Neidio i'r cynnwys

Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XIX

Oddi ar Wicidestun
Penod XVIII Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)

gan Isaac Foulkes

Penod XX

PENOD XIX.

TWR Bronwen, Caer Gollwyn, Castell Harddllechwedd neu Ailechwedd, Castell Harlech; gwahanol enwau a ddefnyddiai gwahanol oesau i ddynodi y lle. Arwydd o gymeriad bylchog yn yr oes hon ydyw mynych newid enw; yr oedd yn wahanol gynt, canys nid oes yn Nghymru gastell a fedd well cymeraidd castellaidd na Chastell Harlech. Y mae wedi ei adeiladu ar un o glogwyni geirwon Ardudwy, yn Meirion, ar lecyn a ddewisasid yn yr oes hon i godi goleudy arno yn hytrach na chastell. Saif ar graig sydd a'i throed yn y môr a ymdona dros Gantref y Gwaelod, ac ar fin Dyffryn Ardudwy, chwareufwrdd aml i ramant hud a lledrith yr hen Gymry. Codwyd yr adeilad y mae ei murddyn i'w gweled yn bresenol, ar adfeilion caerfa flaenorol, gan Iorwerth I., yn y 13eg ganrif—yr un pryd a chastellau Caernarfon, Conwy, Caerffili, &c, gyda'r amcan o gadw ciwdodau Seisnig yn nghanol y wlad; a gwneid y cyfryw gaerau yn breiffion a chedyrn, modd y parent ofn eu gorchfygwyr ar y brodorion. Wrth reswm eu creaduriaid eu hunain o'u cenedl eu hunain, a osodai y naill deyrn ar ol y llall yn geidwad y cadarnfeydd anorthrechol hyn. Gydag un eithriad, Seison a fuont yn gwnstabliaid Castell Harlech o 1284 hyd 1684, cyfnod o bedwar can' mlynedd. Yr eithriad hwnw ydoedd rhwng 1461 a 1468, a'r Cymro a lanwodd y swydd y cyfnod hwnw ydoedd Dafydd ab Einion o Faes y Neuadd, yn Nanmor, ger Beddgelert. Glewddyn pendefigaidd, gwladgar, o gorph hardd a meddwl penderfynol, oedd y Dafydd ab Einion, wedi gweled a chymeryd rhan mewn llawer brwydr waedlyd yn ei wlad ei hun, yn Lloegr, ac yn Ffrainc. Yr oedd yn Lancastriad selog. Nid yw hanes yn dywedyd pa un ai ei osod yn gwnstabl Harlech a gafodd gan ei blaid ei hun, ynte cymeryd y swydd trwy drais a ddarfu iddo oddiary blaid wrthwynebol. Pa fodd bynag, trwy gadernid y gaer, a medr ei cheidwad, hi a heriodd alluoedd brenin Lloegr am saith mlynedd, a Harlech oedd y castell diweddaf yn y deyrnas a blygodd i awdurdod Iorwerth IV.

Yr oedd Dafydd ab Einion a Gruffydd ab Bleddyn o'r Twr yn gyfeillion mynwesol, os nad yn berthynasau pell; y gwr o Faes y Neuadd a wlychai wefus ac a geuai lygaid ei gyfaill pan y syrthiodd tan ei archoll farwol ar faes Blawrhith; ac efe yn unswydd a ddaeth â'r newydd galarus i Froncoed fod y fam yn weddw a'r plant yn amddifaid. Gydag anwyldeb tadol y cusanodd ac y cofleidiodd efe Wenllian, a breision y dagrau a dreiglent hyd ei ruddiau pan y sylwai ei bod yr un ffunud a'i diweddar fam; gyda hoffder cynhesol y cyfarchodd y plant eraill ac y cododd Reinhallt ar ei fraich gref, gan gysuro y weddw newydd trwy ddweyd y doi y rholyn hogyn braf hwnw yn fuan i lanw lle ei dad, yn filwr gwych o blaid y Lancastriaid, ac yn gysur i'w fam.

