ni ddylai un crefftwr fod yn gaethwas i'w orchwyl, beth bynnag a fo; y mae eisiau hamdden i ddarllen a meddwl, a gweld natur yn ei hamrywiaeth a'i golygfeydd."
Edrychodd Sadrac Jones ar y dyn. Mynegai'r hyn a deimlai ef ei hun. Hawdd i enaid dyn gael ei grebachu ym myd y pethau a berthyn i "fara beunyddiol," a cholli golwg ar y byd ehangach—byd gweledigaethau diddarfod.
"Pryd y gellwch fod yn barod i ddechre ar y gwaith?" ebe Sadrac Jones.
"Y funud hon," ebe'r dyn.
Tynnodd ei got, a chymerodd ffedog ledr o'r ysgrepan a ddodasai ar lawr y gweithdy.
"A wnewch chwi orffen yr esgid yma?" ebe Sadrac Jones, "ac af innau i'r tŷ i drefnu pethau gyda Nansi Owen." Troes yn ol wedi cyrraedd y drws,—"Esgusodwch fi am ofyn,—beth yw eich enw?"
"Edward James. A oes arnoch eisiau gwybod rhagor?"
"Dim byd," ebe Sadrac Jones.
Yr oedd Nansi Owen yn eithaf balch ei fod wedi cyflogi gweithiwr. Dylasai fod wedi gwneud hynny ers talwm. Ond onid gwell fuasai cael rhywun yr oedd yn ei adnabod? Yr oedd eisiau bod yn ofalus, a'r dyn yn hollol ddieithr.
"Y mae hynny'n wir," ebe Sadrac Jones; "ond y mae rhywbeth yn dweud wrthyf mai Rhagluniaeth a'i gyrrodd o yma.
"Gobeithio eich bod yn dyfalu'n gywir," ebe Nansi Owen.
Profodd Edward James ei fod yn weithiwr cyflym a chelfydd. A rhoddai ei ymddygiad yn y tŷ fodlonrwydd mawr i Nansi Owen. Yr oedd mor syml a dirodres. Ni pharai na thrafferth na blinder. A phan ymgomiai gyda Sadrac Jones wrth y tân gyda'r nos, edrychai Nansi Owen arno dros ei hysgwydd, a meddyliai am y bachgen a aethai i ffwrdd ers llawer dydd. Mae'n wir nad oedd yn debyg iddo o ran pryd a gwedd. Gwallt golau oedd gan Lewis gwallt du, cyrliog, oedd gan Edward James. Ond parai'r olwg arno wrth y tân iddi freuddwydio breuddwydion,—anfarwol ydyw cariad mam!
Yn ei dro, siaradai Sadrac Jones am feirdd a barddoniaeth. Rhyfeddai braidd na sylwasai Edward James ar y "sgrîn" yn y gweithdy, er nad oedd wedi ei chyffwrdd ei hun yn ddiweddar, am fod y gwaith" yn llanw ei amser o fore hyd nos. Ond, yn ddiarwybod iddo ef, sylwasai Edward James ar y cynhyrchion " barddonol a orchuddiai'r "sgrin," a dichon iddo wenu 'n ddistaw, wrtho ei hun. Onid oedd darnau barddonol o'i waith ef wedi eu pastio'n ofalus ar y "sgrîn"? Ychydig a wyddai ef am Lanaber pan anfonai hwynt i'r wasg. A llai fyth y gwyddai am berchen y "sgrîn." Cadwodd y "gyfrinach" am gryn amser. Nid oedd ef, megis y mae arfer rhai, yn orawyddus am hysbysu eraill am ei orchestion" awenyddol. Ni soniai beunydd am ddrychfeddyliau," ac ni synnai'r anghyfarwydd â geiriau swnfawr, megis "crebwyll darfelydd."
Gallai ymddiddan am feirdd a barddoniaeth fel dyn cyffredin, heb fradychu ei hunan-bwysigrwydd. Nid oedd Sadrac Jones wedi meddwl bod ei "weithiwr " yn fardd "wrth fraint a defawd." Ond daeth i wybod ar ddamwain. Rhyw "ddarganfyddiad " oedd hynny yn fwy na dim arall.
Crybwyllasom mewn pennod flaenorol mai newyddiadur dewisol Sadrac Jones ydoedd Utgorn y Bobl. Darllennai ef bob gair, ond ei flasusfwyd ynddo oedd y "Golofn Farddol."
Ryw fin nos eisteddai Sadrac Jones yn ei gadair i ddarllen Utgorn y Bobl. Aethai Edward James, yn ol ei arfer, am dro i'r ffriddoedd, gan ddilyn llwybrau'r defaid i froydd y rhedyn a'r grug. Wedi bwrw golwg ar "newyddion yr wythnos" a'r "erthygl arweiniol," daeth Sadrac Jones at y "Golofn Farddol." Disgynnodd ei olygon ar ddernyn disgrifiadol—"Hen Felin Llanaber," a hoffodd ef yn fawr. Gwyddai am y lle er yn fachgen, ac yr oedd y darlun awenyddol yn dyner ac yn dlws.
Ar waelod y dernyn yr oedd yr enw "Idwal Ddu." Gollygodd y newyddiadur ar y bwrdd. "Idwal Ddu!" onid oedd darnau o'i waith ar y "sgrîn"? Aeth i'w chyrchu o'r gweithdy i'r gegin. Darllennodd amryw o ganeuon "Idwal Ddu" wrth olau'r gannwyll. Ond anfonesid y rheiny o rannau eraill o Gymru. A oedd mwy nag un "Llanaber"? Ond, a chaniatau hynny, beth am yr "Hen Felin"? Rhaid fod yr awdur wedi gweld honno; pe amgen, ni allasai ei disgrifio mor gywir. Pwy oedd "Idwal Ddu"? Tra y synfyfyriai ar y peth dychwelodd Edward James, wedi mwynhau ei daith yng nghwmni awel y nos.
"Wnewch chwi ddarllen y gân yma yn yr Utgorn?" ebe Sadrac Jones. "Yr wyf fi wedi cael hyfrydwch mawr gyda hi. Ni welais ddim erioed o'r blaen ar y testun."
Cymerodd Edward James y papur yn ei law, a dechreuodd ddarllen—nid fel un yn gwneud hynny ar yr olwg gyntaf. Yn wir, nid darllen y gân yr oedd, ond ei hadrodd, a chyn iddo orffen gwyddai Sadrac Jones mai ef oedd "Idwal Ddu." **** Ni fu ei arhosiad yn hir yn Llanaber. Cyffesodd mai pererin ydoedd, yn tramwy o'r naill dreflan i un arall, ac yn gweithio'i grefft i dalu ei ffordd. Ond yr oedd wedi arfaethu ysgrifennu llyfr o ganeuon a darnau disgrifiadol—"Cymru trwy lygad Bardd." Ac i'r amcan hwnnw teithiai'r wlad er mwyn dod i gyffyrddiad personol â'i hynafiaethau, ei phentrefi a'i golygfeydd.
Aeth llawer blwyddyn heibio er yr adeg y bu "Idwal Ddu" yn gweithio gyda Sadrac Jones. Ni thybiwn gyhoeddi'r "gyfrol" lafurfawr hyd y dydd hwn. A aeth y llafur hwnnw yn ofer? Fe ddichon y daw rhyw lengarwr o ddylanwad ar ei thraws ryw dro, ac y daw allan fel un o drysorau coll y dyddiau fu—"Cymru trwy lygad Bardd," gan Idwal Ddu.
PENNOD XII.
NADOLIG Y PENTRE.
YN y dyddiau fu, ni wyddai pobl a phlant Llanaber nemawr ddim am "ddyddiau gŵyl," ac eithrio'r Saboth a'r Dydd Diolchgarwch am y Cynhaeaf. Ni ddaethai Gŵyl y Banc yn ddefod gwlad a thref. Ond cydnabyddid Dydd Nadolig gan bob gradd. Caeid y siop a'r gweithdy yn ystod y dydd hwnnw. Ac, fel rheol, byddai'r tywydd yn gydnaws â'r adeg, a'r pentre wedi ei orchuddio gan eira. Edrychai'n dlws iawn, ac ni chŵynai neb ar gyfrif yr oerni. Canai Cloch y Llan yn y plygain, a byddai bywiogrwydd ar bob aelwyd y bore hwnnw. Rhaid addef na wyddem ddim am yr ymwelydd poblogaidd a elwir yn "Santa Claus." Nid oedd ei gylchdaith ef, y pryd hwnnw, yn cyrraedd Llanaber, ond yr oedd ei ysbryd yno, er bod ei enw yn ddirgelwch. Darperid anrhegion yn ddistaw bach, a dygid hwy i'r golwg ar fore Nadolig. Syml oedd bywyd, a chyffredin oedd yr amgylchiadau. Ychydig o'r plant fuasai'n fodlon newid eu haelwyd fach eu hunain am yr eiddo arall. A ydyw pethau yn aros felly ni wyddom. Ond dysgwyd i ni feddwl mai gŵyl yr aelwyd a'r cartre yw'r Nadolig. "'D oes unman yn debyg i gartref," yr adeg honno.
Dyna oedd syniad Sadrac Jones; ond gwahoddai'r plant a arferai fynd i'r gweithdy i'r gegin fawr yn ystod y dydd. Ac ni cheid neb yn "esgeuluso ei gyd-gynulliad" ar yr achlysur hwnnw. Gwyddem ymlaen llaw y byddai Sadrac Jones wedi darparu rhywbeth ar ein cyfer. Yr oedd yn adnabod y plant—yn deall eu nodweddion; a chyfaddasai'r anrhegion yn ol y wybodaeth oedd ganddo amdanom. Dywed y Rhodd Mam, yr hen Rodd Mam, fod "plant da yn hoff o lyfr." Mae'n debyg eu bod, fel rheol, ond y mae llawer eithriad. Nid apelia llyfr at bob plentyn, mwy na phob dyn mewn oed, yr un fath. Nid ydyw darllen yn nwyd i bawb, er bod darllen yn anhepgor i gasglu gwybodaeth. Ond deallai Sadrac Jones y gwahaniaeth, ac amrywiai'r anrhegionllyfr i un a chyllell boced i'r llall. Ond pan rannai'r cyflath," a thamaid o'r "plwm pwdin," byddai pawb ar yr un tir. Dyna'r pethau yn nyddiau mebyd, sydd yn lefelu bywyd, ac yn profi gwirionedd llinell Dewi Wyn,—" Brodyr o'r un bru ydym."
Ond cyrhaeddai "deddf datblygiad" i Lanaber, ac un tymor, penderfynodd yr "arweinwyr " gynnal "Cyfarfod Llenyddol " ar nos Nadolig. Yr oedd hynny yn beth newydd ar y ddaear, a chlywsom fod rhywrai yn gwrthwynebu'r ymgais. Dyna hanes pob drychfeddwl newydd. Y mae'n aflonyddu ar ddefod ac arfer. Ond ni ellir atal y llanw. Ffurfiwyd Pwyllgor a threfnwyd y rhaglen.
Cwrdd lleol ydoedd i fod, ac nid oedd un o'r testunau'n "agored i'r byd." Lleol oedd y beirniaid, ac eithrio beirniaid yr adrannau cerddorol a barddonol. Yr oedd yn rhaid i'r rheiny fod yn wŷr adnabyddus drwy Gymru benbaladr, a dewiswyd Eos y Ffrwd i gloriannu'r cerddorion a Gwilym Hiraddug i ddal y fantol gyda'r beirdd. Fe ddichon nad oedd y rhaglen yn boddhau pawb. Ac un rheswm ydoedd, bod rhai o'r enwogion lleol wedi eu cau allan. Y mae'n sicr na wnaethid hynny'n fwriadol. Fe ddichon nad oedd gwaith cyfaddas ar eu cyfer. Ond, rhywfodd, felly y bu. Dewiswyd gwraig y Siop i feirniadu'r "Pâr Hosanau du'r ddafad"; John Llwyd y Teiliwr i feirniadu'r "Twll Botwm "; William Parri'r Saer i feirniadu'r "Llwy Bren," a Robert Huws y Bugail i feirniadu'r "Ffon Ddraenen." Ac felly yn y blaen. Cynrychiolid pob crefft a galwedigaeth yn y fro ar y rhaglen ac eithrio un.
'D oedd neb wedi enwi Sadrac Jones. Sut y digwyddodd hynny? Buasai'r peth dan sylw'r Pwyllgor, fel y deallwyd wedyn, ond methwyd â chael testun i ffitio galwedigaeth Sadrac Jones. Yr oedd y "Twll Botwm" yn taro i'r dim i'r teiliwr, ond ni fuasai "gwadnu esgid " yn destun y gallesid disgwyl cystadleuaeth arno. Nid oedd crydd arall yn y fro, ac ni fuasai'n briodol ei roddi yn "agored i'r byd."
Ni faliai Sadrac Jones ei hun ddim am yr anffawd, ond dywedai Nansi Owen ei barn hi yn eithaf difloesgni. Pa reswm oedd rhoi enw John Llwyd yn y Raglen? Nid oedd wedi bod yn Llanaber ond am ryw ddwy flynedd a Sadrac Jones wedi bod yno ar hyd ei oes."
Ond digwyddodd rhywbeth cyn y Nadolig oedd i newid y drefn, ac i godi Sadrac Jones uwchlaw rhandir y "Twll Botwm" a'r "Llwy Bren." Daeth gair i hysbysu bod Gwilym Hiraddug, y beirniad barddonol, wedi ei daro'n wael, ac na allai gloriannu'r cyfansoddiadau. Galwyd y Pwyllgor ynghyd, a mawr fu'r dyfalu beth a ellid ei wneud. Yr oedd yn rhy ddiweddar i alw'r gystadleuaeth yn ol. Cododd un brawd i gynnyg enw Sadrac Jones.
"Nid ydyw ef yn fardd," ebe amryw.
"Fe ddichon hynny," ebe'r cynygydd, "ond gŵyr fwy am farddoniaeth na phawb arall yn yr ardaloedd yma. Ble y cewch chwi gasgliad mor chwaethus ag a welir ar y ' sgrîn' yn ei weithdy ef? Ac efe ei hun sydd wedi dethol y cwbl. A gŵyr y sawl fu yno fod Sadrac Jones yn awdurdod ar waith y beirdd, er nad ydyw yn arfer anfon ei waith ei hun i'r 'papur newydd.'
Ar y diwedd dewiswyd ef yn unfrydol i lanw lle Gwilym Hiraddug.
Cyfarfod hwyliog a gaed ar nos Nadolig, ac un o'r pethau gorau oedd beirniadaeth Sadrac Jones. Nid wyf yn cofio'r manylion, ond yr wyf yn cofio rhai o sylwadau'r gwrandawyr ar eu ffordd adref.
"Onid oedd o yn deud yn dda?—ac mor gartrefol a phe buasai'n eistedd ar y fainc gyda'r esgid."
"Ie," meddai'r llall. "Am yr esgid yr oeddwn innau'n meddwl wrth ei wrando. Yr oedd o yn 'pwytho' ambell un yn enbyd, ac yn rhoi y mynawyd yn y llall."
"Yn hollol felly. Neu, mewn geiriau eraill, yn 'ffitio'r wadn i'r troed,' a dyna sydd eisiau mewn beirniad iawn."
Nid oedd Sadrac Jones wedi arfer à bod yn ŵr cyhoeddus" cyn hynny. Dewisai'r encilion. Ond wedi'r Nadolig hwnnw daeth tro ar fyd yn ei fywyd. Ymledodd yr hanes am y Cyfarfod Llenyddol i ardaloedd eraill, a daeth enw Sadrac Jones yn "eiddo cyhoeddus" fel dyn oedd yn "dallt" barddoniaeth, ac yn medru didoli'r us oddi wrth y gwenith gwyn.
PENNOD XIII.
"Y TLWS ARIAN."
'NGHLENNIG I!--dyna'r ymadrodd atseiniai trwy bentre Llanaber ar ddydd cynta'r flwyddyn newydd. Nid oedd neb yn rhy hên na rhy falch i weiddi "Calennig," a'r cyntaf i weiddi ar ei gymydog a hawliai'r wobr. Ni fwynhâi pawb mo'r oruchwyliaeth honno, mwy nag unrhyw oruchwyliaeth arall sydd yn tybied rhoddi yn hytrach na derbyn. Eithriadau oedd y bobl hynny, ond gwyddai'r plant amdanynt, ac aent o'r tu arall heibio. Dyna ddedfryd y plant, mynd heibio'r drws, heb weiddi "Nghalennig i," a dywedai hynny gryn lawer am nodwedd y preswylwyr.
