Plant y Goedwig/Cenhadon Cymreig Canolbarth Affrica
| ← Chungu | Plant y Goedwig gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
→ |
CENHADON CYMREIG CANOLBARTH AFFRICA.
PETH mawr yn hanes dyn ieuanc yw dewis bod yn genhadwr. Nid yw yr un fath o gwbl a dewis rhyw waith arall mewn bywyd, megis bod yn saer, yn siopwr, yn ysgolfeistr, nac hyd yn oed yn bregethwr. Golyga ddewis yn wirfoddol galedi a pheryglon, colli llawer o bethau gwerthfawrocaf bywyd, cefnu ar bleserau, ac ar bosibliadau disglaer, ac wynebu ar fywyd unig, ymhlith anwariaid, mewn hinsawdd afiach yn fynych, ymhell o'r diddanwch sydd i'w gael yng nghwmni câr a chyfaill a chydnabod, ymhell o gysuron a llawenydd cartref. Mewn gair, golyga ymgysegriad llwyr i wasanaeth yr Iesu. Sicr iawn bod yn yr ymgysegriad hwnnw ogoniant a mwynhad a orbwysa'r holl anfanteision, a gall bywyd cenhadwr, wedi'r cyfan, fod y bywyd hapusaf dan haul.
Diddorol iawn sylwi ar fywyd y Cymry ieuainc a gysegrodd eu bywyd felly i fynd allan i Ganolbarth Affrica. Am genhadon y rhan honno o'r byd yn unig y soniwn yma.
Wedi darllen hanes "Plant y Goedwig" gwyddom eisoes rywbeth am fywyd yn y lleoedd hynny.
Saith yw nifer y cenhadon Cymreig a aeth allan dan nawdd Cymdeithas Genhadol Llundain i osod i lawr sylfeini'r gwaith yng Nghanolbarth Affrica. Ffaith hynod yw mai Deheuwyr yw'r saith,—pump ohonynt o sir Gaerfyrddin, un o Aberteifi, ac un o Frycheiniog.
Taflwn drem frysiog dros fywyd pob un.
ROGER PRICE. (1836-1900.)
Ganwyd Roger Price yn y Beili Brith, ger Aberhonddu, yn y flwyddyn 1836. Ffermwyr oedd ei rieni. Pan oedd yn lled ieuanc danfonwyd ef i'r ysgol i Lanelli at y Parch John Davies. Aeth oddiyno i Goleg Plymouth. Cyn mynd allan i Affrica yn y flwyddyn 1858 priododd ferch Dr. Slater o Plymouth.
De Affrica,—Tir Makololo,—a fu maes ei lafur ef yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Aeth allan, efe a Mrs. Price, a Mr. a Mrs. Helmore a'u pedwar plentyn, ar y 5ed o Fehefin 1858. Aethant i Cape Town, oddiyno i Kuruman, oddiyno i Linyanti
Yma bu farw Mr. a Mrs. Helmore a dau o'u plant. Dan yr amgylchiadau hyn, ac wedi colli llawer o'u heiddo drwy anghyfeillgarwch y pennaeth a'r brodorion, trodd ef a Mrs. Price a dau blentyn amddifad Mr. a Mrs. Helmore eu hwynebau yn ol drachefn i gyfeiriad y de. Ond lle peryglus iddynt oedd y wlad honno. Un diwrnod, cymerwyd Mrs. Price yn glaf iawn. Cafwyd allan iddi yfed dwfr o ffynnon oedd wedi ei gwenwyno gan y brodorion. Er pob ymdrechion bu farw ar y 5ed o Orffennaf 1860. Gorfu i'w phriod galarus ei hun dorri bedd iddi a'i chladdu. Wedi mynd o gam i gam hyd Cape Town, a rhoi'r ddau amddifad yn ddiogel ar fwrdd llong i ddychwelyd i Loegr, trodd Mr. Price yn ol ei hun i Kuruman. Yna, ar y 23ain o Hydref 1861 priododd Elisabeth, merch yr enwog Robert Moffat. O hynny hyd 1875 bu'n llafurio gyda llwyddiant mawr yn nhir Matabele a Logageng.

