Neidio i'r cynnwys

Rhwng Rhyfeloedd/Perygl Huw Anwyl

Oddi ar Wicidestun
Ar lan y môr Rhwng Rhyfeloedd

gan Edward Morgan Humphreys

Y Digwyddiad yn y ffordd gul

PENNOD II.
PERYGL HUW ANWYL.

YR oedd Alun Tomos yn ddyn triugain oed, a chedwid ei dŷ gan ei ferch, Sian, canys gŵr gweddw oedd efe. Y drws nesaf iddo yr oedd Gwen Anwyl yn byw yn weddw, a'i hunig fab Huw Anwyl, dyn ieuanc gweithgar, a medrus fel pysgotwr, ond mentrus a beiddgar ei ysbryd dros ben. Y fenter yma a dynnodd sylw Alun Tomos ato gyntaf, a swynwyd y bachgen gan ddewrder a dibristod cymeriad yr hen bysgotwr. O dipyn i beth, daeth y ddau yn gyfeillion mawr, ac fel y tyfodd Huw yn llanc, dechreuodd fynd allan i bysgota gydag Alun Tomos. Daeth yn forwr dewr a medrus, a gwelodd Alun Tomos fod ynddo ddefnydd cynorthwywr defnyddiol iddo ef yn ei fusnes arall. Canys nid ar bysgota yn unig nac yn bennaf yr heliodd Alun arian, Yr oedd yn smygliwr o'i febyd a dywedid amdano yn ardal Llanwennol, ac ardaloedd eraill o ran hynny, mai efe oedd y goreu yng Nghymru am redeg cargo i'r lan dan drwynau swyddogion y Llywodraeth, ac eto heb ei ddal.

Ni edrychid ar y gamp honno fel pechod o gwbl. Yr oedd y tollau mor afresymol ar bopeth y pryd hynny nes yr edrychid ar y dyn a lwyddai i'w hosgoi fel cymwynaswr yn ei ardal. Gwyddai person Llanwennol yn eithaf da beth oedd blas gwirodydd didoll Alun Tomos. Cydymdeimlai'r gŵr parchedig gyda swyddog y Llywodraeth ar goedd, mae'n wir; ond nid oedd hynny yn lleihau gronyn ar ei gydymdeimlad cudd ag Alun Tomos. Ni chymerasai esgobaeth Bangor am gynorthwyo neb i'w ddal.

Gwyddai gwraig y person hefyd fod sidanau Alun Tomos yn llawer iawn gwell ac yn llawer iawn rhatach na dim a brynid yn y dref. Pa le, gan hynny, oedd ganddi hi a'i phriod i gwyno os dewisai ychydig o'u plwyfolion ennill eu tamaid yn y wedd yma?

Pan ddechreuodd Huw Anwyl ar yr un gorchwyl, dan addysg Alun Tomos, ni chododd ei fam un gwrthwynebiad. "'Dyna arfer pobl Llanwennol," meddai, ac yr oedd hynny yn setlo'r cyfan. Ac felly daeth y llanc yn ail mewn dewrder a dylanwad i Alun Tomos ei hun.

Yr oedd Sian, merch Alun Tomos, oddeutu'r un oed â Huw. Geneth annwyl oedd hi, y dlysaf yn yr holl ardaloedd, meddai'r llanciau, ac mor ddi-ofn a mentrus â'i thad. Gwyddai ei holl gyfrinion, a chynorthwyai ef ymhob modd oedd yn ei gallu. Hi fu'n gwrando y tu allan i dŷ'r swyddog pan yr oedd Cooke a Watson yn gosod eu cynlluniau, a hi oedd wedi deall mai gosod magl i ddal ei thad a'i gyfeillion yr oeddynt. Hi a ddangosodd y goleu a welodd y swyddogion—ond mai rhybudd oedd, ac nid arwydd fod popeth yn iawn.

