Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 (testun cyfansawdd)
← | Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 (testun cyfansawdd) golygwyd gan John Thomas (Eifionydd) |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 |

𝔓𝔦𝔤𝔦𝔬𝔫 𝔈𝔫𝔤𝔩𝔶𝔫𝔦𝔬𝔫 𝔉𝔶 𝔑𝔤𝔴𝔩𝔞𝔡
SEF
1,000 O ENGLYNION,
WEDI EU
𝔇𝔢𝔱𝔥𝔬𝔩 𝔬 𝔚𝔢𝔦𝔱𝔥𝔦𝔞𝔲 𝔄𝔴𝔡𝔴𝔶𝔯 𝔥𝔢𝔫 𝔞 𝔡𝔦𝔴𝔢𝔡𝔡𝔞𝔯.
gan
EIFIONYDD.
(AIL ARGRAPHIAD)
Liverpool:
CYHOEDDWYD GAN I FOULKES, 18, BRUNSWICK STREET.
1882.
Yr Englynion yn nhrefn yr wyddor
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/A haeo dyn, hyny hefyd a fed efe
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/A'i dy nid edwyn ddim ohono ef mwy
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/A'r llewpart a orwedd gyda'r myn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Ab Ithel
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Absenoldeb y dydd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Adfeilion Castell Dinas Bran
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Adgyfodiad, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Adda ac Efa yn Mharadwys
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Addewidion Duw
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Afal, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Afr, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Agosrwydd marwolaeth Mynyddog a Threbor Mai
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Angor, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Angor, Yr (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Alarch, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Alarch, Yr 2
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Alarch, Yr 3
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Alarch, Yr 4
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Am fod yn hoff ganddo drugaredd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Am nad oedd le yn y llety
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Anerch at gyfaill mewn cystudd trwm
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Anffyddiaeth
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Anian ac Einioes
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Anrheg o Ffon
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Ansicrwydd Bywyd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Ar ddiwrnod oer claddedigaeth Emrys
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Aradr, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Arch Noah
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Aregwedd yn hud-ddenu Caradog
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Areithfa, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Arglwydd Mostyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Arwydd henaint
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Arwyddion Ieuenctyd a Henaint
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Asyn Balaam
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Asyn, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Atebiad i'r gofyniad anffyddol—"A oes Duw yn bod?"
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Atebiad y Parch. D. Gravel i'r Parch. R. Bonner
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Atheist, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awel, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awen—Pa beth yw?
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awenydd, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awr hunan
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awrlais Uffern
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awrlais, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awrlais, Yr 2
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Awyren, Yr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bardd Natur
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bardd, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bedd Dewi Wyn o Eifion
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bedd hen wraig hoff o'r Beibl
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bedd, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bedd, Y 2
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff 2
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Alawydd Menai
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Babanod
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Catrin Elis
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Cyffredinol
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Dafydd Ddu Eryri
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff dau faban
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff dau faban 2
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Dewi Arfon
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Dewi Wyn o Eifion
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Dic Aberdaron, yn Mynment Eglwys Isaf, Llanelwy
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Dr. Hughes, Llanrwst
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Dr. Roberts, Conglywal, Ffestiniog
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Eos Derfel
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff fy Mam
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff geneth un-ar-ddeg mlwydd oed, yn mynwent Dolgellau
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Gweinidog yr Efengyl
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff gŵr ieuanc duwiol
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff gwraig rinweddol
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff gwraig rinweddol (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Gwyndaf Eryri
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Gwyneddwr o'r enw Gabriel, yn Cincinnati
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Hugh Hughes
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Iorwerth Glan Aled, yn mynwent Llansannan
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff merch dduwiol
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff merch dduwiol (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Morwr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Morwr ieuanc
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Mr. O. Barlwyd Jones, Ffestiniog
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Mrs. David Evans, Tremadog
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Mrs. Ellen Thomas, Turnpike, Dyffryn, Capel Curig
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Robert Edwards (Robin Ddu o Feirion)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Robin Meirion, yn Mynwent Trawsfynydd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Tad a Mab, yn Mynwent Llanycil, ger y Bala
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Tegerin
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff tri phlentyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff Tri yn yr un bedd, yn mynwent Trefriw
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Cristion
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Cybydd Anghawr
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig David Griffith, Bethel, Arfon
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (3)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (4)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (5)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (6)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Jones, Talysarn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig Robert Thomas, Llidiardau
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff yn mynwent Denio, Pwllheli
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff yn mynwent Trawsfynydd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (10)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (11)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (12)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (3)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (4)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (5)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (6)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (7)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (8)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beibl, Y (9)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beth yw hi o'r gloch yn y nefoedd?
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Blodau Haf
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Blodau haf a Blodau serch
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Blodeuyn y Glaswelltyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Boddlonrwydd y Bardd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bonedd yr Awen
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Boreu o Haf
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Boreu o Wanwyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Boreu Oes
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Boreu yr Adgyfodiad
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Boreu, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Boreu, Y (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Breuddwyd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Briallu yn mis Ionawr yn Nghonwy
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bronfraith, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Brwydr fawr Eryri Etholiad 1868
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Brwydr Maes Bosworth
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Brwydr Sedan
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Buddugoliaeth Cariad
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Buelin, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bwbach Brain, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bwyd iach
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bychandra mawredd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bydded
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Byrdra einioes
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Byrdra einioes (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Byrdra einioes (3)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Byrdra einioes (4)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Byrdra einioes (5)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Byrdra einioes (6)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Byrdra einioes (7)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bywyd yn y Gwanwyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bywydfad, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bywydfad, Y (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Bywydfad, Y (3)
- C
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cadair wag Eisteddfod Genedlaethol Rhuthyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cadeiriad Bardd Nantglyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cadeiriad Gaerwenydd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cadeiriad y Bardd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cadernid Pont Menai
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cael bod gydag Ef
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Calan, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Calan, Y (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Caledfryn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Calfaria
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cantre'r Gwaelod
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cantre'r Gwaelod (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Car Llusg, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cardotyn crwydraidd, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cardotyn, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cardotyn, Y (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cariad
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cariad Duw
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Carnhuawc
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Carw, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Castell Rhuthyn
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cawrdaf
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Ceidwad y Carchar
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Ceiliog Gwynt, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Ceiliog Gwynt, Y (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Ceiliog, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cenfigen
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cenfigen (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cerdd Dafod
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cerfiadau y don
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cipdrem ar gwm rhamantus ger llaw Pennal
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cledd i fy mron claddu fy mrawd
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cleddyf, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cloch y Llan
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Clod ac anghlod
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Clod i Dduw
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Codiad Haul
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Colledigion, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Colli cyfeillion
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cor y Coed
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Coron y Bywyd i'r Cristion
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cranc, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Crist ar y Groes
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Crist ger bron Pilat
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Crist, y Meddyg perffaith
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Croes Crist
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Croesawiad Bulkeley Hughes, Ysw., A.S.
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cryd, Y
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cryd, Y (2)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cryd, Y (3)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cryd, Y (4)
- Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Cryd, Y (5)
RHAGDRAETH I'R ARGRAFFIAD CYNTAF.
GYDWLADWYR AWENGAR,
WRTH gyfarfod ohonof, o bryd i bryd, âg englynion gwych, yma a thraw, tarewid fi mai nid annyddorol a fyddai casgliad argraffedig o'r cyfryw, modd y gellid troi iddo, yn awr ac eilwaith, am yr englynion rhagoraf ar amrywiol destynau. Ymgais anmherffaith i geisio llanw y bwlch yna yn ein llenyddiaeth yw y Casgliad hwn.
Gwelir fod y Casgliad yn cynwys rhai cnglynion heb feddu teilyngdod llenyddol cyn uched, nac ychwaith mor gynghaneddol gywir, a'r mwyafrif sydd ynddto: ond gwybydder mai nid prinder defnyddiau at y gwaith, mewn un modd, a barodd i mi ddethol y cyfryw (gan nad ydyw y llyfryn hwn yn cynwys traian yr englynion gwych a gesglais); eithr yn hytrach credu yr oeddwn fod rhyw hynodrwydd neu gilydd yn perthyn i'r cyfryw englynion ag a gyfreithlonai eu dodiad yn y Casgliad. Diau y dichon i englyn fod yn benigamp serch iddo gynwys y gwall o dor mesur," neu "drwm ac ysgafn," neu "west awdl," & Dylid, yn ddiamhen, gadw at y rhecolau gwarantedig; ond y mac eithriad i bob rheol; ac eithriadau yw y gwallau cynghaneddol sydd yn y detholiad hwn.
Prin y rhaid sylwi fod prinder uen helaethrwydd y detholion o waith awdwyr a geir yn y Casgliad hwn i'w ystyried yn un prawf oddiwrthym o deilyngdod y cyfryw fel beirdd yn ystyr eangaf y gair: ac yr ydym yn sicr na bydd neb parotach i gydnabod teilyngdod englynion fel yr eiddo Trebor Mai, &c., nag awdlwyr a phryddestwyr cadeiriol ac ariandlysog.
Gan i mi fod wrthi yn casglu defnyddiau y llyfryn hwn, wrth fy hamdden, am dros ddeuddeng mlynedd, a hyny o luaws o wahanol ffynonellau, megys llyfrau, newyddiaduron, llafar gwlad, &c., diau yr esgusodir fi gan gyfeillion os defnyddiais eu cynyrchion heb eu caniatad: ac i'r cyfryw, yn nghyda phawb a estynasant unrhyw gynorthwy tuag at gwblhad y gwaith anmherffaith hwn, y dymunaf gyflwyno fy niolchgarwch mwyaf diffuant.
Yr eiddoch,
EIFIONYDD.YR AIL ARGRAFFIAD.
YCHYDIG o gyfnewidiadau a wnaed yn yr argraffiad hwn rhagor y cyntaf oddigerth yn enwau awdwyr rhai o'r englynion. Gadawsom yr "Ychwanegiad" fel yr oedd rhag peri dyryswch rhwng y ddau argraffiad. Yn chwanegol at y cywiriadau a grybwyllwyd yn enwau yr awduron, dymunwn hysbysu mai awdwr y 7fed englyn yn tudal. 10, yw Thos. Llwyd, o Benmaen, Meirionydd; y 4ydd yn tudal. 15, Tegerin; yr olaf yn 19, Meirchion a Thalhaiarn rhyngddynt; yr olaf yn 20, Ieuan Awst, yr hwn a gyfansoddodd efe yn feddargraff i'w briod; yr 2il yn 23, Eryron Gwyllt Walia; y бed yn 25, Nicander; y 5ed yn 39, Hugh Maurice Hughes; y 5ed yn 40, Dewi Medi, Llanelli; y 6ed yn 41, Dewi Havhesp; y 5ed yn 44, Ieuan Awst; y 6ed yn yr un tudal., Twrog; y 3ydd yn 50, W. Eilir Evans; y 5ed yn 71, Dewi Wnion, Dolgellau; yr 2il yn 102, Huw Derfel; yr olaf yn 108, Thomas Prys o Blasiolyn; y 5ed yn 125, Meiriadog; a'r 6ed yn 137, Dewi Havhesp. Digwyddodd ychydig fân wallau hefyd yn y prawfleni, ond y pwysicaf ohonynt efallai ydoedd dodi y yn lle u yn englyn prydferth R. ab Gwilym Dda yn tudal, 101; ac hefyd ddodi a yn lle e i ddiweddu y gair carne yn yr ail englyn yn tudal, 139,
Gan ddiolch am y gefnogaeth a gafodd yr argraffiad cyntaf, ac yn arbenig i olygwyr y gwahanol gylchbgronau a newyddiaduron am eu sylwadau caredig arno,
Y gorphwysa yr eiddoch,
EIFIONYDD.
