Rhwng Gwg a Gwên (testun cyfansawdd)
| ← | Rhwng Gwg a Gwên (testun cyfansawdd) gan Dafydd Rhys Williams (Index) |
Cynwysiad → |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Rhwng Gwg a Gwên |

RHWNG
GWG A GWEN.
SEF
SYLWADAU
AR
Y DDAWN O YSMALIO
YN NGHYD A
GWREICHION
ODDIAR
BENTAN YR AWEN
YN
FYR A DIFYR.
Chware ac na friw; kellwair ac na chwelyddia.—"Synwyr Pen Cymbro."
GAN "INDEX."
CYNWYSIAD
Rhagymadrodd
Y DDAWN O YSMALIO
Y Felancoli Gymreig
Dyfeisiad Digrifwch
GWREICHION
Oes Ryfedd
Trefn y Byd
Y Glowyr a'r Scal
Y Meddwyn
Cwyn y Tafarnwr
Y Crythwr Bach
Can y Tegell Bach
Desgrifiad o Arweinydd Cor
Y Fenyw Newydd
Rhamant a Rheswm
Benyw Newydd
Ymrwymiad Blaenorol
Dyfarniad y Beirniad
Ar y Cor
Can yr Awen
Can Mari
RHAGYMADRODD.
Gwir nod y llyfryn difyr hwn.
Yw helpu'r Cymro i ddwyn ei bwn,
Drwy agor ffynon fechan lon
I darddu yn ei bruddaidd fron.
O flaen pob meddwl gara len
Ymgryma'r Bardd rhwng gwg a gwen.
Y Ddawn o Ysmalio.

Un a ddywed fod digrifeb (joke) yn beth a gyfyd nas gwyr neb pa ffordd, gan ddiflanu nas gwyr neb i ba le.
Y mae llwyddiant digrifeb yn ymddibynu ar y naill law ar y gallu i'w chroesawu yn y gwrandawydd a'r darllenydd.
Y Ffrancwr yn ei ddull mor ffri
A eilw "smalio" yn "jeux d'esprit"
Yr ysbryd fel pe'n chwarèu'n llon
I gerdd rhyw delyn yn y fron.
Ymddibyna digrifeb weithiau ar dro cyfrwys ar y meddwl, megys a ganlyn gan Mari Jones:
"Ychydig o effaith ga profiad ar ddyn oddigerth profiad o'r petha meddwol."
Fel y dywed y doniol Tammas Haggart—Thomas Bartley y Scotiaid—y mae ysmalio fel dyn yn saethu at nod. Nis gwyr a darawodd efe hi, hyd nes y gwena neu y chwardda y rhai sydd o'i hamgylch.
Yn y wlad hon lle y mae amlwreiciaeth (gyda'u gilydd neu ar ol eu gilydd) yn beth mor gyffredin, digrifeb ddoniol yw hono o eiddo y dyn, pan y gofynid iddo pa sut yr oedd ei briod, "O'n braf, ond nid yr un dybiwch chi."
Nid llawer sylwa fod difrifwch yn ymylu ar ddigrifwch, nid mewn enw, eithr hefyd mewn anian. Tywallta y naill ddagrau wrth wylo, a'r llall wrth chwerthin. Edrycha y naill ar yr ochr dywyll; y llall ar yr ochr oleu.
Y mae pethau prudd difrifwch yn aml yn achlysuron doniolwch i ddigrifwch. Difrifwr yn aml yw y digrifwr penaf. Ni welwyd y Deon Swift erioed yn chwerthin.
Yn ngwydd yr un pethau yn fynych wyla difrifwch a chwardda digrifwch.
Fel y mae ysgafnder wrth wraidd aml i ddifrifwch; yr un modd y mae dwysder wrth wraidd aml i ddigrifwch.
Nodwedda digrifwch ddynoliaeth wedi cyr- aedd graddau uchel o wareiddiad a diwylliant, ie, wedi ymryddhau o afaelion gorthrwm ac ofergoeliaeth. Nid oes gan yr anifail na'r dyn anwar ymsyniad o ddigrifwch.
Y mae llawer o bethau yn y byd, fel y dy-. wedir, yn ddigon i yru asyn i chwerthin, ond ni chlywyd iddo wneyd hyny erioed. Mae y diffyg o du yr asyn. Gwna rywfath o chwerthin, ond nid chwerthin mo hono, serch hyny.
Mae miloedd o droion reit ddigri'n y byd,
O'n hamgylch mewn pethau cyffredin;
Ac fel y dywedir, yn ddigon, yn wir
I yru'r prudd asyn i chwerthin!
Y mae llyfr cofiant dyn o'r dechreu hyd yn awr yn llawn o'r darluniau a'r troion mwyaf difyr.
Yn mhlith oesau boreu y byd, ni feddai dyn y ddawn ddigrif. Nid oedd ganddo oriau ham- ddenol na dawn i'w treulio. Treuliai ei holl am- ser i gynllunio ei hunan-amddiffyniad a'i hunanymborthiad. Nid oedd y stor mor gyfleus y pryd hwnw ag yw yn awr. Yr oedd y tai y pryd hwnw yn waelach o lawer na thai'r cwmni y dyddiau hyn. Nid oedd y wraig a'r ferch, y pryd hwnw, yn treulio eu hamser gyda'r wisgyddes a'r benguwches. Ychwaith, ni alwai y gwr yn y dafarn ar ei ffordd adref o'i lafur.
Nid oedd cyrddau adloniadol, na neb yn byw yn y wlad rhwng digrif a chwareu. Nid oedd neb mewn oes yn cracio joc. Yr oedd byw, y pryd hwnw, yn beth difrif! Mawrygwn ein braint!
Y mae llenyddiaethau cenedloedd cyfain heb nemawr ddigrifwch ynddynt. Nid oes digrifwch nemawr yn holl lenyddiaeth y Cymry hyd yn ddiweddar. Mewn hen gyfrolau yn y Canol Oesau, lle y golygid fod cellweireb, rhoddid rhwng cromfachau (Nota jocum), sef o'i gyfieithu "Dyma joc—gwnewch yn fawr o honi!"
Yn amser paganiaeth, ac wedi hyny, pabyddiaeth yn Ewrop, ychydig ysmaliai y bobl, oblegid yr oeddynt yn byw yn ngwydd dychrynfeydd o ddyfeisiad yr offeiriaid a'r mynachod. O danynt yr oedd uffernau y Bardd Cwsg, a Dante, ac uwchben yr oedd gwg Duw digofus, a neb a rheolaeth arno ond y prist, a gymerai arian am ei ddofi. Yr unig ffordd i ddianc o'r tan oedd. myned i gymdeithasau yswiriol yr Eglwys.
Nid ysgafnder yn gymaint ag ysgafnhad yw enaid digrifwch. Digrifwch oedd etifeddiaeth dyn, ond drwy gyfrwystra y twrna mawr, y Diafol, collodd ei goron yn nghyd a'r bendithion. Dyma rybudd arall i beidio ymwneyd a'r gyfraith!
Digrifwch ydoedd baban-gryd
Gwareiddiad uwchaf, doetha'r byd;
Nid oes un gallu dan y ne
All fyn'd a'r mawl oddiarno fe.
Rheswm yn unig fedr ymddigrifo. Yn y man y mynodd rheswm ei ryddhad o garchar ofergoeliaeth, daeth allan dros y trothwy gyda gwen lydan ar ei wyneb, a doniolwch yn ei ymadrodd; ac y mae golwg arall ar y byd wedi hyny.
Plant y meddwl rhydd yw llenorion a beirdd digrif yr oesau; yn Mhrydain, yn Ffrainc, yn Germani, yn America. Digrifwch yw barnwr pob twyll, ffug, rhagrith, ofergoeliaeth a hymbwg o bob math. Digrifwch yw ceiliog gwawr gwareiddiad.
Digrifwch gododd megys cawr
I roi rhyddhad i blant y llawr;
Ac ofergoel mewn ofn a drodd,
A hymbwg gyda hi a ffodd;
Ni safant fwy na'r annuw gynt,
Na'r man us gau o flaen y gwynt.
Dan wedd difrifwch ffugiant fod
Y rhai duwiolaf is y rhod; Ond,
Ha! digrifwch sydd i'r rhai'n
A'u dichell, megys picell fain!
Digrifwch ydyw rheithfarn glau
'R synwyrau ar y ffug a'r gau.
Y mae golygiadau ac arferion difrif y naill oes yn destynau digrifwch oes arall. Yn Rwsia am oesau bu eillio barf yn sarhad ar Dduw, am y coelid fod Duw yn cadw barf!
Nid yw digrifwch, lawer pryd,
Ond goleu newydd ar y byd;
Un oes a chwardd am ben a fu
Yn achos prudd—der ar bob tu!
