Rhwng Rhyfeloedd/Y Digwyddiad yn y ffordd gul
| ← Perygl Huw Anwyl | Rhwng Rhyfeloedd gan Edward Morgan Humphreys |
Y gyllell → |
PENNOD III.
Y DIGWYDDIAD YN Y FFORDD GUL.
Yr oedd yn dywyll iawn pan gychwynnodd Huw allan o'r tŷ.
Croesodd y caeau sydd rhwng pentref Llanwennol a'r môr, a chyn pen hir daeth i'r hwylfa, neu ffordd gul, a arweiniai i gyfeiriad y clogwyn. Yn y lle hwnnw terfynai y tir yn swta, a disgynnai yn geulan o graig ddu, ddanheddog i'r traeth islaw. Mewn un man yr oedd bwlch yn y geulan, ac oddiyno arweiniai math o lwybr at enau ogof. At honno y cyfeiriai Alun Tomos, canys bu yn ddefnyddiol iddo ef a'i gyd-smyglwyr fwy nag unwaith, ac yr oedd swyddogion y Llywodraeth eto heb ddyfod i wybod am ei bodolaeth.
Cuddid y bwlch, y llwybr, a'r ogof, gan dwmpathau mawr o eithin a mieri. Ni buasai neb, heb wybod am y lle, yn meddwl fod yno na bwlch na llwybr, a phasiodd Cooke a Watson y fan lawer gwaith heb weld dim yn wahanol ynddo i rywle arall ar ymyl y geulan.
Yr oedd yn guddfan ddiogel, ac yno y bwriadai Huw fynd yn awr am loches rhag y llongwyr.
Cerddai yn wyliadwrus iawn, canys er uniced y ffordd yn gyffredin, gwyddai nad oedd dim yn rhy ofalus iddo fod. Yr oedd yn dywyll iawn rhwng y gwrychoedd uchel, ac ni welai lathen o'i flaen.
Ond yn sydyn, clywodd sŵn lleisiau. Safodd. Nid oeddynt yn ei ymyl, ond eto deallodd eu bod yn rhywle yn y tywyllwch o'i flaen. Ciliodd Huw at ochr y gwrych, a gwrandawodd â'i holl egni.
Bu am beth amser yn methu adnabod un o'r lleisiau. Ni chlywai ddim ond y lleisiau; ni ddeallai y geiriau.
Beth os darganfuwyd ei loches? Beth os oedd y press gang yno, gan ddyfalu y byddai iddo geisio noddfa yn y fan honno? Gwrandawodd drachefn â'i holl egni.
Ond nid oedd yno ond dau ddyn yn siarad. Yr oedd llais un ohonynt yn gryfach na'r llall, ond yr oedd yn amlwg fod y ddau yn ceisio siarad yn isel. Ni ddeallai Huw yr un gair a ddywedent, ond unwaith neu ddwy credai fod rhywbeth adnabyddus iddo yn llais un ohonynt. Ond ni allai gofio ym mha le y'i clywodd o'r blaen, ac yn lled anaml y cawsai graff arno o gwbl.
Closiodd Huw yn nês at y gwrych rhag ofn i'r ddau ddyfod i'w gyfeiriad ef. Aeth y siarad ymlaen am beth amser, ac yna clywodd Huw ryw sŵn dieithr. Aeth ias o fraw drosto. Yr oedd y sŵn yn rhywbeth rhwng tagfa a phesychiad, a dilynwyd ef gan sŵn Yna bu rhywbeth trwm yn syrthio i'r llawr. distawrwydd am ennyd.
Meddyliodd Huw am fynd yn ei flaen yn wyliadwrus er mwyn cael gweld beth a ddigwyddodd, ond ataliwyd ef drachefn gan sŵn arall. Nid sŵn siarad oedd hwn yn awr. Sŵn dyn yn griddfan yn wannaidd ydoedd, y tu hwnt i bob amheuaeth.
Teimlodd y dyn ieuanc yng nghysgod y gwrych ei waed yn fferru yn ei wythiennau. Pa beth oedd yn digwydd yn y tywyllwch o'i flaen?