CAERNARFON, Awst 7fed, 1882.Cynwysiad
Alarch Glan Dyfi
Edwards (Lewis) DD, Bala—Absenoldeb y dydd
Ehedydd Eifion
Ehedydd Ial
Elis Wyn o Wyrfai:—Ab Ithel—
Ieuan Ionawr
Ieuan Meirion
Owen (Richard), Tyddyn Mawr Llanrug Owen (Robert) Y Nailer
W. LL. Yspytty IfanPigion Englynion fy Ngwlad.
Ab Ithel.
FE wridai y gwladfradwr—ger ei fron :
Gwyrai frig athrodwr:
Lle byddai dystawai 'stŵr,—
Cauai genau'r coeg honwr.
ELIS WYN O WYRFAI.
Absenoldeb y dydd.
E giliodd un byd o'r golwg—i ddwyn
Myrddiynau i'r amlwg:
Daw allan o dywyllwg
Ryw dda a drecha bob drwg.
LEWIS EDWARDS, D.D., Bala.
Adfeilion Castell Dinas Bran.
Englyn, a thelyn, a thant,— a'r gwleddoedd
Arglwyddawl, ddarfuant :
Lle bu bonedd Gwynedd gant,
Adar nos a deyrnasant.
TALIESIN O EIFION.
Adgyfodiad, Yr
Onid oes mewn llindysyn,—a'i feroes,
Wrth farw'n ei blisgyn,
A chodi mor wych wed'yn,
Eglurhad goleu ar hyn?
CALEDFRYN
Adda ac Efa yn Mharadwys.
Adda a'i wraig ddiwair, wen,—foreu byd,
Oe'nt fri balch daearen,
Blodau perffeithgwbl Eden,
Dynoliaeth noeth dan wlith nen.
ERYRON GWYLLT WALIA.
Addewidion Duw
Yn nghanol fy anghenion—mi ganaf
I'm gwyneb ar ddigon:
Mae'n gwellhan gorfriwiau'r fron
A'i ddedwydd addewidion.
—DAVID JONES, Treborth.
Afal, Yr
Anrhegiad hael y brigyn—i'r wefus
Yw'r per Afal dillyn:
Anufudd-dod hynod dyn
Wnaeth hwn unwaith yn wenwyn.
—TREBOR MAI.
Afr, Yr
Berfain yw'r Afr, a barfog,—arwaf lais,—
Un bir flew a chorniog;
Naid hyd lethrau creigiau crog,
A'i nawdd yw'r graig ddanneddog.
—ROBERT THOMAS, Plas du, Eifionydd.
Agosrwydd marwolaeth Mynyddog a Threbor Mai.
Dan ddyrnod ro'es un dydd arnom,—un dydd
Yn gyro dwrn trwom:
A thrwy y drist weithred drom
Uda'n henaid ni ynom!
—RHUDDFRYN, Corwen.
Angor, Yr
Ar ruthr llong cynorthwy'r llyw—yw'r Angor,—
Rhyngynt ffos distryw:
Fel y graig gafaelgar yw,
A thad i obaith ydyw
—IEUAN MEURIG, Abergynolwyn, Meirion.
Angor, Yr (2)
Yr Angor, ar for hir-faith,—dyn gadwen,—
Geidwad mawr y fordaith:
Dywed ei did, hyd y daith—
"Yma, gwybydd, mae gobaith."
—IDRIS VYCHAN.
"A haeo dyn, hyny hefyd a fed efe."
Paul glau, ar eiriau, a ro'es,—yn fynych,
I fenaid ddychrynloes:
"A haua dyn byd einioes,
A feda ef wedi oes."
—Hen Awdwr.
"A'i dy nid edwyn ddim ohono ef mwy."
Ein hol gan law'r anelwr—a lanheir,
Ail i noeth lawr dyrnwr:
Yn y fynwent, a'r pentwr,
Cyll dyn, fel defnyn mewn dw'r.
—Robert Williams (Trebor Mai)
Alarch, Yr
Gan araf gyniweirio—hyd y llyn,
Mewn dull hardd â rhagddo:
Yn y dw'r, i'w fwynhad o,
Ei lun wêl yn ei wylio.
—J. T. Jones, Pwllheli,
Alarch, Yr 2
Myn Alarch gwmni'i eilun,—yn y drych
Ymdrocha ei ddarlun:
Mewn gwiw hynt mwynha gyntun,
Yn freiniol, ar fron ei lun.
—Thomas Jones (Tudno).
Alarch, Yr 3
O! Alarch gwyn, lliw'r lili,—yn ddifraw
Ar ddyfroedd y nofi:
Eilun llong ar lèn y lli',—
O mor dawel mordwyi.
—John Ceiriog Hughes (Ceiriog).
Alarch, Yr 4
Yr Alarch gwâr, o lewyrch gwyn,—edn hoff,
O dan urdd ar laslyn:
Mawreddog, der aderyn:
Fud, ddwys, hardd, nofiedydd syn.
—John Anwyl, Caerlleon.
"Am fod yn hoff ganddo drugaredd."
Yn ei glwyfau i gleifion}—y mae balm
O bob gwir gysuron:
Difyr waith hyfryd ei fron—
Aileni ei elynion.
—John Williams (Ioan Madog)
"Am nad oedd le yn y llety."
Duw'r Ion heb le i droi'i wyneb—i orwedd,
Ac heb air i'w ateb:
O! ai ni ystyria neb
Pwy roisant yn y preseb?
—Robert Williams (Trebor Mai).
Anffyddiaeth
Aruthr yw ei hathrawiaeth,—llawn o dwyll,
Yn dallu dynoliaeth:
Gwadu'r Iôr mewn gwawd a wnaeth,
A chau dôr Iachawdwriaeth.
—Richard Williams (Beuno), Porthmadog
Anian ac Einioes
Gogoned yw gwedd gu Gwanwyn,—cain Ha'
A'r Cynhauaf melyn;
Cwympiad deiliad sy'n dilyn:
Un naws a dail einioes dyn!
—B. B.
Anerch at gyfaill mewn cystudd trwm
Yr Oen addfwyn yw'r noddfa,—i'r perwyl
Darparwyd Ei laddfa;
Os dirfawr eich blinfawr bla,
Mae iechyd yn y Meichia'.
—David Jones, Treborth
Anrheg o Ffon
Drwy ddiwydrwydd y ddeudroed —y cerddyddais
Nes cwrddyd a'r trithroed:
Ar ol dydd y trydydd troed,
Daw hurtrwydd a phedwartroed.
—Owen Gethin Jones
Ansicrwydd Bywyd
Gall gwr fod neithiwr yn iach,—y boreu
Heb arwydd amgenach,—
Y fory'n annifyrach,—
Drenydd ar obenydd bach!
—Pwy yw'r awdwr?
Aradr, Yr
Brenin yr holl beiriannau—arddelir
Ar ddolydd a llethrau,
Yw'r Aradr, i droi erwau,—
Daear werdd yn dir i hau.
—Robert Owen (Machno), Llandudno
Arch Noah
Noddfa uwch porth newyddfyd,—a'i seilia
Ar gwys ola'r cynfyd:
Dros elfen drws i eilfyd:
Croth lwythog, feichiog o fyd.
James James (Iago Emlyn)
Ar ddiwrnod oer claddedigaeth Emrys
Emrys! i awen Cymru—ti oeddit
Addurn i'w fawrygu:
Diwedd d'oes wnai dywydd du—
Noeth ogleddwynt wnai'th gladdu!
—Richard Parry (Gwalchmai)
Areithfa, Yr
Ah! y werthfawr Areithfa:—yma saif
Grymus weis Iehofa,
I ddwyn dir newyddion da,
I feirwon, o Galfaria.
—Richard Foulkes Edwards
(Risiart Ddu o Wynedd)
Aregwedd yn hud-ddenu Caradog
Rhodiodd, yn llawn direidi, —o'i ogylch,
Yn ei choegaidd dlysni:
Gweoedd aur ei gwisgoedd hi
A dywynent am dani.
—Rowland Williams (Hwfa Môn).
Arglwydd Mostyn
Meistr nid oes ar Mostyn:—pwy a saif,
Pwy sydd ddaw i'w erbyn?
Daw'r Fama fawr i'r llawr yn llyn
Wedi i Fflint wadu'i phlentyn.
—Thomas Jones (Taliesin o Eifion).
"A'r llewpart a orwedd gyda'r myn"
Gado'i reddf i gyd, ar hyn,—wna y brych
Lewpart brochus, cildyn:
Saif ar y maes hefo'r myn,
A'i hen nodwedd ni edwyn.
—William Roberts (Gwilym Eryri)
Arwydd henaint
Go brin gwna'r felin falu,—ei meini
Mynor gyll o bobtu;
A gwelir hithau'n gwaelu
I falu bwyd fel y bu.
—David Watkin Jones,
(Dafydd Morganwg).
Arwyddion Ieuenctyd a Henaint
Dyna ef, lanc deunaw oed,—iach wron,
Yn chwareu'n ysgafndroed:
Yntau, 'r gwànwr tri'geinoed,
O! mor drwm yw ar ei droed!
—John Owen, (Ioan Powys)
Asyn, Yr
Mae ar Asyn, er mor isel—ydyw,
Drem gwyliedydd anwel:
Ato arfer fwynder, fel
Nas dengys Duw Ei angel.
—William Roberts (Gwilym Eryri)
Asyn Balaam
Dwyfoli safn mud filyn—a fedr Nef,
I droi'n ol wr cyndyn:
Iaith Ior, i gondemnio'r dyn,
Gynwysa genau asyn!
—David Roberts (Dewi Havhesp)
Atebiad i'r gofyniad anffyddol—"A oes Duw yn bod?"
Ust! adyn! onid oes Duwdod—yn llon'd
Pob lle yn dy wyddfod,
A difeth, hyglyw dafod
O dy fewn yn dweyd ei fod!
—Owen Griffith Owen (Alafon)
Atebiad y Parch. D. Gravel i'r Parch. R. Bonner
Mewn hyder, Bonner, 'rwy' yn byw—yn Nghrist—
Fy nghraig rhag y distryw:
Fy adail, Efe ydyw,—
Ty a ddeil y tywydd yw.
—Robert Parry, Plas Tower-bridge
Atheist, Yr
Och erlid Crist a'i chwerw-loes,—ac, wed'yn,
Gwadu Ei drom dduloes,—
Gwadu Iawn Gwaed Ei einioes,
A gwadu grym Gwaed y Groes.
