Neidio i'r cynnwys

Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)

gan Isaac Foulkes

Penod I

RHAGYMADRODD.

Amcenais ysgoi pob ol-nodiadau, trwy gyrdeddu y wybodaeth a gyflcuir yn y cyfryw ffurf hefo llinyn yr hanes. Yn hyn dilynais BULWER, DICKENS, DUMAS, COOPER, a phawb o nod hyd y gwn, oddieithr SYR W. SOTT; ac yn ngwaith yr olaf y maent yn boen a thrafferth fawr i'r darllenydd. Am fy ffeithiau hanesyddol, ymdrechais ddilyn yr awduron dyogelaf, a phan y cawn ddau neu dri o'r cyfryw yn gwrthddywedyd eu gilydd, dewiswn y tebycaf i wirionedd, neu ceisiwn eu cysoni.

I. FOULKES (Llyfrbryf).

LIVERPOOL, MAWRTH 6ED, 1874.



Nodiadau

[golygu]