Yn 1875 pan oedd ef a'i deulu ar ymweliad â Lloegr, penodwyd ef i fynd i Ddwyrain Affrica i geisio cael allan y ffordd oreu a'r modd y gellid cludo nwyddau o Zanzibar i Lyn Tanganyika, er mwyn sefydlu achos yn Ujiji. Cychwynodd o Lundain Mawrth 18, 1876, gan gyrraedd Zanzibar Mai 2. Wedi gwneud ymholiadau manwl a pharatoadau mawr,—oherwydd yr oedd ffordd yn ddieithr a phell,—cychwynodd o Saadani ac aeth mor bell a Mpapwa. Nid oedd hyn ond un ran o dair o'r ffordd i Ujiji. Wedi casglu gwybodaeth yno am y gweddill o'r ffordd dychwelodd drwy Saadani a Zanzibar eto i Lundain. Penodwyd ef i arwain y cwmni cyntaf o genhadon i Ujiji, ac o gyrraedd yno, i sefydlu achos ar lan y Llyn. Ond er brwydro'n ddewr yr oedd y rhwystrau ar y ffordd mor enbyd fel y barnodd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas yn ddoeth eu galw'n ol a gohirio sefydliad yr achos ar lan y llyn.
Yn 1883-4, cafodd Mr. Price yr anrhydedd o fynd allan gyda'r Ysgrifennydd Tramor ar ei ymweliad a Thir Matabele a Bechuana.
Yn 1884 penodwyd ef yn olynydd i Mr. Mackenzie fel athro yn Sefydliad Moffat yn Kuruman.
Bu farw yn Kuruman yn 1900.
WILLIAM GRIFFITH. (1853-1917.)
Dywedasom eisoes fod pump o genhadon y Canolbarth yn dod o sir Gaerfyrddin. Daw pedwar ohonynt bron o'r un ardal,—dau o Wynfe, un o Landeilo, ac un o Landebie; a daw'r llall o St. Clears. Beth, tybed, a gyfrif am hyn? Wel, o Wynfe yr aeth yr enwog "Griffiths Madagascar " allan yn 1820, ac erys ei hanes arwrol ef yn ysbrydiaeth i blant yr ardaloedd hynny o hyd. Nai i Griffiths Madagascar oedd William Griffith. Ganwyd ef yng Ngwynfe, Tachwedd 6, 1853, yn yr un ty ag y ganed ei ewythr,—Glanmeilwch. Clywsai er yn blentyn, ar aelwyd ei rieni, lawer o son am genhadon. Merch i'w ewythr enwog oedd gwraig gyntaf Dr. Griffith John, ac unwaith pan oedd y Dr. a'i briod ar ymweliad a Gwynfe, cafodd William Griffith ieuanc y fraint o'u clywed hwy a'r Parch Wm. Thomas, Gwynfe, yn ymddiddan am y gwaith yn China. Digon tebyg mai pregeth nerthol gan Dr. John yn Jerusalem, Gwynfe, ar y geiriau "Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist a fu'n foddion iddo gynnig ei wasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain. Y tro nesaf y daeth Dr. Griffith John i'r un ardal yr oedd William Griffith eisoes yn llafurio ar y maes cenhadol. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Caerfyrddin a Western College, Plymouth.
Yn gynnar yn 1879 cyffrowyd ei ardal gan y newydd am ei benodiad i'r Canolbarth. Maes newydd oedd y Canolbarth y pryd hwnnw, a'r anawsterau a'r peryglon o'i fewn yn fawr. Yr oedd rhai yn bresennol yn ei urddiad a gofiai urddo'i ewythr yn 1820.
