Neidio i'r cynnwys

Plant y Goedwig (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Plant y Goedwig (testun cyfansawdd)

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Plant y Goedwig
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Elizabeth Mary Jones (Moelona)
ar Wicipedia
Caethesi Affricanaidd ar y daith.

PLANT Y GOEDWIG



GAN
MOELONA



CYMDEITHAS GENHADOL LLUNDAIN
48, BROADWAY, WESTMINSTER, S.W. 1
1921



CYNHWYSIAD


RHESTR Y DARLUNIAU

Caethesi Affricanaidd ar y daith
Kabwe gartref yn ei phentref
Ar ganol pentref Mbereshi.
Pedair fawr a phedair fach
Y pedair merch fach.
Y plant yn ymdrochi yn yr afon
Genethod yn malu blawd yn y pentref
Gwnient yn brysur i gyd
Teulu Chulumanda.
Ty Chungu a'i theulu
Sela.
Chungu gyda'i phriod a'i baban


RHAGAIR

CEFAIS lawer o'm ffeithiau tuag at Ail Ran y llyfr hwn o "Dywysydd y Plant," y "Register of Missionaries," y "Tyst," ac o lyfr y diweddar Penar ar y Cenhadon Cymreig. Bu amryw frodyr a chwiorydd hefyd yn garedig iawn. Derbynied y cyfryw, heb eu henwi, fy niolch gwresocaf.

Glais,
Hydref, 1920.

YN YR ARDD.

YR ardd oedd y lle goreu yn y byd ar y prynhawn hwnnw. Canai'r adar yn y coed gerllaw, disgleiriai ieir bach yr haf yn yr heulwen, ac yr oedd murmur cysglyd y gwybed a'r gwenyn fel cân crwth y ddaear hapus. Felly y meddyliai Mair, wrth eistedd gyda genethod bychain ereill o dan gysgod derwen. Gan mor gynnes a mwll oedd yr ysgoldy gofynasent i'r athrawes am gael eu gwers nesaf yn yr awyr agored, ac addawsent fod yn ferched da ac astud. Felly dyna lle'r eisteddent yn hanner cylch ar y borfa ir, ac o'u blaen, ar ategyr, yr oedd map o Affrica. Siaradai'r athrawes am lynnoedd, ond gwylio chwilen goch yn dringo glaswelltyn main a wnai Mair. Dringo peryglus oedd, oherwydd yr oedd y chwilen yn dew a'r glaswelltyn yn egwan iawn. Siglai dan ei phwysau, ai pob cam yn fwy peryglus. Byddai yn sicr o gael braw sydyn o gael ei hun ar y llawr eto.

"Mair, 'dych chwi ddim yn gwrando. Dewch i ddangos Llyn Tanganyika." Nid y chwilen yn unig a gafodd fraw. Neidiodd Mair ar ei thraed yn ofnus.

Llyn Tanganyika! Ni wyddai pa le i edrych am dano. O pam y gadawsai i'r chwilen dynnu ei sylw oddiar y wers!

Edrychodd o'i chwmpas yn wyllt, a thrwy'r coed gwelodd gip ar y mor glas disglair. O, ie, glas fel y mor a fyddai lliw'r llyn ar y map. Dechreuodd ar y gwaelod. Dim llynnoedd yno! Cododd ei golygon yn uwch i fyny. Gwelodd ddarn glas ynghanol darn pinc. Darllenodd,—"Lake Bang."

"Llyn Tanganyika a ddywedais i," ebe'r athrawes yn llym. Crwydrodd llygaid Mair eto, a gwelodd ddarn bychan glas arall. Ni ddechreuodd ddarllen y tro hwn nes bod yn sicr. "Lake Mweru"; "O, nid honna yw hi," ebe Mair wrthi ei hun. Gwelodd eto un arall, darn glas hir. Llyn Tanganyika o'r diwedd. Edrychodd i wyneb yr athrawes gan gadw ei bys ar yr enw. "Yr wyf wedi ei gael," ebe hi gydag ochenaid.

Edrychodd yr athrawes arni heb wên ar ei hwyneb, a dywedodd yn ddistaw, "'Doeddech chwi ddim yn gwrando, Mair." Aeth Mair i'w lle yn benisel. Na, nid oedd wedi gwrando, a beiai y chwilen am hynny. A dyna waith diflas oedd dysgu daearyddiaeth ar brynhawn hyfryd o haf, mewn gardd lawn o bethau diddorol, a'r mor glas yn ymyl yn galw. Paham yr oedd ysgolion yn bod? Ar draethau'r llyn fawr yna yn Affrica hwyrach bod y plant yn chwarae drwy gydol hirddydd haf.

Meddyliodd Mair yn hir am danynt.

PENNOD I.
MAGI.

HAUL disglair mewn awyr ddigwmwl, ac odditanynt ddaear boeth sych, a phrennau'r goedwig yn plygu'n wyw wrth ddisgwyl drwy hirddydd poeth Affrica am y gwlith ir a chysgodion oer y nos. Ynghanol y goedwig eang yr oedd darn bychan wedi ei arloesi ac ar y darn hwnnw bentref bychan. Yr oedd y tai bychain crynion yno i gyd gyda'i gilydd, a tho gwellt pob un ohonynt yn disgleirio fel aur yn haul y prynhawn. O amgylch y pentref yr oedd mur bychan o ganghennau coed, ac un porth bychan iddo. Pedwar o'r gloch oedd, a dechreuai'r haul wyro tua'r gorllewin. Yr oedd y pentref yn llawn berw bywyd, cyfarthiadau cwn, brefiadau defaid a geifr, bloeddiadau bechgyn wrth chwarae pêl ryfedd a dynasent o bren yn y goedwig, lleisiau gwyr a gwragedd, a swn isel, hapus, babanod bychain a ymroliai ar y llawr yn yr heulwen. Drwy'r cyfan, clywid swn cryf cyson arall,—pwm, pwm, pwm,—fel curiad amser i dôn brudd y lleill. Swn y gwragedd a'r merched yn malu'r grawn yn yn barod erbyn swper oedd hwn. Symudai eu cyrff duon lluniaidd yn ol a blaen wrth godi'r pren mawr, a'i ollwng i ddisgyn yn drwm i'r noe bren lle'r oedd y grawn a gurent yn flawd.

O un o'r tai daeth swn geiriau dig, yna ergydion ac ysgrechain, a rhedodd geneth fechan yn wyllt drwy'r bwlch yn y mur. Yr oedd dagrau ar ei hwyneb, ac ar ei phen cariai lestr mawr pridd. Magi, caethes fechan Shimwango, oedd hi. Ai i lawr i'r afon i gyrchu dwr i Mwenya, gwraig Shimwango. Rhedai ar hyd y llwybr bychan troellog, ei chorff bychan main, tywyll, heb ddillad arno ond gwregys bychan glain a ffedog fechan yn hongian wrtho. Yr oedd ganddi hefyd dorchau gwifr ar ei migyrnau a'i gardd— yrnau a seiniai y rhai hyn pan redai. Weithiau ai bron o'r golwg yn y borfa dàl a dyfai ar bob ochr i'r llwybr cul.

Yr oedd yn dywyll iawn yn ymyl y nant, gan fod y coed mawr yn cau allan oleu'r haul. Crynai Magi gan ofn oherwydd clywsai lawer gwaith fod ysbrydion drwg ger y fan honno. Llanwodd ei llestr yn ddioed, cododd ef ar ei phen a dechreuodd ddringo'r llethr yn ol i'r pentref. Da oedd ganddi gael dod yn ddiogel o ymyl yr afon.

Ddeuddydd cyn hynny aethai gwraig yno yn gynnar yn y bore a llarpiwyd hi gan grocodil. Yr oedd y llwybr yn serth iawn a thraed bychain Magi wedi blino. Drwy'r dydd bu allan yn yr ardd gyda Mwenya yn chwynnu, ac yn cario Musonda, baban bychan tew ei meistres, ar ei chefn yr holl amser. Yr oedd Magi yn hoff o hono, ond yr oedd yn drwm iawn, a gwnai iddi flino yn enbyd. Yn wir yr oedd mor flinedig pan ddaethai o'r ardd nes yr aeth i ymguddio'r tu ol i'r ty, ac yno yn y cysgod cysgodd yn drwm, ac yr oedd Mwenya yn ddig iawn pan welodd y llestr dwr yn wag. Curo Magi a wnaeth i'w deffro. Dyna'r crio a glywsid o'r pentref.

Pan gyrhaeddodd Magi ben y rhiw trodd yn ol i gael golwg ar Lyn Tanganyika dros frig y coed. Disgleiriai haul y gorllewin arni nes ei gwneud fel mor o dân. Syllodd Magi arni yn hir. Yr oedd mor fawr ac mor ddieithr. Gwyddai fod y tuhwnt i'r ehangder disglair llonydd yna bentrefi bychain ereill: yn un o honynt y bu hi yn byw pan oedd yn faban. Ryw ddydd yn y pentref hwnnw daethai dynion gwynion dieithr i'r lle a chanddynt offerynnau rhyfedd oedd yn poeri tan ac yn lladd pobl. Daliasent ddynion y pentref mewn cadwynau a dygasent hwy ymaith. Tad Magi oedd un o'r dynion hynny. Gwnaed yr un modd â'r gwragedd hefyd, ac hyd yn oed â'r bechgyn a'r genethod.

Ni chofiai Magi lawer, ond dywedasai ei meistr Shimwango wrthi fod y dynion dieithr wedi ei thynnu hi oddiar gefn ei mam, wedi gyrru'r holl bobl o'u cartrefi, a mynd a hwy i rywle pell iawn i'w gwerthu yn gaethion. Digwyddodd rhywun fynd drwy'r pentref gwag drannoeth a chlywodd blentyn bach yn crio. Cariodd hi i bentref arall lle'r arhosai Shimwango ar y pryd. Prynodd hwnnw hi i fod yn gaethes fechan iddo ef. Hi, Magi, oedd y gaethes fechan honno.

"Magi! dewch; pam ych chwi'n aros?" Mwenya oedd wrth y mur yn ei galw. Rhedodd Magi tuag ati.

PENNOD II.
WEDI UGAIN MLYNEDD.

YR oedd pob dydd yr un fath i Magi, a phob blwyddyn hefyd, hyd flwyddyn ei phriodas. Wedi hynny aeth ymhell o bentref Shimwango, nid yn gaethes bellach ond yn wraig rydd. Mewn pentref rai milltiroedd o'r Llyn Fawr gwnaeth ei gwr a hithau eu cartref. Yr oedd yn bentref mawr ar ochr bryn ac afon droellog loew yn llifo gerllaw iddo. Enw'r pentref a'r afon oedd Mbereshi.

Safai cartref Magi ar lethr,—ty bychan tlws, nid un crwn fel y lleill, ond un hirgul. Yr oedd drws pren iddo a ffenestri bychain, ac yr oedd ynddo ddwy ystafell. Ei phriod Sumbukeni a'i gwnaethai. Dyn call a da oedd efe, a gwyddai lawer o bethau. Daeth Magi allan drwy'r drws â llestr dwr ar ei phen eto, ond mor wahanol oedd i'r eneth fach honno a syllai drwy ei dagrau ar y Llyn Fawr ugain mlynedd yn ol! Yr oedd yn dal a syth a chanddi wisg o liwiau prydferth yn cyrraedd o'i hysgwyddau i'w thraed. Yr oedd torchau gwifr o hyd ar ei breichiau a'i migyrnau ac ereill harddach o ifori, a gleiniau lawer am ei gwddf. Safai wrth y drws ag un llaw dros ei llygaid, fel pe bai yn edrych am rywun. O'i blaen, gorweddai'r pentref dan wenau disglair haul y prynhawn a mwg yn esgyn o bob un o'r tai, oherwydd daethai'r gwragedd adref o'u gerddi ac yn awr paratoent eu hwyrbryd. Deuai swn cyfarwydd y pentref tuag ati, y chwerthin a'r bloeddio a'r brefu, a swn dyfal y malu fel cynt.

"Kabwe!"

Gwaeddodd Magi yn uchel gan edrych drwy un o heolydd hir y pentref. Dyna un hir oedd! Nid oedd Kabwe yno. Diau mai ar yr heol arall oedd hi, yr heol a arweiniai at yr afon, oherwydd hoffai'r plant gyd chwarae wrth yr afon.

"Kabwe-e!" Galwodd eto, ac o'r pellter obry lle sisial-ganai'r afon ar ei thaith drwy goedydd mawrion a rhedyn tal, daeth geneth fach allan ar hanner ei chwarae a rhedodd i fyny tua'r ty. Rhedai mor gyflym 'nes o'r braidd y cyffyrddai ei thraed noeth â'r ddaear. Gwelai Magi hi'n dod, ysmotyn bychan du yn y pellter. Arhosodd gan edrych ar y pentref, a thuhwnt iddo ar y goedwig fawr. Yr oedd yr haul ar fynd o'r golwg yn y gorllewin a'i oleu claer bron a'i dallu. Trodd eto tua'r dwyrain gan edrych dros y gwastadedd lle y chwaraeai'r bechgyn, a lle'r oedd dynion yn brysur yn gyrru'r defaid, a'r geifr i'w corlannau. Llenwid yr awyr gan gwmwl mawr o lwch, y gwartheg lluddedig oedd yn dod adref. Edrychodd i lawr at eu corlan fach hwy eu hunain

Kabwe gartref yn ei phentref.

oedd yn ymyl eu ty. Yr oedd y drws yn agored i dderbyn y tair buwch a brynasai Sumbukeni. Tynnwyd ei sylw gan ddisgleirdeb yn y pellter. Draw ar y gorwel, tuhwnt i'r goedwig fawr, yr oedd llyn arall fel mor o dân yng ngoleu machlud haul. Aeth meddwl Magi yn ol i'r gorffennol; gwelodd eto mewn dychymig lyn Tanganyika a hithau yn gaethes fechan ofnus yn y pentref pell. Cofiodd ddyfodiad y dyn gwyn a ddygasai'r newydd da am yr Iesu, ac a'i prynasai hi oddiwrth Shimwango. Cofiodd y daith hir i Mbereshi, a'r ystorïau rhyfedd a adroddai'r dyn gwyn am yr Iesu. Un mwyn a da oedd ef. Gallai yrru ymaith bob ysbryd drwg, yr oedd yn caru dynion duon yn ogystal a dynion gwynion, ac yr oedd hi yn un o'i ganlynwyr. Yr oedd Sumbukeni ei phriod yn athraw yn ysgol y pentref ac yn ddiacon yn yr eglwys. Tu ol i'w ty hwy yr oedd y capel ar ben y bryn, yng ngolwg y pentref a'r gwastadedd a'r goedwig, ac yn ei ymyl yr oedd tai'r cenhadon.

"Mayo!" (Mami.) Safai Kabwe o'i blaen a'i dwylaw bychain ymhleth.

Pa le y buoch chwi c'yd, Kabwe? Mae'r haul ar fynd i lawr, a ninnau heb ddim dwr. Ewch ar unwaith i'r afon. Bydd yn dda gen i pan ddaw'r Fama (y fenyw wen) yma i'ch dysgu chwi, ferched. Yna cewch fynd i'r ysgol fel y bechgyn, ac yna ni fydd llawer o chwarae wrth yr afon. 'Nawr rhedwch a gofalwch beidio â thorri'r llestr."

Aeth Magi i'r ty, a Kabwe â'r llestr ar ei phen i lawr at yr afon. Ni chredai hi na'i ffrindiau y deuai'r Fama. Dywedyd hynny a wnai y mamau er mwyn peri ofn arnynt hwy'r merched.

Yr oedd merched bychain ereill ar eu ffordd i lawr tua'r afon gyda'u llestri dwr, Chiluba a Chungu a Neli a Semba. Galwodd Kabwe arnynt i'w haros hi. Cyn iddi eu cyrraedd gwaeddodd allan:

"Mae mayo'n dweyd fod Mama'n dod i'n cau ni i fyny mewn ysgol er mwyn dysgu pethau i ni fel y gwneir i'r bechgyn."

Chwerthin yn uchel a wnaeth y lleill a rhedodd y pump nerth eu traed tua'r afon. Yn fuan yr oedd pum llestr llawn ar bump o bennau cyrliog yn mynd yn ol tua'r pentref.

"Ha! Ha! ferched. Daw'r Fama yn fuan i'ch curo chwi a'ch newynu a'ch rheibio, Ha! Ha!"

Celwydd yw hynyna! 'Does dim un Fama'n dod." Ond para i'w poeni a wnai'r llanciau direidus a eisteddai ar gangau uchel coeden dal, a dechreuasant daflu atynt gawod o gerrig ffrwythau a fwytaent. Ni feddai'r merched un arf ond geiriau, a thaflasant yn ol atynt gawod o'r geiriau casaf a wyddent. Pan oedd yr ymrafael boethaf a'r iaith waethaf daeth y cenhadwr a'i wraig heibio. Ymguddiodd y bechgyn yn nail y pren ac edrychodd y merched tua'r llawr gan gywilydd, ond cyfarchasant y cenhadon drwy guro. eu dwylaw a dweyd, "Mwapoleni Mukwai" (sut yr ych chwi heddyw?). "Mwapoleni," atebai'r wraig. "Yr ydym yn mynd i adeiladu ty i'r athrawes yn fuan ac ysgol i chwithau ferched. Mae eisieu eich dysgu sut i siarad â'ch gilydd."

Aethant yn eu blaen ac aeth y merched tua'u cartrefi yn ddistawach na chynt, a chwerthin gwawdus y bechgyn yn eu dilyn. Wrth ymadael dywedodd Chungu: "Nid af i ddim i ysgol y Fama."

"Na finnau," ebe Kabwe, a dywedodd y tair ereill yr un modd.

Aeth Kabwe â'i llestr dwr i'r ty ac aeth a'i brawd bychan Henri allan ar y feranda o flaen y ty. Yr oedd ei thad yno a rhai o'i gyfeillion, ac am y Fama y siaradent hwythau.

"Bydd yn dda i'r merched yna gael rhywun i'w dysgu," ebe Kawandami; "bydd yn dda gen i weld Neli yn yr ysgol. Mae'n ddigon gwyllt ac anufudd awr. Hoffwn ei gweld yn tyfu i fod yn fenyw dda."

"Bydd Kabwe yn un o'r rhai cyntaf i gael mynd yno," ebe Sumbukeni.

Llanwodd llygaid Kabwe o ddagrau a chrynodd ei chorff bychan. Clywsai hi famgu Chipepa yn dweyd wrth fam Lisi fel hyn: "Byddwch yn ffol iawn os gyrrwch eich merch fach i'r ysgol at y Fama. Bydd yn sicr o gael ei rheibio ac efallai na welwch hi drachefn. Ni chaiff Chipepa fynd. Peth arall, bydd y Fama'n dysgu arferion newydd i'r merched ac yn gwneud iddynt anghofio ein harferion ni. Na, 'does dim eisieu yr un Fama yma. Rhaid i'n merched ni fyw fel mae eu mamau wedi byw."

Siaradai gwragedd ereill yr un modd ac yr oedd calon Kabwe yn llawn ofn. Rhwymodd ei brawd bach am ei chefn ac aeth i gefn y ty lle'r oedd ei mam yn paratoi swper.

"Mayo, 'dwyf i ddim am fynd i'r ysgol," ebe hi.

"Pam?" gofynnai Magi gan edrych arni.

"Mae pawb yn dweyd y bydd y Fama yn sicr o'n rheibio ni a dysgu arferion newydd i ni."

"Ffolineb yw hynyna, 'merch i. Oni wyddoch chwi eto na all neb reibio? Pobl anwybodus sydd yn son am beth felly. Ni wyddant hwy am yr Athraw Iesu. Mae efe yn dyner a da. Ei gennad ef yw y Fama. Mae ei gariad ef yn ei chalon a hi a'ch dysg chwi i fod yn blant iddo. Mae'n wir y dysg hi arferion newydd i chwi,—dysg chwi i fod yn garedig, yn lan eich iaith, ac yn eirwir. Ffyrdd yr athraw Iesu yw'r rhai yna. Bydd hi yn eich caru ac yn ofalus ohonoch. 'Nawr rhoddwch y matiau i lawr a dywedwch wrth eich tad a'r dynion ereill bod swper yn barod."

Ymhen ychydig wythnosau ar ol hyn, yr oedd Kabwe a llawer o ferched ereill a gwragedd hefyd yn prysur gludo priddfeini, o'r cae lle y gwneid hwynt, i fyny i'r lle'r adeiledid y ty newydd i'r Fama oedd ar ddyfod. Deuai muriau'r ty yn uwch o ddydd i ddydd a chyn hir rhoddwyd y to gwellt arno. Yna dechreuwyd adeilad arall o'r tu ol iddo. Un hir, isel, heb ddim llofft, oedd hwn, a dywedwyd wrth y merched mai yn hwn y byddent hwy yn cysgu. Yn bryderus y gwylient ef yn dod i fyny, oherwydd nid allent anghofio yr hyn a glywsent gan yr hen wragedd, a meddylient lawer am y Fama. Yn awyddus ac yn hanner ofnus disgwylient ddydd ei dyfodiad.

PENNOD III.
Y DAITH I AFFRICA.

AR afon Tafwys, rywbryd yn ystod blwyddyn gyntaf y Rhyfel, gwelid llong fawr yn aros am gysgod caredig y nos er mwyn cael llithro i lawr ar hyd yr afon. "Castell Llanymddyfri" oedd enw'r llong, ac yr oedd ar gychwyn i Cape Town. Yr oedd y teithwyr i gyd ar y bwrdd, llawer ohonynt yn eu cabanod yn cysgu'n drwm oherwydd eu bod wedi blino. Buasai'r dydd yn hir a'r ffarwelio â ffrindiau yn waith prudd iawn, ac yn awr, wedi dyfod o'r nos yr oedd yn dda ganddynt gael cysgu ac anghofio'r tristwch i gyd. Ni wyddai neb pa bryd y cychwynai'r llong. Tarawai'r dwr yn dyner yn erbyn ei hochrau, cerddai'r morwyr yn ol a blaen ar y dec; ar y tir yr oedd popeth yn dywyll a distaw, drysau'r tai wedi eu cau a'r bobl yn eu gwelyau. Ychydig a wyddai ddim am y llong fawr oedd allan ar yr afon, oddigerth un neu ddau ar hyd y wlad a fethai gysgu wrth feddwl am rywun annwyl oedd arni.

"O! beth sydd yna?"

Neidiodd pob un i fyny yn ei silffwely cul, gan wrando. Ymysgydwodd y llong. Hedodd gwylan ymaith gyda chri dychrynedig. Dyna dwrw a berw ac ysgwyd!

Dyma ni'n mynd! Dyma ni'n mynd! gwaeddai'r morwyr. Gorweddodd y teithwyr yn ol yn eu gwelyau yn anesmwyth eu meddwl. Swn rhaff fawr yr angor yn cael ei dirwyn i fyny a'u deffroisai gan beri braw iddynt. Ond nid hawdd oedd cysgu eto. Symudai'r llong fawr yn ddistaw ac araf i lawr yr afon ac allan i'r sianel. Bob hyn a hyn fflachiai goleu gwyn disglair i'r cabanod drwy'r ffenestri bychain,—chwil—oleuadau oeddent a deflid ar y llong o'r ddau du i'r afon. Yn ol a blaen yn ddistaw ai'r llongau mawrion a bychain a wyliai enau'r afon. Yr oedd y cyfan mor ddieithr ac mor ddiddorol nes i lawer o'r teithwyr ddisgyn o'u gwelyau ac eistedd neu benlinio wrth y ffenestri er mwyn edrych allan.

