Rhwng Rhyfeloedd/D'alton yn clywed am dynged Carrier
| ← Goleu ar y môr | Rhwng Rhyfeloedd gan Edward Morgan Humphreys |
Troi yn ol → |
PENNOD IX.
D'ALTON YN CLYWED AM DYNGED CARRIER.
RHAID i ni droi yn ol bellach, a dychwelyd at y ddau yng nghoed y Plas. Yr oedd Capten Gruffydd a'r Ffrancwr, D'Alton, pan y'u gadawsom ddiweddaf, wedi cyrraedd i dywyllwch y coed, ond eto heb gyrraedd at y Plas ei hun. Yr oedd wedi mynd yn sgwrs rhyngddynt am Carrier, ac yr oedd Capten Gruffydd wedi cyfaddef nad oedd Carrier yno.
"Beth!" oedd geiriau D'Alton. "Ymha le y mae, ynteu?"
Yr oedd rhywbeth yn llais y Ffrancwr yn dra gwahanol i'r dôn gyfeillgar, hanner cellweirus, yn yr hon y siaradai cynt. Yr oedd rhyw dant newydd i'w glywed,—sŵn awdurdodol, fel dyn yn gofyn cwestiwn ag yr oedd ganddo hawl i ateb iddo.
Yr oedd Capten Gruffydd yn oedi ateb, a gofynnodd y Ffrancwr drachefn,—"Pa le y mae Carrier?"
"Nid myfi ydyw ceidwad Carrier," meddai y milwr. Ceisiai roddi ei holl hunan-hyder a'i wroldeb yn ei lais, ond er ei waethaf, yr oedd rhyw gryndod ynddo.
"Feallai, fy nghyfaill," meddai D'Alton, "mai nid chwi ydyw ceidwad Carrier, ond y chwi a ddelir yn gyfrifol amdano serch hynny."
"Dim o'r fath beth!" meddai'r Capten, yn brochi. "Ni ofynnais i iddo ddyfod yma. Nid oedd arnaf eisiau ei gwmni, ac nid oeddwn fawr balchach arno."
"Gall hynny fod, hefyd. Yn wir, Capten Gruffydd, nid wyf yn eich amheu. Ond yn awr, pa le y mae Carrier?'
Yr oedd rhywbeth caled, penderfynol, di-droi yn-ol, yng ngwaith y Ffrancwr yn gofyn ac yn ail—ofyn yr un cwestiwn o hyd. Nid am ddim y dysgodd D'Alton yn ysgol ei feistr, Napoleon.
"Dowch i'r tŷ," meddai Capten Gruffydd yn anesmwyth, "a dywedaf yr holl stori wrthych. Nid oeddwn yn meddwl peidio ei dweyd, ond yr oedd eich dull yn peri i mi deimlo dipyn. Fel mater o ffaith y mae'r stori yn un brudd a chynhyrfus ddigon."
"Felly," meddai D'Alton, "yr oeddym yn ofni fod rhywbeth yn bod."
"Pwy oedd yn ofni?"
"Y ni—yn Ffrainc. Y mae'n debyg eich bod yn deall."
"Ydwyf, mwy neu lai,—ond y mae ynoch duedd i siarad ar ddamhegion. Ond dyma ni wedi cyrraedd at y tŷ. Rhaid i chwi esgusodi'r croeso heno. Y mae'n hwyr iawn, ac y mae fy nhad wedi mynd i'w wely er's meityn. Y mae yn hen ŵr, ac yn bur hen ffasiwn ei ddull. Ond gallaf gael tamaid i chi, ac y mae yma ystafell a gwely yn barod i'm cyfeillion bob amser. Nid oes gan fy nhad gyfeillion—neb, o'r hyn lleiaf, fydd yn arfer galw i edrych amdano."
Siaradai Capten Gruffydd yn gyflym, fel pe'n ceisio dywedyd rhywbeth ar ei gyfer i droi'r stori. Yr oedd D'Alton yn hollol hunan-feddiannol drwy'r cwbl.
