Neidio i'r cynnwys

Rhwng Rhyfeloedd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Rhwng Rhyfeloedd (testun cyfansawdd)

gan Edward Morgan Humphreys

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Rhwng Rhyfeloedd
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Morgan Humphreys
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Rhwng Rhyfeloedd
ar Wicipedia

RHWNG RHYFELOEDD



RHWNG RHYFELOEDD

STORI AM DDECHREU'R
GANRIF O'R BLAEN



GAN
E. MORGAN HUMPHREYS




Y CWMNI CYHOEDDI ADDYSGOL
(THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO., LTD.),
CAERDYDD A LLUNDAIN.




MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN.




CYNNWYS


DARLUNIAU.

ALUN TOMOS A'R ECSEISMYN tud. 17
SIAN A HUW YN YR OGOF 53
JOHN AMBROS A HUW YN DRINGO'R GRAIG 117
CAPTEN GRUFFYDD MEWN CYFYNGDER 133


Rhwng Rhyfeloedd.

PENNOD I.
AR LAN Y MOR.

WYNEBAI ardal Llanwennol ar y môr, ond yr oedd y mynyddoedd o'r tu ol iddi. Rhwng y pentref a'r mynyddoedd yr oedd llain o wlad amaethyddol brydferth gyda chryn lawer o goed yn tyfu yma ac acw, ac mewn rhai mannau hyd at droed y mynydd. Ond y môr ac nid y mynydd oedd bywyd y pentref i raddau pell iawn, yn enwedig adeg yr "Heddwch Bach," pan ddigwyddodd y pethau a adroddir yn y stori hon, yr egwyl honno a ddaeth ar Ewrob rhwng yr amser yr anfonwyd Napoleon i Elba a'r amser y dychwelodd i wynebu ar Waterloo. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng trigolion amaethdir Llanwennol a thrigolion y pentref a'i amgylchoedd. Y wlad a'r mynydd oedd byd a chyfoeth y blaenaf; y môr a'r hyn oedd ynddo ac arno—yn enwedig arno—oedd byd a chyfoeth y lleill. Pysgotent, ond pe buasent yn cyfyngu eu sylw i bysgota yn unig, ni buasai gan neb fawr wrthwynebiad i'w dull o fyw. Ond dywedid gan lawer fod aml i lwyth llong yn dyfod i Lanwennol na thalodd erioed ddimai o doll i'r brenin. Dywedid fod teuluoedd cyfain, a'u galwent eu hunain yn bysgotwyr, yn gwybod mwy am redeg llwyth o wirodydd i'r lan liw nos dan drwyn yr ecseismyn nag am dynnu rhwyd a gwerthu pysgod. Sibrydid fod tê a brandi, i enwi dim ond dau beth, yn haws i'w cael yn Llanwennol a'r ardaloedd cylchynnol nag yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymreig, ac nad oedd llawer teulu yn gweithio cyn galeted ag y buasid yn disgwyl pe buasent yn dibynnu ar eu hymdrechion bob dydd.

Yr oedd hynny yn eithaf gwir, ond fel llawer gwir arall, nid oedd yn beth hawdd iawn ei brofi. Yr oedd swyddogion y llywodraeth, er enghraifft, yn sicr ers blynyddoedd fod y peth yn bod, ond methasant hyd yn hyn, er dyfal wylio'r glannau, a dal neb yn y weithred. Mwy na hynny; gwyddent yn eitha da pwy oedd yr arweinwyr yn y camwedd. Siaradent gyda hwy ar y ffordd, yn y maes, neu ar lan y môr, ond yr oedd profi eu bod felly yn gwestiwn arall. Celf gain oedd smyglio yn Llanwennol, ac ymfalchïai y sawl a'i harferai yn eu medr a'u gallu i daflu llwch i lygaid swyddogion Seisnig y llywodraeth.

Un noson ym mis Mawrth, 1814, cedwid gwyliadwriaeth fanylach nag arfer ar y glannau yng nghyffiniau y pentref. Nid oedd yr un swyddog i'w weld yn unman, y mae'n wir. Gofalwyd am ledaenu'r si eu bod wedi mynd trosodd i Ros y Môr i wylio bau arall yn y fan honno. Ond nid yn Rhos y Môr y bwriedid glanio'r llwyth, ond yn Llanwennol, ac yn Llanwennol y bwriadai y swyddogion wneuthur eu helfa. Chwarddodd Cooke, y prif swyddog, wrth feddwl am ei drefniadau. Yr oeddynt, hyd y gwelai ef, yn berffaith.

"Yr ydym yn sicr ohonynt heno," meddai wrth ei gynorthwyydd, Watson, tra'n paratoi i gychwyn tua'r traeth. Cred Alun Tomos ein bod yn Rhos y Môr, ac y mae yn sicr o'i mentro hi. Y mae'n noson dywell, ac nid ydynt wedi gweld yr un o'r dynion yn dyfod yn ol o'r mynydd, ac yn cymryd eu lle ar y traeth. Trefnais iddynt aros hyd nes deuai'r tywyllwch, ac yn awr y maent i gyd yng nghysgod y Clogwyn Mawr, ac yn barod i dderbyn y cwch pan ddaw i'r lan."

"Wel," meddai Watson, yr hwn a wyddai rywbeth am gastiau Alun Tomos a'i gymdogion, "'does dim ond disgwyl eich bod yn iawn. Yr wyf wedi hen flino ar dreio dal y garsiwn flwyddyn ar ol blwyddyn, a methu bob tro. Y mae pob un drwy ei gilydd yma, yn berson ac yn glochydd, yn ffermwr ac yn bysgotwr. Y mae pawb yn manteisio ar y nwyddau didoll, ac felly 'does neb am brepian y naill ar y llall."

"O, raid i ti ddim pryderu heno," meddai Cooke, mae popeth yn iawn, a ddaeth hi ddim i feddwl yr un ohonynt fod ecseismon o fewn deng milltir i'r lle heno. Pwy gebyst sydd yna 'rwan, dwad? Paid mynd at y drws."

Yr oedd rhywun yn curo yn drwm ar y drws, ond nid oedd Cooke am gymryd arno fod neb yn y tŷ, ac felly nid oedd am ateb. Arhosodd ef a Watson yn berffaith ddistaw yn y gegin, gan ddisgwyl y buasai'r curo yn darfod ac y buasai'r ymwelydd digroeso yn ymadael. Ond parhau i guro a wnaeth, ac o'r diwedd clywai y ddau swyddog yn y tŷ lais awdurdodol—yn siarad Saesneg—ac yn gorchymyn iddynt agor y drws.

"Dyna lais Capten Gruffydd, mab gŵr y Plas," meddai Watson, yr hwn a fu'n hwy yn yr ardal na Cooke. "Y mae newydd ddychwelyd o'r rhyfel, a byddai'n well i ni agor iddo."

"Agor i'r penbwl, ynteu," meddai Cooke, yn ffyrnig, "ond cymer ofal na wêl neb di wrth y drws. Bu agos iawn i hyn a drysu'r cwbl oll."

Agorwyd y drws yn wyliadwrus iawn, a daeth Capten Gruffydd i mewn i'r gegin. Dyn ieuanc, tal a chydnerth oedd efe, gyda gosodiad milwrol, ac yn gwisgo yng ngwisg ffasiynol y cyfnod hwnnw. Yr oedd ganddo het uchel, cot las gynffon fain, gwasgod felen, a llodrau tynion o liw bwff am ei goesau. Tueddai ei wallt at fod yn goch, ond yr oedd yn ŵr glandeg ddigon, yn enwedig ar yr olwg gyntaf. Pan sylwech yn fanylach arno, gwelech na allai edrych yn wyneb neb os na thybiai fod y sawl a siaradai ag ef yn wannach dyn nag ef ei hun. Gwefusau teneuon, creulon oedd ganddo, ac nid oedd ei wyneb yn tystio ei fod yn ddyn y gallai neb ymddiried ynddo yn rhwydd. Ond yr oedd ei safle fel mab gŵr y Plas, ac fel capten ym myddin y brenin, yn rhoddi cryn lawer o awdurdod iddo yn ei ardal enedigol, ac yr oedd yntau yn barod i gymryd yr holl awdurdod hwnnw, a mwy hefyd. Dywedai y trigolion amdano fod yr hen ŵr ei dad yn gledryn, ond fod John Gruffydd yn gledryn ac yn oferddyn cyfuniad sy'n gwneuthur y dyn salaf a ellir ei gael ar wyneb daear Duw.

Edrychai yn sarrug ac annymunol ar Cooke a Watson yn awr.

"Pam nad agorasech y drws ynghynt?" meddai, —yn Saesneg wrth gwrs. Saeson oedd y swyddogion, ac yr oedd yntau yn hanner Sais, a dywedyd y goreu amdano.

'Am fod gennym waith pwysig ar dro," meddai Cooke, yn edrych lawn mor sarrug ag yntau, "ac nid ydym am beryglu'r llwyddiant i agor y drws i bawb a ddigwydd guro."

"Felly," meddai'r capten, "yr ydych yn meddwl dal y giwaid smyglars y felltith yma heno?"

"Yr ydwyf yn sicr o'u dal," meddai Cooke yn ffrostgar. "Y mae pob enaid byw ohonynt yn meddwl fy mod i a'm dynion yn Rhos y Môr, ac y maent am ddadlwytho scwner Jac Crystal heno. Mi daliwn nhw bob un."

"O'r goreu," meddai'r Capten, yn awdurdodol, deuaf gyda chwi. Rhwng smyglars a Methodyddion a phobl yn gwrthod ymuno â'r fyddin, y mae'r wlad yn mynd i ddistryw ar ei phen. Pryd yr ydych chi'n meddwl cychwyn i'r traeth?"

Edrychodd Watson a Cooke ar ei gilydd. Yr oedd yn ddigon amlwg nad oeddynt yn dymuno cael y milwr yn gydymaith, canys yr oedd y ddau yn meddwl am hawlio clod a bri y llwyddiant yr edrychent ymlaen ato iddynt eu hunain. Gwyddent, hefyd, pe cawsai'r capten ddyfod gyda hwynt, y gofalai ef am ei ran o'r clod.

"Nid wyf yn meddwl y gallwch ddyfod, Capten Gruffydd," meddai Cooke. "Y mae gennym ein cynlluniau. 'Rwyf wedi eu hegluro wrth y dynion, a phe gwelent dri ohonom, gallai ddrysu y cwbl. Peth arall, goreu po leiaf ohonom aiff i'r traeth heno."

Gwyddai wrth siarad mai esgusion gwael oedd ganddo a phrin y disgwyliai i'r milwr gymryd sylw ohonynt. Ac felly fu.

"Lol!" meddai yn gwta."Eisiau'r clod i gyd i chi eich hun sydd arnoch, mi welaf. Na, fy nghyfeillion, 'rwyf yn dyfod gyda chi heno, ac yr wyf wedi paratoi ar gyfer yr hen gnaf Alun Tomos a'i griw." Cododd gwrr ei fantell, a dangosodd ddau bistol. Edrychodd Cooke a Watson yn bur ddifrifol pan welsant hynny.

"Welwch chi, Capten Gruffydd," meddai Cooke, " y mae'n debyg fod yn rhaid i chi gael dyfod gyda ni, ond y mae'n rhaid hefyd i chi beidio defnyddio y rhai yna. 'Rwyf i am ddal y dynion yma efo cyn lleied o helynt ag sydd bosibl. Swyddog y llywodraeth ydwyf i, a'm dyletswydd i ydyw dal pawb sy'n torri'r gyfraith y gosodwyd fi i'w gwylio yma, ond 'does gen i ddim gelyniaeth bersonol tuag at y dynion, ac nid wyf am saethu os medraf beidio. 'Dwn i ddim a oes gennych chi rywbeth yn erbyn Alun Tomos ai peidio."

Taniodd llygaid Capten Gruffydd, a rhoddodd Watson, a safai o'r tu ol iddo, winc ar Cooke. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi cyffwrdd rhyw fan gwan.

"Beth sydd gennyf i yn erbyn dyn o'r dosbarth yna?" gofynnai'r capten.

"'Dwn i ddim," atebai Cooke, "dim o gwbl, serch dim a wn i, ond os ydych am ddyfod heno, y mae'n rhaid i chi addo peidio saethu. Fy ngwaith i ydyw saethu, os bydd raid."

Edrychodd y capten fel pe am ateb yn ffyrnig, ond newidiodd ei feddwl cyn siarad.

"O'r goreu," meddai, yn ddigon sarrug, "ond yr wyf am ddyfod gyda chi."

"Fel a fynnoch chi am hynny," meddai Cooke, ac yna dywedodd wrth Watson,—"Edrych a ydyw Tomos yn dangos arwydd i'w ddynion. Os bydd yn credu fod y ffordd yn glir, dengys oleu deirgwaith wrth ddrws ei dŷ, ar ben y clogwyn."

Aeth Watson at y drws, ac agorodd ef yn ofalus iawn. Yr oedd yn dywyll fel y fagddu, ac yr oedd awel gref o'r môr. Ni welodd y swyddog rywun yn diflannu heibio congl y tŷ pan agorodd y drws, ac ni chlywodd ychwaith sŵn traed merch yn cilio. Yr oedd Watson yn swyddog dewr a chydwybodol, ond nid oedd yn un o'r dynion craffaf. Y cwbl a wnaeth oedd edrych i gyfeiriad tŷ Alun Tomos

Ni welai ond y tywyllwch am ysbaid. Yna dyna oleuni yn fflachio am foment i'r cyfeiriad y disgwyliai ei weld. Nid ymddangosai yn ddim mwy na goleuni a ddangosid gan rywun yn dwyn lanter o'i flaen. Ond ymhen moment neu ddau fflachiodd y goleu drachefn, ac eto y drydedd waith. Aeth Watson yn ol a chaeodd y drws. Dyna oedd arwydd Alun Tomos i'w ddynion ac i'r llong oedd yn aros ar y môr, fod popeth yn iawn.

Dywedodd Watson am yr hyn a welodd wrth Cooke a Capten Gruffydd, a chwarddodd y ddau.

"Gwyddwn ein bod wedi eu twyllo heno," meddai Cooke. "Yn awr, gyfeillion, am lan y môr."

Yr oedd tŷ y swyddogion yn ymyl y môr, ac er fod y llwybr i lawr i'r traeth yn arwain hyd wyneb y clogwyn ac yn un dyrys ddigon, yr oedd pob un o'r tri yn dra chyfarwydd â'i gerdded. Aethant i lawr ar hyd-ddo yn wyliadwrus iawn serch hynny, nid am eu bod yn ofni y llwybr, ond rhag taro ar un o'r smyglars yn ddirybudd, ac felly ddrysu'r holl gynllun. Cyrraeddasant y gwaelod heb weld neb, ac yna dywedodd Cooke wrthynt am gadw yng nghysgod y clogwyn. Aeth ef oddiwrthynt i chwilio am ei ddynion yn eu lloches, a phan ddychwelodd drachefn dywedodd fod popeth yn iawn.

"Dacw oleu'r llong," meddai, gan gyfeirio at oleuni bychan a welid weithiau draw i'r môr. "Y mae Tomos a'i griw wedi bod yn y llong, ac y mae'r llwyth ar y ffordd i'r lan."

Edrychodd y tri mewn distawrwydd i gyfeiriad y goleu. Yna, rhyngddynt ag ef, gwelent ysmotyn bychan tywyll. Diflannai weithiau, pan suddai y cwch rhwng dwy don, a deuai i'r golwg drachefn pan gyrhaeddai'r cwch frig ton arall yn nês i'r lan. Dyna gwch Alun Tomos yn neshau at y lan.

"Yn awr!" meddai Cooke, ac yna aeth ef a'i gyfeillion at lan y dŵr, dan gysgod craig ysgythrog y Clogwyn Mawr. Yno hefyd yr oedd y swyddogion eraill, pob un yn barod i ddal y dynion mentrus a'u heriodd gyhyd.

"Peth rhyfedd," meddai Cooke, "na fuasai rhai o bobl y pentref yma, hefyd. Ond feallai fod yr hen lwynog wedi rhoddi gorchymyn iddynt gadw draw rhag tynnu sylw. Ond dyma'r cwch. Pawb yn barod, bois !"

