Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XVI
| ← Penod XV | Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes |
Penod XVII → |
PENOD XVI.
Yr oedd y braw yn nghylch y rhai y tybiwyd eu bod wedi eu llofruddio yn fwy na'r briw. Adenillodd y gwyliwr ymwybodolrwydd yn lled fuan; ac er fod y lodes fach wedi ei hanafu yn dost, daeth yn raddol ati ei hun. Dangoswyd y tiriondeb penaf tuag atynt, yn enwedig at Ionofal-chwanegodd yr anffawd gwlwm newydd ar linynau serch tuag at y caffaeliad amddifad. Yr oedd yn ymryson yn eu plith pwy a ddangosai fwyaf o serch. Robin a ddywedai y buasai yn well ganddo gael brathu ei fawd arall lawer gwaith nag i'r beth fach anwyl dderbyn unrhyw niwaid. Cludai Reinhallt y glwyfedig yn ei freichiau, gan ollwng aml i ddeigryn tosturi i lawr ei ruddiau a llefaru, pa wahaniaeth pwy ydyw tad y corph brau hwn; y mae'r yspryd yn hanu o'r un man a'n hysbrydoedd ninau."
Gadawodd Goronwy y Twr cyn i'r crogedig gwbl lonyddu; yr oedd delw ei dad marw yn gweithio o hyd gerbron ei lygaid; ni theimlai'n ddedwydd hollol heb fyned adref i gysuro ei fam alarus; ac awgrymodd Morfudd a Gwenllian y priodoldeb o hyny iddo hefyd. Aeth y rhianod i'w hebrwng dros gae neu ddau (cwitiau ddywedir am gaeau mewn rhai parthau o sir Flint), a bu ymgom rhyngddynt ar bwnc y dydd; awgrymwyd fod perygl i'r weithred olaf yn y ddrama enyn digllonedd yr awdurdodau goruchel, os nad y brenin ei hun.
"Yr wyf yn ofni," ebai Gwenllian, "fod fy mrawd, gyda'i holl ragoriaethau, yn fyrbwyll ac yn benderfynol iawn; a thrwy hyny, y tyn ddryghin am ei ben heb raid nac achos.'
"Lleferydd llwfr, Gwenllian, ydyw'r geiriau yna," ebai Goronwy. "Ni wnaeth Reinhallt ond a ddylasai. Onid yn anghyfiawn yr atafaelwyd eiddo y bardd? Ai drwg ydoedd eu dychwelyd i'w gwir berchenog? Ai iawn yn Robert Brown heddyw ddyfod a'i ddieiflgwn i geisio cosbi y diniwaid a dial ar y diamddiffyn? A thrachefn, pa beth gyfiawnach na chrogi llofrudd? Gadewch rhyngwyf fi a'r brenin."
Oni buasai am ddifrifoldeb y dydd, torasai y ddwy i chwerthin yn uchel am ben hyder y llanc yn enwi ei hunan yn yr un frawddeg a Iorwerth IV. Neidiodd y milwr ar ei farch, a charlamodd ymaith.
Wedi cyrhaedd adref, ail adroddodd Gwenllian ei hofnau. Pan elo pryder i ben menyw, gwaith anhawdd ydyw ei gael oddiyno; bydd ar flaen ei thafod am amser maith. Ymollyngodd Reinhallt i fyfyrio, ac i ymddyddan ar y pwnc osodasid ger bron.
"Mae yn wir," ebai ef, "mai gwell cariad y ci na'i gas, a gwell ci byw na llew marw. Ond," ebai ef gan ymestyn i'w lawn faintioli "gwneyd yr hyn sydd iawn ydyw'r peth, a gadael y canlyniadau i Dduw. Y mae gwg brenin a gwg cardotyn yr un peth i mi. Os na ddiala rhywun gam ein cenedl, fe â ein gwlad yn watwaredd ac yn wawdbeth yr holl genedloedd."