Felly'r aeth y nos heibio, a phan wawriodd y bore yr oedd y llong yn mynd drwy gulfor Dover. Safai llongau rhyfel mawrion ar bob ochr yn ddistaw, yn wyliadwrus, yn barod. Ychydig bellter oddiyno, yn Ffrainc, yr oedd y gynnau mawrion yn trystio, a deuai'r swn hyd at y culfor fel swn taranau pell. Diwrnod oer, niwliog ydoedd. Eisteddai teithwyr Castell Llanymddyfri" ar y dec â'u cotiau a'u mentyll yn dynn am danynt gan edrych yn hiraethus ar draethau Lloegr ar y gorwel.

Gwaeddodd rhywun, "Dacw Beachy Head"; ymestynnai'r llinell wen hir tuhwnt i'r dyfroedd llwyd.

"Yr ydym yn awr yn mynd heibio i Brighton," meddai dyn tal a bwysai ar ganllaw'r dec gan edrych drwy syll-wydrau.

Drwy'r dydd dangosid gwahanol leoedd, a phan oedd yr haul ar fynd i lawr torrodd ei belydrau disglair drwy'r cymylau nes goreuro'r tir a'r mor a'r awyr. Ymddangosai'r tir erbyn hyn yn agos; gellid gweld y borfa ar ben y creigiau gwynion ac weithiau dwrr o dai bychain a nennau cochion iddynt. "Yr ydym yn ymyl Ynys Wyth yn awr," meddai'r dyn tal â'r gwydrau. Wedi clywed ei eiriau cododd un o'r teithwyr yn sydyn o'i chadair. Ynys Wyth! Dyna adgofion oedd ynglyn â'r enw! Ni theimlai yn hollol gysurus; rhoddai symudiad cyflym y llong i fyny ac i lawr dipyn o benfeddwdod iddi, ac fel llawer o'r teithwyr ereill eistedd yn dawel yn ei chadair a wnaethai drwy'r dydd. Ond nid allai basio Ynys Wyth heb gael un golwg eto arni. Cododd gan gau ei chôt yn dyn am dani, a cherddodd yn sigledig i le cysgodol ar y dec, lle y gallai fod wrthi ei hun. Yno o'i blaen yr oedd yr ynys fechan, yn werdd a phrydferth dan dywyniadau haul y gwanwyn. Mor hardd yr edrychai! Daeth adgofion yn llu i galon yr un a safai yno'i hunan ar y dec! Cofiai'r dyddiau pell pan oedd hi yn yr ysgol yn un o drefi bychain yr Ynys. Dyddiau difyr oeddent! Cofiai'r amser y caent eu gwersi allan yn yr ardd gysgodol, a'r mor glas yn gwenu arnynt drwy'r coed. Gwenodd wrth gofio un dydd yn arbennig. Gwers ar Affrica a gawsent y diwrnod hwnnw—ar lynnoedd Affrica, a chawsai hi ei cheryddu am beidio a sylwi. A dyma hithau bellach ar ei ffordd i Affrica. Cai weld cyn hir rai o'r llynnoedd y bu dysgu am danynt yn waith mor flinderus iddi ar y prynhawn tesog hwnnw ymhell yn ol.

Ie, Mair oedd hon! Cyn hir wedi'r helynt hwnnw ynghylch Llyn Tanganyika, clywodd Mair genhadwr yn areithio yn y capel ryw ddydd Sul. Siaradai am blant rhyw wlad bell, plant heb ysgolion ar eu cyfer, a theimlai Mair nad oeddent mor hapus â hi, ac yn nyfnder ei chalon gwyddai paham. Y noson honno, wrth ddweyd ei phader, methai â chael geiriau i fynegu ei dymuniad. Daethai meddwl newydd, dymuniad newydd, i'w bywyd. Gwnai hwn hi yn hapus iawn ac yn ofnus hefyd. O'r diwedd, sibrydodd yn isel, "Mi a af, Iesu da, pan fyddaf yn fawr, os mynni Di!" Dyna'r cyfan, ni ddywedodd ragor am dano, a thrwy'r dyddiau a'r misoedd a'r blynyddoedd yr oedd y dymuniad ynghudd oddiwrth bawb ond yr Un y rhoddasai hi ei haddewid iddo. Ar ol dyddiau'r ysgol a hithau yn awr mewn oed, ni chwenychai ddim ond cael mynd lle y danfonid hi gan yr Iesu, i gario ei faner Ef.

Hyn a lanwai ei meddwl wrth syllu ar yr ynys yn cilio o'i golwg yn y pellter. Yr oedd Ef yn ei danfon i Affrica. O'i hol yr oedd bywyd ei chartref a phawb a phopeth oedd yn annwyl ganddi. O'i blaen yr oedd gwlad ddieithr, pobl ddieithr, teyrnas i'w hennill i'r Iesu. Buasai arni ofn onibai iddi gofio ei fod Ef yn mynd yno o'i blaen. Ni byddai yn unig, byddai'r wlad ddieithr yn gartref iddi am y byddai Efe yno.

Daeth y nos drachefn a'i myrdd o ser. Gwasgarwyd y cymylau a daeth y lloer i'r golwg gan daflu ei goleu arian ar y lli, ac aeth y llong fawr ymlaen yn dawel ar ei thaith. Credai Mair bod yr haf wedi dod yn sydyn i'w cwrdd. Yn Lloegr, chwythai gwyntoedd Mawrth a disgynnai'r glaw oer, ond wedi bod ar y mor am dridiau, ciliodd y cymylau, yr oedd y mor yn las ac esmwyth a'r awelon yn falmaidd a thyner.

Un bore yr oedd golwg gyffrous iawn ar y dyn tal. Rhoisai fenthyg ei wydrau i un o'r teithwyr ereill, a cheisiai ddangos rhywbeth iddi.

"Dacw fe, y fan draw ar y gorwel! Cwmwl? Nage, tir yw,—Ynysoedd Madeira. Byddwn yno ymhen ychydig oriau."

Erbyn hyn syllai pawb, ac yn fuan iawn gwelid y tir yn eglur, creigiau uchel yn ymgodi'n serth o'r mor. Gorchuddid y bryniau â blodau o bob lliw, a deuai arogl lavender gyda'r awel oddiyno. Pan droai'r llong i mewn i'r bau, yr oedd yr olygfa o'r mor yn hardd dros ben; tai bychain gwynion ar lethrau serth y bryniau a gwinwydd yn tyfu o'u cylch; yma ac acw clochdy eglwys yn cyfeirio i'r nef; blodau ym mhobman; awyr las ddigwmwl uwchben; ac o gylch y cwbl, mor glasach hyd yn oed na'r awyr, a thonnau bychain yn torri'n wynion ar y tywod euraid. Angorwyd ymhell o'r traeth, a daeth tyrfa o gychod bychain i gyrchu'r teithwyr i dir. Chwaraeai degau o fechgyn bychain melynddu yn y dwr o gylch y llong, eu cyrff tywyll, llathraidd, yn disgleirio yngoleu'r haul. Dringai dynion i'r dec gan gynnig ilu o bethau diddorol ar werth, a phawb yn fawr eu swn a'u bloeddio a'u chwerthin.

Arhosodd Mair ar yr Ynys hyd ymhell yn y prynhawn. Erbyn chwech o'r gloch yr oedd pawb eto ar y bwrdd, dirwynwyd yr angor fawr i fyny a throdd y llong i'r mor drachefn. Ar ol cinio'r noson honno, aeth pawb i fyny i'r dec i gael yr olwg olaf ar Madeira. Ymddangosai'n harddach hyd yn oed nag yn y bore. Cyn hir ni welent ddim ond cysgod du rhyngddynt a'r gorwel a myrdd o oleuadau siriol fel ser yn dawnsio arno.

Am bedwar diwrnod ar ddeg wedyn ni welwyd tir o gwbl; dim ond heidiau o bysgod yn hedfan a'r morloi mawrion yn neidio a dynnai sylw'r teithwyr. Yn awr yr oedd diwedd y fordaith yn y golwg, gwelid tir Affrica fel cwmwl ar y gorwel. Cyn hir byddai'r

llong ym mhorthladd Cape Town. Yr oedd pawb yn brysur iawn yn paratoi at lanio, a phawb yn barod i roi ffarwel i'r llong fawr a'u cludasai mor hapus a diogel dros filoedd o filltiroedd o for.

Gorfu i Mair, a'r teithwyr ereill oedd yn mynd i'r un cyfeiriad a hi, aros diwrnod neu ddau yn Cape Town cyn cychwyn ar ris nesaf eu taith. Dyma hi bellach yn Affrica, gwlad ei dymuniad! Ai breuddwyd oedd y cyfan? Yn Cape Town gwelai Affricaniaid wedi gwisgo fel Ewropeaid ac yn siarad Saesneg. A wyddent hwy am yr Iesu? A wasanaeth— ent hwy ef? A ddeuent hwy o ganol y wlad lle'r oedd hi ar fynd yn awr, lle trigai'r bobl mewn pentrefi bychain ynghanol coedwig fawr? Hiraethai am ben y daith er mwyn gweld y bobl oedd i fod yn bobl iddi hi.

Buan y daeth yn amser cychwyn. Teithiai'r tren yn gyflym iawn ar y dechreu heibio i bentrefi bychain a threfi mawrion heb aros. Cyn hir yr oedd ynghanol y mynyddoedd a dau beiriant o'i flaen ac un y tu ol, y tri yn chwythu ac yn pwffian. Croesai afonydd gwylltion heirdd, rhuthrai drwy ddyffrynoedd coediog, ymlusgai igam ogam hyd y llethrau serth dan ddringo. beunydd. Rhedai drwy'r nos gan gludo'i deithwyr pan gysgent. Gwelyau bychain cul oedd ganddynt fel ar y llong ac ni fedrai Mair gysgu'n dda iawn. Ysgydwai'r tren hi nes iddi lawer gwaith ofni syrthio o'i gwely uchel.

Erbyn bore drannoeth rhedai'r tren drwy wlad agored, a bryniau a chopaau gwastad iddynt yn ymgodi o'r ddaear yma a thraw. Hwn oedd y veldt. Yr oedd hi'n gyfarwydd ag enwau rhai o'r gorsafoedd. Pan welodd Kimberley, teimlai fel pe bai wedi cwrdd a hen ffrind dyddiau'r ysgol. Ar y trydydd dydd arhosodd y tren. Nid dydd oedd yn wir, ond canol Yma disgynnodd Mair a'i chwmni. Tynnwyd eu cistiau allan ac aeth y tren ymlaen hebddynt. Pan ddaeth goleu dydd gwelodd Mair enw'r lle mewn Saesneg:—

London Missionary Society.
Tiger Kloof Native Institution.

Arosasant yma am ychydig ddyddiau yn mwynhau cwmni'r cenhadon oedd yn byw yno, ac yn gweld y gwaith a wneid yn yr ysgol a gedwid yn y lle. Yr oedd yr ysgol yn un o ddiddordeb mawr i Mair, gan y bwriadai hi agor ysgol i ferched yng ngwlad y coedwigoedd.

Unwaith eto yr oeddent yn y tren, yn cyflymu tua'r gogledd,—bob dydd yn mynd gannoedd o filltiroedd yn nes i ganol y Cyfandir Mawr. Aethant heibio i Mafeking ac yna Buluwayo, yr olaf o'r trefi mawr, a'r dydd dilynol gwelodd Mair un o olygfeydd rhyfeddaf y byd. Er y bore bach yr oedd llawer wedi bod yn cerdded yn ol a blaen, a safai llawer ar y llwyfan arsyllu ar ben ol y tren. Agorid ffenestri, rhoddid pennau allan, a gofynnai aml un y cwestiwn, " A ydym ni'n agos?"

Gwyddent fod Rhaeadr Victoria yn ymyl, ac wrth gwrs yr oedd pawb am ei weled.

"Dewch ar unwaith i'r ffenestr yma," meddai rhywun wrth Mair; a dangosodd iddi rywbeth ymhell draw y tuhwnt i bennau'r bryniau. Edrychai fel colofn fawr o ager gwyn yn codi'n uchel i'r nefoedd.

"Yr ewyn o'r Rhaeadr yw," meddai.

Safai Mair ar y llwyfan pan arafai'r tren wrth ddynesu tuag ato. Disgynnai'r ewyn fel glaw man, a chollwyd swn y tren yn rhu dwfn y Rhaeadr. Yn araf iawn yr ai'r tren drwy'r bwlch mawr a dorasid yn y graig, a phrin y symudai wrth fynd dros y bont a daflesid dros y ceunant mawr. Nid allai neb siarad; edrychent a rhyfeddent. Cwympai yr afon fawr dros ddibyn serth, a lle y cwympai cyfodai'r ewyn gwyn fel ager gan orchuddio'r goedwig a rhoddai goleu'r haul liwiau'r enfys ymhob diferyn.

Croeswyd y bont ac aeth y tren ymlaen gan gyflymu o hyd ac aeth rhu'r dwfr yn wannach wannach. Mair gan edrych yn ol a meddwl am y dyn gwyn cyntaf a aethai ar hyd y ffordd honno a thrwy goedwigoedd Canol Affrica. Dim ond ychydig filltiroedd eto a byddai'r daith yn y tren ar ben, a da oedd ganddynt oll am hynny. Awr cyn toriad dydd codasant o'u gwelyau i wneud eu hunain yn barod. Ni welid dim drwy ffenestri'r tren, dim ond y seren fore yn yr wybren eang. Arhosodd y tren er nad oedd gorsaf i'w gweld.

"Neidiwch!" meddai rhywun wrth Mair, a chafodd ei hun ar lawr ynghanol tyrfa o rai ereill, a'r rhai hynny yn siarad yn ddibaid mewn iaith ddieithr. Gwelodd ddodi'r cistiau allan, gwyddai fod cenhadon ereill gerllaw, ond ni welai ddim. Aeth y tren gan eu gadael yno. Cariai rhywun lusern o'u blaen, a dilynasant hwythau hi, a dynion ar bob tu iddynt yn rhedeg gan guro eu dwylaw a dywedyd,

"Mwapoleni Mukwai, Mwapoleni." Deallodd Mair mai cyfarchiad oedd hwn a cheisiodd ei ddywedyd.

Siaradai'r cenhadon ereill a'r dynion a redai wrth eu hymyl. Gwyddent hwy'r iaith.

Erbyn hyn yr oedd y wawr yn torri ac edrychai Mair o'i chylch mewn syndod. Yr oedd yno gannoedd o ddynion, heb ond ychydig iawn o ddillad am danynt, dim ond lliain neu ddarn o groen am eu canol. Y rhai hyn oedd ei phobl hi, trigolion gwlad y coedwigoedd.

Casglesid y dynion hyn gan y cenhadon yn y gorsafoedd cenhadol, a danfonasid hwynt i gwrdd a'r tren. Cerddasent am dair wythnos gan gysgu'r nos yn y goedwig, gan groesi afonydd a gwastadeddau nes cyrraedd Ndola, ac yno arosasent am y tren. Yn awr yr oeddent yn barod i gychwyn yn ol ond nid yn waglaw. Daethent yno er mwyn cludo cistiau'r cenhadon a chludo'r cenhadon eu hunain hefyd; oherwydd drwy'r rhan hon o'r goedwig nid oedd tren, dim ffyrdd hyd yn oed, dim ond llwybr. Y noson honno cysgodd Mair mewn pabell am y tro cyntaf yn ei hoes a chysgodd yn drwm oherwydd ei bod wedi blino. Yr oedd gan bob un o'r deucant a hanner o ddynion ei lwyth i'w gario,—rhai gistiau, rhai faddonau, rhai gadeiriau a byrddau, a rhai bethau ereill.

Yr oedd rhai o'r cistiau yn rhy drymion i un dyn eu cludo, rhaid oedd i ddau gludo un bocs, a gwenai Mair wrth weld eu dull o wneuthur hynny. Ceisient ddarn hir o gangen o'r goedwig, gwnaent reffyn cryf o risgl pren, a chylyment y bocs trwm yn ddiogel wrth y gangen. Yna gafaelent un ymhob pen a gosodent ef ar eu hysgwyddau a chychwynent felly, y bocs yn siglo yn ol a blaen ar ganol y pren. Dewiswyd dynion cryfion i gludo Mair, a disgwyliai hi yn eiddgar am y bore er mwyn dechreu'r daith. Llosgai tan coed o flaen y babell drwy'r nos. Cyn mynd i gysgu safodd Mair am ennyd wrth ddrws y babell, a syllodd ar yr wybren. Yn union uwch ei phen gwelai Groes y De. Gwelsai hi hefyd pan oedd ar y mor, clwstwr o bedair seren ar ffurf croes—a dywedai Mair wrthi ei hun wrth syllu ar y faner honno yn yr awyr, "Efe a'n dug i'w babell a'i faner drosom ydoedd cariad."

PENNOD IV.
DRWY'R GOEDWIG.

"DEWCH ymlaen," gwaeddai Mapoma ar yr wyth dyn arall a gludai eu llwythi dan siarad a chwerthin.

"O'r gore, yr ydym yn dod," atebai un o honynt dan redeg. Dilynodd y lleill ef. Ar y pren a gariai Mapoma a Mulongoti rhyngddynt yr oedd hamoc o gynfas gwyrdd yn hongian, ac yn groes ar y polyn taenesid cynfas arall i gadw'r haul o wyneb y sawl a orweddai yn yr hamoc.

"We mune" (O, fachgen) "nid yw'n drwm iawn," meddai Mulongoti. "Ni fedr hi ddeall ein iaith ni, felly gallwn ddweyd y peth a fynnwn am dani."

"Mae'n ferr iawn," atebai Mapoma. Nid yw yn agos cyn dàled a'n merched ni. Efallai nad yw wedi gorffen tyfu."

Erbyn hyn daethant hyd at y lleill ac am beth amser cerddasant ymlaen y naill ar ol y llall,—deg dyn cryf, croenddu. Chwarddent a siaradent yn llawen oherwydd yr oeddent ar eu ffordd adref. Ni falient ddim am y tair wythnos o gerdded oedd o’u blaen oherwydd yr oedd cartref ar ddiwedd y daith a chroesaw gwraig a phlant a chyfeillion. Cludai rhai sospanau ar eu pennau, rhai ffrwythau, rhai sacheidiau o flawd, a rhai barseli o bysgod neu gig.

"Gadewch i ni ganu," gwaeddai Mapoma, a tharawodd y polyn mor drwm nes i'r un a orweddai yn yr hamoc frawychu.

"Shibuka, mama, Shi—buka (Dihunwch, mama, dihunwch)," gwaeddai, gan daro'r polyn eto.

"A yw hi yn cysgu?" gofynnai un o'r dynion. gan blygu i edrych. Edrychodd ar Mair a hithau arno yntau, y ddau heb fedru dweyd dim wrth ei gilydd.

Gofynnai. Mair iddi ei hun o hyd a oedd y cyfan yn wir, canol Affrica, yn y goedwig, a'r dyn talgryf croenddu yma o bentref Mbereshi, gwlad ei dymuniad hi? Hiraethai am fedru siarad ag ef, ond nis medrai, felly gwenodd arno.

"Aseka—Aseka (Mae'n gwenu)," gwaeddai hwnnw gan chwerthin yn uchel. Daeth y lleill yno i gyd i'w gweld yn gwenu.

Blinodd Mapoma ymhen tipyn a galwodd ar un o'r lleill i gymryd ei le. Weithiau aent heibio i ereill o'r cwmni. Gwelodd Mair rai o'i chistiau a'i bath yn mynd heibio, ac ni allai lai na gwenu. Yr oedd popeth mor ddieithr a digrif. Cyn hir aeth y gwres yn llethol iddi, blinodd orwedd ar ei chefn, felly trodd, ac heb yn wybod cafodd ei hun ar lawr. Cododd yn araf gan edrych yn syn ar y dynion.

"Nid ni a'i taflodd hi allan," meddai un o'i chludwyr wrth y lleill.

Na, syrthio allan ei hunan a wnaeth," meddai'r llall; "rhaid iddi fod yn llonydd."

Er na ddeallai Mair eu geiriau dysgodd wers gyntaf teithio gyda'r machila,—fod yn rhaid gorwedd yn llonydd.

Aeth i mewn eto. Gorweddodd gan syllu ar y coed tal, a gobeithiai nad oedd ei ffrindiau ymhell iawn o'i blaen. Yn sydyn clywodd rywun yn gwaeddi: Helo! Sut y mwynhausoch chwi'ch taith gyntaf yn y machila?"

Mor hyfryd oedd clywed ei hiaith ei hun unwaith eto! A dyna olygfa hyfryd oedd o'i blaen! Yr oeddent ar lan afon hardd heb fod yn un ddofn iawn, oherwydd yr oedd rhai o'r dynion yn eistedd ynddi. Yn y cysgod yr oedd bwrdd wedi ei osod, gerllaw yr oedd tân a dau neu dri o'i gwmpas yn coginio rhywbeth arno. Ymhen ychydig funudau yr oedd y pryd bwyd yn barod, ac O! yr oedd yn dda. Sausages o lestr alcan, llaeth o lestr alcan arall, biscuits, jam, a choffi. Wedi gorffen a gorffwys ychydig golchwyd y llestri, dodwyd hwy'n ol yn y bocs, cymrodd y dynion eu llwythi ac ymlaen a hwy drachefn.

Cymrwch ofal!" gwaeddai Mapoma. Daeth y lleill o gylch y machila wrth fynd i lawr at yr afon, i'w gadw yn ddiogel. Teimlai Mair na flinai lawer pe gadawent iddi syrthio allan. Edrychai'r afon mor hyfryd oer. Nid oedd gan y brodorion nac esgidiau na hosanau i'w diosg, na dim dillad i ofni eu gwlychu. Yr oeddent hyd at eu canol yn y dwr. Ni wnai lawer o wahaniaeth iddynt bod y llieiniau a wisgent yn wlyb: sychai'r rhai hynny yn fuan yn yr haul. "Mwe Bantu (Cadwn gyda'n gilydd)," gwaeddai Mapoma, "yr ydym yn nesau at bentref." Felly cerddent, y naill ymlaen a'r llall y tu ol, yn cludo, a phedwar ar bob ochr i'r machila.

"Gadewch i ni ganu," gwaeddai un.

"Bantu bakwa Nani? (Pobl pwy ydym?)," canai Mapoma.

"Bantu bakwa Mamu Sho (Pobl Mamu Sho)," canai'r llall mewn ateb.

"Ku Mbereshi (Awn i Mbereshi)," canai Mapoma eto.

Kumwesu Ku Mbereshi (I'n cartref i Mbereshi)," atebai'r lleill.

Felly y canent, Mapoma ynghyntaf a'r lleill yn ateb, nes dod hyd at y pentref.

"Leteni menshi bamayo (Dewch a dwr i ni)," gofynnai un o'r dynion: ac aeth dwy neu dair o'r gwragedd i'w tai a daethant allan a llestri llawn o ddwr. Arhosodd y dynion ac yfasant, oherwydd yr oeddent yn sychedig iawn.

Canasant eto wrth adael y pentref—tôn wahanol y tro hwn:

Canodd Mapoma y llinell gyntaf, ac ymunodd y lleill yn y cytgan.

