Neidio i'r cynnwys

Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XV

Oddi ar Wicidestun
Penod XIV Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)

gan Isaac Foulkes

Penod XVI

PENOD XV.

OND beth am y Cyn-faer? Pa fodd yr ymdarawodd y gaethglud?

Wel, cafwyd yr helynt cethinaf yn ei ddwyn i'r Twr. Ni bu erioed mewn gefyn garcharor mwy anystywallt. I ddechreu, ni fynai symud fér o'r fan, a bu raid ei gludo, a baich anhydrin ei wala ydoedd. Ac wedi cyrhaedd y dref, cafwyd gwaith mawr yn ei achub rhag cynddardd y dyrfa, y rhai a fynent ei rwygo yn gareiau. Y mae marwolaeth drwy ddwylaw gwerin ddigofus, a hyny'n gyfiawn, yn un mor anmharchus, fel yr arswyda pob meddwl rhagddi. O bob angau, dyma'r gwarthusaf. Nid oedd Robert Brown yn eithriad i'r rheol. O'u cydmaru â'r dorf gynddeiriog, ystyriai hyd yn nod ei gaethgludwyr yn gyfeillion, ac ymdawelodd a gwasgodd atynt am eu nawdd. Ond pan gyrhaeddasant du allan i'r dref, dychwelodd ei ddrwgdymher yn ffyrnicach nag o'r blaen. Bondigrybwyll a weithredai fel goruchwyliwr y gaethglud; a'r dull a ddefnyddiodd Robert Brown i ad-dalu aml i gymwynas a dderbyniasai oddiar law Robin yn ystod y daith, ydoedd trwy frathu darn o'i fawd ymaith. Yr oedd yn troedio ac yn brathu pawb a ddelai yn agos ato; a diau fod ei gynddeiriogrwydd wedi ei yru yn mhell i dir gwallgofrwydd. Pan gyrhaeddasant y Twr, dodwyd ef yn y ddaeargell lle y cedwid carcharorion—cell dywell laith, gan obeithio y delai ychydig ato ei hun mewn mangre felly. A phan ddeallodd efe fod llaw mor anhyblyg a thynged ei hunan wedi ei dodi arno, ac na lwyddai iddo wingo yn erbyn ei gadwen, trodd ei natur lorf y tu gwrthwyneb allan, a dechreuodd ddeisyf a thaer weddio ar Reinhallt am gael rhyddid i weled haul Duw. Toddodd digofaint ein harwr ato ar fyrder pan ddeallai ei fod yn erfyn am un o fendithion haelaf a gwerthfawrocaf y nefoedd; ac archodd ei symud i'r penty gerllaw y palas, adfeilion yr hwn sydd yn aros hyd yn bresenol, lle y gallai anadlu awyr bur a mwynhau goleuni trwy ffenestr wydr, wedi ei delltu â bàrau haiarn. Cludid ei ymborth iddo oddiar fwrdd y parlwr; ac er ei holl anwiredd, ni roddid arno yr anmharch lleiaf ond oedd lwyr angenrheidiol. Yn y cyfnos, dychwelodd llesmair o gynddaredd ato drachefn. Y genedl Gymreig oedd y salaf a'r waethaf tan y nefoedd, ebai ef; a Reinhallt oedd y salaf a'r gwaethaf o'r genedl hono. Lleidr penffordd a dorasai ei dy ef; llofrudd Richard Ayles,—(un o'r bechgyn mwyaf hawddgar anwyd o wraig); llyfrgi gwael, yn ei gadw ef mewn caban felly pan y dylasai fod yn ei balas ei hun yn bwyta ei giniaw ac yn yfed ei win. Yna gofynai yn ostyngedig i un o'r ddau ddyn a'i gwyliai os ai a chenad at ei feistr yn gofyn caniatad i Robert Brown, cyn-faer Caerlleon siarad gair âg ef. Hwnw yn ddigon difeddwl-drwg a gydsyniodd; a chyda ei fod ef o'r golwg neidiodd y carcharor fel panther ar y gwyliwr arall, bwriodd ef i'r llawr trwy sydynrwydd yr ymosodiad, ac yna nafodd ef yn dost â darn o haiarn a gawsai ar lawr ei gaban. Ar ol hyny, rhedodd â'r darn haiarn yn ei law tuag at y tŷ, gan dyngu y lladdai bawb yn y lle. A phwy a chwareuai gerllaw'r drws ond Ionofal fach.

"Geneth ordderch Sian Fflintshire, myn d——l," ebai ef gan na ddarfu dy fam flinderog moth foddi fel y perais iddi, cymer hwnyna i wneud yr un gwaith," a tharawodd hi â'r darn haiarn nes oedd y fach yn lled farw ar lawr.

