Neidio i'r cynnwys

Rhwng Gwg a Gwên/Can yr Awen

Oddi ar Wicidestun
Ar y Cor Rhwng Gwg a Gwên

gan Dafydd Rhys Williams (Index)

Can Mari

Can yr Awen:

Beth yw Awen? nid llinellau,
Nid gwag eiriau'n rhigwm rhes;

Nid sain odlau, na rhyw dincian
Y brydyddol symbal bres;
Nid y peth geir yn cael sylw
Gan ffugenwog feirdd y byd;
Awen yw yr anian fywiog
Dery'n dyner ar y bryd.

Y mae awen lle mae bywyd,
Lle mae serch a pheth o'r fath;
Gwel hi'n chwareu ar yr aelwyd-
O! mor ddedwydd, gyda'r gath!
Gwel hi yn yr oen yn llamu;
Gwel hi yn y wenfol chwim;
Heb yr awen ddifyr, fywiog,
Ni fai anian nemawr ddim.

Gwel hi yn y wawr yn tori;
Gwel hi'n machlud gyda'r dydd;
Gwel hi'n ngwen y llon a'r difyr;
Yn y deigryn ar y rudd;
Gwel hi gyda'r llanc a'i gariad;
Yn y bach ar fron ei fam;
Yn cysuro, yn dyddanu,
Yn unioni pob rhyw gam.


Gwel hi'n gwneyd yn dyner beunydd;
Gwel hi'n ymgeleddu'r tlawd;
Gwel hi'n cerdded gyda'r crwydryn
I'w hyfforddi ar ei rawd;
Gwel hi'n nghalon drist yr eneth
Wedi ei siomi gan ei char;
Gwel hi'n dofi'r gwr diddiwyg,
Ac yn harddu moes y gwar.

Gwel hi'n llygaid hen gyfeillion
Wedi blwyddi maith yn cwrdd;
Gwel hi'n nhristwch y ffarwelio
Pan mae ffryndiau'n myn'd i ffwrdd;
Gwel hi yn nghyfarchiad dirgel
Dystaw, tyner, dim ond dau;
Gwel hi'n chwyfiad pell y cadach,
Pan fo'r llygaid yn pylhau.

Gwel hi yn y rhai hiraethant—
Serch-galonau ar wahan;
Gwel hi gyda'i thyner fegin
Yno'n chwythu'r dirgel dan:
Gwel hi'n mhob peth sydd yn hawddgar,
Ac yn anwyl ac yn hardd—

Gwel hi ar ymweliad mynych
A mynwesol lety'r Bardd.

—Allan o'r "Delyn Gam."


Nodiadau

[golygu]