Rhwng Rhyfeloedd/Yr ymwelydd
| ← Sian a'r Capten | Rhwng Rhyfeloedd gan Edward Morgan Humphreys |
Goleu ar y môr → |
PENNOD VII.
YR YMWELYDD.
YN y cyfamser yr oedd John Ambros yn rhoddi ei gynlluniau ei hun mewn gweithrediad.
Teimlai nad oedd angen llawer o frys gyda chael Huw ar fwrdd y llong, ac yr oedd ganddo fusnes i'w wneuthur cyn mynd at y gwaith hwnnw.
Pan yn hwylio oddiar lannau Ffrainc gwelodd Ambros gwch bychan yn agoshau at ei long. Gwyliodd ef a'r criw y cwch mewn petruster am beth amser, canys yr oedd yn rhaid iddynt fod yn wyliadwrus bob amser rhag swyddogion y naill lywodraeth a'r llall.
Pan welwyd, modd bynnag, nad oedd ond un dyn yn y cwch, penderfynodd Ambros aros amdano.
Cyn pen hir daeth y cwch at ochr y scwner a galwodd y dyn oedd ynddo, mewn Saesneg gweddol, am weld y capten. Gofynnodd Ambros iddo ddyfod ar y bwrdd, a chan fod yn amlwg mai Ffrancwr oedd, trôdd y Cymro i siarad Ffrangeg gydag ef, canys medrai yr iaith honno yn dda.
Ar ol ychydig eiriau, aeth y ddau i lawr i'r caban gyda'i gilydd, a bu hir yr ymddiddan rhyngddynt. Baich neges y Ffrancwr, D'Alton wrth ei enw, oedd cais am gael ei gludo i Lanwennol yng Nghymru.
Rywfodd neu gilydd gwyddai gryn lawer am Ambros a'i ddull o fyw, ac y mae'n debyg iddo amlygu i'r llongwr beiddgar hwnnw rai o'i resymau am ei gais anghyffredin. Dangosodd, beth bynnag, ei fod yn barod i dalu am y gymwynas, a'r canlyniad fu i John Ambros fodloni, a hysbysu y criw y deuai elw a mantais iddynt o gymryd D'Alton gyda hwynt. Bodlonodd y criw hefyd, yn bennaf oherwydd dull canmoladwy y Ffrancwr o dalu ymlaen am yr hyn a ddisgwyliai ei gael, ac oherwydd hynny ni ofynnodd neb gwestiwn pan orchmynnwyd gollwng y dŵr i gwch y Ffrancwr a'i suddo ar unwaith. Hynny a wnaed, a hwyliodd John Ambros tua Chymru. Fel y digwyddai fod, y noson yr oedd i gymryd Huw ar fwrdd y scwner yr oedd hefyd i lanio y Ffrancwr ar draeth Llanwennol.
Gan ei fod yn meddwl nad oedd brys mawr am gymryd Huw oddiar y lan, penderfynodd Capten Ambros mai y peth goreu iddo ef, ac er mwyn y Ffrancwr hefyd, fyddai glanio D'Alton ychydig bach yn uwch i fyny na'r lle yr oedd Huw yn disgwyl amdano.
Felly fu. Rhwyfwyd tua'r lan dan gysgod y tywyllwch, a chafodd D'Alton ei draed ar ddaear Cymru. Ysgydwodd law ag Ambros a diolchodd iddo yn ei Ffrangeg pur, gyda'r acen a ddangosai ar unwaith ei fod ef yn rhywun uwchlaw'r cyffredin.
Cymerwch ofal," meddai Ambros yn ei Ffrangeg Gymreig yntau," mae yna gryn lawer o ryw lwynogod o swyddogion yn ffereta hyd y fan yma o hyd. Cadwch oddiar y ffordd nes i chwi gyrraedd y Plas, ac feallai y byddwch yn ddiogel ar noson mor dywyll."
Pe buasai D'Alton wedi cadw yn hollol at gyngor Ambros, fel y bwriadai wneuthur ar y pryd, y mae'n fwy na thebyg y buasai cwrs y stori hon yn dra gwahanol.
