Rhwng Rhyfeloedd/Yn yr ogof
| ← Y gyllell | Rhwng Rhyfeloedd gan Edward Morgan Humphreys |
Sian a'r Capten → |
PENNOD V.
YN YR OGOF.
Ni wyddai Sian yn iawn sut y treuliodd y diwrnod hwnnw. Yr oedd gweld cyllell Huw, a chlywed Capten Gruffydd yn dywedyd mai ar gorff y dyn a laddwyd y'i cafwyd wedi ei llethu yn lân.
Ceisiodd gysuro Gwen, mam Huw, ond ofer fu'r cais. Yr oedd calon Sian druan yn rhy drom ei hunan iddi fedru ysgafnhau dim ar faich neb arall.
Diflannodd Alun Tomos i rywle pan ddaeth yr hwyr, a gadawyd Sian ei hun yn y bwthyn. Bu amryw o'i chymdogion ymhlith y pentrefwyr yno yn ystod y dydd yn ei holi ac yn ceisio cael gwybod faint a wyddai hi am y trychineb.
Holent ym mha le yr oedd Huw, a phryd y gwelodd Sian ef ddiweddaf, ond nid oeddynt fawr elwach ar hynny. Nid geneth barablus oedd Sian un adeg, a'r diwrnod hwnnw anodd oedd tynnu gair dros ei gwefus. Dywedodd na wyddai hi ddim am symudiadau Huw, ac o'r diwedd, wedi methu bob ffordd, gadawodd y cymdogion lonydd iddi.
Ni wyddai yr eneth beth i'w wneuthur. Ni chafodd air â'i thad ar hyd y dydd. Arferai bwyso llawer ar ei graffter a'i wroldeb ef, ond yn awr yr oedd rhywbeth dieithr yn ei ymddygiad.
Teimlai ei ferch fel petai rhywbeth wedi dyfod rhyngddynt.
Ni wyddai ym mha le yr oedd ei thad yn awr. Aeth o'r tŷ, gan ddywedyd rhywbeth am lan y môr pan ddechreuodd dywyllu, ac yr oedd yn agos i ddwy awr er hynny. Ni wyddai Sian beth allsai fod yn galw amdano cyhyd.
Yna meddyliodd am Huw yn unig yn yr ogof. Ni allai gredu am foment ei fod yn euog. Gwyddai yn rhy dda am ei natur dyner, garedig, ac agored. Yr oedd trywanu dyn yn y tywyllwch yn beth hollol groes i'w reddfau.
Os felly, meddai yr eneth wrthi ei hun, beth os y mentrai allan o'r ogof gan feddwl fod y press gang wedi mynd heibio? Ni ŵyr efe ddim am y lofruddiaeth yma, ac os y daw allan y mae'n sicr o gwympo i ddwylo ei elynion.
Yr oedd y syniad yn un ofnadwy—yn un dychrynllyd. Beth oedd i'w wneuthur?
Geneth ddewr oedd Sian, geneth wedi arfer wynebu peryglon, er na alwyd arni erioed o'r blaen i wynebu perygl fel hwn. Cynorthwyodd lawer ar ei thad i herio swyddogion y llywodraeth, ac nid oedd arni eu hofn. Nid oedd neb yn Llanwennol yn edrych ar smyglio fel drwg moesol. Hyd yn oed pe lleddid swyddog mewn brwydr deg ar lan y môr, y mae'n debyg na buasent hwy, na Sian yn eu plith, yn edrych ar hynny ond fel damwain anffodus iawn.
Ond yr oedd llofruddiaeth yn beth arall. Nid oedd Mr. Carrier yn ymyrryd â'r smyglars, hyd y gwyddai neb.
Eto ni chollodd Sian ei dewrder. Pan feddyliodd am berygl mawr Huw, penderfynodd fod yn rhaid ei rwystro rhag rhoddi ei hun yn y fagl, deued a ddelo.
Nid oedd ei thad yn y tŷ. Yr oedd Gwen Anwyl yn rhy hen ac yn rhy ddrylliog ei theimlad i wneuthur dim. Rhaid oedd i Sian wneuthur y cwbl ei hun.
