Rhwng Rhyfeloedd/Troi yn ol
| ← D'alton yn clywed am dynged Carrier | Rhwng Rhyfeloedd gan Edward Morgan Humphreys |
Yr hyn a welwyd trwy'r ffenestr → |
PENNOD X.
TROI YN OL.
Roedd John Ambros a Huw, pan adawsom hwynt, yn siarad gyda'r Ffrancwr oedd yn y cwch. Cyn pen hir iawn yr oedd y cwch wedi cyrraedd at y llong, a chynorthwywyd y Ffrancwr gan y llongwyr i ddyfod ar fwrdd y scwner.
Yr oedd golwg druenus arno. Yr oedd yn welw ei wedd ac yn afler ei ddillad. Yr oedd halen y môr wedi casglu hyd ei wallt ac wedi ei wneuthur fel eira o'r bron. Yr oedd yn amlwg arno nad oedd wedi cael tamaid o fwyd ers hir amser.
Edrychodd o'i gwmpas fel dyn hanner gwallgof, a cheisiodd ddywedyd rhywbeth yn ei iaith ei hun, ond yr oedd yn rhy floesg i siarad yn hyglyw. Gafaelodd Ambros ynddo ac aeth ag ef i lawr i'r caban, lle yr oedd bwyd a diod.
Nid oedd Huw gyda hwy. Yr oedd yn llongwr, ac nid peth anghyffredin iawn iddo ef oedd gweld dynion wedi bod yn hir mewn cychod, wedi suddo rhyw long, ac ni chymerodd ddiddordeb o gwbl yn y Francwr truenus hwn. Synnai dipyn at awydd Ambros i'w ymgeleddu, ond un rhyfedd oedd Ambros erioed, ac un rhyfedd a fyddai hyd y diwedd.
Cerddodd Huw yn ol a blaen hyd ddec y llong fechan, gan fyfyrio cryn lawer ar y ffawd anhapus a'i gyrrodd fel hyn i grwydro na wyddai i ba le. oedd yn ffyrnig iawn wrth feddwl am Gapten Gruffydd; awyddai am ddial, a chynhyrfai i waelodion ei enaid pan feddyliai am y tric a chwaraewyd ag ef. Yna meddyliodd am ei fam, am Sian, ac am ei thad.
Yr oedd y wawr ar dorri. Yr oedd yntau yn flin a chysglyd. Penderfynodd fynd i lawr i chwilio am le i orwedd, a gadael rhwng John Ambros a gofalu am gwrs y llong. Ni wyddai—nid oedd modd iddo wybod—fod rhywbeth yn digwydd yng nghaban y capten oedd yn agor y drws iddo yntau. Ni wyddai—nid oedd modd iddo wybod—mai y peth rhyfeddaf a ddigwyddodd yn ei hanes oedd y cyfarfyddiad hollol ddamweiniol hwn â'r Ffrancwr yn y cwch. Ni feddyliodd Huw mai trwy y creadur hwnnw, truan yr olwg arno, ac ar lwgu, yr oedd gwaredigaeth i ddyfod iddo ef.
Aeth i'r gwely heb feddwl na gwybod dim am hyn, a chysgodd.
Cysgodd rai oriau cyn deffro. Ac nid deffro ohono ei hun a wnaeth y pryd hynny, canys bu raid i Ambros ei ysgwyd yn hir cyn agor ohono ei lygaid. Yna gwelodd y capten yn sefyll uwch ei ben, a cheisiodd godi.
"Yn ara' deg," meddai Ambros. "Paid a chodi mor sydyn. Ar yr un pryd, y mae'n well i ti ddeffro. Y mae gen i rywbeth i'w ddeyd wrthyt ti."
"Beth sydd yn bod," meddai Huw. "Ydi popeth yn ddiogel?
"O, y mae'r cwbl o'r goreu. Ond y mae gen i rywbeth yn fy mhoced sydd yn siwr o agor dy lygaid ti."
"Beth?"
" Aros, i ti ddeffro yn iawn."
"Yr ydw i yn hollol effro."
"Felly," meddai Ambros, yn edrych yn graff arno, "welais i erioed yr un llongwr yn cysgu'n drymach. Ond mi gredaf dy fod ti'n effro 'rwan."
"Ydwyf, yn hollol effro. Ond beth sydd gennoch chi i'w ddeyd?
Eisteddodd John Ambros ar gist, ac yr oedd golwg foddhaus anghyffredin arno. Yr oedd rhyw wên ar ei wyneb caled, a goleu buddugoliaeth yn ei lygaid.