Ar y cyntaf o Ebrill 1879 hwyliodd o Lundain i Zanzibar yng nghwmni Dr. Southon, meddyg, a Dr. Mullens, ysgrifennydd tramor y Gymdeithas
Treuliwyd misoedd ar y daith o Zanzibar i lan Llyn Tanganyika. Bu farw Dr. Mullens ar y ffordd. Wedi cychwyn o Zanzibar Mehefin 13, cyraeddasant Mpapwa Gorffenaf 11, Urambo Awst 30, ac Ujiji Medi 23. Gadawodd William Griffith Ujiji Hydref 22 am Uguha. Wedi llafurio yno am ddwy flynedd symudodd ychydig yn nes i fyny i Butengo,—lle a'i hinsawdd heb fod mor gynnes-afiach ag yn Mtowa. Llafuriodd yma am dair blynedd arall gyda llwyddiant mawr. Dychwelodd yn nechreu 1884 i'r wlad hon am seibiant, a chan mor llethol i'w gorff a'i feddwl oedd gwres llaith y Canolbarth ni ddychwelodd mwyach i Affrica. Aeth i Minnesota o dan nawdd Cymdeithas Genhadol yr Unol Dalaethau a bu farw yno Chwefror 12, 1917.
DAVID WILLIAMS. (1856-1881.)
Dyma un eto o feibion ardal enwog Gwynfe. Yng Ngwernellim, Dyffryn Tywi, ar y 10fed o Chwefror 1856 y ganwyd ef, ond yn fuan wedi ei eni symudodd ei rieni i Wynfe. Cafodd Ysgol Frytanaidd yr ardal wledig honno y fraint o gychwyn ar eu gyrfa addysgol dri chenhadwr. Yr oedd y tri yno ar yr un pryd, ac efallai yn yr un dosbarth,—William Griffith, David Williams, a Griffith Griffith, a aeth yn genhadwr i China.
Wedi gadael yr Ysgol Frytanaidd, bu David Williams am ychydig yn Ysgol Ramadegol Llandeilo, ac wedi hynny, ar ol rhai blynyddau o gynorthwyo ei dad ar y fferm, aeth i Ysgol Llangadog, nes llwyddo i basio i Goleg Caerfyrddin yn 1876.
Bachgen ieuanc dwys a chrefyddol ei ysbryd oedd. Bu'n ofalus i gadw'r ddyletswydd deuluaidd ar aelwyd ei dad, a sylwid y byddai bob amser yn cofio ar ei weddi am “feibion, duon Affrica." Yr oedd yn ffyddlon iawn gyda gwaith yr eglwys yng Nghapel y Maen, Gwynfe, ac yn hoff iawn o ganu. Ni ddywedodd wrth neb am ei awydd i fod yn genhadwr nes ei gymell i bregethu gan yr eglwys, ond amlwg yw bod y bwriad yn ei galon er yn fore.
Wedi treulio tair blynedd yng Ngholeg Caerfyrddin, gwnaeth gais at Gymdeithas Genhadol Llundain am dderbyniad fel cenhadwr. Derbyniwyd ef gyda mwynhad a symudwyd ef i Western College, Plymouth. Yr oedd William Griffith yno ar yr un adeg. Penodwyd yntau i fynd i Ganolbarth Affrica, i Urambo.
Hwyliodd allan Ebrill 16, 1880, a chyrhaeddodd Zanzibar Mai 29. Oddiyno aeth drwy Kilkwazo, Mamboya, a Mpapwa, a chyrhaeddodd Urambo Medi 12.
Mae ei lythyrau at ei rieni o'r lleoedd yr arhosai ynddynt ar hyd y daith yn ddiddorol iawn. Ysgrifenna am dlysni Algiers, gan synnu bod tref mor hardd yn Affrica. Dywed am danynt yn Zanzibar: "Pe gwelech ni ar unrhyw ddiwrnod, ag eithrio'r Sabath, gwelech ryw ddwsin o Negroaid o'n cwmpas, Dr. Palmer heb ond ychydig ddillad am dano yn pwyso'r llwythi, a minnau yn awr ag ysgrifbin yn fy llaw yn rhoddi i lawr y cyfrifon, a phryd arall â morthwyl, cŷn, neu rywbeth arall yn fy llaw, a chwys fy nhalcen yn gwasanaethu fel olew ar yr offer."
O Camp Kilkwazo sonia am y gwres o 95°, ac am y lle anial yr aent drwyddo a'r peryglon oddiwrth lewod. O Mamboya dywed, "Yr ydym yn awr wedi cerdded cant a thrigain o filltiroedd, a theimlaf yn llawer mwy diflino na phan y cychwynais o Zanzibar."