Ond yr oedd gweithdy Sadrac Jones yn un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar fore dydd Calan. Nid un neu ddau fyddai'n gweiddi, ond torf o blant, â'u lleisiau'n diaspedain tros y fro. Cymerai'r "Calennig" wahanol ffurfiau. Cacennau a melysion a geid yn y rhan fwyaf o'r tai. Ond meddyliai Sadrac Jones yn wahanol.
"Yr ydach chi wedi cael digon i'w fwyta yn ystod y Gwyliau," ebr ef, pan anerchai'r gynulleidfa fywiog oddi ar garreg y drws. "Ni ŵyr neb ohonoch am eisiau bwyd, a ŵyr?"
"Na ŵyr, Sadrac Jones."
"Y perigl ydyw fod rhai ohonoch wedi bwyta gormod. Ond cofiwch hyn,—os ydych am fod yn blant da, rhaid i chi ymroi ati i ddysgu, dysgu darllen a dysgu meddwl. A dyna ydw i am roi yn 'Galennig' i chwi, nid 'teisen' nac 'India-roc,' ond llyfr newydd. Dyma fo. A wnewch chi addo ei ddarllen a'i gadw'n lân?"
"Gwnawn."
"Codwch eich llaw. John Puw, wnei di gyfri'r dwylo?" (John yn gwneud).
"Deg ar hugain, Sadrac Jones."
O'r gorau. Ddaru ti dy gyfri dy hun?" "Naddo, mi anghofiais."
"Well i ti wneud. Faint ydi'r rhif yn awr?" "Un ar ddeg ar hugain."
Ie, ond rhag i ti fod yn odd number, mi alwaf ar Nansi Owen."
"Fuasech chwi yn leicio cael llyfr yn bresant, Nansi Owen?"
"Mae'n dibynnu sut lyfr fydd o, Sadrac Jones."
"Wel, ei enw ydi'r Tlws Arian, gan Tegidon."[1] "
"Rhoswch am funud, Sadrac Jones. Onid y fo a wnaeth y gân gampus honno, 'Hên Feibil Mawr fy Mam'? Mi glywais hên bregethwr o Sir Fôn—yr ydw i'n meddwl mai Owen Rolant oedd ei enw—yn canu 'Hên Feibil Mawr fy Mam' ar ddiwedd yr oedfa nes oedd pawb yn crio'n hidl. Beth ydi enw'r bardd, Sadrac Jones?"
"Tegidon—un wedi ei fagu ar ymyl Llyn Tegid."
"Felly'n wir. 'D oes dim byd sal wedi dwad o'r Bala, er bod ambell i stiwdent digon tila yn dwad yma ar y Sul. Ond y mae Doctor Edwards yn medru rhoi rhywbeth ynddyn' nhw, os caiff o chware teg."
Wedi hynny estynnodd Sadrac Jones gopi newydd spon danlli o'r Tlws Arian, yn gyntaf oll i Nansi Owen, ac yna i'r bechgyn o gwmpas y drws. A "chalennig" i'w gofio ydoedd hwnnw. Yr oedd ei enw'n dlws, a'i gynnwys yn dlws i gyd. Enillodd un neu ddau o'r bechgyn hynny "arian-dlws " mewn cystadleuaeth ar ol hynny. Ond annwyl yn eu golwg ydyw y Tlws Arian a dderbyniwyd o law Sadrac Jones ar drothwy blwyddyn sydd wedi ymado i'r distaw dir. Y mae'r Tlws Arian yn aros ymhlith llyfrau Cymru. Fe ddichon bod rhywrai yn ei gyfrif yn "hen ffasiwn" erbyn heddiw. Ond, yn sicr, y mae bendith ynddo i blant oes newydd na ŵyr nemawr am Degidon ac eraill o awduron hawddgar y ganrif a fu. **** Ond heblaw'r Tlws Arian, y mae peth arall sydd wedi peri i'r flwyddyn honno gadw ei gwyrddlesni ar lenni atgof. Buasai brwydr addysg yn bwnc y dydd yn Llanaber—yr ymrysonfa galed rhwng yr hên a'r newydd. Yn y gorffennol cedwid math o ysgol ddydd mewn ystafell berthynol i'r capel. Gweinidog oedd yr athro, a chyfunai ef wahanol orchwylion, megis pregethu, ffarmio a chadw ysgol. Yn yr adeg honno ni allai'r ysgol ddydd ei gadw ef. Cynhelid hi trwy roddion gwirfoddol, a rhoddion lled fychain oedd y rheiny ar y gorau. Ysgol ddigon cyffredin ydoedd, ysgol at "iws gwlad." Ond wedi'r frwydr, daeth tro ar fyd. Adeiladwyd ysgoldy yn y pentre, ac yr oedd eisiau "athro trwyddedig" i ofalu am addysg y plant. Daethai'r hên oruchwyliaeth i ben. Mawr y disgwyl am weled y "sgŵl newydd." Dywedid ei fod yn sgolor dan gamp, wedi bod yn y Coleg, ac yn gwybod popeth. Yr oedd cryn bryder ym meddyliau'r mamau a'r plant. Tybed yr arferai'r wialen? Un ffeind iawn oedd yr hên athro. Ni fyddai rhaid i un o'r plant ond cŵyno ei fod yn sâl, cai gennad i fynd adre ar ei union. A phan fyddai plentyn wedi anghofio'r home-lesson, byddai iddo fod ar neges dros ei fam yn esgusawd digonol. Ni orweithiai'r hên athro mo ymenyddiau'r plant, ond yr oedd ganddo ddawn arbennig i argraffu pethau ar eu cof. Beth am y dyn newydd? Tipyn yn geidwadol oedd pobl Llanaber gyda materion o'r fath. Yr oedd dieithrwch yn faen tramgwydd. Ond credai Sadrac Jones, fel arfer, mewn symud ymlaen gydag addysg a phopeth da. Ni fynnai ef ddychryn y plant, na chreu rhagfarn yn eu calonnau.
"Mi fyddwch wrth eich bodd," meddai, "efo'r athro newydd. Mae o wedi ei gymhwyso i gyfrannu addysg, ac arnoch chwi bydd y bai oni ddowch yn wybodus. Y mae bron yn amhosibl i un dyn fod yn ffarmwr ac yn ysgolfeistr. Buasai'n llawn mor hawdd i ddyn fod yn grydd ac yn deiliwr."
Nid oedd pawb mor selog dros addysg â Sadrac Jones. Oni ddaethai Hwn-a-Hwn ymlaen yn y byd heb gael ond "chwarter o ysgol."
Ond yr oedd y cyfnod newydd—fel llanw'r môr—yn dod i mewn, ac ar ei frig daeth yr athro newydd.
PENNOD XIV.
YR ATHRO NEWYDD.
DIWRNOD i'w gofio'n hir oedd diwrnod agor yr Ysgoldy newydd yn Llanaber. Adeiladwyd hi ar fin y ffordd mewn lle cyfleus i blant y pentre a'r wlad oddiamgylch. Dichon na chyfrifid hi'n ddim amgen nag adeilad hen ffasiwn erbyn heddiw, ond i'r sawl a'i gwelodd yn y dyddiau gynt ymddangosai'n rhywbeth newydd ar y ddaear. Dyna'r peth mwyaf newydd yn Llanaber y pryd hwnnw. Yr oedd iddi ddau borth, un ar gyfer y bechgyn a'r llall ar gyfer y genethod. Yr oedd meinciau'n rhesi ar y naill ochr a'r llall i'r adeilad oddi mewn, "lle tân" yn y canol, a desg uchel, lle y safai'r athro i alw'r enwau ac i gadw trefn. Nid oedd cadw trefn yn waith anodd ar y dechrau. Yr oedd yr athro yn newydd ac yn ddieithr, a theimlai'r plant raddau o ofn yn ei ŵydd.
Yr oedd Sadrac Jones wedi bod yn paratoi'r ffordd yn ein meddyliau ar gyfer ei ddyfodiad.
"Mi gewch chware teg, 'rwan, i ddwad ymlaen efo'ch addysg, a chofiwch chi fynd i'r ysgol yn gyson, a mynd mewn pryd, ac nid 'loetran' fel y byddai rhai ohonoch gyda'r hên athro."
"Ydach chi yn 'nabod y' scŵl' newydd, Sadrac Jones?"
'Scŵl newydd' wir. Pwy fu yn dysgu i chwi siarad fel yna? Rhaid i chwi beidio ag arfer geiriau o'r fath. Athro ydyw Mr. Powel, a gŵr bonheddig yng ngwir ystyr y gair. Cofiwch ei barchu, a bod yn ufudd."
"Ydi o yn ddyn ffeind, Sadrac Jones?"
'Dibynna hynny ar sut y byddwch chi'n ymddwyn, a gwneud eich gwaith. Chewch chi ddim hel esgusodion fel y byddai rhai ohonoch efo'r hên athro. Y mae Mr. Powel yn ddyn o ddifri, ond y mae yn sicr o ofalu y cewch chi bob chware teg."
Yr oedd yn eithaf amlwg fod Sadrac Jones yn meddwl yn fawr o'r athro newydd, a chan fod bechgyn y pentre yn meddwl mai Sadrac Jones oedd y dyn clyfra'n y wlad, fe fu hynny yn gryn fantais i Mr. Powel, er na wyddai ef ddim am y peth ar y pryd. Ond daeth i wybod yng nghwrs amser. Nid oedd plant Llanaber a'r cylch yn ddim gwell na phlant rhyw bentre arall, a buasai rhai ohonynt yn lled hy ar yr hên athro; parasant boen iddo lawer adeg, a dylasent gael eu ceryddu am y peth.
Ond daeth y rheiny i ddeall yn bur fuan nad gŵr i gellwair ag ef oedd yr athro newydd. Yr oedd rhywbeth yn ei edrychiad a barai i'r bechgyn fethu â bod yn ddibris ac yn afreolus. Gwelai i gyrrau pella'r ysgol, a chlywai'r ysmic lleiaf. Nid oedd yn bosibl ei dwyllo gyda dim. Ond pan wnaethai bachgen neu lodes ei orau, deuai gwen i wyneb yr athro, a rhyfedd y gwahaniaeth pan fyddai'n gwenu. Daethom i ddeall bob yn dipyn mai rhywbeth go fawr oedd ennill gwen yr athro. Nid arferai "wialen" na "chansen" i geryddu'r plant. Pan droseddai rhywun gofynnai iddo "aros ar ol," a siaradai ag ef yn bersonol. Ac i'r sawl a gofia'r munudau hynny—dim ond yr athro ag un o'r plant—ni raid dweud y buasai'n well gan rai ohonom gael curfa lled dost, na mynd trwy'r oruchwyliaeth honno drachefn.
Ond bu'r peth yn fendith i aml un, a daethom i wybod bod yr athro'n caru ein lles, ac yn awyddus am i ni droi ein cyfle i'r amcan gorau. Ni fyddem yn ail-adrodd yr hyn a ddywedai'r athro wrthym ar ein pennau'n hunain. Ac erbyn heddiw y mae'r atgofion yn rhy gysegredig i ni godi'r llen oddiarnynt, dim ond crybwyll y ffaith.
Ond efallai mai'r peth mwyaf boddhaol i ni yn yr athro newydd oedd ei fod ef, fel ninnau, yn "ffrindiau" i Sadrac Jones. Galwai yn y gweithdy wrth fynd i'w lety yn y ffermdy ar ben y bryn. Galwem ninnau ym min yr hwyr.
"Oes rhywbeth newydd ar y sgrin, Sadrac Jones?"
"Ydach chwi wedi gorffen eich tasgau ar gyfer yfory? Onid ydych, chewch chi ddim ymyrryd â'r sgrîn. Dysgu ydi'r peth cynta ac adloniant wedyn."
"Ydi Mr. Powel wedi gweld y sgrin, Sadrac Jones?"
"Ydi, ac y mae rhai englynion o'i waith wedi eu 'pastio' arni ers tro. Yr oedd hynny cyn i mi wybod amdano fel ysgolfeistr—dim ond fel bardd."
"Oes gyno fo ffugenw?"
"Nac oes. Y mae'n bodloni ar ddwy lythyren'J.P.'"
"Ydi o yn fardd da, Sadrac Jones?"
Campus. Mae o'n dallt y ' mesurau caethion,' ac wedi ennill gwobr am awdl mewn Eisteddfod."
"Beth ydi awdl?" ebem ninnau.
"Fedra i ddim sbonio'r peth i chi heddiw. Ond y mae'n rhaid cael bardd mawr i fedru gwneud awdl.
'Does neb yn y plwy yma yn gwybod beth ydi awdl heblaw Mr. Powel."
Ond ni soniai'r athro ddim am bethau felly gyda ni yn yr ysgol. Rhoddai ei holl sylw i'r gwersi, ac yr oedd i bob dydd ei wersi arbennig. Ysgolfeistr oedd Mr. Powel yn ystod y dydd a dim arall. Ym misoedd y gaeaf arhosai yn yr ysgol wedi i'r plant fynd adref. Ac wedi iddi nosi tynnai'r llenni i lawr a goleuai'r lamp. Gwelid y golau yn y ffenestri. Sut na fuasai'n mynd i'w lety? Nid oedd Sadrac Jones yn barod i esbonio'r dirgelwch.
"Y mae'n debyg ei fod yn cael mwy o heddwch i ddarllen ac astudio yn yr ysgoldy," oedd ei ateb.
Ond ryw noson, o gywreinrwydd, aeth dau ohonom yn ddistaw i iard yr ysgol, ac yr oedd mymryn o'r blind ar un ffenestr heb ei ollwng i lawr i'r gwaelod. Ac wedi inni ddringo i ben y wal, gwelem i mewn i'r ysgoldy. Ac yno yr oedd Mr. Powel, ond yn ddyn gwahanol iawn i'r hyn fyddai'n arfer bod yn ystod y dydd. Cerddai yn gyflym yn ol a blaen. Tynnai ei fysedd trwy ei wallt, ac yr oedd rhyw dân yn ei lygaid. Wedi bod felly am ysbaid safai wrth y ddesg, a dechreuai ysgrifennu. Ac yna cerddai yn ol a blaen, â darn o bapur yn ei law. Beth oedd yn ei wneud?
Aethom adre heb wybod. Ond yr oedd Sadrac Jones yn gwybod.
"Peidiwch a dweud gair wrth neb," meddai, "ond y mae'n debyg mai yr awen sydd wedi disgyn arno, a'i fod yn cyfansoddi awdl newydd."
PENNOD XV.
Y TORRWR CERRIG.
DEUAI rhai o blant yr ysgol o'r wlad, a hwy, fel rheol, fyddai y rhai cyntaf i gyrraedd yno yn y bore. Arferai plant y pentre redeg wedi i'r gloch ddechrau canu, ac o'r braidd y byddent yno cyn i'r drws gau. Ond cychwynnai bechgyn a genethod y wlad yn gynnar, disgwylient i'r gloch ganu. Ychydig fyddai'n trafaelu'r ffordd honno yn y bore, ac eithrio dydd ffair neu farchnad. Ond yr oedd yno un dyn yn yr un llecyn ar bob tywydd. Ni fyddai ei le byth yn wag. Ei enw oedd Mathew Dafis, a'i waith oedd "torri cerrig" ar y ffordd. Dyn bychan o gorff ydoedd; ag wyneb gwridgoch, a dau lygad siriol fel haul ar ddydd o haf. Eisteddai ar y pentwr cerrig gyda chlustog odano, a sgrîn ar ffurf cadair wellt uchel o'r tu cefn iddo i'w gysgodi rhag yr hin. Symudai'r "cysgod" yn ol y galw, i gyfarfod â chyfeiriad y gwynt a'r glaw. Clywid sŵn ei forthwyl o'r pellter, a'i ergydion yn amrywio, fel nodau mewn alaw—ysgafn a thrwm,—cyflym ac araf, bob yn ail. Ac felly hefyd y symudai'r twr cerrig. Wedi i un gyfran gael ei hollti, deuai pentwr arall i lanw ei lle.
Arferai'r plant sefyll i gael sgwrs fach â Mathew Dafis ar eu ffordd i'r ysgol. Ac un o'u cwestiynau cyntaf iddo fyddai :
"Beth ydyw hi o'r gloch? Ydan ni mewn pryd heddiw?"
Yr oedd clociau'r wlad yr adeg honno o flaen clociau'r pentre. Ni fyddai'r teulu yn gysurus eu meddwl oni byddai'r cloc rhyw awr "o flaen yr amser." A dywedai rhai o bobl Llanaber mai yr unig beth oedd ar y blaen yn y "wlad" oedd y cloc!