Pan benderfynodd hynny, dechreuodd wneuthur y trefniadau angenrheidiol ar unwaith. Yr oedd yn rhaid iddi fynd i'r ogof i rybyddio Huw, ac yr oedd yn rhaid iddi fynd yno heb i neb ei gweld.
Yn ffodus, yr oedd yn dywyll iawn, ac ni chyfarfu Sian â neb yn y pentref. Trôdd i'r caeau trwy adwy, ac yna cerddodd yn gyflym tua glan y môr, gan gadw cyn agosed i'r gwrych ag y medrai.
Nid oedd llwybr y ffordd y cerddai, ac ni welodd neb. Yr oedd yn gwybod cystal â'i thad am safle yr ogof, a chyrchodd tuag ati yn uniongyrchol. Pan neshaodd at y geulan, cerddodd yn wyliadwrus iawn. Feallai fod rhai o'r swyddogion o gwmpas, neu rai o'r dynion a fu'n chwilio am Huw drwy'r dydd. Safodd amryw weithiau i wrando, ond nid oedd sŵn heblaw su y don i'w glywed o unman
Penderfynodd o'r diwedd fod popeth yn ddiogel, a dechreuodd fynd i lawr ar hyd y llwybr cul a arweiniai ar hyd wyneb y geulan i'r ogof. Curai ei chalon yn enbyd, canys ni wyddai beth a'i cyfarfyddai ym mhen ei thaith, ond cyrhaeddodd enau y guddfan yn ddiogel.
Yno nid oedd na sŵn na goleuni. Ond gwyddai Sian nad oedd hynny ond peth i'w ddisgwyl, a sibrydodd "Huw" yn isel.
Ni chafodd ateb y tro cyntaf, a dychrynodd drwyddi wrth feddwl y gallai y lle fod yn wag. Ond dywedodd "Huw" drachefn, ac er ei llawenydd cododd cwrr y sach.
"Pwy sydd yna?" meddai llais Huw.
"Y fi—Sian," meddai'r eneth yn isel.
"Sian!" meddai Huw, gan godi mwy ar y sach. "Tyd i mewn, mewn munud. Ond ni ddylet ti ddim dwad yma fel hyn."
Aeth Sian i mewn i'r ogof, a pharatodd Huw i oleuo cannwyll, ond rhwystrodd Sian ef.
"Paid," meddai, " rhag ofn fod rhywun yn gwylio." "Beth," ebe Huw, "ydi'r press o gwmpas o hyd? 'Rydw i wedi hen flino yn yr hen dwll yma, weldi, Sian."
"O Huw!" meddai hithau, "dwn i ddim am y press, ond y mae yna berygl gwaeth o lawer na hynny. Fu neb yma yn deyd wrthat ti?"
Neb yma? Naddo, yr un creadur byw ers pan fu dy dad yma neithiwr. Ond gad i mi oleuo'r lantar yma i mi gael golwg arnat ti, fy nghariad i."
"Na, na," meddai Sian.
"Mae'n rhaid i ti beidio. Chlywais ti ddim fod Mr. Carrier oedd yn aros yn y Plas, wedi ei ladd yn yr hwylfa neithiwr."
"Y fo oedd o?" meddai Huw.
"Yr oeddat ti yn gwybod?" meddai Sian gydag ing yn ei llais. "O, Huw, Huw, dywed mai nid y chdi ddaru, dywed, er mwyn popeth, Huw, na wyddost ti ddim am y peth."
"Na wn i, yn eno'r dyn," meddai Huw mewn syndod. "Mi wyddwn i fod yna ddyn wedi ei ladd yn y fan yna neithiwr, ond wyddwn i ddim pwy oedd o na sut y lladdwyd o mwy na babi heb ei eni."
"O, yr oeddwn i'n siwr, yr oeddwn i'n siwr o hynny!" meddai Sian druan, a thorrodd i wylo'n hidl. Yr oedd clywed Huw yn gwadu mor bendant yn ollyngdod mawr iddi, a chollodd bob llywodraeth ar ei theimladau am funud.
Cydiodd Huw amdani a cheisiodd ei chysuro ei oreu. "Pam roeddet ti'n meddwl y gwyddwn i ddim, Sian fach?" gofynnai yn dyner. A gofynnodd iddo ei hun yn ffyrnig, tybed fod ei thad wedi dywedyd rhywbeth wrthi?
