Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod II
| ← Penod I | Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes |
Penod III → |
PENOD II.
SAIF hen balas urddasol y Twr, neu Broncoed fel y gelwid y lle gynt, ar lechwedd heulog yr ochr orllewinol i'r afon Alun, o fewn tua milltir i dref y Wyddgrug, ac un-ar-ddeg o filltiroedd o ddinas Caerlleon Gawr. Os dewiswyd y safle ar y cyntaf gan rhyw foneddwr hamddenol fel hyfrydle i ymfwynhau o'i fewn, dangosodd y cyfryw un chwaeth hapus ac uchelryw, canys fe ddichon nad oes dlysach llecyn ar derfynau Cymru. Amgylchir ef gan goed cauadfrig—temlau cân adar pereidd-sain, a'r eos gynt yn eu plith yn dyhidlo "mêl odlau mawl;" dolydd, a boglynau o flodionos gwylltion yn addurno eu bronau; maesydd cnydfawr o yd pendrwm; a gerddi chwerthiniog; a dim i dori ar dawelwch cynhwynol y fan oddieithr natur benrydd ei hun yn ei gwynt cryf neu ei hawel deneu, yn suad ei gwenyn neu weryriad ei meirch. Ceid yma hefyd olygfeydd ardderchog yn ymestyn bellder o ffordd -rhan helaeth o sir doreithiog Gaerlleon, a'r afon Mersi yn ei chwr pellaf, a'r Ddyfrdwy dderwyddol yn ei chwr agosaf; eglwysi a phinaclau Caerlleon yn dyrchu eu penau i'r awyr las; Mynydd Sychtyn Moel Gaer a Bryn y Beili ar y chwith, a Chaergwrle ar y ddeheu, fel erchwynion i'r nythle tangnefedd hwn. Ac yn union o tano, wele Ystrad Alun, yn parhau yn wyrddlas haf a gauaf fel pe na feiddiai'r ddrycin fénu arno; a'i afon ddysyml yn llifeirio trwy ei ganol, gan ymdroi ar ei thaith i gael cusan arall gan yr amrywiol flodau a blygant at wefus ei dyfroedd; ac yn ymsymud yn ddystaw rhag ofn i rhyw gwmwl digofus eiddigeddu wrthi ac ymollwng am ei phen i'w phrysuro ymaith. Dyn dedwydd yn y fangre ddedwydd hon fuasai y drychfeddwl uwchaf o ddedwyddwch daearol.
Neu os dewiswyd y safle gan bendefig a ystyriai ddyogelwch mewn oes gyffrous a pharth peryglus ar y wlad yn brif anhebgor dedwyddwch, ac y mae yn fwy na thebyg mai dyma'r ffaith, odid y cawsid haiach llecyn. Hyd o fewn ychydig ganrifoedd yn ol, yr oedd yn angenrheidiol i balas fod yn gastell; ac yn arbenig felly yn nghymdogaeth Clawdd Offa, lle nad oedd ond annhrefn gwladwriaethol yn ffynu, a'r unig lywodraeth yn gynwysedig o "Trechaf, treised." Ac yr oedd godreuon sir Fflint, yn ol tystiolaeth haneswyr Cymreig a Seisnig, yn hynod am eu haflywodraeth yn y bumthegfed ganrif. Rhyfyg a fuasai i foneddwr o gyfoeth fyw yn unlle namyn caer, castell, neu balas amddiffynol ac arfog yn cael ei amgylchu gan ei ddeiliaid (villains) hyfedrus ar dynu cledd a llawio bwa. Y mae yr hyn a erys o hen balas y Twr yn profi yn lled ddiamwys mai yn gartref amddiffynol i benaeth Cymreig ar y cyffiniau yr adeiladwyd ef ar y cyntaf. Y mae iddo ei bigdwr uchel ar lun clochdy, o ben pa un y gellir gweled yr holl wlad oddiamgylch, a gwylio symudiadau gelyn o ba gyfeiriad bynag y deuai. Y mae ganddo ei gelloedd tanddaearol cyfleus at gosbi troseddwyr, muriau llydain cedyrn, a llyn ar y lawnt o'i flaen, gwasanaethgar naill ai i ddiffodd tân a gyneuwyd gan elynion, i foddi y rhai oeddynt yn rhy ddrwg i'r ddaeargell, neu i nofio pleserfadau yn ystod heddwch yn y gadlys. A phe'r aethai yn galed ar y gwarchodlu, wele goedwigoedd cysgodol gerllaw, a nentydd llochesol tu cefn i hyny yn ymgolli mewn mynyddau anhygyrch; a gallasent encilio yn iach ddiangol, o fynydd i fynydd, ac o gwm i gwm, hyd yr Eryri. Ac onid oedd yr ardal yn cael ei britho yn mhob cyfeiriad gan lanerchau a barent gofio'r dyddiau gynt? ac a enynent wroldeb yn y galon fwyaf llorf? Tros y gefnen acw, y mae Coed Eulo, neu Iolo, lle y cafodd Dafydd a Cynan, meibion Owain Gwynedd, y fath oruchafiaeth ar luoedd ymosodol Harri II. Moel Gaer drachefn, hen amddiffynfa Gymreig gadarn, a wrthsafodd lawer ymosodiad. Maesgarmon wedi hyny; pwy na chlybu am byburwch y saint-filwyr Celtaidd Garmon a Lupus yn dyfetha y Ffichtiaid, neu y Gwyddel Ffichti fel y gelwid hwy gynt, trwy orhoian y fanllef "Aleliwia." Castell Gwyddgrug, Monte Altus y Rhufeiniaid, ar gopa Bryn y Beili, a thafod hanesiaeth yn ei ben crwn yn traethu am lawer tro gwaedlyd a fu o'i ddeutu. A Chastell Caergwrle, ar yr ochr arall, trigfa unwaith i Gruffydd Maelor a Dafydd ab Gruffydd, brawd Llywelyn ein llyw ola." Os oes a wnel golygfeydd hanesyddol rhyfelgar â ffurfiad cymeriad dyn, yna pa ryfedd i fachgen craff sylwgar fel ein harwr droi allan y fath ryfelwr?