Neidio i'r cynnwys

Rhwng Rhyfeloedd/John Ambros a Chapten Gruffydd

Oddi ar Wicidestun
Yr hyn a welwyd trwy'r ffenestr Rhwng Rhyfeloedd

gan Edward Morgan Humphreys

PENNOD XII.
JOHN AMBROS A CHAPTEN GRUFFYDD.

CLYWODD y ddau ddyn yn yr ystafell y sŵn oddiallan, ac anghofiodd y ddau eu sefyllfa yn eu syndod a'u dychryn.

Rhuthrodd Capten Gruffydd at y ffenestr, ond yr oedd mor dywyll fel na allai weld dim. Edrychodd drwy'r gwydr, ond nid oedd yno ddim ond brigau yr hen dderwen fawr.

Yna cododd ei law at dop y ffenestr, a chyffyrddodd â rhyw gliced gudd yn y fan honno, ac agorodd y ffenestr. Yr oedd D'Alton, er ei graffed, wedi methu a chanfod y tric yma, ac iddo ef, gan hynny, edrychai y ffenestr a'i barrau haearn fel peth na fwriadwyd i'w hagor erioed. Gwenodd wrth weld Capten Gruffydd yn ei hagor mor rwydd.

Pwysodd y Capten allan drwy'r ffenestr agored, Am y funud, anghofiodd bopeth am y Ffrancwr, a deallodd D'Alton hynny. Gwelodd fod y Capten wedi gadael ei bistol ar y bwrdd, ac ni bu eiliad cyn i D'Alton feddiannu hwnnw. Teimlai yn awr y gallai fforddio aros hyd nes y troai Capten Gruffydd yn ol oddiwrth y ffenestr.

Ni bu hynny'n hir. Daeth y Capten yn ol i'r ystafell, gan ddywedyd,—"Nid oedd yna neb. Rhaid mai rhyw aderyn a darawodd yn erbyn y ffenestr."

"Aderyn trwm iawn, i wneud y fath sŵn ym mrigau'r goeden," meddai D'Alton, a rhoddodd ddau gam, nes gosod ei hun rhwng Capten Gruffydd a'r ffenestr agored. Gwelodd y Capten,—neu tybiodd ei fod yn gweld ei fwriad, a thrôdd i gymryd ei bistol oddiar y bwrdd. Gwelwodd ei wyneb pan welodd nad oedd y pistol yno.

Na," meddai D'Alton, gyda gwên; "buoch dipyn yn esgeulus, fy nghyfaill. Funud yn ol, gennych chwi yr oedd y llaw uchaf; yn awr, y mae gennyf i. Bu'n rhaid i mi wrando arnoch chwi. Eithaf peth, bellach, fydd i chwithau wrando tipyn arnaf finnau." Dangosodd ei bistol a chyfeiriodd ef at y milwr. Tynnodd Capten Gruffydd yn ol, ac aeth ei wyneb yn wynnach nag erioed, canys ni hoffai berygl.

"Na," meddai D'Alton, fel pe'n darllen ei feddwl, "nid wyf am eich saethu ar hyn o bryd, er mai dyna yw eich haeddiant. Rhaid i mi gael amser i ystyried. Eisteddwch i lawr ar y gadair yna."

Eisteddodd Capten Gruffydd. Nid oedd dim arall iddo ei wneuthur.

"Yn awr," meddai D'Alton, fel dyn yn siarad wrtho ei hun, "y mae'n anodd gwybod beth i'w wneud â'r dyn hwn. Y mae wedi lladd fy nghyfaill Carrier, ac felly y mae'n haeddu marw ar fy llaw i. Y mae wedi bradychu, neu wedi cynnyg bradychu, ei wlad, ac y mae'n haeddu marwolaeth ar law swyddogion ei wlad ei hun. Ar y llaw arall, y mae arnaf eisiau ei gyfrinach-helo! beth yw y mater yn awr?"

Yr oedd rhyw gyfnewidiad rhyfedd wedi dyfod tros wyneb Capten Gruffydd. Yr oedd yn amlwg nad oedd yn clywed dim a ddywedai D'Alton wrtho. Rhythai, nid ar y Ffrancwr, ond ar rywbeth y tu ol iddo, yng nghyfeiriad y ffenestr agored.