Ac o Mpapwa dywed ei fod wedi bod yn y dwymyn (ague neu intermittent fever) am dros wythnos, a'i fod wedi ymweld â bedd Dr. Mullens.
Dyma ddarn o’i lythyr wedi cyrraedd pen ei daith:—"Ar y cyfan bu'n daith gysurus, er cyfarfod ohonom a lliaws o anawsterau; ni allem edrych ymlaen o Zanzibar ar y dyfodol heb beth petrusder i ymgymeryd a'r gorchwyl o arwain tri chant o negroaid i fyny i'r lle hwn.
Rhedodd lliaws o'n cludwyr ymaith, a braidd y gallasom symud o'r fan heb adael rhan o'n pethau ar ol. Buom agos a llewygu o eisieu dwfr unwaith neu ddwy, a buom ddwywaith yn disgwyl haid o ladron i ymosod arnom bob munud, ond trwy drugaredd ein Duw, gwaredwyd ni allan o'r holl bethau hyn."
Ysgrifennai Mr. Williams yn rheolaidd yn ei ddydd-lyfr. Cyhoeddwyd hwnnw gan ei frawd, a rhydd i ni drem ddiddorol ar fywyd cenhadwr yn Affrica. Sonia am dano ei hun yn chwarae tonau Cymru ar y concertina, er llawenydd i dyrfa fawr, am dano'n siarad â'r pennaeth ac yn gofyn caniatad i adeiladu ty, yn efrydu'r ddwy iaith angenrheidiol,—y Kiswahili a'r Kinyamwezi,—yn dysgu dynion ieuainc i ddarllen, yn pregethu yn un o'r ieithoedd brodorol, yn cyd-gyfranogi ag ereill o Swper yr Arglwydd, ac yn cael Sabath tebig i Sabath gartref. Drwy ei holl nodiadau mae swn dioddef oddiwrth y dwymyn.
Cymerwyd ef ymaith ynghanol ei waith a'i fwriadau. Ar y 24ain o Fedi 1881, tua blwyddyn wedi cyrraedd Urambo, cafodd synstrôc, a bu farw wedi ychydig oriau o gystudd trwm.
Dywedai Mirambo, y pennaeth anwaraidd, am dano: "Carem ef fel brawd."
Gosododd rhyw Gymro ystyllen â'r llythrennau "D.W." arni i ddynodi "man fechan ei fedd" ym mhen uchaf ei ardd yn Urambo bell.
JOHN PENRY. (1854-1883.)
Mab John a Margaret Penry, Tir mawr, Llandeilo, oedd y dyn ieuanc hwn. Wedi gadael yr Ysgol Frytanaidd a phan oedd yn bedair ar ddeg oed rhoddwyd ef yn brentis dilledydd yn Llangadog. Wedi gorffen tymor ei brentisiaeth bu wrth yr un gwaith yn Bolton a Manceinion.

Yr oedd yn fachgen ieuanc darllengar a chymrai ran flaenllaw yng nghyfarfodydd y bobl ieuainc yn y gwahanol eglwysi y bu yn aelod ohonynt. Cyn hir teimlodd awydd bod yn bregethwr. Gadawodd ei waith ym Manceinion, daeth adref, ac wedi cael gwahoddiad taer gan yr eglwys yn y Tabernacl, Llandeilo, i ymgyflwyno i waith y weinidogaeth aeth i ysgol y Parch J. Davies i Langadog. Oddiyno aeth i Goleg Anibynnol Lancashire, ac yn ystod ei arhosiad yno y penderfynodd fynd yn genhadwr. Derbyniwyd ei gais yn galonnog gan Gymdeithas Genhadol Llundain.
Rhoddodd ei fryd ar fynd i Ganolbarth Affrica. Er clywed digon am hinsawdd afiach y lle, er i'w berthynasau a'i gyfeillion erfyn arno ddewis maes arall llai ei anawsterau a'i beryglon, er derbyn newydd am farw sydyn ei gyfaill ieuanc David Williams, pan oedd ef ar fin cychwyn, ni newidiodd dim ei benderfyniad,—y Canolbarth oedd gwlad ei ddymuniad.