Yna clywodd rywun yn symud, ac yn ei wthio ei hun drwy'r gwrych yn egnïol. Dilynwyd hynny gan sŵn rhywun yn disgyn yn y cae yr ochr arall i'r clawdd, fel pe buasai wedi neidio.
Yna bu distawrwydd.
Ni wyddai Huw yn iawn pa hyd yr arhosodd yng nghysgod y gwrych. Ni wyddai beth i'w wneuthur. Ofnai fynd yn ei ol, ac ofnai yr hyn oedd ymlaen hefyd. Ond credai y dylai gyrraedd diogelwch yr ogof, deued a ddelo, a mentrodd gerdded yn araf a gwyliadwrus ymlaen, gan wneuthur cyn lleied o sŵn ag a allai.
Yr oedd yn nês i ymyl y geulan nag a feddyliodd. Clywai sŵn y tonnau yn torri ar y traeth islaw. Ond nid oedd sŵn arall yn unman.
Aeth yn ei flaen drachefn, ac yn awr cofiodd fod Alun Tomos wedi addo ei gyfarfod yn yr hwylfa. Pa le yr oedd, tybed? Meddyliodd y gallai fod wedi cyrraedd i'r ogof o'i flaen.
Aeth ymlaen drachefn, a bu agos iddo faglu a syrthio ar draws rhywbeth oedd ar lawr. Safodd yn sydyn a thynnodd yn ol. Ond nid oedd dim yn symud na llais yn torri ar y distawrwydd, a phenderfynodd Huw wybod beth oedd yno.
Penliniodd ar y ffordd ac estynodd ei law. Cyffyrddodd, er ei fraw, a wyneb dyn. Daeth ias o ddychryn drosto drachefn, ond mileiniodd, a thynnodd ei law dros y corff oedd o'i flaen. Ni bu raid iddo wneuthur hynny fwy nag unwaith i ddeall fod pwy bynnag oedd yno yn hollol farw.
Ceisiodd ei weld, ond yr oedd yn dywyll fel y fagddu, ac ni allai weld dim. Deallodd yn unig fod gan y truan ddillad da amdano,—dillad gwahanol i eiddo unrhyw un yn y pentref oddigerth Capten Gruffydd. Ond nid y capten oedd; gwyddai hynny oddiwrth ei faintioli.
Pan yn penlinio fel hyn yn y tywyllwch wrth ochr y corff marw, clywodd Huw ryw sŵn yr ochr arall i'r gwrych. Deallodd fod yno rywun yn symud yn araf ac yn wyliadwrus. Beth ddeuai ohono?
Arhosodd cyn ddistawed â llygoden, gan wrando â'i holl egni am ryw sŵn eto. Ond ymddangosai fod pwy bynnag oedd yno wedi cilio—neu ei fod am aros cyn ddistawed â Huw ei hun.
O'r diwedd mentrodd Huw godi ar ei draed. Camodd dros y corff yn ddistaw, ddistaw, a hanner ymgripiodd, ni wyddai yn iawn sut, hyd at ymyl y geulan. Yr oedd y môr odditano, a phenderfynodd ei daflu ei hun i lawr i'r traeth yn hytrach na syrthio i ddwylo ei elynion.
Ond ni ddaeth neb ato, ac nid oedd unrhyw arwydd fod neb yn ymyl. Meddyliodd Huw am y peth distaw hwnnw a orweddai y tu ol iddo, ac arswydodd. Ond penderfynodd geisio noddfa, serch hynny.
Aeth ymlaen hyd at ymyl y geulan, ar ei bedwar nes cyrraedd y bwlch. Yna tynnodd dusw o frwyn wrth waelod y llwyn drain, ac wrth wneuthur hynny agorodd dwll, tebyg i enau ffau llwynog. Yr oedd yn ddigon mawr i ddyn fynd iddo wrth orwedd ar ei hyd ac felly yr aeth Huw i mewn. Wedi mynd i gysgod y drain unwaith, yr oedd digon o le rhwng eu bonion iddo droi a thynnu y brwyn yn ol i'w lle i guddio yr agoriad.