Daethant yn fuan at afon arall, un ddofn iawn, ac arhosodd y dynion heb wybod pa beth i'w wneud. Pa sut y dywedent wrth y Fama fod yn rhaid iddi ddod allan a cherdded drosodd? Yr oedd y dynion gwynion ereill wedi mynd ymlaen. Dywedodd Mapoma y ceisiai ef roi ar ddeall iddi.

Plygodd at y machila a dywedodd:

"Mukwai—bulalo—imeni." (Mama—pont—dewch allan.)

Edrychodd Mair arno gan ysgwyd ei phen.

Dywedodd drachefn: "Bulalo menshi — imani mukwai."

Y tro hwn cyfeiriodd at rywbeth.

Daeth Mair allan. Gwelodd afon ond ni welodd bont. Beth bynnag, cerddodd i lawr at yr afon drwy goed oedd mor dal ac agos at ei gilydd nes cau allan oleu'r haul. Hedai adar o bob lliw uwch ei phen. A daeth swn arall o bennau'r coed, fel swn gwichial a chwerthin.

"Bakolwe," ebe Mapoma, gan edrych i fyny. Edrychodd Mair hefyd, a gwelai fwncïod bychain yn neidio o gangen i gangen, gan alw ar ei gilydd. Chwarddodd y dynion a chwarddodd Mair gyda hwy. Daethant at yr afon. Yn lle pont nid oedd yno ond bôn pren yn ymestyn o lan i lan. Dringodd y dynion arno, a'u llwythi ar eu pennau, ac aethant drosodd yn ddiofn. Nid oedd croesi yn beth mor hawdd i Mair. Dringodd i fyny, ond eisteddodd yn sydyn. Rhoddai golwg ar yr afon wyllt odditani y bendro iddi. Penderfynodd eistedd ar y pren, fel pe'n marchogaeth ceffyl, a symud ymlaen yn raddol, gan bwyso ar ei dwylaw. Gwenodd y dynion pan welsant pa beth a fwriadai wneud, a chwarddasant yn uchel dan guro'u dwylaw tra bu hi'n croesi.

Cyn hir daeth pentref arall i'r golwg. Yr oedd y dynion yn llawn cyffro ymhell cyn ei gyrraedd. "Yma y byddwn yn aros dros y nos," meddai un o'r cenhadon wrth Mair, gan redeg yn frysiog heibio iddi.

Ychydig y tu allan i'r pentref gosodwyd y pebyll i lawr. Yr oedd popeth mor newydd i Mair fel na allai wneud dim ond eistedd a gwylio'r lleill yn gweithio. Rhedai'r dynion i mewn a'u llwythi, yn flinedig a llychlyd ond yn hapus, am fod taith y dydd ar ben. Yr oedd rhai bechgyn yn y pebyll yn gosod i fyny'r gwelyau, ereill yn paratoi bwyd ac yn rhoi'r bwrdd yn barod. Cyraeddasant i gyd o'r diwedd,—y Kapitao yn olaf, a'i ddryll ar ei ysgwydd.

"Nyetetu mbafu?" ebe un o'r bechgyn wrth Mair, gan aros am ei hateb.

Gofyn y mae a hoffech chwi iddo roi eich bath yn barod," esboniai'r cenhadwr.

"O, hoffwn yn wir," ebe Mair, ac ymhen ychydig funudau cafodd y bath yn ei phabell yn llawn o ddwr cynnes hyfryd. Pan ddaeth allan drachefn yr oedd y dynion i gyd wedi mynd i chwilio am goed tan. Dychwelasant yn fuan â beichiau trymion. Daeth cenhadwr ati a dywedodd: "Rwyf i'n mynd i gynnal gwasanaeth byrr yn y pentref. A hoffech chwi ddod?"

Nid oedd eisieu gofyn ddwywaith. Aethant i dy'r pennaeth a gofynnodd y cenhadwr am ganiatad i alw'r bobl at ei gilydd. Cytunodd y pennaeth, a pharodd alw'r bobl ynghyd. Daethant yn llu, hen ac ieuanc.

Eisteddodd y dynion ar un ochr, y gwragedd ar yr ochr arall, a'r plant y tu ol iddynt. Rhoddodd y cenhadwr emyn allan i'w ganu. Ymunodd Mair yn y canu er na fedrai ddweyd y geiriau. Yna wedi gweddio siaradodd y cenhadwr â'r bobl, a gwyddai Mair ei fod yn dweyd wrthynt am y Tad a ofalai am danynt hwy ac am bawb,—pobl wynion a duon fel ei gilydd. Edrychai'r gwragedd yn syn arni a rhyw olwg hiraethus yn eu llygaid, ac edrychai Mair arnynt hwythau heb eto fedru dweyd ei neges fawr wrthynt.

Pan aethant yn ol i'r gwersyll, gwelent lawer o danau bychain yma a thraw,—y dynion oedd yn coginio swper iddynt eu hunain. Gwnaent uwd o'r blawd a gludent, a berwent ychydig gig neu bysgod i'w fwyta gydag ef.

Cyneuwyd tanau o gylch y gwersyll, ac un tan anferth o'i flach. Dyna dan! Cyrhaeddai y fflamau cyn uched a brigau'r coed. Safai'r pebyll yn y cysgod, a'r coed yn nisgleirdeb y tanau. Edrychai'r cyfan fel gwlad hud.

Gwenai'r ser yn yr wybren a Chroes y De yn union uwch eu pen o hyd. Wedi gorffen eu'swper, ymgasglodd y dynion yn hanner cylch o flaen y tan mawr.

Eisteddodd y cenhadon hefyd a rhoddwyd emyn allan i'w ganu:

"O aros gyda mi, y mae'n hwyrhau "

Canai Mair yn ei hiaith ei hun, ac O! hyfryted oedd meddwl fod Duw yno ynghanol y goedwig fawr lle y crwydrai'r bwystfilod gwylltion, yn eu gwylio a'u cadw hwy. Wedi canu'r emyn, darllenodd y cenhadwr ychydig o adnodau, a gofynnodd i un o'r dynion weddio, ac mor rhyfedd y swniai ei eiriau ar glustiau Mair!

"Shaleui po mukwai (Nos da Mam)," meddai pob un wrth fynd yn ol at ei dân. Paratoisai pob un wely iddo'i hun o ddail esmwyth, ac yno o flaen eu tanau mwynhasant eu cwsg melys.

Aeth y lleill i'w pebyll yn fuan. Gadawodd Mair ddrws ei phabell hi yn lled agored er mwyn edrych ar y tan siriol a'r ser. Buan ni chlywid dim namyn llef ambell aderyn nos, neu gri pell rhyw fwystfil, a chleciadau'r tanwydd wrth losgi.

"Chiughi," galwai un o'r dynion ar ei gyfaill, a gwrandawodd y ddau. Clywodd y lleill y swn hefyd. "Nkalamo!" meddent.

"Maent yn ddigon pell," meddai un oedd yn ddigon cyfarwydd â lleisiau'r goedwig. Cysgasant drachefn, ond nis gallai Mair gysgu mor hawdd. Clywsai hithau'r chwyrnu pell a gwyddai mai llew oedd. A ddeuai yn nes? Nid oedd pabell yn lle diogel iawn wedi'r cyfan. Gwelodd y tân, a daeth adnod i'w chof: "Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef," a chysgodd hithau'n dawel.

Cyn toriad dydd yr oedd pawb ar eu traed ac yn paratoi at ddydd arall o deithio. Yr oedd pob dydd yn llawn digwyddiadau cyffrous. Dysgodd Mapoma lawer o eiriau i Mair. Cyn pen ychydig amser medrai ddweyd wrth y dynion am aros, medrai ofyn am ddwr, a holai o hyd, "Beth yw hwn?" a "Beth yw hwnyna?" Deallodd Mapoma ei bod yn
Ar ganol pentref Mbereshi.

hoff o flodau, a phan na fyddai yn cludo, ai i edrych am flodau iddi, ac yr oedd y machila fynychaf yn llawn o honynt. Dangosodd iddi dwmpathau morgrug, y palmwydd, olion y llewod a'r llewpartiaid a'r anifeiliaid gwylltion ereill.

Dywedodd wrthi enwau'r pentrefi yr aent drwyddynt, a cheisiodd siarad â hi am Mbereshi, ond methai Mair a'i ddeall.

Un dydd croesasant afon Luapula mewn badau bychain. Cymrodd ddydd cyfan iddynt gael yr holl garafan drosodd. Ddiwrnod arall aethant drwy betref lle'r oedd dau ddyn gwyn yn byw. Un o orsafoedd y Llywodraeth ydoedd. Arosasant yno ddiwrnod cyfan.

Y dydd olaf o'r daith oedd y mwyaf cyffrous o'r cwbl. Dim ond tair milltir ar hugain oedd i Mbereshi. Cododd y dynion yn foreuach nag arfer ar y dydd hwnnw, gan gymaint eu brys i fynd. Canent yr holl ffordd a gorweddai Mair yn ddistaw yn y machila.

Yr oedd ar fin cyrraedd y lle oedd i fod yn gartref iddi, y bobl oedd i fod yn bobl iddi, a'r plant bychain yr oedd hi i'w dysgu. Am y dydd hwn yr hiraethasai ar hyd y blynyddoedd. Diolchodd i'r Iesu am fod gyda hi, ac erfyniodd am ei gwmni yn y dyfodol, oherwydd hebddo ef ni allai hi wneuthur dim.

"Mwapoleni Batata-cyraeddasoch yn ddiogel."

Nifer o fechgyn bychain oedd yno, heb ddim ond crysau bychain gwynion glan am danynt, yn dod i gwrdd a'r carafan. Mab bychan Mapoma oedd un ohonynt. Holent y dynion yn ddibaid am y Fama newydd. Daeth ereill, gwyr a gwragedd, i'w cyfarfod fel y dynesent at y pentref, a mynnai pob un gael cip ar Mair nes gwneud iddi deimlo'n swil iawn. O ben bryn cafodd olwg ar lyn yn y pellter. Dywedodd. Mapoma wrthi mai Llyn Mweru oedd—un o'r llynnoedd y dysgasai hi eu henwau yn yr ysgol ers llawer dydd.

O hynny ymlaen, mawr oedd y swn a'r rhuthr. Rhedai'r dynion ac arosasant yn sydyn. Tynnodd llaw wen y cynfas yn ol,—yr oeddent wedi cyrraedd, a dyma wraig un o'r cenhadon a phedwar o blant bach gwynion yn edrych arni, yn ei chroesawu! O mor dda oedd ganddi eu gweled!

Aeth i mewn i dy'r cenhadon fel mewn breuddwyd. O feranda ar y llofft edrychodd i lawr ar y dyrfa a ddaeth yno i'w chroesawu. Curodd ei dwylaw fel y gwnaent hwy, a gwaeddodd "Mwapoleni," a chafodd fanllefau o gymeradwyaeth. Canai a dawnsiai'r gwragedd, a buont yn hir cyn dychwelyd i'w cartrefi.

"Dyma rai o'n gwragedd Cristnogol wedi dod i'ch gweld," ebe'r cenhadwr. Daeth tair gwraig dal, olygus, i'r ystafell. Yr oedd dillad o amryw liwiau am danynt.

"Dyma Mwenga, a dyma Makesitu, a dyma Magi." Felly cafodd y ddwy a fu'n blant gyda'i gilydd—un yn Lloegr bell yn hapus, a'r llall ar draethau Llyn Tanganyika yn gaethes fechan,—edrych i lygaid ei gilydd ac ysgwyd dwylaw.

TEITHIO MEWN MACHILA.

PENNOD V.
YR YSGOL.

"SEMBA, dihunwch."

Rhwbiodd Semba ei llygaid yn gysglyd. Pan welodd wyneb Neli yn edrych i mewn drwy'r drws, cododd oddiar y mat oedd ar y llawr ac aeth allan gan adael ei rhieni a'i dau frawd bychan yn y ty yn cysgu. Gwisgodd ei lliain bychan am ei chanol ac aeth allan.

Ond yr ydych heb ymolchi," meddai Neli. Gwyddoch iddi ddywedyd wrthym bod yn rhaid i ni olchi ein breichiau a'n hwynebau ar ol codi yn y bore."

"'Does dim dwr yn y ty, sut y gallaf ymolchi? Mi ddywedaf wrthi fy mod wedi gwneud hynny, ni fydd hi ddim yn gwybod."

Gwenodd Neli, ac aeth y ddwy i fyny ar hyd heol y pentref. Yr oedd yn fore iawn a drysau'r rhan fwyaf o'r tai yng nghaead.

"Dacw Chungu a Chiluba o'n blaen heddyw," ebe Neli. "Nid yw'r lleill wedi cychwyn, 'rwy'n siwr. Yna'n sydyn torrodd swn mawr ar ddistawrwydd y dyffryn, swn y drwm yn galw'r bobl at eu gwaith, a buan gwelent y drysau'n agor, a dynion a bechgyn, a gwragedd a genethod hefyd, yn dod allan o'r tai ac yn dod i fyny ar hyd yr heol.

"Dyna rai rhyfedd yw'r dynion gwynion!" ebe Semba. "Maent mor hoff o weithio, a ninnau'n hoffi eistedd yn y pentref drwy'r dydd. 'Rwyf innau wedi blino mynd i dy'r Fama bob bore i weithio. Nid af i ddim bore yfory, mi arhosaf yn y pentref ac mi ddywedaf wrthi nad oeddwn yn iach. Mae Chungu wedi gwneud hynny deirgwaith, ac nid yw hi'n gwybod gwell. Mae'n ddigon hawdd ei thwyllo," ebe Semba gan chwerthin.

"Wel" ebe Neli, "rwyf i'n hoffi mynd. Rwy'n hoffi gweld y pethau sydd yn ei thy. "Dwyf i ddim yn gweithio'r holl amser. Pan na bydd hi'n edrych yr wy'n eistedd yn segur. Peth arall, pe dywedwn i wrth nhad nad oeddwn yn iach ni wrandawai ef ddim, gwnai i mi fynd, iach neu beidio."

Erbyn hyn cyraeddasai'r ddwy eneth at y ty. Yr oedd yn dy mawr iawn yn eu golwg hwy, wedi ei wneud o briddfeini cochion.

Bu Semba'n helpu cario'r priddfeini at ei adeiladu. Pan aeth gyntaf at y Fama i'w helpu, tua mis cyn hyn, yr oedd arni ofn mynd i'r ty. Yr oedd mor fawr, ac yr oedd y grisiau yn rhoi braw iddi. Yr oedd wedi cyfarwyddo â'r ty erbyn hyn, a hoffai redeg i fyny ac i lawr y grisiau. Gwyddai enw pob ystafell. Yr oedd un i fwyta, un i eistedd, ac un i gysgu ynddi. Synnai pobl y pentref at ffyrdd rhyfedd y dynion gwynion. Dim ond un Fama a chynifer o ystafelloedd ganddi!

Dim ond un ystafell oedd yn eu ty hwy i'r teulu i gyd, ac yr oedd un yn ddigon.

Gwaeddodd Chungu arnynt o ddrws y gegin: "Ple y buoch chwi cyd? Dewch â choed tan i mewn, Semba. Ewch chwithau, Neli, â'r lludw yma ymaith. Brysiwch, Neli, a pheidiwch a'i daflu yn ymyl y drws. Mae hi yn ein gweld o ffenestr y llofft."

Yr oedd Mair—y genhades—ar y llofft yn ysgrifennu llythyrau, ond wedi clywed lleisiau'r genethod aeth i lawr. Aeth drwy'r gegin ar ei ffordd allan i'r buarth.

"Bore da, Mama," meddai Chungu a Chiluba.

"Bore da, ferched," atebai hithau gan wenu, ac yna edrychodd ar Chungu.

Nid yma y mae eich gwaith chwi, ai e Chungu? Dywedais wrthych droeon fy mod am i chi helpu Neli a Semba ar y llofft. A ydych yn deall? "

Gwenodd Chungu ar Chiluba, a gymrai arni lanhau lle'r tan. Deallai yn eithaf da, ond nid oedd am ddangos hynny, oherwydd ni wyddai'r Fama mo'r iaith yn dda iawn.

"Paid di â mynd, Chungu," sibrydai Chiluba. "Beth ddywedsoch chi?" gofynnai 'r Fama.

'Dweyd wrth Chungu am fynd i'r llofft a gwneud ei gwaith yr oeddwn," meddai Chiluba, a gwên ar ei hwyneb.

Aeth y Fama allan i weld pa beth oedd y lleill yn wneud. Teimlai ei bod yn anodd deall y plant yma. Ofnai na ddywedent y gwir bob amser, ac ni wyddai hithau ddigon o'u hiaith.

"Mama! neidr! neidr!" Rhedodd Kabwe i'r ty dan waeddi mewn dychryn. Rhedodd y lleill i gyd allan dan waeddi:

"Ple mae hi? Ple mae hi?"

"O dan y llestr dwr," meddai Kabwe, a swn crio yn ei llais," nid un ond tair. Mi a'u gwelais pan godais y llestri arllwys dwr ohono."

Daeth Chungu a Chiluba a gwialen fawr bob un ac aethant ymlaen yn ddewr at y llestr; a chyda llawer o floeddio a rhedeg yn ol lladdwyd y tair neidr a gysgai'n dawel yn ymyl y llestr.

Yr oedd tair geneth fechan yn ysgubo'r buarth o flaen y ty, dan ganu. Yn yr ysgol yr oedd Lisi yn ysgubo ac yn dodi'r matiau i lawr, ac yn yr ystafell fwyta paratoai Mupelwa'r ford at frecwast. Arhosodd y Fama i siarad gair â Mupelwa, ac yn sydyn clywsant chwerthin mor ddilywodraeth nes o'r braidd y gallent hwythau beidio ymuno ynddo. "Neli a Semba sydd ar y llofft," meddai Mupelwa, a dyna lais Chungu eto a llais Chiluba.

Aeth y Fama i fyny'n ddistaw, a gorfu iddi aros wrth y drws i geisio ymatal rhag chwerthin ei hun.

Dau ben bach du ar y gobennydd, dau bâr o lygaid bychain dychrynedig yn edrych arni. Chungu a Chiluba yn rhuthro i lawr heibio iddi!

"Dewch allan ar unwaith o'r gwely," meddai, dan geisio gwgu.

Yna bu llawer o ymysgwyd a chicio a swn rhwygo rhywbeth. Gwisgasai Neli a Semba ŵn nos y Fama am danynt,—braich aswy un ohonynt drwy un llawes a braich dde'r llall drwy'r llawes arall.

Wrth geisio dod allan ohono rhwygasant ef o'r top i'r gwaelod. O'r diwedd daeth y ddwy allan yn noeth, diosgasent eu llieiniau a rhoisent hwy i Chungu i'w dal cyn gwisgo'r gŵn nos am danynt, ac yn awr nid oedd na Chungu na'r llieiniau yno. Edrychent tua'r llawr heb wybod pa beth i'w wneud.

Aeth y Fama allan ar y feranda a galwodd ar Chungu. Gyda gwên angylaidd ar ei hwyneb daeth Chungu i mewn ac wedi dweyd yn ddifrif na wyddai hi ddim am y chwarae nac am y llieiniau aeth i lawr i'r gegin a daeth â hwy i fyny. Gwisgodd y ddwy eneth hwy, ac aeth y gwaith yn ei flaen drachefn.

Am hanner awr wedi saith canodd y gloch frecwast. Brecwast i'r Fama yn unig oedd. Hyd yn hyn ai'r genethod yn ol i'w cartrefi i gael eu bwyd ac aent yno ar derfyn y dydd i gysgu.

Gwaith Mupelwa oedd gweini wrth y bwrdd. Teimlai'n falch heddyw am ei bod wedi trefnu'r bwrdd heb help y Fama. Wedi i'r Fama eistedd aeth Mupelwa i'r gegin i hol yr wyau. Rhai bychain iawn oeddent. Yr oedd yn rhaid cael tri i wneud un wy fel ag a geid yn Lloegr. Chiluba a goginiai'r bwyd. Erbyn hyn medrai goginio wyau mewn tair neu bedair ffordd. "Ewch â hwy i mewn yn y ffordd iawn heddyw," ebe hi. "Beth ddywedodd Mama wrthych ddoe?"

Dywedodd wrthyf am beidio cario pethau ar fy mhen," atebai Mupelwa, "bod yn rhaid i mi eu cario yn fy nwylaw fel hyn," a chydiodd yn y plât a'i dwy law gan ei ddal ymhell oddiwrthi.

"Wel, ewch â'r plât a'r llestr wy yn eich llaw ynte." Gwnaeth Mupelwa fel y dywedodd wrthi a dododd y llestri o flaen Mama.

"Ond pa le y mae'r wyau?" gofynnai Mama.

"O anghofiais hwy," ebe hi, a rhedodd allan fel corwynt.

Daeth i mewn drachefn a thri wy ar ei phen bychan du. Tynnodd hwy oddiyno bob yn un a dododd hwy ar y plât.

Gwenu arni wnaeth y Fama. Gwyddai fod Mupelwa yn ceisio'i goreu gwneud pethau yn iawn, a llawer o'r lleill hefyd; Chungu a barai fwyaf o ofid iddi. Chwarddai wrthi ei hun pan gofiai eu troeon digrif. Pan ddeuai i wybod eu hiaith yn well gwyddai y byddai'n haws iddi eu deall hwythau. Wedi boreu— fwyd, daethant i gyd i mewn i'r gwasanaeth. Canasant emyn â lleisiau swynol, darllenodd y Fama'r drydedd salm ar hugain ac offrymodd weddi ferr dros y cwmni bach oedd ar eu gliniau yno yn ei hymyl.

Ar ol hynny plygai deuddeg pen cyrliog uwchben y llech a'r llyfr. Hoffent y rhan hon o'u gwaith yn ogystal a'r gwnïo a'r gwau yn y prynhawnau. Am bump o'r gloch caent redeg am y cyntaf i'w cartrefi, a gwaith y dydd wedi ei orffen.

"Pa bryd y cewch chwi gysgu yn nhy'r Fama?" gofynnai ei thad i Neli y noson honno.

"Wn i ddim. Mae gwelyau bychain pren wedi eu gosod yn yr ystafell hir yn barod."

"Beth ych chwi'n ddweyd?" ebe hen wraig a ddigwyddai fod yno. Byddwch yn ffol iawn os gadewch i'ch merched gysgu yn nhy'r Fama. Mae hi'n sicr o'u rheibio!"

Symudodd Neli yn nes at ei mam.

"Gwell gen i beidio â mynd yno, mayo," ebe hi. "Tewch, Neli!" meddai ei thad.

"Gwyddoch na wna'r Fama niwed i chwi. Mae yn eich caru ac y mae wedi dod i'ch dysgu a'ch helpu i dyfu i fyny yn ferch dda, a dilyn yr Athraw Iesu."

"O ie," ebe'r hen wraig. "Fe anghofiant ein harferion ni ac fe ddysgant rai newydd. Ni chawsai plentyn i mi ddim mynd yno!"

"Dyna beth sydd yn eisieu," meddai'r tad. "Mae eisieu i'n merched anghofio hen ffyrdd gwael ein pobl ni."

"Hm!" meddai'r hen wraig, gan son rhywbeth drachefn am "reibio."