Ond yr oedd yn noson ddu, ac yntau yn ddieithr. Llwyddodd i ddringo y llwybr cul a arweiniai hyd wyneb y clogwyn i'r tir uwchben, ac yna, gan wneuthur ei oreu i ddilyn cyfarwyddiadau Ambros, trôdd ar y chwith, a cherddodd yn gyflym i'r cyfeiriad y dywedwyd wrtho ef fod y Plas. Eto yr oedd yn bur ofalus. Gŵr oedd Pierre D'Alton a gymerodd ran flaenllaw yn helyntion gwaedlyd y chwyldroad yn Ffrainc, ond er iddo fod yn foddion i beri i aml un golli ei ben, eto llwyddodd ef ei hun nid yn unig i gadw ei ben ar ei ysgwyddau, ond hefyd i drosglwyddo ei wasanaeth i Napoleon pan gododd y gŵr hwnnw i'r gallu a'r awdurdod uchaf. Bellach yr oedd Napoleon yn rhwym am ryw hyd, ond yr oedd D'Alton eto'n rhydd ac yn brysur. Gwyddai ei fod yn awr ar un o negeseuon peryclaf ei oes, ac yr oedd yn dra gofalus. Eto, yr oedd ei hyder ynddo ei hun yn gyfryw fel na wangalonnodd am funud. Gwyddai beth oedd ganddo i'w wneuthur, ac yr oedd yn benderfynol o'i gwblhau.
Wedi cerdded am beth amser daeth at wrych. Llwyddodd i wthio ei hun trwyddo, a chafodd ei hun mewn hwylfa gul, hynod o dywyll. Hon oedd yr hwylfa a arweiniai o bentref Llanwennol i ymyl y geulan, a digwyddodd y Ffrancwr ddyfod iddi o fewn llathen neu ddwy i'r fan lle y cafwyd hyd i gorff Carrier.
Nid cynt y cafodd ei hun yn yr hwylfa nag y clywodd sŵn lleisiau yn dynesu. Capten Gruffydd, gyda'i weision a Watson, oedd yno. Siaradai y capten a'r swyddog Saesneg gyda'i gilydd, a cherddai y dynion eraill mewn distawrwydd ar eu hol. Mewn gwirionedd, nid oedd gweision y Plas yn hidio fawr am y gwaith oedd ganddynt mewn llaw; buasai yr esgus leiaf yn ddigon iddynt dros dynnu yn ol, ac feallai fod hynny yn rheswm dros yr hyn a ddigwyddodd.
Pan glywodd D'Alton y lleisiau, meddyliodd mai y peth goreu a fedrai ei wneuthur oedd dianc. Ond yr oedd y gwrych yn rhy gryf iddo wthio drwyddynt cyn i'r dynion ei ddal, ac ni wyddai i ba berygl yr elai pe rhedai hyd y ffordd o'u blaenau.
Safodd i ystyried y sefyllfa am ychydig, ac yna penderfynodd nad oedd dim iddo ei wneuthur ond closio at y gwrych, a disgwyl i'r dynion fynd heibio heb ei weld.
Cyn gynted ag yr ymwthiodd i gysgod y gwrych a'i wneuthur ei hunan cyn lleied ag y medrai, daeth y fintai i'r golwg. Yr oedd lanter gan Watson, ac er nad oedd yn rhoddi llawer o oleuni, rhoddodd ddigon i ddangos i D'Alton fod yno bump neu chwech o ddynion. Ond yr hyn a barodd iddo symud a tharo ei droed ar garreg oedd gweld Capten Gruffydd yn cerdded ar y blaen.
Tynnodd y sŵn a wnaeth sylw'r capten a Watson a safodd y fintai. Edrychai y gweision yn bur bryderus, canys yr oeddynt yn cofio mai dyma'r fan lle llofruddiwyd cyfaill y capten. Tybed fod ei ysbryd yma?
Ond trôdd Watson ei lanter i gyfeiriad y sŵn, ac er ei fawr syndod, gwelodd y Ffrancwr yn edrych arno.
"Helo!" meddai'r swyddog. "Beth yw hyn? Dyma ryw greadur diarth. Beth yw eich enw?" meddai wrth D'Alton.
