Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Tad a Mab, yn Mynwent Llanycil, ger y Bala
Gwedd
← Beddargraff Robin Meirion, yn Mynwent Trawsfynydd | Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 golygwyd gan John Thomas (Eifionydd) |
Beddargraff Tegerin → |
Beddargraff Tad a Mab, yn Mynwent Llanycil, ger y Bala.
Yr eiddilaidd îr ddeilen—a syrthiai
Yn swrth i'r ddaearen;
Yna y gwynt, hyrddwynt hen,
Ergydiai ar y goeden.
John Phillips (Tegidon)