Felly y siaradai llawer o fenywod y pentref. Un peth oedd danfon eu merched i'r ysgol yn y dydd, peth arall oedd eu gadael yno dros y nos. Yn eu calonnau yr oedd ofn arnynt i gyd. Un hir isel oedd yr ystafell gysgu, ar ben pellaf y buarth. Ar y pen arall yr oedd ty'r Fama, a rhwng y ddau adeilad yr oedd dau fur uchel. Yr oedd y merched ar swper, bedair ar ddeg ohonynt, a Mwenga, gwraig addfwyn ei golwg. Addawsai Mwenga fyw yn yr ysgol i helpu'r Fama. Cysgai yn ystafell y merched, cynorthwyai gyda pharatoi'r bwyd a chyda llawer o bethau ereill. Adwaenai'r plant hi ac yr oeddent yn hoff o honi. Eisteddent yn gylch ar fatiau bychain o gwmpas dau lestr pridd mawr, ac yr oedd pob un mor brysur yn bwyta fel nad oedd amser gan neb i siarad. Cynnwys y llestr mwyaf oedd bwali, uwd tywyll ei liw, ac yn y llall yr oedd rhywbeth i roi blas ar yr uwd. Y tro hwn cawl cig oedd ynddo, ac yr oedd yn wledd i'r plant. Rhoddai pob un yn ei thro ei llaw yn y llestr mawr gan godi darn go dda o'r uwd tew, yna gwlychai hwnnw yn y cawl a bwytâi ef. Er eu bod yn mwynhau'r bwyd nid edrychent yn hapus iawn. Edrychai rhai ohonynt yn aml at y glwyd fawr tuallan, lle'r oedd tipyn o swn.

"Mae'ch mam yn galw," sibrydai Kabwe wrth Kayula. "Kayula! dewch allan oddiyna. Mae ofn arnaf i."

Gwaeddodd Kayula yn ol.

"Na, 'rwyf i'n mynd i aros yma. Mae cig gennym i'w fwyta."

Distawodd hyn y terfysg am ennyd, ond dechreuodd eilwaith,—lleisiau digllon mamau yn dweyd na chai eu plant dreulio'r nos mewn lle o'r fath. Yr oedd Magi yn eu plith, a cheisiodd hi eu darbwyllo:

"Gwrandewch, ddoe dangosodd y Fama i ni welyau'r plant, y blancedi. Dyna fwy nag a allwn ni roi iddynt, ac y maent yn bwyta cig fel y clywsoch. Mae'r Fama yn garedig wrthynt. Ac edrychwch mor uchel a chryf yw'r muriau yma. Nid a'r un llew i mewn dros y rhai hyn. Nid oes ofn arnaf i am fy merch fechan Kabwe. Mae'n fraint i ni gael ysgol fel hyn i'n merched."

Gwrandawodd rhai arni ac aethant yn ol i'r pentref â'u babanod wedi eu rhwymo am eu cefnau, ond arhosodd ereill ar ol.

Daeth Mama i'r buarth cyn hir. Ni chymrodd un sylw o'r gwragedd, ond siaradodd â Mwenga a'r plant. Danfonwyd Chungu a Chiluba i gyrchu dwr yn y twba mawr, ac yna dechreuodd yr ymolchi. Dyna dwrw oedd yno! Yr oedd hyn yn beth newydd i bawb ohonynt. Yn fuan yr oedd pob un fechan grynedig a'r blanced yn dyn am dani yn ei gwely.

Yr oedd pob llygad a edrychai i fyny at Mama yn llawn dagrau. Yn awr, a hwy mewn gwirionedd yn cysgu yn yr ysgol, yr oedd ofn arnynt. Yr oedd y lle mor wahanol i'w tai bychain crynion hwy, lle y cysgent gyda'u tad a'u mam a'r lleill. Gwelent eisieu'r tan bychan oedd yng nghýn drwy'r nos. Ni hoffent mo'r lamp a gariai Mama, gwnai i'w hwyneb gwyn edrych mor ddieithr. Criodd Mupelwa yn uchel pan daeth at ei gwely hi, a dilynodd ereill ei hesiampl.

Galwodd Mama ar Mwenga. Siaradwch chwi a hwy," ebe hi; "mae arnynt fy ofn i." Yna aeth allan gan gloi'r drws ar ei hol.

Yr oedd y gwragedd o hyd wrth y glwyd.

Agorwch i ni," meddent â lleisiau dig.

Ond aeth Mama i'w thy a daeth allan ar y feranda. "Mae eich plant yn ddiogel," ebe hi. "Byddant yn hapus yma. Os ewch chwi yn ol i'ch cartrefi fe gysgant. Chwi sydd yn peri iddynt ofni."

Ond ni wrandawent arni. Buont yno am awr gyfan yn gwaeddi a galw. O'r diwedd blinasant ac aethant ymaith i gyd, gan ddweyd geiriau celyd wrth y Fama. Tynnodd hithau ochenaid o ryddhad pan welodd eu bod wedi mynd. Aeth a'r lamp eto i ystafell y genethod. Yr oedd popeth yn dawel. Cysgai Kabwe fechan â'r dagrau o hyd ar ei gruddiau. Gorweddai Neli yn ymyl Chiluba. Yr oedd braich gref Chungu am wddf Kayula.

Affricaniaid bychain duon, gwyllt, oeddent, eu mamau wedi byw drwy eu hoes bron mewn dychryn rhag y dynion gwynion a ddeuai yno i geisio eu dwyn yn gaethion. Yr oedd llawer o honynt wedi bod yn gaethion. Plant bychain oeddent heb wybod am gariad yr Iesu, yn ofni 'r tywyllwch, ofni ysbrydion drwg, ofni popeth. A dyma hwy dan ei gofal hi! Gweddiodd am nerth i'w gwneud yn blant hapus ac yn blant da.

LLEW.

PENNOD VI.
CWERYL A CHWARAE.

DAU o'r gloch ar brynhawn Sul oedd. Canai'r plant eu hemyn olaf, ac wedi munud o ddistawrwydd daethant allan yn rhes drefnus. Wedi cyrraedd gwaelod grisiau'r ysgol rhedasant ar draws y clôs i'r ystafell gysgu. Yno diosgasant eu dillad Sul a gwisgasant eu dillad gwaith.

Cymrodd pob geneth ei llestr dwr, a phan oedd pob un yn barod aethant allan drachefn i'r clôs a ffurfiasant yn rhes fel o'r blaen, y genethod mawr yn un pen a'r rhai bach yn y pen arall. Aeth Chiluba i'r llofft i ddweyd wrth Mama eu bod yn barod. Edrychodd Mama arnynt o ddrws yr ysgol. Rhifent ddwy ar hugain erbyn hyn, ac edrychent oll yn hapus. Yr oedd pob un wedi newid ei dillad, yr oedd gan bob un ei llestr dwr, ac yr oedd gan rai ohonynt bethau ereill hefyd. Cariai rhai lestri bychain a wnaethent ei hunain o glai! Ar ben Chiluba gwelid potel fechan wag. Cawsai hi gan Mama y diwrnod cynt, ac yr oedd yn falch iawn ohoni.

O'r gore. Yr ydych oll yn barod. Gofalwch beidio a thorri eich llestri, a dowch yn ol yma. pan fo'r haul yn mynd i lawr. Cofiwch fi at eich rhieni. Gellwch fynd yn awr. Prynhawn da!

Caent fynd i'r pentref bob prynhawn Sul ar ol yr ysgol. Edrychent ymlaen at hyn, ac edrychai Mama ymlaen ato hefyd. Cai hi y pryd hwnnw oriau hir i ddarllen ac ysgrifennu. Cerddai Chiluba a Mupelwa a genethod mawr ereill gyda'i gilydd, a rhedai'r plant lleiaf o'u blaen.

"Beth sydd ar Mupelwa? nid yw hi'n dweyd dim," meddai un ohonynt.

Anfoddlon ydyw am i Mama roi hon i mi," meddai Chiluba, gan ddangos y botel gyda balchter.

"Gwyddech fy mod i am ei chael, pam yr oeddech chwi'n gofyn am dani. Fe'i cawswn i hi pe baech chwi heb ofyn," ebe Mupelwa, gan wgu.

Chwarddodd Chiluba yn uchel, a chynhyrfodd hyn gymaint ar Mupelwa, nes iddi hyrddio'r botel oddiar ben Chiluba, a chwympodd honno yn ddarnau wrth ei thraed. Rhedodd y plant lleiaf i'r pentref dan waeddi.

"Mae Chiluba yn lladd Mupelwa. Maent yn ymladd." Rhedodd rhieni Mupelwa allan, yr oeddent hwy yn byw ar ben uchaf y pentref; a buan y daeth rhieni a pherthynasau Chiluba, a thyrfa o rai ereill, a bu dwndwr a chweryla yn eu plith hwythau.

"Ni chei di ddim mynd 'nol i'r ysgol," meddai mam Mupelwa, gan lusgo'i merch tua'r ty.

"Ni chei dithau ddim mynd 'nol chwaith," meddai mamgu Chiluba. Dywedai rhieni eraill yr un peth, a phan oedd yr haul ar fynd i lawr, cwmni bychan distaw a aeth yn ol tua'r ysgol. Diosgasai pob un ei dillad, gwisgent yr hen lieiniau fel cynt.

Gwelodd Mama hwy'n dod o bell, a methai a'u hadnabod. Pa le'r oedd eu dillad gwynion?

Daeth Mwenga ati yng nghyntaf.

"Mae'r plant wedi bod yn ymladd, ac nid ydynt yn dod 'nol i'r ysgol eto," ac adroddodd yr holl hanes.

Ni wyddai Mama pa beth i'w wneud. Yn nyddiau cyntaf yr ysgol yr oedd ymrafaelio'n beth mynych, ond tybiai hi fod hynny drosodd ers cryn amser. Ai cosbi ynte ceryddu a wnai? Daeth y genethod i mewn i'r clôs, gan edrych ar y llawr heb ddweyd dim. O'r diwedd, dywedodd Chiluba: "Yr ydym wedi bod yn ymladd, ac nid ydym yn dod 'nol i'r ysgol eto. Dyma ein dillad," a gosododd ei philyn ei hun ar y llawr. Dilynodd ereill ei hesiampl.

"Ewch a'ch dillad i'r ystafell gysgu, ferched. Rhaid i mi siarad â chwi cyn yr ewch yn ol i'r pentref." Aethant i mewn i gyd, ac arosasant. Aeth Mama i mewn ar eu hol a chaeodd y drws.

"Y gwasanaeth y'nghyntaf," ebe hi. Canasant,

"Iesu tyner, gwrando,"

yna gweddiodd Mama ar i'r Iesu da dyneru pob calon, a gwneud pob un yn barod i faddeu i'w gilydd. Wedi gorffen, dywedodd:

"Yn awr, gwely! Yr ydym yn rhy flinedig i siarad heno. Byddwn yn gryf eto yn y bore."

Edrychai pawb yn syn. Gwenodd Mama arnynt ond edrychodd yn ddigon penderfynol. Gildiodd y plant lleiaf, ac yn fuan yr oedd y pennau bychain duon yn gorffwys, a'r llygaid llaith yng nghau. Safai Mupelwa a Chiluba heb gyffro.

"'Rwyf i'n mynd adref," meddai Mupelwa, gan fynd tua'r drws.

"Ddim heno, merch i," meddai Mama. "Cewch ddweyd y cyfan wrthyf yfory."

Ond hir y bu'r ddwy cyn gildio. Gorfu iddynt wneud hynny o'r diwedd a daeth cwsg i yrru ymaith bob meddwl cas.

Bu Mama yn hir iawn cyn cysgu. Beth a wnai pe bai'r merched i gyd yn benderfynol o fynd yn ol i'w cartrefi?

Yn bryderus y gwyliai hwy bore drannoeth yn dod i mewn i'r gwasanaeth. Da oedd ganddi glywed y cyfarchiad siriol arferol gan bob un ohonynt. Aeth y gwaith ymlaen fel arfer. Gwelodd Mupelwa'n gwenu unwaith a chlywodd Chiluba'n chwerthin. Yr hwyr hwnnw wedi gorffen gwaith yr ysgol siaradodd â hwy am yr un ddeddf fawr i blant yr Iesu,— deddf Cariad.

"Plant yr Iesu y'ch gelwir yn y pentref, a phan fyddoch yn ymrafael ac yn anfwyn i'ch gilydd yr ydych yn dwyn anfri ar yr enw sydd arnoch. Ei orchymyn Ef yw ar i ni garu ein gilydd. Anghofio hynny a wnaethoch ddoe, onide?"

Nid oedd ateb, ond pennau bychain duon yn plygu. Ar y diwedd, arhosodd Mupelwa a Chiluba ar ol. "Mae ein cweryl drosodd," ebe Chiluba, a gwenodd y ddwy ar ei gilydd. Yr oedd dagrau yn llygaid Mama wrth ddymuno "nos da" iddynt.

"Mae rhywun y tuallan am siarad â chwi, Mama."

"Pwy sydd yna, Neli? Yr wyf i'n lled brysur." "Fy ewythr Mumba, a dwy ferch."

Gadawodd Mama ei gwaith gwnio ac aeth allan. "Dydd da, Mama," ebe dyn mawr cryf. "Rwyf am wybod a gymrwch chwi fy nwy nith i'ch ysgol. Chishimba yw enw'r un dal yma, a Nsama yw hon. 'Rwyf am iddynt ddysgu bod yn ferched da."

Rwy'n meddwl y gallaf gael lle iddynt. Mae'r ysgol yn lled lawn, ond mi wnaf fy ngore."

Edrychai'r ddwy eneth yn ofnus. Galwodd Mama ar Neli.

"Ewch a Chishimba a Nsama i'r clôs a dangoswch bopeth iddynt, a dywedwch wrth Mwenga am roi bwyd iddynt."

Aeth Neli a hwy, ac yn fuan, gofynnid pob math o gwestiynau iddynt gan y plant ereill. Rhifai'r ysgol bump ar hugain erbyn hyn, a daeth rhai newydd ereill drachefn. Pan oeddent yn ddeg ar hugain penderfynodd Mama beidio â chymryd ychwaneg, gan fod yr ystafell gysgu yn mynd yn rhy gyfyng iddynt. Daeth amryw rieni ereill a'u plant, ond bu'n rhaid eu troi yn ol.

Cymrai gryn amser i'r plant newydd adael eu hen ffyrdd. Dywedent anwiredd yn fynych a defnyddient iaith aflan, nes peri gofid i Mama.

Un diwrnod penderfynodd geisio help ei phedair geneth hynaf. Gofynnodd iddynt ddod i'w myfyrgell hi y noson honno cyn amser gwely, am fod ganddi rywbeth i'w ddweyd wrthynt. Yr oedd y pedair yn llawn cyffro, ceisient feddwl pa beth a wnaethent y diwrnod hwnnw yn haeddu cerydd, oherwydd credent mai i'w ceryddu y galwasai Mama hwy. Pan aethant i mewn syndod pleserus a'u harosai. Yr oedd lliain gwyn wedi ei osod ar y llawr a phlatiaid o deisennau ac un arall o fananau arno. Yr oedd hefyd lemwnêd mewn gwydrau ar gyfer pob un. Eisteddodd Mama ar y carped a gwahoddodd hwythau i eistedd. Yn fuan, wrth fwyta, daethant yn ddigon rhydd i siarad. Dywedodd Mama wrthynt mor anodd oedd iddi hi edrych ar ol y plant i gyd, a'i bod am iddynt hwy ei helpu.

Pedair fawr a phedair fach.


Y pedair merch fach.

Edrychasant arni yn syn am ennyd. Eglurodd hithau ei chynllun, Bwriadai rannu'r plant yn bedwar dosbarth, a rhoddi pob i ddosbarth dan eu gofal hwy. Caent hwy fod yn "famau" iddynt, i edrych ar eu hol i'w ceryddu os gwelent hwy yn cweryla neu'n dweyd anwiredd neu'n arfer iaith aflan, a dangos iddynt hefyd y ffordd well,—eu dysgu i fod yn garedig at ei gilydd, i ddweyd y gwir, i arfer iaith lan. Yr oedd y pedair yn falch iawn o'r cyfle hwn i helpu Mama. Mawr oedd y cyffro a'r llawenydd bore drannoeth pan eglurwyd y cynllun newydd i'r plant i gyd. Siaradent am y peth drwy'r dydd. Gwenai Mama wrth weld y pedair "mam" y noson honno yn crynhoi eu plant ynghyd at eu pryd bwyd, ac wedi hynny yn eu golchi a'u dodi yn y gwely. Llwyddiant mawr a fu'r cyfan. Dysgai'r plant yn dda, ac yr oedd pawb yn hapus.

Yr oedd y genethod mwyaf yn y Safon gyntaf erbyn hyn, ac yn paratoi at gyrraedd yr Ail, ac yr oedd pob un ar ei heithaf yn dysgu. Yr oedd Monica,—geneth fechan wen, wyth oed,—merch y doctor, yn yr un dosbarth â hwy, ac yr oeddent oll yn hoff iawn ohoni.

Un prynhawn, daeth mam Monica i'r ysgol.

Rwyf am siarad â chwi am funud," ebe hi wrth Mama. "Beth a feddyliech am ddod a'ch merched i gyd am bicnic yfory i Chitutawila? 'Rwyf am roi dydd o bleser i Monica a Truda, a phe baech chwi a'ch merched yn dod hefyd dyna amser hyfryd a gaem! Nid yw ymhell iawn i Chitutawila."

"O, bydd yn hyfryd. Ni fydd dim diwedd ar lawenydd y merched. Pa bryd y cawn ni gychwyn?"

"Tua deg o'r gloch. Bydd yn gysgodol bob cam. Awn a chinio a the gyda ni. Mi af i yn fy ngherbyd a Monica a Truda yn eu machilas. Ewch chwithau yn eich machila. Cawn ddigon o ddynion i'n cario."

Ar ddiwedd yr ysgol y prynhawn hwnnw gofynnodd Mama i'r plant: "Sut y leiciech chwi fynd i Chitutawila yfory a chwarae yno drwy'r dydd?"

A dyna lle y bu curo dwylaw a chwerthin a dawnsio gan lawenydd! Pan gafodd ddistawrwydd drachefn, dywedodd Mama,

Ni fydd dim ysgol yfory. Ar ol gwneud y gwaith ni gychwynwn. Bydd yn rhaid i chwi gario blawd a llestri coginio, cewch wneud eich bwyd yno. Cewch dipyn o gig hefyd a basgedaid o gnau. 'Nawr ewch i'ch gwelyau. Fe ddaw'r bore'n fuan.' Ond hir iawn y buwyd cyn i bawb ddistewi'r noson honno.

Gwawriodd y bore'n ddisglair a chynnes. Gwnaed y gwaith dan ganu. Erbyn deg o'r gloch yr oedd pawb yn barod. Cariai'r merched mwyaf y bwyd a'r llestri, rhedai a chwaraeai'r plant lleiaf, a chanent i gyd nes gwneud i greaduriaid bychain y goedwig redeg mewn ofn.

Y plant yn ymdrochi yn yr afon.


Genethod yn malu blawd yn y pentref.

Lle bychan tlws oedd Chitutawila ynghanol y coed, ac afon fechan drystiog a chlir yn rhedeg drwyddo. Aeth y plant i'r dwr ar unwaith. Tynnodd Monica a Truda eu hesgidiau a'u hosanau a cherddasant hwy— thau ynddo. Ni feddyliai'r merched bychain ereill am ddillad, eisteddent a gorweddent a chwaraent yn y dwr drwy'r dydd.

Dyna ddydd hyfryd oedd! Yr oedd gwneud bwyd hyd yn oed yn bleser. Casglai'r plant ieuengaf ddigon o danwydd, a'r merched hynaf a baratoai'r bwyd. Daliodd rhai ohonynt bysgod bychain gan eu coginio a'u bwyta yn ddioed.

Rhy fuan o lawer y daeth yn bryd cychwyn tuag adref, pob un wedi blino ond pob un yn hapus iawn. Canent eto fel y gwnaent yn y bore a chriai'r mwnciod arnynt o bennau'r coed. Yr oedd gan Mwenga bryd da o fwyd yn eu disgwyl. Nid oedd eisieu meddwl am ymolchi'r noson honno oherwydd treuliasai'r rhan fwyaf ohonynt eu dydd yn y dwr.

Yn eu gweddi hwyrol diolchent am ddydd mor llawn o lawenydd. Arweiniai'r Iesu hwy eisoes ar hyd y llwybr a fwriadodd efe i blant ym mhobman— llwybrau llawenydd a hyfrydwch, chwerthin a chan.

PENNOD VII.
SON AM FARW

DDAU brynhawn yn yr wythnos ai'r plant i'r goedwig i gasglu tanwydd. Yr oedd eisieu llawer o danwydd arnynt rhaid oedd cael tan mawr bob dydd at goginio. Cadwai Mwenga dan drwy'r nos yn ei chegin, a dydd Sadwrn yr oedd eisieu tanau mawr er mwyn i'r chwe geneth fwyaf gael golchi a threfnu'r dillad erbyn y Sul.

Un diwrnod, a'r plant i gyd yn y goedwig, cynhaliai Mama ddosbarth i'r menywod. Cyn hir clywsant grio pell. Gwrandawodd pob un. "Y plant sydd yna, eich plant chwi Mama, yn crio," ebe Magi. Codasant i gyd gan redeg am y cyntaf at y goedwig.

"Mayo! Mayo! achubwch ni."

Ymhen ychydig funudau daethant i'r golwg, y rhai mawr yn llusgo'r rhai bach a phob un ohonynt yn crio gan ofn.

"Beth sy'n bod?" gwaeddai Mama.

"O, llewpard! llewpard! mae Mwape wedi ei dal!" Curodd calon Mama yn enbyd.

Sefwch yn drefnus, ferched, er mwyn i mi eich rhifo." Wyth ar hugain. Yr oedd dwy—Chungu a Mwape—ar goll. "Ewch i'r clôs, ferched. Peidiwch ofni. Daw'r bamayo gyda mi i chwilio am y ddwy arall."

Cyn iddi orffen siarad gwaeddodd Chausa, "Dacw hwy'n dod—Chungu a Mwape."

Mawr oedd y llawenydd. Chwarddent a chrient o amgylch y ddwy a chyn hir ceisient i gyd adrodd yr hanes yr un pryd.

Rhedasai Mwape o flaen y lleill a dringasai i ben hen bren mawr a orweddai ar y llawr wedi ei ddiwreiddio mewn ystorm. Gwaeddai ar y lleill: "Dewch ymlaen! Dyma bont i ni. Dewch i chwarae."

Ar y gair gwelodd rywbeth yn symud ar y llawr gerllaw. Llewpard mawr oedd yno yn ymestyn yn ddiog gan ei gwylio. Yr oedd Mwape yn rhy ddygchrynedig i wneud dim ond edrych arno. Cododd y llewpard ei ben a gwelodd y lleill ef. Rhedasant i gyd tuag adref dan waeddi a chrio. Ni redasant i gyd chwaith. Bu Chungu yn ddigon dewr i redeg at Mwape, a gafael yn ei braich a'i thynnu o'r perigl. Wedi chwyrnu unwaith aeth y llewpard yn ol i'w ffau.

Wedi tawelu o'r terfysg gofynnodd Mama: "Beth am y tanwydd? A oes gennym ddigon am heno?"

Na, Mama, nid oes yna ddim. Dewch ferched, ni dreiwn unwaith eto," meddai Ffani.

Dechreuodd rhai o'r plant lleiaf grio. Ni awn ni ddim yr un ffordd y tro hwn," ebe Chungu, "a chaiff Mwape beidio â dod os ydych chwi'n fodlon, Mama?"