Erbyn 1465, yr oedd y bachgen braf wedi tyfu yn filwr enwog; a phan ddybenodd y gyfres o ysgarmesau a grybwyllasom eisoes yn ngodreu sir Flint ufuddhaodd ein harwr i wahoddiad taer hen gyfaill ei deulu, a throdd ei wyneb tuag Ardudwy, i ddilyn tueddfryd gynhwynol ei natur. Ymgynullasai lluaws o ddewrion Gwynedd a Phowys i amddiffyniad Harlech, ar egwyddor yr hen air, "Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle," ac yn eu plith yr oedd dau beth bynag o sir Flint, sef Reinhallt ab Gruffydd a Sion Hanmer,[1] o Faelor Seisnig. Nid ymddengys i Harlech gael ei ddodi tan warchae rheolaidd hyd 1468; hyd hyny, gwneid defnydd o hono fel prif wersyllfa y Lancastriaid yn Ngwynedd, os nad yn Nghymru, yn lloches mewn caledi, ac yn fan encil yn ei thro i rai o benaethiaid y blaid hono. Er engraifft, bu Margaret o Anjou[2] yn ymnoddi yma am yspaid; ac oddi yma yr aeth hi mewn llong i'r Alban, lle y cynullodd fyddin gyda pha un y gorchfygodd ac y lladdodd Dug Yorc yn mrwydr Wakefield.

Chwareu ffristial a thawlbwrdd (tebyg i chess a quoits y dyddiau hyn), ymryson rhedeg a neidio ar draed (ac ar feirch os na fyddai gelynion oddiallan i'w lluddias), canu penillion gan dant a chyrdeddu cynghaneddion byrfyfyr, ymryson chwareu'r delyn ac anelu codwm bob yn ail, fel y profid cadernid y gewynau a thynerwch y cyffyrddiad, ydoedd eu di fyrion yn ystod oriau hamddenol y gadlys; ac yr oedd Reinhallt yn bencampwr yn mhob un o'r ymrysonfeydd hyn. Weithiau ymddifyrent trwy adrodd am y lluosocaf hen ddiarhebion Cymreig, neu traethent am y goreu chwedleu a rhamantau am rai o hen wroniaid y genedl, tra yr ymrysonent bryd arall mewn adrodd eu gorchestion personol eu hunain. Fel esiampl o'r olaf, y mae ar gof a chadw mewn amryw lawysgrifau y chwedl ganlynol. Cefnderw a gyfarfuasant mewn gwindy, lle yr aethant i draethu eu campau y naill i'r llall. Y cyntaf oedd Dafydd ab Siencyn ab Dafydd Drach o Nant Conwy (yr hwn a fu ar encil oddeutu Careg y Gwalch, ger Llanrwst,) a ddywedodd, 'Dyma'r "Pedwar ddagr â'r hon y lleddais yr Ustus Coch ar y fainc yn Ninbych.' Yr ail, sef Dafydd ab Einion a ddywedodd, Dyma'r cleddyf a'r onen a'r hwn y lleddais y Siryf yn Llandrillo.' Y trydydd, sef Reinhallt ab Gruffydd ab Bleddyn o'r Twr, a ddywedodd, Dyma'r cortyn â pha un y crogais faer Caer pan ddaeth i losgi fy nhŷ.' Yna gofynasant i'r pedwerydd, yr hwn oedd wr heddychlawn, sef Gruffydd Fychan ab Ieuan ab Einion, pa orchest a wnathai ef? Yntau a ddywed, 'Dyma'r cleddyf pe tynaswn ef mewn anmharch, a wnaethwn gymaint â'r goreu un o honoch.'"

Nid annghofient ychwaith ystyried llwyddiant eu plaid, na moli gwroldeb y dynion dewr oedd tan ei baner. Er nad oedd y brenin ei hun wedi ei gyfaddasu i wisgo coron mewn oes mor derfysglyd, yr oedd ei frenhines yn arwres yn wir; ac am Siasper Tudur, Iarll Penfro, o ach a thras Tuduriaid Penmynydd, Mon, dyna wron! buasai unrhyw genedl dan haul yn falch o hono. O'r tu arall, llwyddiant byr oedd llwyddiant eu gelynion; tywyniad haul yn y cyfnos cyn myned yn llwyr tros os y gorwel. Mae yn wir fod Syr Gwilym Herbert, a Risiart ei frawd, yn ddynion dewr; ond fe ddeuai gwynt annghydfod yn fuan ac a'u chwythent drosodd atynt hwy. Ond pa beth bynag a ddeuai, ni welid baner y Rhosyn Gwyn, tra anadl yn eu ffroenau hwy, yn cyhwfanu ar Dwr Bronwen. Hwre i Gastell Harlech!

Nodiadau

[golygu]
  1. Un o'r Hanmeriaid hyn oedd gwraig Owen Glyndwr,
  2. Gwraig ddewr y brenin anffodus Harri VI.