Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod VII
| ← Penod VI | Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes |
Penod VIII → |
PENOD VII.
SAFAI dengwr-a-deugain ar ganol y gwastadedd eangfaith a elwir Morfa Caer, a Reinhallt ab Gruffydd a'i fyddin fechan oeddynt. Y gwyr traed a sychent y chwys oddiar eu hwynebau; a'r gwyr meirch a gurent eu dyrnau yn erbyn eu ceseiliau er mwyn tynu y wyntrhew oddiar eu bysedd, ac eisteddai eu cadweinydd dewr ar gefn ei Garnwen (cyn sythed a brwynen) yr hon a branciai yn nwyfus falch o tano. Er eu bod o fewn haner milldir i'r ddinas gaerog, teyrnasai y fath dawelwch o'u hamgylch fel y gallent bron glywed chwythiadau eu hanadl eu hunain. Yn ystod eu taith, diflanasai y llu nefol o'u golwg o uni un; ac er fod y lloer a'r sêr yn absenol, nid oedd y nos yn dywell iawn; canys er yn anamlwg, goleuadau'r nefoedd a dywalltent rhyw gymaint o'u pelydron trwy y cymylau gwlanog gwynion, fel y gallai y naill yn y fintai weled y llall. Disgynasai y gwyr meirch, a rhwymasent eu ceffylau wrth lwyn o bolion o goed oeddynt yn marw yn raddol uwchben eu traed ar ganol y Morfa. Ni lefarwyd ond ychydig o eiriau, a'r rhai hyny mewn sibrwd ac yn ddifrifol. Dystawai 'r tafod, er mwyn i'r dwylaw barotoi at lefaru, canys yr oedd y cyfwng gerllaw. "Cymru am byth!" ebai Reinhallt, mewn llais isel treiddgar; "Cymru am byth!" ebai 'r dynion ar adenydd eu hanadl. "Heb Dduw, heb ddim," ebai'r blaenor; "Heb Dduw, heb ddim," ebynt hwythau âg un llais. "Duw a digon," ebai ef; "Duw a digon," ebynt hwythau.
"Fy mrodyr, ebai Reinhallt, "cofiwch mai nid gwaed nac yspail ydyw ein neges i Gaer heno; ond mai ein hamcan ydyw adfer i ddyn o'r un gwaed a ni eiddo a gymerwyd oddiarno trwy drais. Eithr o saif perchen gwaed ar eich ffordd gan geisio eich lluddias i gyrhaedd yr amcan mewn golwg, nid oes ond ei frathu. Brathwch hyd y carn y sawl a'ch rhwystro. Cadwch yn nghyd yn yr ysgarmes; cofiwch mai hawdd tori edefyn ungorn."
Wedi gorphen yr oedfa hon o weddi a phregeth, ymdeithiasant yn mlaen i'w hymgyrch feiddgar, gan gerdded yn araf a dystaw fel na ragflaenid eu hymddangosiad gan eu trwst. Daethant yn fuan i ymyl y ddinas, a safasant er mwyn clustfeinio. Tybid fod y porthorion yn cysgu. Safent gerbron y dring-ddrws (port-cullis), ac nid oedd ond tawelwch y bedd o'u deutu, oddieithr fod y gwynt gauafol yn chwiban yn awr ac eilwaith yn rhidyllau'r mur gerllaw. Ar amrantiad, rhoddwyd y gorchymyn:
"Rhuthrwch ar y ddôr fel ungwr, a gwthiwch ef ar gefn ei wylwyr."