Gwelodd D'Alton mai ofer oedd ceisio ymguddio bellach. Safodd yn syth, a moes-ymgrymodd o flaen y swyddog synedig.
"Cyfaill i Capten Gruffydd, syr," meddai yn siriol. Yr oedd y gair yn ddigon i'r dynion oedd y tu ol. Deallant ddigon o Saesneg i wybod ystyr yr hyn a ddywedai y Ffrancwr—ac yr oeddynt oll yn sicr iawn yn eu meddyliau mai cyfaill Capten Gruffydd a laddwyd oedd wedi dyfod yn ol. Nid oeddynt yn ddynion ofnus yn wyneb pethau y byd hwn, ond pwy a ddisgwyliai i wŷr pechadurus wynebu ysbryd?
"Y nefoedd fawr?" meddai Dafydd Jones, y blaenaf a'r tewaf ohonynt, a bu bron iddo a syrthio ar ei hyd yn ei ymgais wyllt i droi yn ei ol ynghynt nag y bwriadodd Natur i ddyn o'i faint ef droi. "Y nefoedd fawr!" meddai drachefn, a dechreuodd redeg cyn gynted ag y gallai yn ei ol tua'r pentref.
"Ysbryd, bois, myn diawch!" meddai William Prys, ac ar y gair cymerodd y pedwar gwas y goes, William Prys, yr ieuengaf, ar y blaen, a Dafydd Jones, oherwydd ei faintioli anffodus, yn tuchan ac yn pwffian ar ol, ond yn rhedeg yn filain serch hynny. Ni arafodd yr un ohonynt nes cyrraedd y dafarn yn y pentref, ac yno disgynnodd pob un yn swp yng nghanol y teulu synedig, ac aeth deng munud llawn heibio cyn i un ohonynt fedru dywedyd dim. Yr oedd y tafarnwr bron a thorri ar ei draws eisiau gwybod beth oedd yn bod, ond bu raid i'r pedwar glew gael bawb ei lasiad o gwrw yn rhad ac am ddim cyn ennill digon o nerth i ddechreu ar y stori.
Yn y cyfamser anfonodd Watson un reg ffyrnig ar ol y dynion, ac yna trôdd i edrych ar y Ffrancwr.
"Capten Gruffydd," meddai D'Alton yn Saesneg, y mae'n dda gennyf eich gweld, fy nghyfaill. Y mae llawer dydd ers pan gyfarfuasom o'r blaen."
Edrychodd Watson ar y capten, ac er ei syndod yr oedd hwnnw yn welw fel y galchen, ac fel pe yn methu cael ei anadl.
Yr oedd yn amlwg i bawb fod Capten Gruffydd wedi cael braw neu syndod—feallai y ddau. Edrychodd Watson arno gan ryfeddu. Nid oedd y swyddog yn un o'r rhai cyflymaf ei feddwl ar y goreu, ac yr oedd sefyllfa fel hon yn peri cryn lawer o ddryswch iddo.
Ond ymddangosai y capten fel pe wedi anghofio popeth am fodolaeth Watson. Daliai i edrych ar D'Alton fel un yn gweld drychiolaeth, ac am beth amser ni ddywedodd yr un gair.
Ar y llaw arall, yr oedd y Ffrancwr wedi adennill ei hunan-feddiant yn hollol. Gwenai yn gyfeillgar ar y ddau ddyn o'i flaen, gan edrych o'r naill i'r llall yn ymofyngar, fel pe'n holi'n syn, beth yn y byd oedd arnynt?
Watson ddaeth ato ei hun gyntaf. "A ydych yn ei 'nabod, syr?" gofynnai i Gapten Gruffydd.
"Ei 'nabod?" meddai'r Capten yn syn. "O, nac—hynny ydyw, ydwyf. Hynny ydyw, gwn pwy ydyw."
"Wel, y mae hynny yn adnabod, debygwn i!" meddai Watson, dan ei anadl." Y mae yma rywbeth nad wyf fi yn ei ddeall." Yna ychwanegodd yn uchel: "P'run fyddai oreu i ni ei wneud? Mynd ymlaen, ynteu troi yn ol? Gwelwch fod y dynion wedi ein gadael."