Hwyliodd Mai 17, 1882, a chyrhaeddodd Zanzibar Mehefin 19.
Oddiyno, ar ol ychydig wythnosau o baratoi, dechreuwyd y daith i fyny at y Llyn. Yn Mpapwa daliwyd Mr. Penry gan gystudd trwm. Drwy ofal diflino'r cenhadwr meddygol, Dr. Baxter, adferwyd ef drachefn ac ail gychwynwyd. Dywedai Mr. Penry yn un o'i lythyrau wedi ei adferiad o'i gystudd: "Mae y ffaith fy mod wedi edrych ar angau megis, wedi gwasanaethu i ddyfnhau fy mhenderfyniad i ddilyn y cwrs a ddewisais, neu fel y credaf, yr arweiniwyd fi i'w ddewis."
Uguha oedd y maes a drefnasid ar gyfer Mr. Penry, ond gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, a methodd fynd ymhellach nag Urambo, lle bedd David Williams. Arhosodd yno amryw fisoedd gan ddisgwyl gwellhad, ond yn ofer, a gorfu iddo wynebu'r syniad o orfod troi'n ol cyn hyd yn oed gweld y maes y rhodd— asai ei galon arno. Bu'r ymdrech yn galed iawn ond gorfu iddo ildio. Yng nghwmni un arall, un o gen— hadon Eglwys Loegr, oedd yn gystuddiol fel yntau, trodd yn alarus a siomedig tua chyfeiriad cartref. Bu'n rhaid ei gludo'r holl ffordd o Urambo mewn hamoc. Wedi chwech wythnos o deithio caled, cyraeddasant Kisokwi, gorsaf genhadol ger Mpapwa, ar y 19eg o Ebrill. Gwaethygodd Mr. Penry yn gyflym, ac er pob gofal, bu farw ymhen deuddydd, ar yr 21ain o Ebrill, 1883. Ei eiriau olaf oedd: "Tell my friends that I die trusting in Jesus and in Him alone."
Claddwyd ef yn ymyl bedd Dr. Mullens yn Mpapwa. Mae maen coffa iddo yng Nghapel y Tabernacl, Llandeilo, wedi ei osod gan ei gyfeillion a'i gyd— fyfyrwyr yng Ngholeg Anibynnol Lancashire.
DAVID PICTON JONES. (1860-)

Ganwyd Mr. Jones yn y Ceinewydd, Sir Aberteifi, Ionawr 20, 1860. Mab ydyw i Mr. Elias ac Elisabeth Jones. Fel y lleill dechreuodd yntau ei addysg yn yr Ysgol Frytanaidd, a synnai ei athrawon at ei allu i ddysgu. Wedi gadael yr ysgol, dechreuodd ddysgu crefft saer, a phan oedd yn bedair ar ddeg oed aeth at ewythr iddo yn Lerpwl i'w brentisio yn y grefft honno. Ymhen tua seithmis aeth yn ei ol i'r Cei.
Yr oedd rhywbeth o'i fewn yn dweyd wrtho o hyd mai i bregethu y galwyd ef, ond yr oedd yn dra ofnus. Cyn hir aeth i Ysgol Ramadegol Towyn, Ceinewydd, ac oddiyno i Goleg Caerfyrddin. Wedi dwy flynedd yno, gyrrodd gais at Gymdeithas Genhadol Llundain am gael ei dderbyn fel cenhadwr. Cynghorwyd ef i orffen ei gwrs yn y Coleg, a gwneud cais drachefn. Gwnaeth felly, a chafodd ei dderbyn yn ddioed.
Canolbarth Affrica oedd y maes a ddewisodd. Er i feddyg y Gymdeithas ddweyd wrtho nad oedd yn ddigon cryf i fynd yno, ac y byddai'n well iddo ddewis maes arall, dywedodd Mr. Jones mai i'r Canol— barth y dymunai fynd, os oeddent yn fodlon, ac nad oedd arno ofn y canlyniadau.
