Neidio i'r cynnwys

Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) (testun cyfansawdd)

gan Isaac Foulkes

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Isaac Foulkes
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Rheinallt ap Gruffudd
ar Wicipedia



Rheinallt ab Gruffydd:



RHAMANT



"Substantially built of the native stone; dirtied with no white lime."—SOUTHEY."



Liverpool
CYHOEDDWYD GAN I. FOULKES, 23, BRUNSWICK STREET,
1874.



RHAGYMADRODD.

Amcenais ysgoi pob ol-nodiadau, trwy gyrdeddu y wybodaeth a gyflcuir yn y cyfryw ffurf hefo llinyn yr hanes. Yn hyn dilynais BULWER, DICKENS, DUMAS, COOPER, a phawb o nod hyd y gwn, oddieithr SYR W. SOTT; ac yn ngwaith yr olaf y maent yn boen a thrafferth fawr i'r darllenydd. Am fy ffeithiau hanesyddol, ymdrechais ddilyn yr awduron dyogelaf, a phan y cawn ddau neu dri o'r cyfryw yn gwrthddywedyd eu gilydd, dewiswn y tebycaf i wirionedd, neu ceisiwn eu cysoni.

I. FOULKES (Llyfrbryf).

LIVERPOOL, MAWRTH 6ED, 1874.



RHEINALLT AB GRUFFYDD.

PENOD Ι.

BRYDNAWN drycinog o fis Chweroer, yn y flwyddyn o oed Cred a Bedydd 1465, gallesid gweled dyn canol oedran yn dringo'r rhiw sydd yn ymgodi 'n raddol rhwng Morfa Caerlleon Gawr ar Ddyfrdwy, a'r Wyddgrug, yn sir Fflint. Yr oedd yn amlwg o hirbell ei fod yn dwyn llwyth o ofidiau, heblaw ysgrepan ledr o gryn bwys a maintioli. Cerddai yn anwadal—weithiau 'n frysiog, a phryd arall yn ymarhous a hwyrdrwm ei gam. Chwelid cudynau ei farf hirllaes, a llywethau ei wallt brithwyn, gan y rhew-wynt, yr hwn hefyd a dreiddiai trwy ei wisg lom, rydyllog, a thenau. Ond, yn ol pob ymddangosiad, ychydig sylw a dalai ef ar y pryd i hinon na huan. Fel y dynesai, gwelid ar gipedrychiad nad dyn cyffredin mo hono, canys yr oedd myfyrdod wedi dodi ei nodau diamwys arno, a meddwl noeth fel pe buasai yn tremio trwy blisg ei lygaid gleision, rhadlon yn naturiol. Ond yr oedd y llygaid hyny yn awr yn adlewyrchu calon ddigllawn ac ysbryd cythruddedig. Tynai lipryn o femrwn allan o'r ysgrepan yn awr ac eilwaith, ac ysgrifenai rywbeth arno; ac er croesed ei dymher, neidiai gwên foddhaus yn ddiarwybod a damweiniol i'w wyneb, yr hon a giliai drachefn i roddi lle i'r nwyd a'i llywodraethai ar y pryd—difrifoldeb diragrith a dialgarwch anfaddeuol. Rhoddai'r llipryn memrwn yn ol yn yr ysgrepan, a thaflai hono 'n ddibris draws ei ysgwydd, cauai ei ddyrnau, cerddai yn drwm gan ddyrnu ei draed yn y llawr, fflachiai tan o'i lygaid, a siaradai rhyw ddryll ymadroddion ag ef ei hun:

Gymru dlawd, anffodus," ebai ef, "a rwygir gan ei phlant ei hun, ac a ddyfethir gan eillion anwar! 'Pryf Germania' y galwai Myrddin Ddewin y Saeson mileinig;-llygod ffreinig gwrthun, llyffaint dafadenog, a nadrodd gwenwyrig, ydyw pob un sydd yn parablu eu bastarddiaith garpiog. Mall a melldith arnynt oll o gryd i fedd! Ac fel y mae graddau yn mhlith ellyllon gwae, onid oes raddau cyffelyb yn mhlith yr ellyllon hyn? Gwyr Caerlleon ydynt y genfaint waethaf o'r holl genedl anhymig hon. P'odd y tyfodd lili mor brydferth a Doli ar domen mor halog? Pa blaened flin a'm dodes inaü yn nghylch swynlath ei serch. Ac eto dieifl coll a gwae a gosbasent ddyn am briodi ei gariadferch. Gwaeau a phläau a'u hysgubo! Ab Gruffydd gadarn. Y Gaer grach a'i gwyr a gryn.'"

Wrth ymdaith fel hyn o lech i lwyn, daeth yn nos arno, a chododd lloer garedig i ddangos iddo ei lwybr—heibio twmpathau eithin a llwyni grug a orchuddient yn yr oes hono y tir gwyllt y rhodiai drosto; ond parhau yr oedd efe o hyd i ymgolli mewn myfyrdod, i chwerthin yn ddiarwybod, i ysgrifenu ar y llipryn memrwn a'i ddodi yn ol yn y cwdyn lledr, ac ymollwng drachefn i raffu tafod drwg. Ond yn sydyn, dyma ddyn yn ei gyfarfod—dyn bychan sionc—cyfarchasant well i'w gilydd, a da oedd gan y naill a'r llall mai Cymro a gyfarchai Gymro. Meiddiodd yr ymdeithydd Cyntaf ofyn i'r ail am y pellder i Dwr Broncoed.

"Broncoed, bondigrybwyll," ebai'r Ail, "ehed iad bran, un filltir; cyfaill ar farch, all rydio'r Alun yn nghauaf, dwy filltir; cyfaill ar draed, tair milltir; gelyn ar draed neu ar farch, pellder anfesurol—trwy afon angau! Rheinallt y Twr, dewraf o blant gwragedd. Merched Twr y Broncoed, —tecaf er dyddiau Branwen ferch Llyr. Gruffydd, eu tad, llas yn Maes Blawrhith; Marged, eu mam, marw o dor calon! Rhywbeth arall hoffit wybod, Gymro?"

"Dim," ebai'r Ymdeithydd Cyntaf, braidd yn ddychrynedig gan sydynrwydd ymddangosiad y llefarydd, llithrigrwydd ei ymadroddion, a'i ddull gwyllt a rhigil o'u traddodi; a phan glybu hynoted lle ydoedd y Twr, unionodd ei gamrau tua Gwyddgrug yn nghyntaf, ac oddiyno i gyrchfa ei daith hwyrol ac annisgwyliadwy—pellder milltir "cyfaill ar draed." Yr oedd "Nos dawch" galonog, a deufraich o gywydd cyfaddas i'r amgylchiad, yn drwydded ddigonol iddo heibio i'r porthorion; ac yn fuan ceid yr Ymdeithydd lluddedig yn mwynhau rhadlonrwydd croesaw gwir Gymreig, heb raid wrth na hwda na chymer, canys pwy cynesach eu croesaw yn mhob oes na bonedd a gwreng Cymru? pwy fwy eu croesaw ganddynt na'u beirdd? pa fardd enwocach yn y bumthegfed ganrif na Lewys Glyn Cothi?

PENOD II.

SAIF hen balas urddasol y Twr, neu Broncoed fel y gelwid y lle gynt, ar lechwedd heulog yr ochr orllewinol i'r afon Alun, o fewn tua milltir i dref y Wyddgrug, ac un-ar-ddeg o filltiroedd o ddinas Caerlleon Gawr. Os dewiswyd y safle ar y cyntaf gan rhyw foneddwr hamddenol fel hyfrydle i ymfwynhau o'i fewn, dangosodd y cyfryw un chwaeth hapus ac uchelryw, canys fe ddichon nad oes dlysach llecyn ar derfynau Cymru. Amgylchir ef gan goed cauadfrig—temlau cân adar pereidd-sain, a'r eos gynt yn eu plith yn dyhidlo "mêl odlau mawl;" dolydd, a boglynau o flodionos gwylltion yn addurno eu bronau; maesydd cnydfawr o yd pendrwm; a gerddi chwerthiniog; a dim i dori ar dawelwch cynhwynol y fan oddieithr natur benrydd ei hun yn ei gwynt cryf neu ei hawel deneu, yn suad ei gwenyn neu weryriad ei meirch. Ceid yma hefyd olygfeydd ardderchog yn ymestyn bellder o ffordd -rhan helaeth o sir doreithiog Gaerlleon, a'r afon Mersi yn ei chwr pellaf, a'r Ddyfrdwy dderwyddol yn ei chwr agosaf; eglwysi a phinaclau Caerlleon yn dyrchu eu penau i'r awyr las; Mynydd Sychtyn Moel Gaer a Bryn y Beili ar y chwith, a Chaergwrle ar y ddeheu, fel erchwynion i'r nythle tangnefedd hwn. Ac yn union o tano, wele Ystrad Alun, yn parhau yn wyrddlas haf a gauaf fel pe na feiddiai'r ddrycin fénu arno; a'i afon ddysyml yn llifeirio trwy ei ganol, gan ymdroi ar ei thaith i gael cusan arall gan yr amrywiol flodau a blygant at wefus ei dyfroedd; ac yn ymsymud yn ddystaw rhag ofn i rhyw gwmwl digofus eiddigeddu wrthi ac ymollwng am ei phen i'w phrysuro ymaith. Dyn dedwydd yn y fangre ddedwydd hon fuasai y drychfeddwl uwchaf o ddedwyddwch daearol.

Neu os dewiswyd y safle gan bendefig a ystyriai ddyogelwch mewn oes gyffrous a pharth peryglus ar y wlad yn brif anhebgor dedwyddwch, ac y mae yn fwy na thebyg mai dyma'r ffaith, odid y cawsid haiach llecyn. Hyd o fewn ychydig ganrifoedd yn ol, yr oedd yn angenrheidiol i balas fod yn gastell; ac yn arbenig felly yn nghymdogaeth Clawdd Offa, lle nad oedd ond annhrefn gwladwriaethol yn ffynu, a'r unig lywodraeth yn gynwysedig o "Trechaf, treised." Ac yr oedd godreuon sir Fflint, yn ol tystiolaeth haneswyr Cymreig a Seisnig, yn hynod am eu haflywodraeth yn y bumthegfed ganrif. Rhyfyg a fuasai i foneddwr o gyfoeth fyw yn unlle namyn caer, castell, neu balas amddiffynol ac arfog yn cael ei amgylchu gan ei ddeiliaid (villains) hyfedrus ar dynu cledd a llawio bwa. Y mae yr hyn a erys o hen balas y Twr yn profi yn lled ddiamwys mai yn gartref amddiffynol i benaeth Cymreig ar y cyffiniau yr adeiladwyd ef ar y cyntaf. Y mae iddo ei bigdwr uchel ar lun clochdy, o ben pa un y gellir gweled yr holl wlad oddiamgylch, a gwylio symudiadau gelyn o ba gyfeiriad bynag y deuai. Y mae ganddo ei gelloedd tanddaearol cyfleus at gosbi troseddwyr, muriau llydain cedyrn, a llyn ar y lawnt o'i flaen, gwasanaethgar naill ai i ddiffodd tân a gyneuwyd gan elynion, i foddi y rhai oeddynt yn rhy ddrwg i'r ddaeargell, neu i nofio pleserfadau yn ystod heddwch yn y gadlys. A phe'r aethai yn galed ar y gwarchodlu, wele goedwigoedd cysgodol gerllaw, a nentydd llochesol tu cefn i hyny yn ymgolli mewn mynyddau anhygyrch; a gallasent encilio yn iach ddiangol, o fynydd i fynydd, ac o gwm i gwm, hyd yr Eryri. Ac onid oedd yr ardal yn cael ei britho yn mhob cyfeiriad gan lanerchau a barent gofio'r dyddiau gynt? ac a enynent wroldeb yn y galon fwyaf llorf? Tros y gefnen acw, y mae Coed Eulo, neu Iolo, lle y cafodd Dafydd a Cynan, meibion Owain Gwynedd, y fath oruchafiaeth ar luoedd ymosodol Harri II. Moel Gaer drachefn, hen amddiffynfa Gymreig gadarn, a wrthsafodd lawer ymosodiad. Maesgarmon wedi hyny; pwy na chlybu am byburwch y saint-filwyr Celtaidd Garmon a Lupus yn dyfetha y Ffichtiaid, neu y Gwyddel Ffichti fel y gelwid hwy gynt, trwy orhoian y fanllef "Aleliwia." Castell Gwyddgrug, Monte Altus y Rhufeiniaid, ar gopa Bryn y Beili, a thafod hanesiaeth yn ei ben crwn yn traethu am lawer tro gwaedlyd a fu o'i ddeutu. A Chastell Caergwrle, ar yr ochr arall, trigfa unwaith i Gruffydd Maelor a Dafydd ab Gruffydd, brawd Llywelyn ein llyw ola." Os oes a wnel golygfeydd hanesyddol rhyfelgar â ffurfiad cymeriad dyn, yna pa ryfedd i fachgen craff sylwgar fel ein harwr droi allan y fath ryfelwr?

PENOD III.

DEALLODD L. G. Cothi yn fuan ar ol cyrhaedd y Twr, nad oedd ei gyfaill Reinhallt adref, ei fod wedi croesi'r mynydd i Ddyffryn Clwyd, ac na ddychwelai hyd foreu dranoeth. Ond yr oedd Sion, ei frawd hynaf yno,-creadur caredig, diniwaid, yn benthyca ei holl oleuni bron oddiar Reinhallt, ac yn credu 'n ddiymwad nad oedd ei fath yn y byd. Ac yr oedd Morfudd a Gwenllian yno, y ddwy chwaer y soniasai 'r estron hwnw ar y mynydd am danynt. Megys mai y lle cyntaf yr edrych crydd arnoch ydyw eich esgid-"pawb at y peth y bo"-felly fel achyddwr yr edrychai Glyn Cothi gyntaf ar bawb. Tarawyd ef yn y fan fod gwaed Normanaidd yn y teulu, a bod pryd a gwedd Gwenllian, beth bynag, yn dwyn delw y welygordd ddewr a groesodd i'r Ynys hon gyda Gwilym y Gorchfygwr, o ba un yr ymsefydlodd cynifer yn arglwyddi ar Gyffiniau Cymru, gan briodi Cymryesau, a chyflwyno i'w plant daldra corphorol a balchder ysbryd y tad yn gyfunol a thłysni wynebpryd a bywiogrwydd tymher y fam. Wrth syllu a gwrando ar Forfudd, y chwaer ieuengaf, methai ddyfalu pa un i'w edmygu uwchaf, ai gwynder ei gwedd liliaidd, cochni cwrelaidd ei gruddiau a'i gwefusau, ei ffurf luniaidd, ei gwallt du modrwyog, ynte ysgafnder ei hysbryd a ffraethineb doeth ei hymadroddion. Meddyliai wrth edrych arni am ddwy fraich o gywydd a ganasai Dafydd ab Gwilym i Elen Lueddawg:

"Yr hon a beris yr ha'
A thrin rhwng Groeg a Throia."

Braidd na synasai fod gauaf yn ymweled âg Ystrad Alun ar ol i'r rhian hon wisgo ei gwên berswynol o'i fewn; ac nid oes anmheuaeth na bu Morfudd (yn anfwriadol mae yn wir) yn achlysur aml i frwydr law-law, ac unwaith neu ddwy bu ornestau mwy gwaedlyd am ei ffafrau. Buasai hen naddwyr Groeg a Rhufain yn falch o'i cherflunio a'i chwanegu at eu Ceinion, ac ni ddiystyrasai Cattwg Ddoeth luaws o'i hymadroddion synwyrgraff.

Yr oedd tlysni Gwenllian yn perthyn i ddosbarth arall. Prin y gellid dyweyd fod ei hwynebpryd hi i fyny â safon tlysineb clasurol. Cyfliw oedd ei gwallt a'r eiddo Llio Rhydderch, am yr hon y dywedai Dafydd Nanmor:

"Ai plisg y gneuen wisgi?
Ai dellt aur yw dy wallt di?"


Yr oedd y Norman yn lled amlwg yn y gwallt hwnw. Ond er na feddai Gwenllian degwch caboledig Morfudd, yr oedd natur wedi ei chynysgaeddu hithau a theithi rhagorol eraill—agosrwydd cynhesol yn tarddu oddiar galon serchus a'i gwnelai yn gryfach gwrthddrych serch nag hyd yn nod ei chwaer brydferth.

Yr oedd yno hefyd lanc ieuanc o filwr o osodiad gwisgi a phryd a gwedd teg a dymunol; ac ni fedrai Glyn Cothi ar faes medion y ddaear ddyfalu i'w lawn foddlonrwydd pwy ydoedd nac o ba le yr hanyw. Nid oedd yn un o'r teulu, ond casglai 'r Cofiadur craff, oddiwrth amrai fân bethau, ei fod ar y llwybr oedd yn arwain i hyny. Ei enw ydoedd Goronwy ab Gredifel. Yn yswil foddhaus yr edrychai Morfudd arno; ond gwaith parhaol Gwenllian wrth siarad âg ef ydoedd ymryson crasineb "ofregedd" (gwerinair arferedig yn y parth hwn o'r wlad am gellwair, ysmalio, &c.); a Gwenllian, rhaid cydnabod, oedd y ddoniolaf gyda'r gwaith o ddigon. Cyfeiriai at Forfudd fel ei "ddyweddi," —" Diweddi yn wir!" ebai hi, "y mae hi yn cyfrif ei phaderau lawer gwaith yn y dydd, ac yn ymgroesi cyn fynyched a mynaches." Gwridai'r ddau at eu clustiau, a mwngient mai eiddigus ydoedd hi am nad oedd daro arni hithau. "Os nad yw carwriaeth yn rhywbeth amgen i daro," ebe'r gellweires lawen, gwared ni rhagddo." Yna torai allan i suo-ganu yr hen benill sydd ar lafar gwlad hyd y dydd hwn, ond a gyfansoddwyd, mae yn dra thebyg, gan rhyw awenydd Lancastraidd yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau:

"Dacw 'nghariad i ar y bryn,
Rhosyn Coch a Rhosyn Gwyn;

Rhosyn Gwyn sy'n bwrw 'i flodau,
Rhosyn Coch fydd fy nghariad inau."

Pa gyfaredd oedd yn y pedair llinell gyffredin hyn i Oronwy ab Gredifel? Y mae yn gwrido o glust i glust; trwy fawr ymdrech y ceidw wên ar ei enau; ac etyb hi wedi mòni braidd,

"Na, Gwenllian," ebai ef, "ni chyll y Rhosyn Gwyn mo'i flodeu tra rhed dwfr yn afon Alun; tra bo rhianod teg yn rhodio'i glanau; a thra bo chwiorydd i wisgwyr y Rhosyn Coch yn ——

"Yn ba beth?" ebe Morfudd, yr hon a darawodd i mewn i'r cwmni; cam-enw ydyw galw y galanastra gwaedlyd presenol yn 'Gad y Rhosynau.' Cabledd ar addurniadau per yr ardd a'r maes. Mwy gweddus eu galw ar enw Wermod, Cegid, neu rhyw lysieuyn chwerw neu farwol arall, os rhaid ydyw myned i faes dilychwin natur i fenthyca enwau ar greulonderau y ddwyblaid sydd yn rhwygo'r wlad yn llarpiau yn y dyddiau hyn."

"Gwir, gwir," ebai Lewis, "fel y rhwyga blaidd rheibus yr oen bach, fel y rhwygodd cwn annwn Caer fy eiddo i oddiarnaf,

"O mynasant fy na mewn naw-sach,
Naw ugain mintai o gwn mantach;
Mynwn pe'u gwelwn hwy'n gulach-o dda
Yn moel y Wyddfa yn ymleddfach.
Y dwr a'u boddo tra fo tref iach
Y tân a'u llosgo peten' llesgach;
Yr awel a'u gwnel gan' niwlach-gwinau
Ond yr eglwysau yn dir glasach."

Ond

"Eu crwyn a'u hesgyrn crinion—a'u gàrau
A dyr gorŵyr Einion
Yn mhob mangre'n Nghaerlleon
Efe a ladd fil a'i òn."


"Dyna gylymu iawn "ebai Goronwy," gwaith y bardd o Lyn Cothi, mi dyngaf."

"Darnau o awdl a wnaeth y prydydd hwnw," ebai Lewis, "heddyw'r prydnawn yn chwerwdod ei enaid i Saeson Caer."

"Penygamp," ebai Morfudd.

"Ystwythber," ebai Gwenllian.

"Diolch yn fawr i chwi," ebai'r prydydd. "Y mae canmoliaeth rhai pobl yn werth ei gael, ac yn haeddu ei brisio. Ond at hyn yr wyf fi yn cyfeirio; Goronwy ab Gredifel, nis gwn pa'r un yw dy blaid di, er nad oes angen dewin ychwaith i wybod. Yr wyf yn dy hoffi am dy fod yn Gymro; yr wyf yr un modd yn hoffi Rheinallt ab Gruffydd, er nas gwelais ef eto, am ei fod yn Gymro, ac nid am ei fod yn pleidio teulu teyrnlinach Lancaster. Lancaster a York, beth ydynt ini? Bum i yn filwr i Siasper Tudur, ewythr frawd ei dad i Harri Tudur, ffoadur yn awr yn Ffrainc, a'i bleidwyr er hyny yn hyderus y gwelant ef cyn hir yn llawio teyrnwialen Prydain; ac yr wyf hefyd wedi canu i Syr William Herbart, ac i Syr Risiart ei frawd, dau Gymro nad oes yn myddin Iorwerth eu dewrach. Nyni y Cymry sydd yn ymladd, a'r Saeson yn ein hanos; nyni sydd yn dioddef, a hwythau'n byw'n fras ar eu bloneg. Cymerwch fi yn esiampl—ydwyf fel llwdn wedi ei gneifio yn nyfnder gauaf."

"Ni ddylit gwyno mor dost," ebai Goronwy, "diolch ar dy ddeulin i Fair a'th angel a ddylit, a dweyd dy bader ac ymprydio dridiau."

"Paham?"

"Gwrddaist ti ddyn ar y tir gwyllt heno?"

"Dyn, neu yspryd cyn wyllted a'r tir."

"Dy angel gwarcheidiol ydoedd; Robin Bondigrybwyll,"

"Tybiais mai yspryd y Cwtta Gyfarwydd ydoedd," ebai Lewis, "heb hamdden i ddodi dim yn ei frawddegau ond berfau ac enwau. Pa le y treiglodd a pha bryd y dychwel?"

" Y mae treigl Robin fel llwybr y gwynt, yn anhysbys i bawb ond efe ei hunan; ac i ba drybini bynag y dringo, efe a ddisgyn fel cath o bren yn iach ddiangol ar ei draed. Un o anwyliaid rhagluniaeth ydyw Robin. "Hyn a ddywedaf," ebai'r llanc, "yr oedd gwyr Caer fel dywalgwn yn dy ymlid di heno; a phe daethent o hyd i ti ni buasai ond "Hwi'r Cwta, a Hwir Coch," am dani; a buasai Lewis Glyn Cothi yn mhlith y beirdd ymadawedig. Yr oedd Robin a minau yn dy wylio di a hwythau o ben y Twr yma; ac yn fuan iawn diflanodd Robin; efe, mae'n ddiau, a'u taflodd oddiar dy drewydd. Y mae Bondi. yn dod i'r gwyneb bob amser y byddo ei eisiau."

Treuliwyd rhai oriau fel hyn yn taflu golwg dros bethau. Yr oedd Sion yn y cwmni, ond rhan fechan a gymerai yn yr ymddiddan. Yr oedd yn amlwg nad edrychai Sion yn ffafriol ar ymweliad Goronwy, canys anesmwythai a gwridai pa bryd bynag yr edrychent yn llygaid eu gilydd. Yr un mor amlwg hefyd ydoedd, fod enwi Reinhallt yn peri anesmwythder i Oronwy; ac oddiwrth hyn hawdd casglu nad oedd Reinhallt ac yntau yn gyfeillion, ac fod yr ymweliad hwn yn ddiarwybod i'r blaenaf.

Ond daeth y swper i'r bwrdd, a dyneswyd ato yn ddiolchgar, er na chynwysai ond ffrwyth y gerchen. Ni chaniatai caledi yr oes waedlyd hono i gigfwyd ond anfynych hulio byrddau hyd yn nod y pendefigion. Rhwyddheid llwybr y rhynion gan y medd archwaethus, ac yr oedd blas blodeu persawr Ystrad Alun yn melysu pob dyferyn o hono. Ac wedi bwyta o bawb ei wala, dygwyd hen delyn y teulu yn mlaen, a rhedodd bysedd meinion Gwenllian ar hyd ei thànau gan dynu mêl-odlau o'i chrombil, na ddaw eu bath ond o'r offeryn cerdd cenedlaethol Cymreig yn nwylaw menyw deg. "Hun Gwenllian" oedd yr alaw a chwareuid, ond cyfaddasai'r datganwyr gerddfesurau eraill at y miwsig. Tarawodd Goronwy i fewn yn nghyntaf:

"Er nad wyf ond prydydd gwan,
Mi folaf Ddyffryn Alun;
Swynion fil sy' yn y fan,
A gwenau haul a gwanwyn,
Ydyw gwenau yn y Twr
Dewr effraw Dwr y Dyffryn."