"Ddeydais i ddim wrthyt ti," meddai, "fod arna i hen chwech fy hun i'r Capten yna. Ond y mae—ac mi talaf o hefyd. Yr oedd yna eneth yn—ond hidia befo hynna. Stori arall ydi honna, ac os a i ar ei hol hi mi fyddaf yn barod i wneud rhywbeth cyn y diwedd. Ond yr ydw i wedi cael pen y llinyn, wel di, ac mi saethaf ddau dderyn ag un ergyd—os medri di saethu hefo llinyn hefyd. P'run bynnag, mi gaf dalu'r pwyth i Capten Gruffydd, dial fy merch, a'th gael dithau yn rhydd o'i afaelion hefyd."
Erbyn hyn yr oedd cwsg wedi ymadael yn hollol oddiwrth Huw. Yr oedd yn effro, gorff a meddwl. Yr oedd rhywbeth yn null Ambros yn ennyn cywreinrwydd anghyffredin yn ogystal a rhyw gymaint o ofn. Yr oedd fel dyn wedi cael ei elyn dan draed, ac yn barod i wneuthur unrhyw beth i ddial arno.
Chwarddodd wrth weld Huw yn rhythu arno, gyda'i lygaid yn llydain agored.
"Yr wyt ti yn methu gwybod beth sydd arna i," meddai. Wel, dyn yn gorchfygu o'r diwedd ydw i. Ond rhaid i mi ddeyd y stori wrthat ti o'r dechreu. Yr wyt ti yn cofio beth a ddywedais i am Gapten Gruffydd a'r Ffrancwr?"
"Ydw', o'r goreu."
"Wyt, y mae'n debyg. Wel, rhaid fod ganddynt ryw afael arno fo. Rhaid fod ganddynt ryw bapur dan ei law o ei hun, oedd yn ddigon i'w grogi o ym Mhrydain os byth y deuai o i'r golwg. Fy marn i o hyd oedd fod y Capten yn meddwl fod hwnnw gan Carrier, ac mai dyna pam y lladdodd o fo. Ond mi wyddwn i o'r goreu na 'doeddan nhw ddim yn ddigon o ffyliaid i roddi'r papur yn unlle lle y medrai Capten Gruffydd gael gafael arno fo. Ac mi wyddwn na 'doedd o ddim gan D'Alton chwaith. Wyddost ti ym mha le y mae o?"
"Na wn i," atebai Huw yn syn.
"Y mae yn fy mhoced i!"
"Beth!" meddai Huw mewn syndod aruthr. "Yn eich poced chi?"
Chwarddodd Ambros drachefn. "Ie," meddai. "Y mae gen i ddigon yn fy mhoced i grogi Capten Gruffydd y funud a fynnaf. Ac mi wnaf, hefyd."
"Sut y cawsoch chi o?" oedd cwestiwn nesaf Huw.
"O, y ffŵl Ffrancwr yna. Y mae'n ymddangos mai partner D'Alton oedd o, a'u bod nhw wedi gwneud a'i gilydd i hwn aros nes y deuai D'Alton yn ei ol yn fy llong i, fel yr oedd y trefniad. Gan hwn yr oedd y llythyr, rhag ofn y byddai ei eisiau. Ond cymerodd yn ei ben fynd allan hefo'r cwch—mi ddaeth yn dipyn o dywydd arno, ac mi gollodd y rhwyfau, a phob syniad am y fan lle'r oedd o. Ac felly, wel di, mi ddaeth i'n dwylo ni."
"Ond sut y cawsoch chi y llythyr, John Ambros?" Winciodd Ambros. "Y mae'n talu i ti gymryd arnat dy fod ti'n gwybod mwy nag a wyddost ti weithiau. Y mae'r brawd yna yn y caban wedi yfed peth cynddeiriog o'r brandi goreu sydd gen i—ac y mae hwnnw'n un da—ac yn meddwl fy mod i'n gwybod cymaint am symudiadau a chynlluniau D'Alton â Napoleon ei hun, os nad chwaneg. Ac feallai fy mod i."
"Ond y papur, John Ambros," meddai Huw, wedi ei danio gan y syniad fod rhyddhad yn y golwg o'r diwedd, "y papur! Beth sydd ar hwnnw?"
Digon 'chydig," meddai y llongwr yn hamddenol, " ond y mae'n ddigon i wneud trefn ar Capten Gruffydd, y scoundrel felltith.' Cochodd ei wyneb, a fflachiodd ei lygaid—yr oedd fel petae storm wedi torri yn sydyn ar ganol diwrnod tawel yn yr haf. Ac yn y funud honno gwelodd Huw gip ar ddyfnderoedd natur y dyn yn ei deimladau at ei elyn yntau.