"'Rwyf yn sicr," meddai, wrth gerdded gyda'r Capten drwy'r drws mawr i hen neuadd dywyll y Plas, "fod eich tad yn falch o gwmpeini mab fel y chwi yn ei unigedd. Yr ydych yn gysur iddo yn ei hen ddyddiau."
Nid oedd Capten Gruffydd yn hoffi y dôn, ond nid oedd dim i'w wneuthur ond bodloni i'r geiriau yn ddistaw.
Goleuodd gannwyll, a gwelodd D'Alton eu bod yn sefyll yn neuadd fawr hen blasdy Cymreig gwledig. Yr oedd popeth ynddi yn henafol. Yr oedd y darluniau ar y mur, fel y distiau uwchben, yn ddu gan oedran. Yn ei ymyl yr oedd y lle tân—tân ar lawr yn ol yr hen ddull, a simddai fawr agored. Clywai sŵn y gwynt yn y corn.
Nid oedd y gannwyll a oleuodd Capten Gruffydd yn hanner goleuo y lle. Yr oedd cysgodion tywyll ym mhob man, ac nid oedd modd gweld ffordd allan o'r neuadd. Yn unig gwelid grisiau llydan yn cychwyn yn un lle ar gyfer y drws, ond buan iawn yr oedd y rhai hyn hefyd yn ymgolli yn y tywyllwch.
Ond yr oedd Capten Gruffydd gartref. Agorodd ddrws, ac aeth a'r Ffrancwr i mewn i ystafell arall, lai o gryn lawer.
Yno yr oedd bwrdd a llian arno, a gweddillion pryd o fwyd.
"Y mae'n ddrwg gennyf nad oes gennyf ddim gwell i'w gynnyg i chwi," meddai'r Capten.
"Ond y mae yma win go lew i olchi y bwyd oer yma i lawr. Eisteddwch wrth y bwrdd."
Eisteddodd y Francwr, a dechreuodd fwyta.
Gofalodd am eistedd yn y fath fodd fel ag yr oedd Capten Gruffydd yn sefyll yng ngoleuni y gannwyll. Gafaelodd D'Alton yn y gannwyll, megis pe'n ddifeddwl, a thynnodd hi ychydig yn nês ato. Yr oedd bellach dan ei lywodraeth ef, ac ni fedrai Capten Gruffydd ei chyffwrdd, heb estyn dros y bwrdd i wneuthur hynny.
Eisteddodd y Capten ar ei gyfer. Yr oedd golwg anesmwyth arno. Yr oedd ei wyneb coch, llyfn-dew, wedi gwelwi. Yr oedd pantiau duon dan ei lygaid. Ceisiai edrych yn ddifraw a naturiol, ond methiant truenus oedd yr ymgais.
Ar y llaw arall yr oedd y Ffrancwr yn berffaith dawel. Nid oedd ei wyneb gwelw a'i lygaid duon yn dangos beth oedd yn mynd ymlaen yn ei feddwl o gwbl. Ond weithiau taflai olwg graff a threiddgar i gyfeiriad y Capten. Ni ddywedodd air am beth amser, ond bwytaodd ac yfodd yn selog.
Ond cyn pen hir deffrowyd y Capten o'i fyfyrdod dwfn gan lais D'Alton. "Yn awr," meddai, "pa le y mae Carrier?"
Yr un cwestiwn o hyd.
"Y mae wedi ei wedi ei lofruddio," ebe Capten Gruffydd.
Yr oedd cwestiwn nesaf D'Alton yn un rhyfedd. "Gennych chwi?" meddai.
Neidiodd Capten Gruffydd ar ei draed. "Pwy sy'n meiddio deyd peth fel yna?" meddai, gan geisio bod yn ffyrnig. "Pwy sy'n meiddio fy ngalw i yn llofrudd?