Ond gwyddai Mathew Dafis beth oedd hi ar y gloch. Yr oedd ganddo oriawr fawr yn ei logell, a honno wedi ei chydio wrth gadwyn o ledr, ac un pen iddi wedi ei sicrhau wrth fotwm ei wasgod. Ac wedi i'r plant amgylchu'r twr cerrig dodai'r morthwyl o'i law, a chydag arafwch tynnai'r watch fawr o'i logell, a dywedai'n bwyllog:
"Yr ydach chi yn reit saff am yr amser. Hanner awr wedi wyth,—newydd droi. Peth da ydi bod mewn pryd. Gwnewch eich gorau i ddysgu. 'Ches i ddim diwrnod o ysgol; 'd oedd dim byd felly yn y wlad yma pan oeddwn i yn hogyn."
Ond nid dyn anwybodus oedd Mathew Dafis. Ni wyddai gymaint am lyfrau a barddoniaeth â Sadrac Jones, ond gwyddai drwy sylwi a gwrando am bethau mewn Natur. Iddo ef, yn ystod boreau cynnar bywyd, y mae rhai o blant y cyfnod hwnnw'n ddyledus am wybod enwau adar a blodau, a gwybod am y bywyd rhyfedd a lecha mewn clawdd a llŵyn.
Bychan oedd ei gylch a chyffredin oedd ei orchwyl. Ond yr oedd mor siriol â'r gwanwyn, ac mor gyson yn ei orchwyl â goleuni'r dydd. Dyn y gweithdy oedd Sadrac Jones: dyn yr awyr agored oedd Mathew Dafis. Mainc y crydd oedd gorsedd y naill; twr cerrig oedd gorsedd y llall.
Bwthyn ar fin y ffordd oedd ei gartref â gardd fechan o flaen y tŷ. Yno tyfai'r blodau yn eu tymor, â gwrych o "bren bocs" o gwmpas y lle. Ac yr oedd y gwrych hwnnw yn gampwaith llaw a gwellaif. Yr oedd un ran ohono ar ffurf clochdy a "cheiliog gwynt" ar ei ben! Ni symudai'r ceiliog ddim. Ni allai. Pren bocs oedd ei ddeunydd. Ond troai pawb a ai heibio i edrych arno, a rhyfeddent at fedr y perchennog.
Trin y cerrig oedd ei orchwyl: trin yr ardd oedd ei bleser. Ond yr oedd mwy o ddelw'r ardd a'r blodau ar ei fywyd nag o ddelw'r cerrig a dorrai ar fin y ffordd. Gwyddai sut i hollti'r garreg, ac yr oedd celf yn ei ddull o ddefnyddio ei forthwyl. Awyddai ambell hogyn ysgol am " dreio ei law."
"Gaf i gynnyg torri'r cerrig yma, Mathew Dafis?"
'Cei, machgen i. Mi gaf innau gymryd fy anadl am funud neu ddau."
Ond methu y byddai'r bachgen er taro'n drwm. Ni ildiai'r mo'r garreg ddim.
"Nid yn y taro y mae'r dirgelwch," ebr Mathew Dafis. "Y mae eisiau dallt sut, a lle i daro, a rhaid iti ddysgu peth felly. Ond gwell i ti ddysgu dy wers yn yr ysgol, ac yna mi gei rywbeth gwell i'w wneud na thorri cerrig."
"Fuo chi'n hir yn dysgu eich gwaith, Mathew Dafis?"
"Wel, a deud y gwir, dysgu yr ydw i o hyd. Ar y dechrau mi fyddwn yn taro'n rhy drwm, ac yn torri coes y morthwyl wrth dreio torri'r garreg. Ond mi ddois i ddallt bob yn dipyn mai nid nerth braich ac ysgwydd ydi popeth. Weli di'r garreg yma? Daswn i yn ei gosod fel hyn, ni thorrai o gwbl. Ond wedi ei throi fel yma " (cnoc, a dyna'r garreg yn hollti'n llyfn a hwylus).
Fel yna y byddai Mathew Dafis yn diddori'r plant ac yn dysgu iddynt wersi syml, a ddaeth i feddu ystyr a gwerth gyda phethau eraill yn y blynyddoedd oedd i ddilyn.
Rywdro, wedi i ni droi allan i'r byd, gwelsom lyfr yn dwyn y pennawd—"The Art of Doing Things." Y mae celf ym mhob gorchwyl, a gellir troi'r gwaith symlaf yn fine art. Ond, erbyn meddwl, nid oedd cynnwys y llyfr hwnnw yn ddim amgen na gwedd arall ar y gwersi a gawsem gynt gan y torrwr cerrig ar fin y ffordd. Ac iddo ef a'i ddiwydrwydd syml yr oedd gwladwyr plwy Llanaber yn ddyledus am fod iddynt "ffordd dda " i'w thramwy yn feunyddiol. Mathew Dafis oedd road-mender ei fro, ac yr oedd ei orchwyl mor bwysig a'r eiddo'r athro ysgol, neu'r meddyg a ai heibio yn ei gerbyd i ofalu am y cleifion.
Y mae'r "torrwr cerrig" wedi ymado ers llawer dydd, a gwag yw'r bwthyn ar ymyl y ffordd. Ond pan yn ymweld â'r hên fro, ambell hirddydd haf, safwn ar y drofa, a dychmygwn glywed sŵn y morthwyl megis cynt!
PENNOD XVI.
DYDDIAU PRYSUR.
LLED farwaidd fyddai pentre Llanaber ym misoedd y gaeaf, ond ar drothwy Ebrill gwelid arwyddion o ddeffroad. Adeg brysur ar bob crefftwr yno fyddai'r Groglith a'r Pasg. Byddai eisiau cael rhywbeth newydd ar gyfer dyfodiad gwyliau'r gwanwyn. Gellid gwneud yn weddol gyda'r hên bethau yn ystod y dyddiau byrion a'r nosweithiau tywyll. Ni sylwai neb rhyw lawer ar y dillad na'r esgidiau y pryd hynny. Ond yr oedd yn rhaid cymryd pethau o'r fath i ystyriaeth pan fyddai'r dydd yn ymestyn, a'r haul yn dangos pethau yn eu lliw a'u llun priodol. Onid oedd y coed a'r gerddi yn gweddnewid bob dydd, a phopeth yn gwisgo newydd-deb a harddwch? Nid dilyn y ffasiwn" yr oedd pobl Llanaber yn y dyddiau gynt, ond dilyn Natur, ac ni ellid gwneud hynny yn weddus heb gael dillad newydd ac esgidiau newydd. Dywed Glasynys yn un o'i ganeuon fod Anian yn Ebrill yn gwisgo "esgid feillion am ei throed." Ond ni thalai'r esgid ysgafn honno i gerdded llwybrau'r wlad. Oherwydd paham byddai cyrchu mawr i weithdy Sadrac Jones cyn dyfod gŵyliau'r Pasg.
Dyna'r siars bendant ar yr aelwyd, "Cofia di fynd at Sadrac Jones yfory i gael mesur dy droed."
"Ond mi fesurodd y nhroed i'r llynedd."
"Eitha' gwir, ond y mae'n siwr fod dy droed di wedi tyfu er hynny. Y mae blaenau dy fysedd bron â thorri drwy'r esgidiau. Cofia di ddeud wrtho fo am eu gwneud nhw yn ddigon o faint y tro nesaf."
Ond i ni oedd yn adnabod Sadrac Jones nid oedd angen dim yn rhagor na "mesur y troed." Deallai ef ei waith, a deallai ei gwsmeriaid. Ac ymddiriedai pawb yn yr ardal yn ei onestrwydd a'i farn. A phan ddeuai rhywun anghyfarwydd i'r ardal, â thipyn o fursendod yn ei eiriau, ni byddai'n hir heb ddod i ddeall nad cydnaws ag annibyniaeth Sadrac Jones oedd goddef i neb ei "batroneisio " ynglŷn â'i alwedigaeth. Credai mewn prynu'r defnyddiau gorau, a rhoddai yntau'r gwaith gorau. Golyga hynny amser dyladwy i orffen y gwaith. Nid oedd Sadrac Jones yn berchen y ddawn i greu esgidiau, ac ni fynnai addaw ond yr hyn y gallai yn rhesymol ddisgwyl ei gyflawni. Ac am hynny gwrthodai gymhellion taer i wneud esgidiau ar yr "unfed awr ar ddeg."
"Os oes arnoch eu heisiau erbyn y Pasg ni allaf gymryd yr ordor. Y mae gennyf gymaint ag a allaf ddod i ben â nhw."
"'D oes dim i'w wneud ond mynd i'r dref am bâr ready made," dywedai'r cwsmer.
"Fel y mynnoch am hynny," dywedai Sadrac Jones; "ond cofiwch mai gwerthu am arian parod y mae siopau'r dre."
Newidiai hynny'r rhagolygon. Ychydig fyddai'n arfer talu "ar law" i Sadrac Jones. Dyna arfer gwlad y pryd hynny,—y gwas fferm yn addo talu wedi derbyn ei gyflog am yr hanner blwyddyn, a'r ffermwr ei hun yn addo setlo'r bil wedi gwerthu'r bustych yn ffair Wyl Ifan, neu ryw landmark o'r fath yn ystod blwyddyn. Ond ni roesai Sadrac Jones na gwas na morwyn erioed yn llys y mân—ddyledion. phan fyddai gweithiwr ynghanol trafferthion byw, a'i
"Dylwyth yn wyth neu naw,"
ni soniai Sadrac Jones ddim am ei ddyled.
"Mi gei dalu fel y medri di, John, ond pan fydd ar rai o'r plant acw eisiau pâr o esgidiau, tyrd yma fel arfer. Mi gei dy gefn atat yn y man, a daw'r plant i'th helpu dithau."
Ond trethai dyfodiad gwyliau'r Pasg amser ac amynedd Sadrac Jones. Câs beth oedd ganddo wrthod cais, ond yr oedd yn ormod o foneddwr i "dorri ei air." Gweithiai yn galed o fore i hwyr, a Nansi Owen yn "tendio" arno yn ddyfal, rhag iddo syrthio i wendid. Ond wedi iddo orffen y pâr olaf o esgidiau ar gyfer y Groglith byddai fel dyn wedi dod allan o'r caethiwed, llawenychai yn ei ollyngdod am ennyd o afaelion caledwaith hir.
"A glywodd rhai ohonoch y gog eleni?"
"Naddo, Sadrac Jones, ond dywedai Gruffudd Ffridd Wen iddo ei chlywed wrth fynd i nol y gwartheg bore ddoe."
Felly wir. A ddowch chwi am dro bore fory i edrych ydi'r peth yn wir? Mi awn i gyfeiriad y mynydd. Canodd un o'r beirdd yn glws iawn am y gog,—
'Pwy feddyliai canai cog
Mewn mawnog yn y mynydd.'
"Ond mewn lle felly y mae hi'n arfer canu, ac yno y clywir hi gynta' yn y rhannau hyn o'r wlad."
Ac felly yr aem yng nghwmni Sadrac Jones i'r ffriddoedd pell i glywed y gog. Arferai ofalu am geiniog i bob un ohonom i'w rhoddi yn ein llogell cyn cychwyn. A oedd Sadrac Jones yn ofergoelus? Mae'n debyg ei fod ar rai pethau. Onid ydyw pawb felly i raddau, os addef y gwir? Onid gwell gennych weld dwy frân nag un ar y ffordd yn y bore? Ai diystyr gennych pa ran o'r oen bach cyntaf a welwch yn y gwanwyn fydd nesaf atoch? A oes rhywbeth yn y traddodiad fod bod â cheiniog yn y llogell pan glywir deunod y gwcw—y gwcw gynta—ar fore o wanwyn mwyn yn ernes o ddedwyddwch? Barned y doeth a'r deallus. Ond er dyddiau Sadrac Jones hyd heddiw gwell gennym ei chlywed â'r geiniog yn ein llogell.
Ac os digwyddai na byddai'r gog wedi cyrraedd at ei chyhoeddiad mewn "mawnog yn y mynydd," ond odid na fyddem wedi darganfod nyth aderyn yn rhywle ar ein ffordd adref.
Ac os deuem ar draws nyth yn y drain, gwisgai Sadrac Jones ei spectol er mwyn cael golwg ar yr ŵyau.
Pwy a ddysgodd i'r aderyn wneud ei nyth, a'i wneud yr un fath drwy gydol y blynyddoedd? Y mae gwaith dyn yn newid.
"Crydd oedd y nhaid," ebr Sadrac Jones, "ond 'd ydw i ddim yn gwneud esgid heddiw fel y byddai ef. Ond gwna'r deryn du ei nyth eleni fel yr oedd yng ngardd Eden."
"Sut y gwyddoch chi fod yno aderyn du, Sadrac Jones?"
"Fuase'r ardd honno ddim yn Eden heb nyth aderyn. Ac mi welais ddarn o farddoniaeth rywdro yn deud bod rhai o'r adar bach wedi gofyn am ganiatad i fynd efo Adda ac Efa wedi eu gyrru o Baradwys, ac wedi mynd yn gwmni iddynt yn yr anialwch. Hwyrach mai ffansi ydi peth fel yna, ond y mae yn glws iawn. Ac yn rhyfedd iawn, mi gewch nyth aderyn mewn lleoedd digon diffaith a llwm.
Erbyn heddiw gwelir Easter eggs o waith celfyddyd yn ffenestri'r siopau. Ond yn nyddiau Sadrac Jones gwelid "wyau'r Pasg" yn daclus mewn nyth aderyn, ac yno y gadewid hwy mewn gobaith y deuent yn gywion bach" cyn hir. O! hên weledigaethau mwyn:
"Daeth aderyn bychan arall
A'r lâs gangen yn y coed."
PENNOD XVII.
AR DROTHWY'R HAF.
PE digwyddai etholiad ynglŷn â misoedd y flwyddyn, pa un a gawsai'r nifer mwyaf o bleidleisiau? Wrth feddwl am y peth yng ngolau'r dyddiau fu, ac yn ol syniad plant y wlad, braidd na chredwn mai'r ymgeisydd llwyddiannus fuasai mis Mai. Yr oedd mor boblogaidd gyda phob gradd. Ac os byddai'r hin yn lled afrywiog yn Ebrill—"gwynt a glaw yma a thraw"—edrychai'r bobl siaradai am y tywydd yn ddoeth, a dywedent, "Mi ddaw'n braf yn union. Mae mis Mai yn dod."
"Daw clymu, daw Clamai,
Daw cywion gwyddau bach."
<br Rhaid byw yn y wlad i fedru deall pethau o'r fath. Onid ar gangau'r helyg gyda glan yr afon y gwelid y "cywion gwyddau bach"; a ninnau'n torri cangen. wrth fynd adre o'r ysgol i'w dangos i Sadrac Jones? Siriolai ei lygaid.
"Ie, wir, dyma nhw. Oes rhywbeth tlysach na'r rhain? Daw Clamai, a'r cywion gwyddau bach."
"Be ydi 'Clamai,' Sadrac Jones?"
"Wel, mi wyddoch beth ydi dydd Calan."
"Gwyddom; y dydd cyntaf o'r flwyddyn."
"Ie, siwr; a chalan Mai ydyw'r dydd cyntaf o haf. Cyfrifid o'n ddiwrnod gŵyl ers talwm. Cariai'r llanciau a'r lodesi gangau haf' yn eu dwylo, a chyfarfyddent ar y weirglodd i ddawnsio—dawnsio haf."
"Welsoch chi hynny?"
"Naddo, yr oedd yr arferiad wedi darfod ffordd yma ymhell cyn i mi fedru cofio. Ond mi glywais y nhaid a nain yn sôn yn ddifyr am y peth."
"Dase'ch chi'n fachgen yr adeg honno, fuasech chi'n dawnsio, Sadrac Jones?"
"Wn i ddim wir. Yr oeddwn i mor sionc ar fy nhraed ag unrhyw hogyn yn yr ardal yma, ac mi fedrwn redeg fel y gwynt. Ond mae llawer ffordd i chwi i'ch mwynhau eich hunan heblaw efo rhyw gampau o'r fath.
Gwnewch yn fawr o'ch cyfle. Mynnwch weld prydferthwch mis Mai. Hwyrach y caf hamdden i ddwad am dro efo chi un o'r dyddiau nesaf. Dowch a'r sgrin' ymlaen at y ffenest yma. Ie, dyna hi. 'Rwan, chwiliwch am ddarnau barddonol sydd yn sôn am fis Mai."
(Ninnau yn craffu ar y sgrin.')
'Oes, Sadrac Jones, y mae yma lawer o bethau wedi eu gosod yn ymyl ei gilydd."
Debyg iawn. Felly yr arferwn wneud bob amser, rhoi barddoniaeth y misoedd yn eu lle. Mi fuase yn rhyfedd imi bastio' cân i fis Mai yn ymyl englyn i fis Rhagfyr. Popeth yn ei le, mechgyn i. Wel, darllenwch rai o'r darnau yna yn uchel, ac yn gywir. Dechreuwch gyda'r darnau byrion."
