Neidio i'r cynnwys

Rhwng Rhyfeloedd/Sian a'r Capten

Oddi ar Wicidestun
Yn yr ogof Rhwng Rhyfeloedd

gan Edward Morgan Humphreys

Yr ymwelydd

PENNOD VI.
SIAN A'R CAPTEN.

PAN gyrhaeddodd Sian ben y geulan ar ol dyfod allan o'r ogof, cafodd ei bod yn glawio yn ddwys, a niwl tew wedi hel dros yr holl dir. Ni allai weld dim, ac i un anghyfarwydd buasai'r sefyllfa yn beryglus iawn.

Ond gwyddai Sian am y lle, ac yr oedd ganddi amcan da am y ffordd i droi.

Cyrhaeddodd yr hwylfa, neu rhyw le a gredai hi oedd yr hwylfa, a dechreuodd balfalu ei ffordd yn ofalus tua'i chartref. Yr oedd y niwl wedi cuddio popeth, ac er ei bod yn dywyll cynt, yr oedd yn fwy dyryslyd yn awr. Meddyliodd Sian mai da fuasai cael hugan felly i guddio ymadawiad Huw nos drannoeth. Ni allai na swyddog na chwnstabl ei weld ef na llong Ambros.

Cerddodd ymlaen am ysbaid, gan gredu yn sicr ei bod yn yr hwylfa. Cyn pen hir, modd bynnag, bu agos iddi a chwympo i ffôs ddofn. Nid oedd yr un ffôs felly yn yr hwylfa, a deallodd Sian ei bod wedi colli ei ffordd. Y cwestiwn yn awr oedd—Ym mha le yr oedd hi? Nid oedd yn eneth ofnus, ond ni hoffai feddwl am fod allan drwy'r nos—yn y niwl. Cerddodd ar hyd ochr y ffôs, a chafodd fod honno yn troi cyn hir. Dilynodd hi drachefn a daeth i goed.

Gwyddai Sian nad oedd yno goed yn yr ardal honno ond yng nghyffiniau y Plas. Pan ddeallodd ei bod wedi cerdded i gyfeiriad y Plas, dychrynodd braidd, canys y diweddaf y dymunai ei gyfarfod oedd Capten Gruffydd. Safodd i ystyried ei sefyllfa, ac i geisio sylweddoli ym mha le yr oedd hi.

Pan yn sefyll fel hyn, clywodd sŵn heb fod ymhell oddiwrthi. Trôdd i edrych o'i chwmpas, a gwelodd oleuni anelwig yn agoshau ati drwy'r niwl. Edrychai ymhell ar y pryd, ond yr oedd y niwl yn dirdynnu popeth ac yn twyllo y golwg. Meddyliodd Sian am geisio ymguddio, ond gwelodd nad gwaith hawdd fuasai hynny, ac feallai hefyd mai un o weision y Plas oedd yno gyda lanter.

Safodd yn ei hunfan, a daeth y goleu yn nês. O'r diwedd, gwelodd mai dyn oedd yn dwyn lanter, ac ymhen ychydig gwelodd yntau hithau.

"Helo!" meddai. "Pwy sydd yna?"

Adnabu Sian lais Capten Gruffydd, a daeth braw mawr dros ei chalon. Trôdd, gan feddwl rhedeg i rywle o'i gyrraedd, ond cyn iddi allu penderfynu i ba gyfeiriad i fynd, yr oedd y Capten wedi ei chyrraedd ac wedi gafael yn ei braich. Cododd y lanter i edrych i'w hwyneb a gwelodd pwy ydoedd. "Sian, ar fy ngair!" meddai. "Pwy fuasai'n meddwl am Sian fach yma? Beth wyt ti yn ei wneud yma, Sian? Ai chwilio am Huw Anwyl?"

"Gollyngwch fy mraich, syr," meddai'r eneth, gan geisio ysgwyd ei braich yn rhydd. "Gollyngwch, y mae arnaf eisiau mynd adref."

"Nid y ffordd hyn y mae dy gartref di, 'ngeneth i," meddai'r Capten, gan ddal ei afael yn dyn ynddi. "A fedri di ddim mynd gartref chwaith heb i mi ddwad i dy ddanfon di."