Yna cymerwyd edefyn y gerdd i fyny gan Sion ab Gruffydd:

"Os dewis dyn y Rhosyn Coch,
Dilyned hwnw'n dyn,
A dywedaf fi ' yn iach y b'och'
Wrth onest Rosyn Gwyn;
Boed pawb yr un ar faes y gad
Ag ar yr aelwyd glyd,
Gogoniant penaf tref a gwlad
Yw dynion cywir fryd."

Cyn i'r penill ddwyn yr effaith a ddymunai ei ddatganwr, dechreuodd Morfudd—

"Po gwynaf y croen a pho cochaf y ddeurudd,
Tlysaf i gyd a fydd gwrthddrych y serch;
Po cryfaf fo lliwiau y wawrddydd ysplenydd,
Harddaf i gyd yn meddwl pob merch;

Cilied y Cymry o faes y gelanedd
Pa'm rhaid i Gymro ladd Cymro mor rhad;
Cymro yn ngwrth Cymro yn delio dialedd
Dyna trwy'r oesoedd fu melldith ein gwlad."

Canodd y bardd o Lyn Cothi hefyd ychydig freichiau o gywydd. Codai yr hwyl yn gyfatebol i'r syniadau a ddatgenid. Yr oedd pawb yn cydweled â phenill Goronwy; pawb ond y sawl a deimlent oddiwrth golyn penill Sion a ganmolent ei athrawiaeth; teimlai pawb fod gwir galarus yn mhenill Morfudd; ac enwogrwydd Glyn Cothi a roddai iddynt fwynhad yn ei ganu. Yr oedd pob perchen synwyr cyffredin yn yr oes hono yn gallu rhigymu penillion cyffelyb i'r rhai uchod; tarddai hyn oddiar eu hanianawd genhedlaethol naturiol yn nghyntaf, ac yn ail oddiar ymarferiad mynych â'r gwaith—felly y bwrient heibio lawer o'u hamser hamddenol.

A phan y teimlwyd mai melusach cwsg na mêdd, a chau llygaid na chanu gan dant, enciliwyd i roddi pwys pen ar obenydd mewn tawelwch na wyddai ond ychydig am dano yn y cyfnod terfysglyd hwnw.

PENOD IV.

CYN caniad y ceiliog boreu dranoeth, agorodd dorau cedyrn y Twr i ollwng trwyddynt arwr y lle. Yr oedd wedi marchogaeth tros Fwlch Pen Barras o Ddyffryn Clwyd gefn trymedd y nos; ac yn yr oes hono cyflawnasai weithred arwrol, pan gyfaneddid pob twmpath a thwyn gan fodau annaearol dychrynllyd, a chan fodau daearol mwy dychrynllyd fyth, sef gwylliaid llofruddiog, na phrisient fywyd dyn yn uwch na bywyd llwynog—y ddau i'w lladd er mwyn yr hyn a geid arnynt. Ac er cryfed ei gyfansoddiad, galwai cwsg am ei deyrnged ganddo yntau; ac wedi ymollwng i afaelion y duw swrth, anhawdd dyfod o honynt. Yr oedd y teulu oll yn ymlwybro er's hir amser cyn iddo ef ymysgwyd o'i anymwybodolrwydd.

Yr oedd Goronwy wedi gadael y Twr erbyn i Lewis godi boreu dranoeth, a chafodd y bardd awgrym neu ddwy led ddiamwys gan y rhianod nad oedd i son am dano wrth eu brawd. Mawr oedd ei awyddfryd, pa fodd bynag, i weled Reinhallt; a rhwng dychymygu pa fath un ydoedd, llunio barnedigaethau newyddion ar wyr Caerlleon, ac ymgyfarchwel lled fynych â'r ysgrepan ledr, treuliodd er ei waethaf rai oriau lled farddonol y boreu hwnw.

O'r diwedd, clywai y disgwyliwr awyddus swn traed yn nesu'n frysiog at yr ystafell yr eisteddai ynddi; agorwyd y drws yn sydyn; neidiodd y bardd ar ei draed; safasant am fynud neu ddau gan edrych yn siriol yn myw llygaid eu gilydd; ac yr oedd cymaint o hynawsedd yn llygaid Reinhallt ac o onestrwydd yn llygaid Lewis, fel y toddodd teimladau y ddau ar fyrder yn llymaid o gyfeillgarwch. Credai'r bardd na welsai erioed harddach dyn. Gwawr ei 25ain mlwydd yn dechreu ymdywallt ar ei wyneb tirf. Dwy lath o daldra, gan sythed a brwynen, ac o gymesuredd difeius, yr hyn a wnelai ei gerddediad ysgafned a rhodiad rhian deg fraich yn mraich â'i chariadlanc yn y ddawns. Duach oedd ei wallt nag aden y gigfran, cochach ei ddeurudd na rhuddwaed brwydr. Cyfliw ei lygaid a nos dywell, a dwy ganwyll o'u mewn fel dwy seren ddysglaer; bwaog ei drwyn fel eryr eryrod Eryri. Iraidd ei farf fel glaswellt ieuanc tan fanwlith Mai; lluniaidd a llyfn ei dalcen a'i wddf a phe naddesid hwynt o'r marmor gwynaf. Ei fysedd o liw ac o lun blodeu tyner yr anemoni; a'i freichiau mor gedyrn a chyhyrog a cheinciau derw, fel pe buasai natur garedig wedi eu planu yno o bwrpas i amddiffyn y ty hardd hwnw yn yr oes waedlyd hono rhag niwaid. Bardd, mae yn wir, oedd Lewis, yn tremio ar wrthddrychau trwy chwydd-wydrau yr awen; ond efe a feddyliodd wrth edrych ar ein harwr am Sandde Bryd Angelun o'r tri a ddiangodd a'i hoedl ganddo o Gad Gamlan gynt,—pawb dybient mai angel o'r nefoedd ydoedd.

"A thydi ydyw Lewis Glyn Cothi?" ebai Reinhallt, "adwaen dy enw, darllenais dy waith, a chlywais dy ganmol; oni phriodaist weddw yn Nghaer? ac oni phreswyli di yno? Pa fodd mae'r Cwn y dyddiau hyn? Nid yw'r dyddiau hyn yn "Ddyddiau'r Cwn." Y maent fel y creadur is hwnw yn ngraddfa cread:

"Chwefror chwyth
Ni chwyd y neidr oddiar ei nyth."


"Codant, hwy a godant, wron," ebai Lewis, "er mai nadrodd sleimllyd ydynt oll o Robert Brown, eu cynfaer lladronig, hyd Sion y Crythor Cymreig fradwr halogedig yn erbyn ei wlad a'i Dduw, a wystłodd ei grwth rhinclyd a hyny o dalent garbwl sydd ganddo i foddio blysiau estroniaid, a chlepian pobpeth a wyr wrth yr awdurdodau am ei gydwladwyr gorthrymedig. Ei geg ffals ef a agorodd, ac ohoni y daeth fy holl anffodion i. Ti a wyddost, wron, am yr ysbryd hwnw o eiddo Iorwerth Hirgoes, sydd yn parhau i boeni ein cenedl, ar lun deddfau gorthrymus yn erbyn y Cymry; ac y mae yn eu mysg gyfraith yn atafaelu meddianau pa Gymro bynag a briodo Saesnes. Minau yn ddifeddwl a droseddais y ddeddf anfad hono, mi a briodais Doli Cheshire, menyw 'ffamws' yn ol ein hiaith ni yr Hwntwys. A dyma fi ger dy fron gan dyloted a llygoden eglwys—heb ddim ond yr ewinedd. Fy holl eiddo wedi ei yspeilio a'i dynu trwy ddanedd Cwn Caer. Reinhallt ab Gruffydd ab Bleddyn ab Dafydd ab Grono ab Einion, ac felly yn mlaen hyd Fleddyn ab Cynfyn, a phob ab o honynt yn Gymry gwladgar, a digon o ddur yn eu gwaed ac o nerth yn eu breichiau a thân yn eu calonau i losgi yn ulw bob gorthrwm, ac i ladd yn gelain bob gorthrymwr! yr wyf yn atolygu arnat ddial fy ngham. Ac yn fy nghamwri i, ystyr y camwri a dderbyniodd fy nghenedl, canys y mae i estron-genedl sarhau person unigol o genedl arall yn sarhad ar y genedl hono. Rhaid rhoddi'r ysbryd gorthrymus hwn i lawr. Pwy sydd ddigonol i'r gwaith? Rhodder gwlad y treiswyr yn oddaith, a dechreued y goelcerth yn Ngaerlleon. Pwy ond tydi Reinhallt? Onid oes waed Cynfrig Efell yn dy wythienau, ac onid yw y gwaed hwnw yn awr yn chwyddo dy wythienau, ac yn rhuddo dy ruddiau?

I Reinhallt mae cledd ar groenyn—yn graff,
Ab Gruffydd ab Bleddyn;
Rhag hwn yn curo canyn'
Y Gaer grach a'i gwyr a gryn.

Y mae natur wedi gwneyd Reinhallt yn filwrwedi rhoddi iddo gorff hardd a braich gref Filwr! diosg dy fraich; amddiffyn dy wlad, dy wlad anwyl sydd yn gwaedu tan fflangell y gelyn. Par i'r gelyn son am danom eto, megys cynt, fel cenedl o bobl ddewrion, ac nid llyfrgwn diamddiffyn. A bydd di flaenor arnom. Arwain ni i ddedwyddwch cenedlaethol, a'th hunan i orsedd gogoniant a pharch."

Gwrandawai Reinhallt ar yr araith apeliadol hon gyda chalon agored. Ffaglai ei lygaid yn fynych gan ddigofaint, a rhedai ei law ddeheu yn ddiarwybod iddo at garn ei gleddyf, ac yr oedd lluaws o eiriau y bardd yn ei daro fel ergydion gwefrdan. Buasai dyn drwg-dybus yn amheu ai nid ffalsedd oedd y molawdiau hyn, ond boneddwr mawrfrydig oedd Reinhallt yn cymeryd dyn ar ei air; ac y mae yn ddilys hefyd nad oedd geiriau tanllyd y bardd ddim amgen na'i deimladau gwirioneddol wedi eu gwisgo mewn iaith. Y mae rhagrith yn un o'r trethi hyny y rhaid i oesau "caboledig" ei thalu am eu gwareiddiad; yn yr oesau "anwaraidd," dyfethid rhagrithwyr ffals fel creaduriaid annheilwng i fwynhau bendithion bywyd.

Ymdrechodd y milwr ieuanc lywodraethu ei hun am rai mynudau ar ol i'w gyfaill dewi. Ond o'r diwedd, neidiodd ar ei draed, a tharawodd y bwrdd â'i ddwrn cauedig, nes dychrynu Lewys

"Mi a'i gwnaf," ebai ef, "pe collwn bob gwr a feddaf, a phe syrthiwn fy hunan yn yr antur. Os gall fy nynoliaeth ddal i edrych yn ddidaro ar orthrwm fel hyn, yna goreu bo'r cyntaf imi ei dadwisgo." Yna archodd i'r distain alw ato y Cadben Ifan, modd yr ymgynghorent ac yr ardrefnent ryfelgyrch beiddgar yn ddioed.

PENOD V.

"Y MAE pobpeth yn barod, fy meistr; nid oes yn eisiau ond Bondigrybwyll, fel y gelwir ef," ebai Cadben Ifan. "Haner can'wr llawn arfau, deuddeg o honynt ar feirch, tri chludwyr ymborth; a Charnwen, dy gaseg, fel y gweli, yn prancio dan ei chyfrwy, gan droi ei llygaid nwyfus yn disgwyl am danat."

Neidiodd Reinhallt i'r gwrthaflau, ac yr oedd y fintai yn barod i gychwyn i'w thaith. Traddododd y blaenor ychydig eiriau cynwysfawr calonogol i'w fyddin fechan, gan eu hysbysu fod ganddynt daith beryglus o'u blaenau, ond fod iddi amcan cysegredig, sef dial cam y diniwaid. Fel yr oeddynt yn fechgyn gwlad orthrymedig, atolygai arnynt ymddwyn yn deilwng o Gymru. Dinystr llwyr a fyddai methu yn yr ymgais, ac anrhydedd mawr fyddai llwyddiant. Ni hysbysodd hwynt pa le yr oeddynt ar fedr myned—[nid yw hyny ddoeth bob amser mewn cadlywydd].

Safai'r bardd gerllaw, a phrin y rhaid dweyd yn orlawn o foddhad; a thrwy ganiatad Reinhallt, dywedodd yntau ychydig eiriau calonogol. Adgoffhaodd iddynt Gynfrig Hir, y llencyn dewr hwnw o Edeyrnion a waredodd ei dywysog Gruffydd ab Cynan o garchar Caerlleon, trwy ei gludo oddiyno yn gadwynog ar ei gefn; a chan gymhwyso'r ffaith hono at yr amgylchiadau presenol, dywedai, "Os gall un Cymro gyflawni'r fath orchestwaith, fe all haner cant wneud haner canwaith mwy." Pan ddeallasant yr awgrym mai i Gaerlleon yr ymdeithient, torasant mewn bloedd o orhaian uchel, canys yr oedd ganddynt aml i "hen chwech" eisiau ei dalu i Gwn Caer. Deisyfai Lewis yn daer gael myned gyda hwynt, ond atebai Reinhallt nad cyf addas i fardd fod man y dynoethid arf yn ei erbyn.

Yr oedd yn nosi'n dawel a heddychol pan gymerai'r olygfa ryfelgar hon le yn nghadlys y Twr. Tawel oedd y Fama, a'r Fenlli a Moel Gaer, yn eu penwisg o niwl; tawel iawn oedd yr afon Alun ar ei gwely esmwyth o raian mân, a chynfas o gaddug yn ei gorchuddio; dystaw a thangnefeddus y ser, llygaid y nefoedd, newydd ymagor i wylio byd cysglyd yn absenoldeb yr haul; acer nad oedd y lloer ond haner llawn, ymddangosai yr haner oedd yn y golwg mor dawel a boddlawn a phe buasai yr haner arall yn ei chesail.

PENOD VI.

YN mrig yr un hwyr, cyfarfu dau ddyn ar un o heolydd Caerlleon. Dau Gymro oeddynt, ac oddiwrth ddull cynes eu cydgyfarchiad, hawdd canfod fod cydnabyddiaeth flaenorol rhyngddynt. Gwladwr gwledig ei ddiwyg oedd y cyntaf, a thipyn o lygad croes ganddo, gwridgoch, byr a llydan o gorph, byrbwyll a sydyn o osodiad; a'r ail ydoedd filwr ieuanc o swyddog gwisgi, tal, unionsyth, rhadlon, deallgar, a Rhosyn Gwyn yn ei gap.

"Bondigrybwyll," ebai'r gwladwr, tan ysgwyd llaw ei gyfaill, "llaw yn llaw, calon wrth galon. Goronwy, beth sydd yn y gwynt?"

"Baner Iorwerth frenhin sydd yn y gwynt," ebai'r swyddog, "a phen moel Harri'r Chweched sydd yn y gwynt; a'r nifer luosocaf o'i Castriaid[1] wedi myned allan o fyd y gwynt, i wlad tyrchod daear. Aethant yno o faes rhyfel Hexham, yr wythnos ddiweddaf. Glywaist ti mo'r hanes Robin?"

"Na chlywais," ebai Robin, "er cynted y teithia newydd drwg, cymerodd hwn yna wythnos i gyrhaedd fy nghlustiau i. Bondigrybwyll, breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys, mae'n debyg, Goronwy?"

"Uchenaid gwrach ar ol ei huwd, Robin bach," ebai Goronwy, "ni waeth i ti beidio ceisio dileu sylwedd caled, y mae'n ffaith anwadadwy fod Harri bellach yn ffoadur truenus yn ngwisg bugail, o gynefin i gynefin y dydd, ac o ogof i ogof y nos; ac y mae Robert Brown, cynfaer y ddinas yma, yn dathlu'r fuddugoliaeth heno mewn gwledd. Adwaenit ti Robert Brown?"

"Bondigrybwyll, ffwl a chythraul mewn croen llo," ebai Robin, "ac y mae'n debyg y byddi dithau yn ei wledd? Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle!"

"Yr wyf yn un o'r gwahoddedigion," ebai'r milwr, "ond nid yw'r dyddiau drwgdybus hyn yn caniatau i ddau Gymro ymddyddan yn hir ar yr heol. Ymneillduwn am gorniad o fetheglin i Westy'r Baril."

Cerddasant yn araf at dafarndy a safai ar gwr gorllewinol y ddinas gaerog, ac un o'r tai talaf ydoedd yn Nghaerlleon, a llechweddau dwyreiniol swydd Flint i'w gweled yn amlwg o hono ar dywydd clir, yn enwedig o'i ystafellau uwchaf. I un o'r goruwch-ystafelloedd hyn y dringodd y ddau, modd y caent lonydd a thawelwch oddiwrth y genfaint feddw a heigient waelod y gwestty. Goruwch y niwl a ddechreuai ymgodi oddiar y Ddyfrdwy tremiai y milwr yn edmygus ar ei wlad enedigol; tra yr oedd Robin yn cadw ei lygad yn ddibaid ar allt yr Hob; i ba beth, nis gwyddai ei gyfaill. Yna cymerasant edefyn eu hymddyddan blaenorol i fyny.

"Y mae yn ddrwg genyf dros Harri," ebai Goronwy, "er mai chwelan penfeddal ydyw."

"Duw helpo pob dyn sydd yn wrthddrych tosturi Brogiad,"[2] ebai Robin.

"Duw helpo pob dyn sydd yn wrthddrych tosturi dyn," ebai'r milwr, tan ocheneidio.

"Ond beth am dosturi merch? beth am y merched?" ebai Robin.

"Gwaeth fyth," ebai Goronwy, "gwaeth fyth!" "Gwell genyf inau fod yn wrthddrych serch pob lodes lân a welais erioed na'i thosturi. Glywaist di, Frogiad, fod Morfudd yn myned i'w phriodi?" "Morfudd! priodi! pwy! na chlywaisi," ebai'r swyddog, mewn mawr syndod.

"Chlywais inau ddim," atebai Robin, gan ail osod ei olwg drachefn i orphwys ar allt yr Hob. "Ond pwy ydyw'r darpar gwr?"

"Ei chariad," ebai'r cellweirddyn yn bur dawel, "mae'r merched Castriaidd yn arfer priodi eu cariadon; hyny ydyw, os bydd eu brodyr yn foddlawn; os na byddant yn foddlawn, wel, nis oes dim i'w wneyd ond priodi cariadon eu brodyr; neu, yr hyn sydd yn waeth fyth, peidio priodi o gwbl." Edrychodd Goronwy yn ddychrynllyd o ddifrifol. "Eglura dy hun, yr haner pan cellweirus," ebai ef, pe gallwn gredu am eiliad fod Morfudd yn anffyddlawn i'w gair, myn y Gwr sydd uwchben, byddwn inau yn anffyddlawn i'm bywyd fy hun; mi a drown y deml o gnawd hon sydd am danaf y tu gwrthwyneb allan."

Ond er gwaethaf yr apeliad nerthol hwn a wnai y milwr ar ran ei deimladau, daliai y gwladwr i ymdderu:—

"Y mae Reinhallt mor anhawdd ei blygu â derwen; ac yn dal bob amser fod Rhosyn Coch pybyrwch yn paru yn dda hefo Rhosyn Coch prydferthwch. Yn wir, y mae yn erbyn cymysgu lliwiau."

"Oes sicrwydd mai dyna ydyw ei syniad?"

"Cyn sicred a bod dwfr y Ddyfrdwy bob amser yn rhedeg i'r mor."

"Aros di Robin, yr hen walch! nid yw'r Ddyfrdwy yn rhedeg i'r môr ar ddistyll llanw."

"Ei bai hi yw hyny," ebai Robin, yn sych ryfeddol.

Ar hyn, canodd cloch y cyfnos, yn rhybuddio dinaswyr Caerlleon i roddi eu tanau allan; ac yn gorchymyn pawb i brysuro o tan eu cronglwydydd eu hunain. A chan nad oedd nemawr faeth ar esgyrn ymadroddion Robin, dymunodd Goronwy "Nos dda," gan ddweyd fod yn llawn bryd iddo ef fod yn y wledd.

Ond yn lle myned yn syth. i'r wledd, trodd i lawr at yr afon, a thrwy y naill heol ar ol y llall hyd oni ddaeth at fwthyn isel ei fondo, ac afler ei ddiwyg. Agorodd y drws mor sydyn, fel y dychrynodd unig breswylydd y bwthyn—hen wrach gibog, yr hon oedd ar y pryd yn pendwmpian uwchben y marwor, a'r hon a neidiodd i fynu gan ofyn mewn llais cras, fel crawciad cigfran wedi crygu, ac mewn Cymraeg glan gloyw, yn enw y Goruchaf pwy a pha beth oedd yno?

"Tro i'th lyfr, Cadi Gyfarwydd," ebai'r milwr, a chei weled nad oes yma neb amgen cydwladwr gonest, o'r enw Goronwy ab Gredifel, a fynai wybod genyt ei dynged."

"Ira fy llaw," ebai'r wrach.

Nid oedd y llanc yn deall yr ymadrodd.

"Mèn wichlyd ydyw mèn heb ei hiro," ebai'r ddewines.

Meddyliai Goronwy fod mawr a dwfn wybodaeth y ddewines wedi dyrysu ei synwyrau. Wyt ti yn ynfydu, dywed?" ebai ef.

"Welaist ti ynfyd erioed a wrthodai weithio cyn cael tâl. Myn holl swynwyr yr Aipht, ac astronomyddion Caldea, a phrophwydi Baal duw Ecron, nid agoraf fy mhig i ateb gofyniad arall o'r eiddot, oni theli imi aur ar fy llaw. A chofia di, filwr, na wna rhyw farciau Castriaidd diwerth sydd ar led gwlad y dyddiau hyn mo'r tro i mi. Aur, aur treigliadwy, neu ni waeth i ti anerch Moel y Fenlli ar lafar na minau."

"Nid oes genyf aur; ond dyma i ti ddarn o arian;—y mae arian gan Gymro cystal ag ydyw aur gan Sais."

Ac yr oedd yn amlwg ddigon y credai yr hen wrach fod arian mewn llaw yn well nag aur ar dafod. "Pa beth a fynit ti â'r, oraclau, filwr?" ebai hi.

"Mi a fynwn wybod a rydd tynged i mi y ferch a garaf."

Goleuodd Cadi ganwyll frwynen, er mwyn ymgynghori a'i llyfrau; ac os oedd yn bosibl perffeitho yr ymgnawdoliad hwnw o grasineb trwy ychwanegu at grasineb y llais a lefarai fel oracl yn y tywyllwch, yr oedd y cyfryw chwanegiad mae yn ddiau i'w gael yn ymddangosiad garw yr hen Gymraes hirben tre yn troi y naill ddalen o femrwn ar ol y llall wrth oleuni gwan y frwynen. Trodd luaws o ddalenau yn olynol, ond ni chredai Goronwy ei bod yn darllen dim; yn wir yr oedd yn amheus iawn ganddo a allai hi ddarllen o gwbl. Llygadrythai yn hir ar rai o'r arwyddluniau cyfrin a frithent y dail. Pesychai hefyd gryn lawer fel un yn teimlo pwysigrwydd ei swydd. Ac wedi enyd hir o ddystawrwydd mynwentaidd, llefarai rhywbeth tebyg i gigfran o grombil yr hen ddewines:

"Y mae yn arferiad yn ein plith ni." ebai hi (cyfres o besychiadau), "ddarlunio gwrthddrychau eu serch i'r sawl a ymgynghorant â ni. A fyni dithau ddysgrifiad o Forfudd y Twr?"

"Nid i ymofyn dysgrifiad o Forfudd y daethum atat ar yr awr anamserol yma o'r nos, Cadi; y mae ei darlun eisioes yn ddwfn ar lech gysegredig fy nghalon; ond i ymholi os yw'r duwiau yn foddlawn."

"Ydynt," ebai'r ddewines, "un ffordd; nag ydynt, ffordd arall."

"Eglura," ebai Goronwy.

" Y mae i Forfudd frawd, ewyllys yr hwn sydd mor anhyblyg a thynged ei hunan. Rhaid iti naill ai plygu yr ewyllys hono neu enill ei serch. Plygu ei ewyllys nis gelli."

"Ond pa fodd yr enillaf ei serch, ynte?"

"Trwy arbed ei fywyd," ebai'r ddewines."

"Pa le, pa fodd, pa pryd, y caiff Goronwy ab Gredifel gyfleustra i arbed bywyd Reinhallt ab Gruffydd o'r Twr?"

"Yn nghynt nagy disgwyli. Hwyrach mai mewn breuddwyd heno; cadw dy lygaid yn agored, a'th gledd yn finiog. Nos dda it', filwr. Dos," ebai Cadi, gan ddiffodd y frwynen, agoryd y drws, a thrwy ei hymddygiad cystal a phe rhoisai droediad i'w hymwelydd tros y rhiniog allan i'r heol gul, a chauodd y drws yn ddigon difoes yn ei wyneb.

"Nos dda it', ellylles, neu brophwydes, pa un bynag ydwyt; 'does neb fawr ddoethach nelo hyny glywo genyt ti a'th fath," ebai'r milwr wrtho ei hun, gan ddychwelyd yn brysur, ac edrych ar dde ac aswy, rhag fod rhywun yn ei weled yn ymdaith felly gefn trymedd y nos yn y fath le. A thra yr oedd ef yn hunan-sibrwd ar ei lwybr, "Pethau rhyfedd ydyw dewiniaid," yr oedd hithau yn chwerthin yn ei llawes ac yn dweyd, "Dyna un pleidiwr i ymgyrch Reinhallt heno, beth bynag."