Ymddigrifa ac na phecha! Y mae gwir ddigrifwch yn waraidd, yn foesol, yn weddus, yn gefnogol i wirionedd, yn dduwiol ac yn ddynol. Y mae cryn lawer o'r hyn a gyfrifir yn ddigrif— wch yn ffolineb anfoneddigaidd ac anniwylliedig. Hana gwir ddoniolwch o ddiwylliant. Y mae cryn lawer o'r hyn a gyfrifir yn ddigrifwch yn mhlith y Cymry yn ymgellwair anweddus a phethau cysegredig. Y mae llawer o ddigrifebion Cymreig yn dramgwyddus i feddwl diwylliedig. Er engraifft:
Mewn cyfeillach rhwng nifer o weinidogion ar ol rhyw gyfarfod mawr, gofynwyd eu barn mewn perthynas i'r moddion goreu i wella cryg— ni a chlirio y llais. Cymeradwyai un fel; un arall spanish licorys; un arall siwgr candi; a gof— ynwyd barn Rhys Dafys (Glun Bren), yr hwn a ddywedodd taw "lwmp o'r Ysbryd Glan" oedd y feddyginiaeth fwyaf effeithiol. Defnyddir arabeddau o'r fath mewn cofiantau Cymreig fel engreifftiau o ddigrifwch!
Nodweddir cryn lawer o arabedd y Cymry ag anniwylliant ac anweddusrwydd. Y mae hyn yn rhy wir am ein digrifwyr cenedlaethol, megys Twm o'r Nant, Dafydd Ifans, Ffynonhenry; Brutus, ac eraill. Y mae y Cymro yn rhy gaeth i'w Feibl a'i grefydd i fod yn ddigrifwr llwyddianus. Fedr y Cymro ddim ymddigrifo o'r braidd heb ymgellwair.
Tystia y Seison nad yw y Cymro yn feddianol ar yr anian ddigrifol. Un wedi ymweled a Chymru haner canrif yn ol a ddywedai na welodd arwyddion o ddigrifwch yn mhlith y Cymry; ac ofnai pe yr ai Cymro i chwerthin, y craciai croen ei wyneb!
Tystiai, hefyd, fod ffeiriau Cymru fel cyrddau gweddi, gan mor ddifrifol oedd y bobl yn prynu a gwerthu! Ymddygai pawb megys mewn claddedigaeth. Pawb yn sobr a sifil, ond neb yn llawen a difyr!
Mae rhywbeth yn cyfrif am hyn. Ai y pwlpud, y set fawr a'r cyfarfod gweddi sydd wedi ymledu ac andwyo difyr asbri yr hen Gymry? Y mae y Gwyddel mor ddifyr a ffraeth ag erioed.

Y mae nifer o bobl gyffelyb i John Falstaff yn mhlith y Cymry, yr hwn oedd, fel y dywedai, nid yn unig yn ddoniol-ddigrif ei hun, eithr yn achos doniol-digrifwch yn eraill. Credwn fod yn ein plith, hefyd, lawer o fath "Dyn Dwl" y Deon Swift, yr hwn gan nad oedd yn dyfeisio digrifwch ei hun, oedd wedi penderfynu peidio chwerthin at eiddo eraill! Y mae niferi o Gymry y byddai yn drueni iddynt chwerthin gan yr anffurfid eu gwynebau. Y maent fel pe wedi eu harfaethu i fywyd o ddiflasdod; a chyfrifant sarugrwydd yn fwy o werth yn ngolwg Duw nag edifeirwch.
Golyga rhai'n mai golwg gas
Yw'r arwydd gryfaf o waith gras;
A'r ffordd addasa' i foddio Duw
Yw gwgu'n wastad ar eu rhyw!
Mae'r felancoli'r dwymyn brudd,
Ar galon Cymru'r 's llawer dydd;
O amgylch a mewn galar we
Gan ochain am—nis gwyr am be.
Mynwentaidd feddwl sy'n ei bron,
Arferai fod mor sionc a llon!
Eistedda gyda'i dwylaw'n mhleth
Gan ymofidio—ac am beth?
Hi gan ei hymnau oll yn lleddf—
Och! aeth galaru iddi'n reddf!
Mae fel mewn angladd hyd ei hoes,
Yn byw dan graith dychymygol groes!
Ca hyn, yn siwr, ar fryn a phant
Ddrwg effaith ar feddyliau'r plant!
Fe ddylai gwlad y breintiau mawr
Fod yr un lonaf ar y llawr!
Beth bynag am ofidiau Cymru, pe gellid ond cael y Seison a'r Toris allan o honi, cael dadgysylltiad oddiwrth yr Eglwys; cael y goreu ar Lord Penrhyn; cael Sir Fon yn rhywle lawr rhwng Meirionydd a Cheredigion; cael heddwch rhwng y North a'r South; cael pris da am y Wyddfa neu ddarn da o dir tatws yn gyfnewid am dani; cael Caergybi a Chaerdydd i newid pwlpudau yn amlach; cael yr enwadau at eu gilydd, a Thywysog Cymru anenwadol; cael rhif siroedd Cymru yn 12 yn lle 13, yr hyn sydd wrth wraidd anlwc y Cymry o'r dechreu; cael cosb Gymraeg i'r drwgweithredwr Cymreig, a chrogiad Cymreig i'r llofrudd Cymreig; cael Llangiwc a Beddgelert yn Brif Ddinasoedd Cymru bob yn ail flwyddyn; a gallem fforddio bod yn ddifyr am y gweddill o'r dyfodol!
Ystyrir digrifwch gan athronwyr a dadansoddwyr yn gynyrch rheswm uchel, yn ffrwyth craffder anarferol, yn gynyrch cyfatebiaeth gyw— rain, yn ffrwyth asbri dyner a dychymyg doniol; mewn gair, yn gynysgaeth canolbwyntiad doniau y meddwl. Y mae yn ffrwyth sydd yn tyfu ar frigau pren gwybodaeth. Y mae dau ben i bellen y meddwl—gorphwylledd a digrifwch—sef y pwyll uchaf.
Cenfydd difrifwch ochr faterol pethau; digrifwch yr ochr feddyliol. Cenfydd digrifwch anghysondeb lle y tybir fod cysondeb. Cenfydd ffug lle y tybir fod gwir. Humor is absolute truth. Gwel digrifwch bethau yn well neu yn waeth na'u hymddangosiad neu eu hymhoniad..
Y mae ffraethineb, weithiau, yn gynyrch dyryswch meddyliol neu gamgasgliad anffodus fel y canlyn: "Ni fuasai Llyfr Esther na Chaniadau Solomon yn y Beibl oni buasai fod Ahasferus a Solomon ar y pwyllgor trefniadol." Wedi y cwbl, y mae yna elfen ddigrif. *** Ofnir fflangell digrifwch yn fwy na chleddyf difrifwch :
Gwell fyddai'r byd pe cai dyn bwyll
I chwerthin ar bob ffug a thwyll.
Y Phariseaeth sy'n mhob lle!
Y ffug-grefydda is y ne!
Y coegymhonwyr sy'n mhob man
Yn ffugio dysg i dwyllo'r gwan!
Ac O'r llywiawdwyr o bob rhyw
A roed i dreisio'r byd gan Dduw (?)
Gwel acw ar sedd uwch dynol ryw
Un ffugia fod yn Ficer Duw;
A'i weision yn tywyllu'r lle
Er mwyn cael golwg ar y ne!
Cymerwyd y truan (?) cyntaf chwarddodd i'r ddalfa dan y dybiaeth ei fod yn ynfydu. Y mae plant dynion erioed o'r dechreu yn erbyn pob diwygiad; a thriniant eu cymwynaswyr goreu megys eu gelynion penaf.
Ryw fore yn yr oesau fu,
'Roedd dynion annigrifol lu;
Ac yn eu plith nid oedd yr un
Allasai chwerthin megys dyn.
Edrychai pawb a gwyneb syn;
A neb ni theimlodd joc cyn hyn!
'Roedd dyn fel asyn neu fel ych—
Ni adnabuai'i hun mewn drych!
O ddifrif yr ysbiai'n fud
Ar amgylchiadau digri'r byd!
Pan gwrddai dau, ni ddwedent ddim
A roddai'r ddigrif ddawn mewn grym;
Fel deuddyn sal ymddygai'r ddau,
Heb wawdd y naill y llall i'w ffau;
Ni ddeuai'r gwragedd i'r un lle
I wau, i wnio, neu gael te!
Ni chwarddai neb, ni wenai chwaith—
Yn drwm ymgrymai hyd ei daith,
O'i gryd i'w fedd. Ond rywdro'n syn
Fe glywyd "Ha! Ha! Ha!" fel hyn;
A phawb a ruthrodd o bob lle
I weled dynsawd odia'r dre!
Gwnai lais mor od! a lledai'i geg,
Nes cau ar ei lygadau'n deg!
A deuai'r dagrau dros ei rudd
Fel truan yn galaru'n brudd!
Tarawai'i forddwyd—yna fe
A ddaliai'i ochrau yn eu lle!
Ac aeth pob un i goelio'n siwr
Fod rhyw wallgofrwydd ar y gwr!
A chlymwyd ef wrth braffus bren
Hyd deuai eto'n ol i'w ben!
Ond wedi dechreu aeth y clwy
O un i un, o fwy i fwy;
Hyd nes i chwerthin fyn'd drwy'r wlad
Yn ffasiwn newydd ar fwynhad!
A buan penderfynwyd fod
Ffon a phen aur a gweddus god
Yn cael eu rhoddi iddo fe
Ddyfeisiodd chwerthin is y ne!