"Medraf, yn wir Capten Gruffydd," ebe Sian. "A phetaswn i allan drwy'r nos, ni chawsech chi ddim dwad i fy nanfon i gartref. Gollyngwch fy mraich, neu mi waeddaf dros y lle."

"Gwaedda dy oreu, Sian fach!" meddai'r Capten, gan chwerthin. "Gwaedda dy oreu. Pwy ddaw yma ar noson fel heno? Ond paid a bod mor frysiog -y mae arna' i eisio gair bach hefo chti. Ple 'rwyt ti wedi bod?"

"Nid yw hynny yn ddim o'ch busnes chi, syr," meddai Sian.

"'Dwy' i ddim mor siwr am hynny. Y mae'r scowndrel Huw Anwyl yna yn cuddio yn rhywle, ac mi dyngaf dy fod ti yn gwybod ym mhle. Waeth i ti heb a gwadu, Sian. 'Rydw' i'n sicr dy fod ti yn gwybod."

"Beth sydd a fynnoch chi â Huw Anwyl?" meddai Sian yn chwyrn. "Yr ydach chi'n gwybod cystal a minnau nad oedd a fynno fo ddim â lladd y dyn hwnnw, ac yr ydach chi yn 'i erlid o am ryw amcanion neu gilydd, Duw a ŵyr paham!"

Ar antur yn hollol y siaradodd Sian, ond ymddanghosai fod ei geiriau wedi cael effaith anghyffredin ar y Capten. Tynhaodd ei afael ar ei braich nes ei brifo, ysgydwodd hi, a rhegodd.

"Y fo ydi'r llofrudd!" meddai yn ffyrnig. "Y fo lladdodd o! Ac yr wyf i yn sicr o'i waed o. Mi gei di ei weld o wedi ei grogi eto, mi dyngaf. Y mae'r cwnstabliaid yn mynd i chwilio y geulan yfory, ac yr ydan' ni yn siwr ohono fo."

Dychrynwyd yr eneth gan y bygythiad hwn, ac ni atebodd.

"Sylwodd y Capten ar hynny, ac ychwanegodd: 'Rydw' i am 'i hela fo fel hela llwynog, ac yr ydw' yn siwr ohono fo. Y chti yn unig fedr ei achub o."

"Sut?" meddai Sian.

"Yr wyt ti'n gwybod. Gwyddost fy mod mewn cariad â thi, ond yr wyt ti wedi pendroni efo'r scowndrel yna. Gad lonydd iddo fo, a tyd yma i'm cyfarfod i nos yfory, ac hwyrach y gadawaf innau o yn llonydd."

Awyddai Sian am fedru dyfod yn rhydd o afael y Capten a ffoi am ei bywyd i rywle, ond yng nghanol ei dychryn daeth syniad i'w meddwl. Nos drannoeth byddai Huw yn ddiogel ar fwrdd llong, allan o gyrraedd y Capten, beth bynnag. Os gallai gadw ei elynion yn llonydd am ddiwrnod, gwnai hynny.

"Ni wyddoch chi ddim am y peth," meddai. "Y mae Huw yn hollol ddiniwed."

"'Does yr un llys yn y byd a gredai hynny," meddai Capten Gruffydd; "ond 'doedd ei gyllell o yn ymyl corff y—fy nghyfaill. Ond ddoi di yma nos yfory?'

"A gedwch chwi eich addewid os addawaf ddyfod?"

"Chwarddodd y Capten. "O," meddai, "y mae'r biwren fach yn dechreu siarad synnwyr 'rwan! O, gwnaf, mi gadwaf fy addewid. Ond os treii di chwarae rhyw dric arnaf, mi fydd yn edifar gen dy dad a tithau!"

"Cadwch eich bygythion i'r sawl sydd yn eu hofni," meddai Sian yn wrol. "Yn awr, gadewch i mi fynd gartref."

Ar hyn, clywodd y ddau sŵn rhyw rai yn siarad. Ni welent neb, ond yr oedd y lleisiau yn ymyl, ac adnabu Sian lais ei thad.