"Neb, hyd yn hyn," ebe D'Alton. "Peidiwch a cholli eich tymer, fy nghyfaill. Eisteddwch i lawr ar unwaith, a dywedwch yr hanes."
Rhoddodd Capten Gruffydd ochenaid drom, ac eisteddodd i lawr. Yna, mewn llais isel, dechreuodd lunio stori am farwolaeth Carrier. Gosododd yr holl fai, wrth reswm, ar Huw Anwyl. Dywedodd fod Carrier wedi cyfarfod Huw pan oedd hwnnw yn dychwel o'r traeth; fod Huw wedi meddwl mai un o'r swyddogion oedd, ac, hyd y gwyddai neb, wedi ei ladd yn y fan.
"Chwilio am y llofrudd yr oeddwn heno, pan gyfarfuasom," meddai Capten Gruffydd, yn dechreu sirioli tipyn wrth weld D'Alton yn gwrando mor ddistaw, "ac yr ydym yn sicr o'i gael un o'r dyddiau nesaf yma."
"Felly," meddai'r Ffrancwr, ac nid oedd modd gwybod beth oedd ei syniad am y stori. "A dyna ddiwedd Carrier druan! Un o filwyr dewraf y fyddin fawr yn cwympo mewn hwylfa dywyll dan gyllell llofrudd! Llofrudd, onide, fy nghyfaill?"
Gwingodd a gwelwodd Capten Gruffydd.
"Ie, wrth gwrs," meddai.
"Ie," meddai'r Ffrancwr, "llofrudd a dyhiryn. Ond ym mha le yr oeddych chwi? Nid ydych wedi dweyd hynny."
Yr oeddwn wedi aros yn y pentref," meddai'r Capten. "I ddeyd y gwir, yr oedd yno eneth,—yr oedd arnaf eisiau ei gweld—yr ydych yn deall wrth gwrs?"
"Yn hollol," meddai D'Alton. "Ydwyf, yr wyf yn deall yn hollol." Yr oedd yn rhoddi y fath bwyslais ar ei eiriau nes peri i'r Capten Gruffydd edrych arno. Ond ni allai'r Capten edrych yn hir. Yr oedd gannwyll yn llosgi yn isel erbyn hyn, yr oedd y tywyllwch yn ddwfn yn yr ystafell oddigerth o amgylch y bwrdd, ac yr oedd distawrwydd y nos yn y tŷ yn llethol.
Yna cododd D'Alton. "Wel," meddai, "os ydyw Carrier wedi mynd, gallaf fi wneud ei waith. Ond yr wyf yn lluddedig. A wnewch chwi ddangos y ffordd i'r gwely i mi, gyfaill?"
Gafaelodd yn y ganhwyllbren ei hun, ac yna gadawodd i Gapten Gruffydd ei arwain i fyny'r grisiau llydan, tywyll, ac yna ar hyd oriel hir, heb yr un drws na ffenestr yn y muriau oddeutu. Yna aethant i lawr ris neu ddwy, a safodd y Capten wrth ddrws arall. Sylwodd D'Alton mai hwn oedd yr unig ddrws yn y golwg.
"Dyna'r ystafell," meddai Capten Gruffydd. "Hyderaf y cewch noswaith dawel."
"Yr wyf yn hollol barod ar gyfer unrhyw beth a all aflonyddu arnaf. Diolch i chwi am eich dymuniad yr un modd."
Agorodd y Capten y drws, ac aeth y Ffrancwr i mewn i'r llofft. Dywedodd y ddau nos da wrth ei gilydd, ac yna caeodd D'Alton y drws. Gwrandawodd yn astud am ysbaid nes clywed sŵn traed Capten Gruffydd yn darfod yn y pellter. Yna edrychodd am allwedd i'r drws.
Nid oedd yno yr un.