Ac ar y gair dyma'r cwch i'r golwg dros frig ton, ac yn rhuthro tua'r traeth. Yng nghanol berw'r don yn torri glaniwyd ef yn ddiogel ar y tywod a chyn i Alun Tomos na neb o'i gynorthwywyr gael hamdden i gadw eu rhwyfau, yr oedd swyddogion y llywodraeth wedi gafael yn y cwch, ac yr oedd Cooke yn gorchymyn i'r morwyr ildio yn ddistaw.

Ac yna digwyddodd peth rhyfedd ac annisgwyliadwy iawn. Pan welodd Alun Tomos beth oedd yn bod, chwarddodd dros bob man, ac unodd ei griw yn y difyrrwch. Cododd ar ei draed a neidiodd dros ochr y cwch i'r feisdon, a safodd yng nghanol y swyddogion synedig.

'Felly, Misdar Cooke!" meddai. 'Does gennych chi a'ch dynion ddim i'w wneud ond croesawu pysgotwyr diniwed pan ddônt i'r lan heb ddal dim! Chwiliwch y cwch, 'neno dyn, ac os medrwch chi gael rhywbeth ynddo fo heblaw y rhwyd ac ambell granc, mi gewch fwy nag a fedraf fi gael. Dowch i'r lan, fechgyn, a thynnwch y cwch i'r traeth, gael i Misdar Cooke a Misdar Watson a'r gwŷr bonheddig eraill yma ei chwilio fo."

Ysgyrnygodd Cooke ei ddannedd, a rhegodd yn rhwydd ac yn rhydd.

Gwyddai o'r goreu mai nid fel hyn y buasai Tomos yn ei dderbyn pe buasai ganddo rywbeth yn y cwch a'i rhoesai o fewn cyrraedd y gyfraith. Na, yr oedd rhyw ddiofalwch wedi bradychu'r holl gynllun eto, ac yr oedd yr hen smyglar wedi bod yn rhy hirben iddo drachefn. Ond er mwyn gwneuthur rhywbeth, edrychodd y cwch yn ofalus, a chafodd ef, fel y dywedai y pysgotwr, yn wag. Gwyddai o'r goreu fod

Pan welodd Alun Tomas beth oedd yn bod, chwarddodd dros bob man."

rhyw dric yn rhywle, ond ni allai ef gyffwrdd Alun Tomos na'r un o'i ddynion heb eu dal yn y weithred.

"'O'r goreu, Alun Tomos," meddai o'r diwedd. Ond yr ydwyf yn sicr ohonoch eto. Ni fedrwch chi mo fy ngneud i fel hyn o hyd."

"Dwn i ddim beth am hynny, Misdar Cooke," meddai'r hen ŵr," "'dydan ni ddim yn treio eich gneud chi, am wn i. Sut 'rydach chi, Capten Gruffydd?" ychwanegai.

"Peidiwch a bod yn ddigywilydd, ddyn !" meddai'r Capten yn sarrug. "Mi wn i dipyn o'ch hanes chi, a hanes y bachgen Huw Anwyl yna, sydd fel llaw dde i chi ym mhobpeth. Mi roddaf i derfyn ar y pethau yma cyn y byddaf wedi bod yma yn hir."

Ar hyn dyna un o'r cychwyr, gŵr ieuanc, tal a chydnerth, yn dyfod ymlaen ac yn sefyll yn wyneb Capten Gruffydd.

"Wnes i ddim i chi, Capten Gruffydd," meddai, mewn llais cryf a diofn, " a wnaethoch chithau ddim i minnau hyd yn hyn. Ond cyn sicred a'n bod ni'n sefyll ar y traeth yma, os gnewch, mi fydd yn edifar gennych!"

Edrychodd y capten fel pe bron a'i orchfygu gan gynddaredd. "Y chti sydd yna, Huw Anwyl?" meddai. "Y chti, ie! O'r goreu, y cwb, mi dalaf i ti a Sian am hyn eto."

"Taw!" " meddai'r dyn ieuanc, a rhoddodd gam ymlaen fel pe am daro'r capten, ond gafaelodd Watson yn ei fraich, a dywedodd yn ei glust,—Paid a bod yn ffŵl, Huw; waeth i ti heb a gneud pethau yn waeth nag ydyn' nhw. Cer adre 'rwan." "Ie," meddai Alun Tomos, " 'does gennom ni ddim cweryl â'r capten, wyddost. Dowch adre, bois, yn dawel, a gwell lwc i ni i gyd y tro nesa'."

Chwarddodd pawb ond y swyddogion a'r capten, a thrôdd y pysgotwyr ar ol yr hen ŵr, ac yntau yn gafael ym mraich Huw Anwyl yn dyn rhag iddo newid ei feddwl.

PENNOD II.
PERYGL HUW ANWYL.

YR oedd Alun Tomos yn ddyn triugain oed, a chedwid ei dŷ gan ei ferch, Sian, canys gŵr gweddw oedd efe. Y drws nesaf iddo yr oedd Gwen Anwyl yn byw yn weddw, a'i hunig fab Huw Anwyl, dyn ieuanc gweithgar, a medrus fel pysgotwr, ond mentrus a beiddgar ei ysbryd dros ben. Y fenter yma a dynnodd sylw Alun Tomos ato gyntaf, a swynwyd y bachgen gan ddewrder a dibristod cymeriad yr hen bysgotwr. O dipyn i beth, daeth y ddau yn gyfeillion mawr, ac fel y tyfodd Huw yn llanc, dechreuodd fynd allan i bysgota gydag Alun Tomos. Daeth yn forwr dewr a medrus, a gwelodd Alun Tomos fod ynddo ddefnydd cynorthwywr defnyddiol iddo ef yn ei fusnes arall. Canys nid ar bysgota yn unig nac yn bennaf yr heliodd Alun arian, Yr oedd yn smygliwr o'i febyd a dywedid amdano yn ardal Llanwennol, ac ardaloedd eraill o ran hynny, mai efe oedd y goreu yng Nghymru am redeg cargo i'r lan dan drwynau swyddogion y Llywodraeth, ac eto heb ei ddal.

Ni edrychid ar y gamp honno fel pechod o gwbl. Yr oedd y tollau mor afresymol ar bopeth y pryd hynny nes yr edrychid ar y dyn a lwyddai i'w hosgoi fel cymwynaswr yn ei ardal. Gwyddai person Llanwennol yn eithaf da beth oedd blas gwirodydd didoll Alun Tomos. Cydymdeimlai'r gŵr parchedig gyda swyddog y Llywodraeth ar goedd, mae'n wir; ond nid oedd hynny yn lleihau gronyn ar ei gydymdeimlad cudd ag Alun Tomos. Ni chymerasai esgobaeth Bangor am gynorthwyo neb i'w ddal.

Gwyddai gwraig y person hefyd fod sidanau Alun Tomos yn llawer iawn gwell ac yn llawer iawn rhatach na dim a brynid yn y dref. Pa le, gan hynny, oedd ganddi hi a'i phriod i gwyno os dewisai ychydig o'u plwyfolion ennill eu tamaid yn y wedd yma?

Pan ddechreuodd Huw Anwyl ar yr un gorchwyl, dan addysg Alun Tomos, ni chododd ei fam un gwrthwynebiad. "'Dyna arfer pobl Llanwennol," meddai, ac yr oedd hynny yn setlo'r cyfan. Ac felly daeth y llanc yn ail mewn dewrder a dylanwad i Alun Tomos ei hun.

Yr oedd Sian, merch Alun Tomos, oddeutu'r un oed â Huw. Geneth annwyl oedd hi, y dlysaf yn yr holl ardaloedd, meddai'r llanciau, ac mor ddi-ofn a mentrus â'i thad. Gwyddai ei holl gyfrinion, a chynorthwyai ef ymhob modd oedd yn ei gallu. Hi fu'n gwrando y tu allan i dŷ'r swyddog pan yr oedd Cooke a Watson yn gosod eu cynlluniau, a hi oedd wedi deall mai gosod magl i ddal ei thad a'i gyfeillion yr oeddynt. Hi a ddangosodd y goleu a welodd y swyddogion—ond mai rhybudd oedd, ac nid arwydd fod popeth yn iawn.

Nid rhyfedd ei bod hi a Huw wedi syrthio mewn cariad â'i gilydd. Cydfagesid hwy, ac yr oedd yr un elfen yng ngwaed y ddau. Edrychid arnynt gan Alun Tomos a Gwen Anwyl fel dau oedd i briodi cyn hir. Ac felly yr oedd cwlwm cryf rhwng y ddau deulu.

Yn ddiweddar, modd bynnag, daeth cwmwl i ffurfafen Sian. Dywedwyd eisoes mai adeg yr "Heddwch Bach" oedd hi. Wedi blynyddoedd o frwydro blin, rhoddwyd Napoleon yn y ddalfa yn Elba, a gorffwysodd Prydain am ysbaid. Dyna'r paham yr oedd Capten Gruffydd adref. Wrth grwydro ar hyd yr ardal, gwelodd y milwr Sian, a meddyliodd ynddo ei hun mai hi oedd lodes lana'r deyrnas. Meddyliodd hefyd mai difyr fuasai difyrru dyddiau ei segurdod yn ei chwmni.

Felly, digwyddodd ei chyfarfod dro ar ol tro hyd lwybrau'r fro. Ceisiodd gael scwrs â hi, yn ei ddull ei hun, er fod yn ddigon amlwg nad oedd yr eneth yn hoffi ei weld. Un diwrnod, dywedodd wrtho nad oedd arni ei eisiau, ac nad oedd yn dymuno siarad ag ef o gwbl.

Yr oedd hynny yn syndod aruthr i'r capten, a dechreuodd wneuthur ymchwiliadau. Ni bu yn hir cyn deall sut yr oedd pethau yn sefyll, ac o'r awr honno y deffrôdd ei sêl boethlyd yn erbyn y smyglars. Penderfynodd ddifetha Huw Anwyl, ac ni ofalai lawer pa lwybr a gymerai i gyrraedd ei amcan.

Ymhen diwrnod neu ddau wedi'r digwyddiad a adroddwyd yn y bennod gyntaf, yr oedd Sian a Huw yn eistedd o flaen y tân ym mwthyn Alun Tomos. Yr oedd Alun allan yn rhywle, ac yr oeddynt hwy eu dau yn unig yn y tŷ. Eisteddent yn ddistaw am ysbaid. O'r diwedd, torrodd Sian ar y distawrwydd. "A welaist ti Capten Gruffydd yn ddiweddar, Huw?" ebe hi.

"Naddo," oedd yr ateb. "Fuo fo yn aflonyddu arnat ti eto?"

"O, naddo; ond y mae arnaf ofn ei fod yn bwriadu rhyw ddrwg i ti, Huw,"

"Pa ddrwg, dwad? Mi edrychaf fi ar ei ol, gelli fod yn bur sicr. Beth glywaist ti 'rwan, fy nghariad i?"

Wyddost ti fod y press gang wedi bod wrthi yn Abercynwy?" gofynnai Sian yn ddistaw.

Sythodd Huw yn sydyn. Yr oedd y press gang yn ddychryn gwirioneddol yr adeg honno. Ymwelai un o swyddogion y llynges, gyda nifer o ddynion, â gwahanol ardaloedd, a chipient y dynion mwyaf addawol drwy orfod i wasanaethu y brenin yn groes iawn i'w hewyllys. Rhwygent deuluoedd yn hollol ddidaro, a chan fod eu gwaith yn gyfreithlon, parent fraw ym mha le bynnag y clywid eu bod, yn enwedig mewn ardaloedd lle yr oedd nifer o longwyr neu bysgotwyr ieuainc. Nid rhyfedd i Huw edrych dipyn yn gynhyrfus.

"Y press!" meddai. "Na chlywais i. Wyt ti yn siwr, Sian?"

"Ydwyf, Huw, yn berffaith sicr. Dywedodd Mari Parri wrthyf bore heddyw fod nai, fab chwaer iddi hi, wedi ei gymryd yn Abercynwy, a'u bod yn sôn am ddyfod tua Llanwennol a Rhos y Môr cyn bo hir."

Diawsti!" meddai Huw. Os ydyw hynny'n wir, rhaid i ni fod yn ofalus ofnadwy. Paham y mae gan neb hawl i fynd a fi na neb arall oddicartref yn groes i fy ewyllys i ymladd—ond 'does yna ddim ymladd 'rwan; y mae hi'n heddwch, wyddost?"

"Deyd 'roedd Mari Parri," meddai Sian yn drist, "fod yna ryfel i fod eto. Pam, yn enw'r tad, na fedren nhw adael llonydd i bobl ddiniwed, a chwffio eu hunain? O, Huw, cymer ofal!'

"Mi wnaf, Sian bach," meddai Huw yn dyner. "Ond beth sy'n peri i ti feddwl fy mod i mewn perygl mwy na rhywun arall?"

"Wyddost ti fod Capten Gruffydd wedi bygwth gneud ei waethaf i ti, a heddyw mi gwelais o yn cerdded ar y traeth efo dyn diarth,—ac mi feddyliais feallai fod y perygl yn nês nag y tybiem."

Edrychodd Huw Anwyl yn bur ddifrif pan glywodd hyn. Gwyddai fod y perygl yn un gwirioneddol iawn, ond ni hoffai ddywedyd hynny wrth ei gariad. Gwyddai, os oedd Capten Gruffydd wedi penderfynu gwneuthur drwg iddo, fod yn debyg iawn y llwyddai.

Yr oedd gan un o safle a chyfoeth y capten ddylanwad yn y sir, a gwyddai Huw y gallai yn hawdd gael ymadael ag ef drwy alw sylw y press gang ato. Nid oedd unrhyw ffordd i ddianc ond drwy gadw o'r golwg, neu ymguddio yn y wlad hyd nes yr ai y perygl heibio.

Ag yntau yn synfyfyrio ar hyn, daeth Alun Tomos i mewn yn sydyn. Dychwelodd ynghynt na'r disgwyliad, ac yr oedd yn amlwg ar ei wyneb fod rhywbeth wedi ei gynhyrfu. Gwelodd Sian hynny ar unwaith.

"Oes rhywbeth yn bod, nhad?" meddai yn bryderus.

Taflodd Alun Tomos olwg ar Huw. "A glywaist ti rywbeth, Huw?" meddai.

"Dim ond yr hyn a ddywedodd Sian wrthyf 'rwan," meddai Huw, "fod y press gang allan."

"Ydi, 'machgen i," meddai Alun Tomos, "ac y mae yn ymyl. Gwelwyd rhai ohonynt yn Rhos y Môr heno."

"Felly!" meddai Huw yn bur ddifrifol; gwelwodd wyneb Sian wrth y newydd. "Felly! y mae'n well i mi fynd o'r golwg am dipyn, debyg gen i."

"Yr wyf innau yn meddwl hynny," meddai Alun Tomos, "a'r peth goreu i ti ei 'neud ydyw mynd i'r ogof am ddiwrnod neu ddau. Mi ofalith Sian neu dy fam am damaid i ti, mi wn, ac mi edrycha innau a fydd y giwaid wedi cilio yn llwyr o'r ardal. Mae'n nhw'n deyd i mi fod y swyddog yn y Plâs gyda Chapten Gruffydd."

Mi glywais innau," meddai Huw, "fod yno ryw ddyn diarth yn y Plâs, a'i fod o a'r capten yn glos iawn hefo'i gilydd o hyd. Y mae'n siwr i chi mai dyna pwy ydi o, wedi dwad yma i baratoi'r ffordd."

Edrychodd y tri yn bur ddifrif, ac yr oedd yn fater gwirioneddol ddifrifol i bob un ohonynt. Pe gelwid ar Huw i fynd at y llynges, ni wyddid, yr adeg derfysglyd honno, pa bryd y deuai'n ol.

Feallai y byddai oddicartref flynyddoedd; feallai na ddychwelai byth. O'r diwedd, dywedodd Alun Tomos—

'Y mae hi'n gyrru arni hi i'r pnawn, wel di, ac er na welais i yr un golwg arnyn nhw yn y pentre yma eto, mi gredaf mai y peth goreu i ti fyddai mynd i'r ogof heno.