—Owen Jones
(Owain Gwyrfai), Waenfawr
Awel, Yr
Ei rhandir nis gŵyr undyn:—rhyw dyner
Dòn drwy'r awyr enfyn:
Ysgydwir gwisgi edyn
Engyl Duw yn nghlyw y dyn.
—Thomas Nicholson, Talysarn
Awen—Pa beth yw?
Gwên a rhywiog lên Rhagluniaeth,—nwyfiant
O nefol wybodaeth,—
Dylif o ysbrydoliaeth—
Yw dawn a ffrwd Awen ffraeth.
—Griffith James, Telynor, Dolgellau
Awenydd, Yr
Awenydd a adwaenir—wrth ei gwedd,
Ac wrth y gwaith wnelir:
Nid yw pob peth a blethir
O'r un waed a'r awen wir.
—William Williams (Caledfryn)
Awr hunan
Awr hunaw ddystaw a ddaeth,—awr anghof
Ar rengau bodolaeth,
Awr gysglyd ar drymllyd draeth
Y môr elwir Marwolaeth.
—Robert Ellis (Cynddelw)
Awrlais, Yr
Teclyn sy'n dirwyn d'oriau,—fy enaid,
I fynu'n fynydau;
A phob ticyn sy'n neshau :
I ddiweddiad dy ddyddiau.
—David Jones, Treborth.
Awrlais, Yr 2
Yr Awrlais, ar y pared,—a ddengys
Ddu angau yn dynged;
Ac iaith ddwys ei bregeth dd'wed
Werth fy einioes wrth fyned.
—Pwy yw yr awdwr?
Awrlais Uffern: (cyflwynedig i'r annuwiol)
Mewn haner nos arosi—yn y pwll,—
Gwyneb haul nis gweli:
Ni chlywir llais d' awrlais di
'N taro un mewn trueni!
—Robert Arthur Williams (Berw)
Awyren, Yr [1]
Awyren,—belen glud bali,—drwy chwa
Derch hynt hyd wybreni:
Nwyf wib long, ban nawf heb li',
A llaw dyn yn llyw dani.
—Robert Davies (Bardd Nantglyn)
Bardd, Y
I lenyrch tu ol i anian—ehed;
A chlyw, mewn per syfrdan,
Swn rhyw li'n cusanu'r lan,
A thoni wrtho'i hunan.
—William Nicholson, Llynlleifiaid
Bardd Natur
Câr greig engur naturiaeth,—anwyla
Yr anialwch diffaeth,—
Mawryga drem llymrig draeth,—
Yf o'r ddunos farddoniaeth.
—Morris Owen
(Isaled), Caernarfon
Bedd, Y
Lle i dderbyn dyn, o'i daith,—i huno,
Pan â i enaid ymaith,
Ydyw'r Bedd du, oer, heb waith,
Nes delo gwysiad eilwaith.
—Richard Williams
(Beuno), Porthmadog
Bedd, Y 2
O! wyll fedd! blodau'r holl fyd,—er Abel,
A reibiaist i'th weryd:
Dy lef sy'n para hefyd:—
"Moes ragor "—"Rhagor"—o hyd.
—Morris Davies (Meurig Ebrill)
Beddargraff
Egyr Ion, â gair o'i enau,—hen borth
Y bedd oer ryw forau:
O'i fynwes deuaf finau,
Heb ei ol, wedi'm bywhau.
—Richard Jones (Penrhyn Fardd),
Wern, Coedpoeth
Beddargraff 2
Yr Ion, pan ddelo'r enyd,—ar ddiwedd,
O'r ddaear a'n cyfyd:
Bydd dorau beddau y byd,
Ar un gair, yn agoryd.
—Robert Williams
(Robert ab Gwilym Ddu o Eifion).
Beddargraff Alawydd Menai
Tarian cerdd cyn trane gwawrddydd—ei einioes
Hunai yr Alawydd:
Trwy ein gwlad rhin ei glodydd
Tra Menai fad, tra Mon, fydd.
—Robert Eidiol Jones (Eidiol Mon)
Beddargraff Babanod
Pa achos ? beth ond pechod—ddygai'r rhai
Hawddgar hyn i'r beddrod;
Ond, trwy'r lawn, troai y rhod
Ar bob un o'r babanod.
—William Ambrose (Emrys)
Beddargraff Catrin Elis, Bryn Cynan Bach:
hen wreigan dlawd, dduwiol
Trwy y niwl Catrin Elis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris
I hon nid oedd un nod is
Na Duw'n Dduw,—dyna ddewis!
—Ebenezer Thomas (Eben Fardd).
Beddargraff Cyffredinol
Yn ei fedd, a thyna fo—wedi myn'd,—
Dim mwy son am dano!
Daear—dwf sy'n do ar do,
Yn dïengyd i angho'.
—John O. Griffith (Ioan Arfon).
Beddargraff Dafydd Ddu Eryri
O! fedd oer ein Dafydd Ddu,—henadur
A hynododd Gymru:
Ewythr i feirdd—athro fu,—
Cefn wrthynt i'w cyfnerthu.
—David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Beddargraff dau faban
Rho'ed, o'u cryd, y cariadau—tyner hyn
Tan yr oer briddellau,
Cyn i bechod, â'i nodau,
Roddi ei ol ar y ddau.
—Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff dau faban 2
Wele ddau, fel dau flodeuyn,—eisoes
Wywasant o'r gwreiddyn;
Ond, daw'r had, eto, er hyn,
Drwy Iesu, fel dau rosyn.
—Ebenezer Thomas (Eben Fardd).
Beddargraff Dewi Arfon
O! ddiallu weddillion!—ynoch chwi
Ni cheir Dewi Arfon:
Angel—luniwr englynion
Fydd fyw'n hwy na'i feddfaen hon.
—Thomas Jones (Tudno)
Beddargraff Dewi Wyn o Eifion
Ei farddas digyfurddyd—ca' eiloes
Mal colofn o'i fawryd;
A chofiant llawnach, hefyd,
Na chareg bedd—na chreig byd.
—Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)
Beddargraff Dic Aberdaron, yn Mynment Eglwys Isaf, Llanelwy.
Ieithydd uwch ieithwyr wythwaith,—gwir ydoedd
Geiriadur pob talaith:
Aeth angau a'i bymthengiaith,—
Obry, 'n awr, beb yr un iaith!
Elis Owen, Cefnymeusydd.
Beddargraff Dr. Hughes, Llanrwst.
I'w fedd anrhydedd fyddo:—sidan wellt,
Ymestynwch drosto:
Awelon, dowch i wylo,
I'r fan wael, er ei fwyn o!
Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff Dr. Roberts, Conglywal, Ffestiniog.
Dyn gwlad ro'ed yma dan glo,—lluoedd
A wellhäwyd ganddo;
Ond, er hyn, a'r fedr hon
Gwella'i hun nis gallai o!
Owen Griffith Owen (Alafon)
Beddargraff Eos Derfel
'B oedd mwy na'i lon'd o uniondeb:—byw wnaeth
Heb wneyd annghywirdeb,—
Na thaenu, dan rith wyneb,
Annghyfiawn air yng nghefn neb.
David Roberts (Dewi Havhesp)
Beddargraff fy Mam.
Ni welais erioed anwylach—llanerch:
Hawlia'r lle hwn, mwyach,
Lonydd gan bob rhyw linach,—
Yma mae bedd fy mam bach.
David Roberts (Dewi Havhesp)
Beddargraff geneth un-ar-ddeg mlwydd oed, yn mynwent Dolgellau
Trallodau, beiau bywyd—ni welais,—
Na wylwch o'm plegyd:
Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd.
David Richards (Dafydd Ionawr)
Beddargraff Gweinidog yr Efengyl
Fe orwedd, ar ol llefaru—oes dros
Drefn fawr y gwaredu:
Bu ddiwyd iawn, ond bedd da
Glodd was yr Arglwydd Iesu.
Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff gwraig rinweddol.
Arafa mae goreu-ferch—is dy droed,—
Astud wraig, lawn traserch:
Rho dithau rosynau serch,
Ddarllenydd, ar y llanerch.
Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff gwraig rinweddol.(2)
Gwraig dda, ddiond, gwraig ddiddwadwr,—un wyl,—
Yn elyn pob cynhwr':
Bu hon yn goron i'w gwr,
A chredodd i'w Chreawdwr.
William Ambrose (Emrys)
Beddargraff gŵr ieuanc duwiol
Llaw ieuanc i Dduw'r lluoedd—a ro'es ef,
Rhyw sant disglaer ydoedd:
Ei siwrnai fer, os ofer oedd,
Siwrnai ofer sy' i'r nefoedd!
Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff Gwyndaf Eryri, yn mynwent Llanbeblig.
Diamheu in' dyma anedd—Gwyndaf,
Fu'n geindwr cynghanedd:
Yn wir, mi garwn orwedd,
Er ei fwyn, yn nghwr ei fedd !
Owen Williams (Owain Gwyrfai), Waenfawr.
Beddargraff Gwyneddwr o'r enw Gabriel, yn Cincinnati,
Ohio, Unol Daleithiau America.
I'w gorff gwan wele'r anedd,—ac obry
Mae Gabriel yn gorwedd:
Trueni troi o Wynedd
I chwilio byd, a chael bedd!
Pwy yw yr Awdwr?.
Beddargraff Hugh Hughes
Gonest gymydog uniawn—oedd Hugh Hughes,
Garodd Iesu'n ffyddlawn;
Ac er cof o'r gwr cyfiawn
Hyn o lwch sy'n anwyl iawn.
Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff Iorwerth Glan Aled, yn mynwent Llansannan.
Y parodfawr fardd prydferth—sy'n y bedd,
O swn byd a'i drafferth:
Mor wir a marw Iorwerth
Farw o gan fawr ei gwerth.
Pwy yw yr awdwr?
Beddargraff merch dduwiol.
Delw gwir Dduw cyn dylaith—oedd arni,
Yn addurniant perffaith;
A daw o'r llwch du—oer, llaith,
Ar ddelw gwir Dduw eilwaith.
David Hugh Jones (Dewi Arfon )
Beddargraff merch dduwiol. (2)
Erys i fewn lawer oes faith, —er hyn
Nid rhaid bod heb obaith:
Duw i'w gol a'i dwg eilwaith,—
Casgl ei llwch o'r cysgle llaith.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Beddargraff Morwr.
Yn mhwll angau mae llongwr—yn gorwedd,
Heb gareg yn wyliwr:
O! bydd, wendon, heb ddwndwr
Ar ei fedd yn araf, ddw'r!
Thomas Tudno Jones (Tudno)
Beddargraff Morwr ieuanc.
Diangodd o'r môr am weryd—lawr oer;
A thaflai, 'r un enyd,
Angor i fôr yr ail fyd—
I ddwfr y porthladd hyfryd.
David Hugh Jones (Dewi Arfon )
Beddargraff Mr. O. Barlwyd Jones, Ffestiniog.
Dyna Barlwyd o dan berlau—y gwlith
A gwlaw ein teimladau;
Un gwell ni chafodd ei gau
Yn nyffryndir hen ffryndiau.