Dyddir oes dynoliaeth o'r bore hwnw. Yr oedd y chwerthiniad cyntaf yn wyrth, am ei fod yn groes i ddeddf natur bywyd dynol hyd hyny; ond yn fuan daeth yn drefn gyffredin. Y mae pob dechreu yn wyrthiol.
Daw amser pan fydd difyr fryd
A difyr iaith yn gyffyr byd.
Ffraethebion a doniolwch mwy
Fydd y pelleni at bob clwy.
Hyn fydd y moddion at bob poen,
O wella'r crafu ar y croen
Hyd wella'r cylla, puro'r gwaed
A symud cyrn oddiar y traed!
A pawb i'w cell heb ofni "Dos I gyrchu'r doctor," ganol nos;
Heb ofni'r clwy a rydd y pil Sy'n angeu'r claf, y Doctor's Bil! Y meddyg a'r physigwr crach Yn segur am fod pawb yn iach!
Dangosodd y baladr gyntaf o ddigrifwch a darawodd i galon dyn fod heulwen o ddedwyddwch y tu draw i gymyl difrifwch.
Fe anwyd dyn yn more'r byd
A'r caddug yn amdoi ei fryd.
Rhyw niwl a tharth orchuddiai'r nef;
Ni thwnai heulwen iddo ef!
Drwy'r gorslyd wlad y ffynai'r cryd,
A chrynai'r dyn mewn ofn o hyd!
Ond dros fryn amser torodd gwawr,
A naws gwres dreiddiodd hyd y llawr;
Ac aeth y tarth, a'r niwl a ffodd,
A'r naill a'r llall yn heulwen drodd;
A throdd yr wybren eang las
Yn llawn o bob dymunol ras!
A difrifwch yr ymladdwyd holl frwydrau gwareiddiad, ond a digrifwch y dethlir pob buddugoliaeth. Y mae digrifwch iawn yn ddatganiad uwchafiaeth y meddwl, megys caniad ceiliog, yn gorfoleddu uwch rhyw fuddugoliaeth, ac felly y bydd, yn ddiau, yn mlaen yn oes oesoedd, digrifwch ar gynydd yn barhaus. Arddangosir y ffaith ddyddorol gan chwedl Rhwymiad y Blaidd yn y chwedloniaeth Scandinafiaidd. Un o blant Loke (diafol) oedd y Blaidd—angenfil echrydus wedi tyfu i gryfder mor ofnadwy yn Asgard y duwiau, fel y penderfynwyd ei rwymo a chadwynau; ond torai bob cadwyn a roid am dano. Yn y diwedd, aed i Svartalfheim, lle y ceid y corachod cywrain fel gofiaid i wneyd cadwyn, yr hon oedd mor deg a main ag edau sidan. Rhwymwyd y Blaidd a hi, a methodd ei thori. Parodd y fuddugoliaeth ddiweddaf hon y fath hyfrydwch yn mhlith y duwiau pryderus fel y dechreuasant chwerthin!
Felly y mae pob buddugoliaeth gwareiddiad yn mhlith plant dynion yn gynydd digrifwch.
Pob ymorchest gais ddifrifwch,
Buddugoliaeth dry'n ddigrwch.

GWREICHION
ODDIAR

Bentan yr Awen.
Gwreichion.
*:*
Dywed Dafydd Jones fod yr hen ddull gwirfoddol o gynal crefydd wedi rhoi lle i'r dull rhywfoddol.
Yn Llyfr y Bywyd nid oes atalnod rhwng ffydd a gweithred.
"Nid ydym ni y merched," ebe Mari, "yn meddwl fawr o'r hen fost yna, "Y gwyr yn erbyn y byd!"
Nid un o Seintiau y Dyddiau Diweddaf yw Dewi Sant.
Sylwa Dafydd Jones fod y rhai sydd yn credu yn uffern yn credu ynddi er mwyn eraill.
Y mae yr anghymedrol gyda phethau meddwol yn sicr o droi yn anghymedrol gyda phethau dirwestol.
Crychyn digrif o eiddo bechgyn Rhydychen yw terfynu enwau trefi a dinasoedd ag "en," am mai benywaidd ydynt: megys Rhydychen, Llunden, Aberaeren, Aberdaren, Caerfyrdden, &c.
Amser y rhyfel:
Helpiwch y fyddin, fawr a man,
Yr oreu dan y ne;
Smociwch chwi, wyr, a chwithau'n wych
Y gwragedd, yfwch de!
Mae Dafydd bach a fi o hyd
Yn gwneyd ein rhan i dre;
Efe yn 'smocio drwy y dydd,
A finau'n yfed te!
—Mari.
Ebe Dafydd un noson:
"Gwlad y Breintiau y gelwir Cymru, ond gellid meddwl mai ychydig o'r iawn iws wneir o honyn nhw."
Prin iawn, gellid meddwl, yw merched yn Morganwg. Nid oes yno son am neb ond y "Ferch o Gefn Ydfa."
"Sylwaist ti, Dafydd," ebe Mari, "fel y mae gwyr y Gogledd yn ymffrostio yn y Wyddfa fel
Llywydd y Ladies Aid
pe nhw gwna'th hi!" "Wel," ebe Dafydd, "run modd y mae gwyr y De yn bragio stack fawr Llanelli."
Dywed Mari Jones fod y "Drych" yn hanfodol angenrheidio! i'r merched sydd am fod yn steilus.
Gwnaed y fenyw o flaen y "Drych," ac y mae o'i flaen byth oddiar hyny.
Gwnaeth pregethwr dysgedig y sylw a ganlyn dro yn ol : "Gofalwch rhag i'ch posibiliadau droi yn bosibiblau."
Dywed Mari Jones ei bod yn beryglus eistedd yn agos i rai merched y dyddiau hyn, gan gymaint y powdwr sydd arnyn nhw!
Mae'r oes hon yn rhyfedd ei doniau,
Rhyw syndod ar syndod a geir;
Fe welir y cerbyd digeffyl
A bwytir y wyau di-ieir;
Anfonir negesau heb goesau;
Cawn ganu dileisiau'n ddi-nag,
Gwneir bara diball a dibeilliad
A diod heb frithyn o frag!
Cawn grefydd ddifoesau yn ffynu;
Di serch briodasau'n ddi ri;
Pregethau diras o bwlpudau;
Gweddiau heb esgus o gri;
Cyfeillach wag ddigyfeillgarwch,
A gwagedd o wragedd di de;
Gwag deitlau heb rith o deilyngdod—
Dysgawdwyr di ddysg yn mhob lle.
A ddaw hi yn gyffro diysgog,
Neu rywbryd yn oleu di wawl?
A fydd hi yn gylch heb un awyr,
Neu rywfodd yn ganmol di-fawl?
A ddaw hi yn serch gwael di gariad?
A ddaw hi yn rhagrith di rith?
A ddaw hi'n ddyfodol di ddyfod,
Neu rywfodd yn fythol di fyth?
Un noson pan oedd Mari yn canu yr uchod ar yr hen "Grugybar," gwelid Dafydd yn troi a throsi y "Caniedydd," ac o'r diwedd, ebe efe, "B'le cest ti hwna, los? Wela i mo'no yn hwn." "Dyna'r letest!" ebe Mari.
Dywed Dafydd Jones mai dyledswydd pob Cymro yw cofio mai nid Gorsedd Gras yw Gorsedd y Beirdd.
Pa beth yw made to order
O werth os na fydd maint
Trowsusau wedi mesur
Yn gweddu coesau'r saint?
Mae Dr. Pan yn son llawer am y ddaear i'r bobl; y bobl i'r ddaear fydd hi cyn y diwedd!
Ebe Mari:
Clodforir Dewi Sant yn awr
Ar dafod ac ar dant;
Ond nid oes son (mor od, onte?)
Am Mrs. D. a'r plant!
Y mae chwe' mil o flynyddoedd er pan bu ein tad Adda farw, ac nid oes careg ar ei fedd eto! Ebe Mari yn ddisymwth, wrth Dafydd, un noson, "Rwy'n sylwi fod llawer llai o ofyn bendith o flaen y bwrdd wedi i'r bwyd cania 'ma ddod i fordolaeth."
Ebe Mari: "Y mae peth hyll o swperau, basars, ice-cream festivals, sewing parties a ffwdan fawr yn mhlith yr eglwysi am bob pechadur a edifarhao!"
Gwell yw "Cofiwch Wraig Lot" o weithred na Salm Fawr o broffes.
Gofyna Dafydd Jones, "A yw yn bosib i ddyn nad yw yn yfed te na chwrw na smocio baco fod yn wladgarol?"
Byddai llai o ragrithwyr crefyddol, pe pesid deddf yn gwahardd blingo defaid.
"Gwaith ffol iawn," ebe Mari Jones, "yw pigo beiau cyn eu bod yn addfed."
Gelwid yr hen dduwiolion yn dduwiolion "y roast beef." Ai dyna y rheswm eu bod yn bucheddu mor dda?
Un tro fe garai hogyn
Wech hogen hardd ei phryd,
Yr hon roddasai eto
Ar arall fab ei bryd;
Hwn eto ffodd o'i gartref
Gan ado'r ferch o'i ol,
I ddylyn yn anffodus
Ryw hogen gymhen ffol!
Ac felly mae hi beunydd,
Y naill ar ol y llall,
Nes peri i ni ameu
Fod trefn y byd yn gall!