(Ninnau yn darllen).
Mynnwn, pe nef a'i mynnai,
Pe deuddeg mis fo mis Mai."
"Pwy oedd awdur y llinellau yna?"
"Dafydd ap Gwilym."
"Ie, un o feirdd mwya' Cymru. Bardd yr ha' oedd o, ac eisiau i'r flwyddyn i gyd fod yn fis Mai."
(Nid oedd y gân boblogaidd, "O! na byddai'n haf o hyd," wedi ei chyfansoddi yn nyddiau Sadrac Jones.)
"Sut na fuasai'n fis Mai drwy'r flwyddyn?"
"Nid dynion sydd yn trefnu pethau felly. Y mae haf a gaeaf, oerni a gwres, yn dilyn ei gilydd, rhag i ni gynefino gormod efo'r un peth. Y mae eisiau mis Rhagfyr yn ei dro, a phan ddaw hoffwch un peth sydd yn perthyn iddo."
"Be ydi hwnnw?"
"Wyddoch chi ddim?
Wel, yn y mis yna y mae'r 'Dolig. Ond anodd ydyw cofio am y 'Dolig ym mis Mai. Ewch ymlaen efo'r farddoniaeth."
(Ninnau'n darllen.)
"Wyneb y pruddglwyf wenai Weld llwyn, a maes mwyn, ym mis Mai."
'Pwy a wnaeth y ddwy linell yna?"
"Gwilym Cawrdaf."
"Ie, bardd hiraeth oedd o. Mi ganodd yn ardderchog, 'Hiraeth y Cymro am ei Wlad.' A byddaf yn meddwl wrth edrych ar ei lun mai dyn dwys. oedd o, yn tueddu at fod yn 'felancolaidd,' fel y dywedir. A'r gair Cymraeg am felancoli' ydyw 'prudd-glwyf.'
"Fyddwch chi ddim felly, Sadrac Jones?"
"Wyddoch chi mo'r cwbl, fechgyn. Mi fase'n anodd bod yn felancolaidd yn eich sŵn a'ch dadwrdd chwi. Ond y mae mis Mai yn medru ymlid y pruddglwyf i ffwrdd wrth i mi edrych ar y llwyn a'r maes yn eu dillad newydd. Deudwch y llinellau eto."
"Wyneb y pruddglwyf wenai Weld llwyn, a maes mwyn, ym mis Mai."
"Wel, dyna ddigon heddiw. Y mae gennych eich gwersi at y fory, ac y mae'n rhaid i minnau orffen yr esgidiau yma cyn iddi ddod yn 'ben tymor.' **** Dyna'r dull ymhlith gweision a morynion yn y dyddiau gynt-cyflogi "tan Glamai." Yr oedd mis Mai yn ddarn o flwyddyn y Jiwbili, ac yn agor dorau'r wawr. Cai'r gwas bach fynd adre am dro i'r hên ardal, a phawb yn synnu ei fod wedi tyfu cymaint ac yn edrych mor dda.
"Mi fyddi'n hwsmon toc," ebe'r coeglyd wrth y bachgen ar ben tymor.
Ac, yn sicr, ymwthiai tipyn o falchder i'r natur ddynol yn y pentre a'r ardal wledig. Deuai'r "hogyn gyrru'r wedd" i'r capel fore Sul ym Mai, â dillad newydd, esgidiau newydd, a het newydd, a honno ychydig ar ochr ei ben! Tybiai fod llygaid pawb yn y synagog yn craffu arno, ac o'r braidd y byddai drws y set yn ddigon llydan iddo fynd trwyddo. Pwy a warafunai hynny i'r bachgen hoff? Onid oedd yn dipyn o ad-daliad am lawer noswaith oer yn "llofft yr ystabl," a hiraeth ymron â'i lethu? Ond yr oedd mis Mai wedi dod, a rhwymau'r caethiwed wedi eu datod am ychydig.
Chware teg iddo i fynd i mewn drwy ddrws rhamant am dro, a theimlo bod y byd a'i holl ogoniant yn eiddo iddo ef. Dyna fraint ieuenctid. Y mae deunydd ei "nefoedd" yn eithaf syml, ond y mae nefoedd bore oes yn ogoneddus a hyfryd.
"Ni bydd na maes na dôl na bryn,"
yn yr adeg honno heb ei geinion.
'Wyneb y pruddglwyf wenai Weld llwyn, a maes mwyn, ym mis Mai."
Pa faint mwy'r llawenydd pan fo'r galon yn ieuanc, a gwres yn y gwaed? Rhyw lanw oedd "pen tymor" yn ardal dawel Llanaber, yn torri dros y ceulennydd, ac yn codi llestri bychain o'r tywod ar ei frig. Dacw nhw yn mynd, a'r hwyliau'n wynion o flaen yr awel. O! ddedwydd ddyddiau Mai—Mai'r flwyddyn a Mai bywyd.
Gall Rhagfyr gynrychioli rhyddiaith y misoedd, ond urddwyd mis Mai yn fis yr awen a'r gân.[2]
"Mai ddynesa fel arlunydd
Uwch adfeilion gaeaf du,
Gyda'i bwyntel y tyn ddarlun
Haf, ar fynwes dôl a dyffryn;
Adnewyddir anian gu.
****
Casglwn dalaith frith o flodau,
Plethwn hon gylch ei arleisiau,
Dawnsiwn dan y deiliog bren."
PENNOD XVIII.
PENTRE'R PLANT.
HYD y gwyddom nid ysgrifennodd neb lyfr ar hanes pentre tawel Llanaber. Dichon mai un rheswm am hynny ydyw nad oes iddo hanes eithriadol mewn unrhyw gyfeiriad. Ni chafodd y fraint o fod yn lle genedigol i neb a ddaeth yn enwog yn ei ddydd a'i oes, fel y digwydd i ambell bentre gwledig yng Nghymru. Rhyw bentre "diddrwg didda" ydoedd, heb nemawr hynodrwydd na bri. Beth oedd ei oedran? Sut y daeth yn bentre o gwbl? Gallesid tybied mai yr adeilad cyntaf a godwyd yn y fangre oedd eglwys y plwyf. Yr oedd honno yn hên ac oedrannus yr olwg arni. Gwelid hynny ar agwedd y muriau a'r clochdy, y coed yw yn y fynwent, a'r coffa syml ar y cerrig beddau. Rywsut, fe dyfodd y pentre o'i hamgylch, a hynny heb unrhyw fath o gynllun na threfn. Nid oedd yno "stryd" o dai, â phob un yr un fath â'r llall. Yr oedd y rhan fwyaf o'r tai yn "annibynnol," ac yn wynebu pedwar gwynt y nefoedd. Ac eto yr oeddynt yn debyg o ran ffurf a chyflead. Ceid mymryn o ardd o flaen y drws, lle tyfai wermod lwyd, hên ŵr, a botwm gŵr ifanc. Yn y cefn yr oedd gardd fwy, lle codid tatws, moron, a riwbob, ac yno gwelid coed gwsberins, cyrans duon, a chochion, ac ambell bren afalau. Ac yn y rhanbarth hwnnw, yn ddieithriad, y ceid y cwt mochyn, a chwt yr ieir. Arferai pawb o'r braidd "besgi mochyn," ac os digwyddai tipyn o genfigen ddod i feddwl y trigolion ynglŷn â'r "mochyn" y deuai. Yr oedd canmol eiddo cymydog yn beth lled beryglus hyd ddiwrnod y "pwyso," ac yna rhaid oedd ymostwng i ddedfryd y glorian.
Yr oedd yno un siop ag iddi enw Saesneg—"London House." Dywedai Sadrac Jones mai "Siop Dafydd Puw" y gelwid hi ers talwm. Aeth un o'i feibion i Lundain am rai blynyddoedd, ond wedi marw ei dad daeth yn ol i Lanaber, a helaethodd y siop, gan ei galw, o barch i'r brif-ddinas, yn "London House." Cynhwysai'r siop honno bob rhyw beth—o ril o edau i fyny at own sidan. Mewn gair, yr oedd ynddi gyfuniad o nwyddau dillad, ymborth, celfi amaethyddol, a chyfferïau meddygol, &c. Ai ambell un o'r pentre ar ei dro i'r dref gyfagos, ond wedi dod adre cyffesai nad oedd ynddi ddim tebyg i "London House."
I'r plant, fodd bynnag, siop arall, a gedwid gan Jane Jones, ac a elwid ar lafar gwlad yn "siop y bara gwyn," a feddai fwyaf o atyniad. Dynes sengl oedd Jane Jones, hynod o dwt a glân. Yr oedd ganddi ddawn i bobi a chrasu bara, a hwnnw yn "fara gwyn." Dyna oedd "moethau" yr ardal yn y dyddiau hynny. Fel rheol, bara haidd neu fara cymysg, fyddai ar y bwrdd; ond pan ddisgwylid rhywun "diarth" anfonid ar frys i siop Jane Jones i ymofyn y "bara gwyn." Eithr nid am fara yn unig yr oedd y siop honno yn enwog. Ei gogoniant i'r plant ydoedd y ffenestr lle dangosid y melysion," neu "fferins," yn iaith y fro. Yno yr oedd gingerbread wedi ei wneud ar lun ceffyl, ac wedi ei ymylu ag aur melyn. Yn y canol yr oedd y "minciag," a'r "losengis" mawr, â rhyw eiriau mwyn wedi eu gosod arnynt. Sawl gwaith y safasom o flaen y ffenestr honno, yn disgwyl i Jane Jones ddyfod i'r drws i ofyn,
"Wnei di fynd â'r dorth yma i dŷ Mary Tomos? Mae hi yn disgwyl ei modryb yno i de."
Nid oedd eisiau iddi ail ofyn. Gwyddem yr estynnai i ni ddarn o "finciag " neu gingerbread wedi i ni ddod yn ol.
Coffa da am Santes y "bara gwyn." Yr oedd yn ffeind dros ben. Rhoddodd lawer o'r "fferins " wneud negesau.
Gobeithio bod y bara gwyn wedi dwyn elw iddi. Ychydig o brofit a wnaeth ar y gingerbread. Rhannai ormod i'r plant.
Ac wedi i blentyn gael llafn o finciag am gario'r "bara gwyn" i dŷ cymydog, mawr fyddai'r awydd ymhlith y plant eraill am gael "siâr " ohono. Ond yr oedd yn rhaid gwneud "bargen" deg. Math o exchange oedd honno am nifer o "farbles" neu rywbeth arall.
Rhyfedd yr amrywiaeth o bethau a gedwir yn llogell bachgen. Y mae fel museum ar raddfa fechan—marbles, cyllell, pêl, llinyn, a "stirmant," neu chwibanogl. Nid oedd y cwbl yn nwyddau marchnadol. Ni fuasai yr un bachgen yn meddwl am roddi ei gyllell am ddarn o finciag. Nid oedd neb yn berchen pwrs, oherwydd nid oedd arnom ddim angen amdano. Yr oedd y llogell yn ddigon at gadw'r ychydig geiniogau a ddeuai i'n rhan. Ond digwyddai weithiau fod twll yn y llogell, ac ai'r geiniog ar goll. Felly y bu gydag Ifan Tŷ Coch. Cawsai geiniog am fynd â llythyr i ffermdy rhyw filltir o'r pentre. Rhoes hi yn ei logell, ond wedi iddo gyrraedd yn ol at siop Jane Jones nid oedd hanes amdani. Yr oedd twll yn ei logell. Dychwelodd ar hyd y llwybr troed i chwilio yn ddyfal am y geiniog a gollwyd, ond yn gwbl ofer. Daeth yn ol ar hyd y "ffordd fawr," wedi anobeithio'n llwyr. Cerddai â'i ben i lawr, ac er ei syndod gwelai geiniog yn ymyl carreg ar fin y ffordd. Nid oedd neb yn y golwg, a chododd hi. Mawr oedd ei lawenydd, a braidd nad aeth i ymffrostio am y peth.
"Do, mi gollais geiniog," meddai, " ond yr oedd popeth yn iawn. Mi ges geiniog arall. Dyma hi."
"Ie," meddai Sadrac Jones, "ond paid di a thrysio gormod i beth fel yna. 'D ydi o ddim yn debyg o ddigwydd eto. Gwell i ti edrych mewn pryd a ydyw dy boced yn saff. Ffol ydyw disgwyl y cei di geiniog ar lawr bob dydd."
Ond nid oedd raid i Sadrac Jones bryderu rhyw lawer yng nghylch pethau o'r fath. Ychydig o "geiniogau " a welem yn y dyddiau hynny. Telid i ni am wneud neges mewn ffordd arall, afal o'r ardd gan ambell un, a darn o "fara brith" gan Miss Harris y Persondy. Hi a ofalai am gysuron yr "Hen Berson," fel y gelwid ef. Nid oedd yn hên o ran yr olwg arno—dim hynach na Sadrac Jones. Ac edrychai'n well nag ef. Gŵr glandeg â bochau cochion, ac yn gwisgo "het silc" bob amser oedd y person. Adwaenai blant Llanaber i gyd, er nad ai ond ychydig ohonynt i'r "eglwys." Ni phasiai yr un bachgen ar y ffordd heb ofyn cwestiwn iddo, a hwnnw fel rheol yn gwestiwn o'r Beibl. Ni allem ei ateb ar y pryd.
"Gofynnwch i'ch tad wedi mynd adref," meddai Mr. Harris, "a chaf wybod gennych pan gwrddwn y tro nesaf."
A phed ai cryn amser heibio cyn iddo ein gweled drachefn, byddai'n sicr o gofio'r cwestiwn.
"Beth oedd nifer cenedl Israel pan gychwynnai o'r Aifft?" Ac os gallem ateb yn gywir, dyna gwestiwn arall, "Pa nifer ohonynt a gyrhaeddodd i Wlad yr Addewid?"
Rhyw lyfr bychan Cymraeg fyddai ei wobr ef. Daethom i fedru gwerthfawrogi hwnnw ymhen blynyddoedd ond ar yr adeg honno rhoddem y flaenoriaeth i'r "bara brith," am fynd â'r neges i Miss Harris.
Buom heibio'r Persondy wedi llawer blwyddyn, ac yr oedd popeth wedi newid. Ond wrth sefyll yn ymyl y llidiart dychmygem weld Miss Harris a'i gwallt gwyn, a'i gown du, yn tafellu'r "bara brith."
PENNOD XIX.
YMWELWYR.
Yn ystod misoedd yr haf deuai ymwelwyr ar eu tro i bentref Llanaber. Nid oeddynt yn perthyn i'r dosbarth hwnnw o gymdeithas fydd i'w gweld ar lannau'r môr. Yn y dyddiau hynny ni ddychmygai neb am gyfnod y modur a'r charabanc. Mae'n debyg y gwibia'r cyfryw bethau trwy Lanaber heddiw. Ni wyddom hyd sicrwydd. Awn yno, ambell dro, yng ngherbyd breuddwydion, a gwelem y lle fel yr ydoedd yn nyddiau difyr Sadrac Jones. Nid dod yno i fwynhau'r golygfeydd, neu i geisio adferiad iechyd y byddai'r "ymwelwyr " y cofiwn yn dda amdanynt. Perthynai eu neges hwy yn nes i'w "galwedigaeth," os gellid ei galw felly.
Yn eu plith yr oedd y "Sipsiwn." Deuent hwy bob blwyddyn, er na wyddid o ble. Eisteddai Nansi Owen yn ffenestr y llofft, a hysbysai Sadrac Jones yn y gwaelodion fod teulu "Abram Wood" yn dod dros Bont y Ddôl. Byddem ninnau'r plant yn gwybod am y peth, ac aem i ben y clawdd i'w gweld yn pasio, dwy neu dair o garafannau llwythog, yn cael eu tynnu gan hên geffylau teneuon, â'r dynion yn llewys eu crysau yn cerdded yn hamddenol tua'r pentre. Yr oedd ganddynt le arferol i wersyllu ar ddarn o dir wâst yn agos i'r afon. Ni warafunai neb iddynt, ac ni wnaent hwythau ddim i beri colled i'r ardalwyr. Gwerthent eu nwyddau o ddrws i ddrws—basgedi, carpedau a llestri alcan. Tynnai eu gwisgoedd sylw, lliwiau crand, a chadwyni tlysion am eu gyddfau. Dywedai Sadrac Jones eu bod yn perthyn i'r llwyth parchusaf ymhlith y Sipsiwn, ac yn meddu eiddo mawr, ond bod yn well ganddynt fyw yn yr awyr agored na byw mewn tai, fel pobl eraill. Cymerai rhai o'r pentrefwyr olwg wahanol ar eu bywyd crwydrol, a chyfrifent hwy yn " baganiaid," am nad aent i "lan na chapel." Ond yr oedd eu hymddygiad yn weddus, ac yn foneddigaidd. Fe ddichon y gallasai y rhai a'u beirniadai ddysgu gwers ganddynt yn y peth hwnnw. A hwyrach ein bod ninnau wrth adrodd yr hanes yn cymryd golwg rhy eithafol ar y Sipsiwn. Yr oeddym, ac yr ydym, yn edrych arnynt trwy lygaid Sadrac Jones. Rhoddai ef air da iddynt bob amser. Dangosent hwythau yn amlwg eu bod yn meddwl yn barchus amdano yntau. Deuent i'r gweithdy fin nos, a medrent siarad Cymraeg yn well na llawer a fagwyd yn Gymry uniaith. Ni fedrent ddarllen y darnau barddonol oedd wedi eu "pastio ar y sgrîn, ond dywedent fod ganddynt hwythau ganeuon yn eu hiaith eu hunain. Ac wedi siarad ar draws ac ar hyd, tynnai un o'r Sipsiwn y ffidil oedd yn llogell fawr ei got laes allan, a gofynnai,—
"Gawn ni roi tiwn, mistar?"