Fel yr oedd Goronwy yn brysio yn mlaen, daeth dyn (gan belled ag y gallai ef farnu yn y tywyllwch) yn bwtsh i'w gyfarfod; a chiliodd yr un mor sydyn yn ei ol. Pwy a pha beth ydoedd nis gwyddai; bu yn dyfalu am ychydig beth ydoedd; ac os dyn, pwy? Ond llithrodd ei fyfyrdodau yn fuan at y neithior— ei bod weithian wedi dechreu, a goreu po cyntaf y lluniai rhyw esgusawd dros ei anmhrydlondeb. Cyrhaeddodd yno, a chafodd y floddest eisioes wedi dechreu; a'r gwest ar ei draed yn anerch (mor rigil ag y caniatai ei dafod bloesg) ei westeion. Cyfeiriai at fuddugoliaeth yr Yorciaid ar faes Hexham; ac wrth ei ddull pendant yn prophwydo llwyr ddinystr y Lancastriaid, meddyliai Goronwy fod Brown a Chadi Gyfarwydd yn darllen yr un llyfrau. Odid yr agorai un o Saeson Caerlleon ei big yn yr oes hono heb roddi lach i'r Cymry. Ebai ef:—

"Y mae'r Cymry yn Gastriaid i gyd; ond fe laddwyd canoedd o honynt yn Hexham; diolch i Dduw am hyny. Draen yn ystlys Lloegr ydyw'r genedl fechan, ddinod, droednoeth hon er y dydd y glaniodd Hengist, ein tad ni oll, gyntaf yn Mhrydain: a goreu bo'r cyntaf y diwreiddier y ddraen, wreiddyn a changen. (Gan droi at y gwasanaethyddion,)-Dygwch y llestri arian yna a gymerais i a'r penceisbwl ddoe oddiar y prydydd Cymreig gwirionffol hwnw a feiddiodd droseddu un o'n cyfreithiau gonest ni trwy briodi gweddw un o'n dinasyddion, sef yw hono Dolly Cheshire. Dyma nhw. Yfwch win o honynt i lwyddiant Yorciaid, a dinystr eu gwrthwynebwyr, yn enwedig pob Cymro yn mhlith ein gelynion."

Prin y gallai Goronwy gynwys ei hun yn ei groen wrth wrando ar y cabledd iselfoes hwn. Cychwynodd unwaith tuag allan, ond barnodd wed'yn mai rhoddi pwysigrwydd ar beth a ddylai fod islaw sylw a wnai hyny. "Ffwl meddw fel hyn yn siarad," ebai, "nad oes ganddo yr un teithi rhagorol ar ei elw ond gwynebgaledwch; llyfrgi a ffoai am ei fywyd oddiar ffordd cyw ceiliogwydd. A dyma lestri r prydydd, druan, ysgatfydd nad yn meddiant yr archleidr hwn yr arosant; ni chair mo honynt o fachau y Carn-Sais ysgeler hwn mwy nag y ceir caws o ganol corgi."

Aeth y wledd yn mlaen am oriau, cyfeddach ddylesid ddweyd, oblegyd yr oedd dynion yr oes hono wedi dechreu troi nos yn ddydd; ond gan na ddywedwyd dim yn gyhoeddus ynddi ond yn yspryd gwantan Robert Brown, a phob llefarwr yn yr un cyflwr glwth ag yntau; ni a'u gadawn man y maent, er mwyn dychwelyd at hanes eraill sydd yn dal cysylltiad a'r rhamant.

Beth ddaeth o Robin? Wel, bondigrybwyll, efe oedd y sypyn du hwnw o ddynoliaeth a ddaeth yn bwtsh i gyfarfod Goronwy yn yr heol gul; a chan fod ganddo lygaid, yn ol barn lluaws, a welent cystal mewn tywyllwch dudew ag yn ngwyneb haul a llygad goleuni, adwaenodd ei ddyn, a chiliodd gynted gallai oddiar ei lwybr.

"Go lew," ebai Robin, ar ol i'r milwr ddiflanu o'r golwg, "beth a wna Goronwy, tybed, mewn lle fel hyn? Deunydd crafiad arno eto."

Ac wedi cael y llwybr yn rhydd, hwyliodd ei gamrau mor ysgafndroed fyth ag y medrai, gan y buasai yn enbyd iawn arno pe cawsid ef yn yr heol yr amser hono ar y nos. Ac i ba le yr aeth, a drws pwy a agorodd ond drws Cadi Gyfarwydd. Hi a adwaenai swn ei droed, a'i ddull yn codi'r glicied; ac o ganlyniad, ni chynhyrfwyd hi megys gan ei hymwelydd blaenorol.

"Pwy feddyliet ti fu yma yn cael darllen ei dynged ond Tarpar Morfudd uch Gruffydd o'r Twr. Bachgen hardd glandeg ydyw Goronwy; Duw a'i helpo! yn nghorbwll serch at ei glustiau?"

"Yr oedd yn hawdd iawn i ti ddweyd ffortun y brawd yna, Cadi;" ebai Robin, "oblegyd yr oeddit yn gwybod ei holl hanes eisioes."

"Mi a ddywedais wrtho, ac mi ddywedais hefyd nad oes iddo fawr o sail gobaith am law Morfudd, ond trwy arbed bywyd ei brawd. Wyt ti yn gwel'd peth fel yna, Bondi?"

"Dipyn," ebai Robin, "dipyn."

"Pa le mae dy lanciau y soniet am danynt?" ebai ef.

"Yn y penty draw yn gloywi eu cleddyfau wrth oleu'r ser. Deuddeg, Robin, o fechgyn o'r un wlad ag Owen Glyndwr a Llewelyn. Welaist neu glywaist ti rywbeth oddiwrth bobl y Wyddgrug?"

"Gwelais o groglofft y Baril yr arwydd; ac ni ryfeddwn i na byddant oddiallan i'r muriau cyn y gwaedda'r gwylwyr haner nos."

"Rhaid rhybuddio'r llanciau i fod yn barod i wneud rhuthr ar y porthorion oddifewn y foment y byddo Reinhallt yn ymosod oddiallan."

"Rhagorol iawn," ebai Robin. "Y mae dy ben di yn ddigon hir i fod ar ysgwyddau cadlywydd."

Yfai'r hen ddewines eiriau'r canmolwr, fel yr yf ych sychedig ddyfroedd peraidd, a gwenodd nes haner ymlid ymaith yr hacrwch a'i nodweddai.

"Rhyfedd iawn ydyw serch, Robin," ebai hi.

"Rhyfedd iawn," ebai Robin.

"Deimlaist ti oddiwrtho erioed?י

"Dim, o drugaredd," oedd yr ateb.

"Fel pob llencyn serchnwyfus, mynai Goronwy godi'r llen oddiar lwybr tynged. Fe dyr ei galon wirion cyn pen nemawr amser os na chaiff gyfleusdra i arbed bywyd brawd ei ddyweddi."

"Poed felly y bo," ebai Robin.

PENOD VII.

SAFAI dengwr-a-deugain ar ganol y gwastadedd eangfaith a elwir Morfa Caer, a Reinhallt ab Gruffydd a'i fyddin fechan oeddynt. Y gwyr traed a sychent y chwys oddiar eu hwynebau; a'r gwyr meirch a gurent eu dyrnau yn erbyn eu ceseiliau er mwyn tynu y wyntrhew oddiar eu bysedd, ac eisteddai eu cadweinydd dewr ar gefn ei Garnwen (cyn sythed a brwynen) yr hon a branciai yn nwyfus falch o tano. Er eu bod o fewn haner milldir i'r ddinas gaerog, teyrnasai y fath dawelwch o'u hamgylch fel y gallent bron glywed chwythiadau eu hanadl eu hunain. Yn ystod eu taith, diflanasai y llu nefol o'u golwg o uni un; ac er fod y lloer a'r sêr yn absenol, nid oedd y nos yn dywell iawn; canys er yn anamlwg, goleuadau'r nefoedd a dywalltent rhyw gymaint o'u pelydron trwy y cymylau gwlanog gwynion, fel y gallai y naill yn y fintai weled y llall. Disgynasai y gwyr meirch, a rhwymasent eu ceffylau wrth lwyn o bolion o goed oeddynt yn marw yn raddol uwchben eu traed ar ganol y Morfa. Ni lefarwyd ond ychydig o eiriau, a'r rhai hyny mewn sibrwd ac yn ddifrifol. Dystawai 'r tafod, er mwyn i'r dwylaw barotoi at lefaru, canys yr oedd y cyfwng gerllaw. "Cymru am byth!" ebai Reinhallt, mewn llais isel treiddgar; "Cymru am byth!" ebai 'r dynion ar adenydd eu hanadl. "Heb Dduw, heb ddim," ebai'r blaenor; "Heb Dduw, heb ddim," ebynt hwythau âg un llais. "Duw a digon," ebai ef; "Duw a digon," ebynt hwythau.

"Fy mrodyr, ebai Reinhallt, "cofiwch mai nid gwaed nac yspail ydyw ein neges i Gaer heno; ond mai ein hamcan ydyw adfer i ddyn o'r un gwaed a ni eiddo a gymerwyd oddiarno trwy drais. Eithr o saif perchen gwaed ar eich ffordd gan geisio eich lluddias i gyrhaedd yr amcan mewn golwg, nid oes ond ei frathu. Brathwch hyd y carn y sawl a'ch rhwystro. Cadwch yn nghyd yn yr ysgarmes; cofiwch mai hawdd tori edefyn ungorn."

Wedi gorphen yr oedfa hon o weddi a phregeth, ymdeithiasant yn mlaen i'w hymgyrch feiddgar, gan gerdded yn araf a dystaw fel na ragflaenid eu hymddangosiad gan eu trwst. Daethant yn fuan i ymyl y ddinas, a safasant er mwyn clustfeinio. Tybid fod y porthorion yn cysgu. Safent gerbron y dring-ddrws (port-cullis), ac nid oedd ond tawelwch y bedd o'u deutu, oddieithr fod y gwynt gauafol yn chwiban yn awr ac eilwaith yn rhidyllau'r mur gerllaw. Ar amrantiad, rhoddwyd y gorchymyn:

"Rhuthrwch ar y ddôr fel ungwr, a gwthiwch ef ar gefn ei wylwyr."

Rhuthrasant arno fel tarw hyrddiog; ond er cryfed yr hyrddiad, daliodd y port-cullis yn ddigon dieffaith, oddigerth iddo grawcian dan yr ergyd. Methai'r gwylwyr haner cysglyd oddifewn ddirnad pa beth a barasai y fath swn, ac agorodd un o honynt gil y drws yn ddigon difeddwl, gan fod y llawenydd oherwydd buddugoliaeth Hexham wedi cyrhaedd calon hyd yn nod y gwylwyr distadl, ac alltudio o honynt bob pryder a seremoni. Trwy gil y drws felly, ymwthiodd tri o'r Cymry er gwaethaf ei geidwaid i mewn, a brwydr boeth a ganlynodd rhwng y rhai hyn a'r porthorion, tuag ugain mewn nifer. Dechreuodd gwaed redeg yn ebrwydd, ac er ffyrniced yr ymladdai'r triwyr dewr hyny, gorchfygid hwy gan y lluaws gwyr yn eu herbyn. Cafodd un o'r tri ergyd enbydus â dagr yn ei fraich ddehau, yr hyn a'i hanalluogodd; a gwthid y ddau arall yn gyflym i gongl ag y buasai raid iddynt yn fuan roddi arfau i lawr. Yn y cyfwng pwysig hwn, wele Robin Bondigrybwyll, a'i ddeuddeg Cymro, yn ymddangos ar y chwareufwrdd, ac yn ymosod ar y porthorion o'r tu cefn, yr hyn a barodd ddychryn ac anhrefn yn mhlith y Saeson. Ffodd y naill haner o honynt i ystafell gyfleus oedd yn y Twr gerllaw, a phrysurodd y gweddill i ystafell arall gyferbyn. Bolltiwyd y dorau arnynt, a chodwyd y ddring-ddor fel y deuai Reinhallt a'i wyr oddiallan i fewn. Efe a ganfu ar unwaith sefyllfa pethau, ac archodd ddiarfogi gwyr un ystafell yn nghyntaf, ac yna y llall; a gadael ychydig wyr yno gyda chleddyfau noethion i'w gwylio nad ynganent air ac na wingent o'r lle dan berygl marwolaeth. Hyny a wnaed; ac yr oedd y gwylwyr bostfawr hyny mor ddiymadferth a babanod newydd eni. Er pwysiced y digwyddiadau uchod, cymerasant le mewn llai na chwarter awr o amser, ac mor ddidrwst fel na chythryblwyd undyn ond y pleidiau ymladdol eu hunain. Na, gan gofio, yr oedd un arall yn llygad-dyst o'r miri;—safai Cadi Gyfarwydd heb fod nepell o'r lle yn eirias chwilboeth o ddyddordeb yn yr helynt, gan gau ei dyrnau, cnoi ei gwefusau, a galw bob yn ail ar ei Thad yr hwn sydd yn y nefoedd, ac ar dad arall i Gadi, fel y dywedai Robin, "yr hwn nid yw yn y nefoedd,"

Prin y rhaid d'weyd nad oedd derfyn ar ei llawenydd pan y deallodd pwy fu drechaf. "Nid yw hyn ychwaith ond dechreu," ebai hi. Ac ar hyn, clywai lefain undonol yr heol-wyliwr a hysbysai yr awr ar y nos, yn dynesu tuag at y fan. Rhedodd fel ewig trwy heol gefn er mwyn peidio ei gyfarfod; a phan ddaeth hi felly o'r tu cefn iddo, a chael masgl arno, hi a ddodes blastr o lûd gwydn yn orchudd tros ei holl wyneb, fel nas gallai'r truan weled llewyrch, yngan gair, na thynu ei anadl ond trwy fawr ymdrech. Yn y dull ansyber hwn, flusgodd ef at y porth, rhoddes ef yn ngofal Reinhallt, yr hwn a'i derbyniodd ef yn ddiolchgar, ac a'i trosglwyddodd, ar ol tynu ei fwgwd, i'r un ystafell a than yr un llywodraeth a'r carcharorion eraill. Pan ddeallodd y Cymry am ystryw a gwrhydri yr hen Gymraes wladgar, bron na thorodd eu brwdfrydedd tros y llestri mewn banllefau o ganmoliaeth, yr hyn a fuasai 'n dra niweidiol i'w hachos.

Rhoddes Robin wybodaeth sicr yn fuan i Reinhallt mai yn nhy Robert Brown yr oedd yr eiddo atafaeledig-fod y llwynog hwnw yn eu cadw i'w ddybenion ei hun, ac nad oedd awdurdodau y ddinas yn gwybod ond y nesaf peth i ddim yn eu cylch. Parodd hyn symbyliad ychwanegol i adfeddianu'r eiddo, gan y gwelid fod cyfraith annheg wedi ei defnyddio yn anghyfreithlawn.

"Tuag yno fechgyn," ebai Reinhallt, "mor ddidrwst fyth ag y medroch. Y mae Cwn Caer yn cysgu, ond cofiwch ysgafned y cwsg ci."

PENOD VIII.

TRA y mae pethau yn prysur aeddfedu i rhyw derfyniad pwysig yn Nghaerlleon, beth fyddai i ni daflu cipolwg pa fodd y maent hwy yn dyfod yn mlaen yn y Twr. Yr oedd Sion ab Gruffydd yn fwy ffwdanus nag erioed, ac fel pobl ffwdanus yn gyffredin, yn siarad llawer âg ef ei hun. Yr oedd Sion, beth bynag a fo, yn credu yn gryf mewn croen iach; ac er fod Reinhallt ac yntau yn frodyr undad unfam, o "waed coch cyfan," fel y dywedir; yn hyny o beth yr oeddynt yn berthynasau tra phell. Nid oedd ychwaith haner mor gartrefol hefo Lewis, ar ol deall mai Lewis oedd achosydd yr ymgyrch beryglus hwn o eiddo ei frawd. Yr oedd Lewis yntau yn llawn penbleth, fel y gallesid disgwyl-methu yn glir faes a ffrwyno ei ddarfelydd bywiog rhag prancio yn nghanol digwyddiadau tebygol Caerlleon y nos hono. Yr oedd ei feistr nwyd digofaint wedi ei lwyr orchfygu ar y pryd gan deimlad cryfach o bryder am ddiogelwch y fintai aethai allan mewn gwirionedd i ymladd ei frwydr bersonol ef. Yr oedd Morfudd yn bryderus iawn yn nghylch ei brawd, ac efallai nad oedd ei phryder nemawr llai parth un arall a gymerai ran, yn ol pob tebyg, yn yr ymdrafod; ond tra yn ofni'r gwaethaf, gobeithiai 'r goreu; a darfu i ofn a gobaith yn eu tro yr hwyr hwnw lanw ei llygaid â dagrau amryw weithiau. A welsoch chwi ardd flodeu dan gafod o wlaw cynes?-dyna Morfudd. Nodwedd Gwenllian ydoedd dwysderni ddeuai cynhyrfiadau ei chalon hi i'r golwg ond rhyw unwaith neu ddwy mewn oes.

Gyda'r gwahanol deimladau hyn, y dynesodd y pedwar crybwylledig i fwrw heibio amser hwyr- drwm ei gam am orig neu ddwy wrth y tân; ac wedi i Lewis eu hadgoffa "fod gobaith o ryfel ond nid o fedd," cymerodd yr ymddyddan agwedd dipyn siriolach. Dechreuodd Morfudd adrodd adgofion digrif am rai o gampau direidus Reinhallt pan yn blentyn.

"Wrth feddwl," ebai 'r bardd, "Morfudd, yn mha le y cafodd dy frawd ei ddysg? canys dysg ei wala yn ddiau sydd ganddo."

"I ddechreu," ebai'r rhian deg, gan fy mam wirion, sydd er's blynyddau yn y bedd—hyhi a ddysgodd iddo ddweyd ei bader, cyfrif ei baderau, ac ymgroesi. Yna, ei hebrwng a gafodd i fynachlog Basing, er ymgydnabod â defodau crefydd a dysgu Lladin, a'i athraw yno ydoedd Ieuan Offeiriad, rholyn o fynach boddlon yn saim o'i goryn i'w sawdl."

"Ac yn meddwl mwy am ferched teg," ebai Sion, "ac am gwrw, nag am grefydd a defodaeth." "Adwaen y gwr yn dda," ebai'r bardd, "ond ewch chwi yn mlaen."

Parhaodd Morfudd, "Wedi treulio blwyddyn yn Basing, yn benaf yn perffeithio ei ddireidi bachgenaidd, bu am rai misoedd yn Nghaerlleon gyda marsiandwr yn dysgu Saesneg."

"Daw ei Saesneg a'i hyddysgrwydd o ddaearyddiaeth Caerlleon o wasanaeth iddo heno, mae yn dra thebyg," ebai Lewis.

"Bwriadai ein tad wneud offeiriad neu farsiandwr o hono," meddai Morfudd.

"Ond trech natur nag arfer," ebai Gwenllian.

Hwyrhaodd yr hwyr tan chwedleua am y naill beth a'r llall; Lewis yn "ymddarostwng" i gyfarfod ansawdd meddyliau y tri arall, a hwythau yn ymddyrchafu goreu gallent i gyfarfod chwaeth yr arwydd-fardd; nes o'r diwedd y dechreuid meddwl fod cwsg yn felusach nag ymddyddan. Ond dyna siriad yn y gegin, llef baban yn crio, a swn troed a llais neb amgen y Bondigrybwyll yn dyfod ar frys at yr ystafell yr eisteddent ynddi. Daeth i fewn a chanddo enethig fach anwydog tua theirblwydd oed ar ei fraich.

"O b'le y daethost, Robin?" ebai Sion, "a pha le y cefaist y plentyn yna sydd ar dy fraich." "Bondigrybwyll, o Gaer, ac ar Forfa Caer, mewn ffos clawdd, y cefais y plentyn. Dyna i chwi blentyn iawn i'w gael ar lawr."

"Welaist ti Reinhallt a'r fintai?"

"Bondigrybwyll, gwelais hwynt; y maent yn groeniach ddiangol oddifewn i furiau Caerlleon. Trwy gydgyfarfyddiad hapus callineb, ystryw, a damwain, cawsant borth yn lled ddidrafferth a digolled oddigerth braich Rodri o Dreuddyn, yr hon a archollwyd yn dost. Wedi iddynt fyned i mewn, minau a lithrais yn lladradaidd allan, modd y dygwn y newydd i chwi y gwyddwn oedd yn bryderus am dano. Cymerais un o'r meirch danaf, carlamais yn chwyrn, clywais lefain plentyn, pigais berchen rhynllyd y llef i fynu, a dyma'r plentyn, a dyma finau."

"Mawrglod a diolch it," ebynt oll yn unllais, "y mae Robin yn dyfod i'r golwg bob amser y bo ei eisiau."

"Ond pa beth a wnawn ni â'r plentyn hwn?" ebai Sion ab Gruffydd.

"Ei fagu," ebai Morfudd, "beth arall a wnawn â chreadur ddanfonodd y Forwyn Sanctaidd atom megys o bwrpas i'w feithrin a'i ymgeleddu."

"A fynit ti i Robin ei gymeryd yn ol i ffos y clawdd!" ebai Gwenllian.

"Na fynwn, na fynwn i," ebai Sion.

A bu ymryson rhwng y ddwy chwaer galongynes pa un a gai ddangos ei charedigrwydd gyntaf a chryfaf i'r caffaeliad gwirion. Ni chymerai 'r prydydd ond ychydig sylw o'r plentyn na'r ymddyddan yn ei gylch; ymddangosai fel pe wedi llwyr ymgolli mewn myfyrdod dwys ar y newydd a glywsai am Reinhallt a'r fintai. Pa fodd yr ymdarawent gyda'u gelynion? ac a ddeuent byth allan yn fyw o ganol giwed mor fileinig? oeddynt ymholiadau a lyncasent ei feddwl yn gyfangwbl. Ac yr oedd y rhianod mor ddedwydd yn yr hyn a glywsent am eu brawd, ac mor brysur yn cynesu, yn diwygio, ac yn anwylo, y bod bychan, ac yn dotio arni yn parablu ymadroddion byrion plentyn, a Robin yntau mor brysur yn ymgyfarchwel â'i ymborth, fel y cafodd Lewis egwyl hapus i ddilyn ei fyfyrdodau. Pa fodd bynag, daeth ychydig gyfnewidiad tros yr olygfa, trwy i gawod drom o genllysg ddisgyn. Disgynent yn unionsyth ar eu penau trwy dwll y mwg fel pe tarewsid hwy a phys mawrion, a bu raid iddynt oll encilio oddiwrth y tân, a gadael rhwng y ddwy elfen a'u gilydd. Canys er fod palas y Twr neu Broncoed o oes i oes yn eiddo boneddwr ucheldras, nid oedd haiach llwybr mwg na thwll crwn yn y tô. Ganrif yn ddiweddarach y daeth simddeuau i arferiad, hyd yn nod yn mhalasau boneddigion; ac nid yw'r Gymraeg yn y 19eg ganrif wedi ei chynysgaeddu âg amgen gair am lwybr geuol mwg na'r llygriad musgrell simddeu.

Yn nghynwrf y symud ystolion o gyrhaedd y gafod genllysg drom, daeth cenad i'r ystafell yn hysbysu fod dynes druanaidd ei gwedd a'i diwyg wrth y porth yn deisyf siarad gair â Morfudd, os nad oedd hyny yn ormod cymwynas i'w gofyn ar y fath awr o'r nos. Nac oedd ddim; ymaith â hi, a chafodd y druanes yn pwyso ar ystlysbost y drws mewn haner llewyg. Gwelai yn union ei bod yn wrthddrych arbenig trugaredd; gwahoddodd a chynorthwyodd hi i'r gegin. Yr oedd dagrau, chwys, a chenllusg, wedi ei gwneud yn wlyb dyferol; a dygai yn ei chorph nodau amlwg adfyd a chaledi. Trwy ymdrech y gallai dynu ei hanadl boenus; ac yr oedd mor neillduol o wan, fel mai prin y gallai yngan ei chais a'i dymuniad.

"Morfudd," ebai hi, "nid wyt yn fy adwaen, (ac yr oedd hyny yn eithaf gwir,) mam y plentyn yna ydwyf; a genedlwyd trwy drais, ac a ymddygwyd mewn gofid mawr; ac a fagwyd hyd yn hyn mewn dygn drallod a chaledfyd, Robert Brown, maer Caer pan anwyd y lodes fach ydyw'r ———; a pharodd tan fygythiad o'm lladd ei boddi yn yr afon Ddyfrdwy. Fedrwn i ddim! fedrwn i ddim," ebai hi gan wasgu ei dwylaw yn nghyd yn ngwasgfa ei henaid. "O! rian deg a hawddgar," ebai hi drachefn, "tosturia wrth Gymraes dlawd yn min marw;—-nodda fy mhlentyn!"

A chyda'r gair syrthiodd yn farw ar lawr y gegin. Yr oedd yn amlwg ei bod gerllaw yn gwylio 'r plentyn; a phan gododd Robin ef i fyny, rhedodd ar ei ol gyda chyflymdra ac yni a ddychwel weithiau i gyfansoddiad yn dadfeilio, fel fflam ddiweddol canwyll, yn enwedig pan chwythir yr adfywiad gan angerddoldeb cariad mam.