Nid rhyfedd ei bod hi a Huw wedi syrthio mewn cariad â'i gilydd. Cydfagesid hwy, ac yr oedd yr un elfen yng ngwaed y ddau. Edrychid arnynt gan Alun Tomos a Gwen Anwyl fel dau oedd i briodi cyn hir. Ac felly yr oedd cwlwm cryf rhwng y ddau deulu.

Yn ddiweddar, modd bynnag, daeth cwmwl i ffurfafen Sian. Dywedwyd eisoes mai adeg yr "Heddwch Bach" oedd hi. Wedi blynyddoedd o frwydro blin, rhoddwyd Napoleon yn y ddalfa yn Elba, a gorffwysodd Prydain am ysbaid. Dyna'r paham yr oedd Capten Gruffydd adref. Wrth grwydro ar hyd yr ardal, gwelodd y milwr Sian, a meddyliodd ynddo ei hun mai hi oedd lodes lana'r deyrnas. Meddyliodd hefyd mai difyr fuasai difyrru dyddiau ei segurdod yn ei chwmni.

Felly, digwyddodd ei chyfarfod dro ar ol tro hyd lwybrau'r fro. Ceisiodd gael scwrs â hi, yn ei ddull ei hun, er fod yn ddigon amlwg nad oedd yr eneth yn hoffi ei weld. Un diwrnod, dywedodd wrtho nad oedd arni ei eisiau, ac nad oedd yn dymuno siarad ag ef o gwbl.

Yr oedd hynny yn syndod aruthr i'r capten, a dechreuodd wneuthur ymchwiliadau. Ni bu yn hir cyn deall sut yr oedd pethau yn sefyll, ac o'r awr honno y deffrôdd ei sêl boethlyd yn erbyn y smyglars. Penderfynodd ddifetha Huw Anwyl, ac ni ofalai lawer pa lwybr a gymerai i gyrraedd ei amcan.

Ymhen diwrnod neu ddau wedi'r digwyddiad a adroddwyd yn y bennod gyntaf, yr oedd Sian a Huw yn eistedd o flaen y tân ym mwthyn Alun Tomos. Yr oedd Alun allan yn rhywle, ac yr oeddynt hwy eu dau yn unig yn y tŷ. Eisteddent yn ddistaw am ysbaid. O'r diwedd, torrodd Sian ar y distawrwydd. "A welaist ti Capten Gruffydd yn ddiweddar, Huw?" ebe hi.

"Naddo," oedd yr ateb. "Fuo fo yn aflonyddu arnat ti eto?"

"O, naddo; ond y mae arnaf ofn ei fod yn bwriadu rhyw ddrwg i ti, Huw,"

"Pa ddrwg, dwad? Mi edrychaf fi ar ei ol, gelli fod yn bur sicr. Beth glywaist ti 'rwan, fy nghariad i?"

Wyddost ti fod y press gang wedi bod wrthi yn Abercynwy?" gofynnai Sian yn ddistaw.

Sythodd Huw yn sydyn. Yr oedd y press gang yn ddychryn gwirioneddol yr adeg honno. Ymwelai un o swyddogion y llynges, gyda nifer o ddynion, â gwahanol ardaloedd, a chipient y dynion mwyaf addawol drwy orfod i wasanaethu y brenin yn groes iawn i'w hewyllys. Rhwygent deuluoedd yn hollol ddidaro, a chan fod eu gwaith yn gyfreithlon, parent fraw ym mha le bynnag y clywid eu bod, yn enwedig mewn ardaloedd lle yr oedd nifer o longwyr neu bysgotwyr ieuainc. Nid rhyfedd i Huw edrych dipyn yn gynhyrfus.

"Y press!" meddai. "Na chlywais i. Wyt ti yn siwr, Sian?"

"Ydwyf, Huw, yn berffaith sicr. Dywedodd Mari Parri wrthyf bore heddyw fod nai, fab chwaer iddi hi, wedi ei gymryd yn Abercynwy, a'u bod yn sôn am ddyfod tua Llanwennol a Rhos y Môr cyn bo hir."