"Rhoswch am eiliad gael i mi gadw'r pethe yma, a'm gwneud fy hun yn barod."
Wedi diosg ei ffedog ai Sadrac Jones i'r gadair yn ymyl y ffenestr agored, a dyna'r ffidil yn dechrau siarad. Hwyrach mai canu a ddylasem ei ddweud, ond siaradai yr un pryd. Beth oedd yr iaith ni allwn fynegi, ond ai pethau rhyfedd drwy ein meddyliau. Erbyn heddiw credwn mai adrodd hanes bywyd y Sipsiwn" yr oedd y "ffidil" honno. Ymdoddai'r hindda a'r storm, y llon a'r lleddf i'w gilydd, cân aderyn ac ochenaid y gwynt, murmur afon a'r awel yn y coed. Gwrandawai Sadrac Jones fel dyn mewn gweledigaeth, a threiglai deigryn dros ei rudd. Craffai'r "Sipsiwn" arno, ac yn y man newidiai'r cywair, a chanai'r ffidil ryw fiwsig hoyw, ysgafndroed nes ein gwefreiddio.
Gwrandawai Nansi Owen yn y llofft uwch ben, ac yn ystod yr adeg y cenid y miwsig hoyw clywid ei chadair yn symud, a sŵn troed yn cadw step â'r miwsig. Tybed fod Nansi Owen wedi anghofio ei helbulon i gyd, ac yn dawnsio ar lawr y llofft?
"Peidiwch a sôn gair wrthi am y peth," ebe Sadrac Jones. "Codai'r ffidil yna awydd dawnsio ynof finnau, ond fedrwn i ddim."
Yr oedd Sadrac Jones yn ffrind i'r Sipsiwn, a phe buasai'n fyw hyd heddiw, credwn y buasai yn edmygydd diderfyn o Gipsy Smith, gŵr sydd yn falch o'i dylwyth, ac wedi sŵyno miloedd â'i barabl a'i gân.
Ond o blith yr ymwelwyr haf fe ddichon mai tylwyth gwahanol oedd yn fwyaf derbyniol gan bobl Llanaber. Delio mewn llestri pridd y byddent hwy, padelli, cawgiau, a phethau at wasanaeth y tŷ. A chan gofio, rhyw fath o "gyfnewid " oedd eu dull cyffredin o wneud busnes. Cludent eu nwyddau mewn trol ysgafn-" trol a mul," fel y dywedid, a'r gair Saesneg hawker wedi ei baentio ar ei hystlys i ddangos eu bod yn talu trwydded.
Eu harfer oedd cyfnewid y llestri pridd am hên ddillad wedi darfod eu dydd, a chrwyn cwningod. Treulid peth wmbreth o amser i ddadlau am y pris ar hindda a'r storm, y llon a'r lleddf i'w gilydd, cân aderyn ac ochenaid y gwynt, murmur afon a'r awel yn y coed. Gwrandawai Sadrac Jones fel dyn mewn gweledigaeth, a threiglai deigryn dros ei rudd. Craffai'r "Sipsiwn" arno, ac yn y man newidiai'r cywair, a chanai'r ffidil ryw fiwsig hoyw, ysgafndroed nes ein gwefreiddio.
Gwrandawai Nansi Owen yn y llofft uwch ben, ac yn ystod yr adeg y cenid y miwsig hoyw clywid ei chadair yn symud, a sŵn troed yn cadw step â'r miwsig. Tybed fod Nansi Owen wedi anghofio ei helbulon i gyd, ac yn dawnsio ar lawr y llofft?
"Peidiwch a sôn gair wrthi am y peth," ebe Sadrac Jones. "Codai'r ffidil yna awydd dawnsio ynof finnau, ond fedrwn i ddim."
Yr oedd Sadrac Jones yn ffrind i'r Sipsiwn, a phe buasai'n fyw hyd heddiw, credwn y buasai yn edmygydd diderfyn o Gipsy Smith, gŵr sydd yn falch o'i dylwyth, ac wedi sŵyno miloedd â'i barabl a'i gân.
Ond o blith yr ymwelwyr haf fe ddichon mai tylwyth gwahanol oedd yn fwyaf derbyniol gan bobl Llanaber. Delio mewn llestri pridd y byddent hwy, padelli, cawgiau, a phethau at wasanaeth y tŷ. A chan gofio, rhyw fath o "gyfnewid " oedd eu dull cyffredin o wneud busnes. Cludent eu nwyddau mewn trol ysgafn-" trol a mul," fel y dywedid, a'r gair Saesneg hawker wedi ei baentio ar ei hystlys i ddangos eu bod yn talu trwydded.
Eu harfer oedd cyfnewid y llestri pridd am hên ddillad wedi darfod eu dydd, a chrwyn cwningod. Treulid peth wmbreth o amser i ddadlau am y pris ar Q garreg y drws. Gwastreffid llawer o ddawn, ond yr hawkers fyddai'n cario'r dydd. Nid oedd fawr o groeso i'r dosbarth hwnnw yng ngweithdy Sadrac Jones. Pobl anniddorol oeddynt iddo ef, ac mor amddifad o awen â'r llestri pridd a gludid ganddynt ar hyd a lled y wlad. Rhoddai ef y flaenoriaeth i'r "Sipsiwn," a rhyfedd oedd hynny ar ryw olwg. Dyn diwyd, gweithgar oedd ef, yn byw'n rheolaidd a threfnus, ond yr oedd rhyw ramant yn ei enaid, a dyna, o bosibl, a esbonia ei hoffter o gymeriadau allan o'r ffordd gyffredin. Tybed fod un o'i hynafiaid wedi bod yn fardd teulu, neu yn delynor crwydrol? Pam y cai baledwr ar ei ymdaith o'r naill ffair i'r llall groeso ac ymgeledd o dan ei gronglwyd? Dyna'r ffaith, beth bynnag oedd yr esboniad. Bu yn Samaritan trugarog i lawer un nad ystyriai'r cymdogion ei fod yn werth sylw. Ond meddyliai Sadrac Jones yn garedig am y sawl oedd yn berchen awen, neu yn gwybod am fiwsig.
A oedd hyn yn wendid ynddo? Os felly aeth amryw o'r bechgyn fu dan ei addysg yn y gweithdy yn debyg iddo yn ddiarwybod. Ni allant wrando dyn crwydr yn chware ffidil ar y stryd heb fynd i'r drws a rhoddi ceiniog yn y casgliad.
Ac wrth wneud felly, daw'r atgof am "ffidil" y dyddiau gynt—the fiddle of dreams.
PENNOD XX.
NID oedd plismon" yn Llanaber. Ond deuai "plismon" y dre gyfagos yno ar ei dro. Cofiwn ef yn dda,—dyn mawr o gorff, wyneb coch, â golwg ffyrnig arno. Yr oedd ar y plant ei ofn, a rhedent i'r tai pan ddeuai i'r pentre. Adwaenid ef wrth yr enw "Jones y Plismon," a dyfalai pawb beth fyddai ei neges.
Tybed fod rhywun wedi gwneud rhyw ddrwg?
Ond, fel rheol, chwilio am y dosbarth hwnnw a elwid yn "drampers" y byddai ef, a gwae'r sawl a ddeuai i'w afaelion. Eu trosedd, gan amlaf, fyddai lladrata neu dorri i mewn i dŷ pan fyddai'r teulu oddi cartref. Digwyddai hynny ambell dro ar nos Sul yn adeg y "moddion." Ac os byddai'r hyn a ladratid o ryw werth anfonid at "Jones y Plismon," a deuai yntau i wneud ymchwiliad. Wedi eistedd yn y gadair wrth y bwrdd mawr yn y ffermdy, a thynnu ei lyfr allan, dechreuai holi :
"'Ddaru chi gloi'r drws cyn cychwyn?"
"Do, a rhoi y 'goriad dan lintar y ffenestr, fel arfer."
"Hên arfer ffol ydi honno," ebe'r Plismon. "Mi ddylech fynd a'r 'goriad efo chi. Oedd y drws wedi ei gau pan ddoisoch yn ol o'r moddion?"
"Oedd, ac wedi ei gloi, a'r 'goriad yn ei le, fel arfer."
"Hên walch oedd y tramp yna," ebe Jones. "Rhaid ei fod yn llechu yn y stabal neu'r tŷ gwair, Q ac yn eich gweld yn cuddio'r 'goriad. Wel, sut olwg oedd ar y gegin pan ddoisoch yn ol?"
Popeth yn strim-stram ar draws ei gilydd. Y cadeiriau â'u coesau i fyny, yr heiyrn tân ar y bwrdd, a llestri'r dresser wedi eu cario i'r briws."
"Oedd rhywbeth wedi ei dorri?"
"Na, dim byd felly, ond yr oedd un peth wedi mynd i ffwrdd, a pheth digon rhyfedd hefyd."
Beth oedd hwnnw?"
"Y canister te. Pan aeth Mari'r forwyn yma i chwilio amdano ar y silff acw, 'd oedd o ddim yno. Ac yr oedd pwys o de ynddo, wedi ei anfon yn bresant gan modryb Marged."
"Wel," ebe Jones, gan gau ei lyfr, "chlywais i am yr un tramp wedi gwneud peth fel ene o'r blaen—mynd a chanister te o'r tŷ. Ydach chwi'n siwr nad aeth o ddim â'r fowlen siwgwr?"
Ond nid oedd arwydd bod dim wedi mynd ond y canister te, a gwneud tipyn o anhrefn ar y dodrefn.
Dyna'r damage i gyd, ac yr oedd Jones y Plismon braidd yn siomedig. Ond wedi iddo gael "pryd o fwyd," a dernyn o arian am ei garedigrwydd yn cymryd yr achos mewn llaw, daeth popeth yn gysurus.
"Waeth i chi beidio â sôn am yr hyn ydych wedi ei golli," meddai, "dim ond dweud fy mod wedi galw, a bod y gyfraith yn gofyn am i'r cwbl gael ei gadw'n secret hyd nes daw'r lleidr i'r ddalfa."
Ond nid felly yr oedd pethau i fod. Daeth "lleidr Tŷ Gwyn" yn air ysmala ar dafod yr ardal.
Ac fel hyn y bu. Q Un bore, ar ol i'r plismon fod yno, agorodd gwraig y tŷ ddrws y ffrynt i fynd allan i odro, ac ar y rhiniog gwelai barsel mewn papur llwyd.
Aeth ag ef i'r tŷ, ac wedi diosg y papur, gwelai'r canister te a gollasid! Ac ar ddarn o bapur gwyn yr oedd dwy linell fel hyn,
"A wnewch chwi ddweud wrth blismon y dre Mai fi a gymerodd y canister de."
NID TRAMP.
"Un gair eto. Peidiwch â gadael y 'goriad dan lintar y ffenestr pan eloch o'r tŷ. Temtia peth felly rai pobl i wneud cast â chwi."
Yr oedd Marged Huws yn ddig iawn am fod neb wedi arfer y fath hyfder, a siarsiai'r gwas a'r forwyn i beidio â sôn gair am y peth. Fe ddichon iddynt fethu â thewi. Rywsut aeth y si drwy'r ardal, a daeth helynt y "canister te " yn bwnc y dydd.
Yr oedd Sadrac Jones yn lled ddistaw, er bod y sawl a ddeuai i'r gweithdy yn mynd dros y stori ac yn chwerthin yn braf.
Hwyrach mai dysgu gwers iddynt oedd mewn golwg gan y sawl a wnaeth y 'cast' yna," ebe Sadrac Jones. "Y mae rhai pobl yn galed iawn, ac yn angharedig. Pan ddaw crwydryn at eu drws ni roddant iddo damaid na llymaid. Y mae hynny yn annynol ac annheilwng. Hwyrach fod gormod o hynny wedi digwydd mewn ffermdai fel y Tŷ Gwyn."
"Rhyw awgrym oedd helynt y canister te' i ddangos y gallai'r tramp, pe mynnai, dalu'n ol. Ond ychydig iawn o hynny sydd wedi digwydd yn yr ardal hon."
"Ie, Sadrac Jones, ond 'd ydi pawb ddim fel chwi, neu ni fuasai eisiau Jones y Plismon, na neb arall."
A dyna, mae'n debyg, oedd yn wir. Ni adawai Sadrac Jones byth i'r un crwydryn fynd oddi wrth ei ddrws heb roi rhywbeth i'w helpu ar ei daith. Fe ddichon bod ambell "gymeriad " peryglus wedi galw ar ei dro, ond y mae rhywbeth yn nyfnderau natur y dyn gwaethaf a etyb i air a gweithred garedig.
Gallasai Sadrac Jones fentro mynd i orffwys y nos heb gloi'r drws. Yr oedd ei dŷ a'i eiddo yn eithaf diogel rhag ymosodiadau.
Bu hynny yn yr ardal wedi hyn. Lladratawyd eiddo gwerthfawr liw nos. Anfonwyd i'r dre, ond cofiai "Jones y Plismon" helynt y "canister te," ac ni chymerodd nemor sylw o'r peth. Anfonwyd drachefn i roddi mwy o fanylion. Ond erbyn hynny cawsai'r lleidr ddigon o amser i ddianc, ac ni chlywyd gair amdano, nac am yr eiddo coll.
hindda a'r storm, y llon a'r lleddf i'w gilydd, cân aderyn ac ochenaid y gwynt, murmur afon a'r awel yn y coed. Gwrandawai Sadrac Jones fel dyn mewn gweledigaeth, a threiglai deigryn dros ei rudd. Craffai'r "Sipsiwn" arno, ac yn y man newidiai'r cywair, a chanai'r ffidil ryw fiwsig hoyw, ysgafndroed nes ein gwefreiddio.
Gwrandawai Nansi Owen yn y llofft uwch ben, ac yn ystod yr adeg y cenid y miwsig hoyw clywid ei chadair yn symud, a sŵn troed yn cadw step â'r miwsig. Tybed fod Nansi Owen wedi anghofio ei helbulon i gyd, ac yn dawnsio ar lawr y llofft?
"Peidiwch a sôn gair wrthi am y peth," ebe Sadrac Jones. "Codai'r ffidil yna awydd dawnsio ynof finnau, ond fedrwn i ddim."
Yr oedd Sadrac Jones yn ffrind i'r Sipsiwn, a phe buasai'n fyw hyd heddiw, credwn y buasai yn edmygydd diderfyn o Gipsy Smith, gŵr sydd yn falch o'i dylwyth, ac wedi sŵyno miloedd â'i barabl a'i gân.
Ond o blith yr ymwelwyr haf fe ddichon mai tylwyth gwahanol oedd yn fwyaf derbyniol gan bobl Llanaber. Delio mewn llestri pridd y byddent hwy, padelli, cawgiau, a phethau at wasanaeth y tŷ. A chan gofio, rhyw fath o "gyfnewid " oedd eu dull cyffredin o wneud busnes. Cludent eu nwyddau mewn trol ysgafn-" trol a mul," fel y dywedid, a'r gair Saesneg hawker wedi ei baentio ar ei hystlys i ddangos eu bod yn talu trwydded.