PENOD IX.

"Y MAE Cwn Caer yn cysgu yn rhagorol," ebai Reinhallt "na thorwch ar eu breuddwydion."

Cerddasant yn mlaen yn wyliadwrus, a buont yn dra ffodus yn eu hymgyrch, gan iddynt gyrhaedd ty Robert Brown heb i ddim neillduol ddigwydd ond dal trwy gynllwyn ambell i wyliwr, a'i drosglwyddo yn ddiogel at ei frodyr i dyrau y porth. Fel y dywedasai Glyn Cothi; bu gwybodaeth flaenorol Reinhallt o heolydd y ddinas o gryn wasanaeth iddo, a Chadi Gyfarwydd ydoedd gyfarwydd iawn yn y pwnc—- parth yr heolydd doethaf i'w hymdaith. Cyrhaeddasant balas Brown yn mhen tuag awr ar ol eu dyfodiad o fewn y caerau. Ymosodasant arno o'r tu cefn. Neidiodd Cadben Ifan i ben mur uchel, a disgynodd yn lwmp i ystafell y cogyddion, gan eu dychrynu yn ddirfawr, a pheri codi gwaedd yn eu plith uwch adwaedd. Ffoisant am eu bywydau, gan haner gredu fod y nefoedd yn dechreu gwlawio am eu penau wyr arfog. Yr oedd y ty cyn pen ychydig fynudau yn gynhwrf drwyddo o ben bwy gilydd. Rhuthrai y naill heibio'r llall yn chwyrn, heb gymeryd amser i holi eu gilydd pa beth a barasai y fath gythryfwl. Y syniad cyffredin ydoedd mai lladron oedd wedi ymosod ar y ty; ac mewn amser, casglwyd yn nghyd y bwa-saethau a'r cleddyfau. Gan belled ag y gellir casglu oddiwrth lyfrau hanes Caerlleon, a dinasoedd cyffelyb, prin y rhifai palasau y boneddigion penaf mewn dinas ragor na chwech ystafell. Nid oedd palasau y 15fed ganrif ond bythynod o'u cyferbynu ag aneddau eang a heirdd uwchradd yr oes hon.

Cadwodd y Cadben Ifan ei hunan-feddiant yn rhagorol. Agorodd ddrws y cefn a daeth y gwyr yn llifeiriant i mewn. Yr oedd portread wedi ei roddi iddynt gan yr hen ddewines pa le y cedwid eiddo gwerthfawrocaf Lewis; a chyrchasant tuag yno. Pa fodd bynag, yr oedd drysau cedyrn cauedig yn eu rhwystro, a thu cefn i'r rhai hyny, yn ol pob tebyg, wyr arfog bellach yn eu gwarchod. Petrusent pa beth i'w wneuthur, ond deallai Reinhallt fod pob mynud yn treblu eu perygl.

"Rhuthrwch ar y drysau âg un ymdrech egniol," ebai ef, "a bwriwch hwynt i lawr fel magwyr geryg gandryll."

Rhuthrasant felly, a bwriasant y dorau o haiarn a'u fframiau bendramwnwgl am benau eu gwarchodwyr, a dau o'r rhai hyny a laddwyd yn farw gelain yn y fan. Y gweddill a ffoisant yn annhrefnus o'r tu ol i ddorau cyffelyb eraill. Ond nid oedd angen eu hymlid gan fod y grisiau bellach yn rhydd, ac mai yn y llofft yr oedd yr eiddo atafaeledig i'w cael. Arweiniodd Reinhallt chwech o wyr i'r ystafell hono,ac yn ddiymaros bwriasant i lawr lestria rian, creirau gwerthfawr, a thwysged o lyfrau gwerthfawrocach fyth, yn cynwys hanesiaeth, achyddiaeth, barddoniaeth, &c, gyda gorchymyn ar i'r oll o'r cyfryw gael eu dwyn ymaith ar frys gwyllt at y Porth.

Nid oedd y gelynion yn y cyfamser yn segur. Safai'r ystafell lle cynelid y wledd tua chan' llath oddiwrth y ty-gan nad oedd yn y ty yr un ddigon o faintioli. Danfonwyd cenad frysiog at Brown i'w hysbysu fod lladron yn ei balas, a'u bod wedi lladd a chlwyfo amryw o'i weision; ac er fod y loddest wedi cerdded yn mhell, y cynnulliad wedi teneuo trwy fod amryw wedi ymadael, a'r sawl oedd yn aros fwy neu lai tan ddylanwad swyngyfareddus diod gadarn, parodd y newydd i'r gweddill neidio ar eu traed, a sefyll goreu gallent mewn pensyfyrdandod.

"Daliwn, dialwn!" ebynt oll gydag un llais, a rhedasant goreu gallent tuag at y ty yspeiliedig. Tra yr oedd swn eu traed hwy i'w glywed yn nesu at ffrynt y ty, yr oedd swn traed y sawl a gludent eiddo yr arwydd-fardd yn pellhau oddiwrth gefn y ty. Ond yr oedd Reinhallt a deuddeg o'i wyr eto yn aros—yn aros i chwilio os oedd ychwaneg o'r meddianau atafaeledig yn gorwedd yn rhywle oddeutu. Daeth y ddwyblaid, modd bynag, yn fuan wyneb-yn-wyneb a'u gilydd, ac aeth yn daro ffyrnig rhag blaen. Fflachiai tân o ddur y cleddyfau, a suai saethau ar eu hediad dinystriol; ond gan fod maes yr ymladdfa yn gyfyng, nis gallai ond ychydig nifer o bobtu gymeryd llaw ynddi. Daliai'r Cymry eu tir yn ddewr, er fod dau o'r deuddeg wedi eu harcholli yn dost. Syrthiodd amryw o'r Saeson. Neidiodd Brown fel teigr i boethder y frwydr. "Gweithiwn ein ffordd trwyddynt," ebai Reinhallt.

"Dyma ddifyrwch braf sydd gan foneddigion y Wyddgrug," ebai'r cyn-faer Robert, "tori tai a lladrata."

"Tydi ydyw'r lleidr, Brown," ebai'r Cymro'n yr un iaith ag ef, " y lleidr duaf, mwyaf ysger yn mhlith lladron Caerlleon."

"Pa beth!" ebai Brown, galw dyn yn lleidr yn ei dŷ ei hun, "lladdwch y Geifr gwylltion!" "Lladdwch y Cwn cynddeiriog," ebai Reinhallt, a'i gleddyf yn chwirlio yn ddibaid, er ceisio tori adwy at yr archleidr; ac ofnid y buasai poethder ei dymher yn peryglu ei hoedl."

Yn ngwyneb dewrder ffyrnig Reinhallt, a'r symbyliad a roddai hyny i'w ychydig wyr, y Saeson a giliasant yn ol, a chauasant y drws ar eu holau fel y gallent ail-drefnu eu rhengau. Erbyn hyn, yr oedd eu nifer yn cynyddu'n gyflym, a rhai o'r Cymry a anogent eu llywydd penderfynol i fanteisio ar yr egwyl, ac encilio gynted gallent. Ond yr oedd gwaed y Cymro ieuanc wedi poethi, a'i ateb ydoedd,

"Ewch chwi ymaith. Mi a ddaliaf y bwlch hwn yn erbyn mil o lyfrgwn gwagsaw."

Ar hyn, agorodd y Saeson y drws eilwaith, a'r cyntaf i ruthro trwyddo ydoedd Dic Alis, rhemwth cethin o Sais bloedd-fawr, hacred ei bryd ag un o ellyllon y fagddu fawr, tyngwr arswydus, fel pe buasai ei dafod wedi ei bedyddio yn nhân uffern ar yr enw "Rheg;" penrhuswr a phrif ymladdwr gornest Caer a'r wlad o'i hamgylch; tynwr cleddyf dihafal, dibris o'i hoedl ei hun a llawer llai o fywyd cyd-ddyn. Rhuthrodd y rhydor iselfoes hwn yn mlaen fel dywalgi gwaedlyd a sugnasai fronau arthes. Chwifiai gleddyf hirlafn yn ei law aswy (canys adyn llawchwith ydoedd) â'r hwn yr anelodd ergyd farwol at ben y Cymro a safai mor ddigryn a delw o'i flaen. Reinhallt yn fedrus a ataliodd ymgais cleddyf ei elyn â chefn ei gleddyf ei hun. Edrychasant felly am fynud ar eu gilydd, a dialedd yn gwreichioni o'u llygaid, fel y melltena gwefrdan odditan ael cymylau bygythiol. Ymladdfa cewri ydoedd; o ran nerth a medr cyffelyb i un o ornestau dynion-dduwiau ffugdraith yr hen Roegiaid. Neu, a benthyca cydmariaeth yn nes adref, o faes toreithiog ein ffugdraith ein hunain, nid annhebyg ydoedd i ornest Arthur Gawr a Medrawd Fradwr.

Clecian arfau gwreichionllyd y buwyd am encyd hir; yr oedd y ddau mor hylaw gyda'r gwaith, fel y parhaodd yr ymdrech amser maith. O'r diwedd, gwylltiodd Dic Alis, a rhuthrodd yn anmhwyll yn mlaen, gyda'r amcan o drywanu ei wrthwynebydd yn farwol yn ei fynwes. Rhoddes hyn fasgal i Reinhallt i gyrhaedd iddo yntau ergyd dychrynllyd ar ei ben; a Dic a syrthiodd yn drwm ar ei hyd-gyd yn y lobi gul a droisid fel hyn mor sydyn yn faes ymladdfa. Meddyliodd y Saeson fod eu gwron wedi ei ladd yn farw gelain; ond mewn llesmair yr ydoedd, fel y profai'r amryfal regfeydd a ebychai yn awr ac eilwaith. Ei gyfeillion a'i llusgasant o'r fan gynted gallent; a thra y cymerai yr oruchwyliaeth hono le, safai Reinhallt a'i ddwylaw yn mhleth gan edrych arnynt yn berffaith ddifraw.

Wedi symud y corph archolledig o'r llwybr, dyma wneud rhuthr gan bump neu chwech ar unwaith ar ein harwr, a phe lloriasai y rhai hyny, yr oedd digon drachefn yn ngweddill i gymeryd eu lle; fel y darfuasai am dano yn ol pob golwg, oni bai ddyfod o Gymro yn mlaen â geiriau a glywsai y noson hono yn llosgi yn ei fynwes. Canys beth yw un, bydded mor bybyr ag y bo, i ymgais yn erbyn lluaws tref?

"Lladdwch, sathrwch a chwarterwch y filain," ebai Robert Brown, ond cyn fod y geiriau yn gwbl o'i enau cyrhaeddodd Reinhallt ergyd iddo yntau a barodd iddo hel ei lygaid. Ond fel y dywedir am rai o'r creaduriaid israddol, po fwyaf leddir o honynt lluosocaf oll yr ant tan y driniaeth, Yn y cyfwng peryglus hwn, dyma y llanc crybwylledig, swyddog milwrol a Rhosyn Gwyn yn ei gap, yn neidio yn mlaen.

"Chwareu teg hefyd," ebai ef, "un yn mhen un; mi a'i cymeraf yn awr mewn llaw." Ac estynodd ei law noeth agored i Reinhallt, yn arwydd nad oedd am daro. Ciliodd y Saeson yn ol gan ddisgwyl gornest law-law arall. Amneidiodd y Cymro ar i Reinhallt gilio yn ol; nas gellid ymladd yn iawn mewn lle cyfyng felly. Ac wrth gilio yn ol at y gegin, y swyddog a wisgai'r Rhosyn Gwyn a fwriodd i lawr yn fwriadol y lamp fechan a fuasai hyd yn hyn yn taflu ei llewyrch gwanaidd i'r ymladdwyr; a thrwy hyny, gadawyd y ddwyblaid i ymbalfalu am eu gilydd yn y tywyllwch. A thra yr oedd y Saeson yn ymdeimlo am y gelyn ac am eu gwron newydd, sisialai llais isel yn nghlust Reinhallt:

Myfi yw Goronwy ab Gredifel o Gilcen; ffo am dy einioes; os wyt yn caru dy hoedl dy hun, cysur dy deulu, a dy wlad."

Eithr ni fynai yntau wrando ar y cynghor. Ffoi oedd y peth diweddaf y meddyliai am dano un amser; ac yr oedd syniad am gysur ei anwyliaid hyd yn nod wedi ei alltudio ar y pryd o'i fynwes. Bygythiodd anffodion Dic Alis a Robert Brown ar ben Goronwy os anogai ef drachefn i ymddwyn mor anfad.

"Ni waeth i ti heb fy nharo i," ebai Goronwy, "ni thynaf fi gleddyf byth yn erbyn cydwladwr." Enillodd geiriau mor wladgar dipyn o sylw a serch Reinhallt; ac er cryfed ydoedd, ac er mor wrthwynebus i'w natur ydoedd cilio yn fyw o'r fan, yr oedd ei gyfaill hefyd yn gryf, ac er ei waethaf gwthiodd ef o'i flaen at y drws. Cauodd a bolltiodd hwnw yn ddyogel ar ei ol, gan adael Reinhallt a'i wyr yn ddiangol oddiallan, a Chadi Gyfarwydd yn eu plith yn llongyfarch ei heilun ar ei oruchafiaeth ac yn ei anog i fyned ar frys gwyllt at y porth rhag fod ei wyr yno mewn perygl.

Er fod rheswm y Gyfarwydd yn un amserol iawn, ni fynai ef ar y cyntaf gydsynio, ond pan oerodd ei dymherau, gwelodd nerth y peth ac ymaith ag ef.

Goronwy pan ddychwelodd at ei gyfeillion a ymesgusododd drwy ddyweyd ei fod ef wedi colli y gelyn yn y tywyllwch anffodus a ddigwyddasai. Hwythau yn amheu y ffoisai efe trwy y cefn, diangfa na feddyliasent hwy yn eu ffwdan am dani cyn hyny, a redasant, a chyrhaeddasant y fan pan oedd swn traed Reinhallt a'i wyr yn darfod yn y pellder. Erbyn eu dyfod, nid oedd yno neb ond yr hen ddewines ei hunan, yn llercian oddeutu fel pe buasai yn meddwl fod ychwaneg o'r Cymry yn y ty, ac yn ymdroi o gylch y lle fel y gallai fod o rhyw gymhorth iddynt. Ond daeth y Saeson ffyrnig-wyllt yn mlaen, ac yn cael ond yr hen Gymraes yn unig yno, tywalltasant arni holl gynddaredd eu digofaint; milwr a'i trywanodd yn ei chalon, a hi a syrthiodd yn farw heb gymaint ag anadlu ochenaid.

PENOD X.

PAN gyrhaeddodd Reinhallt y Porth, ac nid heb gryn lawer o groeslwybro y gwnaeth efe a'i wyr hyny, cafodd eiddo Lewis yn ddyogel yn nghadwraeth y rhai yr ymddiriedasai efe hyny o orchwyl iddynt; a bod y porthorion hefyd yn ddyogel yn y tyrau y gosodasai ef hwynt o'u mewn deirawr yn nghynt. Mae'n wir nad oeddynt wedi treulio y teirawr crybwylledig yn gwbl foddlon, a'u bod fwy nag unwaith wedi bygwth tori trwy yr angenrhaid a ddodwyd arnynt; ond yr oedd cleddyfau noethion eu gwarchodwyr yn cadw pob ymgais o'u heiddo tanodd.

"Os ydym oll yn barod," ebai 'r penaeth, gwnawn y goreu o'n ffordd a'n hamser; dodwch yr eiddo o'ch blaenau bob un ar war ei farch; a rhybuddiwch yr adar ysglyfaethus cawellog yna, os agorant eu pigau am haner awr y byddant yn fwyd braf i gwn crwydrol y Morfa yma cyn codiad haul."

Neidiasant ar eu meirch: Rodri o Dreuddyn, yr unig un a dderbyniodd niwaid o bwys, yn wrthddrych eu gofal arbenig; a charlamwyd ymaith. Yn mhen pum' munud wedi iddynt hwy adael y Porth, wele genfaint Brown yn cyrhaedd y lle, ac er fod yn eu plith erbyn hyn amryw filwyr, teimlent un ac oll eu gwaed yn rhedeg gryn lawer rhwyddach pan ddeallasant fod y Cymry wedi ymadael, canys o bawb yr erlidiedig oedd y rhai olaf y dymunent eu goddiweddyd. Cymerodd beth amser iddynt ollwng eu cyfeillion carcharedig yn rhyddion, ac yna udasant wchw fawr am ymlid ar ol y gelyn a'i ddal os oedd y fath beth yn alluadwy heb fyned yn rhy agos ato. Ond yr oedd gwyr y Wyddgrug bellach wedi tori cryn dipyn o gwt eu ffordd gartref. Gollyngasant eu brodyr carcharedig yn rhydd, a chodwyd wchw fawr i ymlid ar ol y gelyn a'i ddal os oedd y fath beth yn alluadwy (heb fyned yn rhy agos ato.) Ond rhoddai y Cymry y cam goreu yn mlaen; nid oeddynt heb eu hofnau; canys pe cawsent eu goddiweddyd, dichon y collasent holl ffrwyth eu llafur a'u peryglon. Wedi cyrhaedd tua milldir o'r ddinas, troisant ar eu dehau, gan gymeryd y ffordd oedd yn arwain tua Fflint, a dewis croesffyrdd yn hytrach na'r brif-ffordd fel y llwybr tebycaf i'w hymlidwyr golli trewydd arnynt.

Nid arosodd Robin nemawr amser yn y Twr ar ol traddodi ei genadwri a chael tamaid o fwyd; brysiodd yn ol tua Chaer rhag y byddai o ryw wasanaeth yno; ond oherwydd i'w gyfeillion gymeryd y drofa grybwylledig, ni chyfarfyddodd hwynt yn ol ei ddisgwyliad. Bu amryw o honynt hwythau yn nghwrs eu hymddyddan ar eu taith yn holi, yn dyfalu, ac yn rhyfeddu pa beth a ddaethai o Robin; nid oeddynt wedi ei weled yn fyw nac yn farw er pan ymrithiasai mor annisgwyliadwy a drychiolaeth yn mhorth y ddinas ar eu mynediad gyntaf o'i mewn. Yr oedd rhywbeth mor anesboniadwy o ddyeithr yn hyn i Reinhallt, fel yr ocheneidiodd yn hyglyw fwy nag unwaith. Pa fodd bynag, yn anffodus iawn, daeth Robin yn bwtsh anmharod i gwrdd mintai ddrygnaws y gelyn, pan y disgwyliai gyfarfod cyfeillion. Yr oedd wedi gadael ei geffyl yn mhen draw y Morfa; a da iddo hyny, onide buasai amheuon y Saeson yn ddigon cryfion i benderfynu ar unwaith ei fod yn gyfranog â gwyr y Wyddgrug, fel na chawsai ond byr amser i ddyweyd ei bader a gwneyd ei ewyllys. Fel yr ydoedd, dodasant ddwylaw yn ebrwydd arno gan ei hawlio fel carcharor, a gofynasant iddo yn sarug os y cyfarfyddasai a'r archleidr hwnw o'r Twr, a hanai mewn llinell unionsyth o Gain ab Adda. Profedigaeth chwerw i Robin ydoedd gwrando ar ei feistr yn cael ei ddifenwi, ond "cofiodd mai da cael dant i atal tafod," a brathodd yr aelod olaf yn dra ffyrnig.

"Os gweli di yn dda," ebai milwr coeglyd, "mi a ddodaf y cyffion hyn am dy arddyrnau."

Medrai Bondigrybwyll oddef yn lled dawel gryn lawer o gerydd ac o ddigofaint; ond yr oedd coegni iddo yn halen ar gig noeth; a chan nad oedd dwy res ei ddannedd yn hollol ddifwlch, daeth yr aelod peryglus yn rhydd, a rhoddes fod i ymadrodd o anufudd-dod pendant i oruchwyliaeth y cyffion. Yr oedd y milwr dywededig yn fawr ac yn gryf, a Robin er yn fychan yn ddewr, ac aeth yn gythryfwl rhyngddynt mewn munud, yr hyn a derfynodd trwy i ddau neu dri ymuno â'r milwr, a dodi'r cyffion yn sicr yn eu lle bwriadedig.

"Gwell i chwi ddodi llyffetheiriau eto am fy fferau," ebai ef, "canys ni symudaf fèr o'r fan mwy na phe dodasech lwyth o haiarn wrth fy nhraed."

"Aie, felly," ebai'r Saeson, "hwyrach y chwenychet gael dy gludo wrth ysgil un o honom?"

"Mi a 'spardynaf ddwy balfais y march hwnw yn gyrbibion," ebai'r dyn bychan digofus, "cofiwch mai Cymro ydwy' i."

Ac yr oedd Robin mor ryfeddol o gyffrous ac anystywallt fel y torodd y Saeson allan i chwerthin am ei ben, a chwerthin y buont hyd oni archwyd iddynt gan rywun a alwai ei hun yn gadben, frysio, onide mai ofer iddynt ymlid yn mhellach.

"Un yn mhen un; dyn dwylath yn mhen dyn dwylath, ac mi a ymladdaf hyd y dyferyn olaf o waed sydd yn fy nghalon," ebai Robin.

"Twt, lol! ffwrdd a hi," a chipiodd rhyw Sais dibris ef gan ei osod o'i flaen ar ei farch, a charlamodd yr ymlidwyr ymaith.

Nid oedd Robin yn haner boddlon ar ei gyflwr; yspardynai grimogau ei gaethgludwr, a hwnw am yspaid yn dyoddef tan ryw haner chwerthin a chyrhaedd bonclust iddo yn awr ac eilwaith. Ond, aeth y crimogau o dipyn i beth yn ddolurus, a chan nad oedd goruchwyliaeth y bonclustio yn cael ei heffaith ddyladwy i beri llonyddu'r pedion, traws-symudodd ef o'r tu cefn-i'w ysgil. Yn yr ysgil, rhoes y Chwerwyn ei fygythiad blaenorol ar lawn waith, trwy yspardynu y march â'i holl egni. Gwylltiodd yr anifail, a charlamodd ymaith fel pe am ei fywyd yn mhell bell o flaen y rhelyw o'r fintai; yr hyn a ddychrynodd y caethgludwr i lesmair bron, rhag yr ysgubid ef fel hyn i ganol y gelynion. Daliai Robin, pa fodd bynag, i yspardynu'n galed, er gwaethaf rhegfeydd ei gydfarchog, a'i ymgais barhaus i'w fwrw i lawr. Yr oedd yn amlwg hefyd fod Robin yn well marchogwr na'r Sais, oblegyd yr oedd dwy fraich yr olaf er's meityn am wddf y ceffyl, a thusw o'i fwng rhwng ei ddanedd; a phan ddeallodd nad oedd drwy hagr yn tycio i lonyddu ei sodlau, mwngiai ei gais trwy deg. Gan i'r fintai Gymreig gymeryd y drofa hono, ni ddarfu i Robin a'i gydymaith eu goddiweddyd; a phan ddeallodd gwyr Caer hefyd eu bod oddiar y trewydd, rhoddasant eu penderfyniad pendant o "ymlidiwn, goddiweddwn, lladdwn," i fyny yn ddiochenaid.

Dechreuodd Robin ag ymloni bellach:

"Caseg ydyw'r ceffyl yma, dywed?" ebai ef, "ydach ch'i yn caru y'ch dau?"

"O! paid, Gymro anwyl; mi a ddatodaf dy gyffion, ac a'th wnaf yn wr rhydd, os y peidi."

"Ceffyl iawn am fyn'd ydyw hwn," ebai Robin, tan gyrhaedd yspardyniad arall.

"Hoedel, hoedel," ebai'r Sais.

*** Parhaodd y fintai ddysyml Gymreig i gyflymu yn mlaen; ac uwchaf y dringant y rhiw tuag at Benarddlag, rhwyddaf yr anadlent mewn mwy nag un ystyr; ac erbyn iddynt ddyfod i grib y gefnen sydd yn gwarchod y rhan hono o Ddyffryn Alun y saif y Wyddgrug arni rhag deifwynt dwyreiniol, yr oedd y wawrddydd ar ei haden yn tywallt goleuni ar fryn a phant, a'r tywyllwch yn ffoi o'i flaen yn mhellach i'r gorllewin, i gael ei ymlid oddiyno drachefn yn nghwrs yr oriau. Ac felly y parhant o oes i oes, y naill yn ymlid y llall; weithiau goleuni fydd drechaf, weithiau tywyllwch, ond yn dal i ymryson am yr oruchafiaeth yn awr fel y funud gyntaf y neidiodd goleuni allan o'r gorchymyn, "Bydded goleuni.' A chyffelyb ydyw yn y byd moesol, cyfnodau o gaddug dudew, a chyfnodau o oleuni llachar y naill yn dilyn y llall.

*** "Er mwyn y Gwr sydd uwchben, aros, Gymro," ebai'r marchogwr yn ei annghaffael flin, "neu ni laddwn y ceffyl."

"Difyr gwaith fyddai darllen yr offeren angladdol uwch dy ben di ac yntau yr un pryd. Gresyn fyddai i angau ysgaru dau sydd yn edrych mor anwyl o'u gilydd. Dod gusan arall iddo am gael rhoddi dy ddwylaw am ei wddf."

"Mwrdwr! mwrdwr!" ebai'r truan tan fustachu, ac yn rhoddi ambell i droediad anfwriadol yn ei gyni i Robin.