John Ceiriog Hughes (Ceiriog)
Beddargraff Mrs. David Evans, Tremadog.
Lleni ei thywell anedd—a rwygir
Ryw foregwaith rhyfedd;
A daw hon, mewn gogonedd,
Heb liw bai, ac heb ol bedd.
Richard Roberts (Bardd Treflys)
Beddargraff Mrs. Ellen Thomas,
Turnpike, Dyffryn, Capel Curig.
Gwraig gywir, eirwir, orau—o filoedd,
Felus ei thymherau:
Syrth i'r bedd bob rhinweddau
Oni chaiff hon ei choffhau.
Robert Stephen (Moelwyn Fardd)
Beddargraff Robert Edwards (Robin Ddu o Feirion.)
Ar obenydd oer, Robin Ddu—Meirion
Yma ro'ed i gysgu:
Gwiw fardd godidog a fu:
Gwel ei fedd,—gwylia'i faeddu!
Griffith Williams (Gutyn Peris)
Beddargraff Robin Meirion, yn Mynwent Trawsfynydd.
Ei glod ef, fel goleu dydd, —dywyna
Hyd wyneb ein broydd;
Ie, 'n fawr ei enw fydd
Tra saif enw Trawsfynydd.
Evan Jones (Ieuan Ionawr), Dolgellau.
Beddargraff Tad a Mab, yn Mynwent Llanycil, ger y Bala.
Yr eiddilaidd îr ddeilen—a syrthiai
Yn swrth i'r ddaearen;
Yna y gwynt, hyrddwynt hen,
Ergydiai ar y goeden.
John Phillips (Tegidon)
Beddargraff Tegerin.
Lle gorwedd cyfaill gwerin—ceir dagrau
Caredigrwydd dibrin:
O! ddu oer fedd! ar ei fin
Rhaid dy garu, Tegerin.
Thomas Jones (Tudno).
Beddargraff tri phlentyn.
Yr Iesu aeth a'r tri rhosyn—o'r byd, —
Dyma'r bedd wnai'u derbyn;
Ond try'r rhod, —daw'r tri, er hyn,
I wenu mewn ail wanwyn.
Richard Davies (Mynyddog)
Beddargraff Tri yn yr un bedd, yn mynwent Trefriw.
Dyma ni—gwedi pob gwaith, —yn dri llesg,
A wnaed o'r llwch unwaith
Mewn bedd—(on'd dyrnfedd fu'n taith?)
Lle chwelir ni'n llwch eilwaith.
John Jones (Pyll Glan Conwy), Llanrwst.
Beddargraff y Cristion.
Os tan y gist mae'r Cristion,— ei ddu fedd
Sydd fal manblu'n union:
Mae rhyw fwynhad mawr fan hon,
Yn nghlyw su engyl Seion.
Robert Williams (Trebor Mai)
Beddargraff y Cybydd Anghawr.
Trengu, er casglu, wna'r call—arianog,
Ryw ynyd, fal anghall;
A thraddodir, gwedi'r gwall,
Ei loi aur i law arall.
Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)
Beddargraff yn mynwent Denio, Pwllheli.
Ban pallo haul uwch ben Pwllheli—llwch
Y llanc hwn gaiff godi:
Dwyfol fraich a deifi i fri
Adfeilion cnawd i'w foli.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Beddargraff yn mynwent Trawsfynydd.
Gwael wy'n awr: os geilw neb—fi adre',
Ni fedraf eu hateb:
Mae du, oer, lom daear wleb
Trawsfynydd. tros fy wyneb.
David Jones (Dewi Fwnwr), Llangwyfon.
Beddargraff y Parchedig David Griffith, Bethel, Arfon.
Gwr hoff oedd David Gruffydd:—Paul enwog,
Yn planu eglwysydd:
Un hydr ei ddawn, —Pedr ei ddydd;
Ac Apolos capelydd.
Richard Owen, Tyddyn Mawr, Llanrug.
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon,
yn mynwent Llanfaes, ger Beaumaris.
Dan urddas, a Duw yn arddel,—tystiai
Ar y testyn uchel:
Llefarai, a'r fintai fel
Yn hongian wrth fin angel.
Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (2)
Efe roddai wefreiddiad—i feddau
Crefyddwyr dideimlad;
Ac, â mawr lwydd, Cymru'i wlad
Ddylenwodd a'i ddylanwad.
Hugh Hughes (Tegai)
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (3)
Ei enw geir byth dan goron,—a byw
Wna'i barch a'i orchestion:
Y gwr a'i holl ragorion
A fydd mawr pan dderfydd Mon.
Pwy yw'r Awdwr?
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (4)
Ei law arweiniai luoedd—i weled
Ymylon y nefoedd:
Nerth fu i'n hareith faoedd,
A gloew sant ein heglwys oedd.
John Ceiriog Hughes (Ceiriog).
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (5)
Wele'r fan, dywell anedd,—y llwm lawr,
Lle maluria mawredd:
O! oer wir ro'i i orwedd
Angel y byd yn nghlai bedd.
Pwy yw'r Awdwr?
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (6)
Yn ei ddwyster Ai'n ddistaw,—a swynai
Bob synwyr i'w wrandaw:
Codiad ei lygad a'i law
Ro'i fil drwy'r dorf i wylaw.
T. Pierce, Llynlleifiad.
Beddargraff y Parchedig John Jones, Talysarn,
yn mynwent Eglwys Llanllyfni.
Clogwyni—coleg anian—wnaeth ryfedd
Athrofa i Ioan:
Ai yn null gwron allan:
Mawr wr Duw—rho'es Gymru ar dan!
David Hugh Jones (Dewi Arfon).
Beddargraff y Parchedig Robert Thomas, Llidiardau,
Hynotaf blentyn natur:—eithriadol
Bregethwr od, ffraethbur:
Os ai ef i bant ar antur,
Bwrlymai o'r pwll berl mawr, pur!
David Hugh Jones (Dewi Arfon).
Bedd Dewi Wyn o Eifion
Dyna fedd Dewi Wyn, a fu—ben bardd,
Heb neb uwch yn Nghymru;
Ond, ple mae adsain cain, cu
Tinc enaid Dewi'n canu?
Ebenezer Thomas (Eben Fardd).
Bedd hen wraig hoff o'r Beibl.
Gair Duw oedd ei gwir duedd,—ar Iesu
Y rho'es ei gorfoledd
Hyd farw; ac nid oferedd
Rho'i "Gwraig bur" ar gareg ei bedd.
Richard Davies (Mynyddog).
Beibl, Y
Delw Duw sydd ar bob dalen, —a'i feddwl
Ganfyddir yn drylen:
Ag amryw blyg mawr heb lèn,
Iaith Ior yn mhob llythyren.
David Griffith (Clwydfardd).
Beibl, Y (2)
Drych ydyw o'r Iachawdwr, —a dengys
Nod angen y cyflwr:
I enw Duw saif yn dŵr,
A Duw ydyw ei awdwr.
Pwy yw yr awdwr?
Beibl, Y (3)
Fe ddeil, ie, deil, bob darn, —yn ei nerth,
Dan wrthddadl a chollfarn:
Er pob haeriad, yn gadarn
Saif hwn fyth: safon y Farn.
William Jones (Graienyn)
Beibl, Y (4)
Fy Meibl hwn a fu'm blaenor—ar fy nhaith,
Llyfr fy Nuw, a'i gynghor:
Trwy'r byd, ar derfysglyd for,
Ei Efengyl yw fangor.
David Hugh Jones (Dewi Arfon).
Beibl, Y (5)
Holl fwriad Duw, yn llyfr teg,—mewn gafael,—
Mae'n gyfoeth bob adeg:
Bydd ei fri heb iddo freg,
Pan na cheir pin na chareg !
John Evans (Ioan Tachwedd).
Beibl, Y (6)
Llyfr dechreu—goreu i gyd, —llyfr diwedd,
Llafar Duw i'r hollfyd:
Llyfr nef a daear hefyd:
Llyfr ar ben holl lyfrau'r byd.
Robert Davies (Bardd Nantglyn).
Beibl, Y (7)
Llyfr doeth, yn gyfoeth i gyd, —wych lwyddiant,
A chleddyf yr Yspryd;
A gair Duw nef yw hefyd:
Beibl i bawb o bobl y byd.
Robert Williams, Tre' Rhiwaedog, ger y Bala.
Beibl, Y (8)
Llyfr pur yn gysur i gyd, —yw y Beibl,
I bawb mae'n agoryd:
Ef yw'r ddeddf a rydd hawddfyd:
Gair Ior heb wall,—gwir i'r byd.
Gwilym Williams (Beuno).
Beibl, Y (9)
Tywysydd yw at Iesu, —diliau pur, —
Dylai pawb ei barchu:
Wrth ei berffaith gyfraith gu
Yr enaid ga'i glorianu.
Richard Davies (Mynyddog).
Beibl, Y (10)
O law Duw yn loew y daeth—y pur Lyfr
Perl o'i ysbrydoliaeth:
Rhodd Ior cu i'r rhydd a'r caeth,
A chod aur Iachawdwriaeth.
Gwilym Williams (Beuno),
Beibl, Y (11)
Didwyll gwir ganwyll i'r gweiniaid, —llusern aur,
Llais o'r nef fendigaid:
Perffaith athrawiaeth wrth raid,
Llais anwyl er lles enaid.
John Thomas, Pentrefoelas.
Beibl, Y (12)
Mae'n wir, mae'n gywir i gyd:—ei awdwr
Ydyw Duw trwy'i ysbryd:
Llythyr i bob llwyth o'r byd,
A bywiol Air y bywyd.
Owen Owen (Owain Lleyn), Bodnithoedd, Lleyn.
Beth yw hi o'r gloch yn y nefoedd?
Ar ddeial nef, a'i chrefydd, —beth yw'r awr
Byth i'r wyl dragywydd
Awr Haul y Pen-Rheolydd?
Hon yw awr Duw—haner dydd!
Trophimus.[2]
"Blodau Arfon,"—gwaith barddonol Dewi Wyn o Eifion.
Gyrwyd i ni flaguryn—o ardd Duw,
Iraidd, deg blanigyn;
A'r nodd a ro'dd o'i wreiddyn
Yw da waith ein Dewi Wyn.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu o Eifion.)
Blodau Haf.
Flodau haf, —o liw dwyfol, —tywynant
Wenau yr Anfeidrol:
Llaw Naf, mewn lliwiau nefol,
Ro'es ser dydd ar asur dol.
Thomas Jones (Tudno)
Blodau haf a Blodau serch.
Blodau'r haf, yn wyneb-lwyd dry—Hydref,—
Trist edrych eu gwely:
Ar hunell Huw, er hyny,
Blodau serch heb lwydo sy'!
John Ellis Jones (Elidirfab)
Blodeuyn y Glaswelltyn.
Weli di y Blodeuyn—o wên deg
Am un dydd mewn blwyddyn,—
A'i wers odiaeth, mor sydyn
Mae'n marw'n ddelw o ddyn !
David Morris (Dewi Glan Dulas)
Boddlonrwydd y Bardd.
Os rhydd y cybydd aur coeth, —neu olud,
Yn nwylaw merch annoeth,
Caf finau Fair ddiwair, ddoeth,
Er na chaf aur na chyfoeth.