Os doi di ar hyd llwybr y clogwyn—y mae yna wrych uchel yn cysgodi hwnnw, wyddost,—tua hanner awr wedi naw, mi ddof i dy gyfarfod, ac mi drefnwn y lle yn barod."

"O'r goreu," ebr Huw, gan ymddangos yn bur ddidaro. "Mi ddof yno at yr adeg.

"Y mae'n debyg y bydd pob peth yn dawel hyd yr adeg yna."

"Bydd, mi gredaf. Ond well i ti fynd i dŷ dy fam drwy'r cefn yn awr, rhag i neb fod yn gwybod ple'r wyt ti. Y mae pobl y pentref yma'n rhai go lew, ond 'does wybod pwy sydd â dial tuag atat ti."

Felly y trefnwyd. Aeth Huw allan drwy ddrws y cefn, ac aeth Sian i'w ddanfon, tra'r arhosodd ei thad yn y gegin. Yr oedd calon yr eneth druan yn drom, a'i phryder am ei chariad yn fawr, ond meddai ddewrder a phenderfyniad ei thad, a cheisiodd wneuthur ei goreu i guddio yr hyn a'i poenai. Ond gwyddai Huw rywbeth am ei theimladau, a chusanodd hi yn dyner cyn ymadael.

"Paid ag ofni, Sian," meddai. "Mi ddaw popeth o'r goreu eto."

"Daw, mi wn, Huw," meddai hithau, gan geisio gwenu, ac mi ddof innau à bwyd i ti i'r ogof bob dydd-mi gawn weld ein gilydd felly."

"Cawn, fy nghariad i," meddai Huw; ac yna aeth drwy fwlch yn y gwrych, ac i dŷ ei fam i aros hyd yr hwyr. Yr oedd Gwen Anwyl wedi deall am y perygl, fel, yn wir, yr oedd pawb yn y pentref, o ran hynny, ac yr oedd yn bur anesmwyth ynghylch Huw, unig ffon ei chynhaliaeth. Yr oedd yn dda ganddi ei weld yn dyfod i'r tŷ, a chymeradwyodd gynllun Alun Tomos yn hollol.

"Ond y mae'n arw o beth," meddai, "fod yn rhaid i ti fynd i guddio fel petaet ti wedi gneud rhyw ddrwg, a bod yn rhaid i minnau ddiodde pryder ac unigrwydd fel hyn er mwyn rhyw hen benbyliaid sydd yn methu gadael llonydd i'w gilydd. Ni welais i ffasiwn ffolineb erioed a'r hen ryfela coblyn yma o hyd. Y mae'r prisiau yn mynd i fyny yn barhaus, ac y mae'n anos i'r tlawd gael tamaid a dillad nag erioed, a 'does neb ar ei ennill am wn i ond gŵr y Plâs a rhyw fyddigions felly. Na'th y Ffrancod ddim erioed i ti na minnau na ni iddynt hwythau, a ni fedra i ddeall dim o gwbl pam 'rydan ni yn cwffio hefo nhw. Y mae'n dda, fel bydd Mr. Jones y pregethwr yn deyd, fod yma ryw fyd gwell ar ol hwn. Byd digon symol ydi hwn i'r tlawd beth bynnag."

Yr oedd Gwen Anwyl yn dipyn o Fethodist, ac wedi gwrando dipyn ar y pregethwyr a ddeuai i Lanwennol ar eu tro, a chafodd Thomas Jones, Dinbych, gryn lawer o ddylanwad arni. Ni wyddai Huw, modd bynnag, ryw lawer am bethau felly, ond tueddai yn gryf i fod o'r un feddwl a'i fam yn awr.

PENNOD III.
Y DIGWYDDIAD YN Y FFORDD GUL.

Yr oedd yn dywyll iawn pan gychwynnodd Huw allan o'r tŷ.

Croesodd y caeau sydd rhwng pentref Llanwennol a'r môr, a chyn pen hir daeth i'r hwylfa, neu ffordd gul, a arweiniai i gyfeiriad y clogwyn. Yn y lle hwnnw terfynai y tir yn swta, a disgynnai yn geulan o graig ddu, ddanheddog i'r traeth islaw. Mewn un man yr oedd bwlch yn y geulan, ac oddiyno arweiniai math o lwybr at enau ogof. At honno y cyfeiriai Alun Tomos, canys bu yn ddefnyddiol iddo ef a'i gyd-smyglwyr fwy nag unwaith, ac yr oedd swyddogion y Llywodraeth eto heb ddyfod i wybod am ei bodolaeth.

Cuddid y bwlch, y llwybr, a'r ogof, gan dwmpathau mawr o eithin a mieri. Ni buasai neb, heb wybod am y lle, yn meddwl fod yno na bwlch na llwybr, a phasiodd Cooke a Watson y fan lawer gwaith heb weld dim yn wahanol ynddo i rywle arall ar ymyl y geulan.

Yr oedd yn guddfan ddiogel, ac yno y bwriadai Huw fynd yn awr am loches rhag y llongwyr.

Cerddai yn wyliadwrus iawn, canys er uniced y ffordd yn gyffredin, gwyddai nad oedd dim yn rhy ofalus iddo fod. Yr oedd yn dywyll iawn rhwng y gwrychoedd uchel, ac ni welai lathen o'i flaen.

Ond yn sydyn, clywodd sŵn lleisiau. Safodd. Nid oeddynt yn ei ymyl, ond eto deallodd eu bod yn rhywle yn y tywyllwch o'i flaen. Ciliodd Huw at ochr y gwrych, a gwrandawodd â'i holl egni.

Bu am beth amser yn methu adnabod un o'r lleisiau. Ni chlywai ddim ond y lleisiau; ni ddeallai y geiriau.

Beth os darganfuwyd ei loches? Beth os oedd y press gang yno, gan ddyfalu y byddai iddo geisio noddfa yn y fan honno? Gwrandawodd drachefn â'i holl egni.

Ond nid oedd yno ond dau ddyn yn siarad. Yr oedd llais un ohonynt yn gryfach na'r llall, ond yr oedd yn amlwg fod y ddau yn ceisio siarad yn isel. Ni ddeallai Huw yr un gair a ddywedent, ond unwaith neu ddwy credai fod rhywbeth adnabyddus iddo yn llais un ohonynt. Ond ni allai gofio ym mha le y'i clywodd o'r blaen, ac yn lled anaml y cawsai graff arno o gwbl.

Closiodd Huw yn nês at y gwrych rhag ofn i'r ddau ddyfod i'w gyfeiriad ef. Aeth y siarad ymlaen am beth amser, ac yna clywodd Huw ryw sŵn dieithr. Aeth ias o fraw drosto. Yr oedd y sŵn yn rhywbeth rhwng tagfa a phesychiad, a dilynwyd ef gan sŵn Yna bu rhywbeth trwm yn syrthio i'r llawr. distawrwydd am ennyd.

Meddyliodd Huw am fynd yn ei flaen yn wyliadwrus er mwyn cael gweld beth a ddigwyddodd, ond ataliwyd ef drachefn gan sŵn arall. Nid sŵn siarad oedd hwn yn awr. Sŵn dyn yn griddfan yn wannaidd ydoedd, y tu hwnt i bob amheuaeth.

Teimlodd y dyn ieuanc yng nghysgod y gwrych ei waed yn fferru yn ei wythiennau. Pa beth oedd yn digwydd yn y tywyllwch o'i flaen?

Yna clywodd rywun yn symud, ac yn ei wthio ei hun drwy'r gwrych yn egnïol. Dilynwyd hynny gan sŵn rhywun yn disgyn yn y cae yr ochr arall i'r clawdd, fel pe buasai wedi neidio.

Yna bu distawrwydd.

Ni wyddai Huw yn iawn pa hyd yr arhosodd yng nghysgod y gwrych. Ni wyddai beth i'w wneuthur. Ofnai fynd yn ei ol, ac ofnai yr hyn oedd ymlaen hefyd. Ond credai y dylai gyrraedd diogelwch yr ogof, deued a ddelo, a mentrodd gerdded yn araf a gwyliadwrus ymlaen, gan wneuthur cyn lleied o sŵn ag a allai.

Yr oedd yn nês i ymyl y geulan nag a feddyliodd. Clywai sŵn y tonnau yn torri ar y traeth islaw. Ond nid oedd sŵn arall yn unman.

Aeth yn ei flaen drachefn, ac yn awr cofiodd fod Alun Tomos wedi addo ei gyfarfod yn yr hwylfa. Pa le yr oedd, tybed? Meddyliodd y gallai fod wedi cyrraedd i'r ogof o'i flaen.

Aeth ymlaen drachefn, a bu agos iddo faglu a syrthio ar draws rhywbeth oedd ar lawr. Safodd yn sydyn a thynnodd yn ol. Ond nid oedd dim yn symud na llais yn torri ar y distawrwydd, a phenderfynodd Huw wybod beth oedd yno.

Penliniodd ar y ffordd ac estynodd ei law. Cyffyrddodd, er ei fraw, a wyneb dyn. Daeth ias o ddychryn drosto drachefn, ond mileiniodd, a thynnodd ei law dros y corff oedd o'i flaen. Ni bu raid iddo wneuthur hynny fwy nag unwaith i ddeall fod pwy bynnag oedd yno yn hollol farw.

Ceisiodd ei weld, ond yr oedd yn dywyll fel y fagddu, ac ni allai weld dim. Deallodd yn unig fod gan y truan ddillad da amdano,—dillad gwahanol i eiddo unrhyw un yn y pentref oddigerth Capten Gruffydd. Ond nid y capten oedd; gwyddai hynny oddiwrth ei faintioli.

Pan yn penlinio fel hyn yn y tywyllwch wrth ochr y corff marw, clywodd Huw ryw sŵn yr ochr arall i'r gwrych. Deallodd fod yno rywun yn symud yn araf ac yn wyliadwrus. Beth ddeuai ohono?

Arhosodd cyn ddistawed â llygoden, gan wrando â'i holl egni am ryw sŵn eto. Ond ymddangosai fod pwy bynnag oedd yno wedi cilio—neu ei fod am aros cyn ddistawed â Huw ei hun.

O'r diwedd mentrodd Huw godi ar ei draed. Camodd dros y corff yn ddistaw, ddistaw, a hanner ymgripiodd, ni wyddai yn iawn sut, hyd at ymyl y geulan. Yr oedd y môr odditano, a phenderfynodd ei daflu ei hun i lawr i'r traeth yn hytrach na syrthio i ddwylo ei elynion.

Ond ni ddaeth neb ato, ac nid oedd unrhyw arwydd fod neb yn ymyl. Meddyliodd Huw am y peth distaw hwnnw a orweddai y tu ol iddo, ac arswydodd. Ond penderfynodd geisio noddfa, serch hynny.

Aeth ymlaen hyd at ymyl y geulan, ar ei bedwar nes cyrraedd y bwlch. Yna tynnodd dusw o frwyn wrth waelod y llwyn drain, ac wrth wneuthur hynny agorodd dwll, tebyg i enau ffau llwynog. Yr oedd yn ddigon mawr i ddyn fynd iddo wrth orwedd ar ei hyd ac felly yr aeth Huw i mewn. Wedi mynd i gysgod y drain unwaith, yr oedd digon o le rhwng eu bonion iddo droi a thynnu y brwyn yn ol i'w lle i guddio yr agoriad.

Aeth i lawr ar hyd y llwybr cul a garw hwnnw yn y tywyllwch. Arweiniai y llwybr, fel y dywedwyd eisoes, hyd wyneb y geulan, ac i'r anghyfarwydd buasai yn beryglus i'r eithaf, hyd yn oed wrth oleu dydd. Nid oedd yn hollol ddiberygl i'r cyfarwydd yn y tywyllwch. Ond llwyddodd Huw i'w dramwyo yn ddiogel, a chyrhaeddodd enau yr ogof. Yno drachefn aeth drwy oruchwyliaeth gyffelyb gyda'r drain, ac aeth i mewn, drwy'r twll a agorodd, i'r ogof.

Wedi cyrraedd y lloches yma, yr oedd yn lle digon cysurus. Yr oedd y graig yn sych, a chadwai Alun Tomos amryw gasgiau a phlanciau yno. Yr oedd yno wellt ar hyd y llawr hefyd, a thwr o sachau sychion. Crogid un sach dros enau yr ogof rhag i ddim goleuni a fyddai yn yr ogof daflu allan i'r môr, yn ogystal ag i atal y gwynt oer rhag dyfod i mewn. Anodd fuasai meddwl am le diogelach.

Gorweddodd Huw ar y gwellt. Yr oedd ei feddwl yn gynhyrfus iawn, ac ni wyddai yn y byd beth i'w wneuthur nesaf. Yr oedd ei sefyllfa, os oedd y press gang ar ei ol mewn gwirionedd, yn beryglus a difrifol ddigon. Ac, yng nghanol ei holl helynt, dyna ddirgelwch y dyn marw yn yr hwylfa. Yr oedd hynny yn beth rhyfedd ac yn beth difrifol hefyd. Yr oedd cwestiwn arall yn pwyso ar ei feddwl o hyd; paham yr oedai Alun Tomos?

Pan yn synfyfyrio fel hyn clywodd Huw rywun yn dyfod i lawr y llwybr cudd. Credai mai Alun Tomos oedd yno, ond rhag ofn mai nad ïe, gafaelodd mewn darn o haearn i'w amddiffyn ei hun ag ef os byddai raid.

Daeth yr ymwelydd yn nês, a gwelodd Huw ei ben yn dyfod i mewn i'r ogof, ond ni ddywedodd Huw yr un gair. Er dirfawr ollyngdod iddo, clywodd lais Alun Tomos yn gofyn,—"Huw, wyt ti yma?"

"O'r goreu," meddai Huw. "Chi sydd yma?"

"Ie," meddai Alun, gan ddyfod i mewn a gollwng y sach yn ol dros enau yr ogof. "Y mae'n rhaid i ni gael goleu."

Tarawyd Huw gan rywbeth dieithr yn llais yr hen ŵr. Ni wyddai yn iawn beth oedd, ond yr oedd yno rywbeth na byddai yno bob amser, ond ni ddywedodd ddim. Yr oedd fel pe syrthiasai rhyw ddistawrwydd anghysurus ar y ddau.

Goleuodd Alun Tomos lanter fechan, a chuddiodd ei goleuni yn ofalus rhag genau yr ogof. Yna, wrth lewyrch gwan y goleuni hwnnw, gwelodd Huw fod wyneb Alun yn wyn. Ni wyddai ef fod ei wyneb yntau cyn wynned a'r calch hefyd.

"Lle buoch chi mor hir?" meddai. "Bûm yn disgwyl amdanoch yn yr hwylfa yn hir."

Rhaid fy mod i wedi dy golli di rywsut," meddai'r llall. "Welais i yr un golwg arnat ti."

"Ddaethoch chi i lawr ar hyd yr hwylfa?" meddai Huw. Tybiodd fod Alun Tomos yn edrych yn rhyfedd arno cyn ateb.

"Do," meddai o'r diwedd.

"Welsoch chi ddim byd yno, ynteu?" meddai Huw yn bryderus. Daeth syniad ofnadwy i'w feddwl. Beth oedd yn adnabyddus yn un o'r lleisiau a glywodd yn yr hwylfa?

"Dim byd, am wn i. 'Roedd hi cyn dywylled a bol buwch yno," meddai Alun; a thybiodd Huw fod—rhywbeth dieithr iawn yn ei lais erbyn hyn.

Rhaid eich bod chi yn cerdded yn agos iawn i'r ymyl, ynteu," ebe Huw.

"Pam, dywed?" gofynnai Alun Tomos yn siarp. "Welaist ti rywbeth yno?"

"Naddo," atebai Huw, "canys 'roedd hi yn dywyll ofnadwy, ond mi glywais ac mi deimlais rywbeth."

"Beth, yn eno'r dyn?" Nid oedd Alun Tomos yn edrych ar Huw o gwbl.

Yna dywedodd Huw yr holl hanes am y siarad a glywodd ac am y llofruddiaeth yn y tywyllwch, canys ni allai gredu ei bod yn ddim arall. Sylwodd, tra y siaradai, fod Alun Tomos yn syllu arno, ond nid ym myw ei lygaid; yn hytrach, cadwai ei olwg ar ei fraich o hyd.