Edrychodd Mama arnynt gan wenu. Yr oeddent mor barod i wneud eu dyledswydd er cymaint eu hofn. "Caiff Mwape a'r tair fechan leiaf aros gyda mi. Dewch yn ol yn fuan," ebe hi.

Pan ddaethant yn ol ymhen yr awr yr oedd pryd da o fwyd yn barod iddynt gan Mwenga, ac erbyn hynny yr oedd Mwape wedi anghofio ei hofn. "Beth ydym i wneud y prynhawn yma?" gofynnai Lisi.

"Hoffwn i wneud llestri pridd eto, mae fy llestr wedi torri," ac ocheneidiodd.

"Mae'n rhaid aros wythnos gyfan cyn daw dydd gwneud llestri eto, 'does dim clai gan Mama. Rwyf i'n mynd i wneud llestr dwr i mi fy hun y tro nesaf, a llosgir ef yn yr odyn fawr," ebe un arall.

"Gwnïo sydd i fod heddyw, Lisi," meddai Sela.

"Rwy'n disgwyl i'r gloch ganu i ni gael dechreu," meddai Chipipa.

Gyda hynny gwelent Mama ar y grisiau a'r gloch yn ei llaw. Codasant ar unwaith a rhedasant tua'r ysgol. Fel arfer y rhai lleiaf oedd yn olaf. "Gadewch i mi weld a yw'ch dwylaw yn lan," ebe Mama, a daliwyd o'i blaen dri phar o ddwylaw bychain duon ac un par o rai gwynion.

"Gwnïent yn brysur i gyd."

'Buom ni'n gwneud tai o dywod," ebe Truda: mae tywod yn lan."

"Dyw'r dwylaw ddim yn lan beth bynnag. Rhedwch i'w golchi. Truda, peidiwch anghofio eich helmet."

Ni wnai'r haul poeth unrhyw niwed i bennau'r plant bach duon, ond os anghofiai Truda ei helmet cai boen yn ei phen a thwymyn efallai. Cyn hir, clywai'r merched a eisteddai ar y matiau oddimewn, gan wnio'n brysur, chwerthin uchel a gwichian o'r clôs. Yr oedd arnynt awydd codi i edrych drwy'r ffenestri ond safai Mama wrth y drws. Gwelodd y pedair fechan yn taflu dwr at ei gilydd. Galwyd hwy i mewn ar unwaith a rhoddwyd hwy un ymhob cornel i wnïo. Y prynhawn hwnnw daeth rhywun â'r newydd i'r ysgol fod Mulenga, brawd Sela, wedi marw o'r inffliwensa mewn rhan arall o'r wlad. Adwaenid Mulenga yn dda yn yr ardal, a phrudd iawn oedd plant yr ysgol i gyd pan glywsant y newydd.

Wedi i'r plant fynd i'r gwely aeth Mama i'r pentref i weld mam Sela. Yr oedd y ty bychan crwn yn llawn o bobl. Eisteddent yn dyn yn ymyl ei gilydd ar y llawr, gan ysgwyd yn ol a blaen, a chanu ton wyllt-leddf. Dyna'u ffordd hwy o alaru, ac mor ddiobaith yr ymddangosai!

Gwaedai calon Mama wrth weld Sela yno yn eu canol, ei llygaid wedi chwyddo gan wylo. Daeth i'r ysgol drannoeth drachefn, ac yn yr hwyr pan ganai'r plant yr emyn,

"Nid ofnaf ddim pan byddych Di gerllaw!"

galwodd Mama hi ati, a dywedodd wrthi unwaith eto am yr athraw Iesu a aeth i baratoi cartref i'w blant. Dywedodd wrthi fod marw'n beth prydferth—dim ond cysgu, a deffro yng nghartref yr Iesu. Gwrandawai'r eneth fechan yn astud ac aeth yr ofn o'i llygaid.

Ymhen ychydig ddyddiau daeth Timothy, brawd hynaf Sela, i'w gweld. Cysurodd hyn Sela ac yr oedd y merched i gyd, a Mama, yn llawen o'i weld. Bachgen da oedd Timothy. Bod yn bregethwr a chenhadwr i'w bobl ei hun oedd gwaith a mwynhad ei fywyd. Gwelsai Mama ef yn yr ysgol fawr yn Tiger Kloof. Yr oedd yn awr wedi dechreu ar ei waith ym mhentref Chiengi. Yr oedd ganddo gartref bychan clyd yno a gwraig a thri o blant. Nid oedd cenhadwr ger y lle hwnnw. Timothy oedd yno yn dysgu, cysuro, a helpu pawb, ac yr oedd pawb yn ei garu.

Yn fuan wedi marw ei frawd daeth Timothy a'i deulu i Mbereshi am ddeng wythnos. Cynhelid yno ysgol i ddynion. Cai pob un a ddymunai fod yn bregethwr fynd iddi, a Timothy oedd yr athraw.

Un prynhawn hyfryd eisteddai gyda Mama ar y feranda. Mor hardd oedd y wlad ac mor dawel, a gogoniant machlud haul dros bob man!

Rwy'n meddwl am Dde Affrica, Mama, a'r pethau rhyfedd a welais yno," meddai Timothy.

Gall y dyn gwyn wneud pethau rhyfedd iawn, y tren, y modur, a phethau ereill."

Timothy, edrychwch ar yr haul. A allai dyn wneud unpeth mor rhyfedd â'r awyr adeg machlud haul? Mae Duw wedi rhoddi gallu i ddynion wneud pethau rhyfedd fel y tren a'r modur, ond meddyliwch am ei ryfeddodau ef—dydd a nos, gwynt a glaw, blodau a choed, anifeiliaid y goedwig, a ninnau, Timothy, yr ydym ninnau'n rhai rhyfedd."

"Mae ei gariad tuag atom yn rhyfedd, Mama. Anfonodd atom genhadon pan oeddem mewn tywyllwch mawr. Siaradodd a'm calon i ac yr wyf wedi teimlo pethau rhyfedd."

Yna daeth y plant allan o'r ysgol ac nid oedd amser i siarad rhagor. Ymhen yr wythnos cofiai Mama eiriau Timothy. Gorweddai ef yn wael yn ei dy ymhen uchaf y pentref, yn wael iawn dan inffliwensa. A chafodd Timothy ei alw'n sydyn at y Brenin a garai mor fawr. Yr oedd calonnau trist iawn yn Mbereshi a Chiengi y dydd hwnnw, ond i Timothy yr oedd llawenydd a hyfrydwch.

PENNOD VIII.
CHWARAE MIN YR HWYR.

Yn yr haf, cai'r plant chwarae y tu allan ambell noson oleu-leuad. Nid oedd dim a hoffent yn fwy na hyn. Drwy'r mis edrychent ymlaen at yr amser pan byddai'r lleuad yn llawn. Deuai Mama a Mwenya allan i edrych arnynt, a golygfa hardd ydoedd. Y lleuad fawr yn yr wybren glir yn taflu ei goleu arian dros bob man. Deuai'r goedwig i'r golwg yn eglur a'r llyn ddisglair y tuhwnt iddo. Edrychai'r plant mor lan, a llenwid yr awyr gan eu chwerthin iach.

Un o'u prif chwaraeon oedd "Nkalamo" neu chwarae'r llew. Cerddai'r plant yn ddau gylch yn araf gan blygu eu pennau bob yn hyn a hyn.

Y merched mwyaf a wnai'r cylch y tu allan, a'r merched lleiaf y tu mewn yn cerdded i gyfeiriad gwahanol. Tebig i hyn oedd y cytgan:

"O mam, mae'r llewod yn galw.
Distawn a gwrandawn."

Fel hyn yn eu hiaith hwy:

Yangwe mayo nkalamo shilelila.
Tutalale tumfwe."


Fel y deuai'r cytgan ar ol pob pennill, gadewid sillaf allan ac ysgydwid pennau.

Wrth ganu'r pennill dawnsiai'r ddau gylch yn llawen. Gan Ffani yr oedd y drwm. Eisteddai ar y grisiau a arweiniai i'r feranda, ac yn ol ei hamser hi y dawnsiai ac y canai'r lleill.

Chwarae arall oedd " Mae mam yn galw." Ymffurfient yn gylch gan ysgwyd eu dwylaw a dweyd,

"Dewch yma blant i ddysgu
Sut i wneud pob peth,
Gwaith y ty a gwaith yr ardd."

Actient y pennill nesaf,

Ysgubwn y ty,
Cariwn y dwr,
Helpwn ein mam
I ferwi'r uwd."

Cymrent arnynt ysgubo'r llawr, dal llestri ar eu pen, a phlygu uwch ben y tan gan droi'r uwd yn frysiog.

"Mae eich mam yn galw,
Mae eich mam yn galw,
Mae eich mam yn galw.
Dewch i wneud eich gwaith."

Wrth ganu'r pennill uchod cydient yn nwylaw ei gilydd gan ddawnsio'n gylch. Deuai dau bennill arall yn dangos gwaith yr ardd ac yna ail ddechreuid y cyfan drachefn.

"Chwaraewch Y crocodil' eto," meddai Mama un noson pan eisteddai ar y feranda yn eu gwylio.

Safodd y merched yn un rhes hir,—braich pob un am ganol y nesaf ati. Yr eneth fwyaf a safai ar ben y rhes,—hi oedd y fam, a daliai liain yn ei llaw. Dewiswyd un eneth i fod yn grocodil. Yna rhaid oedd i bob geneth, gan ddechreu ar waelod y rhes, redeg i'r afon i ymofyn dwr. Plygai i lawr, gwelai'r crocodil, a rhedai yn ol i'w lle gan ysgrechain mewn dychryn. Ceisiodd pob geneth yn ei thro a daeth tro'r fam i fynd. Aeth hi i lawr a dilynodd y crocodil hi. Yna dechreuodd ymladd mawr rhwng y fam a'r crocodil. Siglai'r plant yn ol a blaen, a chanent. Safai'r fam o'u blaen a chwyfiai'r lliain; yr oedd lliain gan y crocodil hefyd. Ymdrechai ef basio'r fam, cyffwrdd ag un o'r plant a'i liain, a mynd a hi i'w gell. Aeth hyn ymlaen nes i'r crocodil gymryd y plant i gyd. Yna ymladdodd a'r fam,—y plant i gyd yn y gell yn curo amser a'u traed ac yn galw ar eu mam i ddod i ferwi uwd iddynt. Yn y diwedd gorchfygodd y fam a bloeddiodd y plant eu llawenydd.

Yr oedd erbyn hyn yn wyth o'r gloch, ac er hyfryted oedd gwylio'r chwarae yr oedd yn amser gwely. Yr oeddent wedi ymolchi cyn dechreu chwarae, felly cyn pen ychydig funudau yr oedd y deg ar hugain fechan hapus yn cysgu'n drwm.

Aeth Mama i fyny drachefn ar y feranda a safodd i edrych ar y goedwig dawel. Clywodd swn pell fel curo drwm arall. Swn prudd oedd hwn iddi hi, oherwydd gwyddai y cynhelid, mewn llawer pentref yn nyfnder y goedwig, chwarae a dawnsio gan bobl mewn oed,—nid chwaraeon glan ac iach fel y rhai a ddysgodd hi i'r plant, ond rhai creulon a llygredig. Terfysgwyd ei henaid gan y curo pell, dwfn, diatal. Diolchodd i'r Iesu am y nifer fechan a gysgai'n dawel gerllaw, yn ddiogel oddiwrth y niwed hwn, a gweddiodd ar iddo eto anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.

Weithiau pan chwaraeai'r plant hanner ofnai y deuai un o anifeiliaid gwylltion y goedwig i'r lle agored o flaen y ty. Clywsid ysgrech hyena unwaith yn bur agos, a dychrynodd y plant, ond sicrhaodd Chulunoma hi na ddeuai na llew na llewpard allan ar noson oleu leuad, glir, a phe deuai, onid oedd ef yno? Onid oedd ganddo ef ei ddryll? Ei gwyliwr hi oedd Chulunoma. Ei dy ef oedd yr un bach crwn yn ymyl ei thy hi, ac yn hwnnw yr oedd i wylio drwy'r nos. Ond cysgu a wnai ef, a chysgu'n drwm hefyd. Yr oedd yn falch iawn o'i ddryll, cadwai ei fwledi mewn darnau o liain wedi eu cylymu wrth un pen i'r dryll. Meddyliai Mama am yr amser a gymerai i'w datod pe digwyddai i lew ddod yn sydyn! Ond hen ŵr annwyl a ffyddlon oedd, er mai cysgu a wnai yn lle gwylio.

Galwodd arno o'r feranda: "Chulunoma!" Dim ateb. Diau ei fod yn ymneilltuo am y nos.

"Chulunoma!" yn uwch y tro hwn, ac atebodd llais cysglyd, "Ie, Mama." "Dewch yma, mae arnaf eisieu siarad â chwi." Daeth allan, safodd islaw'r feranda gan edrych i fyny, "A ddaeth rhywun o Kawambwa i'r pentref heddyw?"

"Wn i ddim, Mama," ebe ef gan feddwl yn brysur. "O, do, gwelais ryw ddyn yn dod adeg machlud haul, aeth heibio i mi pan oeddwn yn dyfod yma."

"A wyddoch i ba dy yr aeth?

O, gwn. Mae yn nhy Chulumanda."

Wel, byddwch gystal a mynd i ofyn iddo pa bryd y cyrhaeddodd Malita Chunda ei chartref ddoe."

Cymerodd y gwyliwr ei ddryll. Nid oedd yn fodlon iawn ei amddifadu o'i gwsg, ond gwnai unpeth i Mama, a ffwrdd ag ef i'r pentref â'i ddryll ar ei ysgwydd.

Tynnodd Mama ei chadair allan i oleu'r lleuad. Mynych yr eisteddai i fyny yma yn yr hwyr pan oedd y dydd yn darfod a'r byd i gyd yn ddistaw. Eisteddai a breuddwydiai freuddwydion a gwelai weledigaethau, a rywfodd, deuai ati yno yr holl rai oedd mor annwyl ganddi yn Lloegr bell. Yr oeddent mor agos fel y gallai siarad â hwy. Heno meddyliai yn ddibaid am Malita Chunda. Yr oedd Malita yn byw ddwy filltir ar hugain oddiyno yn Kawambwa. Un o'r seintiau oedd hi. Newydd ddarganfod hynny oedd Mama. Hen Affricanes groenddu, rychiog a churiedig ei gwedd ydoedd, yn deneu, yn flinedig, eto yn sant megis un o'r seintiau ereill sydd â'u hanes yn sirioli ac yn dyrchafu calonnau hen ac ieuanc. Ni allai neb wadu mai sant oedd Malita wedi unwaith edrych i'w llygaid; yr oeddent yn llawn tangnefedd a mwynder, canys edrychasent ar Iesu. A gwasanaethai hi Ef bob dydd â'i holl allu. Ddoe, cerddasai o'i chartref ei hun i Mbereshi. Tua thri o'r gloch, pan eisteddai Mama yn yr ysgol gyda'r genethod, a hwy yn brysur drefnu gleiniau, daeth rhywun at y feranda ac edrychodd i mewn drwy'r ffenestr.

"Tangnefedd i chwi, Mama, ac i'ch plant."

Malita oedd yno. Mor hyfryd oedd ei gweled!

Ewch i'r clos i orffwys, Malita, rwy'n siwr eich bod wedi blino ar ol eich taith hir."

"Mae syched arnaf, Mama," ebe hi.

"Rhedwch, Kishya, â dwr i'ch mamgu," ebe Mama wrth eneth dal ddeuddeg oed. Nid oedd eisieu dweyd ddwywaith. Yr oedd Kishya yn hoff iawn o'i mamgu, ac nis gwelsai ers rhai wythnosau.

Pan aeth Mama allan ymhen ychydig, cafodd Malita yn eistedd ar fat yn y cyhudd yn bwyta bwyd a roddasai Kishya iddi.

"Pam y daethoch chwi heddyw, Mam?" Hoffai Mama alw "Mam" arni.

"Rwy'n mynd i siarad â'r gwahangleifion yn y gwersyll," atebai. "Dywed fy nghalon wrthyf am fynd atynt i ddweyd wrthynt am y Meddyg Mawr a all eu hiachau. Medraf gario neges o obaith a llawenydd iddynt.

Yr oedd gwersyll y gwahangleifion filltir a hanner o dy Mama. Wedi ychydig ymddiddan pellach, cododd Malita, gan ddweyd,

Rwy'n gryf eto yn awr, af, ond galwaf ar fy ffordd yn ol."

Aed yr Iesu gyda chwi, Mam."

Ac arhosed gyda thithau, fy merch.”

Y nos honno, wedi machlud haul, a'r tywyllwch yn cyflym or-doi'r wlad, daeth Malita yn ol drwy lwybr y pentref. Yr oedd dwy yn ei disgwyl, Mama a Kishya.

Mae'r tywyllwch wedi eich dal, Mam; mae'r nos wedi dod, rhaid i chwi gysgu yn yr ysgol a dychwelyd i Kawambwa yn gynnar yn y bore."

"Na, fy merch, rhaid i mi fynd heno, mae gennyf waith i'w wneud yn fy ngardd yn y bore, a dosbarth i'w gynnal yn y prynhawn. Daw genethod ieuainc ein pentref ataf i ddysgu darllen geiriau'r Arglwydd yn Ei lyfr."

Gwenodd Mama: "Ond, Mam, sut gallwch chwi fynd heno. Mae'r lleuad dan gwmwl, ac nid oes ond ychydig o ser, edrychwch mor dywyll yw."

Trodd at y goedwig, yr oedd tywyllwch dudew dros bob man. Gwyddai Mama am y llwybr bychan troellog a arweiniai drwy'r goedwig i Kawambwa. Nid oedd pentrefi ereill ar y ffordd, yr oedd dwy nant i'w croesi, bryn creigiog i'w ddringo, dwy filltir ar hugain yn unig, ac efallai, chwyrniad isel llewpard, neu hyd yn oed ru llew, yn y glaswellt tal ar fin y llwybr. Efallai y byddai neidr ar y llwybr, yn y tywyllwch ni welai Malita hi, gyda'i thraed noeth sangai arni. Yr oedd yn y goedwig bob math o beryglon cudd, ac wele'r hen wraig eiddil hon yn barod i wynebu'r cyfan. Na, ni chai hyn fod!

"Mam, rhaid i chwi beidio â mynd heno, meddyliwch am y peryglon, rhaid i chwi aros yma,—ni ellwch fynd eich hunan!"

Edrychodd Malita i fyny gan wenu, "Rwy'n mynd, fy merch. Dywedasoch chwi nad ydym byth yn unig, bod yr Iesu, gyda ni i ba le bynnag yr awn."

Felly, gan ddymuno "Nos Da" i'w hwyres ac i Mama, aeth allan i'r nos, a dychmygai Mama, wrth ei gwylio, bod dau yn mynd allan i'r tywyllwch; nid oedd yn unig. . . .

"Mama, a ydych chwi yna?"

Ydwyf, Chulunoma, pa newydd?"

Cyrhaeddodd Malita adref yn ddiogel. Gwelwyd hi yn mynd i'w gardd y bore yma."

"O, diolch i chwi, a nos da."

Da oedd gwybod ei bod yn ddiogel, ond gwyddai Mama hynny o'r blaen; ni allai niwed ddod i Malita, yr oedd yr Iesu gyda hi bob amser.

Beth o'r gloch oedd, tybed? Aeth Mama i'w myfyrgell, lle'r oedd y lamp yng nghyn,—hanner awr wedi naw—un awr at ysgrifennu llythyrau—yna gwely.

Ymhen yr awr, cododd, ac aeth â'i lamp i'w hystafell wely. Yr oedd y ffenestri yn llydan agored. Teimlai'n falch yn fynych bod llofft i'w thy, golygai hynny y gallai gysgu'n ddiogel â'r ffenestri'n agored, heb ofni y deuai anifeiliaid gwylltion i mewn. Yr oedd digon o foscitos yno, ond byddai hi yn fuan yn ei gwely, â'r rhwyd yn dyn am dani.

Bob nos cyn mynd i'r gwely ai Mama allan ar y feranda fechan gyferbyn â'r clôs ac ystafell gysgu'r genethod. Yr oedd y nos weithiau mor ddistaw fel y clywai anadliad dwfn y plant wrth gysgu, ac unwaith pan safai yno, gwelodd lewpard yn symud yn araf tu allan i'r mur mawr.

Yr oedd popeth yn dawel iawn y nos hon. Ni chlywid dim ond su myrdd o bryfaid, a chrawc pell y brogaod yn y gors.

Aeth Mama i'w gwely, a daeth cwsg a breuddwydion melys iddi.

"Mama, achubwch fi."

Torrodd ysgrech wyllt yn sydyn ar dawelwch y nos. Yr oedd Mama ar waelod y grisiau cyn gwybod o honi'n iawn pa beth a ddigwyddasai. Y cyfan a wyddai oedd bod plentyn wedi crio mewn braw. Pan gyrhaeddodd yr ystafell gysgu yr oedd y plant oll yn effro ac yn crio'n uchel. Nid ar unwaith y medrodd eu distewi. O'r diwedd dechreuodd ddeall beth oedd yn bod. Buasai Lisi allan ar y clôs a gwelsai rywbeth yn dyfod o ryw gornel tuag ati. Rhoisai ysgrech gan redeg yn ol i'r ystafell, ac ysgrechodd y lleill wedi eu dihuno ganddi. Yr oedd Lisi'n siwr mai llew neu lewpard oedd yno, ond dywedai Mama ei bod hi wedi croesi'r clôs heb weld dim. Ai hi a Mwenya i edrych pob cornel er mwyn bod yn siwr. "O na," gwaeddai'r plant, "cewch eich dal." Gwenodd Mama, ac aeth Mwenya a hithau gan edrych yn ofalus. Nid oedd. dim yno, ac aeth y plant dychrynedig yn ol i'w gwelyau.

"Gadewch i ni ganu:

"Iesu, Fugail tyner, gwrando"

ac ewch i gysgu wedyn." Canasant yn isel, a daeth cwsg caredig atynt drachefn. Aeth Mama yn ol i'w gwely, ond nid i gysgu oherwydd yr oedd wedi ei dychrynu. Beth pe daethai niwed i un o'r plant bach oedd dan ei gofal! Meddyliai am yr ofnau parhaus oedd ym mywyd y bobl hyn druain. Aethai mamgu Chishimba unwaith i'r goedwig i gyrchu tanwydd ac ni ddychwelasai. Daliesid rhai gan grocodiliaid yn yr afon, aethai llewod ag ereill ymaith. Gwaeth na'r ofnau hyn, hyd yn oed, oedd ofn ysbrydion drwg,—ysbrydion, fel y credent hwy, a rodiai drwy eu pentrefi a'u coedwigoedd yn y tywyllwch. Erbyn hyn, dysgent yn raddol am yr Ysbryd Da, sef Duw. Yr oedd ereill mewn pentrefi pell heb wybod dim am dano Ef. Treulient eu bywyd mewn tywyllwch a chysgod angeu. Pan orweddai felly gan brudd feddwl, gwelodd oleu clir yn yr awyr,—y seren fore oedd yno, yn dweyd bod y dydd ar ddod. Daeth â neges i galon Mama, ac wrth wisgo cafodd ei hun yn canu:

Daw, fe ddaw y wawrddydd oleu
Nes bo'r cwmwl du yn ffoi,
Tarth a niwl yn cyd-ddiflannu
Ag oedd wedi cyd-grynhoi,
Dyma'r oriau
Wyf yn ddisgwyl fod gerllaw."


