Neidio i'r cynnwys

Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XII

Oddi ar Wicidestun
Penod XI Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)

gan Isaac Foulkes

Penod XIII

PENOD XII.

"FFAIR yn y Wyddgrug yfory; ac y mae'r Cymry yn rhai cethin am ffeirio. Hwy a ffeiriant bobpeth—o bluen gwydd i aden archangel," chwarddodd Brown am ben sioncrwydd ei ddarfelydd; "bydd yno luaws mawr o wladwyr cribddeilgar yn ffeirio eu ceffylau celyd, eu hychain duon, a'u defaid mynydd, y cwbl yn bur fychain ond yn bur dda. Cyfleustra rhagorol i dalu'r pwyth yn ol i'r cnafon lladronllyd, canys nid yw trinwyr tir fawr o ymladdwyr. Ysgubo'r ffair o bobpeth, a chael rhai o anifeiliaid yr arch-leidr yn eu plith a fyddai'n iawn; gwnai hyny ychydig i fyny am y golled a gefais hefo celfi 'r prydydd gwirionffol hwnw a feddyliai fod ei garwriaeth ef i fod uwchlaw pob deddf. Ac nid oes wybod na fyddai rhuthr sydyn o'r fath yn foddion i faglu Reinhallt yn ei rwydi."

Fel yna yr ymgomiai Robert Brown, cyn-faer Caerlleon, ar wastad ei gefn yn ei wely wedi deffro o'i gwsg ar ol yr ysgarmes y daeth efe o honi yn llai na gorchfygwr. Galwodd gyda'r Maer, Richard Rainford wrth ei enw, gan hysbysu ei gynllun iddo ac atolygu ei gymhorth. Yn awr, er mor aruchel ac ardderchog ydyw'r swydd o faer, cafwyd aml i brawf nad yw y sawl a'i llanwant ond dynol-yn agored i wendidau fel dynion eraill. Eiddigedd sydd demtasiwn gref i lawer o honynt, yn enwedig tuag at eu blaenoriaid neu eu holafiaid yn y swydd, ac nid oedd Brown a Rainford yn eithriaid. Rhy flaenllaw ydoedd Brown gan Rainford, a rhy ddof ydoedd Rainford gan Brown. Yr oedd y ddau yn eithaf cnafon yn eu ffordd—rhusedd rhyfygus a hynodai Brown, rhagrith taeog a nodweddai Rainford. Yr oedd hawliau dinaswyr Seisnig ar gyffiniau Cymru yn yr oes hono, yn arbenig, yn eang a phenryod neillduol; ac yn marn Rainford yr oedd Brown yn dueddol i wneyd rhy fynych ddefnydd o'r cyfryw freiniau. O ganlyniad, nid oedd y Maer yn haner boddlon ar gynllun y Cyn-faer. Awgrymai ai nid gwell fuasai ymosod ar gastell Reinhallt ab Gruffydd, gan mai Reinhallt a'i wyr a bechasent.

"Os cosbir y diniwaid," ebai ef gyda llawer mwy o reswm nag o ddilysrwydd, "gwneir gelynion o bobl sydd yn awr yn anmhleidiol yn y ffrae ffyrnig rhyngot a'r Cymro ymladdgar hwn."

Meiddiodd Brown fytheirio anathema chwilboeth ar syniadau mor henwrageddol; ac yn ddifloesgni dywedodd os nad oedd Maer Caerlleon yn feddianol ar ddigon o eiddigedd tros anrhydedd y ddinas, y cymerai ef y peth yn ei law ei hun. "A phe gallwn ysgubo oddiar wyneb daear yr holl genfaint sydd yn siarad ac yn meddwl yn Nghymraeg, mi a roddwn fy ysgub i lawr yn ddedwydd, ac a fyddwn farw yn ei hymyl."

"Mi deimlwn inau yn ddedwydd wrth ei phlanu yn gofgolofn ar dy fedd," ebai Rainford, yn goeglyd.

"Lladron a llofruddion ydynt bob copa walltog," ebai Brown.

"Y maent wedi cymeryd eu dysg yn dda," ebai'r Maer, "gan eu cymydogion agosaf."