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Bonedd yr Awen
O! f' Awen, addien iawn wyd,— iawn oeddit
Yn Adda pan gröwyd:
Rhesymol, eneidiol nwyd:
Dawn natur pob dyn ytwyd.
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Boreu, Y
Y Boreu, a'i wyneb eirian,—ddefry
Ddiffrwyth gysglyd anian:
O! 'r olwg lwys! yr haul glân
Yn syllu o'i lys allan.
John Owen Griffith (Ioan Arfon)
Boreu, Y (2)
Ha! cilia'r nos; ac wele'r ne'n—gwrido'n
Gariadus fel meinwen,
Wrth weled prydferth haulwen
Ar ei gwisg yn rho'i ei gwen.
James Roberts (Derwenog)
Boreu Oes.
Babandod! byw heb un-don—o ofid
Yn llifo trwy'r wenfron:
Yn y golwg mae'r galon
Yn siarad trwy'r llygad llon
H. Elfed Lewis, Buckley.
Boreu o Wanwyn.
Llo swynol yw llys Anian—ar foreu
Mor fawrwych; can's weithian
Ei hawyrgylch sy'n organ,
A'i chorau gyd—chwery gan.
Hugh Tudwal Davies (Tudwal)
Boreu o Haf.
Drwy y wlad yr awel hudol—droedia
Ar adeg mor siriol;
A chwyd lenyrch adlonol
Foreu o haf ar ei hol.
Robert Owen Hughes (Elfyn).
Boreu yr Adgyfodiad.
Y meirw sydd yn trwm orwedd—yn y llwch,
Godant oll o'r dyfnfedd,
Ryw foreu, rhai i fawredd,
Ereill fyth i arall fedd!
Lewis Evans (Llewelyn), Brithdir, ger Dolgellau
Breuddwyd.
Gwib orweddog yw Breuddwyd,—rhaith ddiffrwyth
Rhith effro feddylfryd;
A ffug gasglion corff cysglyd,
In amgau mewn siom i gyd.
John Edwards (Meiriadog)
Briallu yn mis Ionawr yn Nghonwy.
Yn Ionawr anian wenai—ar Gonwy,—
Mor gynar blodeuai:
Dyna le hyfryd dan lifrai
Briallu mis Ebrill a Mai.
Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
Bronfraith, Y
Chwibanogl wyd, uwch ben gwledydd,—hudol
Odiaeth, Bronfraith dedwydd:
Clywch, o binacl, chwibanydd
Yn taro tant toriad dydd.
David Roberts (Dewi Havhesp).
Brwydr fawr Eryri Etholiad 1868
Hal clyw gan y clogwyni,—a chathlau
Iach ieithlyfr Eryri!
Chwi—wrolion chwareli—
Llefarwch iaith eich llyfr chwi.
David Hugh Jones (Dewi Arfon)
Brwydr Maes Bosworth
Ap Tudur oedd yn curo,—a rhesau
Rhisiart yn teneuo!
A chledd Siaspar yn taro,
Ddiwrnod trin, ddau ar un tro!
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Brwydr Sedan.
Y nos ydoedd dros Sedan,—a'i chaddug
Orchuddiai'r gyflafan;
Ac, O! le tost,—y gwlaw tân
Trwy wyll yn tori allan!
David Evan Davies (Dewi Glan Ffrydlas)
Buddugoliaeth Cariad
Boed hunan gan bawb tano,—y gynen
A gweniaith yn gwywo
Dan y bwrdd, byd oni b'o
Le i gariad flaguro.
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Buelin, Y
Gwastraff, eisiau: a drwg ystryw,—gwarth ddwg:
Ac wrth ddwyn gwarth, distryw:
Da i bawb cynildeb yw,
A thad i gyfoeth ydyw.
John Jones (Ioan Tegid)
Bwbach Brain, Y
Y Bwbach Brain diachau,—acw saif,
A'i fox het a'i garpiau,
Yn warcheidwr uwch hadau
Y maes, ar ol amser hau.
Evan Samuel (Cadifor)
Bwyd iach
E'stalwm 'roedd shot helaeth—a browes—
Boreuol gynhaliaeth:
Nis mynwn un hwsmonaeth,
Na bwyd llwy, bob uwd a llaeth.
Owen Gethin Jones
Bychandra mawredd
Daw'r mawrion i dŷ'r meirw,—a llygredd
All ogrwn eu lludw:
Mae'n y nef un mwy na nhw,—
Duw a Hun ydyw hwnw.
Thomas Jones (Tudno)
"Bydded"
Daw, drwy fro ddu'r anoddyn,—i'r olwg
Alwai'r haul i gychwyn;
Ac i'w lle, drwy'r gwaglo gwyn,
Siaradai y ser wed'yn.
Morris Owen (Isaled), Caernarfon.
Byrdra einioes
Fel ffug ar gil fy haul ffoes,—hwyrhaodd
Fy nhruan ddydd eisoes:
Mor fuan daw nawn einioes,—
Rhyw awr for yw'r hwyaf oes!
William Roberts (Gwilym Eryri)
Byrdra einioes.(2)
Mae awr yn hwy na'm meroes!—O! fy Ior,
Fered yw y freuoes:
Diau, mynyd yw'm heinioes:
Ar aden mellten mae'm hoes!
David Roberts (Dewi Havhesp)
Byrdra einioes.(3)
Mae dyn yn frigyn foregwaith,—gwywa
Mewn gwewyr ar noswaith:
I'r amdo mae'i fèr ymdaith:
Buan daw i ben ei daith.
Walter Davies (Gwallter Mechain)
Byrdra einioes.(4)
Mal blodenyn gwyn, teg wawr, yn gwywo
Dan y gawod bwysfawr,
Nid yw einioes ond unawr,
Na dyn i barhau ond awr.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu o Eifion)
Byrdra einioes.(5)
Rhyw dro bach, o'r oryd i'r bedd,—ydyw foes!
Nid yw fwy da dyrnfedd:
Rhyw gysgod! rhyw wag osgedd!
A dim i gyd, ydyw'm gwedd!
Hugh Tudwal Davies (Tudwal)
Byrdra einioes.(6)
Trwy lawer, lawer, hen loes,—o gynar,
I ganol, a hen—oes,
Tramwy'n ofnadwy mae'n hoes,—
Buan iawn daw'n ben einioes.
Robert Williams (Trebor Mai)
Byrdra einioes.(7)
Y bedd yw diwedd y dyn,—o'i fawredd
Fo fwrir i'r priddyn:
Brau iawn yw'n hoes, barnwn hyn,—
Ow I nid yw onid ewyn!
Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)
Bywydfad, Y
Ah! cwch dyngarwch i'r gwynt—a wthir
Fel saeth hollta'r cerhynt
Yn sylwedd rhyfedd, ar hynt,
O drugaredd drwy gorwynt.
Robert Williams (Trebor Mai)
Bywydfad, Y (2)
A llaw angel, dwg o'n llongau—filoedd,
Er gafaelion angau:
Byd y dyfnffyrdd gwyrdd mae'n gwau
Yn arbedwr bywydau.
Thomas Jones (Cynhaiarn), Porthmadog.
Bywydfad, Y (3)
Ei wir i'r ofwy rwyfant,—y dinystr
Wrth d'w'niad mellt welant:
I ddor y bedd ar wib ant,
A'r bywydau arbedant.
Robert Williams (Trebor Mai)
Bywyd yn y Gwanwyn
Bywyd, mewn tirfiant buan,—a ddeillia'n
Amryw ddulliog allan:
Mor sidanog yw'r glog lan
Weuodd hwn iddo'i hunan!
Owen Griffith Owen (Alafon)
Cadair wag Eisteddfod Genedlaethol Rhuthyn
Cadair na bu cadair cydwerth—a hon,—
Ei henill sydd drafferth:
Rhyw unfon gadair anferth:
Cadair wag, a'r coed ar werth!
Robert Isaac Jones (Alltud Eifion), Tremadog.
Cadeiriad Bardd Nantglyn, yn Eisteddfod Gwrecsam, 1820
Credwch, chwi feib Ceridwen,—fryd uchel,
Na fradychwyd awen:
Cadeiriwyd mewn coed derwen
Y bardd a farnwyd yn ben!
Walter Davies (Gwallter Mechain)
Cadeiriad Gaerwenydd
Ni brynwn o'r wybrenydd—lu o ser,
A thlws haul ysblenydd:
Ac ar ddarn o'r goreu ddydd
Ni goronwn Gaerwenydd.
David Hugh Jones (Dewi Arfon)
Cadeiriad y Bardd
Oddiar y gadair dderwen,—â gwerai
Gorsedd Hawl Ceridwen,
Mewn rheol myn yr awen
Goroni bardd geir yn ben.
William Milton Aubrey (Anarawd), Llanerchymedd.
Cadernid Pont Menai
Esgarir yn ysgyrion—cant Ewrob
Cyn toro'i gafaelion,—
Yr ogof fawr yn nghraig Fon
Gyferfydd ogof Arfon.
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
"Cael bod gydag Ef."
O holl geinion y lle gwiw hwnw—sydd
I'r saint gan Dduw'n nghadw,
Bod gyda'r "Hwn fu farw "
A fydd yn nef iddyn' nhw.
John Owen Williams (Pedrog)
Calan, Y
Hen "ddydd gwyl" anwyl ini—yw'r Calan,
Er coledd campwri:
Dydd i'w gynal: dydd geni
Miloedd o'n blynyddoedd ni.
John Owen Griffith (Ioan Arfon)
Calan, Y (2)
Tydi, Galan, wyt dad y gwyliau—oll,
Ac oer yn mysg dyddiau;
A'n prif ddydd wyt yn parhau,—
Blaen-wahoddydd blynyddau.
David Hugh Jones (Dewi Arfon)
Caledfryn
Dyn a'i lon'd o ffyddlondeb,—ei galon
Giliai rhag pob geudeb:
Dyn oedd na niweidiai neb,
A dyn gonest un gwyneb.
Rowland Williams (Hwfa Mon)
Calfaria
Calfaria! cloai fwriad—y ddyfais
Ddwyfol ei chynlluniad:
Clo fry ro'es Calfaria rad
Ar adail trefn gwarediad.
William Thomas (Islwyn)
Cantre'r Gwaelod
Drych o anwar drychineb—yw'r chwydd—ddwr
Orchuddia dy wyneb:
Mwy ni chaf na maen na chofeb
Dim o dy lun, ond amdo wleb.
Thomas Hughes (Isalun), Caernarfon
Cantre'r Gwaelod. (2)
Ow! trwy fâr mae'r Gantref heb—i'w nodi
Un adail na chofeb:
Aeth, trwy win a glythineb,
Dan wely oer y dòn wleb !
John Jones (Ioan Glan Menai), Harlech.
Car Llusg, Y
Moes Gar Llusg musgrell, llwm:—nid da y fenn
At gnwd y foel noethlwm:
Gwell, rhag trallod a chodwm,
Ei wadnau coed yn y cwm.
