Neidio i'r cynnwys

Rhwng Gwg a Gwên/Y Ddawn o Ysmalio

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Rhwng Gwg a Gwên

gan Dafydd Rhys Williams (Index)

Y Felancoli Gymreig

Y Ddawn o Ysmalio.

Un a ddywed fod digrifeb (joke) yn beth a gyfyd nas gwyr neb pa ffordd, gan ddiflanu nas gwyr neb i ba le.

Y mae llwyddiant digrifeb yn ymddibynu ar y naill law ar y gallu i'w chroesawu yn y gwrandawydd a'r darllenydd.

Y Ffrancwr yn ei ddull mor ffri
A eilw "smalio" yn "jeux d'esprit"
Yr ysbryd fel pe'n chwarèu'n llon
I gerdd rhyw delyn yn y fron.


Ymddibyna digrifeb weithiau ar dro cyfrwys ar y meddwl, megys a ganlyn gan Mari Jones:

"Ychydig o effaith ga profiad ar ddyn oddigerth profiad o'r petha meddwol."

Fel y dywed y doniol Tammas Haggart—Thomas Bartley y Scotiaid—y mae ysmalio fel dyn yn saethu at nod. Nis gwyr a darawodd efe hi, hyd nes y gwena neu y chwardda y rhai sydd o'i hamgylch.

Yn y wlad hon lle y mae amlwreiciaeth (gyda'u gilydd neu ar ol eu gilydd) yn beth mor gyffredin, digrifeb ddoniol yw hono o eiddo y dyn, pan y gofynid iddo pa sut yr oedd ei briod, "O'n braf, ond nid yr un dybiwch chi."

Nid llawer sylwa fod difrifwch yn ymylu ar ddigrifwch, nid mewn enw, eithr hefyd mewn anian. Tywallta y naill ddagrau wrth wylo, a'r llall wrth chwerthin. Edrycha y naill ar yr ochr dywyll; y llall ar yr ochr oleu.

Y mae pethau prudd difrifwch yn aml yn achlysuron doniolwch i ddigrifwch. Difrifwr yn aml yw y digrifwr penaf. Ni welwyd y Deon Swift erioed yn chwerthin.

Yn ngwydd yr un pethau yn fynych wyla difrifwch a chwardda digrifwch.

Fel y mae ysgafnder wrth wraidd aml i ddifrifwch; yr un modd y mae dwysder wrth wraidd aml i ddigrifwch.

Nodwedda digrifwch ddynoliaeth wedi cyr- aedd graddau uchel o wareiddiad a diwylliant, ie, wedi ymryddhau o afaelion gorthrwm ac ofergoeliaeth. Nid oes gan yr anifail na'r dyn anwar ymsyniad o ddigrifwch.

Y mae llawer o bethau yn y byd, fel y dy-. wedir, yn ddigon i yru asyn i chwerthin, ond ni chlywyd iddo wneyd hyny erioed. Mae y diffyg o du yr asyn. Gwna rywfath o chwerthin, ond nid chwerthin mo hono, serch hyny.

Mae miloedd o droion reit ddigri'n y byd,
O'n hamgylch mewn pethau cyffredin;
Ac fel y dywedir, yn ddigon, yn wir
I yru'r prudd asyn i chwerthin!

Y mae llyfr cofiant dyn o'r dechreu hyd yn awr yn llawn o'r darluniau a'r troion mwyaf difyr.

Yn mhlith oesau boreu y byd, ni feddai dyn y ddawn ddigrif. Nid oedd ganddo oriau ham- ddenol na dawn i'w treulio. Treuliai ei holl am- ser i gynllunio ei hunan-amddiffyniad a'i hunanymborthiad. Nid oedd y stor mor gyfleus y pryd hwnw ag yw yn awr. Yr oedd y tai y pryd hwnw yn waelach o lawer na thai'r cwmni y dyddiau hyn. Nid oedd y wraig a'r ferch, y pryd hwnw, yn treulio eu hamser gyda'r wisgyddes a'r benguwches. Ychwaith, ni alwai y gwr yn y dafarn ar ei ffordd adref o'i lafur.

Nid oedd cyrddau adloniadol, na neb yn byw yn y wlad rhwng digrif a chwareu. Nid oedd neb mewn oes yn cracio joc. Yr oedd byw, y pryd hwnw, yn beth difrif! Mawrygwn ein braint!

Y mae llenyddiaethau cenedloedd cyfain heb nemawr ddigrifwch ynddynt. Nid oes digrifwch nemawr yn holl lenyddiaeth y Cymry hyd yn ddiweddar. Mewn hen gyfrolau yn y Canol Oesau, lle y golygid fod cellweireb, rhoddid rhwng cromfachau (Nota jocum), sef o'i gyfieithu "Dyma joc—gwnewch yn fawr o honi!"

Yn amser paganiaeth, ac wedi hyny, pabyddiaeth yn Ewrop, ychydig ysmaliai y bobl, oblegid yr oeddynt yn byw yn ngwydd dychrynfeydd o ddyfeisiad yr offeiriaid a'r mynachod. O danynt yr oedd uffernau y Bardd Cwsg, a Dante, ac uwchben yr oedd gwg Duw digofus, a neb a rheolaeth arno ond y prist, a gymerai arian am ei ddofi. Yr unig ffordd i ddianc o'r tan oedd. myned i gymdeithasau yswiriol yr Eglwys.