Yr oedd llestr Brown bellach yn llawn; aeth ymaith tan ddywedyd, "Nid yw'r gwr yna gyfaill i mi," a dyna un o'r gwirioneddau olaf a ddywedodd.

Cryfhaodd gomeddiad trahaus y Maer benderfyniad Brown i ddodi ei gynllun dialgar mewn gweithrediad. Galwodd i'w gyfrinach ysprydoedd gwrthnysig y ddinas, a dadblygodd ei ddichell ger eu bronau. Yr oeddynt i logi tua chant o wyr —gwyddent hwy o ba rywogaeth—dibris, ymladdgar, tebyca' fedrent gael i Richard Ayles (ein hen ffrynd Dic Alis). Gyda llaw, ofnai yn fawr, nis gallai'r rhychor hwnw ddyfod i'w canlyn oherwydd ei ben ysig. Yr oedd cnwd toreithiog o chwyn dynol—yn wir y mae cnwd da bob amser o honynt—a chafwyd yn bur ddidrafferth y nifer gofynol. Yr oeddynt yn fintai y buasai ellyll yn falch o'u harwain i frwydr. Parodd Brown iddynt wneyd eu goreu i atal pob porthmon rhag myned i ffair y Wyddgrug trwy deg neu drais, a chymeryd oddiarnynt eu ceitleni (smock frocks), hyn eto trwy deg neu drais. Ac o ba nifer bynag o geitleni y byddent yn fyr yn y diwedd i ddilladu 'r can'wr, gorchymynwyd iddynt brynu'r gweddill yn maelfeydd y ddinas. Yr oeddynt i'w hysbysu ef yn y cyfnos pa lwyddiant a ddilynasai yr amcan; a gorchymynodd iddynt oll fod yn barod wrth y porth gorllewinol am bump o'r gloch boreu dranoeth,

Pump o'r gloch boreu dranoeth a ddaeth; a phe buasai yn ddigon goleu, cawsid gweled y cynulliad hynotaf a digrifaf yr agorwyd llygad arno erioed. Yr oedd pedleriaid, eurychod, hapchwareuwyr a charnlladron Caer yno yn lled gryno, ac ambell i filwr heblaw hyny, a'r oll wedi eu trawsffurfio gan eu gwisg yn borthmyn. Gwisgai pob un geitlen wedi ei brodio yn anghelfydd, a'i hollti yn y blaen ar ei hyd, ac mewn chwa o wynt, yr oedd y ddwy ran yn ymagor allan, fel dwy aden, a barai i'r gwisgwr ymddangos fel rhyw aderyn mawr dychrynedig. Buasai gweled Wil y Clocsiwr a Simon yr Eurych wedi eu gweddnewid yn brynwyr a gyrwyr da byw yn taro dyn yn chwithig. Yr oeddynt o bob maint, llun, ac oedran; ac yn annhebyg iawn i'w gilydd ond mewn un pethnod y bwystfil yn amlwg ar eu hwynebau. Y cynfaer Brown, fel y gellid tybio, oedd pen cyfaddas y genfaint ansyber; ac wedi ychydig o barotoadau ffwdanus, tynghedodd hwynt i yspeilio pobpeth symudadwy, ac i ymladd fel cythreuliaid os byddai rhywun mor ryfygus a'u gwrthwynebu; "a chofiwch," ebai ef, "mai bleiddiaid ydyw'r Cymry, mamau bleiddiaid ydyw'r merched, a chenawon bleiddiaid ydyw'r plant. Dyfethwch hwynt oll os daw hi i hyny. Y maent yn eich llwyr gasau chwi; ac os na leddwch chwi hwynt, ni raid gofalu fawr na laddant hwy chwi. Yn awr, fy ngwyr dewrion, awn yn mlaen i ogoniant ac anfarwoldeb."

"Gogoniant ac anfarwoldeb! yn mh'le mae 'r manau hyny, dywed," gofynai rhyw bedler i Ddic Alis.

"Dwy hafod ydynt," ebai Dic, "rhwng Rhydymwyn a Rhosesmawr."

Fel y gwelir, yr oedd Dic wedi hybu digon i gymeryd rhan yn yr ymgyrch.

Nodiadau

[golygu]