Edrychodd D'Alton o'i gwmpas, a gwelodd ei fod mewn ystafell pur fawr, hen lofft hen ffasiwn yn gweddu i'r plasdy gwladaidd yr oedd ynddo. Ni thaflai y gannwyll fawr o lewych, a gwelodd yntau fod yn rhaid iddo roddi tro o gwmpas y lle cyn y medrai ddeall ei amgylchoedd yn iawn. Ond yn gyntaf, treiodd y drws, a chafodd ei fod yn agor tuag i mewn.
"Goreu oll," meddai D'Alton wrtho'i hun.
Yna cymerodd y canhwyllbren, a rhoddodd dro o gylch y llofft. Yr oedd y gwely yn un mawr, gyda tho uwch ei ben, a llenni o'i amgylch, tebyg i'r hen welyau a welir mewn ambell i fan hyd heddyw. Trwm, garw, a henafol oedd yr holl ddodrefn hefyd, ond sylwodd D'Alton gyda boddhad fod un o'r cistiau derw trymion yn symudadwy ac heb fod ymhell oddiwrth y drws.
Pan welodd hynny dechreuodd ei symud yn araf ac yn ofalus i gyfeiriad y drws. Gofalai, hyd y medrai, rhag gwneuthur sŵn. Yr oedd yr hen gist yn dderw drwyddi, ac yn drom iawn, ond yr oedd y Ffrancwr yn ddyn cydnerth, a llwyddodd, wedi chwysu dipyn, i'w gosod yn erbyn y drws fel na ellid agor hwnnw.
"Dyna!" ebe D'Alton. "Digon o waith i neb ddyfod i mewn y ffordd yna beth bynnag. Ond feallai fod yma ryw gilfach arall yn yr hen lofft yma."
Edrychodd y muriau yn ofalus. Yr oedd yr oll yn baneli derw, gyda darlun henafol yma ac acw, ond nid oedd arwydd yn unman fod yr un ffordd i ddyfod i mewn. Yna edrychodd y ffenestr. Yr oedd honno yn y mur pellaf oddiwrth y gwely. Cafodd fod dau far haearn cryf yn ei chroesi, ac yr oedd mor dywyll, fel nad oedd modd gweld dim allan.
Yna, ac yn olaf, trôdd ei sylw at y lle tân. Nid yn aml y ceid lle tân tebyg iddo hyd yn oed yn y plasau Cymreig yr adeg honno. Yr oedd gwaith plaster addurnedig uwch ben y silff, ac o amgylch hwnnw ym mhob man yr oedd y paneli derw.
Yr oedd y simddai yn fawr ac agored, ond wrth edrych i fyny gwelai D'Alton far neu ddau rhyngddo ag awyr y nos.
Ymddangosai yn lled fodlon ar yr ymchwiliad.
"Hyd y gallaf weld," meddai wrtho ei hun, "nid all yr un creadur byw ddyfod i mewn ond drwy y drws. Yr oedd yr hen Gymry a adeiladodd yr ystafell yma yn bobl gall—nid oeddynt am beryglu eu bywydau drwy wneud llwybr y gelyn yn rhy hawdd. Ar yr un pryd, hoffwn gael sicrwydd nad oes yr un o'r paneli yna yn cuddio dim ond mur. Clywais am lwybrau ym muriau hen dai. Ond p'run bynnag, rhaid i mi gymryd fy siawns bellach. A rhaid i mi gysgu. Y mae'r hen wely yma yn debycach i arch na dim arall, ond y mae'n well na'r llong ofnadwy yna. Ffŵl oeddwn i i gychwyn ar y daith yma o gwbl,—ond rhaid mynd trwyddi bellach."
Gosododd y gannwyll ar y bwrdd yn ymyl y gwely, a thynnodd ei gôt a'i esgidiau. Yna gosododd ddau bistol ar y bwrdd, yng nghyrraedd ei law, a neidiodd i'r gwely fel yr oedd, heb dynnu rhagor o'i ddillad. Yr oedd mor flin, fel y cysgodd cyn gynted ag y disgynnodd ei ben ar y gobennydd.