Rhuthrasant arno fel tarw hyrddiog; ond er cryfed yr hyrddiad, daliodd y port-cullis yn ddigon dieffaith, oddigerth iddo grawcian dan yr ergyd. Methai'r gwylwyr haner cysglyd oddifewn ddirnad pa beth a barasai y fath swn, ac agorodd un o honynt gil y drws yn ddigon difeddwl, gan fod y llawenydd oherwydd buddugoliaeth Hexham wedi cyrhaedd calon hyd yn nod y gwylwyr distadl, ac alltudio o honynt bob pryder a seremoni. Trwy gil y drws felly, ymwthiodd tri o'r Cymry er gwaethaf ei geidwaid i mewn, a brwydr boeth a ganlynodd rhwng y rhai hyn a'r porthorion, tuag ugain mewn nifer. Dechreuodd gwaed redeg yn ebrwydd, ac er ffyrniced yr ymladdai'r triwyr dewr hyny, gorchfygid hwy gan y lluaws gwyr yn eu herbyn. Cafodd un o'r tri ergyd enbydus â dagr yn ei fraich ddehau, yr hyn a'i hanalluogodd; a gwthid y ddau arall yn gyflym i gongl ag y buasai raid iddynt yn fuan roddi arfau i lawr. Yn y cyfwng pwysig hwn, wele Robin Bondigrybwyll, a'i ddeuddeg Cymro, yn ymddangos ar y chwareufwrdd, ac yn ymosod ar y porthorion o'r tu cefn, yr hyn a barodd ddychryn ac anhrefn yn mhlith y Saeson. Ffodd y naill haner o honynt i ystafell gyfleus oedd yn y Twr gerllaw, a phrysurodd y gweddill i ystafell arall gyferbyn. Bolltiwyd y dorau arnynt, a chodwyd y ddring-ddor fel y deuai Reinhallt a'i wyr oddiallan i fewn. Efe a ganfu ar unwaith sefyllfa pethau, ac archodd ddiarfogi gwyr un ystafell yn nghyntaf, ac yna y llall; a gadael ychydig wyr yno gyda chleddyfau noethion i'w gwylio nad ynganent air ac na wingent o'r lle dan berygl marwolaeth. Hyny a wnaed; ac yr oedd y gwylwyr bostfawr hyny mor ddiymadferth a babanod newydd eni. Er pwysiced y digwyddiadau uchod, cymerasant le mewn llai na chwarter awr o amser, ac mor ddidrwst fel na chythryblwyd undyn ond y pleidiau ymladdol eu hunain. Na, gan gofio, yr oedd un arall yn llygad-dyst o'r miri;—safai Cadi Gyfarwydd heb fod nepell o'r lle yn eirias chwilboeth o ddyddordeb yn yr helynt, gan gau ei dyrnau, cnoi ei gwefusau, a galw bob yn ail ar ei Thad yr hwn sydd yn y nefoedd, ac ar dad arall i Gadi, fel y dywedai Robin, "yr hwn nid yw yn y nefoedd,"
Prin y rhaid d'weyd nad oedd derfyn ar ei llawenydd pan y deallodd pwy fu drechaf. "Nid yw hyn ychwaith ond dechreu," ebai hi. Ac ar hyn, clywai lefain undonol yr heol-wyliwr a hysbysai yr awr ar y nos, yn dynesu tuag at y fan. Rhedodd fel ewig trwy heol gefn er mwyn peidio ei gyfarfod; a phan ddaeth hi felly o'r tu cefn iddo, a chael masgl arno, hi a ddodes blastr o lûd gwydn yn orchudd tros ei holl wyneb, fel nas gallai'r truan weled llewyrch, yngan gair, na thynu ei anadl ond trwy fawr ymdrech. Yn y dull ansyber hwn, flusgodd ef at y porth, rhoddes ef yn ngofal Reinhallt, yr hwn a'i derbyniodd ef yn ddiolchgar, ac a'i trosglwyddodd, ar ol tynu ei fwgwd, i'r un ystafell a than yr un llywodraeth a'r carcharorion eraill. Pan ddeallodd y Cymry am ystryw a gwrhydri yr hen Gymraes wladgar, bron na thorodd eu brwdfrydedd tros y llestri mewn banllefau o ganmoliaeth, yr hyn a fuasai 'n dra niweidiol i'w hachos.
Rhoddes Robin wybodaeth sicr yn fuan i Reinhallt mai yn nhy Robert Brown yr oedd yr eiddo atafaeledig-fod y llwynog hwnw yn eu cadw i'w ddybenion ei hun, ac nad oedd awdurdodau y ddinas yn gwybod ond y nesaf peth i ddim yn eu cylch. Parodd hyn symbyliad ychwanegol i adfeddianu'r eiddo, gan y gwelid fod cyfraith annheg wedi ei defnyddio yn anghyfreithlawn.
"Tuag yno fechgyn," ebai Reinhallt, "mor ddidrwst fyth ag y medroch. Y mae Cwn Caer yn cysgu, ond cofiwch ysgafned y cwsg ci."