Howell Roberts (Hywel Tudur)
Cardotyn, Y
Anwylyd nef,—un tlawd, di nod, — yw hwn,
Hyd ei oes heb gysgod:
Llwm ei gefn, a gwag ei god:
Cordial ei oes yw cardod.
Henry Gwynedd Hughes, Llanrwst.
Cardotyn, Y (2)
I gael rhodd, a gwelw ruddiau, —daw atom
Gardotyn mewn eisiau:
A gwyw fron, mae, dan hug frau,
Drwy ei oes yn y drysau.
David Hugh Jones (Dewi Arfon)
Cardotyn crwydraidd, Y
Byw yr wyf yn bur ryfedd, —bob orig,
Byw heb aur na mawredd:
Byw'n unig heb un anedd:
Byw'n y byd uwch ben y bedd.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu o Eifion)
Cariad
Byd hynod mewn tywodyn, —a chysur
Iach oes mewn mynydyn:
Cyfrol mewn gair, ond gair gwyn;
A da fôr mewn dyferyn.
John Cadvan Davies (Cadvan)
Cariad Duw
Mwy fwy, yn ddiameu, fydd i'w weled
O'i oleu'n dragywydd:
Diau deil, yn ngwlad y dydd,
Byth, yn Nuw, bethau newydd.
David Jones, Treborth.
Carnhuawc, yr hwn a amddiffynodd ei wlad yn ngwyneb
ymosodiad arni gan un Simon.
Codir ef hyd y nefoedd:—ei enw
Fydd anwyl byth bythoedd:
Ond enw'r Sais—os Sais oedd—
Yn is, is, ä'n oesoesoedd.
Hugh Hughes (Huw Derfel), Pendinas, Llandegai.
Carw, Y
Gwelais ef â hyd gwialen—o gorn,
Ac arno naw cangen:
Gwr balch, âg ôg ar ei ben,
A gwraig foel o'r graig felen.
Dafydd ap Gwilym
Castell Rhuthyn
Yr haul estyn ar ei lasdo,—ei lon
Oleuni wrth deithio;
A'r ddiboen chwa gerdd heibio
Sy'n falch o'i gusanu fo!
Elias Jones (Llew Hiraethog)
Cawrdaf
Un o'i fath marw ni fydd,—yn ei waith
Cawn ei wel'd o'r newydd:
Deil ei waith tra b'o'r iaith rydd,
A Gwalia wrth ei gilydd.
David Milton Aubrey (Meilir Môn) Llanerchymedd.
Ceidwad y Carchar
Y gŵr ddeil yr agoriad—i orchwyl
Y Carchar yw'r Ceidwad:
Swyddwr rhag pob troseddiad,
A'i glo yn amddiffyn gwlad.
William Williams (Caledfryn)
Ceiliog, Y
Aderyn balch, yn deyrn byw,—yw'r Ceiliog,
Er coledd ei gydryw:
A'i bêr lais, boreuol yw,
Galwedydd cyn gwawl ydyw.
Lewis Edwards (Llewelyn Twrog)
Ceiliog Gwynt, Y
Hynodrwydd hwn yw edrych—tua'r gwynt
Dry ei gwrs mor synych:
At ei nod fe bwyntia'n wych
"Ar untroed yn yr entrych."
Thomas Hughes (Isalun), Caernarfon.
Ceiliog Gwynt, Y (2)
Yn bwyntydd tywydd, was tawel,—ni gawn
Y Ceiliog Gwynt uchel;
A thry fyth i wirio fel
Y newid troion awel.
John Emlyn Jones (Ioan Emlyn)
Cenfigen
Hen Genfigen hyf agwedd—yw dinystr
Daioni a rhinwedd:
Gwenwyn a gawn yn ei gwedd:
Gelynol hyd gelanedd.
Benjamin Menai Francis, Caernarfon.
Cenfigen (2)
Cenfigen ladd dan wenu,—dwyn ei chledd
Dan ei chlog i waedu;
Ac mae'n òd, rhydd ddyrnod ddu
I'w pherchen am ei pharchu.
John Jones (Ieuan Eifion), Plas, Chwilog.
Cerdd Dafod
Cordd Dafod hyglod, a'i heglur—fydrau,
A fedrwn i'n cysur:
Nid oes faws na dwys fesur
O un baich i awen bur.
Peter Jones (Pedr Fardd)
Cerfiadau y don
Ar erchyll greig yr eigion,—a wyliant
Wely'r tonau gwylltion,.
Gwir addysg ei arwyddion
Gerfia Duw Ag arf y dòn!
Robert Arthur Williams (Berw)
Cipdrem ar gwm rhamantus ger llaw Pennal, yn Meirionydd,
Ha acw mae cwm y cymoedd :—ei syth
Dalcen saif i'r nefoedd:
O'i gesail, yn mrig oesoedd,
Duw â'i Hun yn siarad oedd!
William Williams (Gwilym Alltwen)
"Cledd i fy mron claddu fy mrawd."
Yn iach, frawd, ni chaf hir oedi—ar d'ol
Byr yw'r dydd sydd imi:
Neillduol hunell Dewi
A fydd darn o dy fedd di.
David Morris (Dewi Glan Dulas)
Cleddyf, Y
Llym Gledd! dialedd a'i dilyn:— ei lwybr
Sydd le braw a dychryn:
Gwneud gloddest ar gnawd glewddyn
Yfed gwaed—yw ei fyd gwyn!
Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
Cloch y Llan
Tŵr y gloch,—treigla uchod—ei wys hen
I wasanaeth Duwdod:
Cana ei hen dinc hynod
"Llan"—" Llan"—"Llan" yw'r fan i fod.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Clod ac anghlod
Mae anair annymunol—yn gwyro
Gwirion a synwyrol;
A phawb, yn gall ac yn ffol,
A ddygymydd a'i ga'mol
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Clod i Dduw
Duw fy Ner! tyner wyt Ti—hynaws Dad,
Nos a dydd i'n porthi:
Pob awr Dy fawr glodfori
Boed yn waith ein bywyd ni.
Edward Williams (Iolo Morganwg)
Codiad Haul
Pob pelydryn gwyn, plygeiniol,—oufyn
O'i wynfa danbeidiol;
A chawoda serch hudol,
O'i fron dwymn, ar fryn a dôl
Howell Roberts (Hywel Tudur), Clynog, Arfon.
Colledigion, Y
Heb barch, gan engyl ein Por,—hwy drowyd
Tu draw i'r gagendor;
Ac i'r hwn a gano'r Ior,
Llaw egwan pwy all agor!
Morris Williams (Nicander)
Colli cyfeillion
Och archoll,—fy holl gyfeillion—hynaf
Sy'n huno'n mhlith meirwon:
Nifer fach o hynafion
Eto sydd, waeth tewi son.
William Williams (Caledfryn)
Cor y Coed
Eu "Caradog" yw'r bedydd,—ar oriel
Fawr aur y boreuddydd:
Ust I bob cor i dwymgor dydd—
Hen denantiaid y nentydd.
Robert Williams (Trebor Mai)
Coron y Bywyd i'r Cristion
E goronir y gwr union,—trwy'r Gwaed
Rho'i'r gwerth ar ei berson:
A chenfydd na rydd yr Ion
Fyth i gerub fath goron.
Gwerfyl Goch.
Cranc, Y
Orafaglach oryf ei heglau:—o'i amgylch
Mae ymgyrch y tònau:
O tan gêl mewn cisten gau,—
Gyw mantellog mewn tyllau.
Owen Owen (Owain Lleyn), Bodnithoedd.
Crist ar y Groes
Yno, i wawdio ei Dduwdod, a'i ing,
Daeth llengau'r fall isod:
O lyn o dân, gwel hwy'n d'od
Hyd waliau'r pwll diwaelod.
Rowland Williams (Hwfa Mon)
Crist ger bron Pilat
Dros fai nas haeddai, mae'n syn—ei weled
Yn nwylaw Rhufeinddyn;
A'i brofi gan wael bryfyn,
A barnu Duw ger bron dyn.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu o Eifion)
Crist, y Meddyg perffaith
Pob cur a dolur, drwy'r daith,—a wellheir
Yn llaw'r Meddyg perffaith:
Gwaed y Groes a gwyd y graith,
Na welir mo'ni eilwaith.
John Williams (Ioan Madog)
Croesawiad Bulkeley Hughes, Ysw., A.S. i'r Deheudir, yn
adeg Eisteddfod Abertawe, 1863
I Forganwg, o fro Gwynedd, —gwresog
Groesaw, uchel fonedd:
Rhedem, dros dy anrhydedd—
Buckley Hughes—i wyneb cledd!
Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
Croes Crist
Nid crog odidog, dywedaf,—ond hon,
O tani'r ymgrymaf:
I hon yr ymfoddlonaf
Gras i gyd o'r Groes a gaf.
John Roberts (Siôn Lleyn)
Cryd, Y
Cread myg yw'r Cryd magu,—i ddyn bach
Ddwyn ei bwys dan gysgu;
A'r fam lân, ar gân lon, gu,
A'i throed yn sigl weithredu.
John Thomas (Ifor Cwmgwys)
Cryd, Y (2)
Cwch un bach yn cychwyn byw—yn hafan
Nefol mebyd ydyw;
A Duw, mewn cariad menyw,
Yn nerthol lyn wrth ei lyw.
John Hughes (Ioan Môn), Llangefni.
Cryd, Y (3)
Gwely'r oes, cyn croes, yw y Cryd:—adwy
I Eden ein bywyd:
Ond, ynddo ef cawn hefyd,
Ddarlun y bedd ar lan byd.
Dewi Peris Jones, Clwtybont.
Cryd, Y (4)
Y Cryd hoff, llawn cariad yw—ei iesin
Gynwysiad digyfryw:
Uwch ei ben y rhydd menyw
Dlos hun—gân i'w baban byw.
William Roberts (Gwilym Eryri)
Cryd, Y (5)
Mwyn wely'r fam i'w hanwylyd:—hen gist
Hwian gerdd ein mebyd:
Cronfa i suo y crynfyd;
A chwagle bach i siglo byd.
Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
Cryd Tudno Sant
Uwch yr Ogarth a'i chreigydd,— a'i ogwydd
Ar begwn tra chelfydd,
Cryd Tudno yn siglo sydd,
Heb ystŵr, â bys Derwydd.
Robert Owen (Machno), Llandudno.
Crydd, y
Deallus weithiwr dillyn,—ac enwog,
Yw'r Crydd gonest, dichlyn:
A'i wledd yw cael, trwy'r flwyddyn,
Dal da am bedoli dyn.
John Williams (Ioan Madog)
Cusan
Dyfeisiad i wefusau—yw Cusan,
Ac asydd teimladau;
A serchnod hynod rhwng dau
Gariad, a sâl eu geiriau.
Cosslett Cosslett (Carnelian)
Cwch Gwenyn, Y
Athrofa enwog i'r diogyn—ydyw'r
Goludog Gwch Gwenyn
Eira geir ar ei goryn—
Nwyddau'r haf ynddo er hyn.
James Roberts (Derwenog)
Cwch Gwenyn, Y (2)
Castell crwn, i'r hwn yr hel—y gwenyn
Gynyrch erbyn oerfel:
Gweithdy clyd, diwyd, tawel,
Y lliaws man: llys y mêl.
Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
Cwmdyli
Awenydd sydd yn ymloni—uwoh ben
Harddwch balch dy lethri,
A'i yspryd sieryd yn si
Dy awelon, Cwmdyli.
Morris Owen (Isaled)
Cwmpawd y Morwr
Y Cwmpawd bach, purach pw pan—ffy haul
Na phawb ar fôr llydan:
Dros y don d'rysed anian,
Fe sai'r hen fys i'r un fan.
Robert Williams (Trebor Mai)
Cwmpawd y Morwr. (2)
Yn hwn mae nawdd ein hynys, —ei helw
Hoeliwyd wrth ei ystlys:
Graddfa'i fwrdd, a greddf ei fys,
Rad arwain hyd for dyrys
Howell Roberts (Hywel Tudur)
Cwmwl, Y
Y nwyfre liwia'n hyfryd, — was y tarth:
I'r ystorm mae'n gerbyd:
Aml yfa'r Cwmwl, hefyd,
For i'w ben i ddyfrhau byd.
John Emlyn Jones (Ioan Emlyn)
Cwmwl, Y (2)
Mygdawch byw'n ymgodi uwch ben, o'r môr,
A'r tir maith, i'r wybren:
Llong y gwlaw yn nofiaw'r nen,
A'i hwyliau'n cuddio'r heulwen.
John Williams (Ioan Madog)
Cwmwl gwyn, Y
Siglodig harddwisg lydan, —am y gwlaw
Rhwym glog fry yn hofian;
Ac yn glws fel y cnu gwlan,
Neu ŵn angel yn hongian.
William Jones (Alwenydd)
Cwsg
Dialydd poen a dolur—yw Cwsg rhad,
Cysgr hedd meib llafur:
Hynotaf falm Duw natur,
Er iachâd blinder a chur.
Pwy yw yr Awdwr?
Cwsg. (2)
Esmwythâol gol gwely—wedi nos,
Adferiad nwyf ddyry;
A phob lludded ymedy,
A hun drom yn hoen a dry !
Rowland Evans, Garthbeibio, Maldwyn.
Cwympiad y Dail
Wyla gwlad—pob dol a glyn—alar hir
Ar ol yr haf dillyn lyn;
A rhagor nis gall brigyn
Na wylo dail wedi hyn.
Thomas Nicholson, Talysarn.
Cwympiad y Dail (2)
Oeraidd ddail, ar rudd welw—daearen,
Sy'n cydorwedd acw:
A'i wedd yn wael, ynddyn' nbw
Haf a orwedd yn farw.
Robert Arthur Williams (Berw)
Cwynfan y bardd yn amser cystudd yn ei deulu
Bu'r flwyddyn gron hon, o hyd,—yn hongian
Angeu wrth ein bywyd!
Yr haf a'r gauaf i gyd
Yn feichiog o afiechyd.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Cybydd, Y
Aur ddelw wir addolodd:—yn ei einioes
Hi'n unig chwenychodd:
Yn nydd ing hon ddiangodd,
A noeth i farn aeth o'i fodd!
William Jones (Graienyn)
Cybydd, Y (2)
Abertha oes i borthi'i wanc:—geilw—
"Golud," yn nydd oer—dranc:
Po ca'i 'e fwria'i fawrwanc
Arian y byd i'r un banc!
Owen Griffith Owen (Alafon)
Cybydd, Y (3)
Gwr wna eilun o'i hunan,—un drwy deg
Neu drwy dwyll fyn arian:
Llwytho'r god, a llethu'r gwan,
Dan wenu,—dyna'i anian.
D. (anhysbys)
Cybydd, Y (4)
Moli hen—aur melynwedd—wna'r Cybydd,—
Reibiwr cibawg, llwydwedd:
Trwy wanc, â'i grafanc ryfedd,
Deil ei bwrs hyd ael y bedd.
Robert Williams (Trebor Mai)
Cyfaill
Os gyrir ar ysgariaeth—y Cyfaill,
Bydd cofion o hiraeth:
Er mur a thref, or môr a thraeth,
Gwydnu bydd gydnabyddiaeth.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Cyfaill Twyllodrus
Cyfaill im' oedd ddoe ddiweddaf, —a'i wen
Wnai wyneb hawddgaraf:
Ei dwyll heddyw deallaf, —
Wedi troi i'm choi mae'r cnaf!
Thomas Hughes (Isalun)
Cyfiawnder Dwyfol
Gwirionedd wna'r byd i grynu !—y chwa
A chwyth fflamiau'r fagddu!
Hanfod deddf, a'r nef o'i du:
'N dân ysol, ond yn Iesu.
Thomas Essile Davies (Dewi Wyn O Essyllt)
Cyfiawnhad drwy ffydd
Cofiwn hyn, —os ein cyfiawnhau—a gawn,
Mai gwerth gwaed y Meichiau
A ro'dd hawl i Dduw'n rhyddhau,—
Hyn yw moddion y maddau.
Thomas Jones (Powyson) Caernarfon
Cyffes y Bardd
Myned i'r pridd yn ddiddadl—yr ydwyf,
Heb rodio mwy'n drwyadl:
Gwen yw'r en, —gwan yw'r anadl, —
Brau yw'r einioes, —nid oes dadl!
Robert Edwards (Robin Ddu o Feirion), Trawsfynydd.
Cyffes y Gwrthgiliwr
Trwy'm buchedd y trwm bechais:—gwaed yr Oen,
Gyda'i rinwedd, geblais:
Uwch law oll, ag uchel lais,
Iesu eilwaith groeshoeliais.
Thomas Jones (Taliesin o Eifion)
Cyffes yr Oferddyn
Iachawdwriaeth pechaduriaid—wawdiwn
Gyda meddwl wibiaid:
Rhydd hyn im' boen—poen heb baid;
A gruddfana gwraidd f'enaid.
Pwy yw yr Awdwr?
Cyffes yr Oferddyn (2)
Ofer pan haner hunwyf, —a hefyd
Ofer pan ddeffrowyf:
Afradus, ofer ydwyf:
Fe wyr Duw ofered wyf.
Siôn Dafydd Las, Penllyn Tegid, .
Cynghor, Y
Ystyr, enaid estronol—i rinwedd, —
Cryna'n edifeiriol:
"Soflyn sych," dychryn, tro'n d' ol,
"Ein Duw ni sy dân ysol."
Robert Williams (Trebor Mai)
Cynghor Boreu, Y
Cyn llunio canwyll anian,—na sylwedd
Cynseiliau pedryfan,
Trefnwyd, arfaethwyd rhyw fan
Diogel i fyd egwan.
John Emlyn Jones (Ioan Emlyn)
Cynghor i fachgen ofer
Tydi, lanc ifanc, ofer, —was tirion,
Ystyria dy amser:
Na oeda ar gefn byder:
Nid oes i fyw ond oes fer.
R. J., Clochydd Llansannan
Cynghor i Haelioni
Agor dy drysor,—dod ran, —trwy gallwedd,
Tra gellych, i'r truan:
Gwell, ryw awr, golli'r arian,
Na chau'r god, a nychu'r gwan.
Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)
Cymeradwyasth y bardd i feddyginiaeth a'i gwellhasai
Os anwyd, fel ce's innau, —neu beswch,
Sydd bwys ar eich bronau,
Nis meth hwn eich esmwythau,
Os treuliwch rai costrelau.
Owen Roberts (Owain Aran)
Cymhelliad i fod yn drugarog wrth y tlawd
Os ti agori, yn gall,—bwrs i wael,
Brashä'r Nef di'n ddiwall;
Os ti a'i pini, daw pall,
Pinia Ior y pen arall.
Robert Williams (Trebor Mai)
Cymru, Cymro, a Chymraeg
Mawryga gwir Gymreigydd—iaith ei fam,
Mae wrth ei fodd beunydd:
Pa wlad, wedi'r siarad, sydd
Mor lan a Chymru lonydd ?
William Williams (Caledfryn)
"Cymru lan, gwlad y gan."
Yr Andes a'n ddyffryndir, —y Werydd
A droir yn gyfandir,
Dyffryn Clwyd i Ffrainc gludir,
Cyn yr a tân cân o'r tir.
David Hugh Jones (Dewi Arfon),
Cynddaredd y Mor
Y Mor, â gwallt mawr a gwyn,—sy' a'i drem
Megis drych gwallgofddyn:
I ysgwydd y graig esgyn,
I herio ser haner syn.
Joshua Thomas Morgan (Thalamus)
Cyn fy nghystuddio, yr oeddwn yn cyfeiliorni; ond yn awr cedwais dy air di."—PSALM Cхіх. 67
Y bore dowch o'r bair den—y gwelwch,
Mewn goleu, ei dyben:
Daw dyddiau'r poenau i'r pen,
A molwch am y wialen.
David Jones, Treborth,
Cynffonwr, Y
Cenaw yr hun-amcanion—yw y gwr
A garia y gynffon,
Ddaiarai egwyddorion,
Os ceid tâl am ysgwyd hon.
Edward Evans (Morfryn), Llynlleifñad.
Cyn y dechreuad
Bu adeg heb ddim bydoedd, —nac engyl,
Nac angeu, na nefoedd,
Na goleuad mewn gwagleoedd,
Na chreu dim, —cyn dechreuad oedd.
Robert Stephen (Moelwyn Fardd)
Cyweirgorn Telyn
Tair pibell i gymell y gân,—aur, fedrus,
Ar fodrwy liw arian:
Tynu mae y tannau mân,
Tlws, eurgerdd, at lais organ.
Elis Cadwaladr, Llandrillo, O.C. 1707—1749.
Chwaer y bardd ar ei gwely angeu
Yn ei galar y'i gwelais—yn cwynaw
Mewn acenion llednais, —
Yn wen ei lliw, —'n wan ei llais—
A'r oerwlith ar ei harlais.
Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai}}
Chwaeth Bur
Chwaeth Bur sy'n eglur ei nod:—athrylith
Reola: myn osod
Rheol i'r gorfeiddiol fod,
A dewrder dan awdurdod.
Robert Thomas (Ap Vychan)
Chwarel y Penrhyn
Prif gloddfa Gwalia i gyd,— a'i meini
Er mwyniant i'r hollfyd:
A rhyfedd os ceir hefyd,
Wythen o'i bath yn y byd.
Griffith Williams (Gutyn Peris}}
Chwiliwr y Galon
Deall Ior hyd a lled—y galon,—
Gwylia wraidd y weithred:
Edwyn ddyn, nid yn a dd'wed—
I'w du mewn mae Duw 'myned.
Robert Williams (Trebor Mai)
Dafydd a Goliath
Yr Ion a fu'n arweinydd—a nodded
Beunyddiol i Dafydd:
Arfau a nerth ni orfydd,—
Llaw Duw a enill y dydd.
John Watkin Jones (Watcyn Fardd)
Dafydd Ionawr
Tra mae hwn yn trwm hano—rhaindrau
Yr Idris sy'n bloeddio:—
"Aeth Awen dan grawen gro
Y diwrnod cauwyd arno!"