"Dyna 'nhad yn chwilio amdanaf!" meddai'r eneth. "Gadewch i mi fynd, Capten Gruffydd,—gadewch i mi fynd y funud yma, neu mi waeddaf arno!"

"Waeth gen' i am hynny," meddai'r Capten, ond yn gollwng ei afael arni yr un pryd. "Cofia dy addewid—os na byddi di yma, bydd Huw yn y carchar cyn canol nos yfory,—ac fe'i crogir o, wir ddyn."

"O'r goreu,-mi gofiaf am fy addewid," meddai Sian.

"Ond gadewch i mi fynd yn awr."

Trôdd y Capten ymaith a gwaeddodd Sian: "Nhad, 'nhad!"

Atebwyd hi gan Alun Tomos, ac ymhen munud neu ddau daeth ei thad ac un o longwyr y pentref ati, wedi bod yn chwilio amdani yn hir, mewn pryder mawr.

Treuliodd Sian ddiwrnod blin trannoeth ei chyfarfyddiad damweiniol â mab y Plas yn y coed. Ofnai fod Capten Gruffydd yn gwybod mwy nag a ddywedai, ac ofnai y byddai iddo gadw gwyliadwriaeth fanwl ar lan y môr drwy y dydd.

Nid oedd Sian yn bwriadu mynd i'w gyfarfod. Addawodd yn unig er mwyn cael amser er galluogi Huw i ddianc. Ofnai hefyd fod y Capten wedi drwg-dybio hynny, ac y byddai iddo dorri ei air. Gwyddai Sian nad oedd llawer o ymddiried i'w roddi ar air y Capten.

Ond anghofiodd un peth a allasai fod yn ddefnydd cysur iddi. Os nad oedd llawer o ymddiried i'w roddi ar air Capten Gruffydd, nid oedd llawer i'w ofni oddiwrth ei alluoedd meddyliol ychwaith. Coleddai y milwr ieuanc syniad da iawn amdano ei hun, ac ni amheuodd am funud na ddeuai Sian Tomos i'w gyfarfod fel yr addawodd. Onid oedd yn anrhydedd i eneth dlawd fel hi fod gŵr fel efe yn cymryd sylw ohoni o gwbl? Yr oedd digon o enethod yn barod i dderbyn ei sylw, a phaham yr oedd yn rhaid iddo feddwl nad oedd Sian cyn baroted â'r un ohonynt? Bu dipyn yn gyndyn, yr oedd yn wir, hyd yn hyn, ond nid oedd hynny, meddai'r capten, yn ddim ond ystryw merch. Ganddo ef yr oedd y llaw uchaf yn awr; yr oedd cystal a bod wedi cael gwared o Huw, a bellach nid oedd dim ar ei ffordd. Anghofiai Sian ei hen gariad, ac yna byddai popeth yn iawn. Teimlai y Capten fod pethau yn gweithio allan yn dda iawn. Nid oedd ond un cysgod du yn tywyllu ffurfafen ei feddwl—a byddai ymadawiad Huw Anwyl yn ysgafnhau hwnnw hefyd.

Felly, os oedd Sian yn ofnus a phryderus, yr oedd Capten Gruffydd yn ddigon bodlon ei fyd. Ni ddaeth i'w feddwl wylio y glannau, ond gyda'r hwyr paratodd i fynd i gyfarfod Sian i'r fan y cyfarfuasant y noswaith cynt.

Yr oedd y milwr yno gryn dipyn cyn ei amser, ac felly ni ryfeddodd ddim pan welodd nad oedd yr eneth yno yn ei aros. "Ni ryfeddaf," meddai, "os y bydd y biwren fach dipyn yn hwyr. Fe hoffa ddangos nad oes brys arni, mi wn." Felly y treuliodd y Capten awr neu awr a hanner yn ddigon diofal, ac yr oedd bellach wedi nosi ac yn bur dywyll.

Yn y cyfamser, yr oedd Alun Tomos ac un neu ddau o'i gynorthwywyr yn bur brysur.