Yna clywodd D'Alton sŵn hefyd, a thrôdd yn sydyn. Dywedodd air mawr yn ei iaith ei hun pan welodd John Ambros yn dyfod i mewn i'r ystafell, a Huw gydag ef.

"O'r goreu," meddai John Ambros, yn dawel, yn y Ffrangeg; peidiwch a chynhyrfu dim, Monsieur D'Alton. Yr ydym ni ar ol y dyn arall yna. Gellwch chwi fynd, ac y mae'r scwner yn yr hafan yn aros amdanoch."

"Ond sut y daethoch chwi yma?" meddai'r Ffrancwr, mewn syndod.

"Y mae hynny'n stori rhy hir i'w hadrodd yn awr. Y mae yma waith i'w wneud. Gellwch aros hyd y diwedd, os mynnwch. Huw," gan droi at Huw Anwyl, a siarad yn Gymraeg, "dal dy bistol, a chadw'dy olwg ar y Capten."

Ond nid oedd fawr angen cadw golwg ar y Capten. Yr oedd ef fel pe wedi troi'n garreg. Eisteddai yn ddiymadferth. Rhythai o hyd ar John Ambros, fel dyn wedi gweld drychiolaeth. Yna trôdd Ambros ato, ac yr oedd goleu ffyrnig a dieithr yn ei lygaid.

"Yr oedd rhyw gyfnewidiad rhyfedd wedi dyfod tros wyneb Capten Gruffydd."

"Capten Gruffydd," meddai, "yr ydych yn fy adnabod i?"

Ceisiodd y Capten siarad, ond yr oedd y geiriau yn marw ar ei fin. O'r diwedd, ar ol ymdrech fawr, syrthiodd yn ol yn ei gadair, a dywedodd, mewn llais bloesg, crâs,—"Phylip!"

"Ie," meddai'r llall; "Phylip Morgan. Yr wyf finnau, fel chwithau, yn bur hyddysg yn y rhan yma o'r tŷ. Ond gan eich bod yn cofio cymaint, a ydych yn cofio Myfanwy Morgan hefyd?

"Eich merch?"

Yr oedd geiriau Capten Gruffydd ychydig yn gliriach yn awr, ac ymddangosai fel pe'n adfeddiannu ei hun.

"Fy merch!" Yr oedd ing a chwerwder yn llais Ambros (neu Phylip Morgan fel y galwai Capten Gruffydd ef). "Ie, fy ngeneth wen, ddiniwed, a hudaist, ac a ddifethaist, ac a leddaist. Ni wn sut na buaswn wedi dy ladd ers llawer dydd. Ond daw dial i'r hwn a'i herys. Y mae dy ddydd dithau wedi dyfod."

"Yr wyt yn drysu," meddai Capten Gruffydd yn frysiog. "Ni wnes i ddim iddi hi. Hi, nid y fi—.

"Taw, ddyn!" meddai Ambros yn ffyrnig. Llofrudd, twyllwr, bradwr,—beth sydd ddrwg nad wyt ti! "

Edrychodd Huw mewn ofn a syndod ar y gynddaredd oedd fel pe'n ysgwyd enaid John Ambros—John Ambros oedd bob amser mor dawel ac fel pe'n tosturio wrth bobl eraill pan ddangosent deimlad. Ond yn awr yr oedd ef wedi ei gynhyrfu hyd yr eithaf. Edrychai fel pe'r hoffai ladd y dyn a eisteddai o'i flaen. Yr oedd fflam ei ddigofaint yn deifio Capten Gruffydd, ac ni atebodd yr un gair iddo. Yr oedd D'Alton hefyd, er na ddeallai yr un gair, yn gweld fod rhywbeth rhyfedd rhwng Ambros a'r Capten.

"Yn awr," meddai Ambros, ei lais yn tawelu ychydig, "fe ddaeth dydd y cyfrif. Lleddaist Carrier, a cheisiaist osod y bai ar ysgwyddau yr hogyn yma. Ceisiaist wneud yr un peth â'i gariad ac a wnest â— rhywun arall. Y mae'n debyg y buaset wedi llwyddo i erlid Huw Anwyl o'r wlad am byth onibai i mi ddigwydd taro arno. Yn awr, y chdi sydd i fynd."

"Sut hynny?" Sibrydai Capten Gruffydd y geiriau.