"Holo!" ebai Bondigrybwyll, " y mae'n gywilydd i ful farchogaeth ceffyl," a chyda'r gair, cododd dipyn ar droed y marchogwr trwstan nes oedd ei hyd hir yn mesur y ddaear oer. Wedi myned encyd yn mlaen, troes drach ei gefn, a gwelai ei hen elyn yn gorwedd yn llonydd; disgynodd i lawr ac aeth ato; ysgydwodd ef yn dda, a chafodd ei fod yn fyw, ac yn ddianaf ond oddiwrth effeithiau dychryn. Trwy ychydig o drafferth, gwnaeth Robin iddo ddatod y cyffion oddiam ei arddyrnau ef ei hun; ac yna, yn bur ddidaro, rhoes hwynt am arddyrnau y Sais. Hysbysodd hefyd mai ei garcharor ef ydoedd bellach, ac os mynai y gallai esgyn ar gefn y march. Erfyniodd y carcharor yn daer am ryddid; ond bygythiai Robin os soniai am y fath beth eilwaith, y byddai yno ddyn drachefn wrth ei ysgil. Felly'r ymdeithiasant yn chwimwth tuag adref heibio 'r Hob, a chyrhaeddasant y Twr bron yr un pryd a Reinhallt a'i wyr; ac felly y treuliodd Robin Bondigrybwyll un o nosweithiau hynotaf ei fywyd.

PENOD XI.

CYSGWCH a gorphwyswch, chwi ddeiliaid lludded a blinder. Reinhallt, a chusanau ei ddwy chwaer yn wlybion ar ei ruddiau; Glyn Cothi yn yr hûn hyfryd hono na fwynheir ond unwaith neu ddwy mewn oes—ymwybyddiaeth yn nghwsg fod yr ewyllys wedi ei llawn foddloni; Goronwy ab Gredifel, a Morfudd mewn breuddwyd yn angel gwarcheidiol uwchben ei wely; Robin yn ysgafn gythryblus, a'i feddwl heb lwyr ostegu ar ol y tymhestloedd y bu ynddynt; yr eneth amddifad wirion, ond nid yn swn curiadau ac yn ngwres mynwes yr hon a'i hymddug; y fam sydd yn cysgu'n llonyddach nag erioed ar yr ystyllen lle y dodwyd hi yn barchus gan y teulu lletygar yr ymlusgodd at eu rhiniog i farw; Cadi Gyfarwydd yn y twll y bwriwyd hi yn ddiystyrllyd iddo a mwy o archollion ar ei chorph nag oedd yn angenrheidiol i gymeryd y bywyd o hono. Cysgodd Robert Brown a Dic Alis y tro hwnw, fel llawer tro o'i flaen, gan annghofio dyweyd eu pader. Cauodd natur amrantau goroeswyr y gad hono yn unol a'i hanmhleidgarwch arferol, ac arnynt hwy yr oedd y bai os nad oedd eu cwsg un ac oll mor esmwyth a "hûn potes maip."

Cyrhaeddodd yr haul awr anterth, ac yr oedd y nifer luosocaf o drigolion y Twr yn aros yn dawel yn nyblygion gwisg y duw swrth; cynosfwyd a fu boreufwyd amryw o honynt iddynt y diwrnod hwnw. Ond yr oedd gwyliadwriaeth ddyfal yn cael ei chadw'n ddidòr rhag y deuai'r gelyn fel panther yn sydyn am eu penau. Gwyddent na hepiai dialgarwch gwyr Caer ond ychydig, ac nad oedd i'w ddisgwyl oddiwrth eu trugaredd penaf ond creulondeb.

Nid oes sicrwydd pa un a ddarfu i Lewis ganu cywydd neu awdl foliant i Reinhallt am ei wrhydri gwladgar yn troseddu un o'r cyfreithiau gwrthunaf a roddes un genedl erioed ar war y llall, na'r hunanymwadiad arwrol a adfeddianodd iddo ef ei drysorau. Digon tebyg i folawd o'r fath gael ei chyfansoddi,[3] canys yr oedd "moli" boneddigion am y peth lleiaf yn un o neillduolion beirdd y Canol Oesoedd, a Glyn Cothi yn arbenig yn eu plith. Pa fodd bynag, nid oes ar gof a chadw gyfryw folawd yn mhlith gorchestwaith y bardd a arbedwyd yn yr oes ddiweddaf rhag ebargofiant gan y ddau lenor hyglod (Tegid a G. Mechain) y parablir eu henwau 'n serchus tra bo "Cymru a Chymro'n bod." Y mae terfynau rhamant yn caniatau i ni ddychymygu fod ei ddiolchgarwch yn frwdfrydig, a'i ganmoliaeth o ddoethineb cynllun yr ymgyrch, dewrder dihafal ei weithiad allan, yn nghyda 'i lawenydd gwynfydus yn y llwyddiant a'i dilynodd, yn farddoniaeth yn wir. Er mai ffoadur oedd Lewis yn Ngwynedd, yr oedd yn foneddwr o waed ac o ddygiad i fyny, ac wedi gwasanaethu peth amser yn y fyddin; a thrwy hyny, efallai na fynai efe fod dim arwedd fydol ar ei fawl. Y mae yn syndod hefyd gymaint yw siomedigaeth y lluaws yn gyffredin wrth weled bardd enwog y tro cyntaf. Canant mor nefolaidd nes y tybiai dyeithriaid eu bod yn rhai o fodau gogoneddus cylch y gwynfyd; ond pan y gwelir hwynt, nid oes gan yr edrychydd siomedig ond penderfynu mai dal angel a wnaethant, a dwyn oddiarno hyny o ganeuon oedd ganddo yn ei gôd. Wrth wrando eos yn telori yn y goedwig gudd, gellid meddwl ei bod wedi ei haddurno â harddwisg wychaf adar paradwys; nid yw hithau wed'yn ond y ddysymlaf o ehediaid y nefoedd. Rhanodd Natur ei rhoddion yn lled gyfartal-rhoddes eurbais i un, ac eurbig i'r llall. Ac onid yw y byd adarol yn ddarlun o'r gymdeithas ddynol? Talodd Lewis ddiolchgarwch gwresog i'w gymwynasydd, anrhegodd ef â chofged neu ddwy, y rhai a dderbyniodd y milwr ieuanc trwy daerineb; ac yn ystod y dydd, ymadawodd, ac ni welodd y ddau wynebau eu gilydd mwyach.

Yr oedd Robin yn llawn trwst a miri hefo 'r plentyn a gafodd, ys dywedai, ar lawr," yr hwn a hawliai efe fel ei eiddo ei hun. Gwadai Morfudd a Gwenllian ei hawl, a cheryddent Robin am siarad am fod dynol prydferth a dyddorol felly, fel pe na buasai ond darn o arian bath. A chan droi oddiwrth wyneb hawddgar y plentyn at wedd welw y fam farw, wylodd y rhianod fel plant. Nid oedd Reinhallt am yspaid yn gwybod dim am y newydd-ddyfodiaid hyn, eithr ar ol ymadawiad Glyn Cothi, a dyfod o hono yn ddamweiniol i'r fan, a chael ei chwiorydd yn wylo a Robin hyd yn nod yn edrych yn brudd, mynodd wybod yr holl hanes; ac wedi deall y cwbl, a chan edrych ar y marw, sychodd yntau ddagrau breision a neidiasent yn frwd o ffynonell ddofn ei gydymdeimlad. Archodd fod i'r corph gael ei gladdu'n barchus, a chymherth y plentyn yn ddeheuig yn ei freichiau cedyrn gan ei hanwesu, fel pe buasai magu yn un o gymhwysderau uwchaf ei natur.

"A thi a'i cefaist mewn ffos yn y Morfa, Bondigrybwyll, ai do?"

"Ar fin y ffos," ebai Robin, "Duw a'i cadwo! welaist ti erioed blentyn tlysach?"

"Y mae natur bob amser, os sylwaist ti, Bondigrybwyll, yn llunio plant amddifaid yn harddach na phlant eraill, fel yr enillont serch estroniaid."

"Go lew ti, hefyd, Reinhallt," ebai Robin, "gan gofio, plentyn amddifad wyt tithau hefyd, fy arglwydd Reinhallt. 'Does ryfedd eich bod chwi i gyd fel teulu mor dlysion yn Mroncoed yma! 'Does ryfedd fod bechgyn y Rhosyn Gwyn mor serchglwyfus at rai o chwiorydd gwyr y Rhosyn Coch!"

"At ba beth yr wyt ti 'n anelu, Robin?"

"Bondigrybwyll, nid i wneyd na chludo chwedlau y dois i i'r byd yma."

"Dy brif neges yn y byd, hyd y gallaf fi ddeall," ebe Reinhallt, "ydyw gwasanaethu arnaf fi, a d'weyd yr holl wir a wyddost yn ddihoced ac yn ddibetrus."

"Reinhallt, paid a digio; nid wyf yn gwadu dy hawl arnaf fel deiliad[4] a anwyd ac a fagwyd ar dir dy dadau. Ond gwna gymwynas âg un o dy ddeiliaid ffyddlonaf-paid a'm holi ar bethau carwriaethol, canys yr hwn a gludo chwedlau serch, sydd yn cludo tân poeth, a'i llysg, oni fyddo yn dra diesgeulus. O'r ddwy, buasai yn well genyf gludo eiddo'r prydydd trwy heolydd Caer gefn dydd goleu na dwyn "


"Na falia," ebai Reinhallt, gan siarad ar ei draws, effaith meddwl pryderus, "ydyw'r gwylwyr yn gwneyd eu gwaith? Enyd fer y cwsg digofaint dig. Rhaid gwylio fel y gwylir ffau bleiddiaid a gollasant eu cenawon. Wrth gofio, Robin, beth a ddaeth o'th garcharor? Wyt ti yn meddwl mai rhyw domen i hel pob ysgarthion iddi ydyw'r Twr yma? Ti a'i gollyngaist yn rhydd yn ol fy nghyfarwyddyd?"

"Bondigrybwyll, y marchog trwstan? Mi a'i gollyngais fel y gollwng adarwr ehediad diwerth. A'm llaw dangosais Gaer iddo, ac a'm troed rhoddais iddo gychwyn da tuag ati."

PENOD XII.

"FFAIR yn y Wyddgrug yfory; ac y mae'r Cymry yn rhai cethin am ffeirio. Hwy a ffeiriant bobpeth—o bluen gwydd i aden archangel," chwarddodd Brown am ben sioncrwydd ei ddarfelydd; "bydd yno luaws mawr o wladwyr cribddeilgar yn ffeirio eu ceffylau celyd, eu hychain duon, a'u defaid mynydd, y cwbl yn bur fychain ond yn bur dda. Cyfleustra rhagorol i dalu'r pwyth yn ol i'r cnafon lladronllyd, canys nid yw trinwyr tir fawr o ymladdwyr. Ysgubo'r ffair o bobpeth, a chael rhai o anifeiliaid yr arch-leidr yn eu plith a fyddai'n iawn; gwnai hyny ychydig i fyny am y golled a gefais hefo celfi 'r prydydd gwirionffol hwnw a feddyliai fod ei garwriaeth ef i fod uwchlaw pob deddf. Ac nid oes wybod na fyddai rhuthr sydyn o'r fath yn foddion i faglu Reinhallt yn ei rwydi."

Fel yna yr ymgomiai Robert Brown, cyn-faer Caerlleon, ar wastad ei gefn yn ei wely wedi deffro o'i gwsg ar ol yr ysgarmes y daeth efe o honi yn llai na gorchfygwr. Galwodd gyda'r Maer, Richard Rainford wrth ei enw, gan hysbysu ei gynllun iddo ac atolygu ei gymhorth. Yn awr, er mor aruchel ac ardderchog ydyw'r swydd o faer, cafwyd aml i brawf nad yw y sawl a'i llanwant ond dynol-yn agored i wendidau fel dynion eraill. Eiddigedd sydd demtasiwn gref i lawer o honynt, yn enwedig tuag at eu blaenoriaid neu eu holafiaid yn y swydd, ac nid oedd Brown a Rainford yn eithriaid. Rhy flaenllaw ydoedd Brown gan Rainford, a rhy ddof ydoedd Rainford gan Brown. Yr oedd y ddau yn eithaf cnafon yn eu ffordd—rhusedd rhyfygus a hynodai Brown, rhagrith taeog a nodweddai Rainford. Yr oedd hawliau dinaswyr Seisnig ar gyffiniau Cymru yn yr oes hono, yn arbenig, yn eang a phenryod neillduol; ac yn marn Rainford yr oedd Brown yn dueddol i wneyd rhy fynych ddefnydd o'r cyfryw freiniau. O ganlyniad, nid oedd y Maer yn haner boddlon ar gynllun y Cyn-faer. Awgrymai ai nid gwell fuasai ymosod ar gastell Reinhallt ab Gruffydd, gan mai Reinhallt a'i wyr a bechasent.

"Os cosbir y diniwaid," ebai ef gyda llawer mwy o reswm nag o ddilysrwydd, "gwneir gelynion o bobl sydd yn awr yn anmhleidiol yn y ffrae ffyrnig rhyngot a'r Cymro ymladdgar hwn."

Meiddiodd Brown fytheirio anathema chwilboeth ar syniadau mor henwrageddol; ac yn ddifloesgni dywedodd os nad oedd Maer Caerlleon yn feddianol ar ddigon o eiddigedd tros anrhydedd y ddinas, y cymerai ef y peth yn ei law ei hun. "A phe gallwn ysgubo oddiar wyneb daear yr holl genfaint sydd yn siarad ac yn meddwl yn Nghymraeg, mi a roddwn fy ysgub i lawr yn ddedwydd, ac a fyddwn farw yn ei hymyl."

"Mi deimlwn inau yn ddedwydd wrth ei phlanu yn gofgolofn ar dy fedd," ebai Rainford, yn goeglyd.

"Lladron a llofruddion ydynt bob copa walltog," ebai Brown.

"Y maent wedi cymeryd eu dysg yn dda," ebai'r Maer, "gan eu cymydogion agosaf."

Yr oedd llestr Brown bellach yn llawn; aeth ymaith tan ddywedyd, "Nid yw'r gwr yna gyfaill i mi," a dyna un o'r gwirioneddau olaf a ddywedodd.

Cryfhaodd gomeddiad trahaus y Maer benderfyniad Brown i ddodi ei gynllun dialgar mewn gweithrediad. Galwodd i'w gyfrinach ysprydoedd gwrthnysig y ddinas, a dadblygodd ei ddichell ger eu bronau. Yr oeddynt i logi tua chant o wyr —gwyddent hwy o ba rywogaeth—dibris, ymladdgar, tebyca' fedrent gael i Richard Ayles (ein hen ffrynd Dic Alis). Gyda llaw, ofnai yn fawr, nis gallai'r rhychor hwnw ddyfod i'w canlyn oherwydd ei ben ysig. Yr oedd cnwd toreithiog o chwyn dynol—yn wir y mae cnwd da bob amser o honynt—a chafwyd yn bur ddidrafferth y nifer gofynol. Yr oeddynt yn fintai y buasai ellyll yn falch o'u harwain i frwydr. Parodd Brown iddynt wneyd eu goreu i atal pob porthmon rhag myned i ffair y Wyddgrug trwy deg neu drais, a chymeryd oddiarnynt eu ceitleni (smock frocks), hyn eto trwy deg neu drais. Ac o ba nifer bynag o geitleni y byddent yn fyr yn y diwedd i ddilladu 'r can'wr, gorchymynwyd iddynt brynu'r gweddill yn maelfeydd y ddinas. Yr oeddynt i'w hysbysu ef yn y cyfnos pa lwyddiant a ddilynasai yr amcan; a gorchymynodd iddynt oll fod yn barod wrth y porth gorllewinol am bump o'r gloch boreu dranoeth,

Pump o'r gloch boreu dranoeth a ddaeth; a phe buasai yn ddigon goleu, cawsid gweled y cynulliad hynotaf a digrifaf yr agorwyd llygad arno erioed. Yr oedd pedleriaid, eurychod, hapchwareuwyr a charnlladron Caer yno yn lled gryno, ac ambell i filwr heblaw hyny, a'r oll wedi eu trawsffurfio gan eu gwisg yn borthmyn. Gwisgai pob un geitlen wedi ei brodio yn anghelfydd, a'i hollti yn y blaen ar ei hyd, ac mewn chwa o wynt, yr oedd y ddwy ran yn ymagor allan, fel dwy aden, a barai i'r gwisgwr ymddangos fel rhyw aderyn mawr dychrynedig. Buasai gweled Wil y Clocsiwr a Simon yr Eurych wedi eu gweddnewid yn brynwyr a gyrwyr da byw yn taro dyn yn chwithig. Yr oeddynt o bob maint, llun, ac oedran; ac yn annhebyg iawn i'w gilydd ond mewn un pethnod y bwystfil yn amlwg ar eu hwynebau. Y cynfaer Brown, fel y gellid tybio, oedd pen cyfaddas y genfaint ansyber; ac wedi ychydig o barotoadau ffwdanus, tynghedodd hwynt i yspeilio pobpeth symudadwy, ac i ymladd fel cythreuliaid os byddai rhywun mor ryfygus a'u gwrthwynebu; "a chofiwch," ebai ef, "mai bleiddiaid ydyw'r Cymry, mamau bleiddiaid ydyw'r merched, a chenawon bleiddiaid ydyw'r plant. Dyfethwch hwynt oll os daw hi i hyny. Y maent yn eich llwyr gasau chwi; ac os na leddwch chwi hwynt, ni raid gofalu fawr na laddant hwy chwi. Yn awr, fy ngwyr dewrion, awn yn mlaen i ogoniant ac anfarwoldeb."

"Gogoniant ac anfarwoldeb! yn mh'le mae 'r manau hyny, dywed," gofynai rhyw bedler i Ddic Alis.

"Dwy hafod ydynt," ebai Dic, "rhwng Rhydymwyn a Rhosesmawr."

Fel y gwelir, yr oedd Dic wedi hybu digon i gymeryd rhan yn yr ymgyrch.

PENOD XIII.

"By be sy' ar y fuwch, deydwch? Seren, sa'n llonydd; ni weles i 'rioed siwn beth a'r fuwch yma; mi brocith bob Sais ddaw'n agos ati;" ebai hen ffarmwr gwledig o Gilcen (Gredifel wrth ei enw.) Cilcen, ys dywedir ar lafar cyffredin gwlad, ydyw un o'r manau diweddaf a grewyd. Ond y mae yn bentref bychan digon propor ar ol unwaith myn'd iddo;-yn sefyll ar lechwedd heulog tan gysgod Moel Fama. Yr oedd ffarmwyr y lle hyd yn ddiweddar yn mhell ar ol yn mhobpeth ond cryfder gewynol, a'u gwartheg yn mhlith y rhai manaf yn sir Fflint. Er fod yr hen ffarmwr hwn yn gosod Sais yn mysg un o gasbethau ei fuwch, y mae yn lled amheus a welsai "Seren" Sais erioed cyn y diwrnod hwnw. Mae yn wir mai Sais y galwai ein cydwladwyr yn yr oes hono bob crwydryn annheilyngach na chyffredin, fel y galwai plant yr oes ddiweddaf ei chrwydriaid hithau yn Wyddelod.

Dic Alis oedd gwrthddrych dygasedd "Seren;" anelodd ei chorn yn union at orsedd ei fywyd; ond bu Dic yn ddigon sionc i symud ei hunan a'r orsedd oddiar ffordd y corn. Ac wedi cael ei hun i fan ddyogel, gofynodd mewn Saesneg clapiog, gan gymysgu cymaint o Gymraeg âg ef, ag a allasai hebgor o'r ychydig a bigasai i fynu yn Nghaerlleon, beth oedd ei phris?

"Gini," ebai'r amaethwr, "ac nid oes ar balmant Wyddgrug heddyw amgenach buwch am laetha na "Seren." Mae hi yn bur chwareus weithiau, wel tase," a chodod gwrid i wyneb y Cymro.

Yr oedd Dic yn coleddu syniadau gwahanol am chwareu i'r eiddo pobl Cilcen; ond ni ddywedodd ddim ar y pwngc; aeth ymaith gan fwngial fod y pris yn rhy uchel.

Daeth lluaws o ddynion o'r un ddelw a'r porthmon diweddaf heibio; ond o hyny allan, gofalai'r ffarmwr am eu rhybuddio i gymeryd yr heol gefn i "Seren," rhag y digwyddai damwain. Dechreuai'r ffarmwyr un ac oll ryfeddu at amlder y porthmyn yn y ffair—yr oedd yno bron gynifer o brynwyr ag o anifeiliaid. Nid oeddynt ychwaith yn prynu dim; ni fu erioed ffair yn y Wyddgrug ag ynddi lai o brynu—cerdded oddeutu a wnai'r porthmyn, holi'r prisiau, a gwneud amneidiau dyrys ar eu gilydd yn awr ac eilwaith nad oedd undyn ond hwynt-hwy eu hunain yn eu deall. Yr oedd eu hymddygiad yn peri penbleth.

PENOD XIV.

GWAWRIODD yr ail ddiwrnod, ac nid oedd argoel dialgarwch ar lun byddin yn dyfod o Gaer yn nghyfeiriad y Wyddgrug, er fod gan Reinhallt ddynion yn cadw y wyliadwriaeth ddyfalaf ddydd a nos. Er hyny, nid oedd anmheuaeth yn meddyliau pobl y Twr, nad crynhoi yr ydoedd, ac mai trymaf oll a fyddai pan y delai. Yr oedd amlder a lluosogrwydd y minteioedd porthmyn a gyrchent i'r ffair, a'r oll yn dyfod yn uniongyrchol o Gaer, yn beth digon rhyfedd, er na chymerasai neb sylw o'r peth oddieithr Bondigrybwyll. Ni ddiangai yr un amgylchiad na digwyddiad ei sylw treiddgar ef. Chwiliai a difynai bobpeth i'w ansoddion; a chyda'r hyn a elwir drwgdybiaeth sydd mor naturiol i feddyliau o'r fath, lluniai a dyfalai ddamcanion a ddeuent yn lled fynych i ben. Cadwodd gyfrinach ei feddwl iddo ei hun, heb yngan gair hyd yn nod wrth ei feistr, er i'n harwr sylwi fod tu fewn Robin yn faes rhyw ymryson annghyffredin, ac iddo ofyn am y rheswm. Cadwai ei gyfrinach hyd oni ddadblygid rhyw amgylchiad a wnelai ei ddyfalion yn sicrach. Tua deg o'r gloch, aeth am dro gan belled a'r dref, a rhodiai yn hamddenol ar hyd yr heolydd, er mwyn gweled y porthmyn wyneb yn wyneb. Taflai gipedrychiad diofal arnynt, a deallodd yn fuan nad oeddynt yn fynychwyr ffeiriau Gwyddgrug, ac anmheuai os oeddynt yn borthmyn o gwbl. Meddyliai ei fod wedi gweled rhai o honynt o'r blaen mewn lle ac mewn cymeriad arall. Adwaenodd Ddic Alis yn y fan; ac efe yn llechwraidd ddireidus a roddes bigiad i "Seren" yn ei pharth gorllewinol a barodd iddi ruthro mor anesboniadwy (i'w pherchenog) yn mlaen, nes y bu agos i'w chyrn ymgyfarchwel â chalon y Sais. Wrth gwrs, cerddodd Robin i ffwrdd yn gwbl ddidaro. Cafodd gipolwg hefyd ar Robert Brown yn un pathew boliog, trwyngoch, a'i lygaid trythyll ar neidio o'i ben gan lidiowgrwydd, a'i ddanedd yn crensian, a'i wefusau halog yn myn'd ac yn myn'd fel pe buasai mewn rhyw ymgom bwysig âg ef ei hun. Yr oedd yntau wedi ymwisgo yn niwyg porthmon, a rholyn o borthmon rhyfedd ydoedd. Gwelai un arall hefyd a adwaenai yn dda-amnaid siriol oedd yr unig foesgyfarchiad a gymerth le rhyngddynt; deallent eu gilydd.

Robin yn gweled a welai, ni bu ymarhous yn dychwelyd adref.

"Reinhallt!" ebai ef, "paid colli eiliad o amser; mae'r dieiflgwn ar ein gwarthaf. Mae Gwyddgrug yn llawn o honynt."

Yna datguddiodd i'w arglwydd yr ystryw borthmonol, a thraethodd ar fyr eiriau ei farn mai dyfais ddieflig ydoedd i yspeilio a lladd.

Udganwyd corn y gad yn isel ond treiddiol, ac mewn ufudd-dod i'w sain, daeth y gwyr yn ebrwydd yn nghyd i'r buarth. Yr oedd y rhianod, fel y gallesid meddwl, yn fyw o ddyddordeb am wybod gan Robin pa beth oedd yn bod; ac yntau mor ryfeddol o brysur gyda'r darpariadau, fel mai ychydig o reswm a allai roddi iddynt, a hyny mewn brawddegau drylliog. Sisialodd rywbeth am Goronwy yn nghlust Morfudd; ond ni ddeallodd hi ond ei fod ef yn y ffair yn ngwisg porthmon; a tharanai Reinhallt yn ddigon ffyrnig mewn cwr arall mai gelyn, lleidr, a llofrudd, pob porthmon oedd yn y Wyddgrug y bore hwnw. Parodd hyn i'w chalon guro'n gyflymach nag o'r blaen. Yr oedd Gwenllian yn arafaidd fel arferol, ac yn meddianu ei hun yn dda, er nad yn anystyriol o'r perygl. Ffwdanai Sion fel un ar ddarfod am dano;—y mae yn syndod fod natur tra yn llunio teuluoedd o ran pryd a gwedd yn dra thebyg i'w gilydd, yn ffurfio eu meddyliai mor dra annhebyg y naill i'r llall.

