Rhwng Gwg a Gwên/Wagen y Boys
| ← Dadblygiad Dillad | Rhwng Gwg a Gwên gan Dafydd Rhys Williams (Index) |
→ |

[Yn adeg claddedigaeth Gwilym Gwent, cododd cryn ddadl yn nghylch ei safle yn nhrefn cadwedigaeth. Haerai rhai o gyfeillion Gwilym fod ei dalent fel cerddor yn newid cyweirnod trefn y cadw, gan wneyd achos y cerddor yn eithriad i reol ffydd. Yr oedd ei dalent yn ei gyfiawnhau, heb weithredoedd ffydd. Yn y cyfwng cyffrous hwn y cyfansoddwyd y gan hon i adsefydlu cydbwysedd yr elfenau; a pharodd lawer iawn o ddifyrwch.]
Clyw, bechadur, clyw efengyl
Bena'i gras i drugarhau;
Dyma newydd sail i faddeu,
Newydd ffordd i gyfiawnhau;
Gelli weithian yn ddidrafferth
Gael y goron heb y groes;
Newydd amod iechydwriaeth
Mwy yw marw'n un o'r boys.
Nid yw'r drefn am golli enaid
All wneyd englŷn dillyn, tlws:
Fe agorir pan mae solo'n
Siwr yn curo wrth y drws:
Trech yw cownterpoint nag angeu,
Trech yw sol, la, mi na moes;
Gwir gyweirnod iechydwriaeth,
Byw a marw'n un o'r boys.
Nid oes deddf yn erbyn talent,
Y mae biliau'r cyfrif llawn,
A holl lyfrau'r cwymp yn ofer
Pan yn tystio'n erbyn dawn;
Gall athrylith rodio'n eon
Hyd y nef heb gofio'r groes;
Heddyw'r ffordd i'r etifeddiaeth
Ydyw marw'n un o'r boys.
Cyfeiliornad ydyw coelio
Fod y ffordd i'r nef mor gul;
A disylwedd yw athrawiaeth
Gaeth, ddisail yr Ysgol Sul;
Nid oes dim mewn byw'n rhinweddo:,
Na'r un drwg mewn byw'n ddi-foes;
Y tragwyddol fywyd ydyw
Byw a marw'n un o'r boys.
Nid dim gwell fod dyn yn caru
Yr efengyl, swynol swn;
Ac nid gwaeth fod dyn yn hoffi
Aml lymeitian mewn salwn;
Ofer teithio'r maith anialwch
Drwy flinderau'r crasdir croes.
Pan y gellir myn'd mor esmwyth
Yn y wagen gyda'r boys.