Ymhen ychydig, meddiannodd Sian ddigon arni ei hun i fedru dechreu ar yr hanes. Dywedodd fel y daeth Capten Gruffydd a'r swyddogion i chwilio am Huw y diwrnod hwnnw, ac o'r diwedd dywedodd am y gyllell a gafodd Capten Gruffydd.
"Diawst i," meddai Huw, "tybed mai fy nghyllell i oedd hi?" Chwiliodd yn ei boced, ond nid oedd y gyllell yno. "Ie, yn wir," meddai, I rhaid ei bod wedi disgyn o fy mhoced pan 'roeddwn i'n edrach y corff. Sian, y mae pethau yn edrych yn bur ddrwg. 'Dwn i ddim mwy na thithau pwy laddodd y creadur anffodus, ond y mae'n nhw'n siwr ohona i, ar ol cael hyd i'r gyllell yna. Y mae'r capten yna am fy ngwaed i ers llawer dydd."
"O, Huw!" meddai'r eneth. "Beth wnawn ni, dywed?"
"Y mae'n anodd deyd," meddai Huw. "P'le mae dy dad?"
"'Dwn i ddim. 'Roedd o yn y tŷ drwy'r dydd, ond mi aeth allan gyda'r nos, a 'dwn i ddim ple y mae o rwan."
"Rhaid i mi gael i weld o, cyn y galla i benderfynu beth i'w wneud," meddai Huw. "Ond cofia di, Sian, fy mod i yn hollol ddiniwed, a wnei di?"
"Gwnaf, gwnaf," meddai'r eneth. "Ddaru mi ddim meddwl am funud fod y peth yn wir. O, Huw beth sydd yna?"
Distawodd y ddau. Gwrandawsant. Yr oedd yno ryw sŵn megis uwch eu pennau. Yr oedd yn amlwg fod rhywun yn dyfod i lawr i'r ogof.
Gwthiodd Huw Sian o'r tu cefn iddo, i ben draw yr ogof, a gosododd ei hun yn barod wrth y drws.
Ar ol a glywodd gan Sian, ni phetrusai ymladd am ei fywyd, os gelyn oedd yno. Gallai dyn cryf fel efe amddiffyn genau cul yr ogof yn erbyn byddin, pe byddai angen, canys ni allai ond un dyn ar unwaith ddyfod ar hyd y llwybr cul.
Clywai Sian yn anadlu yn drwm ac yn gyflym o'r tu ol iddo. Yr oedd y dyn, pwy bynnag oedd yno, yn dyfod yn nês o hyd, ac o'r diwedd daeth at ddrws yr ogof.
Gafaelodd Huw yn dynnach yn y darn pren oedd yn ei law.
"Huw," meddai llais Alun Tomos; a bu bron i Sian weiddi mewn gollyngdod pan ddeallodd mai ei thad oedd yno.
Daeth Alun Tomos i mewn i'r ogof, a dywedodd Huw: "Wyddwn i ddim pwy oedd yna. Y mae Sian yma."
"Sian!" meddai'r pysgotwr mewn syndod. "Sut y doist ti yma, ac i beth?"
"Ar hyd y caeau, 'nhad," meddai'r eneth. "Yr oedd arna i ofn i Huw fentro allan, ac yntau heb wybod am y perygl. A wyddwn i ddim ple 'roeddach chi."
"Felly," meddai Alun Tomos; "ac y mae Huw yn gwybod am y perygl?"
"Gwn," meddai Huw yn gwta; "ac yr ydw i mor ddiniwed â Sian yma oddiwrth y drwg. Mi welais i y corff, a dyna'r cwbl. Rhaid fod fy nghyllell i wedi disgyn o 'mhoced i."
Ddaru mi ddim meddwl dy fod ti'n euog," meddai Alun Tomos; "ond y mae pethau wedi drysu'n ofnadwy."
"Lle buoch chi heno, 'nhad?" meddai Sian.
"Mi fûm ar hyd glan y môr," meddai Alun; mi welais John Ambros."
John Ambros! Dyna'r gŵr y soniodd Alun Tomos amdano wrth Huw y noson cynt. Cofiodd Huw am hyn, a chredodd nad oedd Alun Tomos ond yn rhoddi cynllun mewn gweithrediad a wnaeth yn ei feddwl er y noswaith cynt. Yr oedd yma rhyw ddirgelwch nas deallai ef.
