Rhwng Gwg a Gwên/Dyfarniad y Beirniad
Gwedd
| ← Ymrwymiad Blaenorol | Rhwng Gwg a Gwên gan Dafydd Rhys Williams (Index) |
Ar y Cor → |
Fel rheol ry gyffredin, gwell gan ddynion falu eu hyd a'r dwr sydd wedi pasio neu sydd heb ddyfod nag a'r dwr sydd yn troi y rhod.
Dyfarniad y Beirniad:
"Cawn yrwan y feirniadaeth
Gan y beirniad anrhydeddus:"
Tra y safai'r gynulleidfa
Yn echrydus o bryderus!
"Tra annheilwng" ebai "ydyw
'R holl o'r darnau ddaeth yn gynar—
'R unig stwff sydd yn fuddugol
Daeth i law yn rhy ddiweddar."