Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XVIII
| ← Penod XVII | Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes |
Penod XIX → |
PENOD XVIII.
NID oedd y blaid elynol yn segur. Tra yn cynllwyn dinystr Reinhallt gydag Arglwydd y Cyffiniau, darparent ryfelawd ar raddau eangach na'r un anffodus ddiweddaf, er gwneyd rhuthr ar gadarnfa y penaeth Cymreig; a chanddynt ddau cant o wyr i'r perwyl hwnw. Nid oedd y Maer na'r awdurdodau dinasig yn eu cydnabod nac yn eu hachlesu y tro hwn ychwaith; ac felly yr oedd yr anturiaeth yn hollol ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Cychwynasant i'w neges yn ngwyll cyfnos tawel o Ebrill 1465, tan lw bob un iddo ei hun na ddychwelai heb gospi'r troseddwr a rhyddhau 'r carcharor. Goronwy, yn gwybod am eu holl gynlluniau, a gychwynasai gyda dau neu dri o gyfeillion ffyddlon o filwyr, ar hyd ffordd gwmpasog yn y prydnawn, ac a gyrhaeddasai y Twr cyn bod yr ymosodwyr yn barod i gychwyn o Gaer. Yn un o'r pethau cyntaf, penderfynwyd symud y merched at gyfeillion i'r Gwysaney, hen balas godidog a safai (ac a saif) mewn coedwig tua dwy filldir tu hwnt i'r Wyddgrug, yn nghyfeiriad Rhosesmore; fel na archollid teimladau tyner menyw gan yr helynt a gymerai le; a Goronwy a Bondigrybwyll a osgorddent y cerbyd a gludai Wenllian, Morfudd, Ionofal, a'r gwasanaethesau i'w noddfa newydd. Wrth ddychwelyd yn frysiog o'r negeswaith hon, cafodd y ddau gyfleu i gyfnewid syniadau na fwynhasent er's hir amser cyn hyny.
"Bondigrybwyll, Goronwy," ebai Robin, "y mae tro rhyfedd ar fyd! Yr wyf yn ofni y daw hi yn sobor ar Reinhallt am grogi Brown."
"Ddim sobrach arno, Robin, nag y daeth ar Brown ei hun am frathu tamaid o'th fawd di."
"Ie, tamaid chwerw i'r gwalch oedd hwnw," ebai Robin; "hir y cnoir tamaid chwerw. Be gaiff Reinhallt, tybed?"
"Maddeuant," ebai Goronwy; "maddeuant am grogi llofrudd!!"
"Yn wir!" ebai Robin.
"Yn wir," ebai Goronwy, mewn llais hyderus. "Campus, bondigrybwyll, campus," ebai Robin, gan ddechreu dawnsio "Sawdl y Fuwch," a diaspedain canu tros yr holl fro.
Tyred yn dy flaen, gadffwl," ebai Goronwy, "oni wyddost fod cyhoeddiad pwysig yn ein haros?"
"O, na hitia be fo," ebai'r dawnsiwr, "bachgen clyfar wyt ti, Goronwy, yn teilyngu Morfudd, er mai Morfudd ydyw'r rhian lanaf yn nhair talaeth Cymru."
"Diolch i ti, Robin, tyr'd yn mlaen, fy machgen mawri; neu bydd cwn Caer yn y Twr o'n blaenau."
Ac yn mlaen yr aethant o lech i lwyn, gynted gallent, gan ysgoi y dref, a chymeryd y llwybr unionaf gyda godreu Gwern y mynydd; ond byddai Robin yn cael mynych lesmair o lawenydd a dawns ar dderbyniad rhyw ateg adnewyddol gan ei gydymaith o sicrwydd ffaith y pardwn.