Yr oedd John Ambros yn adnabyddus fel un o smyglwyr mwyaf beiddgar y glannau. Hwyliai rhwng Ffrainc a glannau Cymru yn aml, a chymerai arno fod yn marchnata fel rhyw longwr arall. Gwnai hynny i raddau, y mae'n wir; ond gwyddai pawb mai nid ar hynny y bywiai. Yr oedd rhywbeth arall yn dyfod a llawer mwy o elw i John Ambros. Yr oedd ei allu a'i feiddgarwch yn ddihafal, ac ni lwyddodd yr un swyddog, boed ef mor egnïol ag y bo, i roddi llaw arno hyd yn hyn.
Yn wir, sibrydid gan bobl y wlad fod ar y swyddogion ofn John Ambros. Gwyddent ei fod yn ŵr parod gyda'i arfau, a'i fod wedi tyngu na chymerid ef yn

garcharor byw byth. Beth bynnag am hynny, yr oedd ei gyfrwyster a'i allu fel morwr wedi ei gadw yn glir oddiwrth y swyddogion hyd yn hyn. Er eu bod yn gwybod am ei alwedigaeth yn eithaf da, nid oedd ganddynt brofion, ac heb brofion digonol, ni allent wneuthur dim.
"John Ambros, 'nhad?" meddai Sian. "Beth fedr o ei wneud i ni yn awr?"
"Daw â'r scwner yma nos yfory," meddai Alun Tomos; "ac fe gaiff Huw yma fynd i ffwrdd efo fo. 'Does dim arall amdani hi. Wiw iddo fo ddangos ei wyneb yn y pentref, ac yr wyf yn bur anesmwyth amdano fo yma. Y mae'r Capten yna mor filain am ei waed o rywfodd, ac y mae o'n siwr o gael hyd iddo fo yma."
"Ond ni chafodd neb erioed hyd i'r ogof yma," meddai Sian. Yr oedd hi yn awyddus am gadw Huw yn y cyrraedd, er gwaethaf y cwbl.
"Feallai hynny," meddai Alun Tomos, braidd yn fyr ei amynedd; "ond ni fu neb yn chwilio, fel y chwilir 'rwan, erioed o'r blaen. A peth arall,—rhaid i rywun gerdded yn ol â blaen gyda bwyd i Huw os erys o yma, ac y mae hynny yn sicr o dynnu eu sylw nhw at y lle. Beth wyt ti yn ei ddeyd, Huw?"
"Rydw i'n meddwl eich bod chi yn eich lle yn hollol, Alun Tomos," meddai Huw. "Yr wyf fi wedi blino 'ngalon yn y lle yma eisoes, a byddai'n well gennyf fod ar y môr efo John Ambros o lawer. Mi fydd yn ddiogelach lawer i mi, Sian," ychwanegai, gan droi at yr eneth.
Gwelodd Sian hynny hefyd, a chydsyniodd. Yna dywedodd—
"Mi ddof yma cyn i ti gychwyn, Huw. Mi fydd yn well i mi fynd yn awr, rhag bod dau ohonom yn mynd gyda'n gilydd. Y mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Cymer ofal, Huw."
"Mi wnaf, fy nghariad i," meddai Huw, gan ei chusanu; "a chymer dithau ofal hefyd. Mi gei weld y daw popeth yn iawn eto."
"Gweddïaf ar Dduw am hynny," meddai hithau wrth fynd allan.
Eisteddodd y ddau ddyn mewn distawrwydd a thywyllwch am ysbaid. Symudodd Alun Tomos yn aflonydd, ond ni ddywedodd Huw yr un gair.
O'r diwedd torrodd Alun Tomos ar y distawrwydd. "Huw," meddai, "pwy laddodd Carrier? " Cododd Huw ei ben.
"Dywedais," meddai, "na wyddwn i a 'dwn i ddim chwaith. Os oes rhywun yn gwybod, y chi ddylai wybod."
"Y fi? Paham?"
"Yr oeddach chi o gwmpas," meddai Huw yn araf. "Welais i neb yn yr hwylfa, a chefais Carrier wedi marw. Dywedsoch na welsoch chi ef, ond ym mha le yr oeddach chi felly? A phaham y gofynnwch i mi pwy a'i lladdodd o?"