Mewn byr amser, yr oedd gwyr Broncoed tan arfau, ac yn barod i'r ymgyrch; a rhagdrefniadau y cadlywydd hefyd yn gyflawn. Parodd i'r Cadben Ifan gymeryd ugain o wyr a myned yn gwmpasog ar hyd godreu Gwern y Mynydd i Faes y Dref, a thrwy hyny gallai gael cefn y gelynion tra byddai ef a'i wyr yn ymosod arnynt yn eu hwyneb. Cadben Ifan a'i wyr a wnaethant yn ol y gorchymyn, ac a gyrhaeddasant Faes y Dref yn iach ddiangol. Ymdeithiodd Reinhallt a'i gatrawd yn arafaidd modd y cai yr adran arall amser i gyrhaedd eu cyrchfa yn brydlawn.

Dyn yn dyfeisio yn erbyn dyn ydoedd. Ni ddaethai gwyr Caer oddicartref i segura, a dechreuasant ar eu hanfadwaith o ddifrif wedi dwyn eu cynlluniau dipyn i ben. Lledasant eu hunain allan fel rhwyd, modd y gallent ysgubo pobpeth yn llwyr o'u blaenau.

Ac erbyn i Reinhallt gyrhaedd y dref, yr oedd y lladron wedi ymdaith tua chwarter milltir allan ohoni, hyd at Bont Arwyl, pentref bychan a dynwyd mewn rhan i lawr er mwyn cael lle i adeiladu gorsaf y reilffordd arno, a'r lle y ganwyd y bardd coeth a melusber Blackwell (Alun), man genedigol yr hwn, fel y mae goreu, sydd yn mhlith yr ychydig dai a arbedwyd.

Parodd y ffaith fod y Caerwyson wedi cyrhaedd allan o'r drefn dipyn o ddyryswch yn rhag-gynlluniau Reinhallt, gan mai yno y darparasai efe at eu cyfarfod. Modd bynag, nid oedd ond gwneyd y goreu o'r amgylchiadau. Archodd ymlid ar eu holau, a gyru gair at fintai Maes y Dref i brysuro yn mlaen. Yr oedd yno gynhwrf a dychryn mawr fel y gallesid disgwyl, yn yr heolydd tra yr elai'r fyddin ymlidiol trwyddynt. Gwelid dau neu dri o gyrph meirw, ac yr oedd yn hawdd gwybod pwy a'u lladdes. Ond nid oedd hamdden i ymholi dim. Cerddediad trwm y gwyr arfog hyn i frwydr a foddai ochenaid wan y trueiniaid ar fin trengu. Goddiweddwyd y gelynion cyn iddynt gyrhaedd Bryn Ellyllon, ac ar y rhiw hwnw aeth yn frwydr waedlyd mewn eiliad. Trodd y Saeson ar eu sawdl i dderbyn eu hymlidwyr; a dygasant allan arfau a fuasai yn nghêl hyd yn hyn tan y wisg borthmonol. Ni bu y Cymry erioed mewn gwell tymher ymladd, canys yr oedd eu hachos yn dda; ac o'r tu arall, ni welwyd porthmyn erioed yn ymladd cystal, canys milwyr profiadol ydoedd amrai o honynt, a godreuon chwerwon cymdeithas oedd y gweddill. A thra yroedd y creaduriaid direswm yn defnyddio eu seibiant i bigo y glaswellt oddiar ochr y clawdd, syrthiai y creaduriaid "rhesymol" ar eu gilydd fel gwaedgwn. Brwydr ymdrechol, boeth, hirfaith, ydoedd, canys yr oedd o Saeson yn erbyn y Cymry ddau yn mhen un. Lladdwyd Dic Alis yn yr ymdrech gyntaf gan ergyd câdfwyall. Yr oedd yn ceisio tori trwy renciau'r Cymry, fel y gallai dalu pwyth culfa Caer i Reinhallt, a than falu poer cynddaredd yn pwyo ac yn dyrnodio pawb oedd ar ei ffordd yn arswydus. O'r diwedd, cyfarfu â'i feistr; bachgen o Gilcen o'r enw Goronwy ab Gredifel, nad oedd gwyr Reinhallt yn ei adnabod ond oherwydd ei weled, a redodd yn mlaen oddiwrth Robin o gae gerllaw lle y safai'r ddau yn gwylio'r ymdrafod,—llencyn cadarn cyhyrog, —rhedodd yn mlaen, a tharawodd Dic Alis yn ei benglog nes ei hollti'n ddau, fel yr hyllt cigydd ben molltyn. Ocheneidiodd ei anadl olaf ar aden rheg; ac yno ar ochr y ffordd y gadawyd ei gelain fawr farw gan ei gyfeillion yn niwedd y frwydr.

Am yspaid cadwai Robert Brown yn y dirgel, fel un na fynai i neb wybod ei fod yno; ond wrth ganfod ei wyr yn cwympo o'i ddeutu, ac yn enwedig Dic Alis, daeth yn bwys arno i ddewis un o ddau lwybr—naill ai ffoi, yr hyn a fuasai yn wir warthus; neu ddyfod i'r gwyneb a thrwy air a gweithred anog ei wyr i adnewyddiad egni a phybyrwch. Dewisodd yr olaf, gan ruthro yn mlaen, ac atolygu ar i'w ddynion ei ddilyn.

"Dacw ellyll ieuancy Twr," ebai ef, gan unioni at ein harwr; "lladdwn ef; dacw'r lleidr pen ffordd a yspeiliodd fy nhŷ, holltaf ei ben fel yr holltwyd pen Richard Ayles druan. Darniwch a rhwygwch ef yn ddarnau!"

"Gadewch iddo ddyfod," ebe Reinhallt, "na rwystrwch ef; nid oes arnaf rithyn o'i ofn."

Agorodd y Cymry adwy, fel y caffai Robert Brown ei ewyllys. Rhoddes y ddau arweinydd eu hunain mewn trefn i frwydr lawlaw; bu ysgarmes rhyngddynt, ond ni pharhaodd ond ychydig; diarfogwyd y Cynfaer; a Reinhallt a'i gwnaeth yn garcharor. Ar hyn trodd gwyr Caer eu gwegil. Ffoisant, ambell un yn sionc ac ysgafndroed, eraill yn gyndyn a hwyrdrwm; canys nid yw troi gwegil mewn câd yn anianawd y Sais. Diangodd y rhai blaenaf trwy nerth eu traed; ymlidiwyd a goddiweddwyd y lleill, ac amryw o honynt a syrthiasant trwy fin y cleddyf.

Dychwelodd Reinhallt a'i wyr i'r dref yn fuddugoliaethus; a'r anifeiliaid yspeiliedig ganddynt, y rhai, prin y rhaid hysbysu, a roddwyd yn ol i'w gwahanol berchenogion. Ni bu y fath oraian a llawenydd yn y Wyddgrug er dyddiau Garmon a Lupus, pan y dyrwygid ei hawyr gan y floedd orfoleddus "Aleliwia." Cyhwfenid banerau, cenid clychau, ac yr oedd crechwen a chân yn diaspedain trwy'r lle. Yr unig gwmwl ar y sirioldeb ydoedd y meirw diniwaid, yn enwedig y rhai a laddwyd mor greulon a diachos yn y ffair. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Gredifel, yr hen wladwr o Gilcen, perchenog "Seren," a Dic Alis a'i trywanodd, a chan dynu ei gleddyf yn wlyb gan waed o fynwes Gredifel, planodd hi yn nesaf yn ystlys y fuwch ddiniwaid. Yr oedd Goronwy ab Gredifel yn llygad—dyst o hyn, a thyngodd y mynai ddial gwaed ei dad. Llethodd ei dymher ar y pryd rhag neidio ar y llofrudd yn y fan; gan fod yn sicr yn ei feddwl na byddai raid iddo ddisgwyl yn hir am ei gyfleu. Felly Goronwy a ddisgwyliodd am ei gyfleu ac a'i cafodd.

Cludwyd Reinhallt yn fuddugoliaethus ar ysgwyddau dynion cryfion trwy brif heolydd y dref yn nghanol llawenydd diderfyn; a gosgorddwyd ef yr holl ffordd i'r Twr yn sain y bloeddiadau mwyaf gorfoleddus. Yr oedd Gwyddgrug ar i fyny'r diwrnod hwnw. Reinhallt oedd eulun y dydd; ond yr oedd yno eraill a fwynhaent ran o'r mawl a'r anrhydedd; nid amgen Goronwy ab Gredifel a Robert Tudur (Bondigrybwyll). Perchid Goronwy o herwydd iddo ladd bwystfil y gelyn, fel y lladdes Sant Sior y ddraig, neu y lladdodd Syr John y Bodiau o Leweni y bych. Wrth ganfod ei fedr a'i eondra, ac ystyried y gwasanaeth pwysig a gyflawnodd i'w achos ef yn Nghaerlleon o'r blaen, ac yn y frwydr y diwrnod hwnw, agorodd dôr serch Reinhallt yn llydan agored i'r llencyn o Gilcen, er ei fod yn gwybod mai un o wyr y Rhosyn Gwyn ydoedd. Rhoes wahoddiad taer a chynes iddo i'r Twr, yr hwn a dderbyniasid yn llawen yn y fan oni buasai fod ganddo ddyledswydd brudd o'i flaen o ofalu am gorph marw ei dad.

"Yr wyf yn atolygu arnat," ebai Reinhallt, "ar ol dy ddiwrnod caled, na wnelot ond gweled dy riant marw; ac na archollot dy deimladau gyda threfniadau ei gludiad adref. Gad hyny i Ifan y cadben. Dyred gyda mi i'r Twr."

Gwelai Goronwy reswm y cynygiad, er fod ei deimladau yn gwingo braidd; ond pan ddaeth y syniad i bwyso arno fod un o ddigwyddiadau dedwyddaf ei fywyd ar gael ei sylweddoli—ymweliad â'r Twr ar wahoddiad ac yn nghymdeithas brawd enwog ei ddyweddi, cydsyniodd gydag ochenaid.

"Twt! paid och'neidio fel yna; mi ofala Ianto fod pobpeth yn iawn; ni cheir y melys heb y chwerw, bondigrybwyll," ebai Robin.

Cerddai Reinhallt a Goronwy fraich yn mraich i fyny'r cae oedd yn arwain at y palas; rhedodd Morfudd yn ol ei harfer dwym i gyfarfod ei brawd, i'w roesawu adref; a rhoddes ei breichiau ar unwaith am yddfau'r ddau, a chusanodd Reinhallt a chusanodd Oronwy. Rhyfeddai ei brawd at eangder ei serch, ond dyma Gwenllian yn mlaen ar hyn, ac yn llongyfarch ei brawd yn ei dull dilys arferol, ac wedy'n yn cyfarch ei gydymaith mewn dull mor gartrefol nes y gofynodd Reinhallt

Ho! chwi a welsoch eich gilydd o'r blaen, felly?"

"Ein tarpar frawd-yn-nghyfraith, Reginald," ebai Gwen, "beth feddyli di o hono? onid yw yn llencyn dewr?"

Pe cawsai Morfudd ei dewis o naill ai taro Gwenllian, ynte suddo o'r golwg i dwll yn y ddaear, buasai yn anhawdd gwybod pa un a wnelsai. Ond gan nad oedd yr un o'r ddau yn ddichonadwy, nid oedd ganddi ond gwrido gymaint fyth ag a fedrai, a sisial rhywbeth am ddigywilydd-dra Gweni, a throi'r stori trwy ddweyd y buasai yn llawer gweddusach ynddi ddyfod a Ionofal fach amddifad yn mlaen i roesawu ei "hewythr" o faes y frwydr. Digon hurt yr edrychai Goronwy hefyd; ac yn wir nid oedd Reinhallt nemawr gwell; ond daeth y faethferch fechan yn mlaen a'i gwên ddiniwaid ar ei genau, ac arwr y dydd a'i cusanodd yn serchus.

Hyn oll ar ddychweliad buddugoliaethus o frwydr. Y mae hynawsedd greddfol natur dda yn nawsio allan yn nghanol y digwyddiadau mwyaf cynhyrfus.

PENOD XV.

OND beth am y Cyn-faer? Pa fodd yr ymdarawodd y gaethglud?

Wel, cafwyd yr helynt cethinaf yn ei ddwyn i'r Twr. Ni bu erioed mewn gefyn garcharor mwy anystywallt. I ddechreu, ni fynai symud fér o'r fan, a bu raid ei gludo, a baich anhydrin ei wala ydoedd. Ac wedi cyrhaedd y dref, cafwyd gwaith mawr yn ei achub rhag cynddardd y dyrfa, y rhai a fynent ei rwygo yn gareiau. Y mae marwolaeth drwy ddwylaw gwerin ddigofus, a hyny'n gyfiawn, yn un mor anmharchus, fel yr arswyda pob meddwl rhagddi. O bob angau, dyma'r gwarthusaf. Nid oedd Robert Brown yn eithriad i'r rheol. O'u cydmaru â'r dorf gynddeiriog, ystyriai hyd yn nod ei gaethgludwyr yn gyfeillion, ac ymdawelodd a gwasgodd atynt am eu nawdd. Ond pan gyrhaeddasant du allan i'r dref, dychwelodd ei ddrwgdymher yn ffyrnicach nag o'r blaen. Bondigrybwyll a weithredai fel goruchwyliwr y gaethglud; a'r dull a ddefnyddiodd Robert Brown i ad-dalu aml i gymwynas a dderbyniasai oddiar law Robin yn ystod y daith, ydoedd trwy frathu darn o'i fawd ymaith. Yr oedd yn troedio ac yn brathu pawb a ddelai yn agos ato; a diau fod ei gynddeiriogrwydd wedi ei yru yn mhell i dir gwallgofrwydd. Pan gyrhaeddasant y Twr, dodwyd ef yn y ddaeargell lle y cedwid carcharorion—cell dywell laith, gan obeithio y delai ychydig ato ei hun mewn mangre felly. A phan ddeallodd efe fod llaw mor anhyblyg a thynged ei hunan wedi ei dodi arno, ac na lwyddai iddo wingo yn erbyn ei gadwen, trodd ei natur lorf y tu gwrthwyneb allan, a dechreuodd ddeisyf a thaer weddio ar Reinhallt am gael rhyddid i weled haul Duw. Toddodd digofaint ein harwr ato ar fyrder pan ddeallai ei fod yn erfyn am un o fendithion haelaf a gwerthfawrocaf y nefoedd; ac archodd ei symud i'r penty gerllaw y palas, adfeilion yr hwn sydd yn aros hyd yn bresenol, lle y gallai anadlu awyr bur a mwynhau goleuni trwy ffenestr wydr, wedi ei delltu â bàrau haiarn. Cludid ei ymborth iddo oddiar fwrdd y parlwr; ac er ei holl anwiredd, ni roddid arno yr anmharch lleiaf ond oedd lwyr angenrheidiol. Yn y cyfnos, dychwelodd llesmair o gynddaredd ato drachefn. Y genedl Gymreig oedd y salaf a'r waethaf tan y nefoedd, ebai ef; a Reinhallt oedd y salaf a'r gwaethaf o'r genedl hono. Lleidr penffordd a dorasai ei dy ef; llofrudd Richard Ayles,—(un o'r bechgyn mwyaf hawddgar anwyd o wraig); llyfrgi gwael, yn ei gadw ef mewn caban felly pan y dylasai fod yn ei balas ei hun yn bwyta ei giniaw ac yn yfed ei win. Yna gofynai yn ostyngedig i un o'r ddau ddyn a'i gwyliai os ai a chenad at ei feistr yn gofyn caniatad i Robert Brown, cyn-faer Caerlleon siarad gair âg ef. Hwnw yn ddigon difeddwl-drwg a gydsyniodd; a chyda ei fod ef o'r golwg neidiodd y carcharor fel panther ar y gwyliwr arall, bwriodd ef i'r llawr trwy sydynrwydd yr ymosodiad, ac yna nafodd ef yn dost â darn o haiarn a gawsai ar lawr ei gaban. Ar ol hyny, rhedodd â'r darn haiarn yn ei law tuag at y tŷ, gan dyngu y lladdai bawb yn y lle. A phwy a chwareuai gerllaw'r drws ond Ionofal fach.

"Geneth ordderch Sian Fflintshire, myn d——l," ebai ef gan na ddarfu dy fam flinderog moth foddi fel y perais iddi, cymer hwnyna i wneud yr un gwaith," a tharawodd hi â'r darn haiarn nes oedd y fach yn lled farw ar lawr.

Wrth glywed y cynhwrf, tra yn derbyn cenad y gwyliwr, rhedodd Reinhallt a Goronwy a'r holl deulu tua'r fan, a gwelent y ddau ddyoddefydd ar lawr, a'r llofrig llofruddiog yn chwifio y darn haiarn o gylch ei ben, a bygwth lladd pwy bynag a ddeuai ato.

"Na wnai di," ebai ein harwr. Ysgödd y tarawiad cyntaf; a chyn cael o'r llofrudd amser i godi'r offeryn dinystriol eilwaith, yr oedd dwy law gadarn am gorn ei wddf, nes y glasai yn ei wyneb, ac y disgynai y darn haiarn o'i law mor ddiymadferth a phe disgynasai o law dyn marw.

"Dywed dy bader, yr wyt wedi byw digon o hyd," ebai Reinhallt.

"Felly tithau, Reinhallt," ebai Brown.

"Nid oes waed plentyn amddifad teirblwydd oed ar fy nwylaw i," ebe ein harwr.

"Tra y byddaf i byw, nid yw y plentyn yna yn hollol amddifad. Mae genyf hawl i wneud a fynwyf â'r eiddof fy hun," ebai Brown.

"Bondigrybwyll, dy gelwydd," ebai Robin, "ni ddaeth erioed o lwynau ellyll o'th fath di blentyn mor anwyl."

"Taw," ebai Reinhallt, "nid wyf yn amheu na wneir aml i blentyn heddyw yn amddifad o dad; ond gobeithio eu bod oll yn cymeryd ar ol eu mamau, ac nid ar dy ol di, genau trythyll llofruddiog. Dywed dy bader."

Safai'r Maer mewn pensyfyrdandod, gan felltithio yr olygfa ryfedd o'i ddeutu.

"Dygwch y cortyn," ebai Reinhallt, "a chrogwch ef wrth y stapl[5] acw yn y nenfwd."

"Beth," ebai Goronwy, "ei grogi yn y parlwr!" "Ie," ebai Reinhallt," bu yn faer Caerlleon Gawr ar Ddyfrdwy unwaith; efe a gaiff farw yn y parlwr—anrhydedd nad yw efe yn bersonol yn ei haeddu."

"Bydd ei ysbryd yn ein terfysgu ddydd a nos yn oes oesoedd," ebai Sion.

"Gresyn," ebai'r ddwy rian, "mae yntau yn frawd i rywun."

"I fynu ag ef," ebai Reinhallt.

Dodwyd y cortyn am ei wddf gyda chryn sicrrwydd gan Robin; a pharodd cyffyrddiad yr offeryn hwnw â'i wddf noeth y fath syched ynddo am fywyd fel y torodd allan i lefain yn uchel am dano.

"Yr hyn a gymeraist ti mor anhaeddianol oddiar eraill, rhaid ei gymeryd yn haeddianol oddiarnat tithau. Trugaredd i dy enaid tlawd annuwiol; bydd raid talu llawer cyn y ceir ei fath o'r purdan. I fyny ag ef."

"Aroswch gael i mi roddi y darn bawd yma yn ei geg," ebai Robin, "fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, 'a'u gweithredoedd i'w canlyn hwynt.'"

"Na lefara gabledd, filain," ebai Goronwy. Ac wedi ei godi i'r uwchder angenrheidiol, ebai Reinhallt, "Gadewch yr adyn yna i farw." Cyflawnwyd y gorchymyn, a gadawyd y diras wrtho ei hunan yno i farw yn ngwyll y cyfnos. Felly y darfu am Robert Brown, a lanwasai unwaith y swydd o faer Caerlleon; ac, a defnyddio alegori o eiddo un o efangylwyr Cymreig y ganrif hon, nid oes ond gobeithio "iddo gael trugaredd rhwng y bont a'r afon."

"Dau gorph yn yr un ty," ebai'r hen air. Y fenyw dwylledig yn barchus ar yr ystyllen, ei thwyllwr yn grogedig wrth y nenfwd, a phlentyn yr ymdrafodaeth anghyfreithlawn yn anwylun y teulu. Drych cywir o ddiwedd einioes dau gymeriad o'r fath. Ac onid priodol y mabwysiadwyd yr enw Ionofal, ar gynygiad Bondigrybwyll?

Jane Flintshire, fel y'i gelwid, a gladdwyd mewn pridd cysegredig; a Robert Brown mewn llanerch anghyfanedd. Dymunai rhai o'r milwyr ei ddaearu fel drwgweithredwyr eraill mewn pedair croesffordd; ond ni fynai Reinhallt droseddu ar derfynau angau.

"Yr ydym ni," ebai ef, "wedi ei gospi hyd yr eithaf; poed rhyngddo bellach â'i Dduw."

PENOD XVI.

Yr oedd y braw yn nghylch y rhai y tybiwyd eu bod wedi eu llofruddio yn fwy na'r briw. Adenillodd y gwyliwr ymwybodolrwydd yn lled fuan; ac er fod y lodes fach wedi ei hanafu yn dost, daeth yn raddol ati ei hun. Dangoswyd y tiriondeb penaf tuag atynt, yn enwedig at Ionofal-chwanegodd yr anffawd gwlwm newydd ar linynau serch tuag at y caffaeliad amddifad. Yr oedd yn ymryson yn eu plith pwy a ddangosai fwyaf o serch. Robin a ddywedai y buasai yn well ganddo gael brathu ei fawd arall lawer gwaith nag i'r beth fach anwyl dder- byn unrhyw niwaid. Cludai Reinhallt y glwyfedig yn ei freichiau, gan ollwng aml i ddeigryn tosturi i lawr ei ruddiau a llefaru, pa wahaniaeth pwy ydyw tad y corph brau hwn; y mae'r yspryd yn hanu o'r un man a'n hysbrydoedd ninau."

Gadawodd Goronwy y Twr cyn i'r crogedig gwbl lonyddu; yr oedd delw ei dad marw yn gweithio o hyd gerbron ei lygaid; ni theimlai'n ddedwydd hollol heb fyned adref i gysuro ei fam alarus; ac awgrymodd Morfudd a Gwenllian y priodoldeb o hyny iddo hefyd. Aeth y rhianod i'w hebrwng dros gae neu ddau (cwitiau ddywedir am gaeau mewn rhai parthau o sir Flint), a bu ymgom rhyngddynt ar bwnc y dydd; awgrymwyd fod perygl i'r weithred olaf yn y ddrama enyn digllonedd yr awdurdodau goruchel, os nad y brenin ei hun.

"Yr wyf yn ofni," ebai Gwenllian, "fod fy mrawd, gyda'i holl ragoriaethau, yn fyrbwyll ac yn benderfynol iawn; a thrwy hyny, y tyn ddryghin am ei ben heb raid nac achos.'

"Lleferydd llwfr, Gwenllian, ydyw'r geiriau yna," ebai Goronwy. "Ni wnaeth Reinhallt ond a ddylasai. Onid yn anghyfiawn yr atafaelwyd eiddo y bardd? Ai drwg ydoedd eu dychwelyd i'w gwir berchenog? Ai iawn yn Robert Brown heddyw ddyfod a'i ddieiflgwn i geisio cosbi y diniwaid a dial ar y diamddiffyn? A thrachefn, pa beth gyfiawnach na chrogi llofrudd? Gadewch rhyngwyf fi a'r brenin."

Oni buasai am ddifrifoldeb y dydd, torasai y ddwy i chwerthin yn uchel am ben hyder y llanc yn enwi ei hunan yn yr un frawddeg a Iorwerth IV. Neidiodd y milwr ar ei farch, a charlamodd ymaith.

Wedi cyrhaedd adref, ail adroddodd Gwenllian ei hofnau. Pan elo pryder i ben menyw, gwaith anhawdd ydyw ei gael oddiyno; bydd ar flaen ei thafod am amser maith. Ymollyngodd Reinhallt i fyfyrio, ac i ymddyddan ar y pwnc osodasid ger bron.

"Mae yn wir," ebai ef, "mai gwell cariad y ci na'i gas, a gwell ci byw na llew marw. Ond," ebai ef gan ymestyn i'w lawn faintioli "gwneyd yr hyn sydd iawn ydyw'r peth, a gadael y canlyniadau i Dduw. Y mae gwg brenin a gwg cardotyn yr un peth i mi. Os na ddiala rhywun gam ein cenedl, fe â ein gwlad yn watwaredd ac yn wawdbeth yr holl genedloedd."

PENOD XVII.

Yr oedd yn anhawdd penderfynu pa un ai chwedl ynte ymddangosiad y sawl o "borthmyn" y Wyddgrug ag a gyrhaeddasant Gaerlleon y prydnawn hwnw oedd y mwyaf truenus. Siaradent yn isel, ac edrychent yn yswil. Y Maer a glybu am aflwyddiant yr ymgyrch, ac a ddanfonodd am rai o'r dychweledigion i'w holi yn nghylch y manylion. Rhoddodd y rhai hyny yr hanes iddo yn wynebdrist a phenisel.