"Rwy'n gweld hynny." meddai'r Capten. "O, gadewch i ni fynd yn ol. Y mae'r boneddwr yma yn gyfaill i mi, ac mi erys gyda mi heno. Diolch i chi Watson, am eich cwmpeini."
'O'r goreu, syr," meddai Watson, ond heb wneuthur unrhyw osgo tuag adref. "Y mae'n dda gennyf ei fod yn ffrind i chwi." Wrtho ei hun, ychwanegai Watson: "Ni welais i erioed ddau gyfaill yn cyfarfod mewn dull rhyfeddach, ac am un ohonynt, ni welais i neb erioed yn dangos llai o falchter o weld cyfaill."
Credai D'Alton fod y ddau ddyn o'i flaen wedi cael digon o amser i ddyfod atynt eu hunain erbyn hyn, a chredodd fod ei gyfle yntau i roddi ei big i mewn wedi dyfod.
"F'annwyl gyfaill!" meddai yn Saesneg. "Llawenydd i'm calon yw eich gweld fel hyn, mor annisgwyliadwy, er yr ymddengys fy mod, am ryw reswm neu gilydd, wedi peri dychryn i'r cyfeillion oedd yn eich dilyn."
"Y mae'n dda gennyf eich gweld," meddai Capten Gruffydd, gan siarad fel petai yn ymdrech iddo. "Nid oeddwn yn meddwl eich bod yn dyfod cyn gynted, a pharodd eich ymddangosiad sydyn gryn syndod i mi."
"Do, y mae'n sicr," meddai'r Ffrancwr, gan droi cil ei lygad ar Watson. "Y mae'n ddrwg gennyf am ddull diseremoni fy nyfodiad. Ond nid arnaf fi yn hollol yr oedd y bai. Cyrhaeddais i'r dref bore heddyw, a chan ei bod mor braf penderfynais gerdded i'ch gweld. Dywedwyd wrthyf fod y ffordd yn hollol hawdd ei dilyn, ac y mae'n ddiameu ei bod. Ond yr oedd y golygfeydd mor swynol, a'r môr mor ardderchog, fel y denwyd fi oddiar fy llwybr. Daeth y nos cyn i mi wybod, a chollais fy ffordd. Yr oeddwn mewn penbleth hollol pan ddigwyddasoch chwi ddod o hyd i mi—digwyddiad ffodus anghyffredin i mi."
Dywedodd D'Alton y stori gelwydd hon cyn daclused a phe buasai yn wir bob gair. Yr oedd yn amlwg ei bod yn bodloni Watson, a dyna brif amcan y Ffrancwr. Nid oedd waeth ganddo pa un a goeliai Capten Gruffydd hi ai peidio.
"Felly!" meddai'r Capten. "Yr oedd yn beth ffodus i ni eich cyfarfod, onide gallasech fod wedi mynd dros y dibyn i'r môr. Nid yw hwnnw ymhell."
"Dyna oedd fy ofn," meddai D'Alton. "Ac yr oeddwn yn meddwl am eich galar, fy nghyfaill, pe cawsid fy nghorff wrth droed y creigiau yn y bore. Yr oedd hynny yn fy mhoeni."
Yr oedd rhywbeth yn ei lais yn cyfleu rhywbeth mwy na'i eiriau i feddwl Capten Gruffydd, a symudodd yn anesmwyth.
"Y mae'n dda gennyf ein bod wedi taro ar ein gilydd," meddai. Ond i ba beth yr arhoswn yma? Nid yw y Plas ymhell iawn, a bydd yn dda iawn gennyf gael eich cwmni yno."
"Diolch i chwi, fy nghyfaill," meddai D'Alton. "Yr wyf innau erbyn hyn yn dechreu teimlo braidd yn lluddedig."
Trôdd y tri i fyny'r hwylfa tua'r pentref. Ni chymerai y ddau foneddwr unrhyw sylw o Watson. Yr oedd y swyddog yn methu a deall yn iawn sut yr oedd y Capten wedi llwyddo i anghofio Huw Anwyl cyn llwyred. Ni ynganodd yr un gair amdano, er ei fod yn ymddangos, oddeutu hanner awr yn ol, yn llawn tân am ei ddal. Nid oedd waeth gan Watson, modd bynnag, am y tro a gymerodd pethau, canys hiraethai am ei wely, ac nid oedd dal dynion y drwgdybid eu bod yn llofruddion yn unrhyw ran o'i ddyletswyddau ef. Cerddasant tua'r pentref mewn distawrwydd, ac wrth ddrws ei dŷ dywedodd Watson "Nos d'awch."