"Wel," meddai, ar ol i Huw ddweyd yr hanes, "mi fydd yma holi ac ymofyn am hyn eto. A 'does gen ti yr un syniad pwy oedd o?"

"Nac oes, wrth gwrs. Sut y gallai fod? Yr oedd hi yn rhy dywyll o lawer."

Ddaru ti ddim meddwl am y dyn hwnnw oedd yn y Plâs gyda Capten Gruffydd? Dyna'r unig un y gallaf i feddwl amdano yn gwisgo fel yna."

Edrychodd Huw ar yr hen ŵr, a chyfarfu eu llygaid. Disgynnodd llygaid Alun Tomos, a daeth ton o feddyliau ofnadwy dros Huw drachefn.

"Naddo," meddai; "ni feddyliais i am hwnnw. Paham 'roeddech chi yn gofyn?

"O, dim byd; dim ond rhyw feddwl amdano wrth dy ddisgrifiad ti."

Bu'r ddau'n distaw am ysbaid wedyn. O'r diwedd dywedodd Alun Tomos,—"Wel, rhaid i mi fynd 'rwan. Dyma lanter i ti, ond paid a'i goleuo ond lleia fedri di. A dyma fwyd. Y mae yna ddŵr yn y ffynnon yna ym mhen draw yr ogof. Fe ddof yma yfory, neu mi ddaw rhywun arall, i adael i ti wybod sut y mae pethau."

"O'r goreu," meddai Huw. Siaradai fel dyn yn siarad drwy'i gwsg, neu fel un a gariai faich trwm ar ei feddwl. Edrychodd Alun Tomos arno yn graff.

"Nos da i ti," meddai, "a chadw dy hun o'r golwg. Mi fydd yn ddiogelach i ti swatio am rai dyddiau beth bynnag. Os bydd raid, mi fydd yn ddigon hawdd dy gael di ar fwrdd llong John Ambros fel y gelli di fynd o'r wlad—os bydd raid."

"Mynd o'r wlad!" meddai Huw. "I beth, deydwch? "

"O, dim byd," meddai Alun Tomos, yn frysiog; dim ond os bydd raid, wyddost. Ond hwyrach na fydd dim rhaid. Nos da i ti."

Nos da," meddai Huw yn syn, ac aeth yr hen ŵr allan drwy y twll, a chaeodd Huw ef yn ofalus ar ei ol.

Wedi iddo fynd, ffurfiodd holl ofnau Huw yn un frawddeg, brawddeg yr ofnai ei sibrwd, hyd yn oed wrtho ef ei hun,—tybed fod Alun Tomos yn meddwl mai efe a laddodd y dyn yn yr hwylfa,—tybed—tybed ei fod am daflu'r cyfrifoldeb arno pa un ai oedd yn meddwl felly ai peidio?

PENNOD IV.
Y GYLLELL.

PAN gyrhaeddodd Alun Tomos gartref y noswaith honno yr oedd Sian ar ei thraed yn ei aros.

"Ydi o'n ddiogel 'nhad?" oedd ei chwestiwn cyntaf.

"Ydyw," meddai'r hen ŵr. "O ydyw, y mae'n ddiogel."

"Mi gyrhaeddodd yr ogof yn iawn felly?" Yr oedd Sian yn bryderus iawn.

"Do, neno'r tad. Ddaw neb o hyd iddo fo yno, os na bydd rhywbeth mawr iawn. Ond dos i dy wely, 'rwan, Sian, 'rwyt ti wedi bod ar dy draed ers digon o hyd."

"O'r goreu, 'nhad," meddai'r eneth. "Doedd arna i ddim ond eisiau cael gwybod oedd popeth yn iawn."

Cododd i fynd i'w gwely. Ni oleuodd gannwyll, canys yr oedd canhwyllau y pryd hynny yn llawer rhy uchel eu pris i bobl dlodion eu defnyddio os na byddai raid. Ond gwelodd wyneb ei thad yng ngoleuni y tân mawn—a gwelodd ryw olwg ddieithr, boenus arno.

"Beth sy' arnoch chi, 'nhad?" gofynnai yn sydyn. "Beth sy' arna'i beth?" meddai Alun Tomos.

"Y mae rhyw olwg ryfedd arnoch chi. Yr ydach chi'n edrych fel petaech chi wedi gweld ysbryd neu wedi cael rhyw ddychryn mawr."

"Paid a chyboli Sian," meddai yntau yn swta. "'Does dim arna i ond dipyn o flinder, a 'dwyf ddim cyn ieuenged ag y bûm i, wyddost."

"Does dim byd arall, 'nhad?" gofynnai Sian yn bryderus. "Ydach chi wedi clywed am rywbeth—rhyw berygl arall?"

"Naddo, naddo!" meddai Alun Tomos, fel pe'n colii ei amynedd. Mewn gwirionedd ofnai lygaid craff ei ferch, ac ofnai rhag iddi ei holi yn rhy drwm. "'Does yna ddim arall i'w glywed, ac feallai na ddaw y press gang yma wedi'r cwbl."

"Y mae hynny'n ddigon posibl. 'Rwan, cer i dy wely."

Cusanodd Sian ei thad, ond daliodd i edrych yn graff a phryderus arno o hyd. Ni thwyllwyd hi. Ni welodd ef yn edrych fel hyn hyd yn oed ar yr adegau mwyaf pryderus yn ei hanes. Gŵr oedd ef, fel rheol, yn ymwroli pan ddeuai perygl ar fôr neu ar dir. Llonnai yn wyneb anawsterau. Ond heno yr oedd ei ferch yn deall fod rhyw faich mawr ar ei feddwl. Rhwygwyd ei chalon rhwng tosturi at ei thad a phryder am ei chariad. Ond gwelodd nad gwiw iddi holi chwaneg ar yr hen ŵr; yr oedd yn amlwg fod ei holi yn ei boeni. Dywedodd "Nos dawch" wrtho, ac aeth i'w siamber.

Ond nid i gysgu. Edrychodd allan drwy'r ffenestr. Yr oedd yn noson dywell fel y fagddu. Nid oedd seren yn holl gwmpas y ffurfafen. Clywai sŵn pruddaidd y feisdon, a chofiai am Huw yn ymyl y môr, ei hun, yn yr ogof unig ac yn ofni rhag dyfod gelynion. Syrthiodd yr eneth ar ei gliniau. Yr oedd wedi teimlo oddiwrth ddylanwad mam Huw, ac yr oedd yn naturiol grefyddol ei hysbryd. Ac yno yn ei siamber gweddïodd am ddiogelwch ei chariad ac am ddedwyddwch ei thad. Druan o Sian! Ni thybiai hi y pryd hynny fod cymylau duach eto i gau amdani, ac nad oedd y nos oddiallan ond gwyll tyner wrth y nos oedd i gau am ei bywyd ieuanc hi.

Nid aeth Alun Tomos i'w wely ychwaith. Eisteddodd o flaen y tân mawn, a'i ên wedi suddo ar ei fynwes. Yr oedd yn amlwg ei fod mewn pryder meddwl llethol. Dyn dewr ei ysbryd oedd ef, fel y dywedwyd, ond yn awr yr oedd wyneb yn wyneb â pherygl ac anhawster mwy nag a gyfarfu erioed o'r blaen.

Meddyliai am ei ferch, ac yna am Huw. Ni ddaeth y press gang i'w feddwl o gwbl—daeth anhawster mwy na hwnnw ar draws ei lwybr. Eisteddodd felly am awr neu ragor, hyd nes yr oedd ymhell o'r nos, ac yna cododd, cerddodd i'w wely fel dyn lluddedig iawn; er hynny nid oedd wedi gweithio fawr ar hyd y dydd.

Pan ddaeth y bore, yr oedd cynnwrf a braw ym mhentref Llanwennol. Deffrowyd Alun Tomos a Sian yn fore gan guro gwyllt ar y drws, a chododd Sian i agor. Gwen Anwyl oedd yno, a braw yn ei llygaid, a dagrau ar hyd ei gruddiau.

"Gwen Anwyl!" meddai Sian, mewn dychryn. "Beth sydd yn bod?"

"Yn bod, Sian!" meddai'r hen wraig, bron a methu torri'r geiriau. Y mae rhywbeth ofnadwy yn bod.

"Ple mae dy dad?"

"Dyma fi," meddai Alun Tomos, wedi gwisgo amdano ar ffrwst. Sylwodd Sian, yng nghanol ei dychryn, fod ei thad yn edrych fel dyn a ddisgwyliai ryw alwad fel hyn. Nid oedd arwydd cyffro o gwbl arno. "Beth sy'n bod, Gwen Anwyl?"

"O, Alun Tomos," meddai hithau, "y mae peth dychrynllyd yn bod. Chlywsoch chi ddim am y dyn hwnnw oedd yn y Plas hefo Capten Gruffydd?" "Naddo," meddai Alun Tomos, â'i wyneb fel carreg. "Beth amdano?"

"Fe'i cawd o bore heddyw ar y ffordd i'r geulan—wedi marw!"

"Wedi marw?" meddai Sian, a'i hwyneb yn wyn gan ofn—rhyw ofn llethol na fedrai hi ei esbonio.

"Wedi ei ladd," meddai Gwen Anwyl, gan dorri allan i wylo drachefn, "â chyllell yn ei galon!

"Wel," meddai Alun Tomos "y mae hynny'n beth ofnadwy iawn, Gwen Anwyl, ond paham yr ydach chi mor ddrylliog—"doeddach chi na minnau yn ei nabod."

Methodd y wraig weddw ag ateb am ysbaid. Ysgydwyd hi gan ocheneidiau mawr, ac wylodd fel pe ar dorri ei chalon. Edrychai Sian arni fel pe'n disgwyl iddi ei tharo â chyllell. Ewyllysiai fynd ati a cheisio ei chysuro, ond atelid hi gan rywbeth rhag gwneuthur hynny. Ni wyddai beth a'i rhwystrai.

O'r diwedd medrodd Gwen Anwyl siarad. "Y mae nhw'n deyd," meddai drwy ei dagrau,." mae'n nhw'n deyd mai Huw a'i lladdodd o!"

Siglodd Sian uwchben ei thraed, ond yr oedd yn eneth gref, ac ni chwympodd. Teimlai fel pe buasai y ddyrnod wedi ei lladd, ond wrth ladd ei chalon, adferodd nerth ei chorff iddi.

"Huw!" meddai mewn llais uchel. "Huw wedi ei ladd o! Pwy sy'n deyd peth felly? Pe buasai Huw ei hun yma mi gawsent gymryd eu geiriau yn ol. 'Dydach chi ddim yn credu peth fel yna, Gwen Anwyl 'nhad?"

"Nac ydw i—nac ydw i, wir," meddai'r hen wraig. 'Huw, na wnaeth o dro angharedig â neb erioed—ond y mae'n nhw'n deyd hynny ymhob man, ac y mae nhw'n chwilio amdano fo."

Trôdd Sian at ei thad, ond gwelodd rywbeth yn ei wyneb ef a'i dychrynodd yn fwy hyd yn oed na geiriau Gwen Anwyl.

"Nhad!" meddai yn ffyrnig. "Dydach chi ddim yn credu peth fel yna am Huw! Deydwch nad ydach chi ddim yn credu peth fel yna!"

"Nac ydw i," meddai Alun Tomos yn araf, "nac ydw i, ddim yn credu dim o'r fath beth. Ond gad i ni gael clywed stori Gwen Anwyl i gyd. Pam y mae nhw'n deyd mai Huw lladdodd o, Gwen Anwyl?"

"Capten Gruffydd fu acw efo dau swyddog y bore yma," meddai hithau, ac mi ddywedson eu bod nhw yn meddwl fod gan fy machgen i rywbeth i'w wneud efo'r peth."

"A dyna'r cwbl?

'Ie, dyna'r cwbl ddywedson nhw wrtha i. Ond mi ofynson ym mha le yr oedd Huw, ac mi ddywedais inna nad oedd o ddim yn y tŷ. Ac mi ofynson i mi a fuo fo yn cysgu yno neithiwr?"

"A beth ddywedasoch chi?"

"Mi ddywedais yn fy nychryn na fuo fo ddim!" "H'm," meddai Alun Tomos, yn fyfyrgar. "Biti oedd hynny. Ond 'does mo'r help. I ble yr aethon nhw wedyn?"

"I lawr y ffordd i rywle—."

Dyna guro trwm ar y drws drachefn, ac aeth Alun Tomos ei hun yno i agor y tro hwn. Y tu allan safai Capten Gruffydd a dau swyddog gydag ef. O'r tu ol iddynt yr oedd tyrfa o bentrefwyr dychrynedig.

Wel, Capten Gruffydd," meddai Alun Tomos.

"Wel, Alun Tomos," meddai'r Capten. "Busnes drwg ydi hwn. Ydi Huw Anwyl yma? Mi welaf fod ei fam o yma."

"Nac ydi, yn eno'r dyn," meddai Alun Tomos, beth ydyw rhyw helynt fel hyn ynghylch Huw Anwyl?" "Mi gewch glywed digon am hynny gyda hyn," meddai'r Capten yn ffyrnig. "'Does dim ond rhyw ddrwg fel hyn yn dyfod o ryw smyglars felltith fel chi bob amser. Y mae Mr. Carrier, oedd yn aros yn y Plas efo mi, wedi ei ladd neithiwr, a Huw Anwyl a'i lladdodd o."

Cadwodd y Capten ei hun rhag edrych ar Sian tra yn dywedyd hyn. Ar y llaw arall, edrychai hi arno fel pe medrai ei ladd, y gwnai.

"Huw wedi ei ladd o!" meddai Alun Tomos. "Naddo erioed. Dylech fod yn fwy gofalus beth a ddywedwch, hyd yn oed am bobl dlodion, Capten Gruffydd. Beth sydd yn gwneud i chi feddwl mai Huw a'i lladdodd o?"

Rhoddodd y Capten ei law yn ei boced. Tynnodd rywbeth allan a dangosodd hi i Alun Tomos.

"Mi gawd honna yn ymyl corff fy nghyfaill," meddai, yn wawdlyd, "ac feallai eich bod chi yn ei nabod. O, mi welaf eich bod chi!"

Nid oedd angen atebiad mewn geiriau. Yr oedd un olwg ar y tri wyneb brawychus yn ddigon. Canys yn ei law daliai y Capten gyllell llongwr.

Adnabyddid hi gan bawb oedd yno. Cyllell Huw oedd hi.

PENNOD V.
YN YR OGOF.

Ni wyddai Sian yn iawn sut y treuliodd y diwrnod hwnnw. Yr oedd gweld cyllell Huw, a chlywed Capten Gruffydd yn dywedyd mai ar gorff y dyn a laddwyd y'i cafwyd wedi ei llethu yn lân.

Ceisiodd gysuro Gwen, mam Huw, ond ofer fu'r cais. Yr oedd calon Sian druan yn rhy drom ei hunan iddi fedru ysgafnhau dim ar faich neb arall.

Diflannodd Alun Tomos i rywle pan ddaeth yr hwyr, a gadawyd Sian ei hun yn y bwthyn. Bu amryw o'i chymdogion ymhlith y pentrefwyr yno yn ystod y dydd yn ei holi ac yn ceisio cael gwybod faint a wyddai hi am y trychineb.

Holent ym mha le yr oedd Huw, a phryd y gwelodd Sian ef ddiweddaf, ond nid oeddynt fawr elwach ar hynny. Nid geneth barablus oedd Sian un adeg, a'r diwrnod hwnnw anodd oedd tynnu gair dros ei gwefus. Dywedodd na wyddai hi ddim am symudiadau Huw, ac o'r diwedd, wedi methu bob ffordd, gadawodd y cymdogion lonydd iddi.

Ni wyddai yr eneth beth i'w wneuthur. Ni chafodd air â'i thad ar hyd y dydd. Arferai bwyso llawer ar ei graffter a'i wroldeb ef, ond yn awr yr oedd rhywbeth dieithr yn ei ymddygiad.