Diawsti!" meddai Huw. Os ydyw hynny'n wir, rhaid i ni fod yn ofalus ofnadwy. Paham y mae gan neb hawl i fynd a fi na neb arall oddicartref yn groes i fy ewyllys i ymladd—ond 'does yna ddim ymladd 'rwan; y mae hi'n heddwch, wyddost?"

"Deyd 'roedd Mari Parri," meddai Sian yn drist, "fod yna ryfel i fod eto. Pam, yn enw'r tad, na fedren nhw adael llonydd i bobl ddiniwed, a chwffio eu hunain? O, Huw, cymer ofal!'

"Mi wnaf, Sian bach," meddai Huw yn dyner. "Ond beth sy'n peri i ti feddwl fy mod i mewn perygl mwy na rhywun arall?"

"Wyddost ti fod Capten Gruffydd wedi bygwth gneud ei waethaf i ti, a heddyw mi gwelais o yn cerdded ar y traeth efo dyn diarth,—ac mi feddyliais feallai fod y perygl yn nês nag y tybiem."

Edrychodd Huw Anwyl yn bur ddifrif pan glywodd hyn. Gwyddai fod y perygl yn un gwirioneddol iawn, ond ni hoffai ddywedyd hynny wrth ei gariad. Gwyddai, os oedd Capten Gruffydd wedi penderfynu gwneuthur drwg iddo, fod yn debyg iawn y llwyddai.

Yr oedd gan un o safle a chyfoeth y capten ddylanwad yn y sir, a gwyddai Huw y gallai yn hawdd gael ymadael ag ef drwy alw sylw y press gang ato. Nid oedd unrhyw ffordd i ddianc ond drwy gadw o'r golwg, neu ymguddio yn y wlad hyd nes yr ai y perygl heibio.

Ag yntau yn synfyfyrio ar hyn, daeth Alun Tomos i mewn yn sydyn. Dychwelodd ynghynt na'r disgwyliad, ac yr oedd yn amlwg ar ei wyneb fod rhywbeth wedi ei gynhyrfu. Gwelodd Sian hynny ar unwaith.

"Oes rhywbeth yn bod, nhad?" meddai yn bryderus.

Taflodd Alun Tomos olwg ar Huw. "A glywaist ti rywbeth, Huw?" meddai.

"Dim ond yr hyn a ddywedodd Sian wrthyf 'rwan," meddai Huw, "fod y press gang allan."

"Ydi, 'machgen i," meddai Alun Tomos, "ac y mae yn ymyl. Gwelwyd rhai ohonynt yn Rhos y Môr heno."

"Felly!" meddai Huw yn bur ddifrifol; gwelwodd wyneb Sian wrth y newydd. "Felly! y mae'n well i mi fynd o'r golwg am dipyn, debyg gen i."

"Yr wyf innau yn meddwl hynny," meddai Alun Tomos, "a'r peth goreu i ti ei 'neud ydyw mynd i'r ogof am ddiwrnod neu ddau. Mi ofalith Sian neu dy fam am damaid i ti, mi wn, ac mi edrycha innau a fydd y giwaid wedi cilio yn llwyr o'r ardal. Mae'n nhw'n deyd i mi fod y swyddog yn y Plâs gyda Chapten Gruffydd."

Mi glywais innau," meddai Huw, "fod yno ryw ddyn diarth yn y Plâs, a'i fod o a'r capten yn glos iawn hefo'i gilydd o hyd. Y mae'n siwr i chi mai dyna pwy ydi o, wedi dwad yma i baratoi'r ffordd."

Edrychodd y tri yn bur ddifrif, ac yr oedd yn fater gwirioneddol ddifrifol i bob un ohonynt. Pe gelwid ar Huw i fynd at y llynges, ni wyddid, yr adeg derfysglyd honno, pa bryd y deuai'n ol.

