Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XI
| ← Penod X | Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes |
Penod XII → |
PENOD XI.
CYSGWCH a gorphwyswch, chwi ddeiliaid lludded a blinder. Reinhallt, a chusanau ei ddwy chwaer yn wlybion ar ei ruddiau; Glyn Cothi yn yr hûn hyfryd hono na fwynheir ond unwaith neu ddwy mewn oes—ymwybyddiaeth yn nghwsg fod yr ewyllys wedi ei llawn foddloni; Goronwy ab Gredifel, a Morfudd mewn breuddwyd yn angel gwarcheidiol uwchben ei wely; Robin yn ysgafn gythryblus, a'i feddwl heb lwyr ostegu ar ol y tymhestloedd y bu ynddynt; yr eneth amddifad wirion, ond nid yn swn curiadau ac yn ngwres mynwes yr hon a'i hymddug; y fam sydd yn cysgu'n llonyddach nag erioed ar yr ystyllen lle y dodwyd hi yn barchus gan y teulu lletygar yr ymlusgodd at eu rhiniog i farw; Cadi Gyfarwydd yn y twll y bwriwyd hi yn ddiystyrllyd iddo a mwy o archollion ar ei chorph nag oedd yn angenrheidiol i gymeryd y bywyd o hono. Cysgodd Robert Brown a Dic Alis y tro hwnw, fel llawer tro o'i flaen, gan annghofio dyweyd eu pader. Cauodd natur amrantau goroeswyr y gad hono yn unol a'i hanmhleidgarwch arferol, ac arnynt hwy yr oedd y bai os nad oedd eu cwsg un ac oll mor esmwyth a "hûn potes maip."
Cyrhaeddodd yr haul awr anterth, ac yr oedd y nifer luosocaf o drigolion y Twr yn aros yn dawel yn nyblygion gwisg y duw swrth; cynosfwyd a fu boreufwyd amryw o honynt iddynt y diwrnod hwnw. Ond yr oedd gwyliadwriaeth ddyfal yn cael ei chadw'n ddidòr rhag y deuai'r gelyn fel panther yn sydyn am eu penau. Gwyddent na hepiai dialgarwch gwyr Caer ond ychydig, ac nad oedd i'w ddisgwyl oddiwrth eu trugaredd penaf ond creulondeb.
Nid oes sicrwydd pa un a ddarfu i Lewis ganu cywydd neu awdl foliant i Reinhallt am ei wrhydri gwladgar yn troseddu un o'r cyfreithiau gwrthunaf a roddes un genedl erioed ar war y llall, na'r hunanymwadiad arwrol a adfeddianodd iddo ef ei drysorau. Digon tebyg i folawd o'r fath gael ei chyfansoddi,[1] canys yr oedd "moli" boneddigion am y peth lleiaf yn un o neillduolion beirdd y Canol Oesoedd, a Glyn Cothi yn arbenig yn eu plith. Pa fodd bynag, nid oes ar gof a chadw gyfryw folawd yn mhlith gorchestwaith y bardd a arbedwyd yn yr oes ddiweddaf rhag ebargofiant gan y ddau lenor hyglod (Tegid a G. Mechain) y parablir eu henwau 'n serchus tra bo "Cymru a Chymro'n bod." Y mae terfynau rhamant yn caniatau i ni ddychymygu fod ei ddiolchgarwch yn frwdfrydig, a'i ganmoliaeth o ddoethineb cynllun yr ymgyrch, dewrder dihafal ei weithiad allan, yn nghyda 'i lawenydd gwynfydus yn y llwyddiant a'i dilynodd, yn farddoniaeth yn wir. Er mai ffoadur oedd Lewis yn Ngwynedd, yr oedd yn foneddwr o waed ac o ddygiad i fyny, ac wedi gwasanaethu peth amser yn y fyddin; a thrwy hyny, efallai na fynai efe fod dim arwedd fydol ar ei fawl. Y mae yn syndod hefyd gymaint yw siomedigaeth y lluaws yn gyffredin wrth weled bardd enwog y tro cyntaf. Canant mor nefolaidd nes y tybiai dyeithriaid eu bod yn rhai o fodau gogoneddus cylch y gwynfyd; ond pan y gwelir hwynt, nid oes gan yr edrychydd siomedig ond penderfynu mai dal angel a wnaethant, a dwyn oddiarno hyny o ganeuon oedd ganddo yn ei gôd. Wrth wrando eos yn telori yn y goedwig gudd, gellid meddwl ei bod wedi ei haddurno â harddwisg wychaf adar paradwys; nid yw hithau wed'yn ond y ddysymlaf o ehediaid y nefoedd. Rhanodd Natur ei rhoddion yn lled gyfartal-rhoddes eurbais i un, ac eurbig i'r llall. Ac onid yw y byd adarol yn ddarlun o'r gymdeithas ddynol? Talodd Lewis ddiolchgarwch gwresog i'w gymwynasydd, anrhegodd ef â chofged neu ddwy, y rhai a dderbyniodd y milwr ieuanc trwy daerineb; ac yn ystod y dydd, ymadawodd, ac ni welodd y ddau wynebau eu gilydd mwyach.