"Chwi a gawsoch yr hyn a haeddasoch," ebai Robert Rainford, "Pa hawl neu pa reswm oedd i rhyw fustachiaid o ddynion fel chwi, heb lywydd medrus nac arfau cymhwys, fyned i geisio tynu ysglyfaeth o safn llew?"

"O! yr oeddym ni cystal ymladdwrs a hwythau," ebai 'r dynion.

"Drwg ydyw'r argoel," ebai'r Maer.

"Geiff o weled eto," ebynt hwythau; "mae ein plaid ni yn tyngu y mynant ryddhau Robert Brown costied a gostio; a dau cant o honom yn awr yn barod i'r antur. Ni a ddysgwn iddo ladd Richard Ayles a dal ein harweinydd."

"Druain bach!" ebai Rainford, "yr ydych yn ddewr iawn; gobeithio y cewch chwi Reginald a'i wyr yn cysgu, onide bydd glaswellt Mai nesaf yn tyfu yn braf uwch eich penau."

"Yn mhob pen y mae opiniwn," ebynt hwythau, ac ymadawsant. "Ni bydd opiniwn yn eich penau chwi yn hir," ebai'r Maer.

Ar ol eu hymadawiad, tra yr oedd y Maer yn synfyfyrio, wele wr ieuanc o swyddog milwrol, yn cael ei wysio i'w wyddfod, ac oddiwrth eu dull serchog ond moesgar yn cyfarch gwell, yr oedd yn amlwg eu bod yn gydnabyddus â'u gilydd o'r blaen.

"Eistedd yma ar fy neheulaw, Goronwy," ebai'r Maer, "ti a glywaist, ond odid, am fuddugoliaeth dy gyfaill Reginald o'r Twr?"

"Eich urddas, mi a glywais, ac a welais; y mae dau o'm synwyrau felly yn dystion i'r ffaith."

"Ac yr oeddit yno?"

"Yno yn niwyg y porthmon, fel y rhelyw o wyr Caer; a chwip yn fy llaw, a dagr a bwyall dan fy ngheitlen—yr un ffynud a'm cymdeithion. Mia welais ladd Dic Alis."

"A Dic wedi ei ladd gan Gymro! Buasai yn well gan Ddic gael ei grogi wrth bren crabas gan Sais. Pwy a'i lladdodd?"

"Mab i'r dyn a laddodd yntau yn y ffair," ebai Goronwy. "Yr wyf yn apelio at eich anrhydedd fel boneddwr teg, ar bwy yr oedd y bai? A oedd bai ar Reginald a'r Cymry yn amddiffyn eu hunain?"

"Fel yr wyf yn faer Caerlleon, nis gallaf fi weled arnynt fai. Ac eithaf peth y gwelaf fi gospi Brown; canys terfysgwr ymyrgar ydyw bob amser, yn trythyllu gyda menywod, ac yn cweryla hefo 'i gydryw holl ddyddiau ei einioes. Parodd lawer o anghysur i mi er pan wyf yn faer Caerlleon."

" Y mae pob un o'i fath, eich urddas, yn haeddu ei grogi," ebai Goronwy.

"Ei grogi ddengwaith drosodd," ebai R. Rainford.

"Ac eto am gospi terfysgwr o siopwr fel yna, mae yn dra thebyg y cynhyrfir nef a daear yn erbyn Reginald. Yr wyf yn deall fod pleidwyr Brown eisioes ar waith yn llunio deiseb at Arglwydd Stanley, er ceisio enyn ei ddigllonedd at y Cymry am amddiffyn eu cam."

"Mi a ddyrysaf eu cynllwyn," ebai'r Maer, "yr wyf yn adnabod Syr Thomas yn dda, ac un o'r arglwyddi goreu a gafodd Cyffiniau Cymru er's llawer oes ydyw; danfonaf genad ato yn ddioed fel y gwybyddo'r holl hanes, cyn y gwenwyner ei, feddwl gonest gan hustyngwyr maleisus."

A danfonwyd cenadwri ar frys gwyllt at Arglwydd Stanley, yn mha un y gosodai'r Maer draethiad manwl ac eglur o dreigliad amgylchiadau mewn cysylltiad â'r cythryfwl, ac a ddeisyfai ar i'w arglwyddiaeth chwilio yn bwyllog i'r achos, ac yna na phetrusai ef (y Maer) parth y canlyniadau. Ac er cau genau pob athrodwr, erfyniai ar Arglwydd y Cyffiniau eiriol yn ddioed fel y caffai'r cyhuddedig bardwn uniongyrchol y brenin.

Cydsyniodd Arglwydd Stanley â chynwysiad y genadwri, canys nid oedd ysbryd gwrthnysig Brown yn anhysbys iddo. Enillwyd ei ffafr ar unwaith; a chyn i gwynion y blaid wrthwynebol ei gyrhaedd, yr oedd gollyngdod Reinhallt am ei holl weithredoedd diweddar wedi ei roddi, a sêl y brenin wrtho.

Ond yr ydym yn rhagflaenu yr hanes.

Fel y gellid meddwl, ymadawodd Goronwy â phalas y Maer yn llawen, oblegyd yr oedd wedi gwneyd gweithred o gyfiawnder â chydwladwr, yr hyn oedd bob amser yn ddymunol i'w natur; a pheth arall, wedi rhoddi cwlwm newydd ar linyn ei garwriaeth. Cadwai bobl y Twr yn hysbys o bob symudiad yn Nghaer; ac er nad oedd y trydan wedi ei ddarganfod yn yr oes hono, yr oedd ganddynt aml i lwybr dirgel a chyflym i ddyweyd eu helyntion wrth eu gilydd.

PENOD XVIII.

NID oedd y blaid elynol yn segur. Tra yn cynllwyn dinystr Reinhallt gydag Arglwydd y Cyffiniau, darparent ryfelawd ar raddau eangach na'r un anffodus ddiweddaf, er gwneyd rhuthr ar gadarnfa y penaeth Cymreig; a chanddynt ddau cant o wyr i'r perwyl hwnw. Nid oedd y Maer na'r awdurdodau dinasig yn eu cydnabod nac yn eu hachlesu y tro hwn ychwaith; ac felly yr oedd yr anturiaeth yn hollol ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Cychwynasant i'w neges yn ngwyll cyfnos tawel o Ebrill 1465, tan lw bob un iddo ei hun na ddychwelai heb gospi'r troseddwr a rhyddhau 'r carch- aror. Goronwy, yn gwybod am eu holl gynlluniau, a gychwynasai gyda dau neu dri o gyfeillion ffyddlon o filwyr, ar hyd ffordd gwmpasog yn y prydnawn, ac a gyrhaeddasai y Twr cyn bod yr ymosodwyr yn barod i gychwyn o Gaer. Yn un o'r pethau cyntaf, penderfynwyd symud y merched at gyfeillion i'r Gwysaney, hen balas godidog a safai (ac a saif) mewn coedwig tua dwy filldir tu hwnt i'r Wyddgrug, yn nghyfeiriad Rhosesmore; fel na archollid teimladau tyner menyw gan yr helynt a gymerai le; a Goronwy a Bondigrybwyll a osgorddent y cerbyd a gludai Wenllian, Morfudd, Ionofal, a'r gwasanaethesau i'w noddfa newydd. Wrth ddychwelyd yn frysiog o'r negeswaith hon, cafodd y ddau gyfleu i gyfnewid syniadau na fwynhasent er's hir amser cyn hyny.

"Bondigrybwyll, Goronwy," ebai Robin, "y mae tro rhyfedd ar fyd! Yr wyf yn ofni y daw hi yn sobor ar Reinhallt am grogi Brown."

"Ddim sobrach arno, Robin, nag y daeth ar Brown ei hun am frathu tamaid o'th fawd di."

"Ie, tamaid chwerw i'r gwalch oedd hwnw," ebai Robin; "hir y cnoir tamaid chwerw. Be gaiff Reinhallt, tybed?"

"Maddeuant," ebai Goronwy; "maddeuant am grogi llofrudd!!"

"Yn wir!" ebai Robin.

"Yn wir," ebai Goronwy, mewn llais hyderus. "Campus, bondigrybwyll, campus," ebai Robin, gan ddechreu dawnsio "Sawdl y Fuwch," a diaspedain canu tros yr holl fro.

Tyred yn dy flaen, gadffwl," ebai Goronwy, "oni wyddost fod cyhoeddiad pwysig yn ein haros?"

"O, na hitia be fo," ebai'r dawnsiwr, "bachgen clyfar wyt ti, Goronwy, yn teilyngu Morfudd, er mai Morfudd ydyw'r rhian lanaf yn nhair talaeth Cymru."

"Diolch i ti, Robin, tyr'd yn mlaen, fy machgen mawri; neu bydd cwn Caer yn y Twr o'n blaenau."

Ac yn mlaen yr aethant o lech i lwyn, gynted gallent, gan ysgoi y dref, a chymeryd y llwybr unionaf gyda godreu Gwern y mynydd; ond byddai Robin yn cael mynych lesmair o lawenydd a dawns ar dderbyniad rhyw ateg adnewyddol gan ei gydymaith o sicrwydd ffaith y pardwn.

Pan yn tynu at ben eu taith, croesent gae, ac yn mhen draw y cae hwnw, llwyn o goed; ac ar eu mynediad tros y clawdd i'r coed hwnw, clywent ryw "Hist" hirllais. Deallasant yn ebrwydd fod Reinhallt ac amrai o'i wyr yno'n ymguddio, ac yn disgwyl bob eiliad am ddyfodiad y gelynion. Ac ni bu eu disgwyliad yn hir; gwelid hwynt yn ngoleuni lloer wanaidd yn ymgripio fel llyffaint i fynu'r allt, gan gyfeirio at y Twr. Cynllwyn yn erbyn cynllwyn, ac ystryw yn ngwrth ystryw, ydoedd; a buasai eu tarfu mewn un modd yn annoeth.

"Gadewch iddynt," ebai ein harwr, " y maent yn ymdaith i'w dinystr; fe'u crogir ar eu crogbren eu hunain."

Cyrhaeddasant y ty, ac er eu syndod yr oedd drws y porth yn nghilagored, heb neb yn ei wylio. Meddylient fod eu prif amcan wedi ei gyrhaedd. Mewn ufudd-dod i orchymyn eu llywydd, Sion Olfer wrth ei enw, braddug anystyriol o Sais tra chyffelyb ar lawer ystyr i Dic Alis, llafn afrosgo o gorph a gwyrgam o feddwl, a gollasai un o'i freichiau cyhyrog yn un o ryfeloedd lluosog yr oes hono. Dewiswyd ef i'r swydd o herwydd ei fod yn filwr profiadol, ond yn benaf ar y cyfrif ei fod yn flaidd rhyfygus o ddyn. Parodd y Cadben Olfer i ugain o'r gwyr fyned i fewn a rhyddhau Robert Brown.

"Yn y ddaeargell, o tan y ty, mae yn dra thebyg y cewch chwi ef yn dihoeni. Chwiliwch am dano, a mynwch ef, a lladdwch pwy bynag a geisio eich rhwystro, ninau a aroswn yma i'ch disgwyl."

Aethant yn mlaen, troisant ar eu chwith, goleuasant ganwyll, cymerasant y grisiau oedd yn arwain i'r seler, a dechreuasant chwilota yno am wrthddrych eu cais, ond nid oedd hanes mo hono yn unman—ni welent ddim ond gefynau gweigion.

"Ddaw'r rhai hyn yn wasanaethgar eto," ebynt, " i rwymo'r cythreuliaid, os deuwn o hyd iddynt, a chodasant yr offerynau caethiwed i'w cymeryd ymaith.

Gyda hyn dyma ddrws y ddaeargell yn cau yn glep, a'r gwellt yn ei ymyl yn ffaglu gan dân. Rhuthrasant at y drws gyda'r bwriad o'i falu'n ysgyrion, ond yr oedd mwg a nwy y gwellt yn eu tagu, ac yn eu gorfodi i gilio'n ol i ganol y ddaeargell, lle nad oedd yr awyr bellach nemawr burach, ac yn myned waethwaeth o hyd.

Yr oedd y cynhwrf oddiallan bellach mor fawr, fel na sylwai ac yn wir na chlywai yr un o'r pleidiau grochlesau y trueiniaid yn y ddaeargell tra yn mogi i farwolaeth. Ugain oedd eu rhif, a chollasant eu heinioes mewn brwydr heb graith nac archoll ar un o honynt. Parasai sydynrwydd Reinhallt a'i wyr gyffro ac annhrefn yn mhlith y Saeson, fel yn eu prysurdeb i ddodi eu rhengoedd mewn trefn yr anghofiasant wneud unrhyw ymdrech i waredu eu cymdeithion oddifewn. Dechreuwyd taro yn ebrwydd; yr oedd pob plaid yn sychedu am waed, a gwaed ei wala a gafwyd yn cochi glaswellt y lawnt o flaen y palas, ac yn ceulo ar wyneb y llyn; canys yr oedd rhai o'r Saeson wedi cymeryd meddiant o'r pleser-fadau a rhwyfo ynddynt i ganol y llyn, er eu dyogelwch. a'r Cymry wedi nofio atynt, a gwaed lawer wedi ei dywallt ar wyneb y dwfr llonydd hwnw. Gan ei bod yn awr yn bur dywyll, y Cymry wrth wibio blith draphlith yn mysg y gelynion, a anafent eu gilydd yn fynych yn ddiarwybod; ac o ganlyniad, Reinhallt a roes orchymyn ar i'w ddynion adrodd yn ddibaid yr hen ddiareb, "Ni cheir y melys heb y chwerw;" a bu y cynllun yn foddion i atal yr amryfusedd rhagllaw. Ceisiai y Saeson eu dynwared, ond yr oedd y ddwy ch yn cyhuddo eu tafodau anystwyth. Barnai Sion Olfer oddiwrth arogl y gwellt llosgedig a gyrhaeddai ei ffroenau fod y palas ar dân, a bod yr ugein-wr yn rhostio ynddo, a galwodd am wneyd rhuthr egniol a'u mynu allan. Ond er ymdrech galed methwyd a chyrhaedd yr amcan—yr oedd y Cymry yn eu medi i lawr bob cynyg. Ymdrechwyd yn nesaf gael gafael ar y penaeth Cymreig ei hun, Sion Olfer a arweiniai yr ymosodiad yn bersonol. Troai Sion glamp o gleddyf hirlafn o gwmpas, gan regi a melltithio fod ei un fraich ef yn werth pedair braich wrth ysgwyddau unrhyw Gymro, ac anafodd amryw yn dost hefo'i ddull rhyfedd a mileinig o ymladd ysgubodd glust y Cadben Ifan yn lân oddiwrth ei ben. Yn wir yr oedd yn tori adwy effeithiol, a phob argoel y buasai ein harwr ac yntau yn ebrwydd mewn brwydr lawlaw, pan y sangodd Goronwy i'w ochr ac a roes iddo bigiad dwys â blaen ei ddagr yn ei ystlys. Sion Olfer a ebychodd yn herfeiddiol haner gwaedd haner ochenaid, lluchiodd ei gleddyf at ben Reinhallt, yr hwn a fethodd yn ei nod, a syrthiodd i lawr fel marw.

Y Saeson pan ddeallasant fod eu llywydd wedi cwympo, ac yn gweled nad oedd o barhau'r ymladdfa'n hwy ond dinystr llwyr yn eu haros, a ffoisant un ac oll am eu bywydau: a'r tro hwn, penderfynodd y Cymry na chai yr un o honynt gyfleustra i ddyfod ac ymosod ar Froncoed mwy, nac un o honynt os oedd modd yn y byd, ddychwelyd i Gaer i adrodd tynged y gweddill. Felly, ymlidiwyd hwynt yn galed, ac fel y goddiweddid hwynt, torid hwynt i lawr yn ddidrugaredd; hyd lasiad y bore, ac hyd yr afon Ddyfrdwy, y parhaodd y ffoi a'r ymlid; ac ar fin yr afon hono y gweddill ymlidiedig yn gweled nad oedd ond angau sicr yn eu haros ar eu tir, a ymdaflasant i'r llifeiriant ac a foddwyd. Ac ni ddiangodd o'r ddaucanwr namyn un i hysbysu eu cyd-ddinasyddion dynged y gweddill. Dim ond un. Meddyliwyd fod Sion Olfer mor farw a'r lladdedigion eraill, a dodwyd ei gelain yn y pentwr i aros y bore, pryd y bwriedid eu cyflwyno gyda'u gilydd i fynwes eu mam—yr hen ddaear. Nid oedd y Sion yntau mor farw; yn ystod y nos dadebrodd o'i lesmair, ac er wedi ei anafu yn dost, gallodd ymlusgo o blith y lladdedigion, ac o dipyn i beth cyrhaeddodd gartref a golwg mawr arno Yr oedd ei chwedl yn un athrist yn wir; ac efe a luniodd gyntaf y gair a ddefnyddiodd gelyniaeth i bardduo Reinhallt o oes i oes, sef fod ein harwr wedi gadael i'r Caerwyson fyned i'r palas ac yna ei roddi ar dân. Buasai llosgi hendref ysplenydd felly er mwyn dyfetha dynionach annheilwng, yn ddifrod anfaddeuol, ac yn hollol annghyson â chymeriad Reinhallt ab Gruffydd o'i gryd i'w fedd.

PENOD XIX.

TWR Bronwen, Caer Gollwyn, Castell Harddllechwedd neu Ailechwedd, Castell Harlech; gwahanol enwau a ddefnyddiai gwahanol oesau i ddynodi y lle. Arwydd o gymeriad bylchog yn yr oes hon ydyw mynych newid enw; yr oedd yn wahanol gynt, canys nid oes yn Nghymru gastell a fedd well cymeraidd castellaidd na Chastell Harlech. Y mae wedi ei adeiladu ar un o glogwyni geirwon Ardudwy, yn Meirion, ar lecyn a ddewisasid yn yr oes hon i godi goleudy arno yn hytrach na chastell. Saif ar graig sydd a'i throed yn y môr a ymdona dros Gantref y Gwaelod, ac ar fin Dyffryn Ardudwy, chwareufwrdd aml i ramant hud a lledrith yr hen Gymry. Codwyd yr adeilad y mae ei murddyn i'w gweled yn bresenol, ar adfeilion caerfa flaenorol, gan Iorwerth I., yn y 13eg ganrif—yr un pryd a chastellau Caernarfon, Conwy, Caerffili, &c, gyda'r amcan o gadw ciwdodau Seisnig yn nghanol y wlad; a gwneid y cyfryw gaerau yn breiffion a chedyrn, modd y parent ofn eu gorchfygwyr ar y brodorion. Wrth reswm eu creaduriaid eu hunain o'u cenedl eu hunain, a osodai y naill deyrn ar ol y llall yn geidwad y cadarnfeydd anorthrechol hyn. Gydag un eithriad, Seison a fuont yn gwnstabliaid Castell Harlech o 1284 hyd 1684, cyfnod o bedwar can' mlynedd. Yr eithriad hwnw ydoedd rhwng 1461 a 1468, a'r Cymro a lanwodd y swydd y cyfnod hwnw ydoedd Dafydd ab Einion o Faes y Neuadd, yn Nanmor, ger Beddgelert. Glewddyn pendefigaidd, gwladgar, o gorph hardd a meddwl penderfynol, oedd y Dafydd ab Einion, wedi gweled a chymeryd rhan mewn llawer brwydr waedlyd yn ei wlad ei hun, yn Lloegr, ac yn Ffrainc. Yr oedd yn Lancastriad selog. Nid yw hanes yn dywedyd pa un ai ei osod yn gwnstabl Harlech a gafodd gan ei blaid ei hun, ynte cymeryd y swydd trwy drais a ddarfu iddo oddiary blaid wrthwynebol. Pa fodd bynag, trwy gadernid y gaer, a medr ei cheidwad, hi a heriodd alluoedd brenin Lloegr am saith mlynedd, a Harlech oedd y castell diweddaf yn y deyrnas a blygodd i awdurdod Iorwerth IV.

Yr oedd Dafydd ab Einion a Gruffydd ab Bleddyn o'r Twr yn gyfeillion mynwesol, os nad yn berthynasau pell; y gwr o Faes y Neuadd a wlychai wefus ac a geuai lygaid ei gyfaill pan y syrthiodd tan ei archoll farwol ar faes Blawrhith; ac efe yn unswydd a ddaeth â'r newydd galarus i Froncoed fod y fam yn weddw a'r plant yn amddifaid. Gydag anwyldeb tadol y cusanodd ac y cofleidiodd efe Wenllian, a breision y dagrau a dreiglent hyd ei ruddiau pan y sylwai ei bod yr un ffunud a'i diweddar fam; gyda hoffder cynhesol y cyfarchodd y plant eraill ac y cododd Reinhallt ar ei fraich gref, gan gysuro y weddw newydd trwy ddweyd y doi y rholyn hogyn braf hwnw yn fuan i lanw lle ei dad, yn filwr gwych o blaid y Lancastriaid, ac yn gysur i'w fam.

Erbyn 1465, yr oedd y bachgen braf wedi tyfu yn filwr enwog; a phan ddybenodd y gyfres o ysgarmesau a grybwyllasom eisoes yn ngodreu sir Flint ufuddhaodd ein harwr i wahoddiad taer hen gyfaill ei deulu, a throdd ei wyneb tuag Ardudwy, i ddilyn tueddfryd gynhwynol ei natur. Ymgynullasai lluaws o ddewrion Gwynedd a Phowys i amddiffyniad Harlech, ar egwyddor yr hen air, "Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle," ac yn eu plith yr oedd dau beth bynag o sir Flint, sef Reinhallt ab Gruffydd a Sion Hanmer,[6] o Faelor Seisnig. Nid ymddengys i Harlech gael ei ddodi tan warchae rheolaidd hyd 1468; hyd hyny, gwneid defnydd o hono fel prif wersyllfa y Lancastriaid yn Ngwynedd, os nad yn Nghymru, yn lloches mewn caledi, ac yn fan encil yn ei thro i rai o benaethiaid y blaid hono. Er engraifft, bu Margaret o Anjou[7] yn ymnoddi yma am yspaid; ac oddi yma yr aeth hi mewn llong i'r Alban, lle y cynullodd fyddin gyda pha un y gorchfygodd ac y lladdodd Dug Yorc yn mrwydr Wakefield.

Chwareu ffristial a thawlbwrdd (tebyg i chess a quoits y dyddiau hyn), ymryson rhedeg a neidio ar draed (ac ar feirch os na fyddai gelynion oddiallan i'w lluddias), canu penillion gan dant a chyrdeddu cynghaneddion byrfyfyr, ymryson chwareu'r delyn ac anelu codwm bob yn ail, fel y profid cadernid y gewynau a thynerwch y cyffyrddiad, ydoedd eu di fyrion yn ystod oriau hamddenol y gadlys; ac yr oedd Reinhallt yn bencampwr yn mhob un o'r ymrysonfeydd hyn. Weithiau ymddifyrent trwy adrodd am y lluosocaf hen ddiarhebion Cymreig, neu traethent am y goreu chwedleu a rhamantau am rai o hen wroniaid y genedl, tra yr ymrysonent bryd arall mewn adrodd eu gorchestion personol eu hunain. Fel esiampl o'r olaf, y mae ar gof a chadw mewn amryw lawysgrifau y chwedl ganlynol. Cefnderw a gyfarfuasant mewn gwindy, lle yr aethant i draethu eu campau y naill i'r llall. Y cyntaf oedd Dafydd ab Siencyn ab Dafydd Drach o Nant Conwy (yr hwn a fu ar encil oddeutu Careg y Gwalch, ger Llanrwst,) a ddywedodd, 'Dyma'r "Pedwar ddagr â'r hon y lleddais yr Ustus Coch ar y fainc yn Ninbych.' Yr ail, sef Dafydd ab Einion a ddywedodd, Dyma'r cleddyf a'r onen a'r hwn y lleddais y Siryf yn Llandrillo.' Y trydydd, sef Reinhallt ab Gruffydd ab Bleddyn o'r Twr, a ddywedodd, Dyma'r cortyn â pha un y crogais faer Caer pan ddaeth i losgi fy nhŷ.' Yna gofynasant i'r pedwerydd, yr hwn oedd wr heddychlawn, sef Gruffydd Fychan ab Ieuan ab Einion, pa orchest a wnathai ef? Yntau a ddywed, 'Dyma'r cleddyf pe tynaswn ef mewn anmharch, a wnaethwn gymaint â'r goreu un o honoch.'"

Nid annghofient ychwaith ystyried llwyddiant eu plaid, na moli gwroldeb y dynion dewr oedd tan ei baner. Er nad oedd y brenin ei hun wedi ei gyfaddasu i wisgo coron mewn oes mor derfysglyd, yr oedd ei frenhines yn arwres yn wir; ac am Siasper Tudur, Iarll Penfro, o ach a thras Tuduriaid Penmynydd, Mon, dyna wron! buasai unrhyw genedl dan haul yn falch o hono. O'r tu arall, llwyddiant byr oedd llwyddiant eu gelynion; tywyniad haul yn y cyfnos cyn myned yn llwyr tros os y gorwel. Mae yn wir fod Syr Gwilym Herbert, a Risiart ei frawd, yn ddynion dewr; ond fe ddeuai gwynt annghydfod yn fuan ac a'u chwythent drosodd atynt hwy. Ond pa beth bynag a ddeuai, ni welid baner y Rhosyn Gwyn, tra anadl yn eu ffroenau hwy, yn cyhwfanu ar Dwr Bronwen. Hwre i Gastell Harlech!