Aeth i lawr ar hyd y llwybr cul a garw hwnnw yn y tywyllwch. Arweiniai y llwybr, fel y dywedwyd eisoes, hyd wyneb y geulan, ac i'r anghyfarwydd buasai yn beryglus i'r eithaf, hyd yn oed wrth oleu dydd. Nid oedd yn hollol ddiberygl i'r cyfarwydd yn y tywyllwch. Ond llwyddodd Huw i'w dramwyo yn ddiogel, a chyrhaeddodd enau yr ogof. Yno drachefn aeth drwy oruchwyliaeth gyffelyb gyda'r drain, ac aeth i mewn, drwy'r twll a agorodd, i'r ogof.
Wedi cyrraedd y lloches yma, yr oedd yn lle digon cysurus. Yr oedd y graig yn sych, a chadwai Alun Tomos amryw gasgiau a phlanciau yno. Yr oedd yno wellt ar hyd y llawr hefyd, a thwr o sachau sychion. Crogid un sach dros enau yr ogof rhag i ddim goleuni a fyddai yn yr ogof daflu allan i'r môr, yn ogystal ag i atal y gwynt oer rhag dyfod i mewn. Anodd fuasai meddwl am le diogelach.
Gorweddodd Huw ar y gwellt. Yr oedd ei feddwl yn gynhyrfus iawn, ac ni wyddai yn y byd beth i'w wneuthur nesaf. Yr oedd ei sefyllfa, os oedd y press gang ar ei ol mewn gwirionedd, yn beryglus a difrifol ddigon. Ac, yng nghanol ei holl helynt, dyna ddirgelwch y dyn marw yn yr hwylfa. Yr oedd hynny yn beth rhyfedd ac yn beth difrifol hefyd. Yr oedd cwestiwn arall yn pwyso ar ei feddwl o hyd; paham yr oedai Alun Tomos?
Pan yn synfyfyrio fel hyn clywodd Huw rywun yn dyfod i lawr y llwybr cudd. Credai mai Alun Tomos oedd yno, ond rhag ofn mai nad ïe, gafaelodd mewn darn o haearn i'w amddiffyn ei hun ag ef os byddai raid.
Daeth yr ymwelydd yn nês, a gwelodd Huw ei ben yn dyfod i mewn i'r ogof, ond ni ddywedodd Huw yr un gair. Er dirfawr ollyngdod iddo, clywodd lais Alun Tomos yn gofyn,—"Huw, wyt ti yma?"
"O'r goreu," meddai Huw. "Chi sydd yma?"
"Ie," meddai Alun, gan ddyfod i mewn a gollwng y sach yn ol dros enau yr ogof. "Y mae'n rhaid i ni gael goleu."
Tarawyd Huw gan rywbeth dieithr yn llais yr hen ŵr. Ni wyddai yn iawn beth oedd, ond yr oedd yno rywbeth na byddai yno bob amser, ond ni ddywedodd ddim. Yr oedd fel pe syrthiasai rhyw ddistawrwydd anghysurus ar y ddau.
Goleuodd Alun Tomos lanter fechan, a chuddiodd ei goleuni yn ofalus rhag genau yr ogof. Yna, wrth lewyrch gwan y goleuni hwnnw, gwelodd Huw fod wyneb Alun yn wyn. Ni wyddai ef fod ei wyneb yntau cyn wynned a'r calch hefyd.
"Lle buoch chi mor hir?" meddai. "Bûm yn disgwyl amdanoch yn yr hwylfa yn hir."
Rhaid fy mod i wedi dy golli di rywsut," meddai'r llall. "Welais i yr un golwg arnat ti."
"Ddaethoch chi i lawr ar hyd yr hwylfa?" meddai Huw. Tybiodd fod Alun Tomos yn edrych yn rhyfedd arno cyn ateb.
"Do," meddai o'r diwedd.