Teimlai ei ferch fel petai rhywbeth wedi dyfod rhyngddynt.

Ni wyddai ym mha le yr oedd ei thad yn awr. Aeth o'r tŷ, gan ddywedyd rhywbeth am lan y môr pan ddechreuodd dywyllu, ac yr oedd yn agos i ddwy awr er hynny. Ni wyddai Sian beth allsai fod yn galw amdano cyhyd.

Yna meddyliodd am Huw yn unig yn yr ogof. Ni allai gredu am foment ei fod yn euog. Gwyddai yn rhy dda am ei natur dyner, garedig, ac agored. Yr oedd trywanu dyn yn y tywyllwch yn beth hollol groes i'w reddfau.

Os felly, meddai yr eneth wrthi ei hun, beth os y mentrai allan o'r ogof gan feddwl fod y press gang wedi mynd heibio? Ni ŵyr efe ddim am y lofruddiaeth yma, ac os y daw allan y mae'n sicr o gwympo i ddwylo ei elynion.

Yr oedd y syniad yn un ofnadwy—yn un dychrynllyd. Beth oedd i'w wneuthur?

Geneth ddewr oedd Sian, geneth wedi arfer wynebu peryglon, er na alwyd arni erioed o'r blaen i wynebu perygl fel hwn. Cynorthwyodd lawer ar ei thad i herio swyddogion y llywodraeth, ac nid oedd arni eu hofn. Nid oedd neb yn Llanwennol yn edrych ar smyglio fel drwg moesol. Hyd yn oed pe lleddid swyddog mewn brwydr deg ar lan y môr, y mae'n debyg na buasent hwy, na Sian yn eu plith, yn edrych ar hynny ond fel damwain anffodus iawn.

Ond yr oedd llofruddiaeth yn beth arall. Nid oedd Mr. Carrier yn ymyrryd â'r smyglars, hyd y gwyddai neb.

Eto ni chollodd Sian ei dewrder. Pan feddyliodd am berygl mawr Huw, penderfynodd fod yn rhaid ei rwystro rhag rhoddi ei hun yn y fagl, deued a ddelo.

Nid oedd ei thad yn y tŷ. Yr oedd Gwen Anwyl yn rhy hen ac yn rhy ddrylliog ei theimlad i wneuthur dim. Rhaid oedd i Sian wneuthur y cwbl ei hun.

Pan benderfynodd hynny, dechreuodd wneuthur y trefniadau angenrheidiol ar unwaith. Yr oedd yn rhaid iddi fynd i'r ogof i rybyddio Huw, ac yr oedd yn rhaid iddi fynd yno heb i neb ei gweld.

Yn ffodus, yr oedd yn dywyll iawn, ac ni chyfarfu Sian â neb yn y pentref. Trôdd i'r caeau trwy adwy, ac yna cerddodd yn gyflym tua glan y môr, gan gadw cyn agosed i'r gwrych ag y medrai.

Nid oedd llwybr y ffordd y cerddai, ac ni welodd neb. Yr oedd yn gwybod cystal â'i thad am safle yr ogof, a chyrchodd tuag ati yn uniongyrchol. Pan neshaodd at y geulan, cerddodd yn wyliadwrus iawn. Feallai fod rhai o'r swyddogion o gwmpas, neu rai o'r dynion a fu'n chwilio am Huw drwy'r dydd. Safodd amryw weithiau i wrando, ond nid oedd sŵn heblaw su y don i'w glywed o unman

Penderfynodd o'r diwedd fod popeth yn ddiogel, a dechreuodd fynd i lawr ar hyd y llwybr cul a arweiniai ar hyd wyneb y geulan i'r ogof. Curai ei chalon yn enbyd, canys ni wyddai beth a'i cyfarfyddai ym mhen ei thaith, ond cyrhaeddodd enau y guddfan yn ddiogel.

Yno nid oedd na sŵn na goleuni. Ond gwyddai Sian nad oedd hynny ond peth i'w ddisgwyl, a sibrydodd "Huw" yn isel.

Ni chafodd ateb y tro cyntaf, a dychrynodd drwyddi wrth feddwl y gallai y lle fod yn wag. Ond dywedodd "Huw" drachefn, ac er ei llawenydd cododd cwrr y sach.

"Pwy sydd yna?" meddai llais Huw.

"Y fi—Sian," meddai'r eneth yn isel.

"Sian!" meddai Huw, gan godi mwy ar y sach. "Tyd i mewn, mewn munud. Ond ni ddylet ti ddim dwad yma fel hyn."

Aeth Sian i mewn i'r ogof, a pharatodd Huw i oleuo cannwyll, ond rhwystrodd Sian ef.

"Paid," meddai, " rhag ofn fod rhywun yn gwylio." "Beth," ebe Huw, "ydi'r press o gwmpas o hyd? 'Rydw i wedi hen flino yn yr hen dwll yma, weldi, Sian."

"O Huw!" meddai hithau, "dwn i ddim am y press, ond y mae yna berygl gwaeth o lawer na hynny. Fu neb yma yn deyd wrthat ti?"

Neb yma? Naddo, yr un creadur byw ers pan fu dy dad yma neithiwr. Ond gad i mi oleuo'r lantar yma i mi gael golwg arnat ti, fy nghariad i."

"Na, na," meddai Sian.

"Mae'n rhaid i ti beidio. Chlywais ti ddim fod Mr. Carrier oedd yn aros yn y Plas, wedi ei ladd yn yr hwylfa neithiwr."

"Y fo oedd o?" meddai Huw.

"Yr oeddat ti yn gwybod?" meddai Sian gydag ing yn ei llais. "O, Huw, Huw, dywed mai nid y chdi ddaru, dywed, er mwyn popeth, Huw, na wyddost ti ddim am y peth."

"Na wn i, yn eno'r dyn," meddai Huw mewn syndod. "Mi wyddwn i fod yna ddyn wedi ei ladd yn y fan yna neithiwr, ond wyddwn i ddim pwy oedd o na sut y lladdwyd o mwy na babi heb ei eni."

"O, yr oeddwn i'n siwr, yr oeddwn i'n siwr o hynny!" meddai Sian druan, a thorrodd i wylo'n hidl. Yr oedd clywed Huw yn gwadu mor bendant yn ollyngdod mawr iddi, a chollodd bob llywodraeth ar ei theimladau am funud.

Cydiodd Huw amdani a cheisiodd ei chysuro ei oreu. "Pam roeddet ti'n meddwl y gwyddwn i ddim, Sian fach?" gofynnai yn dyner. A gofynnodd iddo ei hun yn ffyrnig, tybed fod ei thad wedi dywedyd rhywbeth wrthi?

Ymhen ychydig, meddiannodd Sian ddigon arni ei hun i fedru dechreu ar yr hanes. Dywedodd fel y daeth Capten Gruffydd a'r swyddogion i chwilio am Huw y diwrnod hwnnw, ac o'r diwedd dywedodd am y gyllell a gafodd Capten Gruffydd.

"Diawst i," meddai Huw, "tybed mai fy nghyllell i oedd hi?" Chwiliodd yn ei boced, ond nid oedd y gyllell yno. "Ie, yn wir," meddai, I rhaid ei bod wedi disgyn o fy mhoced pan 'roeddwn i'n edrach y corff. Sian, y mae pethau yn edrych yn bur ddrwg. 'Dwn i ddim mwy na thithau pwy laddodd y creadur anffodus, ond y mae'n nhw'n siwr ohona i, ar ol cael hyd i'r gyllell yna. Y mae'r capten yna am fy ngwaed i ers llawer dydd."

"O, Huw!" meddai'r eneth. "Beth wnawn ni, dywed?"

"Y mae'n anodd deyd," meddai Huw. "P'le mae dy dad?"

"'Dwn i ddim. 'Roedd o yn y tŷ drwy'r dydd, ond mi aeth allan gyda'r nos, a 'dwn i ddim ple y mae o rwan."

"Rhaid i mi gael i weld o, cyn y galla i benderfynu beth i'w wneud," meddai Huw. "Ond cofia di, Sian, fy mod i yn hollol ddiniwed, a wnei di?"

"Gwnaf, gwnaf," meddai'r eneth. "Ddaru mi ddim meddwl am funud fod y peth yn wir. O, Huw beth sydd yna?"

Distawodd y ddau. Gwrandawsant. Yr oedd yno ryw sŵn megis uwch eu pennau. Yr oedd yn amlwg fod rhywun yn dyfod i lawr i'r ogof.

Gwthiodd Huw Sian o'r tu cefn iddo, i ben draw yr ogof, a gosododd ei hun yn barod wrth y drws.

Ar ol a glywodd gan Sian, ni phetrusai ymladd am ei fywyd, os gelyn oedd yno. Gallai dyn cryf fel efe amddiffyn genau cul yr ogof yn erbyn byddin, pe byddai angen, canys ni allai ond un dyn ar unwaith ddyfod ar hyd y llwybr cul.

Clywai Sian yn anadlu yn drwm ac yn gyflym o'r tu ol iddo. Yr oedd y dyn, pwy bynnag oedd yno, yn dyfod yn nês o hyd, ac o'r diwedd daeth at ddrws yr ogof.

Gafaelodd Huw yn dynnach yn y darn pren oedd yn ei law.

"Huw," meddai llais Alun Tomos; a bu bron i Sian weiddi mewn gollyngdod pan ddeallodd mai ei thad oedd yno.

Daeth Alun Tomos i mewn i'r ogof, a dywedodd Huw: "Wyddwn i ddim pwy oedd yna. Y mae Sian yma."

"Sian!" meddai'r pysgotwr mewn syndod. "Sut y doist ti yma, ac i beth?"

"Ar hyd y caeau, 'nhad," meddai'r eneth. "Yr oedd arna i ofn i Huw fentro allan, ac yntau heb wybod am y perygl. A wyddwn i ddim ple 'roeddach chi."

"Felly," meddai Alun Tomos; "ac y mae Huw yn gwybod am y perygl?"

"Gwn," meddai Huw yn gwta; "ac yr ydw i mor ddiniwed â Sian yma oddiwrth y drwg. Mi welais i y corff, a dyna'r cwbl. Rhaid fod fy nghyllell i wedi disgyn o 'mhoced i."

Ddaru mi ddim meddwl dy fod ti'n euog," meddai Alun Tomos; "ond y mae pethau wedi drysu'n ofnadwy."

"Lle buoch chi heno, 'nhad?" meddai Sian.

"Mi fûm ar hyd glan y môr," meddai Alun; mi welais John Ambros."

John Ambros! Dyna'r gŵr y soniodd Alun Tomos amdano wrth Huw y noson cynt. Cofiodd Huw am hyn, a chredodd nad oedd Alun Tomos ond yn rhoddi cynllun mewn gweithrediad a wnaeth yn ei feddwl er y noswaith cynt. Yr oedd yma rhyw ddirgelwch nas deallai ef.

Yr oedd John Ambros yn adnabyddus fel un o smyglwyr mwyaf beiddgar y glannau. Hwyliai rhwng Ffrainc a glannau Cymru yn aml, a chymerai arno fod yn marchnata fel rhyw longwr arall. Gwnai hynny i raddau, y mae'n wir; ond gwyddai pawb mai nid ar hynny y bywiai. Yr oedd rhywbeth arall yn dyfod a llawer mwy o elw i John Ambros. Yr oedd ei allu a'i feiddgarwch yn ddihafal, ac ni lwyddodd yr un swyddog, boed ef mor egnïol ag y bo, i roddi llaw arno hyd yn hyn.

Yn wir, sibrydid gan bobl y wlad fod ar y swyddogion ofn John Ambros. Gwyddent ei fod yn ŵr parod gyda'i arfau, a'i fod wedi tyngu na chymerid ef yn

'O'r diwedd daeth at ddrws yr ogof."

garcharor byw byth. Beth bynnag am hynny, yr oedd ei gyfrwyster a'i allu fel morwr wedi ei gadw yn glir oddiwrth y swyddogion hyd yn hyn. Er eu bod yn gwybod am ei alwedigaeth yn eithaf da, nid oedd ganddynt brofion, ac heb brofion digonol, ni allent wneuthur dim.

"John Ambros, 'nhad?" meddai Sian. "Beth fedr o ei wneud i ni yn awr?"

"Daw â'r scwner yma nos yfory," meddai Alun Tomos; "ac fe gaiff Huw yma fynd i ffwrdd efo fo. 'Does dim arall amdani hi. Wiw iddo fo ddangos ei wyneb yn y pentref, ac yr wyf yn bur anesmwyth amdano fo yma. Y mae'r Capten yna mor filain am ei waed o rywfodd, ac y mae o'n siwr o gael hyd iddo fo yma."

"Ond ni chafodd neb erioed hyd i'r ogof yma," meddai Sian. Yr oedd hi yn awyddus am gadw Huw yn y cyrraedd, er gwaethaf y cwbl.

"Feallai hynny," meddai Alun Tomos, braidd yn fyr ei amynedd; "ond ni fu neb yn chwilio, fel y chwilir 'rwan, erioed o'r blaen. A peth arall,—rhaid i rywun gerdded yn ol â blaen gyda bwyd i Huw os erys o yma, ac y mae hynny yn sicr o dynnu eu sylw nhw at y lle. Beth wyt ti yn ei ddeyd, Huw?"

"Rydw i'n meddwl eich bod chi yn eich lle yn hollol, Alun Tomos," meddai Huw. "Yr wyf fi wedi blino 'ngalon yn y lle yma eisoes, a byddai'n well gennyf fod ar y môr efo John Ambros o lawer. Mi fydd yn ddiogelach lawer i mi, Sian," ychwanegai, gan droi at yr eneth.

Gwelodd Sian hynny hefyd, a chydsyniodd. Yna dywedodd—

"Mi ddof yma cyn i ti gychwyn, Huw. Mi fydd yn well i mi fynd yn awr, rhag bod dau ohonom yn mynd gyda'n gilydd. Y mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Cymer ofal, Huw."

"Mi wnaf, fy nghariad i," meddai Huw, gan ei chusanu; "a chymer dithau ofal hefyd. Mi gei weld y daw popeth yn iawn eto."

"Gweddïaf ar Dduw am hynny," meddai hithau wrth fynd allan.

Eisteddodd y ddau ddyn mewn distawrwydd a thywyllwch am ysbaid. Symudodd Alun Tomos yn aflonydd, ond ni ddywedodd Huw yr un gair.

O'r diwedd torrodd Alun Tomos ar y distawrwydd. "Huw," meddai, "pwy laddodd Carrier? " Cododd Huw ei ben.

"Dywedais," meddai, "na wyddwn i a 'dwn i ddim chwaith. Os oes rhywun yn gwybod, y chi ddylai wybod."

"Y fi? Paham?"

"Yr oeddach chi o gwmpas," meddai Huw yn araf. "Welais i neb yn yr hwylfa, a chefais Carrier wedi marw. Dywedsoch na welsoch chi ef, ond ym mha le yr oeddach chi felly? A phaham y gofynnwch i mi pwy a'i lladdodd o?"

Ni atebodd Alun Tomos ar unwaith.

"Dyma'r paham y gofynnais," meddai o'r diwedd; "yr oeddat ti wedi bod yn yr hwylfa—'roeddwn inna yn y cae am y gwrych, a chlywais sŵn dy droed. Gwn dy fod wedi bod gyda'r corff, a gwn mai dy gyllell. di a gafwyd yn ei ymyl. 'Roeddwn i'n meddwl-gan dy fod ti wedi bod am dipyn yn y lle—dy fod ti wedi gweld neu glywed rhywbeth. Neu—neu"

"Neu beth, Alun Tomos?"

"Wel, 'dwn i ddim beth oedd y dyn yma, ond 'roeddat ti yn ymladd am dy fywyd, yn dianc, cofia,—a wyddwn i ddim beth allaset ti ei wneud. Fuaswn i ddim yn beio rhyw lawer arnat ti—ddim yn dy feio di o gwbl, wyddost"

"Alun Tomos," ebe Huw, "dywedais ar fy llw wrth Sian nad oedd wnelo fi fwy â'r peth na'r baban heb ei eni. A pham y mae'n rhaid i chwi dreio taflu'r bai ar fy nghefn i fel hyn o hyd?"