Arosasant onid oedd yn nos dywyll, ac yna aethant i'r traeth. Yr oedd Huw, yn yr ogof, wedi gwneuthur ei baratoadau yn gyflawn. Rhwymodd râff gref wrth ddolen haearn fawr oedd yn llawr yr ogof ac yna arosodd hyd nes y deuai arwydd oddi isod. Edrychodd allan yn awr ac yn y man a gwelai y dyfroedd tywyll yn ymestyn hyd y gorwel o'i flaen. Yr oedd yr olygfa yn un ddigon pruddglwyfus a thrymaidd ar y goreu, canys nid oes dim trymach a thristach yr olwg arno na môr ystormus wedi nos. Ond i Huw y noswaith honno, er dewred ei galon, yr oedd yr olygfa yn drymllyd neilltuol. Yr oedd yn gadael ei gartref, ei fam, a'i gariad. Yr oedd yn ffoi o flaen cyhuddiad di-sail. Wynebai ar fywyd newydd, ansicr. Gadawsai ei fywioliaeth ar ol, ac ni wyddai sut yr enillai damaid mwyach.

Gofynnodd iddo ei hun paham y gwnai hyn oll. Credai, pe rhoddai ei hun yn nwylo y gyfraith, y deuai yn rhydd yn ebrwydd. Ond credai hefyd na fedrai ymryddhau heb daflu rhywbeth mwy na chysgod amheuaeth ar Alun Tomos. Ac er mwyn Sian, ni allai feddwl am wneuthur hynny.

Fel y syllai allan heibio ochr y sâch a guddiai enau yr ogof, tybiodd weld rhywbeth yn fflachio draw ar yr eigion. Meddyliodd wedyn nad oedd yn ddim ond ton frigwen yn ymdaflu yn uwch na'i chwiorydd. Ond daliodd i edrych, a gwelodd y fflach drachefn. Nid oedd lle i amheuaeth yn awr; goleuni ar fwrdd llong oedd yr hyn a welodd. Deallodd mai arwydd oddiar long John Ambros oedd, a bod yn amser iddo yntau ymbaratoi.

Datododd y rhâff, a thynnodd y drain oedd ar enau yr ogof. Yna gwrandawodd am ysbaid nes clywed rhyw sŵn, heblaw sŵn y môr, o'r dyfnder tywyll odd tano.

Dyna'r arwydd y cytunodd ef ac Alun Tomos arno.

Yna taflodd y rhâff i lawr dros wyneb y clogwyn. Gwyddai ei bod yn ddigon hir i gyrraedd y gwaelod tra'r pen arall yn rhwym wrth y ddolen yn yr ogof.

Yna gafaelodd ynddi, a gollyngodd ei hun yn raddol dros yr ymyl. Am ychydig yr oedd yn crogi dros y gwagle, y rhaff ac yntau yn siglo yn ol a blaen yn y gwynt. Ond yr oedd Huw yn greigiwr medrus o'i febyd, a gollyngodd ei hun i lawr yn dymhoraidd, gan osgoi y talpiau craig yn ofalus, a chyn pen ychydig funudau yr oedd ar y traeth.

Yr oedd y llanw yn uchel, ac nid oedd ond llain gul o dywod rhwng y graig a'r môr. Ond yr oedd yno le gweddol gysgodol a thawel, fel y gellid dyfod a chwch at y fan.

Pan gyrhaeddodd Huw y gwaelod, edrychodd o'i gwmpas, ac am funud credodd nad oedd yno neb. Ond yn y fan daeth Alun Tomos a'i ddau gynorthwywr ato o'u lloches dan gysgod tywyll talp o graig.

"Wel, 'machgen i," meddai Alun, "dyna'r amser wedi dwad. Rydw'i yn disgwyl y cwch bob munud."

"Gobeithio na fydd o ddim yn hir," meddai un o'r dynion; "mae arna i ofn y preventives yna. Y mae nhw'n rhyw s'nwyro mwy na digon o gwmpas heno."

"Mi welais i Cooke yn mynd i gyfeiriad y gilfach," meddai'r llall; "chwilota yr oedd o, mi dyffeia i o."

"Waeth amdano fo, Joe," meddai Alun Tomos; "'does yma ddim cargo na smyglo, gwnaed o ei waethaf."