Sylw cywrain o gywir oedd hwnw o eiddo Mabon ar anghydfod gweithfaol "fod bai y ddwy ochor" i'r gweithwyr.
Mae'r glowyr wedi myn'd yn sal
O sefyll ar y sliding sgal;
Dysgwyliant er ys talm mai hon
Oedd penaf sgil y ddaear gron;
Ond siom a ddaeth, a'r teulu du
A streiciasant yno'n llu,
Wrth ganfod mai ond llithro 'lawr
A wnaent ar hyd y sgalen fawr!
Pa ryfedd oedd pan gododd cri
Fod golud wedi' seimio hi?

Ebe beirniad am gyfrol o bregethau: "Y maent yn bregethau i'r gydwybod, ond fod rhai o honynt yn far-fetched." Rhaid iddynt fod yn far-fetched i gyraedd cydwybodau rhai Cymry.
Barn Dafydd Jones yw mai cyfrwysdra i fanteisio ar gymdeithas yw edifeirwch y dyddiau hyn.
"Beth yw dy farn di o'r beirdd newydd 'ma, Daff?" ebe Mari, un noson, wedi bod yn edrych dros y "Geninen." "Wel," ebe Dafydd yn ol, "mae'n anodd dweyd eto—y mae nhw yn bur las, ond ni ddylid eu bwyta cyn eu berwi yn dda." "Wel y brenin trugaredd!" ebe Mari.
Mewn atebiad i ofyniad, dywedodd Mari Jones mai y ddynes gyntaf yn ol pob tebyg eisteddodd yn Nghadair Pedr oedd Mrs. Pedr.
Arfer gas yn mhlith y Cymry yw benthyca yn lle prynu. Pe gwnai pob un hyny, yna ni fai dim byd i'w fenthyca! ebai Mari un noson wrth un ddeuai i fenthyca "Rhwng Gwg a Gwen."
Be gythrwm na fysai Jane Williams, er ys talwm, yn dweyd o flaen y cwrt yn Llundain mai y rheswm fod ganddi dri phlysman a sowldiwr yn y gegin oedd fod arni ofn y meistr?
Y rheswm fod y Gwanwyn yn aros gyhyd cyn dod i fewn yn 'Mericia yw nad oes neb yn symud allan cyn y cyntaf o Fai.
"Mae nhw'n dweyd mai llythyr oddiwrth y Dyfroedd Mawr a'r Tonau at y Cywair Lleddf yn Nghymru yw Ton y Botel," ebe Mari.
Y foment y mae dyn yn cael ei foddhau ynddo ei hun y mae pawb eraill yn cael eu hanfoddloni ynddo.
Y mae benyw ifanc a'i phictiwr yn aml yr un peth yn union mewn un peth os nid mewn peth arall—y mae y ddau wedi eu paentio.
"Rwy'n dyall wrth y papyra," ebe Mari Jones, "fod ysgol i gael ei sefydlu yn New York i ddysgu y menywod i siarad. Cato pawb!" "Ie," ebe Dafydd, "i siarad yn eu tro, wel'di." "Dig- on da," ebe Mari.
Fel rheol gyffredin, yn mhlith y Proffeswrs, gadewir i'r gwallt dyfu yn hir lle y mae y synwyr yn fyr.
Y dyn didaro wna y tarawiad goreu yn fynych.
Y meddwyn:
Crwydra ar hyd yr heol;
Dacw fe draws y mur!
Dacw fe'r ochor arall—
Dacw fe lawr yn wir!
Dacw y plisman ato,
Dacw fe'n y patrol!
Fe gyda'i faich a yrir
Draw ar frys i'r "goal!"
Un o ganiadau swynol Dafydd yw "Cwyn y Tafarnwr:"
Wrandawyr, gyda'ch cenad,
Rhowch wrandawiad i mi'n rhwydd,
Cadw tafarn cil yr heol
Gynt yn siriol oedd fy swydd;
Ond 'rwyf heddyw'n annhrwyddedig
Ac anniddig iawn fy nhaith,
Ac wedi myn'd i bared,
O, rhy galed ydyw gwaith!
Fe dorodd rhai fy ngwddwg,
Er mai diddrwg o'wn bob dydd,
Er treio byw'n fucheddol
Ac wrth reol teyrnas rydd;
Ond drwy bengam ffol resymau,
Heb ddim seiliau namyn swn,
Ha! orphwysodd y gwyr drygiaid
Ddim cyn cau ar fy salwn—
Ac nis gwn am beth?
Roedd gen i dy pleserus,
A chysurus iawn yn siwr;
A phob rhyw hapchwareuaeth
Ddiystyriaeth gyda stwr;
Yn aml 'roedd gwyr o fonedd
Ac o fuchedd wrth y bwrdd,
A rhai yn mron diffygio
Yn curo wrth ddod o'r cwrdd.
Nid oeddwn fyth yn gwrthod
Rhoddi diod i'r un dyn—
'Rwy'n ddyn sy'n caru gweled
Pawb yn tynu yn gytun.
Ond drwy bengam ffol resymau
Heb ddim seiliau namyn swn,
O! orphwysodd y gwyr drygiaid
Ddim cyn cau ar fy salwn—
Ac nis gwn am beth?
A rhag i druan lwgu,
Row'n yn credu dyn mewn crac;
A gwyddai pawb a fynent
Am hen batent drws y bac;
A gwerthwn ar y Sabboth,
Gan nad wyf fi gath mor gul
A chredu nad yw dynfon
Gwych yn sychu ar y Sul!
A chadwn o dosturi
'Chydig wisci cudd, yn wir,
Er na ddysgwyliai'r gyfraith
I mi gadw dim ond bir!
Ond drwy bengam ffol resymau
Heb ddim seiliau namyn swn,
Ha! orphwysodd y cythrymiaid
Ddim cyn cau ar fy salwn—
A bernwch chwi, 'nawr, yn enw pob rheswm
A synwyr, am beth?
Nid pawb wyr i Dafydd dreio'i law at gyhoeddi llyfr, ond trodd yn fethiant, drwy i ry ychydig danysgrifio am dano. "Paid ti ag anturio dim yn ei gylch," ebe Mari, "os na elli di gael digon i'w brynu a dy gydnabod am ei roi wrth ei gilydd, mi cadwn ni e' for domestic consumption. Ac felly y bu; daeth rhyw nychdod o enwau i law, ond nid digon i roi gwynt dan ei aden a symbylu Dafydd i roi ei "Delyn Gam" ar y farchnad. Feallai i enw y llyfr godi rhagfarn yn ei erbyn. Hawdd yw codi rhagfarn lle bo annyddordeb a gwrthwynebiad eisoes i brynu llyfrau. Pe bai ein serch yn gryfach fel cenedl, byddai ein rhagfarn yn wanach. Yn fuan wedi ymollyngiad yr anturiaeth, cyfansoddodd Dafydd a ganlyn:
Y crythwr bach gardotai
Gan chwareu 'i grwth yn rhad;
O le i le am gardod ai;
O ddrws i ddrws ychydig gai,
Ar hyd a lled y wlad!
Newynog ai yn fynych
I'w wely caled tlawd;
Ond deuai engyl tirion Duw
Y nos mewn breuddwyd ato i'w
Gysuro ar ei rawd!
'Roedd ganddo lu edmygwyr
Mewn palas ac mewn bwth,
A garent wrando'i gerddi mwyn
A synu at berseiniol swyn
Ei fyg garedig grwth!
Ond torodd gwawr un boreu
A cheid y crythwr mud
Ag oerwlith angeu ar ei rudd—
Ei ffidil wedi tewi sydd
Yn gerydd ar y byd!
Y ffaith yw y cyhoeddir llawer o lyfrau disylwedd a diawen yn mhlith y Cymry, a cha meddylwyr da farw heb y gefnogaeth ddyledus. Fel engraifft, rhoddwn y gan a ganlyn allan o "Delyn Gam" Dafydd Jones, fel prawf na chefnogir y dynion goreu yn ein plith:
Can y Tegell Bach:—
Mi glywaf son yn fynych
Am ganu goreu'r byd;
Am Lind yn nghyd a Patti
A swyn cerddorfau drud;
Ond coeliwch fi (neu peidiwch),
Nis gallaf gyfrif am
Mai'r gerdd ryfeddaf glywais oedd
Cerdd tegell bach fy mam!
Yn fynych iawn y cofiaf
Fan hyn, mewn estron wlad,
Am lawer tro yn Nghymru
A roes im' lawn fwynhad;
Ond nid oes dim a'm tery
A mwyniant mor ddinam
Ag adgof o'r hen amser gynt
Am degell bach fy mam!
Dan wg oer hin y gauaf,
O flaen y siriol dan,
Mor aml y clywn ryw fiwsig
Fel cerdd angelion glan
Yn llenwi'm bron a rhamant
Am Wynfa bur, ddi gam;
Ond deuai'r miwsig per o big
Hen decell bach fy mam!
Fe'i clywn ef weithiau'n gydgerdd
Fel seindorf bres o bell;
Ac yna megys nef-gor
Ar lanau'r Wynfa well;
Fel cyngerdd yn y galon
(Nid hawdd yw rhoi'r paham)—
Ond canu canau i fy serch
Wnai tecell bach fy mam!