Felly y bu. Hwyliodd Mai 17, 1882, gan gyrraedd Llyn Tanganyika yn niwedd Chwefror 1883. Yr oedd Mr. Penry yn myned allan yr un pryd, ond fel y gwelwyd gorfu iddo ef droi yn ol o Urambo. Aeth Mr. Picton Jones ymlaen i Uguha, ac ymsefydlodd yno. Bu yno am bedair blynedd yn ddiwyd a llwyddiannus. Ond yr oedd y lle mor afiach i ddynion gwynion, fel y gorfu i'r Gymdeithas roddi i fyny'r gwaith cenhadol yno.
Wedi ychydig seibiant yn y wlad hon dychwelodd Mr. Jones gyda'i briod yn 1887 i Fwambo, lle ar ucheldir gwastad rhwng llynnoedd Nyasa a Tanganyika. Gwnaeth waith mawr yma. Heblaw llanw'r swyddi o ddoctor, saer, garddwr, dysgawdr, ynad heddwch, a gweinidog, dysgodd yr iaith wrth gwrs,a rhwyddhaodd y ffordd i ereill i'w dysgu. Dygodd allan ei "Outlines of Kimambwe Grammar" ar gyfer Cymry a Saeson ac ereill, a chyhoeddodd "Lyfr Sillebu" at wasanaeth y brodorion. Cyfansoddodd Lyfr Emynnau hefyd yn iaith Kimambwe a chyfieithodd rannau o'r Efengylau.
Pan aeth allan drachefn yn 1894 wedi tymor byr o orffwys (neu o leiaf o newid gwaith) yn y wlad hon, cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Lleol Tanganyika er mwyn ad-drefnu achosion y Genhadaeth, a threfnwyd i Mr. Jones a Mr. Harwood Nutt, cenhadwr lleyg, fynd i Kambole i gychwyn gorsaf newydd mewn lle uchel ac-iach. Wedi penodi ar le dechreuwyd adeiladu. Ond dechreuasai'r tymor gwlyb, ac aethai pawb i'w ardd a'i faes, ac nid oedd modd cael gweithwyr. Felly nid oedd dim i'w wneud ond byw am dymor mewn pabell, neu mewn ty o wiail a phorfa fras. Wedi cilio o'r glawogydd, ac i'r had gael ei blannu, dychwelodd y gweithwyr, a buan yr oedd gan y ddau dy cysurus bob un. Wedi hynny, gosodwyd i fyny gapel, lle hefyd y cynhelid ysgol yn ystod yr wythnos. Cynhyddodd y pentref, oblegid credai'r bobl y byddent yn fwy diogel o fyw yn agos i'r cenhadon. Deuent i'r capel y Sul ac anfonent eu plant i'r ysgol yn ystod yr wythnos.
Aeth pethau ymlaen felly yn hwylus am amser nes dyfod o afiechyd i'w blino drachefn. Bu Mr. Nutt yn ymyl angeu, a gorfu iddo droi tuag adref. Yn fuan wedyn gorfu i'r Parch W. Thomas, cenhadwr Niamkolo, fynd adref oherwydd afiechyd, a bu Mr. Carson o orsaf arall farw, felly daeth y tair gorsaf dan ofal Mr. Picton Jones. Dan bwys y gwaith triphlyg nid am hir y medrodd yntau ddal. Pan ddaeth cynorthwywyr ato yn haf 1896 yr oedd ei gorff a'i ysbryd yn galw am orffwys. Wedi rhai misoedd o deithio blinderus, cyrhaeddodd y wlad hon, yn fyw o hyd, ond yn ddrych o ran y dyn oddiallan.
Ond ni allai orffwys yn hir. Wedi adfywio ychydig, gorffennodd gyfieithiad o'r Testament Newydd, o'r Kimambwe, gyda geiriadaeth helaeth,—Kimambwe-English, ac English-Kimambwe. Cymrodd hyn tua phum mlynedd i'w orffen. Penderfynwyd na chaniatai ei iechyd iddo fynd yn ol i'r Canolbarth, ond trefnwyd iddo fynd allan i Dir Matabele am dymor. Ni chafodd iechyd yno ychwaith a dychwelodd ymhen blwyddyn.