Nid ysgafnder yn gymaint ag ysgafnhad yw enaid digrifwch. Digrifwch oedd etifeddiaeth dyn, ond drwy gyfrwystra y twrna mawr, y Diafol, collodd ei goron yn nghyd a'r bendithion. Dyma rybudd arall i beidio ymwneyd a'r gyfraith!

Digrifwch ydoedd baban-gryd
Gwareiddiad uwchaf, doetha'r byd;
Nid oes un gallu dan y ne
All fyn'd a'r mawl oddiarno fe.

Rheswm yn unig fedr ymddigrifo. Yn y man y mynodd rheswm ei ryddhad o garchar ofergoeliaeth, daeth allan dros y trothwy gyda gwen lydan ar ei wyneb, a doniolwch yn ei ymadrodd; ac y mae golwg arall ar y byd wedi hyny.

Plant y meddwl rhydd yw llenorion a beirdd digrif yr oesau; yn Mhrydain, yn Ffrainc, yn Germani, yn America. Digrifwch yw barnwr pob twyll, ffug, rhagrith, ofergoeliaeth a hymbwg o bob math. Digrifwch yw ceiliog gwawr gwareiddiad.

Digrifwch gododd megys cawr
I roi rhyddhad i blant y llawr;
Ac ofergoel mewn ofn a drodd,
A hymbwg gyda hi a ffodd;
Ni safant fwy na'r annuw gynt,
Na'r man us gau o flaen y gwynt.
Dan wedd difrifwch ffugiant fod
Y rhai duwiolaf is y rhod; Ond,
Ha! digrifwch sydd i'r rhai'n
A'u dichell, megys picell fain!
Digrifwch ydyw rheithfarn glau
'R synwyrau ar y ffug a'r gau.


Y mae golygiadau ac arferion difrif y naill oes yn destynau digrifwch oes arall. Yn Rwsia am oesau bu eillio barf yn sarhad ar Dduw, am y coelid fod Duw yn cadw barf!

Nid yw digrifwch, lawer pryd,
Ond goleu newydd ar y byd;
Un oes a chwardd am ben a fu
Yn achos prudd—der ar bob tu!

Ymddigrifa ac na phecha! Y mae gwir ddigrifwch yn waraidd, yn foesol, yn weddus, yn gefnogol i wirionedd, yn dduwiol ac yn ddynol. Y mae cryn lawer o'r hyn a gyfrifir yn ddigrif— wch yn ffolineb anfoneddigaidd ac anniwylliedig. Hana gwir ddoniolwch o ddiwylliant. Y mae cryn lawer o'r hyn a gyfrifir yn ddigrifwch yn mhlith y Cymry yn ymgellwair anweddus a phethau cysegredig. Y mae llawer o ddigrifebion Cymreig yn dramgwyddus i feddwl diwylliedig. Er engraifft:

Mewn cyfeillach rhwng nifer o weinidogion ar ol rhyw gyfarfod mawr, gofynwyd eu barn mewn perthynas i'r moddion goreu i wella cryg— ni a chlirio y llais. Cymeradwyai un fel; un arall spanish licorys; un arall siwgr candi; a gof— ynwyd barn Rhys Dafys (Glun Bren), yr hwn a ddywedodd taw "lwmp o'r Ysbryd Glan" oedd y feddyginiaeth fwyaf effeithiol. Defnyddir arabeddau o'r fath mewn cofiantau Cymreig fel engreifftiau o ddigrifwch!

Nodweddir cryn lawer o arabedd y Cymry ag anniwylliant ac anweddusrwydd. Y mae hyn yn rhy wir am ein digrifwyr cenedlaethol, megys Twm o'r Nant, Dafydd Ifans, Ffynonhenry; Brutus, ac eraill. Y mae y Cymro yn rhy gaeth i'w Feibl a'i grefydd i fod yn ddigrifwr llwyddianus. Fedr y Cymro ddim ymddigrifo o'r braidd heb ymgellwair.

Tystia y Seison nad yw y Cymro yn feddianol ar yr anian ddigrifol. Un wedi ymweled a Chymru haner canrif yn ol a ddywedai na welodd arwyddion o ddigrifwch yn mhlith y Cymry; ac ofnai pe yr ai Cymro i chwerthin, y craciai croen ei wyneb!

Tystiai, hefyd, fod ffeiriau Cymru fel cyrddau gweddi, gan mor ddifrifol oedd y bobl yn prynu a gwerthu! Ymddygai pawb megys mewn claddedigaeth. Pawb yn sobr a sifil, ond neb yn llawen a difyr!

Mae rhywbeth yn cyfrif am hyn. Ai y pwlpud, y set fawr a'r cyfarfod gweddi sydd wedi ymledu ac andwyo difyr asbri yr hen Gymry? Y mae y Gwyddel mor ddifyr a ffraeth ag erioed.


Nodiadau

[golygu]