Nid yw mam yno bellach—
Mae wedi myn'd i'r ne':
Ac am y tegell cerddgar,
Pa le, pa le mae e?
Mae adgof yn fy enaid
Yn meddwl beunydd am
Hen ganwr bach y pentan gynt
A'm hen garedig fam!
"Mae rhywbeth newydd i glywed bob dydd." ebe Mari Jones wrth Dafydd un diwrnod. "Beth sy 'nawr?" "Rwy'n dyall," ebe Mari, "fod y ffermwrs yn dechreu iwso sowing mashins!"
Desgrifiad o arweinydd cor:
Gwelwch e'n taflu freichiau, 'n
Rhwyfo fel pe mewn ffits;
Paffio yn wyllt a'i ddyrnau,
Pan mai am special hits;
Wincia a'i lygad arall,
Yna a'i lygad de,
Pan mae y bas neu'r alto i
Daro i fewn i dre!
Ebai Mari wrth Dafydd un noson yn ddisymwth:
"Beth yw'r glymbleidiaeth 'ma y sonir cymaint am dani? Ai enwad newydd yw, neu beth?" Ac ebe Dafydd yn ol, "Rw' ina wedi bod yn palfalu uwch hyny, ond yr oedd yn gas gen i fradychu f'anwybodaeth drwy ofyn."
"Y goel gyffredin," ebe Dafydd, "yw mai rhai duon yw y diafliaid." "Wel," ebe Mari yn ol, "feallai fod yna rai duon yn eu plith, ond gelli fentro dy fwtjac mai rhai gwyn yw y gaffers."
Dyma gan Mari pan fydd yn teimlo yn gwsnoth:
Mi welais aml i dro ar fyd,
Ac aml i dwyll aflawen;
A gwelais aml i gam go syth
Ac aml i awr ddiawen;
A gwelais aml i fradus frad
Ac aml i gast hirfyfyr;
Ond welais erioed adifyrwch hir
Na fyddai'n ddifyr di fyr!
Y fenyw newydd:
Gwae'r gweithiwr bach a'i caiff hi;
Hyn fydd ei fywyd syn,
Gwrando y fun yn pincian
Pinc ar y mandolin;
Gwell fyddai iddi ddysgu
Miwsig hen Gymru iach—
Hen diwn y badell ffraeo,
Hen gan y "Sospan Fach!"
Dywed Mari Jones fod Wil y ty nesaf yn rhodio yn ei gwsg cyn iddi hi ffeindio job iddo. Yn awr, mae'n anodd i gael e' o'i wely!
Gellid meddwl wrth glywed ambell un yn pregethu mai y gorchymyn yw, "Ewch i'r holl fyd a bygythiwch yr efengyl ar bob creadur!"
Rhamant a rheswm: Un noson clywid Dafydd yn mwmian y gan a ganlyn:
O lawer un hi oedd y fun
A'm boddiai gyda'i swynion;
Fy serch o'r bron ddyrysodd hon
A'i gwedd a'i llygaid mwynion;
Ond fel y lloer, newidiai'r oer
Yn fisol ei chynllwynion!
"Mi'th garaf fyth, ac yn ddilyth
Mi rof fy nghalon i ti!"
A dyna fel yr ai yn ffel
Ar lw, fy swynol Giti;
Ond nid oedd coel i addaw moel.
Y feinwen; dyna'r piti!
Ac aeth fy serch i ar y ferch
A allai'n hawdd fy hudo;
Wrth feddwl am fel es ar gam
Nis gallaf lai na gwrido;
Ond i roi'm ffydd ar ferch mor "rydd"
Nis gellid fy symudo.
Ac nid oedd "byth" (mewn gair, yn syth)
I Cati onid enyd;
A gwelais i i'w chalon hi,
Na fai ei serch ond penyd;
Hiraethu'n ffol wyf ar ei hol
Er im' o'i rhwyd ddiengyd!
Mari. Cerdda i 'mofyn coed a glo; a chofia newid dy wlenyn a dy 'sanau, bore fory. Dafy!
Barn Mari Jones yw fod priodas "eiraidd" yn aml yn arwain i ffrae.
Benyw newydd:
Mi wn am fenyw newydd,
Mor brydferth ac mor bur;
Mae'n eithriad i'r newyddiaid
Mewn moesau, ydi'n wir!
Nid yw am wisgoedd newydd
Na rhodio hyd y 'stryd;
Mae beunydd idd ei gweled
Ger bron ei mam o hyd.
Nid yw am blu na balchder
Nac un ffal lal erioed;
Mae'n fenyw fach rinweddol—
A heddyw'n wythnos oed!
"Y cymhelliad goreu i gysgu," ebe hen frawd profiadol, "yw meddwl ei bod yn bryd i godi."
Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr oedd yr awdl yn gaeth a'r ddiod yn rhydd.
Morien a ddywed na fu y fath berson erioed a Dewi Sant. Yn ei ddydd, gallasai Dewi ddweyd yr un modd am Morien.
Dywed llenor Ffrengig fod eisieu gwawdnod mewn llenyddiaeth, fel y mae yn barod (!) a (?). Dylai fod nod ar gael mewn barddoniaeth Gymreig yn dynodi lle y mae barddoniaeth a lle nid yw.
Os cei di wahoddiad o bell
(Neu agos) i ryw gyfarfyddiad;
I wledd neu briodas (neu well)
I rywbeth yn groes i'th ddymuniad;
Paid myn'd os yn teimlo pall gwneyd
Defnyddia yr esgus rhagorol:
Sgrifena lythyryn yn dweyd
"Fod genyt ymrwymiad blaenorol."
Gwell esgus bob amser na phall—
Mae gwrthod yn gamwedd anfoesgar;
Mae ffugio yn gymhwys i gall—
Mae'r gwir yn beth anghymdeithasgar;
Nid da fod y gwir byth yn noeth,
Pan ellir ei wisgo'n rhagorol:
Sgrifena gan gwyno yn goeth
"Fod genyt ymrwymiad blaenorol."
Y dyn sydd yn yngan ond gwir
Yw'r dyn anmhoblogaidd yrwan;
Y mwyaf ei lwydd yn y tir
Yw'r coeg sy'n ymgomio yn gyman;
Canlyniad pob gomedd yw gwg—
Ffug dristwch sydd esgus rhagorol:
Sgrifena y teimli "mor" ddrwg
"Fod genyt ymrwymiad blaenorol."
Fel rheol ry gyffredin, gwell gan ddynion falu eu hyd a'r dwr sydd wedi pasio neu sydd heb ddyfod nag a'r dwr sydd yn troi y rhod.
Dyfarniad y Beirniad:
"Cawn yrwan y feirniadaeth
Gan y beirniad anrhydeddus:"
Tra y safai'r gynulleidfa
Yn echrydus o bryderus!
"Tra annheilwng" ebai "ydyw
'R holl o'r darnau ddaeth yn gynar—
'R unig stwff sydd yn fuddugol
Daeth i law yn rhy ddiweddar."
Eto ar y Cor:
'Roedd yr attac yn lleddf a llac
A'r tempo yn rhy slo';
Ni wnaiff andant, yn wir, fy mhlant,
Am accel ddim o'r tro;
Yr oedd eich cresc i mi'n rhy lesc
A'ch fforti yn rhy ffrit—
Nid ffwrdd a hi yw dwbwl p—
You didn't sing a bit!
Can yr Awen:
Beth yw Awen? nid llinellau,
Nid gwag eiriau'n rhigwm rhes;
Nid sain odlau, na rhyw dincian
Y brydyddol symbal bres;
Nid y peth geir yn cael sylw
Gan ffugenwog feirdd y byd;
Awen yw yr anian fywiog
Dery'n dyner ar y bryd.
Y mae awen lle mae bywyd,
Lle mae serch a pheth o'r fath;
Gwel hi'n chwareu ar yr aelwyd-
O! mor ddedwydd, gyda'r gath!
Gwel hi yn yr oen yn llamu;
Gwel hi yn y wenfol chwim;
Heb yr awen ddifyr, fywiog,
Ni fai anian nemawr ddim.
Gwel hi yn y wawr yn tori;
Gwel hi'n machlud gyda'r dydd;
Gwel hi'n ngwen y llon a'r difyr;
Yn y deigryn ar y rudd;
Gwel hi gyda'r llanc a'i gariad;
Yn y bach ar fron ei fam;
Yn cysuro, yn dyddanu,
Yn unioni pob rhyw gam.
Gwel hi'n gwneyd yn dyner beunydd;
Gwel hi'n ymgeleddu'r tlawd;
Gwel hi'n cerdded gyda'r crwydryn
I'w hyfforddi ar ei rawd;
Gwel hi'n nghalon drist yr eneth
Wedi ei siomi gan ei char;
Gwel hi'n dofi'r gwr diddiwyg,
Ac yn harddu moes y gwar.
Gwel hi'n llygaid hen gyfeillion
Wedi blwyddi maith yn cwrdd;
Gwel hi'n nhristwch y ffarwelio
Pan mae ffryndiau'n myn'd i ffwrdd;
Gwel hi yn nghyfarchiad dirgel
Dystaw, tyner, dim ond dau;
Gwel hi'n chwyfiad pell y cadach,
Pan fo'r llygaid yn pylhau.
