Neidio i'r cynnwys

Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod III

Oddi ar Wicidestun
Penod II Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)

gan Isaac Foulkes

Penod IV

PENOD III.

DEALLODD L. G. Cothi yn fuan ar ol cyrhaedd y Twr, nad oedd ei gyfaill Reinhallt adref, ei fod wedi croesi'r mynydd i Ddyffryn Clwyd, ac na ddychwelai hyd foreu dranoeth. Ond yr oedd Sion, ei frawd hynaf yno,-creadur caredig, diniwaid, yn benthyca ei holl oleuni bron oddiar Reinhallt, ac yn credu 'n ddiymwad nad oedd ei fath yn y byd. Ac yr oedd Morfudd a Gwenllian yno, y ddwy chwaer y soniasai 'r estron hwnw ar y mynydd am danynt. Megys mai y lle cyntaf yr edrych crydd arnoch ydyw eich esgid-"pawb at y peth y bo"-felly fel achyddwr yr edrychai Glyn Cothi gyntaf ar bawb. Tarawyd ef yn y fan fod gwaed Normanaidd yn y teulu, a bod pryd a gwedd Gwenllian, beth bynag, yn dwyn delw y welygordd ddewr a groesodd i'r Ynys hon gyda Gwilym y Gorchfygwr, o ba un yr ymsefydlodd cynifer yn arglwyddi ar Gyffiniau Cymru, gan briodi Cymryesau, a chyflwyno i'w plant daldra corphorol a balchder ysbryd y tad yn gyfunol a thłysni wynebpryd a bywiogrwydd tymher y fam. Wrth syllu a gwrando ar Forfudd, y chwaer ieuengaf, methai ddyfalu pa un i'w edmygu uwchaf, ai gwynder ei gwedd liliaidd, cochni cwrelaidd ei gruddiau a'i gwefusau, ei ffurf luniaidd, ei gwallt du modrwyog, ynte ysgafnder ei hysbryd a ffraethineb doeth ei hymadroddion. Meddyliai wrth edrych arni am ddwy fraich o gywydd a ganasai Dafydd ab Gwilym i Elen Lueddawg:

"Yr hon a beris yr ha'
A thrin rhwng Groeg a Throia."

Braidd na synasai fod gauaf yn ymweled âg Ystrad Alun ar ol i'r rhian hon wisgo ei gwên berswynol o'i fewn; ac nid oes anmheuaeth na bu Morfudd (yn anfwriadol mae yn wir) yn achlysur aml i frwydr law-law, ac unwaith neu ddwy bu ornestau mwy gwaedlyd am ei ffafrau. Buasai hen naddwyr Groeg a Rhufain yn falch o'i cherflunio a'i chwanegu at eu Ceinion, ac ni ddiystyrasai Cattwg Ddoeth luaws o'i hymadroddion synwyrgraff.

Yr oedd tlysni Gwenllian yn perthyn i ddosbarth arall. Prin y gellid dyweyd fod ei hwynebpryd hi i fyny â safon tlysineb clasurol. Cyfliw oedd ei gwallt a'r eiddo Llio Rhydderch, am yr hon y dywedai Dafydd Nanmor:

"Ai plisg y gneuen wisgi?
Ai dellt aur yw dy wallt di?"


Yr oedd y Norman yn lled amlwg yn y gwallt hwnw. Ond er na feddai Gwenllian degwch caboledig Morfudd, yr oedd natur wedi ei chynysgaeddu hithau a theithi rhagorol eraill—agosrwydd cynhesol yn tarddu oddiar galon serchus a'i gwnelai yn gryfach gwrthddrych serch nag hyd yn nod ei chwaer brydferth.

Yr oedd yno hefyd lanc ieuanc o filwr o osodiad gwisgi a phryd a gwedd teg a dymunol; ac ni fedrai Glyn Cothi ar faes medion y ddaear ddyfalu i'w lawn foddlonrwydd pwy ydoedd nac o ba le yr hanyw. Nid oedd yn un o'r teulu, ond casglai 'r Cofiadur craff, oddiwrth amrai fân bethau, ei fod ar y llwybr oedd yn arwain i hyny. Ei enw ydoedd Goronwy ab Gredifel. Yn yswil foddhaus yr edrychai Morfudd arno; ond gwaith parhaol Gwenllian wrth siarad âg ef ydoedd ymryson crasineb "ofregedd" (gwerinair arferedig yn y parth hwn o'r wlad am gellwair, ysmalio, &c.); a Gwenllian, rhaid cydnabod, oedd y ddoniolaf gyda'r gwaith o ddigon. Cyfeiriai at Forfudd fel ei "ddyweddi," —" Diweddi yn wir!" ebai hi, "y mae hi yn cyfrif ei phaderau lawer gwaith yn y dydd, ac yn ymgroesi cyn fynyched a mynaches." Gwridai'r ddau at eu clustiau, a mwngient mai eiddigus ydoedd hi am nad oedd daro arni hithau. "Os nad yw carwriaeth yn rhywbeth amgen i daro," ebe'r gellweires lawen, gwared ni rhagddo." Yna torai allan i suo-ganu yr hen benill sydd ar lafar gwlad hyd y dydd hwn, ond a gyfansoddwyd, mae yn dra thebyg, gan rhyw awenydd Lancastraidd yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau:

"Dacw 'nghariad i ar y bryn,
Rhosyn Coch a Rhosyn Gwyn;

Rhosyn Gwyn sy'n bwrw 'i flodau,
Rhosyn Coch fydd fy nghariad inau."