Robert Stephen (Moelwyn Fardd)
Dafydd Ionawr (2)
Y llaw enwog fu'n llunio—cywreinwaith,
Ceir hon wedi gwywo:
Dengys ei fedd anedd o
Athrylith wedi'i threulio.
Lewis Edwards (Llewelyn Twrog)I
Dafydd Ionawr a Goronwy Owen, y rhai a anesid yr un mis, sef Ionawr.
Caed blodau gorau, ac aeron, —gynau,
Yn ein Gwynedd ffrwythlon:
Ganwyd Ionawr mawr Meirion
Yr un mis a G'ronwy Mon.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu o Eifion)
Daniel yn ffau'r llewod
Daniel—gwas y Duw hynod, —wyt ti'n fyw
Eto'n y fath drallod ?
Frenin, clyw! wyf fyw am fod
Dau lywydd ar dy lewod!
William Roberts (Gwilym Aran.)
Daniel yn ffau'r llewod (2)
Gwêl Daniel dan glo dynion yng ngharchar,
Rhwng erchyll beryglon:
Llu dof yw'r llewod hyfion,
Ac wele reddf dan glo'r Ion.
Thomas Jones (Tudno)
Daniel yn ffau'r llewod (3)
Eiddo Duw, mae'n hawdd deall, —yn y ffau,
Oedd hwn o ffydd ddiwall:
Gwylia, ddyn, ryw egwyl, ddall
Hyderu mewn duw arall.
William Jones (Alwenydd)
Daran, Y
Llais Ior o'i freinllys eirian,-a'i erchyll
Gyfarchiad, yw'r Daran:
Bryfyn pridd gan ymddiddan,
Fry, â thi, mewn dwfr a thân!
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd}}
Daran, Y (2)
Enyniad, fry, yn anian,-o orlawn
Awyrlif a gwefrdan,-
A thrwst rhuthriad tyniad tân
Drwy y dw'r,-ydyw'r Daran.
John Williams (Ioan Madog)
Daroganiad y bardd yn y flwyddyn 1850
Codais, ymolchais yn Mon:-bu ryfedd,
Boreufwyd Caerlleon:
Pryd gosper ddoi'n y Werddon:
Prydnawn wrth dan mawn yn Mon.
Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd (Robin Ddu Ddewin)
"Da yw i mi fy nghystuddio."
Tan gur, mewn tonau geirwon,—minau wyf
Yma'n yfed loesion,
A phoenau blin, o ffynon
Cerydd y caruaidd Ion.
Robert Eidiol Jones (Eidiol Môn)
Dechreu y flwyddyn 1879
Aeth mam aflwydd y blwyddi —o'r hen fyd
I'r Farn fawr ei chyfri':
A ddaeth hon—ei merch ddoeth hi
I wneuthur iawn ei thrueni?
Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)
Deddf yr yd
Main a du y mae bin d'od,—a meinach
Mae'n myned bob diwrnod;
A main a fydd tra myn fod,
Wrth y llyw, oirth a llewod!
Robert Stephen (Moelwyn Fardd)
Deigryn, Y
Gloyw ddafn, na fu ddafn o ddyfnach—ystyr,
Na thyst o'i gywirach:
Delw ing heb deilyngach:
Boglyn byw y galon bach.
Robert Williams (Trebor Mai)
Deigryn, Y (2)
Ar rudd burlwys, hardd berlyn, —o'r galon
I'r golwg, yw Deigryn:
Arllwysiad dwfn deimlad dyn,
Amnaid fawr mewn diferyn..
Humphrey Bradley Jones (Garmonydd)
Deigryn, Y (3)
Nod amlwg iawn o deimlad—yw gwlawog
Ddeigryn gloew'r llygad:
Pur ryfedd ddwfr y profiad:
Arwydd o hoen neu bruddhad.
Edward Davies (Iolo Trefaldwyn)
Deigryn, Y (4)
Wele! teifl Deigryn, fel tòn,—i'r wyneb
Gyfrinach y galon;
Ac 'e fuda'r gofidion
Ar ei frig o fôr y fron.
Richard Davies (Tafolog)
Deigryn ar fedd fy mrawd
Dy gul fedd, dyogel fyddo:—dy hir gwsg,
Daear gaiff ei siglo:
Dy enaid, beth am dano?
Ië, pwy fydd pia fo ?
David Morris (Dewi Glan Dulas)
Deigryn Cydymdeimlad,
Dystaw arwydd o dosturi—ydwyt,—
Huda'r nef i sylwi:
Car yr angel dy wel'd di
Ar y wyneb yn croni.
William Roberts (Gwilym Eryri).
Deigryn yr Edifeiriol
'Hed angel i gostrelu—y dw'r red
Hyd y rudd am bechu:
I'r ne' owyd y deigryn cu
Yn rhyw lwys berli Iesu.
Richard Davies (Tafolog)
Deisyfiad
Dwg fi, Ion—union Arweinydd—i sail
Y Gaersalem newydd:
Llyna y bau lle ni bydd
Un drwg aua'n dragywydd.
Risiart Powell, Ysbyty Ifan.
Deisyfiad am Haf
Haul glân! dy fuan fywyd—dyro'n do.
Ar ein daear wywlyd:
O farw gwna'i hadferyd,
A rho wawr ha' ar ei hyd.
John Owen Williams (Pedrog)
Delyn, Y
Plethiadau, tannau tynion—y Delyn
I'r dilesg feddylion:
Odlau saint yw adlais hon,—
Llais neu fawl llys nefolion.
Walter Davies (Gwallter Mechain).
Delyn, Y (2)
Senedd o ymrysonau,—y ddeudy
O ddedwydd gydleisiau:
Anian i gyd yno'n gwau
Iaith enaid ar ei thannau.
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Derwydd, Y
I'n crefydd Derwydd fu'n darian;—a'i ddawn
Ro'es i Dduw yn gyfan:
Swyddog coeth yn ngorsedd cân:
Darllenwr ar droell anian.
Owen Gethin Jones
Diafol, Y
Angel, fu'n uchel ei nod,—geuwyd dap
Gadwynau y Duwdod,
Yw'r Diafol, collfarnol fod:
Dyryswr daear isod.
Robert Williams (Trebor Mai)
Diar. i. 26
O! genedl lawn drygioni, —chwi lygrwch
Halogrwydd â'ch gwegi:
Ar unwaith daw'ch trueni,
A Duw a chwardd ac nid chwi
William Jones (Graienyn)
Diareb
Gwirionedd mewn gwisg werinol—i bwynt,
Ergyd byw, naturiol,
Yw Diareb,—heb, o'i hol,
Air o'i bath,—mae'n wir bythol.
Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)
Diffyniad i fedydd trwy drochiad
Derbyniwn wawd-eiriau beunydd—i hen
Ordinhad ein crefydd;
Ond bèr i bawb ro'wn tra bydd
Awdwr byd o du'r bedydd.
Robert Jones (Meigant) Caernarfon
Diluw, Y
Duw welir mewn dialedd—yn ei ddw'r:
Ar ddiriaid anwiredd
Gyrai lanw'i greulonedd,—
A dyna fyd yn ei fedd!
Morris Owen (Isaled)
Dim
Erioed yn ddigreuedig,—huna Dim
Dan do'r anweledig:
Tad i'r oll ond Duw: a drig
Yn ei enw yn unig.
Richard Williams (Gwydderig)
Dinystr anian
Angel cryf, yn hyf, ar arch Ner,—ry'i fys
Ar fawr bendil amser:
Dyryaa heirdd rodau'r ser,—
Safant fel awrlais ofer. . .
Richard Davies (Tafolog)
Dinystr Chicago
Adlais gwyd, o losgedig—fin y fan,
Ofyniad crynedig:—
"Ymwelodd Braich, deimlodd bri
Gomorrah, âg Amerig!"
Thomas Jones (Tudno).
Diras-difendith
Ni fydd mewn gelltydd gwylltion—afalau,
Neu felus bêr aeron;
Na daioni mewn dynion,
Oni b'ai ras yn eu bron.
Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)
Dirgelwch bodolaeth Duw
Mawredd Ior, fel moroedd, im', —a leda'r
Anweladwy ddyddim:
Trig iddo yw tŷ 'r goddim,
A môr o Dduw yw'r mawr ddim.
Richard Davies (Tafolog)
Diwedd dyn
Y gwr a f'o ucha 'i goryn—a ddaw
A'i ddiwedd i'r priddyn:
Fal y daw i flodeuyn
Ddiwedd, felly diwedd dyn!
David Thomas (Dafydd Ddu Eryri)
Diwedd yr Annuwiol)) Ah! draw mae nos drom yn nesu,—a Duw
- Yn d'od i geryddu:
- Acw, yn y ddwys ddrycin ddu,
- Dygir enaid i grynu.
Richard Evans (Mervinian) Croesoswallt. </poem>
Diwydrwydd yr Amaethon
Amaethon boddlon, yn bur,—a'i ddwylaw
Yn ddilesg mewn llafur:
Gresyn fod gormod o'i gur
Er dwyn saig i'r dyn segur
David Owen (Dewi Wyn o Eifion)
Drindod, Y
Duw Dad, Duw Fab rhad priodol,—dwysbraff,一
Duw Yspryd sancteiddiol,
Duw Tri'n Un, nis dettry'n ol,
Duw yw Hwn diwahanol.
Iolo Goch, O.C. 1400.
Drych, Y
Yn y drych pan edrycho—un, fe wel
Ei fyw eilun ynddo :
Nis gall un, byth, ddarlunio,
Gyda'i bwyntel, fel y fo.
William Roberts (Gwilym Eryri)
Drych yr Ysgrythyrau.
Lach ydyw y pechadur,—wag obaith,
Cyn gwybod ei natur:
Goreu peth yw y Gair pur
Iddo weled ei ddolur.
Ap Ieuan, Borth y gest.
Dryw Bach, Y
Nid oes cân ddoniol ganddo, —na thy gwych,
Na theg wisg am dano:
Ei or-fawr fychandra fo
Wnaiff un yn hoff ohono.
Pwy yw yr awdwr?
Duw Ior, cofia'r aderyn.
Ein Duw Ior, Ti biau'r aderyn—bach
Syn mön y berth resyn !
O! rho i hwnw'i fan ronyn:
Mae'n oer ei goes mewn eira gwyn!
Thomas Essile Davies (Dewi Wyn O Essyllt)
Duw yn creu
Dyferai Duw, o foroedd—Ei allu,
Y troellog flam-fydoedd,
Rhi' y gwlith, ar chwyrn dreigl, oedd
Yn gwlawio drwy'r gwagleoedd.
Richard Davies (Tafolog).
Duw yn fud.
Y Duw dirfawr, diderfyn,—bu ryfedd
Ei brofi gan adyn!
Un fu'n llunio tafod dyn
Yn fud o flaen pryfedyn!
John Williams (Ioan Madog)
Duw yn gweithio'n ddystaw.
Pwy mor ddiwall o ran gallu—ei glust
A glyw'r blodau'n tyfu,
A dawn can gwybod yn on
Yn gwan-hoedlog anadlu!
Evan Jones (Gurnos)
Nodiadau
[golygu]
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.