Yn Hydref 1903 cymerodd ofal eglwys Saesneg Peniel Green, Llansamlet, ac yno y mae hyd heddyw yn llafurio'n egniol, cydwybodol, a llwyddiannus.
BOWEN REES. (1857- ).
Ganwyd Mr. Bowen Rees yn Llandebie, Sir Gaerfyrddin, Mawrth 16, 1857. Y "Bush Inn" oedd ei gartref cyntaf, ac yn y "Bush " yn Affrica y treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd wedi hynny. Pan oedd ef yn deirblwydd oed, symudodd ei rieni i Ystalyfera, er mwyn i'w plant gael gwell cyfle i ennill eu bywioliaeth. Mr. Rees yw yr ieuengaf o chwech of blant.

Gorfu i Bowen, fel y plant ereill, droi allan yn bur fore i weithio. Gwaith gof a drefnwyd iddo ef wneud.
Dysgwyd ef i fod yn ffyddlon yn holl gyfarfodydd y capel,—y Penny Readings, y Gobeithlu, a'r Ysgol Sul. Dywed bod arno ddyled fawr i'w hen athraw duwiol yn yr Ysgol Sul, Mr. John Thomas, Twyn cerdinen, Pant-teg, brawd i Gwilym Marlais, am roddi cyfeiriad i'w fywyd. Derbyniwyd ef yn aelod pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed.
Pa beth roddodd yn ei galon awydd bod yn genhadwr? Pan oedd ef yn llanc ieuanc tua phymtheg oed, daeth y Parch T. M. Thomas, Affrica, i'r Pant-teg i siarad ar y Genhadaeth. Yr oedd ei hanes mor ryfedd a'i apêl mor ddwys nes i Bowen Rees fynd oddiyno â gwreichionen yn ei galon nas diffoddwyd hyd y dydd hwn.
Ond yr oedd ei lwybr tuag i fyny yn bur serth. Nid oedd ganddo lawer o arian na llawer o lyfrau. Ond yr oedd ganddo lawer o gyfeillion caredig. Rhoddwyd gwahoddiad iddo i ddechreu pregethu, a rhoddodd y diweddar Mr. John Davies, Y Bont, y llyfrgell oreu yn Ystalyfera at ei wasanaeth. Wedi tri mis o baratoad dan brif athraw'r Ysgol Elfennol, aeth i Ysgol Ramadegol Llangadog, ac oddiyno ym Mawrth 1880 i Goleg Anibynnol y Bala. Am y ddwy flynedd olaf, cedwid ef yn y Coleg gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Yn ystod un o wyliau'r Coleg, pan ai'r myfyrwyr ereill allan i gasglu at y coleg, cafodd ef fod yn weinidog dros y tymor ar Eglwys Saesneg Colwyn Bay. Bu'r ymarferiad o gryn fantais iddo ar gyfer ei ddyfodol.
Dydd pwysig yn ei hanes oedd y dydd y galwyd ef o flaen Cymdeithas Genhadol Llundain, i'w arholi, ac i benderfynu ar faes ei lafur. Yr oedd yno Fwrdd llawn a chafodd ei holi yn ddiarbed. Ceisiwyd ganddo, hefyd, bregethu o'u blaen. Gofynnwyd iddo wedi hynny fynd i ystafell arall tra byddid yn penderfynu ei achos. Pan ddaeth allan dywedwyd wrtho ei fod wedi ei benodi ac mai Canolbarth Affrica a fyddai ei faes. Yr oedd y myfyriwr ieuanc yn llawen dros ben am hyn, er mai newydd farw yn y Canolbarth yr oedd ei ddau gymydog ieuanc David Williams a John Penry, heblaw llawer ereill.
Wythnos cyn ei ordeinio yn y Pant-Teg, Ystalyfera, cafodd brofedigaeth enbyd, sef claddu ei annwyl fam. Dymunai hi am gael byw i'w weld ef yn hwylio i Affrica, ond nis cafodd.