"Nos d'awch, Watson," meddai Capten Gruffydd. 'Diolch i chi am eich trafferth. Galwaf heibio yn y bore." Yna aeth y ddau ymlaen ar hyd y ffordd dywyll.
Ni ddywedodd y naill na'r llall air am gryn ysbaid. Cerddasant yn ddistaw nes cyrraedd llidiart y parc. Yna aethant ar hyd y ffordd oedd yn arwain at y Plas. Tyfai coed mawr, henafol o bobtu'r ffordd, ac yr oedd y lle yn hollol dywyll.
O'r diwedd torrodd D'Alton ar y distawrwydd. Siaradai Ffrangeg yn awr.
"Wel, gyfaill," meddai, "y mae'n hawdd gennyf ddeall eich bod wedi rhyfeddu fy ngweld. Yn wir, nid oeddwn wedi bwriadu gwneuthur fy ymweliad mor gyhoeddus, ond collais fy ffordd ar hyd y glannau yna, ac yr oedd yn dywyll fel y pwll diwaelod. Ni fûm erioed yn hoff o ymosod wedi nos. Ond credaf fod y dyn distaw yna oedd gyda chwi wedi credu yr hyn a ddywedais."
"Y mae'n ddigon tebyg," meddai Capten Gruffydd. Nid yw yn ddeallus iawn, ac y mae gennych chwithau ddawn arbennig at ddweyd celwydd."
"A, bûm gryn lawer yn eich cwmni chwi! " meddai'r Ffrancwr. "Feallai eich bod yn rhyfeddu beth yw fy neges?
"Yr wyf yn methu dirnad."
"Yn hollol felly. Wel, chwi wyddoch beth a ddigwyddodd ym Mharis. Addawsoch adael i'r ymherawdr wybod cryn lawer am drefniadau eich byddin Brydeinig, yn enwedig ynglŷn ag amddiffyniad eich glannau. Gwyddoch, feallai, na phery ei ymneilltuad yn hir, a phan ddaw yn ol o Elba, y mae yn awyddus am ymweled â'r wlad yma. Bydd y wybodaeth sydd gennych chwi yn bur fuddiol i ni y pryd hynny, a gwyddoch y pris a addawyd i chwi amdani. Gwyddoch hefyd faint a gawsoch eisoes. Nid ydym ar hyn o bryd yn ddigon cyfoethog i daflu cymaint a hynny o arian i'r môr, fy nghyfaill, a dechreuodd y cyfeillion yn Ffrainc bryderu amdanoch, gan eich bod mor ddistaw. Ofnem fod rhywbeth wedi digwydd i chwi. Felly deuthum am dro i weld ansawdd y wlad. Y mae'n wir dda gennyf eich bod yn fyw ac yn iach."
"Felly yr oeddych yn fy nrwgdybio?" meddai Capten Gruffydd.
"'Dim o'r fath beth, gyfaill; dim o'r fath beth. Yn unig ofnem, fel y dywedais, fod rhywbeth wedi digwydd i chwi, ac yr oeddym yn awyddus am gael gwybod. Gyda llaw, nid oeddym wedi cael gair oddiwrth Carrier ers cryn amser."
"Carrier?"
"Ie. Ysgrifennodd atom i ddweyd ei fod yma gyda chwi. Dywedodd hefyd, os wyf yn cofio yn iawn, nad oeddych yn rhyw fwyn iawn wrtho, ond y mae'n sicr gennyf, a barnu oddiwrth eich croeso cynnes heno, mai ei ddychymyg ef oedd hynny. Y mae ef, y mae'n sicr, gyda chwi o hyd?"
Oedodd Capten Gruffydd dipyn cyn ateb. Yna dywedodd, "Nac ydyw."
"Beth!" ebe D'Alton. "Ym mha le y mae, ynteu?"