"'Dydw' i ddim yn treio taflu'r bai ar dy gefn di, Huw," meddai Alun Tomos. "'Doeddwn i ddim ond yn gofyn i ti. Mi gaf ddweyd wrth dy fam nad oedd a fynnot ti ddim â'r peth."

Druan o mam!" meddai Huw. "'Does wybod pryd y caf i ei gweld hi eto. Ond, dywedwch un peth wrtha' i, Alun Tomos. Wyddoch chi ddim pwy laddodd Carrier?"

"Sut y gwn i?" meddai Alun.

"'Doeddwn i'n deyd wrtha ti fy mod i am y gwrych o hyd."

"Wel," meddai Huw, ar ol peth distawrwydd, "rhaid fod yna rywun yn y busnes na wyddom ni ddim amdano. Ond ar fy ysgwyddau i y daw y baich. Oni fyddai yn well i mi wynebu'r cwbl, a phrofi fy mod yn ddieuog?"

"Paid a gwirioni, fachgen!" meddai Alun Tomos yn ffyrnig. "Sut y medri di brofi hynny byth, yn wyneb dy gyllell, a'r ffaith dy fod ti yma ar y pryd? Heblaw hynny, y mae yna glwt o waed ar lawes dy gôt ti, mi gwelais o neithiwr. Paid a bod yn ffŵl. 'Does dim iti ei wneud ond mynd ar fwrdd llong John Ambros. Feallai y medri di wneud dy gartref mewn rhyw ran arall o'r wlad, lle na bydd neb yn dy nabod ti."

"Mi welaf," meddai Huw yn chwerw, "eich bod chwi wedi penderfynu fy alltudio, am ryw amcan neu gilydd."

"Mi welet," atebodd Alun, "petaet ti hanner yn dy ben, fy mod i'n cynllunio'r goreu ar dy gyfer di. 'Dwn i ddim beth sydd arnat ti heno. Ond mi fydd y scwner yma toc wedi iddi nosi yfory, ac mi fydda innau yma hefo rhaff. Rhaid i ni dy ollwng di i lawr hyd wyneb y geulan."

"O'r goreu," meddai Huw; "ac mi fyddai'n well i chi fynd rwan, rhag ofn i rai o'r swyddogion yna ddwad i browla o gwmpas. Cofiwch fi at fy mam."

"Mi wnaf," meddai Alun Tomos, gan fynd at ddrws yr ogof. "Nos da i ti 'rwan, a chymer ofal."

Ceisiodd Huw gysgu, ond bu'n hir yn troi ac yn trosi ar lawr caled yr ogof. Credai erbyn hyn fod gan Alun Tomos ryw amcan yn ei gael o'r wlad. Credai yn ei galon mai yr amcan hwnnw oedd dyfnhau y ddrwgdybiaeth yn ei erbyn. Paham yr oedd Alun Tomos yn ceisio gwneuthur hynny? Onid er mwyn cadw ei hun yn ddiberygl?

PENNOD VI.
SIAN A'R CAPTEN.

PAN gyrhaeddodd Sian ben y geulan ar ol dyfod allan o'r ogof, cafodd ei bod yn glawio yn ddwys, a niwl tew wedi hel dros yr holl dir. Ni allai weld dim, ac i un anghyfarwydd buasai'r sefyllfa yn beryglus iawn.

Ond gwyddai Sian am y lle, ac yr oedd ganddi amcan da am y ffordd i droi.

Cyrhaeddodd yr hwylfa, neu rhyw le a gredai hi oedd yr hwylfa, a dechreuodd balfalu ei ffordd yn ofalus tua'i chartref. Yr oedd y niwl wedi cuddio popeth, ac er ei bod yn dywyll cynt, yr oedd yn fwy dyryslyd yn awr. Meddyliodd Sian mai da fuasai cael hugan felly i guddio ymadawiad Huw nos drannoeth. Ni allai na swyddog na chwnstabl ei weld ef na llong Ambros.

Cerddodd ymlaen am ysbaid, gan gredu yn sicr ei bod yn yr hwylfa. Cyn pen hir, modd bynnag, bu agos iddi a chwympo i ffôs ddofn. Nid oedd yr un ffôs felly yn yr hwylfa, a deallodd Sian ei bod wedi colli ei ffordd. Y cwestiwn yn awr oedd—Ym mha le yr oedd hi? Nid oedd yn eneth ofnus, ond ni hoffai feddwl am fod allan drwy'r nos—yn y niwl. Cerddodd ar hyd ochr y ffôs, a chafodd fod honno yn troi cyn hir. Dilynodd hi drachefn a daeth i goed.

Gwyddai Sian nad oedd yno goed yn yr ardal honno ond yng nghyffiniau y Plas. Pan ddeallodd ei bod wedi cerdded i gyfeiriad y Plas, dychrynodd braidd, canys y diweddaf y dymunai ei gyfarfod oedd Capten Gruffydd. Safodd i ystyried ei sefyllfa, ac i geisio sylweddoli ym mha le yr oedd hi.

Pan yn sefyll fel hyn, clywodd sŵn heb fod ymhell oddiwrthi. Trôdd i edrych o'i chwmpas, a gwelodd oleuni anelwig yn agoshau ati drwy'r niwl. Edrychai ymhell ar y pryd, ond yr oedd y niwl yn dirdynnu popeth ac yn twyllo y golwg. Meddyliodd Sian am geisio ymguddio, ond gwelodd nad gwaith hawdd fuasai hynny, ac feallai hefyd mai un o weision y Plas oedd yno gyda lanter.

Safodd yn ei hunfan, a daeth y goleu yn nês. O'r diwedd, gwelodd mai dyn oedd yn dwyn lanter, ac ymhen ychydig gwelodd yntau hithau.

"Helo!" meddai. "Pwy sydd yna?"

Adnabu Sian lais Capten Gruffydd, a daeth braw mawr dros ei chalon. Trôdd, gan feddwl rhedeg i rywle o'i gyrraedd, ond cyn iddi allu penderfynu i ba gyfeiriad i fynd, yr oedd y Capten wedi ei chyrraedd ac wedi gafael yn ei braich. Cododd y lanter i edrych i'w hwyneb a gwelodd pwy ydoedd. "Sian, ar fy ngair!" meddai. "Pwy fuasai'n meddwl am Sian fach yma? Beth wyt ti yn ei wneud yma, Sian? Ai chwilio am Huw Anwyl?"

"Gollyngwch fy mraich, syr," meddai'r eneth, gan geisio ysgwyd ei braich yn rhydd. "Gollyngwch, y mae arnaf eisiau mynd adref."

"Nid y ffordd hyn y mae dy gartref di, 'ngeneth i," meddai'r Capten, gan ddal ei afael yn dyn ynddi. "A fedri di ddim mynd gartref chwaith heb i mi ddwad i dy ddanfon di."

"Medraf, yn wir Capten Gruffydd," ebe Sian. "A phetaswn i allan drwy'r nos, ni chawsech chi ddim dwad i fy nanfon i gartref. Gollyngwch fy mraich, neu mi waeddaf dros y lle."

"Gwaedda dy oreu, Sian fach!" meddai'r Capten, gan chwerthin. "Gwaedda dy oreu. Pwy ddaw yma ar noson fel heno? Ond paid a bod mor frysiog -y mae arna' i eisio gair bach hefo chti. Ple 'rwyt ti wedi bod?"

"Nid yw hynny yn ddim o'ch busnes chi, syr," meddai Sian.

"'Dwy' i ddim mor siwr am hynny. Y mae'r scowndrel Huw Anwyl yna yn cuddio yn rhywle, ac mi dyngaf dy fod ti yn gwybod ym mhle. Waeth i ti heb a gwadu, Sian. 'Rydw' i'n sicr dy fod ti yn gwybod."

"Beth sydd a fynnoch chi â Huw Anwyl?" meddai Sian yn chwyrn. "Yr ydach chi'n gwybod cystal a minnau nad oedd a fynno fo ddim â lladd y dyn hwnnw, ac yr ydach chi yn 'i erlid o am ryw amcanion neu gilydd, Duw a ŵyr paham!"

Ar antur yn hollol y siaradodd Sian, ond ymddanghosai fod ei geiriau wedi cael effaith anghyffredin ar y Capten. Tynhaodd ei afael ar ei braich nes ei brifo, ysgydwodd hi, a rhegodd.

"Y fo ydi'r llofrudd!" meddai yn ffyrnig. "Y fo lladdodd o! Ac yr wyf i yn sicr o'i waed o. Mi gei di ei weld o wedi ei grogi eto, mi dyngaf. Y mae'r cwnstabliaid yn mynd i chwilio y geulan yfory, ac yr ydan' ni yn siwr ohono fo."

Dychrynwyd yr eneth gan y bygythiad hwn, ac ni atebodd.

"Sylwodd y Capten ar hynny, ac ychwanegodd: 'Rydw' i am 'i hela fo fel hela llwynog, ac yr ydw' yn siwr ohono fo. Y chti yn unig fedr ei achub o."

"Sut?" meddai Sian.

"Yr wyt ti'n gwybod. Gwyddost fy mod mewn cariad â thi, ond yr wyt ti wedi pendroni efo'r scowndrel yna. Gad lonydd iddo fo, a tyd yma i'm cyfarfod i nos yfory, ac hwyrach y gadawaf innau o yn llonydd."

Awyddai Sian am fedru dyfod yn rhydd o afael y Capten a ffoi am ei bywyd i rywle, ond yng nghanol ei dychryn daeth syniad i'w meddwl. Nos drannoeth byddai Huw yn ddiogel ar fwrdd llong, allan o gyrraedd y Capten, beth bynnag. Os gallai gadw ei elynion yn llonydd am ddiwrnod, gwnai hynny.

"Ni wyddoch chi ddim am y peth," meddai. "Y mae Huw yn hollol ddiniwed."

"'Does yr un llys yn y byd a gredai hynny," meddai Capten Gruffydd; "ond 'doedd ei gyllell o yn ymyl corff y—fy nghyfaill. Ond ddoi di yma nos yfory?'

"A gedwch chwi eich addewid os addawaf ddyfod?"

"Chwarddodd y Capten. "O," meddai, "y mae'r biwren fach yn dechreu siarad synnwyr 'rwan! O, gwnaf, mi gadwaf fy addewid. Ond os treii di chwarae rhyw dric arnaf, mi fydd yn edifar gen dy dad a tithau!"

"Cadwch eich bygythion i'r sawl sydd yn eu hofni," meddai Sian yn wrol. "Yn awr, gadewch i mi fynd gartref."

Ar hyn, clywodd y ddau sŵn rhyw rai yn siarad. Ni welent neb, ond yr oedd y lleisiau yn ymyl, ac adnabu Sian lais ei thad.

"Dyna 'nhad yn chwilio amdanaf!" meddai'r eneth. "Gadewch i mi fynd, Capten Gruffydd,—gadewch i mi fynd y funud yma, neu mi waeddaf arno!"

"Waeth gen' i am hynny," meddai'r Capten, ond yn gollwng ei afael arni yr un pryd. "Cofia dy addewid—os na byddi di yma, bydd Huw yn y carchar cyn canol nos yfory,—ac fe'i crogir o, wir ddyn."

"O'r goreu,-mi gofiaf am fy addewid," meddai Sian.

"Ond gadewch i mi fynd yn awr."

Trôdd y Capten ymaith a gwaeddodd Sian: "Nhad, 'nhad!"

Atebwyd hi gan Alun Tomos, ac ymhen munud neu ddau daeth ei thad ac un o longwyr y pentref ati, wedi bod yn chwilio amdani yn hir, mewn pryder mawr.

Treuliodd Sian ddiwrnod blin trannoeth ei chyfarfyddiad damweiniol â mab y Plas yn y coed. Ofnai fod Capten Gruffydd yn gwybod mwy nag a ddywedai, ac ofnai y byddai iddo gadw gwyliadwriaeth fanwl ar lan y môr drwy y dydd.

Nid oedd Sian yn bwriadu mynd i'w gyfarfod. Addawodd yn unig er mwyn cael amser er galluogi Huw i ddianc. Ofnai hefyd fod y Capten wedi drwg-dybio hynny, ac y byddai iddo dorri ei air. Gwyddai Sian nad oedd llawer o ymddiried i'w roddi ar air y Capten.

Ond anghofiodd un peth a allasai fod yn ddefnydd cysur iddi. Os nad oedd llawer o ymddiried i'w roddi ar air Capten Gruffydd, nid oedd llawer i'w ofni oddiwrth ei alluoedd meddyliol ychwaith. Coleddai y milwr ieuanc syniad da iawn amdano ei hun, ac ni amheuodd am funud na ddeuai Sian Tomos i'w gyfarfod fel yr addawodd. Onid oedd yn anrhydedd i eneth dlawd fel hi fod gŵr fel efe yn cymryd sylw ohoni o gwbl? Yr oedd digon o enethod yn barod i dderbyn ei sylw, a phaham yr oedd yn rhaid iddo feddwl nad oedd Sian cyn baroted â'r un ohonynt? Bu dipyn yn gyndyn, yr oedd yn wir, hyd yn hyn, ond nid oedd hynny, meddai'r capten, yn ddim ond ystryw merch. Ganddo ef yr oedd y llaw uchaf yn awr; yr oedd cystal a bod wedi cael gwared o Huw, a bellach nid oedd dim ar ei ffordd. Anghofiai Sian ei hen gariad, ac yna byddai popeth yn iawn. Teimlai y Capten fod pethau yn gweithio allan yn dda iawn. Nid oedd ond un cysgod du yn tywyllu ffurfafen ei feddwl—a byddai ymadawiad Huw Anwyl yn ysgafnhau hwnnw hefyd.

Felly, os oedd Sian yn ofnus a phryderus, yr oedd Capten Gruffydd yn ddigon bodlon ei fyd. Ni ddaeth i'w feddwl wylio y glannau, ond gyda'r hwyr paratodd i fynd i gyfarfod Sian i'r fan y cyfarfuasant y noswaith cynt.

Yr oedd y milwr yno gryn dipyn cyn ei amser, ac felly ni ryfeddodd ddim pan welodd nad oedd yr eneth yno yn ei aros. "Ni ryfeddaf," meddai, "os y bydd y biwren fach dipyn yn hwyr. Fe hoffa ddangos nad oes brys arni, mi wn." Felly y treuliodd y Capten awr neu awr a hanner yn ddigon diofal, ac yr oedd bellach wedi nosi ac yn bur dywyll.

Yn y cyfamser, yr oedd Alun Tomos ac un neu ddau o'i gynorthwywyr yn bur brysur.

Arosasant onid oedd yn nos dywyll, ac yna aethant i'r traeth. Yr oedd Huw, yn yr ogof, wedi gwneuthur ei baratoadau yn gyflawn. Rhwymodd râff gref wrth ddolen haearn fawr oedd yn llawr yr ogof ac yna arosodd hyd nes y deuai arwydd oddi isod. Edrychodd allan yn awr ac yn y man a gwelai y dyfroedd tywyll yn ymestyn hyd y gorwel o'i flaen. Yr oedd yr olygfa yn un ddigon pruddglwyfus a thrymaidd ar y goreu, canys nid oes dim trymach a thristach yr olwg arno na môr ystormus wedi nos. Ond i Huw y noswaith honno, er dewred ei galon, yr oedd yr olygfa yn drymllyd neilltuol. Yr oedd yn gadael ei gartref, ei fam, a'i gariad. Yr oedd yn ffoi o flaen cyhuddiad di-sail. Wynebai ar fywyd newydd, ansicr. Gadawsai ei fywioliaeth ar ol, ac ni wyddai sut yr enillai damaid mwyach.

Gofynnodd iddo ei hun paham y gwnai hyn oll. Credai, pe rhoddai ei hun yn nwylo y gyfraith, y deuai yn rhydd yn ebrwydd. Ond credai hefyd na fedrai ymryddhau heb daflu rhywbeth mwy na chysgod amheuaeth ar Alun Tomos. Ac er mwyn Sian, ni allai feddwl am wneuthur hynny.