Bu'r naw can milldir o Zanzibar i'r Llyn yn daith ofnadwy o flinderus a helbulus iddo yntau fel i'r cenhadon ereill a aethai o'i flaen. Dihangodd llawer o'r cludwyr a'u llwythi gwerthfawr ganddynt, fel pan gyrhaeddodd lan y Llyn nid oedd ganddo hanner y pethau a ddylasai fod ganddo.
Llonnwyd ei galon yn ddirfawr o weld Mr. Picton Jones ar Ynys Kavala, Llyn Tanganyika. Bu'r ddau yn cyd lafurio am flwyddyn yn Uguha. Mor ddiddorol a fyddai hanes manwl o fywyd y ddau Gymro yn y lle pell hwnnw.
Wedi gadael Uguha a dod adref i adnewyddu ei nerth, aeth allan i Dir Matabele yn 1887. Gwelodd amser cyffrous yno, yn enwedig yn amser y rhyfel rhwng Lloegr a'r Boeriaid. Efe a'i briod, sydd mor eiddgar ag yntau gyda'r gwaith cenhadol, oedd yr unig genhadon yn y rhan honno o Affrica'r pryd hwnnw, ac er mai deiliaid Lloegr oeddynt, yr oedd Brenin Lobengula yn barchus iawn ohonynt, oherwydd eu bywyd glan, a'r gwaith da a wnaent. Pan gododd y brodorion yn eu herbyn, gan fygwth eu lladd, cynghorodd Lobengula hwy i adael y wlad, a danfonodd warchod o filwyr i'w diogelu ar hyd y daith araf o gant a hanner o filltiroedd mewn gwagenni a dynnid gan ychain.
Cyn mynd i Dir Matabele yn 1887 cawsai Mr. Rees gwrs o addysg mewn meddygiaeth ym Mhrif Athrofa Edinburgh. Bu'r addysg honno o werth anfesurol iddo.
Mae Mr. Bowen Rees a'i deulu ar hyn o bryd yng Nghymru, ond nid gorffwys yw ei hanes eithr gweithia mor ddiwyd ag erioed.
Un o Ystalyfera yw Mrs. Rees hefyd. Ei henw cyn priodi oedd Miss Susannah Wesley Davies. Priodasant yn 1890 yn Cape Town, a hi yw hanner oreu Mr. Rees yng ngwir ystyr y gair.
WILLIAM THOMAS. (1859-.)

St. Clears, sir Gaerfyrddin, yw man genedigaeth Mr. Thomas. Wedi derbyn yr addysg foreol arferol aeth i Goleg Caerfyrddin, ac wedi hynny i Goleg Lancashire, lle y bu Mr. John Penry. Wedi gadael y Coleg bu am wyth mlynedd yn weinidog ar eglwys yr Annibynwyr Saesneg yn Oldham.
Cyn hir teimlodd yntau'r alwad o'r Cyfandir Tywyll. Derbyniwyd ef gan y Gymdeithas, a phenodwyd ef i Ganolbarth Affrica. Gadawodd Loegr Mai 9, 1893, ac ymsefydlodd yn Niamkolo. Tra bu yno gwnaeth waith rhagorol, nid yn unig fel pregethwr, ond fel athraw a meddyg hefyd.
Nid oedd Niamkolo yn faes mor newydd a rhai lleoedd ereill. Yr oedd yno ysgol dda pan oedd Mr. Thomas yno, a meddygdy a swyddfa argraffu. Deuai cynifer a chant a hanner o blant i'r ysgol yno. Deuai'r mamau hefyd yn fynych â'u babanod ar eu cefnau, a deuai hyd yn oed y tadau am hanner awr bob prynhawn wedi gorffen eu gwaith.
Yn 1896 gorfu i Mr. Thomas adael Affrica oherwydd gwaeledd ei iechyd. Ni allai ei gyfansoddiad ddim dal y twymynnau aml, felly ymddiswyddodd o waith y Genhadaeth. Mae yn awr ers blynyddau yn weinidog llwyddiannus yn Wilbraham Rd., Manchester. (Manceinion.)

Wyman & Sons Ltd., Printers, London, Reading and Fakenham