Ni atebodd Alun Tomos ar unwaith.
"Dyma'r paham y gofynnais," meddai o'r diwedd; "yr oeddat ti wedi bod yn yr hwylfa—'roeddwn inna yn y cae am y gwrych, a chlywais sŵn dy droed. Gwn dy fod wedi bod gyda'r corff, a gwn mai dy gyllell. di a gafwyd yn ei ymyl. 'Roeddwn i'n meddwl-gan dy fod ti wedi bod am dipyn yn y lle—dy fod ti wedi gweld neu glywed rhywbeth. Neu—neu"
"Neu beth, Alun Tomos?"
"Wel, 'dwn i ddim beth oedd y dyn yma, ond 'roeddat ti yn ymladd am dy fywyd, yn dianc, cofia,—a wyddwn i ddim beth allaset ti ei wneud. Fuaswn i ddim yn beio rhyw lawer arnat ti—ddim yn dy feio di o gwbl, wyddost"
"Alun Tomos," ebe Huw, "dywedais ar fy llw wrth Sian nad oedd wnelo fi fwy â'r peth na'r baban heb ei eni. A pham y mae'n rhaid i chwi dreio taflu'r bai ar fy nghefn i fel hyn o hyd?"
"'Dydw' i ddim yn treio taflu'r bai ar dy gefn di, Huw," meddai Alun Tomos. "'Doeddwn i ddim ond yn gofyn i ti. Mi gaf ddweyd wrth dy fam nad oedd a fynnot ti ddim â'r peth."
Druan o mam!" meddai Huw. "'Does wybod pryd y caf i ei gweld hi eto. Ond, dywedwch un peth wrtha' i, Alun Tomos. Wyddoch chi ddim pwy laddodd Carrier?"
"Sut y gwn i?" meddai Alun.
"'Doeddwn i'n deyd wrtha ti fy mod i am y gwrych o hyd."
"Wel," meddai Huw, ar ol peth distawrwydd, "rhaid fod yna rywun yn y busnes na wyddom ni ddim amdano. Ond ar fy ysgwyddau i y daw y baich. Oni fyddai yn well i mi wynebu'r cwbl, a phrofi fy mod yn ddieuog?"
"Paid a gwirioni, fachgen!" meddai Alun Tomos yn ffyrnig. "Sut y medri di brofi hynny byth, yn wyneb dy gyllell, a'r ffaith dy fod ti yma ar y pryd? Heblaw hynny, y mae yna glwt o waed ar lawes dy gôt ti, mi gwelais o neithiwr. Paid a bod yn ffŵl. 'Does dim iti ei wneud ond mynd ar fwrdd llong John Ambros. Feallai y medri di wneud dy gartref mewn rhyw ran arall o'r wlad, lle na bydd neb yn dy nabod ti."
"Mi welaf," meddai Huw yn chwerw, "eich bod chwi wedi penderfynu fy alltudio, am ryw amcan neu gilydd."
"Mi welet," atebodd Alun, "petaet ti hanner yn dy ben, fy mod i'n cynllunio'r goreu ar dy gyfer di. 'Dwn i ddim beth sydd arnat ti heno. Ond mi fydd y scwner yma toc wedi iddi nosi yfory, ac mi fydda innau yma hefo rhaff. Rhaid i ni dy ollwng di i lawr hyd wyneb y geulan."
"O'r goreu," meddai Huw; "ac mi fyddai'n well i chi fynd rwan, rhag ofn i rai o'r swyddogion yna ddwad i browla o gwmpas. Cofiwch fi at fy mam."
"Mi wnaf," meddai Alun Tomos, gan fynd at ddrws yr ogof. "Nos da i ti 'rwan, a chymer ofal."
Ceisiodd Huw gysgu, ond bu'n hir yn troi ac yn trosi ar lawr caled yr ogof. Credai erbyn hyn fod gan Alun Tomos ryw amcan yn ei gael o'r wlad. Credai yn ei galon mai yr amcan hwnnw oedd dyfnhau y ddrwgdybiaeth yn ei erbyn. Paham yr oedd Alun Tomos yn ceisio gwneuthur hynny? Onid er mwyn cadw ei hun yn ddiberygl?