Fel y syllai allan heibio ochr y sâch a guddiai enau yr ogof, tybiodd weld rhywbeth yn fflachio draw ar yr eigion. Meddyliodd wedyn nad oedd yn ddim ond ton frigwen yn ymdaflu yn uwch na'i chwiorydd. Ond daliodd i edrych, a gwelodd y fflach drachefn. Nid oedd lle i amheuaeth yn awr; goleuni ar fwrdd llong oedd yr hyn a welodd. Deallodd mai arwydd oddiar long John Ambros oedd, a bod yn amser iddo yntau ymbaratoi.

Datododd y rhâff, a thynnodd y drain oedd ar enau yr ogof. Yna gwrandawodd am ysbaid nes clywed rhyw sŵn, heblaw sŵn y môr, o'r dyfnder tywyll odd tano.

Dyna'r arwydd y cytunodd ef ac Alun Tomos arno.

Yna taflodd y rhâff i lawr dros wyneb y clogwyn. Gwyddai ei bod yn ddigon hir i gyrraedd y gwaelod tra'r pen arall yn rhwym wrth y ddolen yn yr ogof.

Yna gafaelodd ynddi, a gollyngodd ei hun yn raddol dros yr ymyl. Am ychydig yr oedd yn crogi dros y gwagle, y rhaff ac yntau yn siglo yn ol a blaen yn y gwynt. Ond yr oedd Huw yn greigiwr medrus o'i febyd, a gollyngodd ei hun i lawr yn dymhoraidd, gan osgoi y talpiau craig yn ofalus, a chyn pen ychydig funudau yr oedd ar y traeth.

Yr oedd y llanw yn uchel, ac nid oedd ond llain gul o dywod rhwng y graig a'r môr. Ond yr oedd yno le gweddol gysgodol a thawel, fel y gellid dyfod a chwch at y fan.

Pan gyrhaeddodd Huw y gwaelod, edrychodd o'i gwmpas, ac am funud credodd nad oedd yno neb. Ond yn y fan daeth Alun Tomos a'i ddau gynorthwywr ato o'u lloches dan gysgod tywyll talp o graig.

"Wel, 'machgen i," meddai Alun, "dyna'r amser wedi dwad. Rydw'i yn disgwyl y cwch bob munud."

"Gobeithio na fydd o ddim yn hir," meddai un o'r dynion; "mae arna i ofn y preventives yna. Y mae nhw'n rhyw s'nwyro mwy na digon o gwmpas heno."

"Mi welais i Cooke yn mynd i gyfeiriad y gilfach," meddai'r llall; "chwilota yr oedd o, mi dyffeia i o."

"Waeth amdano fo, Joe," meddai Alun Tomos; "'does yma ddim cargo na smyglo, gwnaed o ei waethaf."

Dwn i ddim beth am hynny," meddai Joe; myn diawch, 'rydan ni'n smyglio cargo heno y buasai Cooke yn rhoi ei ben am gael gafael arno fo," a chwarddodd y ddau ddyn.

"Fyddai'n waeth gen i iddo fy nghael i na pheidio," meddai Huw yn swta; "'rydw'i cyn laned oddiwrth ladd y dyn yna ag un ohonoch chithau."

"'Dydwi'n ameu dim, Huw Anwyl," meddai Joe; ond pe buaset ti wedi ei ladd o, fuase hynny nac yma nac acw yn fy ngolwg i. Gresyn na buasai pwy bynnag wnaeth y weithred wedi rhoi cyllell ym mab y Plâs yn i le fo."

"Tewch, da chi," meddai Alun Tomos, "rhag i chi, wrth gyboli fel yna, dynnu sylw rhai o'r garsiwn yna atom ni. Y mae'r cwch yn hir gynddeiriog yn dwad."

Yr oedd yn amlwg fod Alun Tomos yn anesmwytho, a dechreuodd Huw deimlo yn bryderus hefyd. Ofnai weld rhyw ymosodiad cyn iddo ymadael.

Pe medrai weld i gwrr coed y Plâs buasai yn teimlo yn fwy pryderus fyth. Yr oedd Capten Gruffydd wedi oeri, ac wedi hen flino aros. Nid oedd olwg am Sian. Cerddodd yn ol a blaen, curodd ei draed, rhegodd, ond nid oedd dim yn dyfod a Sian.

O'r diwedd daeth i'r penderfyniad fod yr eneth wedi ei dwyllo. Bu'n anodd ganddo gredu hynny, ond pan gredodd collodd ei dymer yn ddychrynllyd. Cychwynnodd unwaith tua'r pentref, i ddywedyd y drefn wrthi yn ei thŷ, ond teimlodd wedyn mai prin y byddai hynny yn gydweddol â'i urddas. Yna dechreuodd rhyw syniad am wir ystyr y cwbl wawrio ar ei feddwl, a rhegodd yn gyflymach ac yn ffyrnicach nag o'r blaen.

Tybed fod yr eneth wedi ei gamarwain a'i dwyllo yn fwriadol wedi'r cyfan? Tybed ei bod hi wedi meiddio taflu llwch i'w lygaid ef—ef, Capten Gruffydd, mab y Plâs? Yr oedd y peth yn nesaf peth i fod yn anhygoel, ac eto, dyna fel yr oedd hi. Tyngodd y cai Sian dalu yn ddrud am ei beiddgarwch, ac y crogai efe Huw o flaen drws ei thŷ. Ei gadw ef—Capten Gruffydd, mab y Plâs—yno fel ffŵl am oriau yn disgwyl amdani, a hithau heb feddwl am ddyfod o gwbl! Ei gadw yn segur drwy y dydd, pryd y gallasai fod wedi dal y dyhiryn Huw Anwyl! Yn ei lid, tyngodd Capten Gruffydd ddialedd erchyll ar y ferch a'i twyllodd ac ar y dyn a arbedwyd drwy hynny.

Prysurodd yn ol tua'r Plâs, a galwodd ar nifer o'i weision i ddod gydag ef, gyda llusernau a rhaffau. Ni ddywedodd ef wrthynt beth oedd ei neges, ond ar ei ffordd drwy'r pentref galwodd heibio tŷ swyddog y llywodraeth. Nid oedd Cooke yn y tŷ, ond yr oedd Watson, yr ail swyddog, yno. Dywedodd y Capten ei amcan wrth hwnnw, a gofynnodd iddo ddyfod gydag ef.

"Nid yw yn ddim o'm busnes i," meddai Watson; "ond gan eich bod chi yn gofyn, syr, mi ddof, 'tae dim ond i'ch cadw chi rhag syrthio dros y clogwyn."

Ac felly cychwynasant.

A dyna'r adeg yr oedd Huw ac Alun Tomos yn dechreu pryderu am ddyfodiad y cwch.

PENNOD VII.
YR YMWELYDD.

YN y cyfamser yr oedd John Ambros yn rhoddi ei gynlluniau ei hun mewn gweithrediad.

Teimlai nad oedd angen llawer o frys gyda chael Huw ar fwrdd y llong, ac yr oedd ganddo fusnes i'w wneuthur cyn mynd at y gwaith hwnnw.

Pan yn hwylio oddiar lannau Ffrainc gwelodd Ambros gwch bychan yn agoshau at ei long. Gwyliodd ef a'r criw y cwch mewn petruster am beth amser, canys yr oedd yn rhaid iddynt fod yn wyliadwrus bob amser rhag swyddogion y naill lywodraeth a'r llall.

Pan welwyd, modd bynnag, nad oedd ond un dyn yn y cwch, penderfynodd Ambros aros amdano.

Cyn pen hir daeth y cwch at ochr y scwner a galwodd y dyn oedd ynddo, mewn Saesneg gweddol, am weld y capten. Gofynnodd Ambros iddo ddyfod ar y bwrdd, a chan fod yn amlwg mai Ffrancwr oedd, trôdd y Cymro i siarad Ffrangeg gydag ef, canys medrai yr iaith honno yn dda.

Ar ol ychydig eiriau, aeth y ddau i lawr i'r caban gyda'i gilydd, a bu hir yr ymddiddan rhyngddynt. Baich neges y Ffrancwr, D'Alton wrth ei enw, oedd cais am gael ei gludo i Lanwennol yng Nghymru.

Rywfodd neu gilydd gwyddai gryn lawer am Ambros a'i ddull o fyw, ac y mae'n debyg iddo amlygu i'r llongwr beiddgar hwnnw rai o'i resymau am ei gais anghyffredin. Dangosodd, beth bynnag, ei fod yn barod i dalu am y gymwynas, a'r canlyniad fu i John Ambros fodloni, a hysbysu y criw y deuai elw a mantais iddynt o gymryd D'Alton gyda hwynt. Bodlonodd y criw hefyd, yn bennaf oherwydd dull canmoladwy y Ffrancwr o dalu ymlaen am yr hyn a ddisgwyliai ei gael, ac oherwydd hynny ni ofynnodd neb gwestiwn pan orchmynnwyd gollwng y dŵr i gwch y Ffrancwr a'i suddo ar unwaith. Hynny a wnaed, a hwyliodd John Ambros tua Chymru. Fel y digwyddai fod, y noson yr oedd i gymryd Huw ar fwrdd y scwner yr oedd hefyd i lanio y Ffrancwr ar draeth Llanwennol.

Gan ei fod yn meddwl nad oedd brys mawr am gymryd Huw oddiar y lan, penderfynodd Capten Ambros mai y peth goreu iddo ef, ac er mwyn y Ffrancwr hefyd, fyddai glanio D'Alton ychydig bach yn uwch i fyny na'r lle yr oedd Huw yn disgwyl amdano.

Felly fu. Rhwyfwyd tua'r lan dan gysgod y tywyllwch, a chafodd D'Alton ei draed ar ddaear Cymru. Ysgydwodd law ag Ambros a diolchodd iddo yn ei Ffrangeg pur, gyda'r acen a ddangosai ar unwaith ei fod ef yn rhywun uwchlaw'r cyffredin.

Cymerwch ofal," meddai Ambros yn ei Ffrangeg Gymreig yntau," mae yna gryn lawer o ryw lwynogod o swyddogion yn ffereta hyd y fan yma o hyd. Cadwch oddiar y ffordd nes i chwi gyrraedd y Plas, ac feallai y byddwch yn ddiogel ar noson mor dywyll."

Pe buasai D'Alton wedi cadw yn hollol at gyngor Ambros, fel y bwriadai wneuthur ar y pryd, y mae'n fwy na thebyg y buasai cwrs y stori hon yn dra gwahanol.

Ond yr oedd yn noson ddu, ac yntau yn ddieithr. Llwyddodd i ddringo y llwybr cul a arweiniai hyd wyneb y clogwyn i'r tir uwchben, ac yna, gan wneuthur ei oreu i ddilyn cyfarwyddiadau Ambros, trôdd ar y chwith, a cherddodd yn gyflym i'r cyfeiriad y dywedwyd wrtho ef fod y Plas. Eto yr oedd yn bur ofalus. Gŵr oedd Pierre D'Alton a gymerodd ran flaenllaw yn helyntion gwaedlyd y chwyldroad yn Ffrainc, ond er iddo fod yn foddion i beri i aml un golli ei ben, eto llwyddodd ef ei hun nid yn unig i gadw ei ben ar ei ysgwyddau, ond hefyd i drosglwyddo ei wasanaeth i Napoleon pan gododd y gŵr hwnnw i'r gallu a'r awdurdod uchaf. Bellach yr oedd Napoleon yn rhwym am ryw hyd, ond yr oedd D'Alton eto'n rhydd ac yn brysur. Gwyddai ei fod yn awr ar un o negeseuon peryclaf ei oes, ac yr oedd yn dra gofalus. Eto, yr oedd ei hyder ynddo ei hun yn gyfryw fel na wangalonnodd am funud. Gwyddai beth oedd ganddo i'w wneuthur, ac yr oedd yn benderfynol o'i gwblhau.

Wedi cerdded am beth amser daeth at wrych. Llwyddodd i wthio ei hun trwyddo, a chafodd ei hun mewn hwylfa gul, hynod o dywyll. Hon oedd yr hwylfa a arweiniai o bentref Llanwennol i ymyl y geulan, a digwyddodd y Ffrancwr ddyfod iddi o fewn llathen neu ddwy i'r fan lle y cafwyd hyd i gorff Carrier.

Nid cynt y cafodd ei hun yn yr hwylfa nag y clywodd sŵn lleisiau yn dynesu. Capten Gruffydd, gyda'i weision a Watson, oedd yno. Siaradai y capten a'r swyddog Saesneg gyda'i gilydd, a cherddai y dynion eraill mewn distawrwydd ar eu hol. Mewn gwirionedd, nid oedd gweision y Plas yn hidio fawr am y gwaith oedd ganddynt mewn llaw; buasai yr esgus leiaf yn ddigon iddynt dros dynnu yn ol, ac feallai fod hynny yn rheswm dros yr hyn a ddigwyddodd.

Pan glywodd D'Alton y lleisiau, meddyliodd mai y peth goreu a fedrai ei wneuthur oedd dianc. Ond yr oedd y gwrych yn rhy gryf iddo wthio drwyddynt cyn i'r dynion ei ddal, ac ni wyddai i ba berygl yr elai pe rhedai hyd y ffordd o'u blaenau.

Safodd i ystyried y sefyllfa am ychydig, ac yna penderfynodd nad oedd dim iddo ei wneuthur ond closio at y gwrych, a disgwyl i'r dynion fynd heibio heb ei weld.

Cyn gynted ag yr ymwthiodd i gysgod y gwrych a'i wneuthur ei hunan cyn lleied ag y medrai, daeth y fintai i'r golwg. Yr oedd lanter gan Watson, ac er nad oedd yn rhoddi llawer o oleuni, rhoddodd ddigon i ddangos i D'Alton fod yno bump neu chwech o ddynion. Ond yr hyn a barodd iddo symud a tharo ei droed ar garreg oedd gweld Capten Gruffydd yn cerdded ar y blaen.

Tynnodd y sŵn a wnaeth sylw'r capten a Watson a safodd y fintai. Edrychai y gweision yn bur bryderus, canys yr oeddynt yn cofio mai dyma'r fan lle llofruddiwyd cyfaill y capten. Tybed fod ei ysbryd yma?

Ond trôdd Watson ei lanter i gyfeiriad y sŵn, ac er ei fawr syndod, gwelodd y Ffrancwr yn edrych arno.

"Helo!" meddai'r swyddog. "Beth yw hyn? Dyma ryw greadur diarth. Beth yw eich enw?" meddai wrth D'Alton.

Gwelodd D'Alton mai ofer oedd ceisio ymguddio bellach. Safodd yn syth, a moes-ymgrymodd o flaen y swyddog synedig.

"Cyfaill i Capten Gruffydd, syr," meddai yn siriol. Yr oedd y gair yn ddigon i'r dynion oedd y tu ol. Deallant ddigon o Saesneg i wybod ystyr yr hyn a ddywedai y Ffrancwr—ac yr oeddynt oll yn sicr iawn yn eu meddyliau mai cyfaill Capten Gruffydd a laddwyd oedd wedi dyfod yn ol. Nid oeddynt yn ddynion ofnus yn wyneb pethau y byd hwn, ond pwy a ddisgwyliai i wŷr pechadurus wynebu ysbryd?

"Y nefoedd fawr?" meddai Dafydd Jones, y blaenaf a'r tewaf ohonynt, a bu bron iddo a syrthio ar ei hyd yn ei ymgais wyllt i droi yn ei ol ynghynt nag y bwriadodd Natur i ddyn o'i faint ef droi. "Y nefoedd fawr!" meddai drachefn, a dechreuodd redeg cyn gynted ag y gallai yn ei ol tua'r pentref.

"Ysbryd, bois, myn diawch!" meddai William Prys, ac ar y gair cymerodd y pedwar gwas y goes, William Prys, yr ieuengaf, ar y blaen, a Dafydd Jones, oherwydd ei faintioli anffodus, yn tuchan ac yn pwffian ar ol, ond yn rhedeg yn filain serch hynny. Ni arafodd yr un ohonynt nes cyrraedd y dafarn yn y pentref, ac yno disgynnodd pob un yn swp yng nghanol y teulu synedig, ac aeth deng munud llawn heibio cyn i un ohonynt fedru dywedyd dim. Yr oedd y tafarnwr bron a thorri ar ei draws eisiau gwybod beth oedd yn bod, ond bu raid i'r pedwar glew gael bawb ei lasiad o gwrw yn rhad ac am ddim cyn ennill digon o nerth i ddechreu ar y stori.