Am fod rhaid yn dy anfon. Rhaid iti ysgrifennu papur yn cyfaddef mai tydi a laddodd Carrier, a bod Huw Anwyl yn hollol lân oddiwrth y cwbl. Nid wyf am iti ddifetha dau fywyd eto."

"Beth os na wnaf?"

"Yna," meddai John Ambros, yn araf, 'fe'th grogir am fater arall." Rhoddodd ei law yn ei boced a thynnodd ddau neu dri o bapurau allan. Edrychodd pawb arno yn bryderus.

Agorodd Ambros un o'r papurau, a dangosodd lythyr wedi ei ysgrifennu ar ddalen fawr o bapur. Daliodd hi o flaen Capten Gruffydd.

"A adwaeni di hwnna?" meddai. Nid oedd raid wrth ateb. Syrthiodd Capten Gruffydd yn ol yn ei gadair, ac edrychodd gyda llygaid dyn wyneb yn wyneb ag angau, neu â chywilydd sydd yn deifio dyn gorff ac enaid, weithiau ar Ambros, weithiau ar y ddalen yn ei law.

Edrychodd D'Alton hefyd, a neidiodd ar ei draed. "Y llythyrau a ysgrifennodd Capten Gruffydd atom ni!" meddai.

"Yn hollol," meddai Ambros. "Credaf y bydd iddo wneud yr hyn a geisiaf ganddo bellach."

Bu ennyd o ddistawrwydd ar ol i Ambros siarad. Yr oedd pethau wedi digwydd yn llawer rhy gyflym i'r dynion eraill fedru dywedyd dim, ond o'r diwedd torrodd Ambros ei hun ar y distawrwydd.

"Yn awr, Capten Gruffydd," meddai'r llongwr, a ydych yn barod i ysgrifennu eich cyfaddefiad?

"Beth ydych am ei wneud i mi?" meddai'r adyn yn floesg.

"Cawn weld," ebe Ambros. "Nid eich lle chwi ydyw holi hynny. Y mae yma inc a phapur. Yn awr, ysgrifennwch."

Yr oedd meistrolaeth ac ynni anorchfygol yn llais y llongwr yn awr, a phlygai y milwr o'i flaen fel brwynen o flaen y gwynt. Eisteddodd wrth y bwrdd a gafaelodd yn y pin. Yna edrychodd ar Ambros a gofynnodd, "Pa beth a ysgrifennaf?"

"Ysgrifennwch—'Myfi a laddodd M. Leon Carrier, Ffrancwr. Er mwyn cadw'm pen ceisiais osod y bai ar Huw Anwyl. Ysgrifennaf hyn er mwyn ei brofi ef yn ddieuog.' Yn awr, rhoddwch eich enw yn llawn wrth hwnna."

Ysgrifennodd Capten Gruffydd y geiriau yn araf ac â llaw grynedig. Petrusodd cyn rhoddi ei enw wrth yr hyn a ysgrifennodd, ond o'r diwedd torrodd ei enw, a chymerodd Ambros y papur oddiarno.

"Ie," meddai, wedi ei ddarllen. "Y mae hwn yn ddigon, heb ddim arall."

"Dewch a'r llythyr i mi yn awr," ebe Captain Gruffydd. "Cawsoch eich pris melltigedig amdano, ac nid oes arnoch ei eisiau mwy."

Chwarddodd John Ambros, chwerthiniad cas, coeglyd, a chreulon, oedd yn newydd i Huw. "Tybed," meddai, "eich bod yn meddwl mai dyna bris eich cyfaddefiad? Tybed eich bod yn meddwl fy mod yn ddigon ynfyd i ymddiried dim ynoch mwy? Na, cadwaf y ddau, ac os teimlwch ar eich calon rywbryd wadu'r papur yma, bydd cofio fod y llythyr hefyd yn fy llaw i yn gymorth i chwi ar ffordd geirwiredd."