Feallai y byddai oddicartref flynyddoedd; feallai na ddychwelai byth. O'r diwedd, dywedodd Alun Tomos—

'Y mae hi'n gyrru arni hi i'r pnawn, wel di, ac er na welais i yr un golwg arnyn nhw yn y pentre yma eto, mi gredaf mai y peth goreu i ti fyddai mynd i'r ogof heno.

Os doi di ar hyd llwybr y clogwyn—y mae yna wrych uchel yn cysgodi hwnnw, wyddost,—tua hanner awr wedi naw, mi ddof i dy gyfarfod, ac mi drefnwn y lle yn barod."

"O'r goreu," ebr Huw, gan ymddangos yn bur ddidaro. "Mi ddof yno at yr adeg.

"Y mae'n debyg y bydd pob peth yn dawel hyd yr adeg yna."

"Bydd, mi gredaf. Ond well i ti fynd i dŷ dy fam drwy'r cefn yn awr, rhag i neb fod yn gwybod ple'r wyt ti. Y mae pobl y pentref yma'n rhai go lew, ond 'does wybod pwy sydd â dial tuag atat ti."

Felly y trefnwyd. Aeth Huw allan drwy ddrws y cefn, ac aeth Sian i'w ddanfon, tra'r arhosodd ei thad yn y gegin. Yr oedd calon yr eneth druan yn drom, a'i phryder am ei chariad yn fawr, ond meddai ddewrder a phenderfyniad ei thad, a cheisiodd wneuthur ei goreu i guddio yr hyn a'i poenai. Ond gwyddai Huw rywbeth am ei theimladau, a chusanodd hi yn dyner cyn ymadael.

"Paid ag ofni, Sian," meddai. "Mi ddaw popeth o'r goreu eto."

"Daw, mi wn, Huw," meddai hithau, gan geisio gwenu, ac mi ddof innau à bwyd i ti i'r ogof bob dydd-mi gawn weld ein gilydd felly."

"Cawn, fy nghariad i," meddai Huw; ac yna aeth drwy fwlch yn y gwrych, ac i dŷ ei fam i aros hyd yr hwyr. Yr oedd Gwen Anwyl wedi deall am y perygl, fel, yn wir, yr oedd pawb yn y pentref, o ran hynny, ac yr oedd yn bur anesmwyth ynghylch Huw, unig ffon ei chynhaliaeth. Yr oedd yn dda ganddi ei weld yn dyfod i'r tŷ, a chymeradwyodd gynllun Alun Tomos yn hollol.

"Ond y mae'n arw o beth," meddai, "fod yn rhaid i ti fynd i guddio fel petaet ti wedi gneud rhyw ddrwg, a bod yn rhaid i minnau ddiodde pryder ac unigrwydd fel hyn er mwyn rhyw hen benbyliaid sydd yn methu gadael llonydd i'w gilydd. Ni welais i ffasiwn ffolineb erioed a'r hen ryfela coblyn yma o hyd. Y mae'r prisiau yn mynd i fyny yn barhaus, ac y mae'n anos i'r tlawd gael tamaid a dillad nag erioed, a 'does neb ar ei ennill am wn i ond gŵr y Plâs a rhyw fyddigions felly. Na'th y Ffrancod ddim erioed i ti na minnau na ni iddynt hwythau, a ni fedra i ddeall dim o gwbl pam 'rydan ni yn cwffio hefo nhw. Y mae'n dda, fel bydd Mr. Jones y pregethwr yn deyd, fod yma ryw fyd gwell ar ol hwn. Byd digon symol ydi hwn i'r tlawd beth bynnag."

Yr oedd Gwen Anwyl yn dipyn o Fethodist, ac wedi gwrando dipyn ar y pregethwyr a ddeuai i Lanwennol ar eu tro, a chafodd Thomas Jones, Dinbych, gryn lawer o ddylanwad arni. Ni wyddai Huw, modd bynnag, ryw lawer am bethau felly, ond tueddai yn gryf i fod o'r un feddwl a'i fam yn awr.

Nodiadau

[golygu]