"Beth a wnewch, 'rwan?" meddai Huw.
"Gwneud! Mynd yn ol i Gymru, siwr iawn, a rhoddi terfyn ar einioes y burgyn yna!'
Fel mater o ffaith yr oedd eisoes wedi gorchymyn newid cwrs y llong. **** Yr oedd yn oleu ddydd, a scwner John Ambros yn ddïogel mewn hafan glyd rhyw bum milltir o Lanwennol. Nid oedd y capten yn ofni dim, canys nid oedd ganddo ddim anghyfreithlon ar ei bwrdd. Yr unig beth o'r golwg oedd y Ffrancwr, druan. Cloid ef yn y caban, "hyd nes y byddai ei eisiau," chwedl John Ambros.
Yr oedd y lle a ddewiswyd yn hen gyrchfan gan Ambros. Yr oedd y glannau yn ysgythrog iawn, ac yn y fan honno yr oedd y creigiau yn codi yn glogwyni uchel ar bob llaw. Rywfodd neu gilydd, modd bynnag, llwyddodd y tonnau i dorri bwlch ynddynt mewn un man, nes ffurfio porthladd bychan wedi ei amgylchu, ac eithrio o du'r môr, gan glogwyni uchel. Nid oedd yr agoriad tua'r môr ond cul iawn chwaith, ac yr oedd eisiau llongwr medrus i fynd â'i long i mewn trwy'r adwy. Ond unwaith i mewn, yr oedd y llong yn ddiogel, nid yn unig rhag ysbiwyr ar y môr, ond hefyd rhag cynddaredd y tonnau. Nid oedd waeth pa mor erchyll y storm yr ochr allan, byddai y môr yn y porthladd bychan naturiol hwn bob amser yn dawel, a bu'n noddfa werthfawr i John Ambros a'r scwner lawer tro.
Ar yr olwg gyntaf ymddangosai y creigiau danheddog yn hollol ddi-lwybr. Nid oedd le i hyd yn oed ddafad roddi ei throed arnynt o'r man lle y golchid hwy gan ddŵr y môr hyd y lle y tyfai yr eithin. Ond yr oedd Ambros wedi darparu moddion i gyrraedd diogelwch hyd yn oed yma. Mewn un man disgynnai cadwyn o gopa y graig hyd at y dŵr, ac nid oedd yn amhosibl i ddyn medrus ddringo i'r lan gyda chymorth y gadwyn honno.
Yr oedd Ambros wedi gwneuthur ei gynlluniau yn barod. Gosododd y llythyr yn ei boced, a rhoddodd bistol yn y boced arall. Rhoddodd bistol hefyd i Huw, gyda gorchymyn caeth i beidio ei ddefnyddio heb orchymyn uniongyrchol ganddo ef. Yna dywedodd wrth Huw ei fod am iddo ddyfod gydag ef i Lanwennol cyn gynted ag y byddai wedi dechreu tywyllu.
Aeth y dydd heibio o'r diwedd, a phan yr oedd yr haul wedi suddo, yn belen goch, dros donnau'r gorllewin, a'r môr wedi duo ac oeri ei liw, rhwyfwyd Huw a'r capten at droed y graig lle'r oedd y gadwyn.
"I fyny a chdi," meddai Ambros, a gafaelodd Huw yn y gadwyn, a dechreuodd ddringo. Nid oedd yn waith hawdd, a bu agos iddo fynd yn sâl ar y canol pan ddigwyddodd edrych i lawr i'r dyfnder odditano. Meistrolodd ei hun, modd bynnag, a llwyddodd i gyrraedd pen y clogwyn yn ddiogel.
Yna dilynwyd ef gan Ambros, yr hwn oedd yn hen gynefin â'r gwaith. Safai y ddau yn awr ar forfa gwyllt, heb yr un tŷ yn agos atynt. Yr oedd y lle yn hollol gymwys i bobl yn dymuno gwneuthur rhywbeth heb ormod o gyhoeddusrwydd, canys anaml iawn y byddai pobl yr ardal yn ymweld ag ef. Ond nid edrych o'u cwmpas oedd gwaith Ambros a Huw yn awr, a dechreuasant gerdded yn brysur i gyfeiriad Llanwennol.
"I ble yr ydach chi am fynd?" oedd cwestiwn Huw, ar ol cael ei wynt, wedi dringo'r clogwyn.