Gwel hi yn y rhai hiraethant—
Serch-galonau ar wahan;
Gwel hi gyda'i thyner fegin
Yno'n chwythu'r dirgel dan:
Gwel hi'n mhob peth sydd yn hawddgar,
Ac yn anwyl ac yn hardd—
Gwel hi ar ymweliad mynych
A mynwesol lety'r Bardd.
—Allan o'r "Delyn Gam."
Dywedir mai amcan yr Eisteddfod erioed yw dyrchafu y Cymry. Os felly, dylent fod yn ddyrchafedig iawn erbyn heddyw.
Y mae uchelgais yn mron a dymchwelyd cymdeithas. Y mae y stol am fod yn gadair, y gadair am fod yn fwrdd, y bwrdd am droi yn gist a llogellau, a'r gist am fod yn gloc wyth diwrnod! Y diwedd fydd i'r procer ymffyrnigo ryw ddydd a chwilfriwio yr oll o'r dodrefn!
Dwy linell olaf awdl yr Hen Lowr:
Heb lwyddiant na mwyniant, Amen
Dringais i gadair angen!
Y ffaith yw, mae penderfyniadau dechreu y flwyddyn yn toddi gyda dadleithiad y tywydd.
Clywsom am Ben Dafys, y canwr, Ben Dafys, y bardd, Ben Dafys, y twymwr, Ben Dafys, y boss, ond pwy gythrwm yw Ben Dafys, yr halfback, o Lanelli?
Y peth dorodd galon yr Hen Amen oedd ei gosod ar ol o hyd yn mhob llyfr emynau.
Dyma gan arferai Mari ganu wrth ddarnio sanau Dafydd yn awr ac eto ar y mesur "Lili Lon," ond hwmian y byrdwn a wnai:
Hen goed tan yw'r goreu i fflamio;
Hen bechodau, hawdda'u damnio;
Llonydd ddwr sy hawdda i rewi;
Dyn a dawn yw'r hawdda i dewi.
Hen gadeiriau yw'r esmwytha;
A hen fenyg yw'r ystwytha;
Hen gariadon hawdda'u denu;
A rhagrithwyr hawdda i wenu.
Hen esgidiau wasgant leia;
Beius genfydd gyntaf feia;
Hawddaf yw hen ffordd i'w theithio;
Hawdd i ddiog beidio gweithio.
Penweig yw siaradant fwya';
Eiddil yw a oesa hwya';
Goreu gyfaill yw'r un pura;
Y gonesta yw'r cywira.
Gwancus gi yr hawdda i dagu;
Hen gryd yw y goreu i fagu;
Digri pob beth i ysgentyn;
Goreu, can ei fam i blentyn.
Hoffaf gof yw cof pruddnwyfus;
Hoffaf ferch, y ferch serchglwyfus;
Goreu ergyd, ergyd dery;
Goreu serch, y serch a bery.
Cryfaf o bob serch yw henserch;
A'r siriolaf wen yw gwen serch;
Goreu gariad ddeil bob tywydd;
Goreu ras, gras yn dragywydd.
Goreu bechod, gwana'i raddau;
Goreu ddial ydyw maddeu;
Gobaith goreu, gobaith Gwynfa;
Iesu 'nghrog, yr oreu dynfa!
'Rwy'n synu," ebe pregethwr yn ddiweddar, "gwel'd rhai yma yn cysgu mor dda eto yr hwyr ar ol cael cwsg mor esmwyth yn y bore!"
Y mae gwr ieuanc yn Georgia wedi ymadael a'i wraig am mai merch oedd ei fab cyntafanedig.
Dywed Ffrancwr yr a pobl y byd mor lluosog yn yr oesau a ddel, fel y byddant yn troedio ar
eu traed eu hunain!
Ar y beisig:
O mam bach! tyred yn ddioed
I weled peth go ryfe'—
Pechadur odia fu erioed.
Yn cerdded ar 'i eiste!
Y ddau beth uwchaf eu bri a lleiaf eu defnyddioldeb yn mhlith y Cymry ydi yr englyn a'r delyn.
Dywedai hen frawd yn ddiweddar y dylai y llywodraeth drwyddedu burglariaid a lladron fel y gallai wybod pwy mewn gwirionedd sydd yn y busnes.
I bob Cymro'r ffydd Gatholig
Yw rhyw grefydd gul anniddig;
Capel bach, ychydig ynddo,
A'r ychydig hwnw'n ffraeo.
"Fel ymresymiad o'n plaid ni, y merched," ebe Mari Jones, "dywed yr Arglwydd iddo edifarhau creu dyn, droiau; ond ni sonia hyny am y ddynes."
Dysgawdwyr yn y Roeg a ddywedant fod y gair "bedydd" yn y gwreiddiol yn golygu soddi, boddi, meddwi a syfrdanu.
Gellid tybio wrth ddarllen llyfrau mai peth newydd yw "Dadblygiad." Y ffaith yw fod y gweithiwr yn plygu a dadblygu oddiar amser Adda.

CYMRY AM BYTH
O fendigedig Walia,
Paradwys wyt, yn wir!
Ond esgusoda'r Cymry
Sy'n cadw'n mhell o'th dir!
Tragwyddol fyddo seiniau
Dy iaith ar dwyn a phant;
Ond maddeu i ni'n siarad
Yn Seisneg efo'n plant!
Rwy'n caru Cymry fuont,
Ac eto'r Cymry fydd;
Ond maddeu am nad ydwyf
Yn parchu'r Cymry sydd.
Gofala am dy iechyd,
Ac am dy hapus wedd,
Can's bydd yn rhaid it' orwedd
Heb gareg ar dy fedd!
Pe y rhoisid holl amser gwau awdlau, cywyddau ac englynion i wau 'sanau yn Nghymru, ni fyddai dyn, dynes na phlentyn yno yn goesnoeth.
"Eureka!" ebe Dafydd un noson. "Wel, be sy'n bod?" ebe Mari. "Rwyf wedi taro ar wendid y Cymry o'r diwedd, ac wedi ei roi ar rigwm, Gwranda!"
Yr ydym bellach wedi clywed
Gormod o'r peth;
Mae chwareu, chwareu yr un don yn
Myn'd yn drymaidd dreth;
Dewch allan feirdd, ohebwyr, a rhowch
Heibio'r arfer ffol;
A rhedwch tua Chymru fydd gan
Ado fu ar ol!
O peidiwch canu can o glod i
Hwn a hwn o hyd;
Ynfydu a glafoeri uwch ben
Man betheuach byd;
Am hwn yn llwyddc gyda'i stor a'r
Llall yn foss banc glo—
Am hwn a hwn a hon a hon aeth
I'r Hen Wlad am dro!
O! peidiwch myn'd o hyd i ffits a
Cholli synwyr bron
Wrth roddi hanes dyn yn cael ei
Wneyd yn ddeiacon;
Neu benbwl bach yn enill clod a
Phreis o 50 cents
Am englyn wedi wneyd i'r lan o
Ddiffyg common sense!
O! peidiwch son am hwn a hwn yn
Myn'd o dre i dre;
Ac am ryw 'gethwr o'r Hen Wlad yn
Gwefyreiddio'r lle!
Gadewch eich sosials ffol i fyn'd a'ch
Ffirli ffans di ras—
Diwylliwch eich eneidiau a'ch me—
Ddyliau'n fwy i ma's!
Barn Mari Jones yw fod llawer yn cael llygaid tostion drwy chwilio beiau eu gwell.
"Mae'r amser goreu wedi myn'd,"
Hyn yw fy nghwyn o hyd;
Llai llai o dda, bob blwyddyn gron
A welaf yn y byd;
"Mae'r amser goreu wedi myn'd"—
Ac onid yw yn loes,
I'r glust fod ambell ffwl yn dweyd
"There's good times coming, boys!"
"Mae'r amser goreu wedi myn'd,"
'Rwy'n awr yn saith deg naw;
Tu hwnt i holl ofidiau'r byd
Y byddaf maes o law;
Yn ngwlad y bedd—mae yno lu
O'm hen gymdeithion, oes,
Fu'n canu yn yr amser gynt
"There's good times coming, boys!"
Bu amser pan oedd serch yn ddall,
Ac yn ei gariad nid oedd ball;
Mae erbyn heddyw'n gwel'd yn dda—
Myn arian parod am a wna!
Os y desgrifia bardd y ffurfafen yn las a'r ddaear yn werdd, cyfrifir ef yn ail oreu; ond os y darlunia y ffurfafen yn felen a'r ddaear yn las-goch, coronir a chadeirir ef gyda mawl.
Anturioldeb nid naturioldeb sydd yn gwneyd bardd y dyddiau hyn.
Dywedai Mari Jones mai y ffordd oreu i gadw "Llun Mabon" fyddai ei fframio.
O dywed, Gymru, dywed,
Tydi a'th fost o hyd,
Am dy anfarwol feibion
A siglaist yn dy gryd;
Pa fodd y gwnei'r hen wreigan,
Anghofio'th blant mor doc
Ar ol i angeu roddi
I bob un farwol gnoc?
Mi welaf un fan yma
Heb gareg ar ei fedd;
Ac arall heb astyllen
I goffa'i seraff wedd!
Emynwr gwych fan acw
A danadl ar ei ben,
A'i ysbryd mawr dan goron
Yn canu yn y nen!