Am funud edrychodd Capten Gruffydd fel dyn cynddeiriog ar Ambros. Yna, gyda rheg, neidiodd arno a cheisiodd ei dagu. Rhuthrodd Huw a D'Alton ymlaen i wahanu'r ddau, ond nid oedd angen eu cymorth Yr oedd Ambros yn llawer cryfach dyn na'r Capten, er ei fod yn fyrrach, a thaflodd ef ymaith ar ol ymdrechfa fer iawn. Taflodd ef oddiwrtho gyda'r fath rym nes disgyn o'r milwr yn swp yn ymyl y ffenestr. Torrodd allan i feichio crio fel plentyn wedi cael curfa, ac yr oedd yr olwg ar ddyn fel efe yn y safle honno yn un ofnadwy—ei hunan-barch a'i hunan-feddiant wedi mynd, a rhwng ei ocheneidiau dywedai rywbeth mewn geiriau drylliog am Ei enw a'i bopeth wedi eu cymryd oddiarno." Nid oedd fel pe'n cofio fod yno neb ond efe ei hun. Edrychodd y tri ar yr olygfa drist ac arswydus am funud, ac yna trôdd John Ambros ei gefn arno, gan ddywedyd, "Gadewch iddo, fe ddaw ato ei hun yn union."

"Beth am y llythyr yna? Ple cawsoch chwi ef, Ambros?" meddai D'Alton. "Y mae'r cwbl yn ddirgelwch mawr i mi."

"Ydyw, y mae'n debyg," ebe Ambros. "Ac nid oes gennyf amser i esbonio'r peth i chwi yn awr, Fe dyr y wawr yn union, ac y mae gennym waith i'w wneud eto."

"Ond beth a wnaf fi?" meddai D'Alton, dipyn yn ddigllon. "Nid yw fy rhyddid, na'm bywyd efallai, yn werth dim os gwelir fi yma ar ol hyn. A sut yr wyf i orffen fy neges efo'r creadur yna? mae eisoes wedi cael mwy na hanner yr arian."

"Nid yw eich neges yn ddim i mi," meddai Ambros yn.ddidaro ddigon, "ond os ydych am ddychwelyd i Ffrainc bydd y scwner at eich gwasanaeth yn y prynhawn. Yr wyf fi yn mynd yno. A chyda llaw, beth pe deuech a'r Capten gyda chwi? Nid wyf yn hoffi ei gwmni—helo! dyna fo wedi mynd!"

Yr oedd hynny yn wir. Tra bu'r tri yn siarad, gan droi eu cefnau ar y ffenestr, gwelodd y Capten ei gyfle. Gyda chyfrwystra gwallgofddyn—nid oedd yn awr fawr gwell na hynny—ymgododd yn araf nes medru cael ei draed dros y ffenestr, ac yna gollyngodd ei hun i lawr. Disgynnodd yn ysgafn, a'i sŵn yn disgyn a dynnodd sylw Ambros.

"Ar ei ol!" meddai'r llongwr yn gynhyrfus, "Does wybod beth a wna os gadawn iddo ddianc. Y mae'n rhaid i ni ei ddal."

Ambros ei hun oedd y cyntaf i fynd trwy'r ffenestr Ar ei ol aeth Huw, ac ar ei ol yntau D'Alton, canys gwyddai'r Ffrancwr nad oedd ddiogelwch iddo ef yn awr ond trwy gadw gyda John Ambros. Wedi eu cael eu hunain ymhlith y coed gwrandawsant am ennyd, ac yna clywsant sŵn oedd yn profi nad oedd y ffoadur eto ymhell iawn.

Yna dechreuodd ymlid hir ac ystyfnig yn y tywyllwch. Arweiniai Ambros, a gwelai Huw ei fod yn gwybod am bob llwybr ac am bob tro. Er hynny yr oedd yn rhaid iddynt sefyll weithiau, gan eu bod yn colli'r trywydd, ond yn awr ac yn y man deuai sŵn a ddangosai iddynt wedyn pa ffordd i redeg. O'r diwedd daethant allan o'r coed ac i'r morfa agored. Yr oedd y wawr yn agoshau a'r tywyllwch yn troi'n llwydni gwelw, ac yn y lled-oleu hwnnw gwelsant y ffoadur yn rhedeg ar draws y morfa, gryn bellter o'u blaenau.

"Beth sydd i'w wneud yn awr?" meddai D'Alton. A fyddwn ni rywfaint gwell ar ei ddal? O'm rhan i gadawer iddo fynd. Goreu po gyntaf gennyf fy nghael fy hun yn ddiogel o'r lle hwn."

"Awn ar ei ol," ebe Ambros. "Yr wyf am weld y diwedd."

"Y diwedd?" gofynnai Huw, gan ddal i redeg.