Eu harfer oedd cyfnewid y llestri pridd am hên ddillad wedi darfod eu dydd, a chrwyn cwningod. Treulid peth wmbreth o amser i ddadlau am y pris ar Q garreg y drws. Gwastreffid llawer o ddawn, ond yr hawkers fyddai'n cario'r dydd. Nid oedd fawr o groeso i'r dosbarth hwnnw yng ngweithdy Sadrac Jones. Pobl anniddorol oeddynt iddo ef, ac mor amddifad o awen â'r llestri pridd a gludid ganddynt ar hyd a lled y wlad. Rhoddai ef y flaenoriaeth i'r "Sipsiwn," a rhyfedd oedd hynny ar ryw olwg. Dyn diwyd, gweithgar oedd ef, yn byw'n rheolaidd a threfnus, ond yr oedd rhyw ramant yn ei enaid, a dyna, o bosibl, a esbonia ei hoffter o gymeriadau allan o'r ffordd gyffredin. Tybed fod un o'i hynafiaid wedi bod yn fardd teulu, neu yn delynor crwydrol? Pam y cai baledwr ar ei ymdaith o'r naill ffair i'r llall groeso ac ymgeledd o dan ei gronglwyd? Dyna'r ffaith, beth bynnag oedd yr esboniad. Bu yn Samaritan trugarog i lawer un nad ystyriai'r cymdogion ei fod yn werth sylw. Ond meddyliai Sadrac Jones yn garedig am y sawl oedd yn berchen awen, neu yn gwybod am fiwsig.
A oedd hyn yn wendid ynddo? Os felly aeth amryw o'r bechgyn fu dan ei addysg yn y gweithdy yn debyg iddo yn ddiarwybod. Ni allant wrando dyn crwydr yn chware ffidil ar y stryd heb fynd i'r drws a rhoddi ceiniog yn y casgliad.
Ac wrth wneud felly, daw'r atgof am "ffidil" y dyddiau gynt—the fiddle of dreams.
PENNOD XX.
Y PLISMON."
NID oedd plismon" yn Llanaber. Ond deuai "plismon" y dre gyfagos yno ar ei dro. Cofiwn ef yn dda,—dyn mawr o gorff, wyneb coch, â golwg ffyrnig arno. Yr oedd ar y plant ei ofn, a rhedent i'r tai pan ddeuai i'r pentre. Adwaenid ef wrth yr enw "Jones y Plismon," a dyfalai pawb beth fyddai ei neges.
Tybed fod rhywun wedi gwneud rhyw ddrwg?
Ond, fel rheol, chwilio am y dosbarth hwnnw a elwid yn "drampers" y byddai ef, a gwae'r sawl a ddeuai i'w afaelion. Eu trosedd, gan amlaf, fyddai lladrata neu dorri i mewn i dŷ pan fyddai'r teulu oddi cartref. Digwyddai hynny ambell dro ar nos Sul yn adeg y "moddion." Ac os byddai'r hyn a ladratid o ryw werth anfonid at "Jones y Plismon," a deuai yntau i wneud ymchwiliad. Wedi eistedd yn y gadair wrth y bwrdd mawr yn y ffermdy, a thynnu ei lyfr allan, dechreuai holi :
"'Ddaru chi gloi'r drws cyn cychwyn?"
"Do, a rhoi y 'goriad dan lintar y ffenestr, fel arfer."
"Hên arfer ffol ydi honno," ebe'r Plismon. "Mi ddylech fynd a'r 'goriad efo chi. Oedd y drws wedi ei gau pan ddoisoch yn ol o'r moddion?"
"Oedd, ac wedi ei gloi, a'r 'goriad yn ei le, fel arfer."
"Hên walch oedd y tramp yna," ebe Jones. "Rhaid ei fod yn llechu yn y stabal neu'r tŷ gwair, ac yn eich gweld yn cuddio'r 'goriad. Wel, sut olwg oedd ar y gegin pan ddoisoch yn ol?"
Popeth yn strim-stram ar draws ei gilydd. Y cadeiriau â'u coesau i fyny, yr heiyrn tân ar y bwrdd, a llestri'r dresser wedi eu cario i'r briws."
"Oedd rhywbeth wedi ei dorri?"
"Na, dim byd felly, ond yr oedd un peth wedi mynd i ffwrdd, a pheth digon rhyfedd hefyd."
Beth oedd hwnnw?"
"Y canister te. Pan aeth Mari'r forwyn yma i chwilio amdano ar y silff acw, 'd oedd o ddim yno. Ac yr oedd pwys o de ynddo, wedi ei anfon yn bresant gan modryb Marged."
"Wel," ebe Jones, gan gau ei lyfr, "chlywais i am yr un tramp wedi gwneud peth fel ene o'r blaen—mynd a chanister te o'r tŷ. Ydach chwi'n siwr nad aeth o ddim â'r fowlen siwgwr?"
Ond nid oedd arwydd bod dim wedi mynd ond y canister te, a gwneud tipyn o anhrefn ar y dodrefn.
Dyna'r damage i gyd, ac yr oedd Jones y Plismon braidd yn siomedig. Ond wedi iddo gael "pryd o fwyd," a dernyn o arian am ei garedigrwydd yn cymryd yr achos mewn llaw, daeth popeth yn gysurus.
"Waeth i chi beidio â sôn am yr hyn ydych wedi ei golli," meddai, "dim ond dweud fy mod wedi galw, a bod y gyfraith yn gofyn am i'r cwbl gael ei gadw'n secret hyd nes daw'r lleidr i'r ddalfa."
Ond nid felly yr oedd pethau i fod. Daeth "lleidr Tŷ Gwyn" yn air ysmala ar dafod yr ardal.
Ac fel hyn y bu.
Un bore, ar ol i'r plismon fod yno, agorodd gwraig y tŷ ddrws y ffrynt i fynd allan i odro, ac ar y rhiniog gwelai barsel mewn papur llwyd.
Aeth ag ef i'r tŷ, ac wedi diosg y papur, gwelai'r canister te a gollasid! Ac ar ddarn o bapur gwyn yr oedd dwy linell fel hyn,
"A wnewch chwi ddweud wrth blismon y dre
Mai fi a gymerodd y canister de."
NID TRAMP."Un gair eto. Peidiwch â gadael y 'goriad dan lintar y ffenestr pan eloch o'r tŷ. Temtia peth felly rai pobl i wneud cast â chwi."
Yr oedd Marged Huws yn ddig iawn am fod neb wedi arfer y fath hyfder, a siarsiai'r gwas a'r forwyn i beidio â sôn gair am y peth. Fe ddichon iddynt fethu â thewi. Rywsut aeth y si drwy'r ardal, a daeth helynt y "canister te " yn bwnc y dydd.
Yr oedd Sadrac Jones yn lled ddistaw, er bod y sawl a ddeuai i'r gweithdy yn mynd dros y stori ac yn chwerthin yn braf.
Hwyrach mai dysgu gwers iddynt oedd mewn golwg gan y sawl a wnaeth y 'cast' yna," ebe Sadrac Jones. "Y mae rhai pobl yn galed iawn, ac yn angharedig. Pan ddaw crwydryn at eu drws ni roddant iddo damaid na llymaid. Y mae hynny yn annynol ac annheilwng. Hwyrach fod gormod o hynny wedi digwydd mewn ffermdai fel y Tŷ Gwyn."
"Rhyw awgrym oedd helynt y canister te' i ddangos y gallai'r tramp, pe mynnai, dalu'n ol. Ond ychydig iawn o hynny sydd wedi digwydd yn yr ardal hon."
"Ie, Sadrac Jones, ond 'd ydi pawb ddim fel chwi, neu ni fuasai eisiau Jones y Plismon, na neb arall."
A dyna, mae'n debyg, oedd yn wir. Ni adawai Sadrac Jones byth i'r un crwydryn fynd oddi wrth ei ddrws heb roi rhywbeth i'w helpu ar ei daith. Fe ddichon bod ambell "gymeriad " peryglus wedi galw ar ei dro, ond y mae rhywbeth yn nyfnderau natur y dyn gwaethaf a etyb i air a gweithred garedig.
Gallasai Sadrac Jones fentro mynd i orffwys y nos heb gloi'r drws. Yr oedd ei dŷ a'i eiddo yn eithaf diogel rhag ymosodiadau.
Bu hynny yn yr ardal wedi hyn. Lladratawyd eiddo gwerthfawr liw nos. Anfonwyd i'r dre, ond cofiai "Jones y Plismon" helynt y "canister te," ac ni chymerodd nemor sylw o'r peth. Anfonwyd drachefn i roddi mwy o fanylion. Ond erbyn hynny cawsai'r lleidr ddigon o amser i ddianc, ac ni chlywyd gair amdano, nac am yr eiddo coll.
PENNOD XXI.
DYFAIS Y MEDDYG.
BUASAI Sadrac Jones yn wannaidd ei iechyd ers tro, er na fynnai ef gydnabod hynny. Glynai gyda'i waith, er na fedrai wneud cymaint ag arfer. Pryderai Nansi Owen yn ei gylch, a chwynai wrth ei chymdogion nad oedd yn bwyta hanner digon.
"'R wy'n methu'n glir a'i berswadio i godi allan, a mynd am dro drwy'r caeau fin nos. Pa reswm iddo fod yn eiste yn y gornel wedi cadw noswyl, ac yntau wedi bod yn eistedd gyda'i waith drwy'r dydd? Mi weles adeg y bydde fo'n darllen ac yn pondro efo'i lyfrau. Rwan dydi o ddim yn agor llyfr, a phrin y bydd o yn edrach ar y papur newydd."
Ie, peth lled newydd yn ei hanes yw hynny. Beth am y sgrin, Nansi Owen?"
"O, y mae honno'n cael llonydd 'rwan, ac wedi ei throi a'i hwyneb at y pared."
Ryw ddiwrnod, pan ai Nansi Owen i nol y menyn i fferm Blaenddôl daeth Doctor Wyn heibio yn ei gerbyd. Boneddwr hynaws oedd ef, ac nid ai heibio i'r tlotaf ar y ffordd heb gyfarch gwell iddo.
"Bore da, Nansi Owen. Cerddwch mor sionc a hogan ugain oed. Sut mae Sadrac Jones?"
"Symol iawn," mi ddeud hynny. Doctor, er na fynne fo ar y byd i Mae o yn dal i weithio bob dydd, ond choeliech chi byth cyn i lleied y mae o yn i fwyta. A fedra i yn y myw ei gael i fynd allan, neu ddwad atoch chi i gael potelaid o ffisig."
"Felly'n siwr. Mi ddof heibio un o'r dyddiau nesa', ond waeth i chi heb ddweud dim am y peth. Mi ddisgynnaf ar ei wartha' fo fel barcut ar gyw. Peidiwch â thrwblo gormod yn ei gylch. Y mae cyfansoddiad Sadrac Jones mor wydn â'r lledr y mae o yn ei roi mewn esgidiau. Wedi rhedeg i lawr y mae o, fel ambell hên gloc, ond y mae'r main-spring yn iawn. Eisiau ei windio sydd, ac mi wnawn hynny, gewch chi weld."
Aeth Nansi Owen adre yn ysgafnach ei meddwl, ond ddywedodd hi ddim am y sgwrs ar y ffordd.
Ar brynhawn yr wythnos ddilynol daeth Doctor Wyn yn ei gerbyd, a gofynnodd i un o'r bechgyn ddal pen y ceffyl tra byddai ef yn y gweithdy. Yr oedd pob bachgen yn barod i wneud unrhyw gymwynas iddo ef, oni byddai'r ddannodd arno. Os poenid ef gan honno rhedai adref nerth ei draed rhag ofn i'r Doctor dynnu ei ddant!
"Holo! Sadrac Jones, dal i guro'r lapston yr ydych o hyd. Ydach chi ddim wedi gwneud eich ffortiwn bellach?"
Gwenodd Sadrac Jones.
"Na, Doctor, nid ydyw yn debyg y gwnewch chi na finne lawer o ffortiwn yn y byd yma."
Sut hynny? Yr ydan ni wedi gweithio'n galed am flynyddoedd—pob un yn ei ffordd ei hun."
"Eitha gwir. Ond 'd yda ni ddim yn cael ein talu'n ddigon da i wneud ein ffortiwn."
"Na hidiwch ddim, Sadrac Jones, mi gawn ddigon i dalu'n ffordd, er nad ydyw rhai pobol byth yn gweld eu digon. Ond galw wnes i heddiw i ofyn i chi ddwad am dro.
Y mae arnaf hiraeth am weld Llyn yr Hafod. Yr oedd o'n lle diguro am frithylliaid ers talwm. Ddowch chi?"
"Y mae gen i waith wedi ei addo
" 'Debyg iawn. Y mae gen innau waith hefyd, ond rhaid i ni gael ambell awr i orffwys neu fedrwn ni ddim dal ati. Taflwch yr esgid o'r neilltu a gwnewch eich hun yn barod."
Yr oedd Nansi Owen wedi bod yn clustfeinio, ac wedi tynnu dillad gorau Sadrac Jones allan o'r drôr.
Aeth yntau i'w ystafell i ymwisgo, a'r Doctor yn cerdded ol a blaen.
"Un gair," meddai yn ddistaw wrth Nansi Owen. "Gofelwch fod y tecell yn berwi erbyn y down yn ol. Mi fydd arno fo eisiau bwyd arswydus."
"O'r gorau," ebe Nansi Owen. "Ac mi fydd hynny yn beth go newydd yn ei hanes o, ers talwm."
Wedi cael Sadrac Jones i'r cerbyd eisteddodd Doctor Wyn yn ei ymyl, cymerodd yr awenau o law'r bachgen, a throes at Nansi Owen,
"P'nawn da. Mi ddown yn ol rywbryd cyn nos."
Safodd Nansi Owen â'i phwys ar y llidiart bach. "Un rhyfedd ydi Doctor Wyn," meddai. "yr oeddwn yn disgwyl ei glywed yn sôn am ffisig, ond ddaru o ddim."
Sylwai pobl y pentre ar y cerbyd yn mynd trwodd, a holent ei gilydd.
"Beth sydd yn bod? Sadrac Jones yn ei ddillad gorau, ac yng ngherбyd Doctor Wyn."
"Raid i chi synnu dim," ebe cymydog. "Edrychai Sadrac Jones yn gymaint o ŵr bonheddig â'r Doctor ei hun."
Ac felly yr ydoedd. Ac nid edrych yn ŵr bonheddig yn unig a wnai-dyna ydoedd. Yr oedd y nawn yn braf, ac awel y mynydd-dir fel gwin melys. Ac wedi iddynt ddod at Lyn yr Hafod yr oedd y ddau ymdeithydd fel bechgyn wedi cael diwrnod gwyl. Dychwelai atgofion bore oes fel y tonnau ar fynwes y Llyn.
Gollyngwyd y ceffyl o'r cerbyd. Tynnwyd y ffrwyn o'i ben, fel y gallai wledda ar y borfa las.
"Yr wyf wedi dod a gwialen bysgota," ebe'r Doctor, a rhaid i mi chwilio am bluen i ffitio'r dŵr. Y mae yma gyflawnder o bysgod: y gamp ydi eu dal nhw. Leiciech chi dreio'ch llaw, Sadrac Jones?"
"Na, wir, fûm i ddim yn pysgota efo genwair erioed—dim ond ceisio dal efo fy nwylo yn afon Llanaber. Mi eisteddaf ar y dorlan yma i'ch gwylio. Mi fydd hynny yn ddigon o fwynhad."
Ac yr oedd Sadrac Jones yn ei fwynhau ei hun yn y tawelwch a'r prydferthwch digymar. Gwyliai'r golau ar borffor y grug, a chysgod y cymylau gwynion ar y Llyn. Ac ar funud arall gwelai'r dŵr yn crychu, a physgodyn lliw arian yn cael ei gipio i'r lan. Yr oedd y Doctor yn "hen law," a'r cawell yn llenwi'n ddymunol. Ychydig a siaredid. Gwaith distaw ydyw eiddo'r pysgotwr.
Llithrai'r oriau heibio fel breuddwyd, a daeth yr adeg i ddychwel adre.
"'Does gen i ddim ond diolch o galon i chi," ebe Sadrac Jones, wedi dod i ymyl y tŷ. "Yr wyf wedi fy mwynhau fy hun yn ardderchog."
"Peidiwch â sôn am ddiolch, ebe'r Doctor. "Oes arnoch chi eisiau bwyd?"
Oes," ebe Sadrac Jones, "bron a llwgu." "Mi ddeudes i wrth Nansi Owen y byddai newyn arnoch wedi bod wrth Lyn yr Hafod."
Ac wedi iddynt fynd i'r gegin, tynnodd y Doctor hanner dwsin o frithyllod braf allan o'r cawell.
"Rhowch y rhain yn y badell ffrio, Nansi Owen, a gwnewch swper iawn."
PENNOD XXII.
"Y GWR DIARTH."
