Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XIII
| ← Penod XII | Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes |
Penod XIV → |
PENOD XIII.
"By be sy' ar y fuwch, deydwch? Seren, sa'n llonydd; ni weles i 'rioed siwn beth a'r fuwch yma; mi brocith bob Sais ddaw'n agos ati;" ebai hen ffarmwr gwledig o Gilcen (Gredifel wrth ei enw.) Cilcen, ys dywedir ar lafar cyffredin gwlad, ydyw un o'r manau diweddaf a grewyd. Ond y mae yn bentref bychan digon propor ar ol unwaith myn'd iddo;-yn sefyll ar lechwedd heulog tan gysgod Moel Fama. Yr oedd ffarmwyr y lle hyd yn ddiweddar yn mhell ar ol yn mhobpeth ond cryfder gewynol, a'u gwartheg yn mhlith y rhai manaf yn sir Fflint. Er fod yr hen ffarmwr hwn yn gosod Sais yn mysg un o gasbethau ei fuwch, y mae yn lled amheus a welsai "Seren" Sais erioed cyn y diwrnod hwnw. Mae yn wir mai Sais y galwai ein cydwladwyr yn yr oes hono bob crwydryn annheilyngach na chyffredin, fel y galwai plant yr oes ddiweddaf ei chrwydriaid hithau yn Wyddelod.
Dic Alis oedd gwrthddrych dygasedd "Seren;" anelodd ei chorn yn union at orsedd ei fywyd; ond bu Dic yn ddigon sionc i symud ei hunan a'r orsedd oddiar ffordd y corn. Ac wedi cael ei hun i fan ddyogel, gofynodd mewn Saesneg clapiog, gan gymysgu cymaint o Gymraeg âg ef, ag a allasai hebgor o'r ychydig a bigasai i fynu yn Nghaerlleon, beth oedd ei phris?
"Gini," ebai'r amaethwr, "ac nid oes ar balmant Wyddgrug heddyw amgenach buwch am laetha na "Seren." Mae hi yn bur chwareus weithiau, wel tase," a chodod gwrid i wyneb y Cymro.
Yr oedd Dic yn coleddu syniadau gwahanol am chwareu i'r eiddo pobl Cilcen; ond ni ddywedodd ddim ar y pwngc; aeth ymaith gan fwngial fod y pris yn rhy uchel.
Daeth lluaws o ddynion o'r un ddelw a'r porthmon diweddaf heibio; ond o hyny allan, gofalai'r ffarmwr am eu rhybuddio i gymeryd yr heol gefn i "Seren," rhag y digwyddai damwain. Dechreuai'r ffarmwyr un ac oll ryfeddu at amlder y porthmyn yn y ffair—yr oedd yno bron gynifer o brynwyr ag o anifeiliaid. Nid oeddynt ychwaith yn prynu dim; ni fu erioed ffair yn y Wyddgrug ag ynddi lai o brynu—cerdded oddeutu a wnai'r porthmyn, holi'r prisiau, a gwneud amneidiau dyrys ar eu gilydd yn awr ac eilwaith nad oedd undyn ond hwynt-hwy eu hunain yn eu deall. Yr oedd eu hymddygiad yn peri penbleth.