"Cawn weld," oedd ateb Ambros. "Y mae'n mynd tua'r geulan."

Ac felly yr oedd. Rhedai Capten Gruffydd i gyfeiriad glan y môr. Nid oedd yn meddwl am ddim ond am roddi cymaint pellter ag oedd modd rhyngddo a'r dyn y gwnaeth y fath gam ag ef. Yr oedd ei feddwl yn dryblith ar ol digwyddiadau ofnadwy y noson honno. Wedi bywyd o ddichell, oferedd, a brad, gwelai ei holl gynlluniau yn dymchwel am ei ben. Gwelai fod y pethau y tybiodd ef iddo eu celu cystal yn dyfod i'r amlwg. Ac yn ddiweddaf oll, yr oedd wedi arwyddo yr hyn a olygai fod y cwbl wedi ei adael, a bod yn rhaid iddo yntau ffoi o'r wlad Bellach dianc, dianc, neu farw yn waradwyddus. dianc oedd yn llanw ei feddwl, ac yr oedd yr un gair hwnnw yn troi yn ei ymennydd fel olwyn o dân.

Rhedai yn gyflym. Gwyddai fod y lleill yn ei ddilyn. Ni wyddai i ba le yr oedd yn mynd, a phrin y teimlai y tir dan ei draed. Daeth i ymyl y graig serth a ddisgynnai yn y fan honno i'r traeth. Hyd yn oed ar ddistyll ni byddai y môr yn ei gadael yn llwyr, ac yn awr yr oedd yn ben-llanw.

A'r tri ymlidiwr yn edrych arno, cyrhaeddodd ymyl y geulan; safodd am foment fel delw-ac yna diflannodd o'u golwg dros y dibyn i'r môr islaw.

Prysurodd y tri, mewn distawrwydd, at ymyl y geulan, a gwelsant fod y llanw yn uchel. Nid oedd olwg ar Capten Gruffydd, ac nid oedd raid holi dim am ei dynged. Cadwodd y môr ei gyfrinach.

"Diangodd o'n gafael," ebe Ambros, "ond nid yw hynny nac yma nac acw bellach. Y mae popeth yn iawn gyda thi, Huw. Dos adref. Mi ofalaf i am drefnu popeth."

"Beth amdanaf fi?" meddai'r Ffrancwr.

"O, dywedais fod y llong at eich gwasanaeth, fy nghyfaill. Y mae un o'ch cydnabod ar ei bwrdd eisoes, a chewch fynd yn ol i Ffrainc gyda'ch gilydd. Y mae eich gwaith yma ar ben."

"Diolch am hynny," meddai D'Alton, gan godi ei ysgwyddau a lledu ei ddwylo. Yr oedd ef wedi cael hen ddigon ar y wlad ac ar yr hyn a ddigwyddodd ynddi mewn cyn lleied amser.

"A minnau?" gofynnai Huw. Rhyfedd fel yr aeth Huw a'r Ffrancwr i ddibynnu ar farn a chyngor John Ambros.

"Dos adref," meddai'r llongwr. "Rhoddaf fy ngair na chlywi di ddim am hyn eto. Mi ddaw'r gwir hanes allan. Paid a bod yn rhy fentrus. Nos da!"

Gafaelodd Huw yn ei law a diolchodd yn ddrylliog iddo.

"Lol!" meddai Ambros. "Wnes i ddim anghyffredin. Heblaw hynny, yr oedd gennyf bwyth i'w dalu i'r dyn yna —,"a chyfeiriodd at y môr islaw. "Yn awr, D'Alton; nos da, Huw."

Aeth D'Alton ac Ambros ymaith, gan gerdded yn gyflym ar hyd ymyl y clogwyn. Edrychodd Huw ar eu hol am ysbaid ac yna trôdd yntau tua chartref unwaith eto, yn ddyn rhydd ac yn ddyn dibryder.

A bu John Ambros cystal a'i air. Ni aflonyddwyd ar Huw byth ond hynny—a chyn pen hir, mewn rhyw ddull neu gilydd, daeth si am y gwir hanes i'r pentref. Yr oedd hynny ychydig cyn diwrnod priodas Huw a Sian.



ARGRAFFWYD GAN
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR), CYF.,
CAERDYDD.

Nodiadau

[golygu]