UN o'r mannau mwyaf nodedig yn ardal Llanaber oedd yr Hendre Lwyd—hen blasty wedi ei gylchynu gan goed. Arferai hên foneddwr fyw ynddo, ond yng nghwrs amser aeth y lle yn wag, a gadawyd ef felly am rai blynyddoedd. Nid oedd neb yn awyddus i'w brynu. Dywedid bod Dafydd Owen, Tan y Clogwyn, yn cael ei dalu gan rywun o Lundain am edrych ar ol yr ardd a chadw golwg ar yr eiddo. Ond ar ddiwedd haf, un o'r blynyddoedd dilynol, daeth "gŵr diarth" i weld y lle, a thaenwyd y si ei fod wedi ei brynu, ac yn bwriadu dod yno i fyw. Dyna bwnc y dydd. Cadarnhawyd y sibrydion yr wythnosau wedyn. Gwelid seiri maen a choed yn cyrchu i'r Hendre Lwyd i atgyweirio'r tŷ a'r adeilad
Gwelid wageni llwythog yn cludo dodrefn, ac yn y man daeth y perchennog newydd i arolygu'r gwaith. Ei enw ydoedd Mr. Bleddyn Rees. Dyn canol oed ydoedd yn cerdded yn fywiog, â golwg siriol a hawddgar ar ei wyneb. Yr oedd pobl Llanaber fel rheol yn lled amheus o ddieithriaid, ond rhoddodd Bleddyn Rees argraff ffafriol arnynt ar unwaith. Yn un peth, yr oedd yn Gymro trwyadl, a hefyd yn ddyn hollol ddirodres.
Yr oedd yn ddyn busnes, wedi bod yn byw yn un o drefi Lloegr, ac wedi "dwad ymlaen yn y byd." Ac ychwanegai'r ffaith honno at y diddordeb a deimlai'r ardalwyr yn ei ddyfodiad i'w plith. Tyn y dyn sydd wedi "dwad ymlaen yn y byd" sylw. Hanes llawer ydyw treio dod ymlaen, a methu. Ond yr oedd Bleddyn Rees wedi llwyddo. Rhaid ei fod, neu ni fedrai brynu'r Hendre Lwyd, a gwario ugeiniau o bunnoedd i wella'r adeiladau. Deallwyd hefyd y gwyddai bopeth am adeiladu, gwyddai werth y defnyddiau a holl fanylion gwaith y crefftwyr. Nid dyn i'w dwyllo â llygad-wasanaeth oedd Bleddyn Rees. Ond deliai'n anrhydeddus â'r gweithwyr, a daeth yr Hendre Lwyd yn ei ddiwyg newydd yn un o'r mannau gwŷchaf yn y wlad.
Ac nid gormod yw dweud bod dyfodiad Bleddyn Rees a'i deulu yno i fyw yn ddechrau cyfnod newydd. Hyd hynny symudai popeth—os symudent o gwbl yn yr un rhigolau. Dilynai'r ffermwr lwybrau ei dad a'i daid; cadwai'r siopwr yn y pentre nwyddau da, ond yr oedd yn dra amharod i wneud dim cyfnewidiad mewn na drws na ffenestr. Gwelid yr un pethau yn y ffenestr o dymor i dymor,-haf a gaeaf, yr un fath. Yr oedd rhyw fath o ddarlun lliwiedig yn ffenestr John Puw, y teiliwr, yn dangos nifer o ddynion ifanc mewn dillad newydd, crand.
Erbyn hyn aethai'r dynion ifanc hynny yn hynafgwyr, a chaniatau iddynt fyw, ond arhosai'r fashionplate yn hollol yr un fath. Ac felly gyda siopau eraill. Prynid "fferins " newydd i'w gwerthu, ond arhosai'r "fferins" yn y botel oedd yn y ffenestr heb newid dim, ond yn unig fod gwres yr haul yn yr haf wedi toddi rhai ohonynt, ac oerni'r gaeaf wedi eu troi mor galed â chraig. Ni ellid eu tynnu allan heb dorri'r botel! Sonnir weithiau am y "byd cyfnewidiol hwn," ond prin y meddyliasai neb hynny yn Llanaber cyn i Bleddyn Rees ddod i fyw i'r Hendre Lwyd.
Gwelodd ef y posibilrwydd oedd yn y pentre, a'r gwelliannau oedd yn eisiau, os gellid perswadio'r bobl i newid eu dull o fyw. A gwaith anodd ydyw hwnnw mewn tref a gwlad. Y mae'r ymlyniad wrth yr "hen bethau " yn rhywbeth cryf iawn—bron cyn gryfed â greddf. Rhaid yw symud yn araf ac yn wyliadwrus. Ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth Bleddyn Rees oedd chwilio am rywun o gyffelyb feddwl" ac yn medru edrych ymlaen. Ac felly y daeth i wybod am Sadrac Jones. Ac wrth basio un dydd troes i mewn i'r gweithdy.
"Esgusodwch fi am holi," ebe Bleddyn Rees, ond y mae eich enw wedi peri i mi feddwl fy mod yn adnabod perthynas i chwi. Hwyrach mai ffansi ydi'r peth. A oes gennych frawd?"
"Oes."
"Beth ydyw ei enw ef?"
"Mesac."
"Dyna chwi. Adwaenwn ef yn dda cyn i mi symud i ran arall o ddinas L. Clywais ef yn sôn amdanoch, ond yr oedd hynny ymhell cyn i mi feddwl am ddod i fyw i'r wlad. Digwydd mynd ar daith yr oeddwn y llynedd, a syrthiodd fy llygad ar Hendre Lwyd, a gwelais fod yr eiddo ar werth. Mi wyddoch chwi am y lle a'i hanes, Sadrac Jones."
"Mi fyddwn yn mynd yno ar adegau i fesur troed yr hen Sgweiar.' Un od oedd ef, ac ni fynnai newid dim ar y lle, oddi mewn nac oddi allan. Ond clywaf eich bod chwi wedi ei wneud fel newydd, ac wedi rhoi gwaith i'r crefftwyr yma mewn adeg ddigon marwaidd ar fasnach."
"Rhaid i chwi ddod acw i'w weled, Sadrac Jones. Hoffwn gael eich barn ar y cyfnewidiadau, ac ar bethau eraill o ran hynny. Ni raid i chwi ddod acw i fesur fy nhroed, cewch wneud hynny yn y gweithdy yma; ond byddai'n dda gennyf eich croesawu, a thrafod rhyw bethau sydd yn fy mwriad. Hwyrach nad ydynt yn bethau y byddwch chwi yn eu cymeradwyo. Mi glywais eich bod yn hoff o farddoniaeth, ac wedi dysgu llawer i'r plant yn y ffordd honno. Mi fu un ohonynt—prentis o saer—yn sôn wrthyf am y'sgrîn.' A gaf fi ei gweled?" Q Rhywbeth i blant ydyw honno," ebe Sadrac Jones, "ac i rywun fel fi sydd yn mynd yn fwy o blentyn wrth heneiddio. Dyma hi."
Edrychodd Bleddyn Rees ar y "sgrîn" gyda diddordeb digymysg.
"Mi welais lawer o bethau rhyfedd yn Lloegr," meddai, "ond welais i ddim yr un fath â hon. Ychydig a wn i am feirdd a barddoniaeth: bu fy mywyd yn rhy brysur mewn cyfeiriadau eraill. Ond hwyrach nad ydw i ddim yn rhy hên i ddysgu, ac mi gewch chwi fod yn athro, os byddwch mor garedig."
"Na, 'd oes neb yn rhy hên i ddysgu," ebe Sadrac Jones; "a dichon y bydd darllen llenyddiaeth Gymraeg yn gynhorthwy i chwi fwynhau'r seibiant a gewch wedi bod yn ymdrechu gyda masnach. Peth mawr yw cadw'r meddwl rhag rhydu."
"Nid i segura y deuthum i fyw i'r wlad," ebe Bleddyn Rees. "Yr wyf yn disgwyl cael cyfle i wneud rhywbeth i wella'r gymdogaeth. Y mae yma le tlws a dymunol. Yr hyn sydd eisiau ydyw deffro'r bobol, a'u symbylu i symud ymlaen gyda'r oes."
"Eithaf gwir," ebe Sadrac Jones. "Ac y mae'n dda gennyf glywed eich dymuniad. Bûm innau lawer tro yn breuddwydio breuddwydion, ond nid oedd gennyf allu na dawn i weithio allan y pethau y caraswn eu gweled. Yr ydych chwi yn wahanol, a dichon y gellir dweud amdanoch fel y dywedodd Mordecai wrth Esther ers llawer dydd: 'A phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser a hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth."
Chwarddodd Bleddyn Rees.
"Peidiwch â sôn am frenhiniaeth,' Sadrac Jones. Nid dod yma i deyrnasu a wnes i, pe gallwn, ond yn hytrach i fod o ryw wasanaeth syml i godi ychydig ar fywyd yr ardal, ac i roddi gwell mantais i'r bobl ifanc i dreulio eu horiau hamddenol. Ni fydd hynny ond datblygiad ar y gwaith a wnaethoch chwi o dan eich cronglwyd eich hun. Ac y mae'r plant sydd bellach wedi tyfu'n llanciau yn ddigon gonest i gydnabod eu dyled i'r gwersi a gawsant yng ngweithdy Sadrac Jones. Cofiwch ddod acw'r wythnos nesaf."
PENNOD XXIII.
Y CABAN COED.
AR brynhawn yn yr Hydref aeth Sadrac Jones i roi tro i gyfeiriad yr Hendre Lwyd. Yr oedd y dydd yn dawel, a'r dail yn disgyn ar ymylon y ffordd. Ac wrth iddo gerdded deuai llawer atgof am y dyddiau gynt i'w feddwl. Cofiai am yr adegau y byddai galw arno i fynd i "fesur troed" yr hen " Sgweiar." Un rhyfedd oedd ef. Anfynych y gwelid ef y tu allan i derfynau'r Hendre Lwyd. Treuliai lawer o'i amser wrtho ei hun mewn caban coed ar gwr yr ardd. Ei unig gydymaith oedd ci mawr o'r enw "Bernard." Siaradai efo'r ci fel pe deallai bopeth. A dichon ei fod yn deall ei feistr yn well nag y deallai neb arall ef. Yr oedd yno was a morwyn wedi bod yn ei wasanaeth am flynyddoedd. Mae'n debyg eu bod hwythau yn ei ddeall yn lled dda—yn deall ei "ffordd," fel y dywedir. Gwneid popeth yn ei amser." Yr oedd amser i godi, amser i fwyta, ac amser i fynd i orffwys dros nos. A phan anfonai nodyn at Sadrac Jones, gofynnid iddo alw am "bedwar o'r gloch" yn y prynhawn. A phe digwyddai iddo fethu â chyrraedd erbyn yr adeg, ni chai weled y Sgweiar y diwrnod hwnnw. Ond ni ddigwyddai felly. Deallai Sadrac Jones "arwyddion yr amserau" yn rhy dda. Gofalai am fod yn ymyl y tŷ erbyn "pedwar o'r gloch." Daeth y Sgweiar i ddeall hynny, ac yr oedd y peth wrth ei fodd. Ni ellid agor y giat' fawr a arweiniai at ddrws y ffrynt heb wneud tipyn o dwrw. Clustfeiniai "Bernard" yn y caban coed, a dechreuai gyfarth, cyfarthiad dwfn, cyrhaeddbell. "Paid â chodi dy gloch," ebe'r Sgweiar. "Sadrac Jones sy yna. Yr oeddwn yn ei ddisgwyl."
Distawai'r cyfarthiad, a gwelid Bernard yn dilyn ei feistr i lawr y llwybr.
"P'nawn da, Sadrac Jones. Yr ydych wedi dwad rhyw bum munud cyn yr amser. Dowch i'r ty."
Ac yno yr oedd te ar y bwrdd—te a thôst, a Mari Lloyd yn gofalu am y trefniadau.
Bu Sadrac Jones yn mynd ar yr un neges i'r Hendre Lwyd am flynyddoedd, ond ychydig a wyddai o hanes y Sgweiar. Ni siaradai am helyntion yr ardal, ac ni ofynnai gwestiynau. Eto yr oedd yn garedig a boneddigaidd. Gwahoddid Sadrac Jones i weld yr ardd, a lle godidog ydoedd. Yr oedd yno furiau uchel a choed ffrwythau yn tyfu ar hyd-ddynt; blodau amryliw, a rhosynau fil.
"Beth ydych yn ei feddwl ohoni, Sadrac Jones?" "Paradwys," ebe Sadrac Jones, "pair i mi feddwl am Eden ardd. 'Yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd.' Ac mi fyddaf yn hoffi'r adnod honno sy'n dweud ei fod Ef yn dod i'r ardd ac yn rhodio gydag awel y dydd.'"
Safodd y Sgweiar ar y llwybr.
"Lle mae'r geiriau yna?" meddai.
"Yn nechrau llyfr Genesis," ebe Sadrac Jones. Ni ddywedodd y Sgweiar ddim rhagor, ond yr oedd rhyw ddwyster yn ei wyneb.
A'r tro hwnnw gwahoddwyd Sadrac Jones i'r caban coed. Tynnodd y Sgweiar yr allwedd o'i logell ac agorodd y drws.
"Rhyw le preifat ydyw hwn," meddai; " ni ddaw neb iddo ond fi fy hunan."
"Lle cysurus dros ben," ebe Sadrac Jones.
Ac felly yr ydoedd. Yr oedd cypyrddau bychain yn y conglau, a chadair a bwrdd ar y canol.
Ac ar y bwrdd yr oedd papurau a llyfrau. Yr oedd ystôf yn y pen pellaf i'r caban, a lamp fawr wedi ei hongian wrth y nenfwd.
Ac yno y treuliai'r Sgweiar y rhan fwyaf o'i amser, heb neb yn gwmni ond y ci.
Dyna tro cyntaf a'r olaf i Sadrac Jones fod yn y caban coed. A phe gwyddai'r cyfan, nid oedd neb ond ef wedi bod oddi mewn i'r lle rhyfedd hwnnw heblaw ei berchennog.
Beth a barai iddo ef ddewis y fath fywyd unig? Sut yr aeth dyn mor hynaws yn feudwy?
Ymhen peth amser wedi hynny bu farw'r Sgweiar yn lled ddisyfyd. Daeth rhyw berthynas iddo yno, a deallid iddo farw'n ddi-ewyllys. O'r hyn lleiaf, ni ddarganfuwyd un ewyllys. Aed â'r dodrefn ymaith; caewyd y tŷ, ac felly y bu hyd yr adeg y gwerthwyd y lle i Bleddyn Rees.
Meddyliai Sadrac Jones am y pethau hyn ar ei ymdaith i'r Hendre Lwyd. Chwith oedd mynd yno a'r hên berchennog wedi ymado i'r distaw dir. Ni ddaethai nodyn iddo y dydd hwnnw yn gofyn iddo alw am "bedwar o'r gloch."
Cafodd Sadrac Jones groeso pur gan Bleddyn Rees a'i briod. Yr oedd y danteithion ar y bwrdd yn fwy amrywiol nag oeddynt yn nyddiau'r Sgweiar—cyfnod y "te a'r tôst" oedd hwnnw.
Ac wedi ymgom wrth y bwrdd yr oedd y perchennog newydd yn awyddus i ddangos y gwelliannau a wnaethid ar yr ystafelloedd. Yr oedd popeth wedi cyfnewid, ac wedi ei wneud yn y modd gorau. Ond, rywfodd, nid apeliai'r gwelliannau yr un fath at Sadrac Jones. Da oedd ganddo fynd allan i'r ardd. Aethai honno dan gyfnewidiad. Yn ffodus ni ofynnwyd ei farn am y pethau hyn. Yr oedd Bleddyn Rees yn rhy ddwfn yn ei gynlluniau i holi cwestiynau—dim ond dangos rhyfeddodau. Ond rywfodd ni ddaeth "Gardd Eden" i feddwl Sadrac Jones y nawn hwnnw. Yr oedd yno fwy o ôl celf nag o ddelw Natur. Tybed fod yr hên Sgweiar wedi troi i lyfr Genesis i chwilio am yr adnod,
"Yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd?"
Ac yna cofiodd am y "caban coed."
Nid oedd Bleddyn Rees wedi crybwyll dim amdano.
"Mi fyddai yna gaban yn rhywle yn y cyfeiriad acw?" ebe Sadrac Jones. "Mi fûm i ynddo ryw dro, estalwm. Ydi o yn aros?"
"Ydi, er ei fod wedi mynd yn lled fregus. Meddyliais am ei dynnu i lawr, a gosod hafdy newydd yn ei le. Mae'n debyg y gwnaf hynny erbyn y flwyddyn nesaf. Leiciech chi ei weld fel y mae? Y mae'r llwybr bron wedi ei orchuddio gan chwyn."
"Diolch yn fawr," ebe Sadrac Jones. "Mi hoffwn ei weld fel y mae er mwyn yr amser gynt."
Prin yr oedd Bleddyn Rees yn deall awydd Sadrac Jones. Pethau newydd oedd ei hoffter ef.