DWY BRIF HEOL PENTREF MBERESHI.

PENNOD IX
Y GWYLIAU A PHETHAU EREILL.

YR oedd y prynhawn yn hir iawn yn yr ysgol. Ddwywaith gorfu i Mama ddweyd wrth Nsama am fynd ymlaen gyda'i gwaith. Yr oedd eisieu siarad ar bawb a dim llawer o hwyl gweithio ar neb.

"Nsama," sibrydai Neli, "dim ond tair wythnos eto a chawn fynd adref ar ein gwyliau."

"Ie, mae Chishimba a minnau yn mynd adref i Mpolokoso. Mae Mama wedi ysgrifennu at nhad i ddweyd wrtho am anfon dyn i'n cyrchu. Cawn weld ein mam a'n ffrindiau i gyd."

O'r diwedd daeth y prynhawn i ben, a chyn gynted ag yr aeth y genethod allan, ymgasglasant yn gwmnioedd i son am y gwyliau.

"Rwyf i'n mynd i Kawimbe gyda Mama a Monica," meddai Mupelwa. "Mae'r dynion gwynion i gyd yn mynd yno. Arferant gwrdd â'i gilydd unwaith y flwyddyn i siarad, ac yn Kawimbe y cwrddant eleni, a byddaf innau yno!"

Edrychai pawb ar Mupelwa gydag edmygedd. "Mae'r ffordd ymhell iawn, byddwch wedi blino," meddai un ohonynt.

"Ydyw, mae'r ffordd ymhell, byddwn bythefnos yn teithio ond ni flinaf i. Rwy'n gryf ac iach a bydd Mama yno i ofalu am danaf. Rhai o Kawimbe yw nhad a mam, yno y ganwyd fi. Caf weld f'ewythr a ffrindiau fy mam. Mae mor mawr yno, ni ellwch chwi ddim gweld ei ben draw, Tanganyika y maent yn ei alw."

Agorai pawb eu llygaid mewn syndod, a dywedodd Kabwe:

Ie, mae Mupelwa yn dweyd y gwir. Bu mam yn byw yn ymyl Llyn Tanganyika. Daeth rhyw bobl i'r pentref ryw ddiwrnod ac aethant a phawb yn gaethion. Bu mam yn gaethes ei hun pan oedd yr un oed â fi."

Yna daeth geneth fechan arall ymlaen i ddweyd ei stori. "Gwelodd nhadcu (nhaid) lawer o gaethion, a gwelodd y dyn gwyn cyntaf a ddaeth i'n gwlad ni. Daeth hwnnw trwy'r goedwig ei hunan, heb ofn, er ei fod yn wael a gwan."

Pam yr oedd e'n dod?" gofynnai rhywun.

Yr Athraw Iesu oedd yn ei anfon i'n helpu ni a'n rhyddhau oddiwrth y bobl greulon a'n gwnai yn gaethion. Anfonodd Iesu ef i ddod â newyddion da i ni, mai plant yr Iesu ydym ni bobl dduon, a'i fod ef yn ein caru ac am i ni fyw yn debig iddo. Wedi aros tipyn yn ymyl llyn Tanganyika aeth at lyn Bangweulu, ac yno ym mhentref Chitambo y bu farw. Yr oedd yn siarad â'r Iesu pan bu farw."

"Mi glywais innau am dano," ebe Neli. "Dywedodd Mama mai David Livingstone oedd ei enw. Efe ddywedodd wrth y dynion gwynion ereill am ddod i'n helpu yn erbyn yr Arabiaid. Daethant, ac yn awr yr ydym yn rhydd. Mae pawb yn meddwl yn uchel o David Livingstone yng ngwlad y dyn gwyn."

"O, rwy'n falch iddo ddod atom," meddai Kabwe. "Onibai iddo ddod efallai y buasem ni yn gaethion, ac ni fyddai cenhadon yma, a dim ysgol, a dim Mama." Bu pawb yn ddistaw am ennyd, yna dywedodd un arall:

"Bu David Livingstone farw drosom ni. Mae fel yr Athraw Iesu onid yw?"

Blant, ydych chwi'n anghofio'r gwelyau? Rhedodd pawb, ac yn fuan yr oeddent oll yn cludo'u gwelyau i mewn. Rhoid hwy allan yn yr haul bob bore.

Anghofiwyd llawer o bethau y diwrnod hwnnw, y gwyliau oedd ar feddwl pawb. Aeth Mama i'r pentref ar ol yr ysgol, ai yno bob dydd Gwener, a thra bu hi yno, bu'r plant mor brysur yn siarad nes anghofio hol dwr.

Wedi'r gwasanaeth, pan aent i ymolchi, cofiasant yn sydyn. Dim dwr! Pa beth i'w wneud ni wyddent. Aeth Lile a Mupelwa i ddweyd wrth Mama. Yr oedd cryn gywilydd arnynt gyffesu iddynt anghofio. Curasant yn ofnus ar y drws.

"Does dim dwr gennym, Mama."

"Sut hynny? Fe aethoch i'r afon onid do?" Distawrwydd. Yna dywedodd Lile, "Anghofio wnaethom." Teimlai Mama'n anfodlon iawn.

"Dywedwch wrth y merched am ddod â'u llestri ar unwaith. Dof i gyda chwi."

"Mae'r haul wedi mynd i lawr, Mama."

"Gwnewch fel 'rwyf i'n dweyd, a brysiwch."

Yr oedd llais Mama'n galed, ac nid oedd gwen ar ei hwyneb.

Yr oedd ofn ar bawb. Daeth Mama i'r buarth. "Brysiwch, blant. Mwenya, dewch chwithau."

Edrychodd Mwenya ar Mama a gofynnodd: "A yw'n ddiogel iddynt fynd yn awr? A ydych yn anghofio bod llewod a llewpartiaid yn y goedwig a'u bod yn dod allan o'u ffeuau wedi nos?

"Na, nid wyf wedi anghofio, Mwenya, ond rhaid i'r plant ddysgu na ellir esgeuluso dyledswyddau. Daw'r gwyliwr gyda ni. Mae yma dair lamp. Ca ef gario un, chwithau un, a minnau un.

Yr oedd pelydr olaf y dydd wedi cilio pan aeth y plant allan drwy'r glwyd. Yr oeddent yn ddistaw iawn.

"Cadwch gyda'ch gilydd, blant. Ewch chwi, Mwenya, yng nghyntaf gyda'r lamp, sefwch chwithau'r plant lleiaf yn y canol. 'Nawr, gadewch i ni ganu."

Canasant:

"Pan ddaw'r Iesu, Pan ddaw'r Iesu,
I gasglu Ei dlysau."

Pan ddaethant at y llethr a arweiniai at yr afon, suddodd calon Mama. Yr oedd yn dywyllach nag y tybiodd hi. Beth pe bai llewpard neu lew yn yfed yn yr afon? Yr oedd ofn arni ei hunan ond ni fynnai droi'n ol. O mor hir oedd y llwybr! Yr oedd Chansa a'r ddwy fechan arall yn cydio'n dyn yn llaw y merched hŷn, gan gau eu llygaid. Yr oedd ofn y tywyllwch arnynt.

Gwnai'r gwynt swn rhyfedd yn nail y coed banana.

O'r diwedd caed pob llestr yn llawn a chychwynasant ar eu ffordd adref. Erbyn hyn teimlai Mama'n flin iddi orchymyn i bawb ddod. Beth pe digwyddai iddynt niwed? Yr oedd yn anos fyth mynd yn ol. Serth a garw oedd y llwybr, a dolurid y traed bychain noeth, ac O! dyna drwm oedd y llestri.

"Ni fyddwn ni ddim yn hir, blant. Gadewch i ni ganu eto." Meddyliai Mama na fu'r nos erioed mor ddu na'r llwybr erioed mor hir, a chyda phob ysgydwad deilen crynai rhag ofn mai llew oedd yn dod.

Ond daeth y diwedd. Yr oeddent i gyd unwaith eto yn ddiogel yn y clôs, a'r glwyd fawr yng nghau.

"Nawr, ymolchwch ar unwaith ac ewch i'ch gwelyau," ebe hi wrth fynd i'r llofft. Byth eto ni ddanfonai'r plant i ymofyn dwr wedi nos. Hi gafodd y gosb drymaf. Aeth i ddweyd Nos Da' wrthynt ymhen tipyn, a rywfodd teimlai gerydd yn edrychiad distaw pob llygad. Aeth yn ol i'w hystafell, a chyffesodd ar ei gliniau mor ffol y buasai ac mor edifeiriol oedd.

Dair wythnos ar ol hyn yr oedd yr ysgol yn wag yn wir. Nid oedd ond Mama a Monica ar ol. Aeth Chishimba a Nsama a phedair ereill ar daith o bum niwrnod i'w cartrefi. Daeth dau ddyn i'w cyrchu. Aeth Ndola a Chansa i le gan milltir o Mbereshi. Aeth pedwar dyn gyda hwy,—un i gario Chansa, un Ndola, a dau i gario'r bwyd. Ymhen wythnos arall cychwynodd Mama, Monica, a Mupelwa i Kawimbe. Ai'r doctor, tad Monica, gyda hwy. Cawsant daith hyfryd. Hoffai'r ddwy eneth y gwersyllu ar lan afon, a hoffent wylio'r tanau mawr bob nos. Un dydd dringasant fryn uchel. Yr oedd mor serth nes bu raid tynnu Mama i fyny a rhaff. Hi oedd yr olaf i gyrraedd pen y bryn, a'r peth cyntaf a welodd oedd y dynion i gyd, a'r ddwy eneth, yn eistedd ac yn syllu ar rywbeth pell. Eisteddodd hithau a syllodd. Gellid meddwl mai hwy oedd yr unig bobl yn y byd, yr oedd popeth mor ddistaw o'u cylch. Ymhell o danynt ymestynnai'r goedwig eang. I'r dde graddol ddisgynai'r ddaear nes cwrdd â mor glas gyda baeau prydferth a chreigiau uchel. Tanganyika oedd y llyn mawr,—y mor glas—ac unwaith eto cofiodd Mama am ardd dlos yn Lloegr yn ymyl y mor, a genethod bychain yn dysgu enwau llynnoedd Affrica.

Ar y trydydd dydd o'u taith tuag adref, a Mama yn eistedd wrth ddrws ei phabell, daeth dyn tal ati a geneth fechan ar ei ysgwydd.

Mukwai, dywedodd y cenhadwr y cawn eich gweld yn y pentref hwn. Daethum â'm geneth fechan,— hoffwn iddi ddod i'ch ysgol chwi. 'Rwyf am iddi ddysgu dilyn yr athraw Iesu."

Rhoddodd y plentyn ar y llawr a dywedodd wrthi am gyfarch y Fama. Penliniodd y plentyn, curodd ei dwylaw bychain, a sibrydodd "Mwapoleni, Mukwai."

Siaradodd Mama â hi. Gofynnodd iddi a hoffai fynd i'r ysgol i Mbereshi, ond yr oedd hi'n rhy swil i siarad. Ni wnai ond chwarae a'i bysedd. "Mupelwa, ewch a Meli a gwnewch hi'n hapus. Ewch chwithau, Monica, gyda hwy."

Felly aethant,—Meli rhwng y ddwy eneth yn cydio yn dyn yn eu dwylaw. Edrychai'n syn iawn ar Monica, ni welsai eneth wen o'r blaen.

Edrychodd yn fanwl ar y llaw a ddaliai ei llaw hi, a gwenodd pan welodd mai yr un fath oedd,—pum bys gwyn a phum bys du. Gallai Monica siarad ei hiaith cystal â hithau. Yn fuan daeth hithau yn ddigon rhydd i siarad.

Taith hapus iawn oedd honno tuag adref. Yn Mpolokoso daeth chwech ereill atynt a difyr iawn oedd chwarae'r plant pan roid y pebyll i lawr bob prynhawn. Wedi gosod y pebyll i lawr gwnai'r dynion dy bychan o wiail i'r plant yn ymyl pabell Mama. Dyna dy bach hyfryd oedd! Gwelent y tanau rhwng y gwiail a theimlent eu gwres hefyd, ac yr oedd Mama a'r dynion gerllaw fel nad oedd dim ofn arnynt.

"Hoffwn gysgu yn y ty bach yna gyda chwi," meddai Monica.

"O, rhaid i chwi gael gwely a rhwyd i gadw'r moscitos draw; nid oes eisieu ond mat a blanced arnom ni," meddent hwythau.

Daeth noson olaf y daith hyfryd honno o'r diwedd. Cyn i'r haul godi bore drannoeth yr oeddent ar eu traed. Plygodd y plant eu blancedi a dechreuasant daith y dydd dan ganu. Dilynodd y dynion â'u llwythi. Daethai pum geneth arall atynt y nosont cynt.

Rhedent bron bob cam y diwrnod hwnnw.

Mbereshi o'r diwedd, a Mwenya! Dyna falch oeddent o'i gweld! Daeth y tadau a'r mamau o'r pentref i groesawu Mama. Daeth y plant at ei gilydd drachefn, a thrannoeth ail ddechreuodd yr ysgol.

Am rai dyddiau, prif bwnc yr ymddiddan oedd y gwyliau. Yr oedd gan bob un rywbeth i'w adrodd, ond o gylch Monica a Mupelwa yr oedd y cwmni fynychaf, yn gwrando ar eu stori hwy.

Un bore, ychydig wedi ail ddechreu 'r ysgol, cymrwyd Mupelwa yn sal. Pan aeth Mama at ei gwely, gwelodd ar unwaith mai'r malaria oedd ei chlefyd. Cyn diwedd y dydd hwnnw yr oedd pob un o'r genethod a ddaeth o Mpolokoso yn dioddef oddiwrth yr un clefyd. Bu'n rhaid esgeuluso gwaith yr ysgol, oblegid yr oedd gan Mama ddigon o waith edrych ar ol y cleifion. Cymrodd Monica a Pule ofal popeth, a gwnai 'r plant ereill eu goreu i helpu.

Bu Sela a Chileshye yn agos iawn i angeu. Ofnai Mama y cymrid Sela fel y cymrwyd ei dau frawd. Ond gwellasant i gyd o un i un. Sela oedd yr olaf.

Pan ddaeth hi allan am y tro cyntaf, mawr oedd llawenydd y lleill i gyd. Nid oedd dim yn ormod ganddynt i'w wneud drosti.

Daethant yn iach a chryf yn fuan iawn ac aeth gwaith yr ysgol yn ei flaen fel cynt. Ond am amser hir ni allai Mama edrych ar Sela heb gofio mor agos i'w cholli y bu, a rhoddai ddiolch distaw yn aml i'r Iesu am gael ei chadw.

PENNOD X.
"PETH AR EI GANFED."

EISTEDDAI Pule wrthi ei hun yn gwnïo. Siaradai'r lleill yn ddistaw ac edrychent yn awr ac yn y man ati hi. Teimlai Mama bod rhywbeth allan o'i le. Deuai gair neu ddau o'r siarad i'w chlustiau: "Galwodd Mupelwa enw cas arni. Maent yn sicr o ymladd ar ol yr ysgol."

Gwyddai Mama bod y gair a ddefnyddiasai Mupelwa yn un anfaddeuol yn y pentref. Edrychai'n bryderus ar Pule, geneth dal, dair ar ddeg oed. Newydd eu derbyn yn aelodau o'r eglwys oedd Mupelwa a hithau. Addawsent o flaen yr eglwys fod yn blant i'r Iesu, a dyma hyn wedi digwydd.

Yr oedd calon Pule yn llawn dig. Awyddai godi a rhuthro ar Mupelwa. Gwir iddi wneud peth nad oedd yn iawn,—mynd a llestr dwr Mupelwa i'r afon, ei dorri ac yna ei guddio; ond nid oedd hyn yn ddim wrth yr enw cas a alwasai Mupelwa arni hi. Nid atebodd hi air ar y pryd, ond yr oedd dig lond ei chalon. Ni allai edrych ar Mupelwa.

"Ferched, mae rhai ohonoch mor brysur yn siarad nes anghofio eich gwnïo. Canwch am dipyn,

"Plant bychain gweiniaid ydym ni."

Ni chanai Pule, ond ni allai lai na gwrando.

Ni ddwedwn mwyach eiriau cas,
Yr ergyd dig ataliwn ni,
Rhown ateb addfwyn llawn o ras,
Ymladdwn frwydrau Iesu cu."

Ei eiddo Ef oedd hi, ond yn sicr ni ddisgwyliai iddi ddioddef yn dawel y gair cas yna oddiwrth Mupelwa, O na! oherwydd hyd yn oed ymhlith dynion mewn oed byddai ymladd os defnyddiai rhywun y gair hwnnw. Hwyrach na wyddai yr Iesu ef,—nid dyn du oedd Ef, ond dywedai Mama nad oedd yn hollol wyn chwaith a'i fod yn perthyn i'r byd i gyd. Dechreuodd Pule feddwl am dano. Galwyd enwau cas ar yr Iesu, ac nid ymladdodd erioed. Ni theimlai byth yn ddig, maddeuai i'r rhai oedd gasaf wrtho. Addawsai hithau Ei ddilyn. O, sut y gallai?

Llanwodd ei llygaid o ddagrau. Gwelai Mama'r ymdrech yn enaid Pule, a gweddiai drosti: Helpa Dy ddisgybl ieuanc, O Arglwydd. Dywed air wrthi, a rho iddi dangnefedd."

Edrychai Mupelwa arni hefyd. Yr oedd yn ddrwg ganddi am y gair a ddywedasai. Daethai allan heb yn wybod iddi, a pha faint gwell a fyddai o ofyn maddeuant Pule? Ni faddeuai neb am y gair hwnnw. Byddai Pule yn sicr o ymladd, felly 'doedd dim i'w wneud. Canai'r plant y naill emyn ar ol y llall, ac ymladdodd Pule y frwydr yn ei bron, ac o'r diwedd gorchfygodd. Pan edrychodd Mama arni ymhen tipyn, gwelodd hi'n canu gyda'r lleill, ei hwyneb yn dawel.

"Plygwch eich gwaith yn awr, ferched. Gellwch aros am ychydig wrth yr afon heddyw i chwarae, neu gellwch ymolchi. Dof atoch ymhen tipyn."

Yn lle dweyd "Diolch " fel arfer, aeth y plant yn ddistaw iawn. Yr oedd ofn arnynt, oherwydd rhoddai Mama i Pule a Mupelwa y cyfle a geisient, cyfle i ymladd. Clywai pobl y pentref a byddai ymrafael mawr fel o'r blaen ynghylch y botel.

"Mae un llestr wedi torri, Mama," ebe Mary Mulenga. "Yna rhaid i rywun gymryd y bwced," ebe Mama. Gwyddai yn dda na hoffai neb gario 'r bwced. Cosb ar y sawl a dorrai lestr oedd cario'r bwced fynychaf. Aethant allan i gyd, a safai Mama ar ben y drws yn eu gwylio. Aeth Pule yn syth at ei llestr dwr ac aeth ag ef i Mupelwa:

"Mi gewch chwi fy llestr i gan i mi dorri'ch un chwi," ebe hi. "Mi af i a'r bwced."

Cymrodd Mupelwa ef, yn rhy syn i wybod pa beth oedd yn wneud. Edrychai'r lleill yr un mor syn. Torrodd Mary Mulenga ar y distawrwydd. "Cymrwch ef, Mupelwa. Nid yw Pule am ymladd â chwi. A ydych chwi'n deall?"

Llonnodd pawb. Rhedodd y plant lleiaf allan gan waeddi'n iach. Aeth Mupelwa â'r llestr yn ol i Pule, cydiodd yn y bwced a rhedodd, a deallodd Pule mai ei ffordd o ddangos ei hedifeirwch am y gair cas oedd hynny.

Pan aeth Mama at yr afon cafodd hwynt oll yn chwarae'n llawen,—Pule a Mupelwa yn ffrindiau fel cynt. Pan oeddent ar eu ffordd yn ol, cyfarchodd un o wragedd y pentref hwy: "Nos da, blant yr Iesu." Ei blant Ef oeddynt. Un o'i frwydrau Ef a ymladdasai Pule a Mupelwa y dydd hwnnw, ac yr oedd goleu buddugoliaeth yn eu llygaid.

Mama, mae Mulenga'n dweyd anwiredd o hyd. Ni wn i ddim sut i'w hatal." Dywedai Ffane hyn mewn llais gofidus. Geneth fach gloff, wanllyd, oedd Mulenga. Yr oedd yn gorfod mynd bob dydd i'r ysbyty er mwyn i'r doctor drin clwyf oedd ar ei choes, a chasbeth ganddi oedd mynd yno. Ai Ffane gyda hi i'r llwybr a arweiniai at yr ysbyty, ai hithau ymlaen nes bod o olwg Ffane, a dychwelai ymhen ychydig gan ddweyd iddi fod yn yr ysbyty a bod ei chlwyf wedi ei drin.

"Mae'n fechan ac yn wan, Ffane, ac y mae cymaint o ofn y doctor arni. Os cosbwn hi, ni fydd hi ddim yn well, ei gwneud yn waeth a wna hynny. Gyrrwch hi ataf i."

Aeth Ffane a daeth yn ol ei hun.

"Ni ddaw hi ddim, Mama. Mae'n crio, ac yn ofni y cosbwch chwi hi."

Aeth Mama i'r clôs a gwelodd Mulenga mewn congl wrthi ei hun yn crio, a'r plant ereill yn chwerthin am ei phen. Galwodd arni.

"Mulenga, dewch i'm helpu i drefnu 'r gleiniau yma. Dewch chwithau Kabwe hefyd."

Neidiodd Kabwe i fyny. "O dof, Mama. Dewch ymlaen Mulenga." Daeth Mulenga yn araf gan edrych ar Mama. Yn fuan yr oedd hi a Kabwe ar y feranda yn trefnu'r gleiniau ac yn bwyta bananau, a phan aeth Mama atynt ymhen tipyn yr oedd y dagrau wedi mynd. Aeth â Mulenga i'r ystafell a dywedodd,

"Rwyf i'n mynd i edrych ar eich ol chwi, Mulenga, am wythnos gyfan yn lle Ffane. 'Rwyf am i'r clwyf yna wella. Fe'i triniaf i ef yn lle'r doctor."

Siriolodd Mulenga, ac yna siaradodd Mama wrthi'n dyner ynghylch dweyd y gwir a pheidio â bod yn ofnus. Ar ddiwedd yr wythnos dywedodd Mama wrthi,—

"Rwyf am i chwi fynd â'r llythyr yma i'r ysbyty a gadael i'r doctor weld eich clwyf. Ni wna ddim ond edrych arno."

Aeth ar unwaith a daeth â'r ateb yn ol yn fuan.

"Mae'r doctor yn dweyd ei fod yn gwella, Mama," ebe hi dan wenu. Yr wythnos ddilynol aeth yn ol i fod yn un o deulu Ffane eto, ac ai i'r ysbyty bob dydd fel o'r blaen. Un hwyr safodd ar ol y lleill a phan aeth Mama ati torrodd allan i grio.

"Es i ddim i'r ysbyty bore heddyw a dywedais anwiredd wrth Ffane,—dywedais fy mod i wedi bod."

