Neidio i'r cynnwys

Rhwng Gwg a Gwên/Y Felancoli Gymreig

Oddi ar Wicidestun
Y Ddawn o Ysmalio Rhwng Gwg a Gwên

gan Dafydd Rhys Williams (Index)

Dyfeisiad Digrifwch

Y mae nifer o bobl gyffelyb i John Falstaff yn mhlith y Cymry, yr hwn oedd, fel y dywedai, nid yn unig yn ddoniol-ddigrif ei hun, eithr yn achos doniol-digrifwch yn eraill. Credwn fod yn ein plith, hefyd, lawer o fath "Dyn Dwl" y Deon Swift, yr hwn gan nad oedd yn dyfeisio digrifwch ei hun, oedd wedi penderfynu peidio chwerthin at eiddo eraill! Y mae niferi o Gymry y byddai yn drueni iddynt chwerthin gan yr anffurfid eu gwynebau. Y maent fel pe wedi eu harfaethu i fywyd o ddiflasdod; a chyfrifant sarugrwydd yn fwy o werth yn ngolwg Duw nag edifeirwch.


Golyga rhai'n mai golwg gas
Yw'r arwydd gryfaf o waith gras;
A'r ffordd addasa' i foddio Duw
Yw gwgu'n wastad ar eu rhyw!

Mae'r felancoli'r dwymyn brudd,
Ar galon Cymru'r 's llawer dydd;
O amgylch a mewn galar we
Gan ochain am—nis gwyr am be.
Mynwentaidd feddwl sy'n ei bron,
Arferai fod mor sionc a llon!
Eistedda gyda'i dwylaw'n mhleth
Gan ymofidio—ac am beth?
Hi gan ei hymnau oll yn lleddf—
Och! aeth galaru iddi'n reddf!
Mae fel mewn angladd hyd ei hoes,
Yn byw dan graith dychymygol groes!
Ca hyn, yn siwr, ar fryn a phant
Ddrwg effaith ar feddyliau'r plant!
Fe ddylai gwlad y breintiau mawr
Fod yr un lonaf ar y llawr!

Beth bynag am ofidiau Cymru, pe gellid ond cael y Seison a'r Toris allan o honi, cael dadgysylltiad oddiwrth yr Eglwys; cael y goreu ar Lord Penrhyn; cael Sir Fon yn rhywle lawr rhwng Meirionydd a Cheredigion; cael heddwch rhwng y North a'r South; cael pris da am y Wyddfa neu ddarn da o dir tatws yn gyfnewid am dani; cael Caergybi a Chaerdydd i newid pwlpudau yn amlach; cael yr enwadau at eu gilydd, a Thywysog Cymru anenwadol; cael rhif siroedd Cymru yn 12 yn lle 13, yr hyn sydd wrth wraidd anlwc y Cymry o'r dechreu; cael cosb Gymraeg i'r drwgweithredwr Cymreig, a chrogiad Cymreig i'r llofrudd Cymreig; cael Llangiwc a Beddgelert yn Brif Ddinasoedd Cymru bob yn ail flwyddyn; a gallem fforddio bod yn ddifyr am y gweddill o'r dyfodol!

Ystyrir digrifwch gan athronwyr a dadansoddwyr yn gynyrch rheswm uchel, yn ffrwyth craffder anarferol, yn gynyrch cyfatebiaeth gyw— rain, yn ffrwyth asbri dyner a dychymyg doniol; mewn gair, yn gynysgaeth canolbwyntiad doniau y meddwl. Y mae yn ffrwyth sydd yn tyfu ar frigau pren gwybodaeth. Y mae dau ben i bellen y meddwl—gorphwylledd a digrifwch—sef y pwyll uchaf.

Cenfydd difrifwch ochr faterol pethau; digrifwch yr ochr feddyliol. Cenfydd digrifwch anghysondeb lle y tybir fod cysondeb. Cenfydd ffug lle y tybir fod gwir. Humor is absolute truth. Gwel digrifwch bethau yn well neu yn waeth na'u hymddangosiad neu eu hymhoniad..

Y mae ffraethineb, weithiau, yn gynyrch dyryswch meddyliol neu gamgasgliad anffodus fel y canlyn: "Ni fuasai Llyfr Esther na Chaniadau Solomon yn y Beibl oni buasai fod Ahasferus a Solomon ar y pwyllgor trefniadol." Wedi y cwbl, y mae yna elfen ddigrif. *** Ofnir fflangell digrifwch yn fwy na chleddyf difrifwch :

Gwell fyddai'r byd pe cai dyn bwyll
I chwerthin ar bob ffug a thwyll.
Y Phariseaeth sy'n mhob lle!
Y ffug-grefydda is y ne!

Y coegymhonwyr sy'n mhob man
Yn ffugio dysg i dwyllo'r gwan!

Ac O'r llywiawdwyr o bob rhyw
A roed i dreisio'r byd gan Dduw (?)
 
Gwel acw ar sedd uwch dynol ryw
Un ffugia fod yn Ficer Duw;
A'i weision yn tywyllu'r lle
Er mwyn cael golwg ar y ne!


Nodiadau

[golygu]