Dwn i ddim beth am hynny," meddai Joe; myn diawch, 'rydan ni'n smyglio cargo heno y buasai Cooke yn rhoi ei ben am gael gafael arno fo," a chwarddodd y ddau ddyn.

"Fyddai'n waeth gen i iddo fy nghael i na pheidio," meddai Huw yn swta; "'rydw'i cyn laned oddiwrth ladd y dyn yna ag un ohonoch chithau."

"'Dydwi'n ameu dim, Huw Anwyl," meddai Joe; ond pe buaset ti wedi ei ladd o, fuase hynny nac yma nac acw yn fy ngolwg i. Gresyn na buasai pwy bynnag wnaeth y weithred wedi rhoi cyllell ym mab y Plâs yn i le fo."

"Tewch, da chi," meddai Alun Tomos, "rhag i chi, wrth gyboli fel yna, dynnu sylw rhai o'r garsiwn yna atom ni. Y mae'r cwch yn hir gynddeiriog yn dwad."

Yr oedd yn amlwg fod Alun Tomos yn anesmwytho, a dechreuodd Huw deimlo yn bryderus hefyd. Ofnai weld rhyw ymosodiad cyn iddo ymadael.

Pe medrai weld i gwrr coed y Plâs buasai yn teimlo yn fwy pryderus fyth. Yr oedd Capten Gruffydd wedi oeri, ac wedi hen flino aros. Nid oedd olwg am Sian. Cerddodd yn ol a blaen, curodd ei draed, rhegodd, ond nid oedd dim yn dyfod a Sian.

O'r diwedd daeth i'r penderfyniad fod yr eneth wedi ei dwyllo. Bu'n anodd ganddo gredu hynny, ond pan gredodd collodd ei dymer yn ddychrynllyd. Cychwynnodd unwaith tua'r pentref, i ddywedyd y drefn wrthi yn ei thŷ, ond teimlodd wedyn mai prin y byddai hynny yn gydweddol â'i urddas. Yna dechreuodd rhyw syniad am wir ystyr y cwbl wawrio ar ei feddwl, a rhegodd yn gyflymach ac yn ffyrnicach nag o'r blaen.

Tybed fod yr eneth wedi ei gamarwain a'i dwyllo yn fwriadol wedi'r cyfan? Tybed ei bod hi wedi meiddio taflu llwch i'w lygaid ef—ef, Capten Gruffydd, mab y Plâs? Yr oedd y peth yn nesaf peth i fod yn anhygoel, ac eto, dyna fel yr oedd hi. Tyngodd y cai Sian dalu yn ddrud am ei beiddgarwch, ac y crogai efe Huw o flaen drws ei thŷ. Ei gadw ef—Capten Gruffydd, mab y Plâs—yno fel ffŵl am oriau yn disgwyl amdani, a hithau heb feddwl am ddyfod o gwbl! Ei gadw yn segur drwy y dydd, pryd y gallasai fod wedi dal y dyhiryn Huw Anwyl! Yn ei lid, tyngodd Capten Gruffydd ddialedd erchyll ar y ferch a'i twyllodd ac ar y dyn a arbedwyd drwy hynny.

Prysurodd yn ol tua'r Plâs, a galwodd ar nifer o'i weision i ddod gydag ef, gyda llusernau a rhaffau. Ni ddywedodd ef wrthynt beth oedd ei neges, ond ar ei ffordd drwy'r pentref galwodd heibio tŷ swyddog y llywodraeth. Nid oedd Cooke yn y tŷ, ond yr oedd Watson, yr ail swyddog, yno. Dywedodd y Capten ei amcan wrth hwnnw, a gofynnodd iddo ddyfod gydag ef.

"Nid yw yn ddim o'm busnes i," meddai Watson; "ond gan eich bod chi yn gofyn, syr, mi ddof, 'tae dim ond i'ch cadw chi rhag syrthio dros y clogwyn."

Ac felly cychwynasant.

A dyna'r adeg yr oedd Huw ac Alun Tomos yn dechreu pryderu am ddyfodiad y cwch.

Nodiadau

[golygu]