Sychodd ei dagrau yn fuan wedi i Mama siarad â hi, ac addawodd ddweyd y gwir bob amser o hynny allan. Dywedodd Mama wrth Ffane am ei chyffes a dangosodd iddi gymaint yn well oedd arfer tynerwch yn hytrach na geiriau croes. Bob dydd wedi hynny ai Ffane gyda Mulenga i'r ysbyty gan gydio yn ei llaw, nes collodd y plentyn ei hofn ac y dysgodd ddweyd y gwir. Dysgodd Ffane wers ar yr un pryd,—mai cariad yw'r peth cryfaf mewn bod.

Un diwrnod cymrwyd Mama ei hun yn sal iawn. Wedi ysgol y bore aeth i'r llofft a gorweddodd yn ei dillad ar y gwely. Ni allai symud gan y cur oedd yn ei phen. Daeth amser canu'r gloch ond ni allai feddwl codi a mynd i lawr.

I lawr ar y clôs siaradai'r merched mawr â'i gilydd: "Rwy'n siwr ei bod yn sal, yr oedd yn ddistaw iawn yn yr ysgol y bore yma, meddai un.

"Ewch i edrych, Mupelwa. Ewch yn ddistaw." Felly curodd Mupelwa yn ysgafn wrth ddrws yr ystafell wely ac aeth i mewn. Gwenodd Mama arni oherwydd edrychai mor ofnus."

"Nid wyf yn sal iawn, Mupelwa, dim ond cur pen. Ni allaf ddod i lawr. Cymrwch chwi ofal popeth am heddyw. Gellwch wnio drwy'r prynhawn, am bedwar ewch am dro, a daw Mwenga i gymryd y gwasanaeth heno. Byddwch yn blant da."

"O'r gore, Mama," ebe Mupelwa'n ddistaw ac aeth i lawr. Er bod yr ysgol odditani ni chlywodd Mama ddim swn. Cysgodd cyn hir a phan ddeffrodd yr oedd popeth yn ddistaw fel o'r blaen. Ple y gallai'r plant fod? Tua phump o'r gloch clywodd rywun yn cerdded at y ty, rhywun ag esgidiau am ei thraed. Agorwyd y drws a daeth mam Monica i mewn. Cyn pen ychydig funudau yr oedd y claf yn gysurus yn ei gwely, oherwydd yr oedd y malaria wedi ei dal hithau.

"Pam mae popeth mor ddistaw? Ple mae'r plant?" gofynnai Mama.

"Maent i gyd ar y clôs mor ddistaw â llygod. Mae Neli yn sefyll ar lwybr y pentref, Semba ar lwybr yr ysbyty, a Mulenga ar lwybr y gweithdy, a phan ddaw rhywun heibio dywedant, 'Cerddwch yn ddistaw os gwelwch yn dda, mae Mama'n sal iawn.' Y maent yn blant bach da."

Yr oedd yn haws dioddef y boen a'r anghysur wedi clywed hyn. Ni allai Mama lai na synnu pan feddyliai am danynt. Flwyddyn yn ol yr oeddent yn wyllt a dilywodraeth, yn greulon a difeddwl, a heddyw mor dyner yn eu gofal ohoni hi.

Bore drannoeth, gan nad oedd Mama'n well, symudwyd hi i dy'r doctor, lle y cai well cyfle i wella. Pan welodd y plant ei chludo ymaith yr oedd eu llygaid yn llawn dagrau. Ond aeth gwaith yr ysgol ymlaen bron fel pe bai hi yno.

Monica a phedair geneth arall oedd yr athrawesau ac aent i weld Mama bob nos. Pan aeth hi yn ol atynt ymhen wythnos cafodd groesaw mawr. Drwy ei hafiechyd yn fwy na dim arall gwelodd fel yr oedd yr had a hauasai yn dwyn ffrwyth, a chafodd ysbrydiaeth i fynd ymlaen.

Daeth dydd pan bu raid cau'r ysgol am amser hir. Yr oedd Mama wedi bod yno am bedair blynedd ac yr oedd yn bryd iddi gael gorffwys. Ai yn ol i Loegr am dro, ac nid oedd neb ym Mbereshi a allai gadw'r ysgol ymlaen am dymor hir felly yn ei lle.

Daeth y bore olaf ac ymgasglodd y plant at ei gilydd yn yr ysgol i roi ffarwel iddi.

Dywedodd hi wrthynt y deuai yn ol atynt eto a chynghorodd hwy sut i fyw yn y cyfamser. Gelwid hwy yn blant yr Iesu, ac yr oedd eisieu iddynt fyw fel ei blant ef a pheidio â dwyn anfri ar ei enw. Efallai drwy eu hesiampl hwy y deuai ereill na wyddent am dano yn awr i fod yn blant iddo, a byddai'r Iesu ei hun gyda hwy bob amser i'w dysgu a'u helpu.

Felly aeth y merched bob un i'w cartrefi, ac aeth Mama ymhell dros y mor i wlad y dynion gwynion.

PENNOD XI.
Y PLANT GARTREF.

YMGOMIAI nifer o wragedd yn y gerddi y tuallan i'r pentref. Meddai un: "Na, ddaw hi ddim yn ol mwy. Mae'n sicr o briodi â rhywun yn ei gwlad ei hun ac aros yno."

"Rwyf i'n meddwl y daw hi'n ol," ebe Magi. "Dywed mai ni yw ei phobl hi 'nawr, ac y mae'n caru ein plant ni fel pe baent yn blant iddi hi. Mae'r plant yn gweld ei heisieu hefyd. Daw, mae'n sicr o ddod yn ol."

"Maent wedi dysgu llawer o bethau yn yr ysgol," meddai un arall, "ac nid oes ofn gwaith arnynt, chwaith. Mae fy merch i yn cario dwr, casglu tanwydd, a gweithio yn yr ardd."

"Mae Neli yn ferch dda hefyd," meddai ei mam. 'A dyna aml y maent yn ymolchi! 'Rwy'n meddwl eu bod dipyn yn falch, ni chwaraeant gyda phlant ereill y pentref."

Rwyf innau wedi sylwi ar hynyna, ond nid balchder ynddynt yw'r rheswm. Gwyddant na hoffai Mama iddynt ddysgu geiriau aflan a chwaraeon ac arferion drwg y pentref eto, felly cadwant gyda'i gilydd."

Teulu Chulumanda: Neli'n sefyll o'r tu ol.


Ty Chungu a'i theulu.

"Wel 'rwyf i'n dweyd wrth Neli y gallant helpu merched ereill drwy adael iddynt ymuno â hwy mewn chwarae, a chlywed eu hiaith lan. Gallant wneud lles i ereill felly."

Ymwahanodd y cwmni gan fynd bob un at eu gwaith. Yr oedd Chishimba a Nsama yn eu pentref hwythau yn destyn cryn lawer o siarad. Holid hwy yn fynych am yr ysgol ym Mbereshi ac am ddull y dynion gwynion o fyw. Edrychai Chishimba ar ol Nsama am ei bod hi'n fechan ac yn barod i anghofio. Un diwrnod chwaraeai plant y pentref ac ymunodd Nsama â hwy yn un o'u chwaraeon. Gadawodd Chishimba ei ffrindiau a rhedodd at Nsama gan ei galw.

"Dewch yma ar unwaith, Nsama. Gwyddoch nad ydych i ymuno yn y chwarae yna." Edrychodd y plant ereill yn syn, a gofynasant,

"Pam na all hi ei chwarae? "

Ceisiodd Chishimba egluro iddynt mor aflednais oedd, ac na allai plant da byth ei fwynhau.

"Ond dangosaf i chwi un o chwaraeon y dynion gwynion," ebe hi, ac yn fuan yr oeddent oll yn chwarae "Deuoedd a Thrioedd."

Un dydd aeth Chishimba gyda llawer o ferched ereill i'r coed i gasglu cnau. Buont yno'n hir, a phan droisant tuag adref yr oedd yr haul ar fynd i lawr.

"Gadewch i ni redeg," ebe rhywun, a rhedasant am y cyntaf tua'r pentref.

Ond yr oedd yn ei plith un eneth fach gloff. Methai hi a dilyn y lleill er ceisio'i goreu. Arhosodd Chishimba iddi.

"Fe gerddaf i gyda chwi, Mwamba," ebe hi. Edrychodd y plentyn yn syn arni.

"Does neb wedi fy aros i o'r blaen," ebe hi. "Yr ydych chwi'n wahanol, yr ydych chwi'n garedig. Ai dyna pa beth ddysgodd y Fama wen i chwi?"

"Dyna pa beth mae'r Athraw Iesu yn ddysgu i ni i gyd," ebe Chishimba. "Mi ddwedaf i wrthych am dano, os mynnwch."

O'r dydd hwnnw yr oedd Chishimba a Mwamba yn gyfeillion mawr, a chlywodd Mwamba lawer ystori am yr Iesu nes iddi hithau hefyd ddod yn un o'i blant.

CEIRW AFFRICA.

PENNOD XII.
CHUNGU.

CERDDAI Mupelwa a phump neu chwech o enethod ereill drwy'r pentref un prynhawn. Edrychent mor lan a hapus nes tynnu sylw pobl. Gofynnwyd iddynt i ba le yr aent.

"We bana ba mfumu?"

"!Yr ydym yn mynd i weld Chungu." Aethant at dy ynghanol y pentref, ty bach â muriau gwynion iddo, a tho gwellt glan. Ar y feranda o'i flaen yr oedd dwy gadair a mat newydd.

Daethai rhywun bach dieithr i'r ty hwnnw'n ddiweddar. Cawsai Chungu a'i gwr rodd gan Dduw o faban bach tlws, ac yr oedd y merched am weld y baban. Aethant at y drws a gwaeddodd un ohonynt,—

"Oti? (Gawn ni ddod i mewn)."

"Dewch i mewn," ebe Chungu. Eisteddai ar stol isel yn golchi ei baban, a safai'r merched yn ei gwylio. Ai Chungu oedd hon yn wir,—Chungu, y ferch oedd mor arw ei ffordd ac mor anodd ei thrin pan aethai i'r ysgol gyntaf?"

Am y chwe mis cyntaf cawsai Mama waith caled i'w dioddef hi. Yr oedd hi mor wyllt a dilywodraeth, yn arfer iaith aflan ac yn dweyd anwiredd, ac yn dysgu ereill i fod yr un fath â hi. Un diwrnod, wedi iddi wneud rhyw ddrwg mawr, teimlai Mama mai gwell er lles y lleill oedd ei danfon hi o'r ysgol. Dywedodd wrthi y cai ddod yn ol ymhen chwe mis os dangosai yr hoffai ddod.

Dri mis wedi hyn, un hwyr pan oedd y plant ar swper, gwelodd Mama rywun yn dod i fyny at yr ysgol. Chungu oedd yno yn lan a distaw.

Disgwyliai Mama hi i ddod i mewn, ond pwyso ar y wal y tuallan a wnai.

Cyn hir aeth Mama ati, ac wedi tipyn o betruso dywedodd Chungu wrthi yn ddistaw: Hoffwn ddod yn ol. 'Rwy'n addaw bod yn ufudd."

Yr oedd Mama wrth gwrs yn falch.

"Dewch i mewn i gael bwyd, Chungu," ebe hi. Pan ddywedodd wrth y plant fod Chungu wedi dod yn ol atynt curasant eu dwylaw mewn llawenydd. Rhedodd ei ffrind Chiluba i gyrchu dillad Chungu ac yn fuan уг oedd hi'n un o'r teulu eto. O hynny ymlaen hi oedd ffrind gore Mama. Yr oedd yn llawn asbri a llawenydd ond bob amser yn onest a glan a ffyddlon. Aeth blwyddyn heibio a daeth Chungu eto at Mama. Yr oedd y plant ereill i gyd yn cysgu, a Mama'n ysgrifennu yn ei hystafell pan glywodd guro ysgafn ar y drws.

"Dewch i mewn," ebe hi, a synnodd weld Chungu. "A oes rhywbeth yn bod?" gofynnai.

Sela.


Chungu gyda'i phriod a'i baban.

"Na, 'does dim yn bod, Mama. Mae gen i rywbeth i'w ddweyd wrthych," ebe Chungu.

Teimlai Mama yn sicr ei fod yn rhywbeth pwysig, ac eisteddodd ar stol isel a Chungu yn ei hymyl. Yna dywedodd Chungu wrthi ei bod am ddilyn yr Iesu. Yr oedd calon Mama yn llawn o lawenydd. Heb yn wybod iddi ei hun dechreuasai Chungu ddilyn yr Iesu ers amser hir, ac yn awr yr oedd am ei ddilyn yn gyhoeddus. Gweddiodd Mama gyda hi, a gweddiodd drosti wedyn lawer gwaith. Felly ymhen mis derbyniwyd hi'n aelod o'r eglwys, ac nid anghofiodd Chungu byth wedi hyn mai un o ddilynwyr yr Iesu oedd hi.

Aeth blwyddyn arall heibio, a rhyw ddydd gofynnodd bachgen ieuanc tal am weld Mama. Un o athrawon ysgol y pentref oedd.

Yr oedd wedi gwisgo fel Ewropead, ond mai dillad gwynion oedd am dano. Dywedodd wrth Mama ei fod am briodi Chungu. Yr oedd Mama yn falch gan ei fod yn fachgen da, a phan siaradodd â Chungu gwyddai mai dyna ei dymuniad hithau. Yr oedd ei rhieni yn hollol fodlon hefyd. Felly wedi ychydig fisoedd priodwyd hwy, a daethant i fyw i'w ty bach tlws ynghanol pentref Mbereshi. Ai Mama yno yn fynych i weld Chungu a deuai Chungu i'r ysgol bron bob dydd.

Ar ol i Mama fynd i ffwrdd y cawsant eu merch fechan. Galwodd Chungu hi yn "Beti," a hiraethai am gael ei dangos i Mama. "Mama yw mamgu (nain) fy merch fechan," meddai wrth y merched.

Deuai mamau ereill i weld Beti. Synnent weld mor lan oedd, a dywedai Chungu wrthynt ei bod hi'n ei golchi bob nos a bore ac y dylasent hwythau wneud yr un peth â'u babanod.

Cludai Chungu hi ar ei chefn yn fynych oherwydd yr oedd ganddi hithau ei gwaith i'w wneud fel pob gwraig. Yr oedd ei thy bob amser yn lan a bwyd ei gwr yn barod yn ei bryd. Weithiau hefyd yn y prynhawnau gwisgai ddillad gwynion am Beti, rhwymai hi am ei chefn, cymrai ei Thestament, ac ai i bentref ychydig filltiroedd o Mbereshi. Ai i dy ffrind iddi a deuai rhai o wragedd y pentref yno ati. Darllenai hithau iddynt a gweddiai gyda hwynt, a siaradai wrthynt am yr Athraw Iesu oedd hi yn ei ddilyn. Wedi hynny cai pob un o'r gwragedd ddal ac edmygu ei Beti fechan lan.

Yn Lloegr bell hiraethai Mama am y dydd pan gai ddychwelyd i Mbereshi. Hiraethai am weld Chungu a'i theulu bach. Meddyliai am y plant ereill a gweddiai drostynt i gyd.

Gwelai mewn dychymyg bentrefi bychain y coedwigoedd oll yn hardd a glan a swynol, pan fyddai pob tad a mam ynddynt yn ddilynwyr Iesu, a'u plant yn blant hapus a da.

CENHADON CYMREIG CANOLBARTH AFFRICA.

PETH mawr yn hanes dyn ieuanc yw dewis bod yn genhadwr. Nid yw yr un fath o gwbl a dewis rhyw waith arall mewn bywyd, megis bod yn saer, yn siopwr, yn ysgolfeistr, nac hyd yn oed yn bregethwr. Golyga ddewis yn wirfoddol galedi a pheryglon, colli llawer o bethau gwerthfawrocaf bywyd, cefnu ar bleserau, ac ar bosibliadau disglaer, ac wynebu ar fywyd unig, ymhlith anwariaid, mewn hinsawdd afiach yn fynych, ymhell o'r diddanwch sydd i'w gael yng nghwmni câr a chyfaill a chydnabod, ymhell o gysuron a llawenydd cartref. Mewn gair, golyga ymgysegriad llwyr i wasanaeth yr Iesu. Sicr iawn bod yn yr ymgysegriad hwnnw ogoniant a mwynhad a orbwysa'r holl anfanteision, a gall bywyd cenhadwr, wedi'r cyfan, fod y bywyd hapusaf dan haul.

Diddorol iawn sylwi ar fywyd y Cymry ieuainc a gysegrodd eu bywyd felly i fynd allan i Ganolbarth Affrica. Am genhadon y rhan honno o'r byd yn unig y soniwn yma.

Wedi darllen hanes "Plant y Goedwig" gwyddom eisoes rywbeth am fywyd yn y lleoedd hynny.

Saith yw nifer y cenhadon Cymreig a aeth allan dan nawdd Cymdeithas Genhadol Llundain i osod i lawr sylfeini'r gwaith yng Nghanolbarth Affrica. Ffaith hynod yw mai Deheuwyr yw'r saith,—pump ohonynt o sir Gaerfyrddin, un o Aberteifi, ac un o Frycheiniog.

Taflwn drem frysiog dros fywyd pob un.

ROGER PRICE. (1836-1900.)

Ganwyd Roger Price yn y Beili Brith, ger Aberhonddu, yn y flwyddyn 1836. Ffermwyr oedd ei rieni. Pan oedd yn lled ieuanc danfonwyd ef i'r ysgol i Lanelli at y Parch John Davies. Aeth oddiyno i Goleg Plymouth. Cyn mynd allan i Affrica yn y flwyddyn 1858 priododd ferch Dr. Slater o Plymouth.

De Affrica,—Tir Makololo,—a fu maes ei lafur ef yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Aeth allan, efe a Mrs. Price, a Mr. a Mrs. Helmore a'u pedwar plentyn, ar y 5ed o Fehefin 1858. Aethant i Cape Town, oddiyno i Kuruman, oddiyno i Linyanti

Yma bu farw Mr. a Mrs. Helmore a dau o'u plant. Dan yr amgylchiadau hyn, ac wedi colli llawer o'u heiddo drwy anghyfeillgarwch y pennaeth a'r brodorion, trodd ef a Mrs. Price a dau blentyn amddifad Mr. a Mrs. Helmore eu hwynebau yn ol drachefn i gyfeiriad y de. Ond lle peryglus iddynt oedd y wlad honno. Un diwrnod, cymerwyd Mrs. Price yn glaf iawn. Cafwyd allan iddi yfed dwfr o ffynnon oedd wedi ei gwenwyno gan y brodorion. Er pob ymdrechion bu farw ar y 5ed o Orffennaf 1860. Gorfu i'w phriod galarus ei hun dorri bedd iddi a'i chladdu. Wedi mynd o gam i gam hyd Cape Town, a rhoi'r ddau amddifad yn ddiogel ar fwrdd llong i ddychwelyd i Loegr, trodd Mr. Price yn ol ei hun i Kuruman. Yna, ar y 23ain o Hydref 1861 priododd Elisabeth, merch yr enwog Robert Moffat. O hynny hyd 1875 bu'n llafurio gyda llwyddiant mawr yn nhir Matabele a Logageng.

Roger Price.

Yn 1875 pan oedd ef a'i deulu ar ymweliad â Lloegr, penodwyd ef i fynd i Ddwyrain Affrica i geisio cael allan y ffordd oreu a'r modd y gellid cludo nwyddau o Zanzibar i Lyn Tanganyika, er mwyn sefydlu achos yn Ujiji. Cychwynodd o Lundain Mawrth 18, 1876, gan gyrraedd Zanzibar Mai 2. Wedi gwneud ymholiadau manwl a pharatoadau mawr,—oherwydd yr oedd ffordd yn ddieithr a phell,—cychwynodd o Saadani ac aeth mor bell a Mpapwa. Nid oedd hyn ond un ran o dair o'r ffordd i Ujiji. Wedi casglu gwybodaeth yno am y gweddill o'r ffordd dychwelodd drwy Saadani a Zanzibar eto i Lundain. Penodwyd ef i arwain y cwmni cyntaf o genhadon i Ujiji, ac o gyrraedd yno, i sefydlu achos ar lan y Llyn. Ond er brwydro'n ddewr yr oedd y rhwystrau ar y ffordd mor enbyd fel y barnodd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas yn ddoeth eu galw'n ol a gohirio sefydliad yr achos ar lan y llyn.

Yn 1883-4, cafodd Mr. Price yr anrhydedd o fynd allan gyda'r Ysgrifennydd Tramor ar ei ymweliad a Thir Matabele a Bechuana.

Yn 1884 penodwyd ef yn olynydd i Mr. Mackenzie fel athro yn Sefydliad Moffat yn Kuruman.

Bu farw yn Kuruman yn 1900.

WILLIAM GRIFFITH. (1853-1917.)

Dywedasom eisoes fod pump o genhadon y Canolbarth yn dod o sir Gaerfyrddin. Daw pedwar ohonynt bron o'r un ardal,—dau o Wynfe, un o Landeilo, ac un o Landebie; a daw'r llall o St. Clears. Beth, tybed, a gyfrif am hyn? Wel, o Wynfe yr aeth yr enwog "Griffiths Madagascar " allan yn 1820, ac erys ei hanes arwrol ef yn ysbrydiaeth i blant yr ardaloedd hynny o hyd. Nai i Griffiths Madagascar oedd William Griffith. Ganwyd ef yng Ngwynfe, Tachwedd 6, 1853, yn yr un ty ag y ganed ei ewythr,—Glanmeilwch. Clywsai er yn blentyn, ar aelwyd ei rieni, lawer o son am genhadon. Merch i'w ewythr enwog oedd gwraig gyntaf Dr. Griffith John, ac unwaith pan oedd y Dr. a'i briod ar ymweliad a Gwynfe, cafodd William Griffith ieuanc y fraint o'u clywed hwy a'r Parch Wm. Thomas, Gwynfe, yn ymddiddan am y gwaith yn China. Digon tebyg mai pregeth nerthol gan Dr. John yn Jerusalem, Gwynfe, ar y geiriau "Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist a fu'n foddion iddo gynnig ei wasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain. Y tro nesaf y daeth Dr. Griffith John i'r un ardal yr oedd William Griffith eisoes yn llafurio ar y maes cenhadol. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Caerfyrddin a Western College, Plymouth.

Yn gynnar yn 1879 cyffrowyd ei ardal gan y newydd am ei benodiad i'r Canolbarth. Maes newydd oedd y Canolbarth y pryd hwnnw, a'r anawsterau a'r peryglon o'i fewn yn fawr. Yr oedd rhai yn bresennol yn ei urddiad a gofiai urddo'i ewythr yn 1820.

Ar y cyntaf o Ebrill 1879 hwyliodd o Lundain i Zanzibar yng nghwmni Dr. Southon, meddyg, a Dr. Mullens, ysgrifennydd tramor y Gymdeithas

Treuliwyd misoedd ar y daith o Zanzibar i lan Llyn Tanganyika. Bu farw Dr. Mullens ar y ffordd. Wedi cychwyn o Zanzibar Mehefin 13, cyraeddasant Mpapwa Gorffenaf 11, Urambo Awst 30, ac Ujiji Medi 23. Gadawodd William Griffith Ujiji Hydref 22 am Uguha. Wedi llafurio yno am ddwy flynedd symudodd ychydig yn nes i fyny i Butengo,—lle a'i hinsawdd heb fod mor gynnes-afiach ag yn Mtowa. Llafuriodd yma am dair blynedd arall gyda llwyddiant mawr. Dychwelodd yn nechreu 1884 i'r wlad hon am seibiant, a chan mor llethol i'w gorff a'i feddwl oedd gwres llaith y Canolbarth ni ddychwelodd mwyach i Affrica. Aeth i Minnesota o dan nawdd Cymdeithas Genhadol yr Unol Dalaethau a bu farw yno Chwefror 12, 1917.