Ac arall welai'n gorwedd,
Ond nid oes gof pwy yw—
Mor isel wedi marw—
Mor uchel pan yn fyw!
Ond beth dal danod iti
O hyd, o hyd, fel hyn?
Pe mam fuasit iddynt
Ni fuasai'th serch mor brin!
Ebe Mari Jones wrth Dafydd un noson: "Pe bae y pregethwrs yn aros yn nes i gartre, byddai llawer llai o alw arnyn nhw."
A oes sail i'r goel mae treio rhodio y sleiding scal oedd y Prince of Wales (Edward VII. yn awr) pan yr ysigodd ei benlin?
Wfft i rewdod! O! na ddeuai
Haul a blodau hyd y caeau!
O! mor anhawdd ydyw bero
'R hin mor gythgam islaw zero!
O! na fyddai'n dechreu heulio,
Coed y wig yn dechreu deilio!
Beth ond anwyd draidd i'r mer o
Hin mor gythgam islaw zero!
Syna Dafydd Jones na fyddai mwy o son am "Grand Old Man" y Beibl, sef Methuselah.
Cyngor i fardd dibrofiad: Myn rhyw fardd enwog sydd wedi enill lawer gwaith i gopio dy gyfansoddiad a'i anfon i gystadleuaeth.
Mae modfedd mewn trwyn
Yn estyniad go fawr,
Ymddengys yn wnco o hir!
Mae rhywbeth mewn trwyn
Fel y gwelwch y sy'n
Troseddu'n lled chwap ar y gwir;
Mor gwta bydd trwyn
Ddim ond modfedd yn llai
O'r braidd y mae'n werth idd ei ddwyn!
'Dyw milldir yn fawr
Iawn mewn "bicycle race,"
Ond mae modfedd yn ormod mewn trwyn!
"Nid peth neis," ebe Mari Jones, "yw gweled dynion ar ol gadael eu drwg arferion, yn myned a surpreis partis iddynt yn awr ac eilwaith."
Pwnc y Sabboth:
Eisteddai y ffermwr a'i briod,
Gan ymgom un boreu dydd Sul,
'Roedd meistres yn Armin lled lydan
A meistar yn Galfin go gul;
'Roedd ef a'i holl goel ar yr arfaeth
Sy'n troi er daioni bob pryd;
'Roedd hithau yn gwylio'r amserau
Gan wneuthur y goreu o'r byd.
"Rwy'n credu mai gwell yw ymysgwyd,"
Hi ddwedai mewn geiriau lled flin;
"Ychydig o ddal sydd ar dywydd—
Anwadal yw troion yr hin;
Mae heddyw yn deg, fel y'i gweli,
A heddyw yw'r adeg am waith;
Mae'r gwair ar y ddol yn ein galw—
Feallai bydd 'fory yn llaith!"
Edrychai'r hen frawd yn geryddol
Ar fydol athrawiaeth ei wraig;
Canfyddai yn nghynyg ei briod
Hen oesol gynllwynion y ddraig;
A chofiai am Efa'n mharadwys,
Y drwg wnaeth hi yno mewn awr—
Hen felldith melldithion y ddaear
Ac achos achosion y llawr.
"Mae'r Gwr sy'n rheoli y flwyddyn,"
'Bai'r ffarmwr yn ddoeth wrth ei fun,
"Mae'r Gwr sydd yn sychu y Sabboth
Mor abal i sychu y Llun;
Ni ddylid defnyddio'i ddaioni
I dori ar ddeddfau Ei Air;
Mwy gwerthfawr yw cyfraith yr Arglwydd.
Nag erwi o wenith neu wair."
Yn fore dydd Llun ef a ddeffrodd,
A chlywodd ar ffenestr ei gell
Y gwlaw megys cenllysg yn curo—
A'r llifoedd yn rhuo o bell.
Fe drodd at ei wraig gan ei hysgwyd
O'i chwsg fu hyd hyny mor llawn,
Gan waeddi, "Hoi, Catti! Hoi, Catti!
'Rwy'n credu mai ti oedd yn iawn."
—Allan o'r "Delyn Gam."
Ebe Dafydd Jones, y dydd o'r blaen, "Nid oes son am yr Arglwydd yn ysgrifenu ar y pared byth wedi i'r gwragedd ddechreu papyro!"

Pan y rhega Dr. Pan Jones dywed fel hyn:
"Wel, byth na chyffrwy i o'r Van yma!"
Pan oedd fy ngwr a minau'n dau
Yn caru'n anwyl iawn,
Myfi'n rhagorach o'wn na phawb,
Mewn harddwch ac mewn dawn;
Fe'm galwai'n bob rhyw enw mwyn
O dan yr wybren las;
Fel hael frenines oeddwn i.
Ac yntau fel fy ngwas!
Yn lili ac yn leilac,
Yn rhosyn coch ei wawr;
Yn seren ddysglaer yn ei nos,
Yn llygad hardd ei ddydd;
Ond dylech glywed beth mae'r bradwr
Yn fy ngalw'n awr!
Fe godai wyn a gwrid cywilydd
Ar—eich—grudd!
Mae dynion reit od iawn
I'w cael yn y byd,
Mor gymen, a drwg a direol;
Mor neis ie'ch cyngorant
I iwsio iaith deg
Tra hwy yn rhyw gythrwm ddigabol;
Hwy'ch rhegant yn gas, hwy'ch
Bygylant ar goedd.
Am ddweyd fod y gwir yn wirionedd;
Ac yna ymchwyddant
Yn uchel eu bri,
Gan farchog ar grwmach eu camwedd!
Anfonodd Dafydd a ganlyn i Eisteddfod, ond dyfarniad y beirniad oedd ei fod yn rhy bersonol; ac y mae hefyd:
Prioda'r gwr y goden, nid y ferch,
A rhaid yw rhifo cyn dweyd faint y serch,
'Nol tranc un gwr, y wraig, O serch diball!
O ddawn ddiflino! eto'n caru'r llall!
"Hyd angeu'n ffyddlon," a dim awr yn hwy,
Oes min cytundeb hytrach llai na mwy.
Oes ffug a ffurf yn moli'r tafod ffraeth,
Y mel ymadrodd a'r addawus iaith,
Oes trwsio'r wyneb ac addurno'r wedd;
Oes cuddio llygredd, oes blodeuo'r bedd;
Oes gwneyd y drwg yn hardd drwy wisgiad gwych;
Oes syllu ac ystumio yn y drych!
Twng pawb i'w lles; a d'wedir gwir os bydd,
Dyweyd y gwir na'i gelu'n fwy o fudd.
Fe wena pawb; a gwena'r nwyddwr gau
Wrth dderbyn sylltiau dri am brin gwerth dau.
Y mwyaf ffodus yw y mwya'i wen,
Gwen fagla'r ieuanc, a gwen huda'r hen.
A'r ty a'r tyddyn rhwng y dreth a'r doll;
Sicrha y gyfraith nad a dim i goll;
Ber yw yr oes! Mae'r cawell ger y bedd;
Mae nod marwolaeth ar yr ieuanc wedd.
Rhyw anhwyl flina bawb, ond anghof yw
Pob un o angeu er ond llesgaidd fyw!
—O'r "Delyn Gam."
Chwi'n son am faich y gwynddyn,
Beth am y ferch neu'r fun,
O fore Llun hyd y Sabboth
Wrthi yn fficsio ei hun!
Heddyw wrth y bargen counter;
Heno mewn cwrdd boddhad;
Beunydd am newydd bethau'n
Boddro ei mam a'i thad!
Eisio cael godreu newydd;
Eisio cael pluen ddu;
'Sgidia o batent ledder,
Sash gyda gwasgen gu;
Eisio cael beisig newydd,
Ie, a walking het;
Ac i roesawu ei "chwmni"
Eisio cael parlyr set!
Un o bethau goreu Dafydd Jones yw y gan "Profiad y Pab;" a chredwn na allai yr Hen Lanc o Rufain lai na mwynhau ergydion y llinellau
Pe bae yn ddichon i ni gael golwg ar y Pab, fel y mae, nid fel yr honir ei fod, caem ef yn gywir fel dyn arall, yn mhell o fod yn anffaeledig. Y mae honi anffaeledigrwydd yn brawf diffael o ffaeledigrwydd:
Y Pab yn siarad (gosteg!):
Rhowch i mi balas i fyw,
Ebe'i Sancteiddrwydd y Pab;
Gweision i gyd o'r un rhyw
Weiniont ar gysur Hen Fab.
Craswch i'm fara gan roi
'Menyn didwyll arno'n syth;
Cyrchwch im' wyau yn "gloi"
Bob dydd yn newydd o'r nyth.
Pobwch im' damaid o gig—
Taten yn newydd o'r pridd;
Neu ryw aderyn o'r wig,
Pysgyn o'r afon bob dydd;
Rhowch i mi wydraid o win,
Ha! dim o'ch loger i Bab!
Ice cream, O! rhoddwch i'r fun—
Gwin ydyw llaeth yr Hen Fab.
Berwch yr wyau yn llaith,
Neu cyn galeted a'r graig;
Cas genyf fi haner gwaith,
Fel mae yn gas gen i wraig!