Cysgodd felly am awr, neu feallai ddwy. Pan ddeffrôdd, deffrôdd yn sydyn, a'i deimlad cyntaf oedd fod yno rywun yn yr ystafell.
Eisteddodd yn y gwely ar unwaith, ac estynnodd am ei bistol, canys yr oedd yn hen filwr, wedi arfer deffro yn hollol effro ar foment o rybudd. Er ei fraw nid oedd y pistol ar y bwrdd!
"Pwy sydd yna?" gofynnai'n uchel, gan wneuthur ei lais mor awdurdodol ag y medrai. "Gwyliwch eich hun. Y mae gennyf bistol arall yn fy llaw, ac mi daniaf yn y munud."
Yr unig ateb oedd chwerthiniad isel, hir, ond yr oedd rhywbeth yn y chwerthin hwnnw yn fwy ofnadwy i D'Alton na bygythiad dyn. Canys nid oedd y chwerthin yn hollol ddynol. Yr oedd rhywbeth annaearol a gwyllt ynddo; rhyw dinc a barai i wallt D'Alton godi ac i'w groen oeri trosto.
"Diable!" meddai, hanner wrtho ei hun. "Beth ydyw hyn? Nid oes arnaf ofn yr un dyn byw,— ond beth ydyw hwn? Ond, o ran hynny, beth well fyddai ysbryd o ddwyn fy mhistolau i?"
Rhoddodd y syniad ryw gysur iddo. Cododd dros erchwyn y gwely, a chafodd ei draed ar lawr.
"Yn awr," meddai, "pwy bynnag sydd yna, dyn neu gythraul, gadewch i mi gael gafael arnoch, neu dywedwch eich neges."
Ond y chwerthin isel—ha, ha, ha!—oedd yr unig ateb eto.
Yr oedd hyn yn ormod i D'Alton, a rhoddodd ddau gam ymlaen, ac yna teimlodd ddwy fraich gref yn gafael amdano o'r tu ol, anadl boeth ar ei war, a'r chwerthiniad annaearol, yn gymysg â rhyw sŵn disynnwyr yn ei glust.
Yr oedd y Ffrancwr, fel y dywedwyd, yn ddyn cryf, wedi caledu drwy lawer ymdrech galed a brwydr boeth. Pan deimlodd y breichiau yn gafael amdano gwnaeth ei oreu i ledu ei freichiau ei hun, er mwyn torri yr afael haearnaidd, ond er ei holl nerth methodd a'i datod.
Yna dechreuodd brwydr chwyrn a ffyrnig yn y tywyllwch. Yr oedd D'Alton yn gwingo ac yn ymdrechu dyfod yn rhydd, a'r clwm haearnaidd amdano fel pe'n tynhau o hyd nes gwasgu yr anadl allan o'i gorff. Ceisiodd y Ffrancwr gicio'n ol, ond yn ofer, canys nid oedd y creadur a afaelodd ynddo fel pe'n teimlo ei draed. Yna ceisiodd lithro drwy ei freichiau, ond methiant oedd hynny drachefn, canys yr oedd yr afael cyn dynned amdano fel na fedrai yn ei fyw. Ni fedrai weiddi chwaith, canys yr oedd ei wynt yn fyr, a theimlai ei hun yn gwanhau yn brysur yn y wasgfa ofnadwy. Daeth niwl coch o flaen ei lygaid; teimlai ei nerth a'i ymwybyddiaeth yn pallu; y peth olaf a glywodd oedd rhyw hanner chwerthiniad, hanner ebwch gwallgof gan y creadur oedd y tu ol iddo, ac yna suddodd D'Alton i'r llawr, yn swp diymadferth. Ac yna, ac nid cynt, y llaciodd gafael ofnadwy y breichiau. **** Bu distawrwydd am ennyd, ac yna daeth goleuni o rywle. Yr oedd yr hyn a ofnodd D'Alton wedi digwydd, canys daeth Capten Gruffydd i mewn i'r ystafell drwy dwll yn y mur a wnaed drwy i un o'r paneli derw lithro yn ol. Yr oedd gan y Capten lanter yn ei law.
