Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Penod XXI
| ← Penod XX | Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) gan Isaac Foulkes |
Penod XXII → |
PENOD ΧΧΙ.
YN Ebrill, 1468,[1] eisteddai Reinhallt a Sion Hanmer un hwyrnos ar ben TwrBronwen yn Nghastell Harlech, gan chwedleua am lechweddau gleision a bryniau esmwyth Powys, a gwylio'r haul yn myned tan ei gaerau i For y Werydd, pan y gwelent wr ar farch yn ymdaith tuag atynt o gyfeiriad Penrhyndeudraeth. Ac fel y dynesai, Reinhallt a adnabu y gwr, canys nid ydoedd neb amgen Robert Tudur o'r Twr. Prysurodd i'w gyfarfod at y porth, ac ar ol traethu ei syndod o weled ei urddas Bondigrybwyll mor bell oddicartref, rhoes y gwron hwnw lythyr yn ei law mewn dull tra seremoniol, tan obeithio ar yr un pryd fod ei feistr yn mwynhau' ei gynefinol iechyd "fel y mae'r geiriau hyn, wel tase, yn ein gadael ninau," a gofyn am ba hyd y cai efe aros yn y wlad ddyeithr hyfryd hono.
"Os na ddychweli oddiyma heno," Robin, ebai Reinhallt, "damwain fydd iti allu myned am rai misoedd. Y mae'r Herbartiaid ar eu ffordd yma o Ddinbych, ac yn ol a ddeallwn wedi cyrhaedd Drws Ardudwy; ac os na thorant eu gyddfau wrth godymu dros y creigiau, byddant yma cyn y gwel yr haul acw eto Gastell Harlech."
"Bondigrybwyll, ni symudaf," ebai Robin, "oni pheri di, Reinhallt."
"Gad fi'n llonydd, filain, i ddarllen y llythyr hwn." Darllenodd y llythyr. Cais ffurfiol ydoedd oddiwrth Oronwy am law Morfudd mewn glân briodas, ac fel y gallai ef fod yn bresenol i gyflwyno'r briodasferch ger bron yr allor, cynygid fod i'r ddefod gymeryd lle yn Llandderfel yn nyffryn Edeyrnion; y deuai y pâr ieuanc a Gwenllian yno i'w gyfarfod; ac os boddlawn ydoedd, a ddygei Robin ei ewyllys yn ol."
Chwarddodd yn galonog. "Dyma briodas yn y teulu o'r diwedd" ebai ef" Robin, rhaid i ti gymeryd ateb yn ol yn ebrwydd."
"O, meistr, meistr, oes dim modd i mi gael aros am ddiwrnod neu ddau?"
"Aros di," ebai Reinhallt, "y mae Sion Hanmer ar fedr gyru neges adref, hwyrach y ceir ganddo yr un pryd yru cenad i Froncoed, os rhoddi di dy farch iddo."
"Bondigrybwyll, o ewyllys calon. O'r ddau gwell a fyddai genyf fyn'd yn ol ar fy neudroed nag ar farch. Peth difrifol i barth gorllewinol dynsawd anghynefin ydyw marchogaeth tridiau,"
"Gwir," ebai Reinhallt, tan wenu. Yr oedd negesydd Hanmer yn falch o'r swydd, Robin yn ddedwydd ar y drefn; ac ateb Reinhallt yn fuan ar ei daith i'r Twr.
Beth oedd yn y llythyr hwnw? Dim ond amlygiad o lawn gydsyniad ein harwr a'r cais; awgrym y deuai Hanmer, fe ddichon, gydag ef,—"Hanmer, y dewrddyn hynaws," ebai ef. Cyfeiriad neu ddau hefyd oedd yn y llythyr at ansefydlogrwydd pethau,—y byddai Castell Harlech yn fuan tan warchae, ond na fedrai dim ond angau ei luddias ef i fod yn Llandderfel yr amser penodedig yn rhoi ei chwaer mewn priodas i lanc yr oedd efe tan gymaint dyled iddo. Mewn olysgrif, dymunai yn chwareus ar i Wenllian ddod a gwisg priodferch gyda hi, rhag ofn i un o lanciau'r "wlad ucha'" ei phriodi hithau cyn y dychwelai.
Cyrhaeddodd y genad yn ddyogel i'r Twr, a mawr oedd llawenydd pawb ar ei derbyniad, heb eithrio hyd yn nod Sion, yr hwn a gredai ar amseroedd cyffredin fod gormod o filwyr o un eisoes yn nheulu'r Twr; ac am Landderfel y meddyliai ac yr ymddyddanai rhianod y Twr o hyny allan, am Landderfel y breuddwydiai Goronwy ddydd a nos, fel llecyn y sylweddolid gobeithion dysgleiriaf ei oes.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tua'r amser hwn y cyrhaeddodd Syr W. a Risiart Herbert, a llu mawr trwy ddirfawr anhawsderau, gerllaw'r Castell; ac wedi gwarchae caled, rhoddwyd yr amddiffyniadifynu Awst 14 o'r un flwyddyn.