"Welsoch chi ddim byd yno, ynteu?" meddai Huw yn bryderus. Daeth syniad ofnadwy i'w feddwl. Beth oedd yn adnabyddus yn un o'r lleisiau a glywodd yn yr hwylfa?
"Dim byd, am wn i. 'Roedd hi cyn dywylled a bol buwch yno," meddai Alun; a thybiodd Huw fod—rhywbeth dieithr iawn yn ei lais erbyn hyn.
Rhaid eich bod chi yn cerdded yn agos iawn i'r ymyl, ynteu," ebe Huw.
"Pam, dywed?" gofynnai Alun Tomos yn siarp. "Welaist ti rywbeth yno?"
"Naddo," atebai Huw, "canys 'roedd hi yn dywyll ofnadwy, ond mi glywais ac mi deimlais rywbeth."
"Beth, yn eno'r dyn?" Nid oedd Alun Tomos yn edrych ar Huw o gwbl.
Yna dywedodd Huw yr holl hanes am y siarad a glywodd ac am y llofruddiaeth yn y tywyllwch, canys ni allai gredu ei bod yn ddim arall. Sylwodd, tra y siaradai, fod Alun Tomos yn syllu arno, ond nid ym myw ei lygaid; yn hytrach, cadwai ei olwg ar ei fraich o hyd.
"Wel," meddai, ar ol i Huw ddweyd yr hanes, "mi fydd yma holi ac ymofyn am hyn eto. A 'does gen ti yr un syniad pwy oedd o?"
"Nac oes, wrth gwrs. Sut y gallai fod? Yr oedd hi yn rhy dywyll o lawer."
Ddaru ti ddim meddwl am y dyn hwnnw oedd yn y Plâs gyda Capten Gruffydd? Dyna'r unig un y gallaf i feddwl amdano yn gwisgo fel yna."
Edrychodd Huw ar yr hen ŵr, a chyfarfu eu llygaid. Disgynnodd llygaid Alun Tomos, a daeth ton o feddyliau ofnadwy dros Huw drachefn.
"Naddo," meddai; "ni feddyliais i am hwnnw. Paham 'roeddech chi yn gofyn?
"O, dim byd; dim ond rhyw feddwl amdano wrth dy ddisgrifiad ti."
Bu'r ddau'n distaw am ysbaid wedyn. O'r diwedd dywedodd Alun Tomos,—"Wel, rhaid i mi fynd 'rwan. Dyma lanter i ti, ond paid a'i goleuo ond lleia fedri di. A dyma fwyd. Y mae yna ddŵr yn y ffynnon yna ym mhen draw yr ogof. Fe ddof yma yfory, neu mi ddaw rhywun arall, i adael i ti wybod sut y mae pethau."
"O'r goreu," meddai Huw. Siaradai fel dyn yn siarad drwy'i gwsg, neu fel un a gariai faich trwm ar ei feddwl. Edrychodd Alun Tomos arno yn graff.
"Nos da i ti," meddai, "a chadw dy hun o'r golwg. Mi fydd yn ddiogelach i ti swatio am rai dyddiau beth bynnag. Os bydd raid, mi fydd yn ddigon hawdd dy gael di ar fwrdd llong John Ambros fel y gelli di fynd o'r wlad—os bydd raid."
"Mynd o'r wlad!" meddai Huw. "I beth, deydwch? "
"O, dim byd," meddai Alun Tomos, yn frysiog; dim ond os bydd raid, wyddost. Ond hwyrach na fydd dim rhaid. Nos da i ti."
Nos da," meddai Huw yn syn, ac aeth yr hen ŵr allan drwy y twll, a chaeodd Huw ef yn ofalus ar ei ol.
Wedi iddo fynd, ffurfiodd holl ofnau Huw yn un frawddeg, brawddeg yr ofnai ei sibrwd, hyd yn oed wrtho ef ei hun,—tybed fod Alun Tomos yn meddwl mai efe a laddodd y dyn yn yr hwylfa,—tybed—tybed ei fod am daflu'r cyfrifoldeb arno pa un ai oedd yn meddwl felly ai peidio?