Y pethau a fu yn newydd ryw dro a garai Sadrac Jones.
Aethant at y caban coed. Yr oedd yntau wedi newid, ac wedi ei adael yn ddiymgeledd.
Yr oedd y tô yn rhwyllog, a'r coed yn pydru. Nid oedd clo ar y drws. Ac oddi mewn yr oedd y dodrefn wedi ymado y bwrdd, y gadair, y lamp—nid oedd yno ddim ond y muriau moel. Ymdaenasai gwê'r pry copyn dros y gongl bella.
"Yr wyf yn meddwl i mi weld cwpwrdd yn y fan acw," ebe Sadrac Jones, "wedi ei osod yn y gwaith coed."
Ysgubwyd gwê'r pry copyn i ffwrdd. Nid oedd dim i'w weld. Cymerodd Bleddyn Rees ei gyllell a rhoes hi yn yr agen, ac yn y man dyna ddrws y cwpwrdd yn agor.
Tybed fod rhywbeth wedi ei adael yno? Yr oedd y gongl yn lled dywyll. Taniwyd matsen, a rhoddodd Bleddyn Rees ei fraich yn y cwpwrdd.
"Y mae yma ryw bapurau," meddai, a thynnodd hwy allan. Ac yn eu plith yr oedd amlen fawr, wedi ei selio; a'r llwch wedi ymgasglu ar hyd-ddi. Beth ydoedd?
Wedi ei chael i'r golau gwelid ei bod wedi ei chyfeirio at ffirm o gyfreithwyr yn Llundain, ac ar yr ymyl yr oedd y geiriau Strictly Private.
"Anfonir hi i Lundain y dydd yfory," ebe Bleddyn Rees.
"Ie, dyna sydd yn iawn. Fe ddichon fod ynddi rywbeth pwysig, ac yr effeithia ei darganfod ar rywrai berthynai i'r gŵr a'i hysgrifennodd."
Anfonwyd yr ysgrif gudd i Lundain. Beth oedd ynddi?
PENNOD XXIV.
Y NEUADD NEWYDD.
YMHEN peth amser wedi anfon yr hyn a ddarganfuwyd ar ddamwain yn y caban i'r cyfreithwyr Llundeinig yr oedd eu henwau ar yr amlen, daeth cenadwri yn ol at Bleddyn Rees yn ymholi am y dull a'r modd y cafwyd yr ysgrif. Anfonwyd ateb yn rhoddi'r holl fanylion. Ac felly yr arhosodd pethau am rai wythnosau.
Ryw fore, fodd bynnag, daeth llythyr o Lundain. wedi ei gyfeirio i Sadrac Jones. Ac wedi cymryd ei spectol, a'i ddarllen yn ofalus, aeth Sadrac Jones i'r gegin, â golwg lled gyffrous arno.
"Gawsoch chi ryw newydd drwg?" ebe Nansi Owen.
"Naddo," ebe yntau, "ond y mae yn newydd go bwysig, a rhaid i mi fynd i weld Bleddyn Rees. Cewch wybod mwy pan ddeuaf yn ol, onid wyf wedi camgymeryd."
Yr oedd Bleddyn Rees yn arolygu rhyw welliannau o gwmpas y tŷ, ond pan welodd Sadrac Jones yn dyfod drwy'r giât, prysurodd i'w gyfarfod.
"Bore da, Sadrac Jones. Peth go ryfedd eich gweld chwi allan yr adeg yma ar y dydd. Oes rhywbeth wedi digwydd?"
"Wedi cael llythyr yr ydw i—o Lundain-ac mi hoffwn i chwi ei ddarllen."
Aed i'r parlwr.
"Mi gawn heddwch yn y fan yma," ebe Bleddyn Rees, a chaeodd y drws.
Estynnodd Sadrac Jones y llythyr. Wedi ei ddarllen neidiodd Bleddyn Rees ar ei draed.
"Yr wyf yn eich llongyfarch o waelod calon, a da gennyf mai fi ydi'r cynta' i gael gwneud hynny."
Yr oedd Sadrac Jones fel gŵr yn breuddwydio. "Ydach chi'n meddwl fod y peth yn wir?"
"'D oes dim amheuaeth, Sadrac Jones. Llawnodwyd y llythyr yma gan bennaeth y ffirm yr anfonwyd y papurau iddynt, a hysbysa ddarfod i Yswain yr Hendre Lwyd adael swm anrhydeddus o arian i'w hên ffrind Sadrac Jones, crydd, Llanaber. Ac wedi profi'r ewyllys, yr hyn a wneir ar fyrder, anfonir sicrwydd am drosglwyddiad yr eiddo i'r dywededig Sadrac Jones. Mi fydd yma lawenydd mawr yn yr ardal pan ddaw'r peth yn hysbys."
"Ni ŵyr neb ond chwi," ebe Sadrac Jones, ac mi garwn i'r peth gael ei gadw'n ddistaw hyd oni ddaw gair pellach ar y mater."
"O'r gorau," ebe Bleddyn Rees.
"Ni ddywedaf air wrth neb. Onid oedd yn rhyfedd i ni fynd i weld y caban coed y diwrnod hwnnw? Ond, gan gofio, chwi a feddyliodd am y peth, a chwi a soniodd am y cwpwrdd yn y mur. Gawn ni fynd i wel'd y lle unwaith eto?"
Ac felly yr aethant. Ond yr oedd teimladau pur wahanol yn eu meddiannu. Sefyll mewn mudandod a wnaeth Sadrac Jones, a chofio'r dydd y bu yno gyda'r hên Sgweiar.
Tybed mai wedi hynny y gwnaeth ei ewyllys? Tybed a ddaeth yr adnod a ddywedwyd yn ei glyw megis ar ddamwain â rhyw oleuni a chysur i'w feddwl? "Yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd." A ddaeth Eden yn ol? Ai rhyw awel o Baradwys a chwythodd dros ei enaid, ac a barodd iddo gofio am un a gyfrifai yn "ffrind ffyddlon a phur "?
Yr oedd Bleddyn Rees yn ddigon doeth i adael Sadrac Jones yn y tawelwch. Aeth allan am ennyd, gan gerdded ol a blaen. Ac wedi dod yn ol, dywedodd,
"Wyddoch chi beth, Sadrac Jones? Yr ydw i am gadw'r caban yma, a'i wneud mor debyg ag y gellir i'r hyn ydoedd yn amser yr hên Sgweiar. Ac mi gewch chwithau ddod yma pan fynnoch i fwynhau eich hun."
Aeth Sadrac Jones yn ol i'w weithdy, ac ni wyddys fod dim wedi digwydd. Ond amheuai Nansi Owen fod rhywbeth yn bod. Beth ydoedd, tybed? Yr oedd Sadrac Jones yn fwy tawedog, ac yn fwy disylw o bethau nag arfer. Ni wyddai hi am y meddyliau ymrithiai o'i flaen. Cadwai ei gyfrinach iddo ei hun. Nid oedd ynddo unrhyw awydd i ymgyfoethogi; ond, ar y llaw arall, ni allai wrthod yr hyn ddeuai iddo ar lwybr mor ddieithr ac annisgwyliadwy.
Do, meddyliodd Sadrac Jones gryn lawer yn yr argyfwng hwn yn ei hanes.
A phan ddaeth y manylion llawn a therfynol am drosglwyddiad yr eiddo iddo ef, yr oedd wedi penderfynu beth i'w wneud.
Aeth at Bleddyn Rees i ddaddlennu ei fwriad. Ac mewn ymddiddan cyfrinachol dywedodd,
"Yr ydych yn cofio'r ymgom a fu rhyngom amser yn ol, pan soniech am wneud rhywbeth i wella pethau yn Llanaber, ac i helpu'r bobl ifanc i ddiwyllio eu meddwl, ac i wneud y gorau o'u horiau hamdden?"
"Ydwyf," ebe Bleddyn Rees, "ac y mae'r peth yn fy meddwl o hyd, er nad oes gennyf weledigaeth eglur."
"Yr oeddwn innau wedi meddwl yn yr un cyfeiriad ers blynyddoedd," ebe Sadrac Jones. "Ond nid oedd gennyf fodd i droi'r meddwl yn ffaith. Byddwn yn croesawu'r bechgyn i'r gweithdy ar fin nos, a dichon i mi fedru cadw rhai ohonynt rhag mynd ar ddisperod."
"Nid oes dim amheuaeth am hynny," ebe Bleddyn Rees.
"Yr oedd eich gweithdy gystal ag ysgol iddynt ysgol nos."
"Wel, fy syniad i, pe buasai gennyf foddion, oedd cael adeilad pwrpasol yn y pentre, a'i neilltuo i fod yn Ddarllenfa Gyhoeddus at wasanaeth y bobl ifanc yn fwyaf arbennig. Ac, yn awr, wedi i Ragluniaeth wenu arnaf, yr wyf am roddi hanner y swm a adawyd i mi yn ewyllys y Sgweiar at yr amcan hwnnw, os bydd y trigolion yn cydweled â'r peth."
"Yr ydych wedi fy rhagflaenu," ebe Bleddyn Rees. "Syniad ardderchog. Ac mi rof innau'r geddill fydd yn angenrheidiol i ddarparu Darllenfa newydd a hardd."
Gwnaed y peth yn hysbys i'r ardal. Ac wedi i'r bobl ddeall mai anrheg ydoedd, ac na chwanegai ddim at y trethi, cymeradwywyd y peth mewn cyfarfod cyhoeddus. Codwyd ymddiriedolwyr, ac aed at y gwaith. Tynnwyd y cynlluniau gan Bleddyn Rees, a rhoddwyd y contract i grefftwyr yr ardal. ****}} Gorffennwyd y Ddarllenfa Gyhoeddus, a threfnwyd i'w hagor yn ystod wythnos y Nadolig. Diwrnod cofiadwy oedd hwnnw. Rhoddwyd te a bara brith i'r plant, swper i'r bobl mewn oed, a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr. Traddodwyd anerchiadau brwd, a chafodd Sadrac Jones a Bleddyn Rees dderbyniad tywysogaidd. Galwyd am araith gan Sadrac Jones. Aeth yntau i'r llwyfan, ac yno yr oedd darn o ganfas yn cuddio rhywbeth ar y mur. Tynnodd Sadrac Jones y gorchudd, ac yna gwelid tabled o fynor gwyn, ac yn gerfiedig arno,
"ER COF PARCHUS AM YSWAIN CAREDIG YR HENDRE LWYD."
PENNOD XXV.
WEDI LLAWER BLWYDDYN.
"Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw ohoni'n hir,
Ac er i'r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir:
Mae'r cof am dad a mam yn mynd
I'r bwthyn yn y ddôl,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw, galw'n ôl."
BU'R Neuadd yn gaffaeliad i Lanaber. Dechreuodd bennod newydd yn hanes y pentre. Cawsai'r lle ei ddodrefnu'n daclus, ac ar nosweithiau gaeaf ceid yno gysuron yr aelwyd a chwmni difyr. Gofelid am y cyfan gan Mr. Bleddyn Rees a nifer o frodyr wedi eu penodi i'r gwaith. Trefnid cyrddau adloniadol, a cheid ambell ddarlith. Yno y gwelsom y "llusern ledrith" am y tro cyntaf, a mawr oedd ein syndod. Buasai darlithydd y noson honno ar daith yn yr Amerig, a daethai â darluniau gwych o ryfeddodau natur a chelfyddyd yn y wlad fawr honno i'w dangos. Gwelwyd rhaeadr y Niagara; yr adeiladau anferth; y gwastadeddau maith, a'r fforestydd ardderchog. Ac yr oedd gan y darlithydd lawer i'w ddweud am y Cymry a welsai yn y Gorllewin, rhai ohonynt wedi ennill safleoedd pwysig gydag amaethyddiaeth a masnach. Cyfeiriodd at un felly oedd yn San Francisco, ar lan y Tawelfor, ac yn un o swyddogion y porthladd.
"Deuthum i gyfarfyddiad ag ef," ebe'r darlithydd, "yn nhŷ cyfaill iddo, ac yn ystod yr ymddiddan a gawsom, dywedai iddo adael yr hen wlad' pan yn bur ieuanc, ac iddo dreulio blynyddoedd ar y môr cyn ymsefydlu yn 'Frisco. Nid oedd wedi bod yng Nghymru yn ystod yr holl amser, er iddo fwriadu lawer gwaith. Soniai am ei fam, ond ofnai nad oedd hi ar dir y byw. Cyn gorffen yr ymgom daeth galwad amdano, ac ni chefais gyfle i'w weled wedyn. Ond deallais fod iddo hanes hynod, a'i fod yn fawr ei barch gan y Cymry yn y ddinas bellennig honno."
Lletyai'r darlithydd yn Hendre Lwyd, a chawsai Sadrac Jones wahoddiad ato i swper.
Wedi ymneilltuo ohonynt i ystafell arall aed i sôn am y pethau a glywsid yn y ddarlith. Dywedai Sadrac Jones iddo mynhau popeth, ond mai'r cyfeiriad at y Cymro hwnnw yn San Francisco oedd wedi glynu yn ei feddwl. Hoffai wybod rhagor amdano.
"Tebyg bod rhyw reswm am hynny," ebe'r darlithydd.
"Oes, a dyma fo: Aeth bachgen o'r ardal yma i ffwrdd lawer blwyddyn yn ol. Yr oedd rhyw awydd bod yn forwr arno, er nad oedd neb o'i deulu wedi bod yn agos i'r môr. Ceisiai ei fam ei berswadio i ddod ataf fi yn brentis o grydd, ond methodd. Aeth i ffwrdd yn ddistaw, ac ni chlybuwyd gair o'i hanes.' "A ydyw ei fam yn fyw?" ebr y darlithydd.
Ydyw, ac yn rhyfedd, y mae hi yn dal i'w ddisgwyl adre bob dydd."
"Oni fyddai'n well i chwi ei helpu trwy anfon llythyr i San Francisco? Gallech ei gyfeirio at y cyfaill y soniais amdano, a hwyrach y daw rhyw oleuni ar y dirgelwch, ac esboniad ar y distawrwydd." **** Anfonwyd llythyr un o'r dyddiau dilynol, wedi ei ysgrifennu gan Sadrac Jones, a'i gyfeirio i San Francisco. Ni soniwyd dim wrth Nansi Owen, rhag ofn i'r cyfan ddibennu mewn siom. **** Aeth amryw fisoedd heibio. Yr oedd yn ddydd o haf. Yn eu tro, daethai ymwelwyr i bentre Llanaber. Ac yn eu plith y diwrnod hwnnw yr oedd boneddwr trwsiadus, â golwg lled dramoraidd ar ei wisg. Cerddai yn hamddenol, gan edrych ar y tai, a safodd gerllaw'r Neuadd. Yr oedd y drws yn agored, ac aeth i mewn. Daeth allan a gwên ar ei wyneb. Pwy ydoedd? Yr oedd rhywbeth yn ei olwg yn peri i'r pentrefwyr graffu arno a meddwl ei fod yn debyg i rywun.
Ond gwyddai Sadrac Jones, a gwaith anodd ydoedd cadw'r gyfrinach iddo ei hun. Yr oedd Nansi Owen fel arfer yn gwau wrth ffenestr y Llofft, a honno wedi ei hagor, fel y gallai weled i lawr i'r pentre. Aethai Sadrac Jones allan o'r gweithdy i'r ffordd, gan roi ei bwys ar glawdd yr ardd. Yr oedd hynny yn beth lled newydd yn ei hanes—gadael y gweithdy ar ganol ei orchwyl. Nid oedd Nansi Owen yn deall y peth.
"Ydach chi yn disgwyl rhywun, Sadrac Jones?" "Ydw," ebr yntau. "Ond yr ydach chi mewn gwell mantais i weled. Oes yna rywun yn y golwg?"
"Y mae acw ryw bobol ddiarth yn dwad dros y bont. Dyna nhw wedi troi at yr eglwys. 'Rhoswch. Dacw rywun yn dod i fyny'r allt, dyn dieithr, mae'n siwr, ond."
Rhoes Nansi Owen ei phen allan o'r ffenestr. ac yr oedd rhyw gryndod yn ei llais.
"Wyddoch chi be, y mae o yn cerdded yr un ffunud â Lewis."
"Ydi, mi wranta," ebr Sadrac Jones. "Y fo ydi o, Nansi Owen."
Ac felly y daeth Lewis yn ol.
Argraffwyd yn Argraffdy'r Methodistiaid, Caernarfon.

Nodiadau
[golygu]- ↑ John Phillips (Tegidon 1810-1877), Y Tlws Arian, Wrecsam, Hughes a'i fab 1860
- ↑ Mis Mai gan Anthropos
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.