DAVID WILLIAMS. (1856-1881.)

Dyma un eto o feibion ardal enwog Gwynfe. Yng Ngwernellim, Dyffryn Tywi, ar y 10fed o Chwefror 1856 y ganwyd ef, ond yn fuan wedi ei eni symudodd ei rieni i Wynfe. Cafodd Ysgol Frytanaidd yr ardal wledig honno y fraint o gychwyn ar eu gyrfa addysgol dri chenhadwr. Yr oedd y tri yno ar yr un pryd, ac efallai yn yr un dosbarth,—William Griffith, David Williams, a Griffith Griffith, a aeth yn genhadwr i China.

Wedi gadael yr Ysgol Frytanaidd, bu David Williams am ychydig yn Ysgol Ramadegol Llandeilo, ac wedi hynny, ar ol rhai blynyddau o gynorthwyo ei dad ar y fferm, aeth i Ysgol Llangadog, nes llwyddo i basio i Goleg Caerfyrddin yn 1876.

Bachgen ieuanc dwys a chrefyddol ei ysbryd oedd. Bu'n ofalus i gadw'r ddyletswydd deuluaidd ar aelwyd ei dad, a sylwid y byddai bob amser yn cofio ar ei weddi am “feibion, duon Affrica." Yr oedd yn ffyddlon iawn gyda gwaith yr eglwys yng Nghapel y Maen, Gwynfe, ac yn hoff iawn o ganu. Ni ddywedodd wrth neb am ei awydd i fod yn genhadwr nes ei gymell i bregethu gan yr eglwys, ond amlwg yw bod y bwriad yn ei galon er yn fore.

Wedi treulio tair blynedd yng Ngholeg Caerfyrddin, gwnaeth gais at Gymdeithas Genhadol Llundain am dderbyniad fel cenhadwr. Derbyniwyd ef gyda mwynhad a symudwyd ef i Western College, Plymouth. Yr oedd William Griffith yno ar yr un adeg. Penodwyd yntau i fynd i Ganolbarth Affrica, i Urambo.

Hwyliodd allan Ebrill 16, 1880, a chyrhaeddodd Zanzibar Mai 29. Oddiyno aeth drwy Kilkwazo, Mamboya, a Mpapwa, a chyrhaeddodd Urambo Medi 12.

Mae ei lythyrau at ei rieni o'r lleoedd yr arhosai ynddynt ar hyd y daith yn ddiddorol iawn. Ysgrifenna am dlysni Algiers, gan synnu bod tref mor hardd yn Affrica. Dywed am danynt yn Zanzibar: "Pe gwelech ni ar unrhyw ddiwrnod, ag eithrio'r Sabath, gwelech ryw ddwsin o Negroaid o'n cwmpas, Dr. Palmer heb ond ychydig ddillad am dano yn pwyso'r llwythi, a minnau yn awr ag ysgrifbin yn fy llaw yn rhoddi i lawr y cyfrifon, a phryd arall â morthwyl, cŷn, neu rywbeth arall yn fy llaw, a chwys fy nhalcen yn gwasanaethu fel olew ar yr offer."

O Camp Kilkwazo sonia am y gwres o 95°, ac am y lle anial yr aent drwyddo a'r peryglon oddiwrth lewod. O Mamboya dywed, "Yr ydym yn awr wedi cerdded cant a thrigain o filltiroedd, a theimlaf yn llawer mwy diflino na phan y cychwynais o Zanzibar."

Ac o Mpapwa dywed ei fod wedi bod yn y dwymyn (ague neu intermittent fever) am dros wythnos, a'i fod wedi ymweld â bedd Dr. Mullens.

Dyma ddarn o’i lythyr wedi cyrraedd pen ei daith:—"Ar y cyfan bu'n daith gysurus, er cyfarfod ohonom a lliaws o anawsterau; ni allem edrych ymlaen o Zanzibar ar y dyfodol heb beth petrusder i ymgymeryd a'r gorchwyl o arwain tri chant o negroaid i fyny i'r lle hwn.

Rhedodd lliaws o'n cludwyr ymaith, a braidd y gallasom symud o'r fan heb adael rhan o'n pethau ar ol. Buom agos a llewygu o eisieu dwfr unwaith neu ddwy, a buom ddwywaith yn disgwyl haid o ladron i ymosod arnom bob munud, ond trwy drugaredd ein Duw, gwaredwyd ni allan o'r holl bethau hyn."

Ysgrifennai Mr. Williams yn rheolaidd yn ei ddydd-lyfr. Cyhoeddwyd hwnnw gan ei frawd, a rhydd i ni drem ddiddorol ar fywyd cenhadwr yn Affrica. Sonia am dano ei hun yn chwarae tonau Cymru ar y concertina, er llawenydd i dyrfa fawr, am dano'n siarad â'r pennaeth ac yn gofyn caniatad i adeiladu ty, yn efrydu'r ddwy iaith angenrheidiol,—y Kiswahili a'r Kinyamwezi,—yn dysgu dynion ieuainc i ddarllen, yn pregethu yn un o'r ieithoedd brodorol, yn cyd-gyfranogi ag ereill o Swper yr Arglwydd, ac yn cael Sabath tebig i Sabath gartref. Drwy ei holl nodiadau mae swn dioddef oddiwrth y dwymyn.

Cymerwyd ef ymaith ynghanol ei waith a'i fwriadau. Ar y 24ain o Fedi 1881, tua blwyddyn wedi cyrraedd Urambo, cafodd synstrôc, a bu farw wedi ychydig oriau o gystudd trwm.

Dywedai Mirambo, y pennaeth anwaraidd, am dano: "Carem ef fel brawd."

Gosododd rhyw Gymro ystyllen â'r llythrennau "D.W." arni i ddynodi "man fechan ei fedd" ym mhen uchaf ei ardd yn Urambo bell.

JOHN PENRY. (1854-1883.)

Mab John a Margaret Penry, Tir mawr, Llandeilo, oedd y dyn ieuanc hwn. Wedi gadael yr Ysgol Frytanaidd a phan oedd yn bedair ar ddeg oed rhoddwyd ef yn brentis dilledydd yn Llangadog. Wedi gorffen tymor ei brentisiaeth bu wrth yr un gwaith yn Bolton a Manceinion.

John Penry.

Yr oedd yn fachgen ieuanc darllengar a chymrai ran flaenllaw yng nghyfarfodydd y bobl ieuainc yn y gwahanol eglwysi y bu yn aelod ohonynt. Cyn hir teimlodd awydd bod yn bregethwr. Gadawodd ei waith ym Manceinion, daeth adref, ac wedi cael gwahoddiad taer gan yr eglwys yn y Tabernacl, Llandeilo, i ymgyflwyno i waith y weinidogaeth aeth i ysgol y Parch J. Davies i Langadog. Oddiyno aeth i Goleg Anibynnol Lancashire, ac yn ystod ei arhosiad yno y penderfynodd fynd yn genhadwr. Derbyniwyd ei gais yn galonnog gan Gymdeithas Genhadol Llundain.

Rhoddodd ei fryd ar fynd i Ganolbarth Affrica. Er clywed digon am hinsawdd afiach y lle, er i'w berthynasau a'i gyfeillion erfyn arno ddewis maes arall llai ei anawsterau a'i beryglon, er derbyn newydd am farw sydyn ei gyfaill ieuanc David Williams, pan oedd ef ar fin cychwyn, ni newidiodd dim ei benderfyniad,—y Canolbarth oedd gwlad ei ddymuniad.

Hwyliodd Mai 17, 1882, a chyrhaeddodd Zanzibar Mehefin 19.

Oddiyno, ar ol ychydig wythnosau o baratoi, dechreuwyd y daith i fyny at y Llyn. Yn Mpapwa daliwyd Mr. Penry gan gystudd trwm. Drwy ofal diflino'r cenhadwr meddygol, Dr. Baxter, adferwyd ef drachefn ac ail gychwynwyd. Dywedai Mr. Penry yn un o'i lythyrau wedi ei adferiad o'i gystudd: "Mae y ffaith fy mod wedi edrych ar angau megis, wedi gwasanaethu i ddyfnhau fy mhenderfyniad i ddilyn y cwrs a ddewisais, neu fel y credaf, yr arweiniwyd fi i'w ddewis."

Uguha oedd y maes a drefnasid ar gyfer Mr. Penry, ond gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, a methodd fynd ymhellach nag Urambo, lle bedd David Williams. Arhosodd yno amryw fisoedd gan ddisgwyl gwellhad, ond yn ofer, a gorfu iddo wynebu'r syniad o orfod troi'n ol cyn hyd yn oed gweld y maes y rhodd— asai ei galon arno. Bu'r ymdrech yn galed iawn ond gorfu iddo ildio. Yng nghwmni un arall, un o gen— hadon Eglwys Loegr, oedd yn gystuddiol fel yntau, trodd yn alarus a siomedig tua chyfeiriad cartref. Bu'n rhaid ei gludo'r holl ffordd o Urambo mewn hamoc. Wedi chwech wythnos o deithio caled, cyraeddasant Kisokwi, gorsaf genhadol ger Mpapwa, ar y 19eg o Ebrill. Gwaethygodd Mr. Penry yn gyflym, ac er pob gofal, bu farw ymhen deuddydd, ar yr 21ain o Ebrill, 1883. Ei eiriau olaf oedd: "Tell my friends that I die trusting in Jesus and in Him alone."

Claddwyd ef yn ymyl bedd Dr. Mullens yn Mpapwa. Mae maen coffa iddo yng Nghapel y Tabernacl, Llandeilo, wedi ei osod gan ei gyfeillion a'i gyd— fyfyrwyr yng Ngholeg Anibynnol Lancashire.

DAVID PICTON JONES. (1860-)

David Picton Jones.

Ganwyd Mr. Jones yn y Ceinewydd, Sir Aberteifi, Ionawr 20, 1860. Mab ydyw i Mr. Elias ac Elisabeth Jones. Fel y lleill dechreuodd yntau ei addysg yn yr Ysgol Frytanaidd, a synnai ei athrawon at ei allu i ddysgu. Wedi gadael yr ysgol, dechreuodd ddysgu crefft saer, a phan oedd yn bedair ar ddeg oed aeth at ewythr iddo yn Lerpwl i'w brentisio yn y grefft honno. Ymhen tua seithmis aeth yn ei ol i'r Cei.

Yr oedd rhywbeth o'i fewn yn dweyd wrtho o hyd mai i bregethu y galwyd ef, ond yr oedd yn dra ofnus. Cyn hir aeth i Ysgol Ramadegol Towyn, Ceinewydd, ac oddiyno i Goleg Caerfyrddin. Wedi dwy flynedd yno, gyrrodd gais at Gymdeithas Genhadol Llundain am gael ei dderbyn fel cenhadwr. Cynghorwyd ef i orffen ei gwrs yn y Coleg, a gwneud cais drachefn. Gwnaeth felly, a chafodd ei dderbyn yn ddioed.

Canolbarth Affrica oedd y maes a ddewisodd. Er i feddyg y Gymdeithas ddweyd wrtho nad oedd yn ddigon cryf i fynd yno, ac y byddai'n well iddo ddewis maes arall, dywedodd Mr. Jones mai i'r Canol— barth y dymunai fynd, os oeddent yn fodlon, ac nad oedd arno ofn y canlyniadau.

Felly y bu. Hwyliodd Mai 17, 1882, gan gyrraedd Llyn Tanganyika yn niwedd Chwefror 1883. Yr oedd Mr. Penry yn myned allan yr un pryd, ond fel y gwelwyd gorfu iddo ef droi yn ol o Urambo. Aeth Mr. Picton Jones ymlaen i Uguha, ac ymsefydlodd yno. Bu yno am bedair blynedd yn ddiwyd a llwyddiannus. Ond yr oedd y lle mor afiach i ddynion gwynion, fel y gorfu i'r Gymdeithas roddi i fyny'r gwaith cenhadol yno.

Wedi ychydig seibiant yn y wlad hon dychwelodd Mr. Jones gyda'i briod yn 1887 i Fwambo, lle ar ucheldir gwastad rhwng llynnoedd Nyasa a Tanganyika. Gwnaeth waith mawr yma. Heblaw llanw'r swyddi o ddoctor, saer, garddwr, dysgawdr, ynad heddwch, a gweinidog, dysgodd yr iaith wrth gwrs,a rhwyddhaodd y ffordd i ereill i'w dysgu. Dygodd allan ei "Outlines of Kimambwe Grammar" ar gyfer Cymry a Saeson ac ereill, a chyhoeddodd "Lyfr Sillebu" at wasanaeth y brodorion. Cyfansoddodd Lyfr Emynnau hefyd yn iaith Kimambwe a chyfieithodd rannau o'r Efengylau.

Pan aeth allan drachefn yn 1894 wedi tymor byr o orffwys (neu o leiaf o newid gwaith) yn y wlad hon, cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Lleol Tanganyika er mwyn ad-drefnu achosion y Genhadaeth, a threfnwyd i Mr. Jones a Mr. Harwood Nutt, cenhadwr lleyg, fynd i Kambole i gychwyn gorsaf newydd mewn lle uchel ac-iach. Wedi penodi ar le dechreuwyd adeiladu. Ond dechreuasai'r tymor gwlyb, ac aethai pawb i'w ardd a'i faes, ac nid oedd modd cael gweithwyr. Felly nid oedd dim i'w wneud ond byw am dymor mewn pabell, neu mewn ty o wiail a phorfa fras. Wedi cilio o'r glawogydd, ac i'r had gael ei blannu, dychwelodd y gweithwyr, a buan yr oedd gan y ddau dy cysurus bob un. Wedi hynny, gosodwyd i fyny gapel, lle hefyd y cynhelid ysgol yn ystod yr wythnos. Cynhyddodd y pentref, oblegid credai'r bobl y byddent yn fwy diogel o fyw yn agos i'r cenhadon. Deuent i'r capel y Sul ac anfonent eu plant i'r ysgol yn ystod yr wythnos.

Aeth pethau ymlaen felly yn hwylus am amser nes dyfod o afiechyd i'w blino drachefn. Bu Mr. Nutt yn ymyl angeu, a gorfu iddo droi tuag adref. Yn fuan wedyn gorfu i'r Parch W. Thomas, cenhadwr Niamkolo, fynd adref oherwydd afiechyd, a bu Mr. Carson o orsaf arall farw, felly daeth y tair gorsaf dan ofal Mr. Picton Jones. Dan bwys y gwaith triphlyg nid am hir y medrodd yntau ddal. Pan ddaeth cynorthwywyr ato yn haf 1896 yr oedd ei gorff a'i ysbryd yn galw am orffwys. Wedi rhai misoedd o deithio blinderus, cyrhaeddodd y wlad hon, yn fyw o hyd, ond yn ddrych o ran y dyn oddiallan.

Ond ni allai orffwys yn hir. Wedi adfywio ychydig, gorffennodd gyfieithiad o'r Testament Newydd, o'r Kimambwe, gyda geiriadaeth helaeth,—Kimambwe-English, ac English-Kimambwe. Cymrodd hyn tua phum mlynedd i'w orffen. Penderfynwyd na chaniatai ei iechyd iddo fynd yn ol i'r Canolbarth, ond trefnwyd iddo fynd allan i Dir Matabele am dymor. Ni chafodd iechyd yno ychwaith a dychwelodd ymhen blwyddyn.

Yn Hydref 1903 cymerodd ofal eglwys Saesneg Peniel Green, Llansamlet, ac yno y mae hyd heddyw yn llafurio'n egniol, cydwybodol, a llwyddiannus.

BOWEN REES. (1857- ).

Ganwyd Mr. Bowen Rees yn Llandebie, Sir Gaerfyrddin, Mawrth 16, 1857. Y "Bush Inn" oedd ei gartref cyntaf, ac yn y "Bush " yn Affrica y treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd wedi hynny. Pan oedd ef yn deirblwydd oed, symudodd ei rieni i Ystalyfera, er mwyn i'w plant gael gwell cyfle i ennill eu bywioliaeth. Mr. Rees yw yr ieuengaf o chwech of blant.

Bowen Rees.

Gorfu i Bowen, fel y plant ereill, droi allan yn bur fore i weithio. Gwaith gof a drefnwyd iddo ef wneud.

Dysgwyd ef i fod yn ffyddlon yn holl gyfarfodydd y capel,—y Penny Readings, y Gobeithlu, a'r Ysgol Sul. Dywed bod arno ddyled fawr i'w hen athraw duwiol yn yr Ysgol Sul, Mr. John Thomas, Twyn cerdinen, Pant-teg, brawd i Gwilym Marlais, am roddi cyfeiriad i'w fywyd. Derbyniwyd ef yn aelod pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed.

Pa beth roddodd yn ei galon awydd bod yn genhadwr? Pan oedd ef yn llanc ieuanc tua phymtheg oed, daeth y Parch T. M. Thomas, Affrica, i'r Pant-teg i siarad ar y Genhadaeth. Yr oedd ei hanes mor ryfedd a'i apêl mor ddwys nes i Bowen Rees fynd oddiyno â gwreichionen yn ei galon nas diffoddwyd hyd y dydd hwn.

Ond yr oedd ei lwybr tuag i fyny yn bur serth. Nid oedd ganddo lawer o arian na llawer o lyfrau. Ond yr oedd ganddo lawer o gyfeillion caredig. Rhoddwyd gwahoddiad iddo i ddechreu pregethu, a rhoddodd y diweddar Mr. John Davies, Y Bont, y llyfrgell oreu yn Ystalyfera at ei wasanaeth. Wedi tri mis o baratoad dan brif athraw'r Ysgol Elfennol, aeth i Ysgol Ramadegol Llangadog, ac oddiyno ym Mawrth 1880 i Goleg Anibynnol y Bala. Am y ddwy flynedd olaf, cedwid ef yn y Coleg gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Yn ystod un o wyliau'r Coleg, pan ai'r myfyrwyr ereill allan i gasglu at y coleg, cafodd ef fod yn weinidog dros y tymor ar Eglwys Saesneg Colwyn Bay. Bu'r ymarferiad o gryn fantais iddo ar gyfer ei ddyfodol.

Dydd pwysig yn ei hanes oedd y dydd y galwyd ef o flaen Cymdeithas Genhadol Llundain, i'w arholi, ac i benderfynu ar faes ei lafur. Yr oedd yno Fwrdd llawn a chafodd ei holi yn ddiarbed. Ceisiwyd ganddo, hefyd, bregethu o'u blaen. Gofynnwyd iddo wedi hynny fynd i ystafell arall tra byddid yn penderfynu ei achos. Pan ddaeth allan dywedwyd wrtho ei fod wedi ei benodi ac mai Canolbarth Affrica a fyddai ei faes. Yr oedd y myfyriwr ieuanc yn llawen dros ben am hyn, er mai newydd farw yn y Canolbarth yr oedd ei ddau gymydog ieuanc David Williams a John Penry, heblaw llawer ereill.

Wythnos cyn ei ordeinio yn y Pant-Teg, Ystalyfera, cafodd brofedigaeth enbyd, sef claddu ei annwyl fam. Dymunai hi am gael byw i'w weld ef yn hwylio i Affrica, ond nis cafodd.

Bu'r naw can milldir o Zanzibar i'r Llyn yn daith ofnadwy o flinderus a helbulus iddo yntau fel i'r cenhadon ereill a aethai o'i flaen. Dihangodd llawer o'r cludwyr a'u llwythi gwerthfawr ganddynt, fel pan gyrhaeddodd lan y Llyn nid oedd ganddo hanner y pethau a ddylasai fod ganddo.

Llonnwyd ei galon yn ddirfawr o weld Mr. Picton Jones ar Ynys Kavala, Llyn Tanganyika. Bu'r ddau yn cyd lafurio am flwyddyn yn Uguha. Mor ddiddorol a fyddai hanes manwl o fywyd y ddau Gymro yn y lle pell hwnnw.

Wedi gadael Uguha a dod adref i adnewyddu ei nerth, aeth allan i Dir Matabele yn 1887. Gwelodd amser cyffrous yno, yn enwedig yn amser y rhyfel rhwng Lloegr a'r Boeriaid. Efe a'i briod, sydd mor eiddgar ag yntau gyda'r gwaith cenhadol, oedd yr unig genhadon yn y rhan honno o Affrica'r pryd hwnnw, ac er mai deiliaid Lloegr oeddynt, yr oedd Brenin Lobengula yn barchus iawn ohonynt, oherwydd eu bywyd glan, a'r gwaith da a wnaent. Pan gododd y brodorion yn eu herbyn, gan fygwth eu lladd, cynghorodd Lobengula hwy i adael y wlad, a danfonodd warchod o filwyr i'w diogelu ar hyd y daith araf o gant a hanner o filltiroedd mewn gwagenni a dynnid gan ychain.

Cyn mynd i Dir Matabele yn 1887 cawsai Mr. Rees gwrs o addysg mewn meddygiaeth ym Mhrif Athrofa Edinburgh. Bu'r addysg honno o werth anfesurol iddo.

Mae Mr. Bowen Rees a'i deulu ar hyn o bryd yng Nghymru, ond nid gorffwys yw ei hanes eithr gweithia mor ddiwyd ag erioed.

Un o Ystalyfera yw Mrs. Rees hefyd. Ei henw cyn priodi oedd Miss Susannah Wesley Davies. Priodasant yn 1890 yn Cape Town, a hi yw hanner oreu Mr. Rees yng ngwir ystyr y gair.

WILLIAM THOMAS. (1859-.)

William Thomas.

St. Clears, sir Gaerfyrddin, yw man genedigaeth Mr. Thomas. Wedi derbyn yr addysg foreol arferol aeth i Goleg Caerfyrddin, ac wedi hynny i Goleg Lancashire, lle y bu Mr. John Penry. Wedi gadael y Coleg bu am wyth mlynedd yn weinidog ar eglwys yr Annibynwyr Saesneg yn Oldham.

Cyn hir teimlodd yntau'r alwad o'r Cyfandir Tywyll. Derbyniwyd ef gan y Gymdeithas, a phenodwyd ef i Ganolbarth Affrica. Gadawodd Loegr Mai 9, 1893, ac ymsefydlodd yn Niamkolo. Tra bu yno gwnaeth waith rhagorol, nid yn unig fel pregethwr, ond fel athraw a meddyg hefyd.

Nid oedd Niamkolo yn faes mor newydd a rhai lleoedd ereill. Yr oedd yno ysgol dda pan oedd Mr. Thomas yno, a meddygdy a swyddfa argraffu. Deuai cynifer a chant a hanner o blant i'r ysgol yno. Deuai'r mamau hefyd yn fynych â'u babanod ar eu cefnau, a deuai hyd yn oed y tadau am hanner awr bob prynhawn wedi gorffen eu gwaith.

Yn 1896 gorfu i Mr. Thomas adael Affrica oherwydd gwaeledd ei iechyd. Ni allai ei gyfansoddiad ddim dal y twymynnau aml, felly ymddiswyddodd o waith y Genhadaeth. Mae yn awr ers blynyddau yn weinidog llwyddiannus yn Wilbraham Rd., Manchester. (Manceinion.)





Wyman & Sons Ltd., Printers, London, Reading and Fakenham



Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.