Pa gyfaredd oedd yn y pedair llinell gyffredin hyn i Oronwy ab Gredifel? Y mae yn gwrido o glust i glust; trwy fawr ymdrech y ceidw wên ar ei enau; ac etyb hi wedi mòni braidd,

"Na, Gwenllian," ebai ef, "ni chyll y Rhosyn Gwyn mo'i flodeu tra rhed dwfr yn afon Alun; tra bo rhianod teg yn rhodio'i glanau; a thra bo chwiorydd i wisgwyr y Rhosyn Coch yn ——

"Yn ba beth?" ebe Morfudd, yr hon a darawodd i mewn i'r cwmni; cam-enw ydyw galw y galanastra gwaedlyd presenol yn 'Gad y Rhosynau.' Cabledd ar addurniadau per yr ardd a'r maes. Mwy gweddus eu galw ar enw Wermod, Cegid, neu rhyw lysieuyn chwerw neu farwol arall, os rhaid ydyw myned i faes dilychwin natur i fenthyca enwau ar greulonderau y ddwyblaid sydd yn rhwygo'r wlad yn llarpiau yn y dyddiau hyn."

"Gwir, gwir," ebai Lewis, "fel y rhwyga blaidd rheibus yr oen bach, fel y rhwygodd cwn annwn Caer fy eiddo i oddiarnaf,

"O mynasant fy na mewn naw-sach,
Naw ugain mintai o gwn mantach;
Mynwn pe'u gwelwn hwy'n gulach-o dda
Yn moel y Wyddfa yn ymleddfach.
Y dwr a'u boddo tra fo tref iach
Y tân a'u llosgo peten' llesgach;
Yr awel a'u gwnel gan' niwlach-gwinau
Ond yr eglwysau yn dir glasach."

Ond

"Eu crwyn a'u hesgyrn crinion—a'u gàrau
A dyr gorŵyr Einion
Yn mhob mangre'n Nghaerlleon
Efe a ladd fil a'i òn."


"Dyna gylymu iawn "ebai Goronwy," gwaith y bardd o Lyn Cothi, mi dyngaf."

"Darnau o awdl a wnaeth y prydydd hwnw," ebai Lewis, "heddyw'r prydnawn yn chwerwdod ei enaid i Saeson Caer."

"Penygamp," ebai Morfudd.

"Ystwythber," ebai Gwenllian.

"Diolch yn fawr i chwi," ebai'r prydydd. "Y mae canmoliaeth rhai pobl yn werth ei gael, ac yn haeddu ei brisio. Ond at hyn yr wyf fi yn cyfeirio; Goronwy ab Gredifel, nis gwn pa'r un yw dy blaid di, er nad oes angen dewin ychwaith i wybod. Yr wyf yn dy hoffi am dy fod yn Gymro; yr wyf yr un modd yn hoffi Rheinallt ab Gruffydd, er nas gwelais ef eto, am ei fod yn Gymro, ac nid am ei fod yn pleidio teulu teyrnlinach Lancaster. Lancaster a York, beth ydynt ini? Bum i yn filwr i Siasper Tudur, ewythr frawd ei dad i Harri Tudur, ffoadur yn awr yn Ffrainc, a'i bleidwyr er hyny yn hyderus y gwelant ef cyn hir yn llawio teyrnwialen Prydain; ac yr wyf hefyd wedi canu i Syr William Herbart, ac i Syr Risiart ei frawd, dau Gymro nad oes yn myddin Iorwerth eu dewrach. Nyni y Cymry sydd yn ymladd, a'r Saeson yn ein hanos; nyni sydd yn dioddef, a hwythau'n byw'n fras ar eu bloneg. Cymerwch fi yn esiampl—ydwyf fel llwdn wedi ei gneifio yn nyfnder gauaf."

"Ni ddylit gwyno mor dost," ebai Goronwy, "diolch ar dy ddeulin i Fair a'th angel a ddylit, a dweyd dy bader ac ymprydio dridiau."

"Paham?"

"Gwrddaist ti ddyn ar y tir gwyllt heno?"

"Dyn, neu yspryd cyn wyllted a'r tir."

"Dy angel gwarcheidiol ydoedd; Robin Bondigrybwyll,"

"Tybiais mai yspryd y Cwtta Gyfarwydd ydoedd," ebai Lewis, "heb hamdden i ddodi dim yn ei frawddegau ond berfau ac enwau. Pa le y treiglodd a pha bryd y dychwel?"