Pan yn tynu at ben eu taith, croesent gae, ac yn mhen draw y cae hwnw, llwyn o goed; ac ar eu mynediad tros y clawdd i'r coed hwnw, clywent ryw "Hist" hirllais. Deallasant yn ebrwydd fod Reinhallt ac amrai o'i wyr yno'n ymguddio, ac yn disgwyl bob eiliad am ddyfodiad y gelynion. Ac ni bu eu disgwyliad yn hir; gwelid hwynt yn ngoleuni lloer wanaidd yn ymgripio fel llyffaint i fynu'r allt, gan gyfeirio at y Twr. Cynllwyn yn erbyn cynllwyn, ac ystryw yn ngwrth ystryw, ydoedd; a buasai eu tarfu mewn un modd yn annoeth.
"Gadewch iddynt," ebai ein harwr, " y maent yn ymdaith i'w dinystr; fe'u crogir ar eu crogbren eu hunain."
Cyrhaeddasant y ty, ac er eu syndod yr oedd drws y porth yn nghilagored, heb neb yn ei wylio. Meddylient fod eu prif amcan wedi ei gyrhaedd. Mewn ufudd-dod i orchymyn eu llywydd, Sion Olfer wrth ei enw, braddug anystyriol o Sais tra chyffelyb ar lawer ystyr i Dic Alis, llafn afrosgo o gorph a gwyrgam o feddwl, a gollasai un o'i freichiau cyhyrog yn un o ryfeloedd lluosog yr oes hono. Dewiswyd ef i'r swydd o herwydd ei fod yn filwr profiadol, ond yn benaf ar y cyfrif ei fod yn flaidd rhyfygus o ddyn. Parodd y Cadben Olfer i ugain o'r gwyr fyned i fewn a rhyddhau Robert Brown.
"Yn y ddaeargell, o tan y ty, mae yn dra thebyg y cewch chwi ef yn dihoeni. Chwiliwch am dano, a mynwch ef, a lladdwch pwy bynag a geisio eich rhwystro, ninau a aroswn yma i'ch disgwyl."
Aethant yn mlaen, troisant ar eu chwith, goleuasant ganwyll, cymerasant y grisiau oedd yn arwain i'r seler, a dechreuasant chwilota yno am wrthddrych eu cais, ond nid oedd hanes mo hono yn unman—ni welent ddim ond gefynau gweigion.
"Ddaw'r rhai hyn yn wasanaethgar eto," ebynt, " i rwymo'r cythreuliaid, os deuwn o hyd iddynt, a chodasant yr offerynau caethiwed i'w cymeryd ymaith.
Gyda hyn dyma ddrws y ddaeargell yn cau yn glep, a'r gwellt yn ei ymyl yn ffaglu gan dân. Rhuthrasant at y drws gyda'r bwriad o'i falu'n ysgyrion, ond yr oedd mwg a nwy y gwellt yn eu tagu, ac yn eu gorfodi i gilio'n ol i ganol y ddaeargell, lle nad oedd yr awyr bellach nemawr burach, ac yn myned waethwaeth o hyd.
Yr oedd y cynhwrf oddiallan bellach mor fawr, fel na sylwai ac yn wir na chlywai yr un o'r pleidiau grochlesau y trueiniaid yn y ddaeargell tra yn mogi i farwolaeth. Ugain oedd eu rhif, a chollasant eu heinioes mewn brwydr heb graith nac archoll ar un o honynt. Parasai sydynrwydd Reinhallt a'i wyr gyffro ac annhrefn yn mhlith y Saeson, fel yn eu prysurdeb i ddodi eu rhengoedd mewn trefn yr anghofiasant wneud unrhyw ymdrech i waredu eu cymdeithion oddifewn. Dechreuwyd taro yn ebrwydd; yr oedd pob plaid yn sychedu am waed, a gwaed ei wala a gafwyd yn cochi glaswellt y lawnt o flaen y palas, ac yn ceulo ar wyneb y llyn; canys yr oedd rhai o'r Saeson wedi cymeryd meddiant o'r pleser-fadau a rhwyfo ynddynt i ganol y llyn, er eu dyogelwch. a'r Cymry wedi nofio atynt, a gwaed lawer wedi ei dywallt ar wyneb y dwfr llonydd hwnw. Gan ei