Peidiwch ag ameu fy nghais,
Canys o'r gadair 'rwy'n dweyd;
Gwired ag fod genyf bais
Gwn beth sydd oreu i'w wneyd!
Anffaeledigrwydd yw'm camp;
Fi yw Sant Petar, y Graig;
Fi 'mhob tywyllwch yw'r lamp—
Genyf mae pobpeth ond gwraig!
Gwas yr holl weision wyf fi,
Ar yr holl benau yn ben;
Fi ydyw gaffer pob llu,
Daear a phurdan a nen!
Teyrnged o goffa rhwng deigryn ag amrant i'r diweddar enwog gerdd-awenydd, Dr. Joseph Parry:
Draw er's talm yn Nghymru lan,
Cododd, do, o'r felin dan
Awen ddigyffelyb swyn;
Pencerdd cerddwyr goreu'r llwyn.
Eos a mwyalchen oedd,
'Hedydd gyda'i gan ar goedd!
Cododd hyd yn ngwawl y ne—
Nid oedd ganai fel efe!
Hwn ddeffrodd ei wlad a'i gan,
A'i cynesodd hi a'i dan;
Hwn a gwres ei desog gerdd
Drodd wlad can ei oes yn werdd;
Taniodd gerddi yn mhob gwig:
Rhoddodd ganiad yn mhob pig:
Cododd hyd yn ngwawl y ne—
Nid oedd ganai fel efe!
Ond cenfigen angeu du
Glwyfodd fron y cerddor cu!
Dyma ddiffodd ar ei dan—
Dyma gauad ar ei gan!
Na, gadawodd ar ei ol
Gerddi'n fyw ar fryn ą dol—
Mae y cerddor gwych yn fud
Ond ei gan yn llon'd y byd!
"Ond," ebe Mari, "chododd Bardd yr Aelwyd (dyna enw swyddogol Dafydd fel bardd) erioed yn uwch yn ol 'y marn i nag yn ei ddwy gan ar Babyddia'th a Defoda'th, sydd yn ceisio cael pena pobol i sachau anwyboda'th. Y syniad o ddyn yn cymeryd ei arwain gan gre'duried gwael fel fe'i hun, a rhoi ei synwyr i gadw ar y shilff! Nid i'r aelwyd hon y daw na phabyddia'th na babia'th grefyddol." Dylai pob teulu Cymreig yn Nghymru addysgu y gan hon fel rhodd mam i'w plant:
Ebe'r Bugail mawr wrth Pedr,
Portha f'wyn;
Ac hyd eitha'th ddawn a'th fedr,
Portha f'wyn;
Dyro'r porfa gora'i gynydd,
Ac o ddwr pur nant y mynydd
I fy wyn.
Ebe'r Pab a'i offeiriadaeth,
Dyma'r bwyd!
Pechod ydyw pob dirnadaeth
Dyma'r bwyd!
Trech na gras yw'r fras offeren!
Trech yw'r ganwyll gwyr na'r weren!
Dyma'r bwyd!
Er cyraeddyd nefol drumiau
Dyma'r ffordd!
Beth yw crefydd ond ystumiau?
Dyma'r ffordd!
Os am faddeu'n llwyr eich beiau,
Ffyddagorwch eich geneuau-
Dyna'r ffordd!
Ni yn dweyd a chwithau'n credu,
Dyna'r ffordd!
Coel fel moddion gras gwaredu
Yw y ffordd!
Rhowch i'r prist bob peth mae'n mofyn
Ac atebwch pan mae'n gofyn,
Dyna'r ffordd!
Ar bob ffenest rhowch ddarluniau,
Dyna'r ffordd!
O flaen delwau ar eich gliniau,
Dyna'r ffordd!
Llenwi'r eglwys a defodaeth,
A phob pen ag anwybodaeth,
Dyna'r ffordd!
Yn awr pan y mae Defodaeth yn gwneyd y fath ymdrech i lefeinio a surdoesi Prydain a'i rhagrith, gorphwysa y ddyledswydd ar grefyddwyr Cymru i ymgydnabyddu a hanes Pabyddiaeth a thaenu y wybodaeth ar draws y wlad fel na bo neb yn ddiesgus, os y syrth i fagl gweision y Babaeth. Mae y Babaeth fynachaidd eisoes wedi cael ei throed i lawr yn Pembre, yn y Deheudir, ac ar fyr bydd canoedd o fynachod duon yn gwneyd eu nythod yno, fel jacdoaid i gawcian paganiaeth i bobl anwybodus.
Mae gau grefyddwyr eto'n troi,
Fel Israel, i addoli lloi!
O! weiniaid o ychydig ffydd,
Yn goleu canwyll ganol dydd!
Ychydig wyddant am y Gair.
Neu ni addolent wyneb Mair!
Cyffesant fai o fewn rhyw gell
Gan fod y Crewr yn rhy bell!
A llosgant "hoglau" lon'd y lle,
Fel hyfryd nwy i ffroen y ne':
Ymdrechant lwyr foddloni Duw
Ag ystum-ffurfiau rhyfedd ryw!
Gwnant Dduw a wnaeth bob ryfedd oes
O deisen gron o ddwfr a thoes!
Gweddiant Dduw a chaniad cor—
A chloant Dduw pob lle mewn dror!
Gweddiant hefyd—arfer ffol!
Am help gan Pedar a chan Pol;
A golchant fuchedd wael, yn siwr,
A gwlithog ras y sanctaidd ddwr!
.
Mae Duw mwy wedi gwerthu ma's
I'r offeiriadaeth faelfa gras;
Rhaid gwneyd pob busnes mwy a'r Llys
Drwy gyfryngwriaeth Gwr y Crys.
Dadblygiad Dillad:
Mae llawer o ddwndwr
Yn awr am wareiddiad,
Am oleu gwyddoniaeth
A dawn dadblygiad;
Mae pobpeth yn tramwy
Yn mlaen yn ddysgedig;
Mae pobpeth yn llwyddo
Yn felldigedig!
Celfyddyd mewn bri,
Ond dibarch yw anian—
Y dillad yw'r dyn
A'r dyn yw'r truan!
Mae'n syndod gen i
Fod enaid mor fedrus
Yn rhoi bri mor ddysglaer.
Ar got, gwasgod, trowsus!
Yn coelio fod pethau
O doriad y teiliwr
Yn llawer mwy gwerthfawr
Na gwaith llaw'r Creawdwr!
Ond dyna mae'n debyg
Yw'r rheol yn mhobman—
Y dillad yw'r dyn
A'r dyn yw'r truan!
Mae perygl ofnadwy
I ddeddf fawr Dadblygiad
I fyned ar fyrder
I ddadblygu dillad!
A myn'd yn glere stor neu
Yn rhyw benguwches—
I wneyd dandi o'r dyn a
Dandies o'r ddynes!
Ond dyna, mae'n debyg
Yw'r drefn fawr lydan:-
Y dillad yw'r dyn
A'r dyn yw'r truan!

[Yn adeg claddedigaeth Gwilym Gwent, cododd cryn ddadl yn nghylch ei safle yn nhrefn cadwedigaeth. Haerai rhai o gyfeillion Gwilym fod ei dalent fel cerddor yn newid cyweirnod trefn y cadw, gan wneyd achos y cerddor yn eithriad i reol ffydd. Yr oedd ei dalent yn ei gyfiawnhau, heb weithredoedd ffydd. Yn y cyfwng cyffrous hwn y cyfansoddwyd y gan hon i adsefydlu cydbwysedd yr elfenau; a pharodd lawer iawn o ddifyrwch.]
Clyw, bechadur, clyw efengyl
Bena'i gras i drugarhau;
Dyma newydd sail i faddeu,
Newydd ffordd i gyfiawnhau;
Gelli weithian yn ddidrafferth
Gael y goron heb y groes;
Newydd amod iechydwriaeth
Mwy yw marw'n un o'r boys.
Nid yw'r drefn am golli enaid
All wneyd englŷn dillyn, tlws:
Fe agorir pan mae solo'n
Siwr yn curo wrth y drws:
Trech yw cownterpoint nag angeu,
Trech yw sol, la, mi na moes;
Gwir gyweirnod iechydwriaeth,
Byw a marw'n un o'r boys.
Nid oes deddf yn erbyn talent,
Y mae biliau'r cyfrif llawn,
A holl lyfrau'r cwymp yn ofer
Pan yn tystio'n erbyn dawn;
Gall athrylith rodio'n eon
Hyd y nef heb gofio'r groes;
Heddyw'r ffordd i'r etifeddiaeth
Ydyw marw'n un o'r boys.
Cyfeiliornad ydyw coelio
Fod y ffordd i'r nef mor gul;
A disylwedd yw athrawiaeth
Gaeth, ddisail yr Ysgol Sul;
Nid oes dim mewn byw'n rhinweddo:,
Na'r un drwg mewn byw'n ddi-foes;
Y tragwyddol fywyd ydyw
Byw a marw'n un o'r boys.
Nid dim gwell fod dyn yn caru
Yr efengyl, swynol swn;
Ac nid gwaeth fod dyn yn hoffi
Aml lymeitian mewn salwn;
Ofer teithio'r maith anialwch
Drwy flinderau'r crasdir croes.
Pan y gellir myn'd mor esmwyth
Yn y wagen gyda'r boys.

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.