Daeth ymlaen hyd at ochr y gwely. Disgynnai y goleuni ar y Ffrancwr yn gorwedd yn swp diymwybod ar lawr, ac ar y dyn a'i gwnaeth felly. Penliniai hwnnw yn ymyl D'Alton, a'i ddwy law fel pe'n barod i orffen y gwaith a ddechreuodd, ond pan ddywedodd Capten Gruffydd,—" Dyna ddigon, Wil, saf draw," cododd, gan fwmian wrtho ei hun, a chiliodd at y gwely.
Yr oedd un olwg ar y truan yn ddigon i ddangos y fath un ydoedd. Un o'r creaduriaid lloerig hynny oedd yn weddol gyffredin yng Nghymru unwaith â'r bwystfil yn gryfach o lawer ynddynt na'r dyn oedd Wil. Ni siaradodd air croyw erioed, ac nid oedd yn gymwys i fod yn agos at ddynion. Eto, lled-ddeallai yr hyn a ddywedid wrtho, ac yr oedd yn ofni Capten Gruffydd fel yr ofna ci ei feistr. Nid oedd neb ond y Capten yn gwybod, neu wedi sylweddoli, beth bynnag, fod ffyrnigrwydd peryglus yn natur y truan, a bod yr agwedd honno yn datblygu ynddo yn brysur. Deallodd y Capten hynny, modd bynnag, a manteisiodd ar hynny ac ar ei feistrolaeth ef ei hun arno y noswaith hon.
Efe a'i gollyngodd i mewn drwy'r panel, gan orchymyn iddo gymryd dau bistol y Ffrancwr oddiar y bwrdd yng nghyntaf, ac yna ymosod arno. Nid oedd wedi meddwl y gwnai Wil y gwaith cystal, a chafodd beth braw ar y dechreu, gan iddo feddwl fod D'Alton wedi marw. Ond rhoddodd ei law ar ei galon, a chafodd ei fod eto'n fyw.
Yna dechreuodd chwilio ei dillad yn brysur, ond yn fanwl. Wedi methu cael dim yn y rheiny chwiliodd dan y gobennydd a than y gwely, ond yn ofer o hyd. Edrychodd yn ffyrnig ac yn siomedig ar ol methu ym mhob man, a cherddodd at y Ffrancwr diymwybod, fel pe am roddi cic iddo. Gwnaeth Wil sŵn yn ei wddf wrth weld hynny, gan ei fod yn meddwl fod ei feistr am orffen y gwaith a ddechreuasai efe. Daeth hynny â'r Capten i'w bwyll,
"Na," meddai, "y mae gwaed un ohonynt yn ddigon ar fy llaw. Rhaid nad yw y papurau gan hwn eto. Y maent yn rhy gyfrwys i mi. Ni chefais ddim ond yr arian gan Carrier; y maent yn dal y moddion i'm difetha yn eu dwylo o hyd. Ond y mae'n rhaid i mi gael y llythyrau—rhaid, rhaid! onide ni bydd bywyd yn werth ei fyw."
Yr oedd y dyn wedi cynhyrfu yn ofnadwy, a dychrynodd y gwallgofddyn yn yr olwg arno. Ond rhoddodd D'Alton dro anesmwyth ar y llawr—arwydd ei fod yn dadebru.
"Y mae'n dyfod ato ei hun," meddai'r Capten "Rhaid i mi siarad ag ef. Dos i'th genel, Wil."
Deallodd Wil y gorchymyn, ac aeth ymaith, dan fwmian yn anfodlon, drwy'r panel agored. Yna caeodd y Capten hwnnw, cododd D'Alton ar y gwely, ac yna ciliodd ei hun trwy'r twll yn y mur.