bod yn awr yn bur dywyll, y Cymry wrth wibio blith draphlith yn mysg y gelynion, a anafent eu gilydd yn fynych yn ddiarwybod; ac o ganlyniad, Reinhallt a roes orchymyn ar i'w ddynion adrodd yn ddibaid yr hen ddiareb, "Ni cheir y melys heb y chwerw;" a bu y cynllun yn foddion i atal yr amryfusedd rhagllaw. Ceisiai y Saeson eu dynwared, ond yr oedd y ddwy ch yn cyhuddo eu tafodau anystwyth. Barnai Sion Olfer oddiwrth arogl y gwellt llosgedig a gyrhaeddai ei ffroenau fod y palas ar dân, a bod yr ugein-wr yn rhostio ynddo, a galwodd am wneyd rhuthr egniol a'u mynu allan. Ond er ymdrech galed methwyd a chyrhaedd yr amcan—yr oedd y Cymry yn eu medi i lawr bob cynyg. Ymdrechwyd yn nesaf gael gafael ar y penaeth Cymreig ei hun, Sion Olfer a arweiniai yr ymosodiad yn bersonol. Troai Sion glamp o gleddyf hirlafn o gwmpas, gan regi a melltithio fod ei un fraich ef yn werth pedair braich wrth ysgwyddau unrhyw Gymro, ac anafodd amryw yn dost hefo'i ddull rhyfedd a mileinig o ymladd ysgubodd glust y Cadben Ifan yn lân oddiwrth ei ben. Yn wir yr oedd yn tori adwy effeithiol, a phob argoel y buasai ein harwr ac yntau yn ebrwydd mewn brwydr lawlaw, pan y sangodd Goronwy i'w ochr ac a roes iddo bigiad dwys â blaen ei ddagr yn ei ystlys. Sion Olfer a ebychodd yn herfeiddiol haner gwaedd haner ochenaid, lluchiodd ei gleddyf at ben Reinhallt, yr hwn a fethodd yn ei nod, a syrthiodd i lawr fel marw.
Y Saeson pan ddeallasant fod eu llywydd wedi cwympo, ac yn gweled nad oedd o barhau'r ymladdfa'n hwy ond dinystr llwyr yn eu haros, a ffoisant un ac oll am eu bywydau: a'r tro hwn, penderfynodd y Cymry na chai yr un o honynt gyfleustra i ddyfod ac ymosod ar Froncoed mwy, nac un o honynt os oedd modd yn y byd, ddychwelyd i Gaer i adrodd tynged y gweddill. Felly, ymlidiwyd hwynt yn galed, ac fel y goddiweddid hwynt, torid hwynt i lawr yn ddidrugaredd; hyd lasiad y bore, ac hyd yr afon Ddyfrdwy, y parhaodd y ffoi a'r ymlid; ac ar fin yr afon hono y gweddill ymlidiedig yn gweled nad oedd ond angau sicr yn eu haros ar eu tir, a ymdaflasant i'r llifeiriant ac a foddwyd. Ac ni ddiangodd o'r ddaucanwr namyn un i hysbysu eu cyd-ddinasyddion dynged y gweddill. Dim ond un. Meddyliwyd fod Sion Olfer mor farw a'r lladdedigion eraill, a dodwyd ei gelain yn y pentwr i aros y bore, pryd y bwriedid eu cyflwyno gyda'u gilydd i fynwes eu mam—yr hen ddaear. Nid oedd y Sion yntau mor farw; yn ystod y nos dadebrodd o'i lesmair, ac er wedi ei anafu yn dost, gallodd ymlusgo o blith y lladdedigion, ac o dipyn i beth cyrhaeddodd gartref a golwg mawr arno Yr oedd ei chwedl yn un athrist yn wir; ac efe a luniodd gyntaf y gair a ddefnyddiodd gelyniaeth i bardduo Reinhallt o oes i oes, sef fod ein harwr wedi gadael i'r Caerwyson fyned i'r palas ac yna ei roddi ar dân. Buasai llosgi hendref ysplenydd felly er mwyn dyfetha dynionach annheilwng, yn ddifrod anfaddeuol, ac yn hollol annghyson â chymeriad Reinhallt ab Gruffydd o'i gryd i'w fedd.