Rhagom, filwyr Iesu
| ← Esgyn gyda'r lluoedd | Rhagom, filwyr Iesu gan Sabine Baring-Gould wedi'i gyfieithu gan Lewis Edwards |
Mi bellach goda' i maes → |

333[1] Rhagom, Filwyr Iesu.
65. 65. T
1 RHAGOM, filwyr Iesu!
Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr—
Hon yw'n cymorth cry';
Crist, frenhinol Arglwydd,
Yw'n Harweinydd mad;
Chwifio mae ei faner,
Geilw ni i'r gad.
Rhagom, filwyr Iesu!
Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr—
Hon yw'n cymorth cry'.
2 Fel rhyw fyddin arfog
Symud, Eglwys Dduw!
Frodyr, lle y troediwn,
Llwybr y seintiau yw;
Nid ŷm ni'n rhanedig,
Ond un corff di-goll,—
Un mewn ffydd a gobaith,
Un mewn cariad oll.
Rhagom, filwyr Iesu!
Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr—
Hon yw'n cymorth cry'.
3 Dowch gan hynny, bobloedd—
Dyma'r dedwydd lu;
Y fuddugol anthem
Seiniwch gyda ni:
Moliant ac anrhydedd
Byth i'r Iesu glân;
Dynion ac angylion
Unant yn y gân!
Rhagom, filwyr Iesu!
Awn i'r gad yn hy!
Gwelwn groes ein Prynwr—
Hon yw'n cymorth cry'.
—Sabine Baring-Gould
Cyf:—Lewis Edwards
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 333, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930