" Y mae treigl Robin fel llwybr y gwynt, yn anhysbys i bawb ond efe ei hunan; ac i ba drybini bynag y dringo, efe a ddisgyn fel cath o bren yn iach ddiangol ar ei draed. Un o anwyliaid rhagluniaeth ydyw Robin. "Hyn a ddywedaf," ebai'r llanc, "yr oedd gwyr Caer fel dywalgwn yn dy ymlid di heno; a phe daethent o hyd i ti ni buasai ond "Hwi'r Cwta, a Hwir Coch," am dani; a buasai Lewis Glyn Cothi yn mhlith y beirdd ymadawedig. Yr oedd Robin a minau yn dy wylio di a hwythau o ben y Twr yma; ac yn fuan iawn diflanodd Robin; efe, mae'n ddiau, a'u taflodd oddiar dy drewydd. Y mae Bondi. yn dod i'r gwyneb bob amser y byddo ei eisiau."

Treuliwyd rhai oriau fel hyn yn taflu golwg dros bethau. Yr oedd Sion yn y cwmni, ond rhan fechan a gymerai yn yr ymddiddan. Yr oedd yn amlwg nad edrychai Sion yn ffafriol ar ymweliad Goronwy, canys anesmwythai a gwridai pa bryd bynag yr edrychent yn llygaid eu gilydd. Yr un mor amlwg hefyd ydoedd, fod enwi Reinhallt yn peri anesmwythder i Oronwy; ac oddiwrth hyn hawdd casglu nad oedd Reinhallt ac yntau yn gyfeillion, ac fod yr ymweliad hwn yn ddiarwybod i'r blaenaf.

Ond daeth y swper i'r bwrdd, a dyneswyd ato yn ddiolchgar, er na chynwysai ond ffrwyth y gerchen. Ni chaniatai caledi yr oes waedlyd hono i gigfwyd ond anfynych hulio byrddau hyd yn nod y pendefigion. Rhwyddheid llwybr y rhynion gan y medd archwaethus, ac yr oedd blas blodeu persawr Ystrad Alun yn melysu pob dyferyn o hono. Ac wedi bwyta o bawb ei wala, dygwyd hen delyn y teulu yn mlaen, a rhedodd bysedd meinion Gwenllian ar hyd ei thànau gan dynu mêl-odlau o'i chrombil, na ddaw eu bath ond o'r offeryn cerdd cenedlaethol Cymreig yn nwylaw menyw deg. "Hun Gwenllian" oedd yr alaw a chwareuid, ond cyfaddasai'r datganwyr gerddfesurau eraill at y miwsig. Tarawodd Goronwy i fewn yn nghyntaf:

"Er nad wyf ond prydydd gwan,
Mi folaf Ddyffryn Alun;
Swynion fil sy' yn y fan,
A gwenau haul a gwanwyn,
Ydyw gwenau yn y Twr
Dewr effraw Dwr y Dyffryn."

Yna cymerwyd edefyn y gerdd i fyny gan Sion ab Gruffydd:

"Os dewis dyn y Rhosyn Coch,
Dilyned hwnw'n dyn,
A dywedaf fi ' yn iach y b'och'
Wrth onest Rosyn Gwyn;
Boed pawb yr un ar faes y gad
Ag ar yr aelwyd glyd,
Gogoniant penaf tref a gwlad
Yw dynion cywir fryd."

Cyn i'r penill ddwyn yr effaith a ddymunai ei ddatganwr, dechreuodd Morfudd—

"Po gwynaf y croen a pho cochaf y ddeurudd,
Tlysaf i gyd a fydd gwrthddrych y serch;
Po cryfaf fo lliwiau y wawrddydd ysplenydd,
Harddaf i gyd yn meddwl pob merch;

Cilied y Cymry o faes y gelanedd
Pa'm rhaid i Gymro ladd Cymro mor rhad;
Cymro yn ngwrth Cymro yn delio dialedd
Dyna trwy'r oesoedd fu melldith ein gwlad."

Canodd y bardd o Lyn Cothi hefyd ychydig freichiau o gywydd. Codai yr hwyl yn gyfatebol i'r syniadau a ddatgenid. Yr oedd pawb yn cydweled â phenill Goronwy; pawb ond y sawl a deimlent oddiwrth golyn penill Sion a ganmolent ei athrawiaeth; teimlai pawb fod gwir galarus yn mhenill Morfudd; ac enwogrwydd Glyn Cothi a roddai iddynt fwynhad yn ei ganu. Yr oedd pob perchen synwyr cyffredin yn yr oes hono yn gallu rhigymu penillion cyffelyb i'r rhai uchod; tarddai hyn oddiar eu hanianawd genhedlaethol naturiol yn nghyntaf, ac yn ail oddiar ymarferiad mynych â'r gwaith—felly y bwrient heibio lawer o'u hamser hamddenol.

A phan y teimlwyd mai melusach cwsg na mêdd, a chau llygaid na chanu gan dant, enciliwyd i roddi pwys pen ar obenydd mewn tawelwch na wyddai ond ychydig am dano yn y cyfnod terfysglyd hwnw.

Nodiadau

[golygu]