PENOD XX.

TERFYSGWYR anhydrin Caerlleon wedi eu gorchfygu neu eu lladd, pardwn y brenin i Reinhallt wedi ei dderbyn, teulu'r Twr ar eu haelwyd eu hunain yn ol, yr hendref yn absenoldeb ein harwr tan ofal y Cadben Ifan a Bondigrybwyll, olwyn amser yn troi fel arferol, oddigerth symud o Oronwy gyda'i gatrawd o Gaer i Gaernarfon, ac un fynwes beth bynag yn teimlo chwithdod a hiraeth am ei ymweliadau mynych. Dyna fel y safai pethau yn Ystrad Alun. Nid annghofiodd Goronwy na Morfudd byth y cyfnos tawel hwnw y canasant yn iach ar ei ymadawiad ef a Chaer. Safent o tan fedwen hirwallt, a thyngwyd yr adduned yn ngwydd y blaned Wener fod llinynau eu bywyd o hyny allan yn glymedig byth; a daeth chwa o wynt ac a ysgydwodd ddwysged o ddail y pren am eu penau.

"Fy anwyl Forfudd," ebai Goronwy, "y maedy frodyr yn foddlawn, a'th chwaer gu yn foddlawn, a dyma'r fedwen yma fel cynrychiolydd y nefoedd yn dweyd eu bod yn foddlawn yno."

"Buasai yn wir ofidus genyf gael un o honynt yn anfoddlawn," ebai Morfudd, er y bydd rhai o'm tras yn gwgu fy mod yn ymserchu ar wreng. Ond ni edrych gwir serch byth ond ar ei wrthddrych, y mae yn ddall i'w gysylltiadau; bydolserch gwasaidd a edrych ar y cysylltiadau tra yn ddiofal o'r gwrthddrych."

Anadlwyd llawer gair cariadlawn, a seliwyd yr addunedau â chusanau mel; yn y serchoed hapus hwnw rhyngddynt, a daeth pryd ymadael ar eu gwarthaf.

"Cyn yr elot," ebai Morfudd "ti a grybwyllaist am foddlonrwydd Gwenllian; boddlonrwydd Gwenllian ydyw un o'r breintiau uwchaf yn fy ngolwg; ond y mae dy galon bellach yn haeddu un o gyfrinachau fy mywyd—nid chwaer i mi yw Gwenllian—merch gyfreithlawn anrhydeddus ydyw i wron ucheldras, dewr,a gollodd ei mam hi pan y cafodd hithau; a'i thad a'i danfones, gan ei bod yr unig blentyn, yn ngofal mamaeth i fod tan arolygiaeth fy mam. Magwyd ni felly gyda'n gilydd fel brodyr a chwiorydd; yn wir byddaf yn meddwl fod Reinhallt yn anwylach o'i Wen nag o'i Forfudd; a bod yr anwyldeb hwnw ar gynydd, ond nid wyf fi eiddigus."

Synodd Goronwy yn aruthr, "a rhedodd ei feddwl at yr annhebygolrwydd teuluaidd oedd rhwng Gwenllian a'r gweddill o bobl y Twr. "Ond pwy yw y gwron dewr ucheldras, f'anwylyd?" ebai ef.

"Mi a ddywedaf yn ol llaw," ebai'r ddyweddi deg, "ond pwy debyget ti oedd y fammaeth a ddaeth yn wyryf ddiniwaid a Gwenllian yn ei ffedog yr holl ffordd ar farch o Faes y neuadd i'r Twr; ac a'i magodd yno am yspaid?"

"Nis gwn o holl ferched y byd," ebai Goronwy. "Sian Flintshire, druan dlawd, fel y llysenwid hi yn Nghaerlleon. Yr oedd hi y pryd hwnw, meddynt hwy, yn llances wledig, wridgoch, bropor, ddifeddwl; a phan ddaeth Gwen i redeg o gwmpas, aeth chwilen i glust Sian; ni wnai dim y tro ond cael myned i weini i Gaer, fel y gallai wisgo fel lady, a dysgu Saesneg; damweiniodd yno fyned i wasanaeth rhiaint Robert Brown, a phriodas ddifodrus fu y canlyniad. Efallai nad yw'r hanes hwn yn gweddu i dafod merch?"

"Dos yn mlaen," ebai Goronwy, "i'r pur y mae pobpeth yn bur."

Aeth y rhian yn mlaen:—" Ai ei ladd ynte marw a ddarfu i'r plentyn cyntaf ni wyr neb ond Robert Brown a Sian, a'r Hwn a wyr bobpeth. Ganwyd ail a thrydydd, a diflanent o'r golwg. Ceir rhyw esboniad yn ngeiriau olaf y fam druenus wrth ddrws Broncoed y noson hono, 'Ionofal fach ydyw'r unig un o honynt sydd yn fyw. "

"Byw fyddo," ebai Goronwy.

"Byw fyddo," ebai Morfudd; a chan gyffwrdd min wrth fin ymadawsant.

PENOD ΧΧΙ.

YN Ebrill, 1468,[8] eisteddai Reinhallt a Sion Hanmer un hwyrnos ar ben TwrBronwen yn Nghastell Harlech, gan chwedleua am lechweddau gleision a bryniau esmwyth Powys, a gwylio'r haul yn myned tan ei gaerau i For y Werydd, pan y gwelent wr ar farch yn ymdaith tuag atynt o gyfeiriad Penrhyndeudraeth. Ac fel y dynesai, Reinhallt a adnabu y gwr, canys nid ydoedd neb amgen Robert Tudur o'r Twr. Prysurodd i'w gyfarfod at y porth, ac ar ol traethu ei syndod o weled ei urddas Bondigrybwyll mor bell oddicartref, rhoes y gwron hwnw lythyr yn ei law mewn dull tra seremoniol, tan obeithio ar yr un pryd fod ei feistr yn mwynhau' ei gynefinol iechyd "fel y mae'r geiriau hyn, wel tase, yn ein gadael ninau," a gofyn am ba hyd y cai efe aros yn y wlad ddyeithr hyfryd hono.

"Os na ddychweli oddiyma heno," Robin, ebai Reinhallt, "damwain fydd iti allu myned am rai misoedd. Y mae'r Herbartiaid ar eu ffordd yma o Ddinbych, ac yn ol a ddeallwn wedi cyrhaedd Drws Ardudwy; ac os na thorant eu gyddfau wrth godymu dros y creigiau, byddant yma cyn y gwel yr haul acw eto Gastell Harlech."

"Bondigrybwyll, ni symudaf," ebai Robin, "oni pheri di, Reinhallt."

"Gad fi'n llonydd, filain, i ddarllen y llythyr hwn." Darllenodd y llythyr. Cais ffurfiol ydoedd oddiwrth Oronwy am law Morfudd mewn glân briodas, ac fel y gallai ef fod yn bresenol i gyflwyno'r briodasferch ger bron yr allor, cynygid fod i'r ddefod gymeryd lle yn Llandderfel yn nyffryn Edeyrnion; y deuai y pâr ieuanc a Gwenllian yno i'w gyfarfod; ac os boddlawn ydoedd, a ddygei Robin ei ewyllys yn ol."

Chwarddodd yn galonog. "Dyma briodas yn y teulu o'r diwedd" ebai ef" Robin, rhaid i ti gymeryd ateb yn ol yn ebrwydd."

"O, meistr, meistr, oes dim modd i mi gael aros am ddiwrnod neu ddau?"

"Aros di," ebai Reinhallt, "y mae Sion Hanmer ar fedr gyru neges adref, hwyrach y ceir ganddo yr un pryd yru cenad i Froncoed, os rhoddi di dy farch iddo."

"Bondigrybwyll, o ewyllys calon. O'r ddau gwell a fyddai genyf fyn'd yn ol ar fy neudroed nag ar farch. Peth difrifol i barth gorllewinol dynsawd anghynefin ydyw marchogaeth tridiau,"

"Gwir," ebai Reinhallt, tan wenu. Yr oedd negesydd Hanmer yn falch o'r swydd, Robin yn ddedwydd ar y drefn; ac ateb Reinhallt yn fuan ar ei daith i'r Twr.

Beth oedd yn y llythyr hwnw? Dim ond amlygiad o lawn gydsyniad ein harwr a'r cais; awgrym y deuai Hanmer, fe ddichon, gydag ef,—"Hanmer, y dewrddyn hynaws," ebai ef. Cyfeiriad neu ddau hefyd oedd yn y llythyr at ansefydlogrwydd pethau,—y byddai Castell Harlech yn fuan tan warchae, ond na fedrai dim ond angau ei luddias ef i fod yn Llandderfel yr amser penodedig yn rhoi ei chwaer mewn priodas i lanc yr oedd efe tan gymaint dyled iddo. Mewn olysgrif, dymunai yn chwareus ar i Wenllian ddod a gwisg priodferch gyda hi, rhag ofn i un o lanciau'r "wlad ucha'" ei phriodi hithau cyn y dychwelai.

Cyrhaeddodd y genad yn ddyogel i'r Twr, a mawr oedd llawenydd pawb ar ei derbyniad, heb eithrio hyd yn nod Sion, yr hwn a gredai ar amseroedd cyffredin fod gormod o filwyr o un eisoes yn nheulu'r Twr; ac am Landderfel y meddyliai ac yr ymddyddanai rhianod y Twr o hyny allan, am Landderfel y breuddwydiai Goronwy ddydd a nos, fel llecyn y sylweddolid gobeithion dysgleiriaf ei oes.

PENOD XXII.

FEL y rhagddywedasai Reinhallt, cododd yr haul dranoeth i ddyfodiad Robert Tudur, ac wele Gastell Harlech yn warchaedig gan lu mawr o Yorciaid tan gadlywyddiaeth Syr Gwilym Herbert. Ond yr oedd cryn bellder (i elyn) rhwng oddiallan ac oddifewn Castell Harlech. Codwyd y grogbont a groesai'r ffos ddofn ar du dwyreiniol y gaer, gollyngwyd y ddringddor, ac yr oedd y gwarchaedig mor ddyogel a phe buasai eu gelynion fil o filltiroedd oddiwrthynt. Ni feddai yr oes hono yr un peiriant rhyfel ar ei helw allai ddryllio'r muriau cedyrn. Tra yr oedd y gwarchaewyr yn agored i ruthriadau sydyn, ac i aneliadau annisgwyliadwy eu gelynion, yr oedd y gwarchaedig mor ddyogel ag y dichon dynion fod yn ngwirionedd yr hen ddiareb "gair gwr o gastell." Ond aed ati yn union i geisio gwneud rhywbeth, canys nid gwr esgeulus o'i orchwyl oedd y Barwnig Herbert. Trefnwyd y llu yn gylch o gwmpas y gaer, heb annghofio yr ochr serth orllewinol, fel pe gallasai rhyw greadur ond perchen aden ddyfod yn fyw o'r lle y ffordd hono. Gwnaed arddangosiad aruthrol hefyd o allu ac o benderfyniad i newynu y fintai amddiffynol cyn y codid y gwarchae. Gyrodd Syr Gwilym genadwri at D. ab Einion, yn galw arno yn enw'r brenin roddi'r castell i fynu iddo ef. Y mae atebiad Dafydd yn un o frawddegau mwyaf poblogaidd hanesyddiaeth Gymreig. 'Dychwelwch a dywedwch wrth Syr Gwilym ddarfod imi warchae castell yn Ffrainc nes oedd holl hen wragedd Cymru yn son am hyny; ac yr amddiffynaf y castell hwn nes y bo holl hen wragedd Ffrainc yn son am hyn hefyd."

Elai y naill ddiwrnod ar ol y llall heibio heb i ddim o bwys ddigwydd. Gwylid holl fynedfeydd a dyfodfeydd y castell gyda'r dyfalwch mwyaf; ond yr oedd digon o fwyd oddifewn am rai misoedd, ac ni feddyliasai Gwilym, fel y darfu i'w frawd Risiart ar ol hyny, am droi oddiar ei gwely arferol y ffrwd ddwfr siriol a redai trwy'r castell i ddisychedu ei breswylwyr. Ac yn nghwrs amser, daeth yn bryd i Reinhallt hwylio at gyflawni ei adduned. Canmolai y llywydd yr egwyddor a gynhyrfai ei gyfaill i gyflawni addewid mor gysegredig; er yr ofnai fod yr antur o dori trwy rengau'r gelyn yn un beryglus, Reinhallt yntau ni fynai wrando am ei berygl ei hun; ofnai yn hytrach y byddai i'w fynediad ef ymaith wanychu'r amddiffyniad.

"Fy nghyfaill dewr," ebai Ab Einion, "na foed pryder genyt am hyny. Gallai Reinhallt neu D. ab Einion oddifewn i Harlech herio'r holl deyrnas oddiallan. Dymuna i'r par ieuanc fy nymuniadau goreu; a chofia fi yn garedig at fy angel gwarcheidiol Gwenllian."

"Heno am dani hi, ynte," ebai Reinhallt, "Ai gwiw genyt adael i'm cyfaill Sion Hanmer ddyfod gyda mi."

"Gwiw genyf; ewch eich deuoedd; a Duw'n rhwydd i chwi."

Yr oedd arwyddion trwy lumanau wedi eu dodi yn ystod y dydd ar un o'r pigdyrau am i gwch o'r fintai a nofient yn barhaus wyneb y dyfnder o flaen y castell i fod yn barod wrth y lan am wyth o'r gloch y nos hono. Felly, cychwynasant yn dri, sef Reinhallt, Hanmer, a Robin; a D. ab Einion yn eu hebrwng; i ddechreu i lawr i'r ddaeargell, a thrwy ogof gul drachefn am gryn ysbaid o ffordd nes y daethant at ddrws oedd yn agor i'r awyr agored. Dadgloasant hwnw yn arafaidd, ac wele codasai yn sydyn dymhestl fawr o fellt a tharanau. Argoelai hyn yn dda iddynt, ond yr oedd gan dywylled fel nas gallent weled eu dwylaw. Pa fodd bynag, yn ngoleuni mellten canfyddent fod y cychwyr yn brydlawn; ac yn swn taranau dyruol agorasant yr hen ddor wichlyd, a gwelent fod gwyldanau y gwarchaewyr wedi eu diffodd gan y gwlaw trwm. D. ab Einion wedi eu hebrwng hyd y ddôr, a safodd yno fel y gallai eu derbyn yn ol drachefn os caent yn eu llwybr tua'r môr mai doethach iddynt ddychwelyd; a da hyny i Hanmer; canys yr un goleuni ag a ddangosodd ý bâd iddynt hwy, a'u dangosodd hwythau i'r gelyn, yr hwn a gododd waedd yn ei wersyll eu bod yn dianc o'r Castell; ac yr oedd pump neu chwech o wyr arfog yn ebrwydd yn nghyfarfod ein cyfeillion. Dychwelodd Hanmer yn y tywyllwch yn ol tua'r Castell, gan dybied y gwnelsai ei ddau gydymaith yr un modd. Ond hyrddiai dewrder Reinhallt ef yn mlaen ar lwybr ei benderfyniad ar draws pob rhwystr, a gafaelai ei was ffyddlawn yn dyn yn ei lawes. Tynodd ei gleddyf, ac ergydiai ar dde ac aswy, gan ymwthio yn mlaen at y dwfr; ac yna y trodd yn sydyn o'r naill ochr, a theimlai ei draed yn y môr, ond gan faint y tywyllwch nis gwyddai ond ar amcan pa le yr oedd y cwch. Pa fodd bynag, yr oedd y gelynion yn crynhoi yn gyflym i'r fan, a'u saethau damweiniol yn suo o amgylch, fel y tybiodd ein harwr mai gwell i Robin ac yntau gymeryd y dwfr a nofio, gan y gallent felly hwyrach daro wrth y cwch. Ychydig fynudau, a dyna fe, codwyd hwynt iddo yn wlybion dyferol—Robin nemawr gwaeth o herwydd ei drochiad anamserol, ond Reinhallt a saeth wenwynig wedi ei phlanu yn ei fraich. Tynwyd hi oddi yno yn ddiymaros, a'r gwas ffyddlawn a sugnodd y gwenwyn o'r archoll, gan ei boeri allan drachefn. Er hyny, dal i ferwino yr oedd y briw. Rhwyfai'r cychwyr yn mlaen yn brysur yn ol cyfarwyddyd ein harwr yn nghyfeiriad Abermaw; gyda'r làn gan mwyaf, oddieithr fod crigyll i'w ysgoi; ciliodd y dymhestl i fwrw ei llid ar rhyw gwr arall o'r wlad; daeth y lloer a'r ser o'u llochesfeydd i loni gwyneb y ffurfafen eilwaith; ond dal yn anesmwyth yr oedd y fraich. Ceisiai Robin gysuro ei feistr trwy ddweyd nad oedd y gwayw ond effaith y pigiad yn unig; dyrchai y badwyr gân ysgafnllon er mwyn tynu sylw yr archolledig oddiwrth ei archoll; ond dal i frifo'n ferwinllyd yr oedd yr aelod. Amcanai y dyoddefydd ei hunan hefyd hudo ei feddwl i ymdroi yn mhlith adgofion bore oes, a phortreadu y mwynder a dderbyniai o gyfarfod ei anwyliaid ar adeg mor ddedwydd; ond erbyn iddynt gyrhaedd gyferbyn â'r Ganllwyd ar yr afon Mawddach tybed ei fod yn wir sylweddol!-yr oedd y fraich yn dechreu chwyddo. Er hyny, credodd yn y fan mai dychymyg pryderus yn effeithio arno fel ffaith oedd y cwbl, a thaflodd bob rhagofal i'r gwynt. Glaniasant yn Llyn y Penmaen, ychydig islaw Dolgellau, ac arosai y cychwyr hyd dranoeth i'w cymeryd yn ol: gan y dywedai Reinhallt, "Os nad allaf ddychwelyd i'r Castell, gallaf fod o rhyw wasanaeth i'm plaid yn yr ardal oddiallan." Cafwyd meirch i'w cludo yn ddioed tua phen eu taith. Cyrhaeddasant Ddrws y Nant; yr oedd y fraich ddolurus yn hawlio sylw drachefn; ac erbyn cyrhaedd pen uwchaf y rhiw tuhwnt i hyny, teimlai'r dyoddefydd lwybr yr anadl yn culhau,—arwydd fod y gwddf hefyd yn chwyddo. Oddiyno i'r Bala, ychydig mewn cydmariaeth a gafodd y boen o'i sylw; yr oedd yn arogli cartref byth er pan welsai yr afon Ddyfrdwy fabanaidd yn chwareu hefo'r blodeu grug a dyfent ar erchwyn ei gwely. Ond erbyn cyrhaedd Llandderfel, yr oedd ei anhwylder wedi cynyddu yr fawr arno—prin y gallai sefyll ar ei draed; a da ydoedd ganddo na chyrhaeddasai ei gyfeillion ato a'i gael ef mor llesg. Nolwyd ato physigwr gwlad medrus oedd yn yr ardal, a rhoes hwnw rhyw lysiau rhinweddol ar y briw a liniarodd y boen, ac a barodd i'r claf hybu eilwaith; a lledodd bywyd ac iechyd eu cwrlidau dymunol drachefn o'i flaen. Ond y mae yn weddus i ni hysbysu, Pa faint bynag a ddyoddefodd ein harwr yn ei gorph ar y daith hono, ac yr oedd ei allu i ddyoddef yn fawr a'i bangfeydd yn aruthrol, nid oedd poen meddwl Robert Tudur ei was ychwaith nemawr llai-yr oedd ei ben wedi poethi fel ffwrn, a'i deimladau drylliog bron a'i ddyrysu.

PENOD XXIII.

Yn ystod yr egwyl hon ar boenau ein harwr, dyma'r cerbyd a gynwysai'r pâr ieuanc a Gwenllian yn cyrhaedd y dreflan, tan osgordd gref o filwyr y Twr, a phob un yn llawn bywyd a gobaith gweddaidd i ddiwrnod o'r fath. Cyfarchodd hwynt oll yn gynes a siriol, ond canfu llygaid craff y rhianod fod rhywbeth pwysig arno. Ceisiai yntau chwerthin ymaith eu ymholion pryderus; ond nid oedd wiw gwadu, rhaid oedd dadblygu'r holl helynt. Collodd y llysiau llesol yn fuan eu heffaith, a dychwelodd y pangfeydd yn fwy arteithiol nag o'r blaen, ac fel y cynyddent o awr i awr, erfyniwyd mor daer arno fyned i'w wely, fel y cydsyniodd o'r diwedd. Teimlai ef bellach, a gwelai pawb oddeutu fod digwyddiad pwysig gerllaw; darllenwyd ei ollyngdod yn ol ffurf yr Eglwys Sefydledig ar y pryd gan offeiriad a ddaethai i Landderfel y diwrnod hwnw i ddarllen y gwasanaeth priodas; ysgydwodd law yn garedig a Goronwy, gan ddiolch am y gwasanaeth a wnaeth iddo, a hyderu y gwenai Rhagluniaeth ar Forfudd ac yntau; Morfudd nis gallai ddal yr olygfa, ac enciliodd i ystafell arall; Gwenllian a sychai y chwys oer oddiar ei dalcen hardd, ac a wlychai ei wefusau seriedig âg ychydig win—ar ei gais hi a'i cusanodd yn serchus; yna efe a sisialodd yn floesg, "Cofiwch i gyd am blentyn y gelyn Ionofal fach!" Canodd yn iach i'r gosgorddlu un ac oll-dynion haiarnaidd amryw o honynta fuasent gyda'u penaeth yn Nghaer a manau eraill—nis gallent hwythau ddal yr olygfa. Yr oedd Robin, druan, wedi rhwystro yn lân, yn llefain fel plentyn, ac yn ymgreimio hyd lawr. Dymunodd y claf ar i Wenllian droi ei wyneb tua chartref, a chan edrych trwy'r ffenestr agored ar lechweddau gleision yr ardal brydferth o'i flaen, llonyddodd y llygaid dysglaer hyny yn araf deg, daeth yr anadl yn ferach, ferach, ac nid oedd yn aros o'r dyn hardd, dewr, a da, Reinhallt ab Gruffydd o'r Twr ond y llwch teg i ddychwelyd yn llwch eilwaith. Dygwyd y llwch hwnw yn barchus i'w gladdu yn Macpela'r teulu yn Nyffryn Alun; a'r oedran cerfiedig ar gauad ei arch ydoedd 28ain oed. Efe a fu farw'n ieuanc, er iddo fyw yn hir.

Y mae fy ngwaith i bellach fel ysgrifenydd rhamant "Reinhallt ab Gruffydd o'r Twr" ar ben. Gair arall am dreigliad rhai o gymeriadau blaenllaw y chwedl:

Wedi bwrw amser gweddus galar heibio, Goronwy a Morfudd a briodwyd, ac enw y bachgen cyntaf a seliodd eu hundeb oedd Reinhallt; parhaodd yr undeb hwnw yn hir a digwmwl, fel y gallai Ionofal dystio yn hen wraig foddlon ar fin ei 80ain oed, wedi eu treulio yn hapus yn eu gwasanaeth. Gwenllian a arweddodd fywyd crefyddol mynaches, ac felly yr oedd yn Wenllian mewn mwy nag un ystyr; Sion a briododd ar ei hen sodlau, ac y mae ei wehelyth yn mhlith rhai o deuluoedd urddasol sir y Flint.

Y mae yn digwydd yn fynych fod y synwyr cryfaf a'r teimlad dwysaf wedi eu huno gyda'u gilydd; ac yr oedd ein hen gyfaill Robert Tudur (Bondigrybwyll), yn feddiannol ar y naill a'r llall. Treuliodd weddill ei oes yn ei hen gynefin oddeutu'r Twr, a phrudd bleser ei einioes ydoedd adgofio amryfal wrhydri a rhagoriaethau ein diweddar arwr, a'i ddymuniad penaf ydoedd cael ei gladdu tan yr un dywarchen a Reinhallt; ac ni ddiystyrwyd dymuniad mor gysegredig hen greadur mor ffyddlawn.

Nodiadau

[golygu]
  1. Llysenw ar ddilynwyr neu bleidwyr llinach frenhinol Lancaster a'i Rhosyn Coch.
  2. Llysenw pleidwyr llinach frenhinol Caerefrog, a'i Rhosyn Gwyn.
  3. Dywedir yn ngwaith L. G. Cothi fod yn mysg Llawysgrifau Porking (Brogyntyn yn awr) gywydd anmherffaith yn dechreu "Wyr Einion a'i ffon ffynied y Saison," baich yr hon ydyw diolch i Reinhallt am ei wrhydri.
  4. Deilied (a villain). Yr oedd boneddigion yn yr oes hono yn perchen deiliaid-math o gaethion tan yr hen Feudal System.
  5. Y mae'r stapl hono yn aros yn nenfwd yr ystafell: a dangosir hi fel yr un y crogwyd arni Gyn-faer Caerlleon.
  6. Un o'r Hanmeriaid hyn oedd gwraig Owen Glyndwr,
  7. Gwraig ddewr y brenin anffodus Harri VI.
  8. Tua'r amser hwn y cyrhaeddodd Syr W. a Risiart Herbert, a llu mawr trwy ddirfawr anhawsderau, gerllaw'r Castell; ac wedi gwarchae caled, rhoddwyd yr amddiffyniadifynu Awst 14 o'r un flwyddyn.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.