Wrth glywed y cynhwrf, tra yn derbyn cenad y gwyliwr, rhedodd Reinhallt a Goronwy a'r holl deulu tua'r fan, a gwelent y ddau ddyoddefydd ar lawr, a'r llofrig llofruddiog yn chwifio y darn haiarn o gylch ei ben, a bygwth lladd pwy bynag a ddeuai ato.

"Na wnai di," ebai ein harwr. Ysgödd y tarawiad cyntaf; a chyn cael o'r llofrudd amser i godi'r offeryn dinystriol eilwaith, yr oedd dwy law gadarn am gorn ei wddf, nes y glasai yn ei wyneb, ac y disgynai y darn haiarn o'i law mor ddiymadferth a phe disgynasai o law dyn marw.

"Dywed dy bader, yr wyt wedi byw digon o hyd," ebai Reinhallt.

"Felly tithau, Reinhallt," ebai Brown.

"Nid oes waed plentyn amddifad teirblwydd oed ar fy nwylaw i," ebe ein harwr.

"Tra y byddaf i byw, nid yw y plentyn yna yn hollol amddifad. Mae genyf hawl i wneud a fynwyf â'r eiddof fy hun," ebai Brown.

"Bondigrybwyll, dy gelwydd," ebai Robin, "ni ddaeth erioed o lwynau ellyll o'th fath di blentyn mor anwyl."

"Taw," ebai Reinhallt, "nid wyf yn amheu na wneir aml i blentyn heddyw yn amddifad o dad; ond gobeithio eu bod oll yn cymeryd ar ol eu mamau, ac nid ar dy ol di, genau trythyll llofruddiog. Dywed dy bader."

Safai'r Maer mewn pensyfyrdandod, gan felltithio yr olygfa ryfedd o'i ddeutu.

"Dygwch y cortyn," ebai Reinhallt, "a chrogwch ef wrth y stapl[1] acw yn y nenfwd."

"Beth," ebai Goronwy, "ei grogi yn y parlwr!" "Ie," ebai Reinhallt," bu yn faer Caerlleon Gawr ar Ddyfrdwy unwaith; efe a gaiff farw yn y parlwr—anrhydedd nad yw efe yn bersonol yn ei haeddu."

"Bydd ei ysbryd yn ein terfysgu ddydd a nos yn oes oesoedd," ebai Sion.

"Gresyn," ebai'r ddwy rian, "mae yntau yn frawd i rywun."

"I fynu ag ef," ebai Reinhallt.

Dodwyd y cortyn am ei wddf gyda chryn sicrrwydd gan Robin; a pharodd cyffyrddiad yr offeryn hwnw â'i wddf noeth y fath syched ynddo am fywyd fel y torodd allan i lefain yn uchel am dano.

"Yr hyn a gymeraist ti mor anhaeddianol oddiar eraill, rhaid ei gymeryd yn haeddianol oddiarnat tithau. Trugaredd i dy enaid tlawd annuwiol; bydd raid talu llawer cyn y ceir ei fath o'r purdan. I fyny ag ef."

"Aroswch gael i mi roddi y darn bawd yma yn ei geg," ebai Robin, "fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, 'a'u gweithredoedd i'w canlyn hwynt.'"

"Na lefara gabledd, filain," ebai Goronwy. Ac wedi ei godi i'r uwchder angenrheidiol, ebai Reinhallt, "Gadewch yr adyn yna i farw." Cyflawnwyd y gorchymyn, a gadawyd y diras wrtho ei hunan yno i farw yn ngwyll y cyfnos. Felly y darfu am Robert Brown, a lanwasai unwaith y swydd o faer Caerlleon; ac, a defnyddio alegori o eiddo un o efangylwyr Cymreig y ganrif hon, nid oes ond gobeithio "iddo gael trugaredd rhwng y bont a'r afon."

"Dau gorph yn yr un ty," ebai'r hen air. Y fenyw dwylledig yn barchus ar yr ystyllen, ei thwyllwr yn grogedig wrth y nenfwd, a phlentyn yr ymdrafodaeth anghyfreithlawn yn anwylun y teulu. Drych cywir o ddiwedd einioes dau gymeriad o'r fath. Ac onid priodol y mabwysiadwyd yr enw Ionofal, ar gynygiad Bondigrybwyll?

Jane Flintshire, fel y'i gelwid, a gladdwyd mewn pridd cysegredig; a Robert Brown mewn llanerch anghyfanedd. Dymunai rhai o'r milwyr ei ddaearu fel drwgweithredwyr eraill mewn pedair croesffordd; ond ni fynai Reinhallt droseddu ar derfynau angau.

"Yr ydym ni," ebai ef, "wedi ei gospi hyd yr eithaf; poed rhyngddo bellach â'i Dduw."

Nodiadau

[golygu]
  1. Y mae'r stapl hono yn aros yn nenfwd yr ystafell: a dangosir hi fel yr un y crogwyd arni Gyn-faer Caerlleon.