Rhwng Gwg a Gwên/Chwi'n Son am Faich, &c
Gwedd
| ← Ysbryd yr Oes | Rhwng Gwg a Gwên gan Dafydd Rhys Williams (Index) |
Profiad y Pab → |
Chwi'n son am faich y gwynddyn,
Beth am y ferch neu'r fun,
O fore Llun hyd y Sabboth
Wrthi yn fficsio ei hun!
Heddyw wrth y bargen counter;
Heno mewn cwrdd boddhad;
Beunydd am newydd bethau'n
Boddro ei mam a'i thad!
Eisio cael godreu newydd;
Eisio cael pluen ddu;
'Sgidia o batent ledder,
Sash gyda gwasgen gu;
Eisio cael beisig newydd,
Ie, a walking het;
Ac i roesawu ei "chwmni"
Eisio cael parlyr set!