Yr oedd Robin yn llawn trwst a miri hefo 'r plentyn a gafodd, ys dywedai, ar lawr," yr hwn a hawliai efe fel ei eiddo ei hun. Gwadai Morfudd a Gwenllian ei hawl, a cheryddent Robin am siarad am fod dynol prydferth a dyddorol felly, fel pe na buasai ond darn o arian bath. A chan droi oddiwrth wyneb hawddgar y plentyn at wedd welw y fam farw, wylodd y rhianod fel plant. Nid oedd Reinhallt am yspaid yn gwybod dim am y newydd-ddyfodiaid hyn, eithr ar ol ymadawiad Glyn Cothi, a dyfod o hono yn ddamweiniol i'r fan, a chael ei chwiorydd yn wylo a Robin hyd yn nod yn edrych yn brudd, mynodd wybod yr holl hanes; ac wedi deall y cwbl, a chan edrych ar y marw, sychodd yntau ddagrau breision a neidiasent yn frwd o ffynonell ddofn ei gydymdeimlad. Archodd fod i'r corph gael ei gladdu'n barchus, a chymherth y plentyn yn ddeheuig yn ei freichiau cedyrn gan ei hanwesu, fel pe buasai magu yn un o gymhwysderau uwchaf ei natur.
"A thi a'i cefaist mewn ffos yn y Morfa, Bondigrybwyll, ai do?"
"Ar fin y ffos," ebai Robin, "Duw a'i cadwo! welaist ti erioed blentyn tlysach?"
"Y mae natur bob amser, os sylwaist ti, Bondigrybwyll, yn llunio plant amddifaid yn harddach na phlant eraill, fel yr enillont serch estroniaid."
"Go lew ti, hefyd, Reinhallt," ebai Robin, "gan gofio, plentyn amddifad wyt tithau hefyd, fy arglwydd Reinhallt. 'Does ryfedd eich bod chwi i gyd fel teulu mor dlysion yn Mroncoed yma! 'Does ryfedd fod bechgyn y Rhosyn Gwyn mor serchglwyfus at rai o chwiorydd gwyr y Rhosyn Coch!"
"At ba beth yr wyt ti 'n anelu, Robin?"
"Bondigrybwyll, nid i wneyd na chludo chwedlau y dois i i'r byd yma."
"Dy brif neges yn y byd, hyd y gallaf fi ddeall," ebe Reinhallt, "ydyw gwasanaethu arnaf fi, a d'weyd yr holl wir a wyddost yn ddihoced ac yn ddibetrus."
"Reinhallt, paid a digio; nid wyf yn gwadu dy hawl arnaf fel deiliad[2] a anwyd ac a fagwyd ar dir dy dadau. Ond gwna gymwynas âg un o dy ddeiliaid ffyddlonaf-paid a'm holi ar bethau carwriaethol, canys yr hwn a gludo chwedlau serch, sydd yn cludo tân poeth, a'i llysg, oni fyddo yn dra diesgeulus. O'r ddwy, buasai yn well genyf gludo eiddo'r prydydd trwy heolydd Caer gefn dydd goleu na dwyn "
"Na falia," ebai Reinhallt, gan siarad ar ei draws, effaith meddwl pryderus, "ydyw'r gwylwyr yn gwneyd eu gwaith? Enyd fer y cwsg digofaint dig. Rhaid gwylio fel y gwylir ffau bleiddiaid a gollasant eu cenawon. Wrth gofio, Robin, beth a ddaeth o'th garcharor? Wyt ti yn meddwl mai rhyw domen i hel pob ysgarthion iddi ydyw'r Twr yma? Ti a'i gollyngaist yn rhydd yn ol fy nghyfarwyddyd?"
"Bondigrybwyll, y marchog trwstan? Mi a'i gollyngais fel y gollwng adarwr ehediad diwerth. A'm llaw dangosais Gaer iddo, ac a'm troed rhoddais iddo gychwyn da tuag ati."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Dywedir yn ngwaith L. G. Cothi fod yn mysg Llawysgrifau Porking (Brogyntyn yn awr) gywydd anmherffaith yn dechreu "Wyr Einion a'i ffon ffynied y Saison," baich yr hon ydyw diolch i Reinhallt am ei wrhydri.
- ↑ Deilied (a villain). Yr oedd boneddigion yn yr oes hono yn perchen deiliaid-math o gaethion tan yr hen Feudal System.