At Capten Gruffydd, i'r Plas," oedd yr ateb. "I'r Plas!" Yr oedd Huw wedi synnu. A beth wnewch chi'yn y fan honno?"
"Y mae gennyf amryw bethau i'w dweyd wrtho," meddai Ambros; "ac mi fedri feddwl beth. Y mae arnaf eisiau gwybod beth sydd wedi digwydd i D'Alton. Mi gei di weld Sian cyn hir, ond y mae arnaf eisiau dy gwmni yn awr. Wn i ddim yn iawn sut hwyl fydd ar y Capten."
Dechreuodd Huw weld goleuni ar y cynllun, a cherddodd ymlaen yn ddistaw. Nid oedd hwyl siarad ar John Ambros chwaith, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn meddwl am rywbeth. Sylwodd Huw hefyd ei fod yn medru'r ffordd yn dda iawn, er tywylled oedd hi, a chasglodd oddiwrth hynny ei fod wedi cerdded y ffordd honno lawer gwaith o'r blaen. Ac yr oedd yn ei le.
Daliasant at lwybr y morfa o hyd, ac felly cadwasant rhyw filltir o bentref Llanwennol. Ni chyfarfuasant â neb chwaith, a chyn pen hir cyraeddasant odre coed y Plas.
"Aros di," meddai Ambros, yn y fan honno; "y mae yma lwybr yn y fan yma yn rhywle. Mi fûm i yn ei gerdded o lawer gwaith ers talwm."
Dyfalodd Huw pryd y gallai hynny fod, ond ni ddywedodd yr un gair. Yr oedd Ambros yn cerdded yn ol a blaen, ac o'r diwedd tarawodd ar y fan yr oedd yn chwilio amdano.
"Dyma fo," meddai, fel pe'n siarad wrtho ei hun. Yr oeddwn i'n meddwl ei fod yma yn rhywle. Y mae fy nghof i am yr hen lwybrau yn dal yn fyw o hyd, mi welaf. Ffordd yma, Huw."
Yr oedd yno lwybr, ond yr oedd yn anodd i ddyn anghyfarwydd ei weld. Nid oedd tramwy wedi bod arno ers llawer blwyddyn, ac yr oedd y rhedyn, y drain, a'r mieri wedi tyfu trosto. Ond eto yr oedd yn llwybr, a medrodd Huw ddilyn ei arweinydd ar hyd-ddo, er rhwygo ei ddillad, ac weithiau ei ddwylo hefyd, yn yr ymdrech.

Yr oedd gweld John Ambros yn deall ei ffordd cystal yng nghyffiniau Plas Llanwennol yn peri cryn lawer o syndod i Huw, a phan gafwyd lle gweddol glir ar y llwybr, rhwng y coed, beiddiodd ofyn iddo sut y daeth i wybod cystal am y lle.
"Pan oeddwn yn fachgen," oedd yr ateb, ac yna tawodd, fel dyn oedd wedi dwedyd mwy nag a fwriadai.
"Ond na hidia am hynny," ychwanegodd.
"Y mae yna lawer o bethau y cei di eu gwybod gyda hyn, ac mi fydd yn rhaid i ti eu cadw nhw yn ddistaw, cofia."
"O'r goreu," meddai Huw; "mi fedraf gau fy ngheg."
"Y mae honno yn ddawn brin, wel di," oedd ateb Ambros. "Ond arfer hi 'rwan, canys yr ydan ni yn bur agos at y tŷ."
Yr oedd Ambros yn ei le, a chyn pen munud neu ddau daethant i le agored yn rhywle yng nghefn y Plas, hollol ddieithr i Huw. Safent yng nghysgod darn croes, un o ddarnau hynaf yr hen Blas, a gallesid meddwl, wrth edrych ar y muriau tywyll, nad oedd neb o gwbl yn byw yno. Tyfai y gwellt yn hir yn y fan honno, a dangosai y pant yn y tir y bu yno ffos ddŵr o amgylch y muriau ar un adeg. O amgylch y llecyn y safent arno tyfai coed, ac yn un man yr oedd derwen fawr fel pe'n pwyso yn erbyn y mur. Yr oedd pob man yn ddistaw; nid oedd sŵn na llais yn unlle.
"Edrych i fyny," sibrydai Ambros yng nghlust Huw, ac edrychodd yntau.
Gwelodd fod bwlch yn y mur ar gyfer brigau uchaf y dderwen. "Y mae ffenestr yn y fan yna," meddai Ambros yn isel. "Rhaid i mi gyrraedd ati."