Yn y cyfamser anfonodd Watson un reg ffyrnig ar ol y dynion, ac yna trôdd i edrych ar y Ffrancwr.

"Capten Gruffydd," meddai D'Alton yn Saesneg, y mae'n dda gennyf eich gweld, fy nghyfaill. Y mae llawer dydd ers pan gyfarfuasom o'r blaen."

Edrychodd Watson ar y capten, ac er ei syndod yr oedd hwnnw yn welw fel y galchen, ac fel pe yn methu cael ei anadl.

Yr oedd yn amlwg i bawb fod Capten Gruffydd wedi cael braw neu syndod—feallai y ddau. Edrychodd Watson arno gan ryfeddu. Nid oedd y swyddog yn un o'r rhai cyflymaf ei feddwl ar y goreu, ac yr oedd sefyllfa fel hon yn peri cryn lawer o ddryswch iddo.

Ond ymddangosai y capten fel pe wedi anghofio popeth am fodolaeth Watson. Daliai i edrych ar D'Alton fel un yn gweld drychiolaeth, ac am beth amser ni ddywedodd yr un gair.

Ar y llaw arall, yr oedd y Ffrancwr wedi adennill ei hunan-feddiant yn hollol. Gwenai yn gyfeillgar ar y ddau ddyn o'i flaen, gan edrych o'r naill i'r llall yn ymofyngar, fel pe'n holi'n syn, beth yn y byd oedd arnynt?

Watson ddaeth ato ei hun gyntaf. "A ydych yn ei 'nabod, syr?" gofynnai i Gapten Gruffydd.

"Ei 'nabod?" meddai'r Capten yn syn. "O, nac—hynny ydyw, ydwyf. Hynny ydyw, gwn pwy ydyw."

"Wel, y mae hynny yn adnabod, debygwn i!" meddai Watson, dan ei anadl." Y mae yma rywbeth nad wyf fi yn ei ddeall." Yna ychwanegodd yn uchel: "P'run fyddai oreu i ni ei wneud? Mynd ymlaen, ynteu troi yn ol? Gwelwch fod y dynion wedi ein gadael."

"Rwy'n gweld hynny." meddai'r Capten. "O, gadewch i ni fynd yn ol. Y mae'r boneddwr yma yn gyfaill i mi, ac mi erys gyda mi heno. Diolch i chi Watson, am eich cwmpeini."

'O'r goreu, syr," meddai Watson, ond heb wneuthur unrhyw osgo tuag adref. "Y mae'n dda gennyf ei fod yn ffrind i chwi." Wrtho ei hun, ychwanegai Watson: "Ni welais i erioed ddau gyfaill yn cyfarfod mewn dull rhyfeddach, ac am un ohonynt, ni welais i neb erioed yn dangos llai o falchter o weld cyfaill."

Credai D'Alton fod y ddau ddyn o'i flaen wedi cael digon o amser i ddyfod atynt eu hunain erbyn hyn, a chredodd fod ei gyfle yntau i roddi ei big i mewn wedi dyfod.

"F'annwyl gyfaill!" meddai yn Saesneg. "Llawenydd i'm calon yw eich gweld fel hyn, mor annisgwyliadwy, er yr ymddengys fy mod, am ryw reswm neu gilydd, wedi peri dychryn i'r cyfeillion oedd yn eich dilyn."

"Y mae'n dda gennyf eich gweld," meddai Capten Gruffydd, gan siarad fel petai yn ymdrech iddo. "Nid oeddwn yn meddwl eich bod yn dyfod cyn gynted, a pharodd eich ymddangosiad sydyn gryn syndod i mi."

"Do, y mae'n sicr," meddai'r Ffrancwr, gan droi cil ei lygad ar Watson. "Y mae'n ddrwg gennyf am ddull diseremoni fy nyfodiad. Ond nid arnaf fi yn hollol yr oedd y bai. Cyrhaeddais i'r dref bore heddyw, a chan ei bod mor braf penderfynais gerdded i'ch gweld. Dywedwyd wrthyf fod y ffordd yn hollol hawdd ei dilyn, ac y mae'n ddiameu ei bod. Ond yr oedd y golygfeydd mor swynol, a'r môr mor ardderchog, fel y denwyd fi oddiar fy llwybr. Daeth y nos cyn i mi wybod, a chollais fy ffordd. Yr oeddwn mewn penbleth hollol pan ddigwyddasoch chwi ddod o hyd i mi—digwyddiad ffodus anghyffredin i mi."

Dywedodd D'Alton y stori gelwydd hon cyn daclused a phe buasai yn wir bob gair. Yr oedd yn amlwg ei bod yn bodloni Watson, a dyna brif amcan y Ffrancwr. Nid oedd waeth ganddo pa un a goeliai Capten Gruffydd hi ai peidio.

"Felly!" meddai'r Capten. "Yr oedd yn beth ffodus i ni eich cyfarfod, onide gallasech fod wedi mynd dros y dibyn i'r môr. Nid yw hwnnw ymhell."

"Dyna oedd fy ofn," meddai D'Alton. "Ac yr oeddwn yn meddwl am eich galar, fy nghyfaill, pe cawsid fy nghorff wrth droed y creigiau yn y bore. Yr oedd hynny yn fy mhoeni."

Yr oedd rhywbeth yn ei lais yn cyfleu rhywbeth mwy na'i eiriau i feddwl Capten Gruffydd, a symudodd yn anesmwyth.

"Y mae'n dda gennyf ein bod wedi taro ar ein gilydd," meddai. Ond i ba beth yr arhoswn yma? Nid yw y Plas ymhell iawn, a bydd yn dda iawn gennyf gael eich cwmni yno."

"Diolch i chwi, fy nghyfaill," meddai D'Alton. "Yr wyf innau erbyn hyn yn dechreu teimlo braidd yn lluddedig."

Trôdd y tri i fyny'r hwylfa tua'r pentref. Ni chymerai y ddau foneddwr unrhyw sylw o Watson. Yr oedd y swyddog yn methu a deall yn iawn sut yr oedd y Capten wedi llwyddo i anghofio Huw Anwyl cyn llwyred. Ni ynganodd yr un gair amdano, er ei fod yn ymddangos, oddeutu hanner awr yn ol, yn llawn tân am ei ddal. Nid oedd waeth gan Watson, modd bynnag, am y tro a gymerodd pethau, canys hiraethai am ei wely, ac nid oedd dal dynion y drwgdybid eu bod yn llofruddion yn unrhyw ran o'i ddyletswyddau ef. Cerddasant tua'r pentref mewn distawrwydd, ac wrth ddrws ei dŷ dywedodd Watson "Nos d'awch."

"Nos d'awch, Watson," meddai Capten Gruffydd. 'Diolch i chi am eich trafferth. Galwaf heibio yn y bore." Yna aeth y ddau ymlaen ar hyd y ffordd dywyll.

Ni ddywedodd y naill na'r llall air am gryn ysbaid. Cerddasant yn ddistaw nes cyrraedd llidiart y parc. Yna aethant ar hyd y ffordd oedd yn arwain at y Plas. Tyfai coed mawr, henafol o bobtu'r ffordd, ac yr oedd y lle yn hollol dywyll.

O'r diwedd torrodd D'Alton ar y distawrwydd. Siaradai Ffrangeg yn awr.

"Wel, gyfaill," meddai, "y mae'n hawdd gennyf ddeall eich bod wedi rhyfeddu fy ngweld. Yn wir, nid oeddwn wedi bwriadu gwneuthur fy ymweliad mor gyhoeddus, ond collais fy ffordd ar hyd y glannau yna, ac yr oedd yn dywyll fel y pwll diwaelod. Ni fûm erioed yn hoff o ymosod wedi nos. Ond credaf fod y dyn distaw yna oedd gyda chwi wedi credu yr hyn a ddywedais."

"Y mae'n ddigon tebyg," meddai Capten Gruffydd. Nid yw yn ddeallus iawn, ac y mae gennych chwithau ddawn arbennig at ddweyd celwydd."

"A, bûm gryn lawer yn eich cwmni chwi! " meddai'r Ffrancwr. "Feallai eich bod yn rhyfeddu beth yw fy neges?

"Yr wyf yn methu dirnad."

"Yn hollol felly. Wel, chwi wyddoch beth a ddigwyddodd ym Mharis. Addawsoch adael i'r ymherawdr wybod cryn lawer am drefniadau eich byddin Brydeinig, yn enwedig ynglŷn ag amddiffyniad eich glannau. Gwyddoch, feallai, na phery ei ymneilltuad yn hir, a phan ddaw yn ol o Elba, y mae yn awyddus am ymweled â'r wlad yma. Bydd y wybodaeth sydd gennych chwi yn bur fuddiol i ni y pryd hynny, a gwyddoch y pris a addawyd i chwi amdani. Gwyddoch hefyd faint a gawsoch eisoes. Nid ydym ar hyn o bryd yn ddigon cyfoethog i daflu cymaint a hynny o arian i'r môr, fy nghyfaill, a dechreuodd y cyfeillion yn Ffrainc bryderu amdanoch, gan eich bod mor ddistaw. Ofnem fod rhywbeth wedi digwydd i chwi. Felly deuthum am dro i weld ansawdd y wlad. Y mae'n wir dda gennyf eich bod yn fyw ac yn iach."

"Felly yr oeddych yn fy nrwgdybio?" meddai Capten Gruffydd.

"'Dim o'r fath beth, gyfaill; dim o'r fath beth. Yn unig ofnem, fel y dywedais, fod rhywbeth wedi digwydd i chwi, ac yr oeddym yn awyddus am gael gwybod. Gyda llaw, nid oeddym wedi cael gair oddiwrth Carrier ers cryn amser."

"Carrier?"

"Ie. Ysgrifennodd atom i ddweyd ei fod yma gyda chwi. Dywedodd hefyd, os wyf yn cofio yn iawn, nad oeddych yn rhyw fwyn iawn wrtho, ond y mae'n sicr gennyf, a barnu oddiwrth eich croeso cynnes heno, mai ei ddychymyg ef oedd hynny. Y mae ef, y mae'n sicr, gyda chwi o hyd?"

Oedodd Capten Gruffydd dipyn cyn ateb. Yna dywedodd, "Nac ydyw."

"Beth!" ebe D'Alton. "Ym mha le y mae, ynteu?"

PENNOD VIII.
GOLEU AR Y MOR.

ERBYN yr adeg y cyrhaeddodd Capten Gruffydd a'r Ffrancwr i Goed y Plas yr oedd John Ambros wedi glanio ger y fan lle yr oedd Alun Tomos a Huw Anwyl yn aros, yn llawn pryder, amdano.

Gŵr fel pe wedi ei wneuthur ar gyfer y bywyd a arweiniai oedd John Ambros. Yr oedd yn dalach na'r cyffredin, ond yr oedd ei ysgwyddau cyn lleted, a'i gorff mor gydnerth drwyddo fel nad ymddangosai yn eithriadol o dal ar yr olwg gyntaf. Gwisgai fel llongwr, ond yr oedd ei wisg bob amser yn dda ac yn daclus. Yr oedd ganddo wyneb a weddai i'w gorff, wyneb mawr, llydan, gên benderfynol, trwyn cribog, a llygaid llwydion yn llawn gwroldeb a phenderfyniad. Gwisgai heno gap wedi ei dynnu i lawr hyd at ei aeliau, ond pe tynnai hwnnw gwelai yr edrychydd dalcen llydan ond isel, a'r gwallt crych yn cyrlio arno. Bu'r gwallt hwnnw yn ddu fel y frân, ond erbyn hyn yr oedd yn britho'n brysur, canys yr oedd y blynyddoedd yn gosod eu llaw ar John Ambros.

Edrychai fel dyn yn meddu awdurdod arno ei hun ac ar eraill. Yr oedd yn ddyn anghyffredin yr olwg arno ac ymhob ystyr arall. Ni wyddai neb ddim o'i hanes. Yr oedd ei gychwyniad a'i deulu yn ddirgelwch. Dywedai sibrwd y wlad ei fod yn hanu o un o deuluoedd mwyaf adnabyddus Cymru, a'i fod wedi cael addysg dda. Hyn sydd sicr; meddai nodweddion heb fod yn perthyn i'r dosbarth yr oedd yn awr yn troi yn eu plith, a medrai siarad Sbaeneg a Ffrangeg cystal a Saesneg a Chymraeg.

Dywedid ystorïau rhyfedd am ei garedigrwydd, ei feiddgarwch, a'r peryglon y bu ynddynt o dro i dro. Yr oedd ei enw wedi mynd yn fath o draddodiad ar hyd a lled y wlad, ac y mae'n debyg fod llawer stori wedi tyfu o'i amgylch fel y tyf traddodiadau bob amser o amgylch dynion sydd wedi cyffwrdd dychymyg y werin.

Byr fu ei gyfarch i Alun Tomos y noswaith hon.

"Yn lle mae y dyn?" meddai, wedi dywedyd ychydig eiriau. "Rhaid i mi ei gael i'r llong ar unwaith, canys yr wyf wedi aros llawn cyn hired ag sydd ddiogel i mi. O, dyma fo. I'r cwch, fy machgen i."

Aeth Huw i'r cwch ar unwaith. Yr oedd rhywbeth yn null John Ambros yn galw am ufudd-dod parod ar ran y rhai fyddai gydag ef. Prin y cafodd Huw amser i chwifio ei law mewn ffarwel i'r hen ŵr ar y traeth. Yr oedd y cychwyr yn tynnu'n brysur tua'r scwner, tra John Ambros yn gafael yn y llyw.

Wedi cyrraedd y llong, gwelodd Huw fod popeth yno yn barod. Trowyd yr hwyliau i'r gwynt, a chyn pen y chwarter awr ar ol gadael tir yr oedd y scwner yn hwylio ymaith. Nid oedd olwg am y lan, canys yr oedd hi eto yn nos.

"Dos i lawr i'r caban," meddai y capten wrth Huw, "mi ddof i lawr atat cyn gynted ag y byddaf wedi gorffen rhoddi pethau mewn trefn yma."

Aeth Huw fel y cyfarwyddwyd ef. Teimlai braidd yn chwith wrth feddwl am yr hyn a adawodd, ac eto yr oedd yr anturiaeth newydd yn apelio rhyw gymaint ato hefyd. Eisteddodd yn y caban bychan hyd nes y daeth John Ambros ato.

Pan ddaeth y capten i lawr tynnodd ei got fawr a'i gap, a thaflodd hwy o'r neilltu. Yna eisteddodd ar gyfer Huw ac edrychodd yn graff arno. "Yn awr," meddai, "dywed yr holl helynt, i ni gael gweld a oes modd dyfod allan o'r dryswch."

Dechreuodd Huw adrodd y stori o'r dechreu, gan sôn am elyniaeth Capten Gruffydd tuag ato, ac esbonio paham y ffôdd i'r ogof. Dywedodd fel y daeth o hyd i gorff y dyn dieithr ac am y lleisiau a glywodd yn yr hwylfa. Yna aeth ymlaen i sôn yn gynnil am awydd Alun Tomos am ei gael o'r wlad. Nid oedd wedi bwriadu dywedyd fawr am hyn, ond rywfodd neu gilydd tynnodd John Ambros ef allan, a chafodd ei fod wedi mynegi ei holl ofnau a'i amheuon wrth y dyn meistrolgar a eisteddai o'i flaen.

"A oeddit ti yn 'nabod y lleisiau?" meddai Ambros cyn hir.

"Y lleisiau a glywais yn yr hwylfa?"

"Ie."

"Nac oeddwn."

"Tybed na fuaset ti yn 'nabod llais Alun Tomos, os efe oedd yno?"

"Ni feddyliais am hynny," meddai Huw. "Y mae'n sicr y buaswn yn 'nabod ei lais ef. Yr oeddwn yn meddwl fod yna rywbeth adnabyddus i mi yn. un o'r lleisiau."

"Ond nid oeddit yn deall beth?"

"Nac oeddwn."

"A glywaist ti rai geiriau?"

"Dim i fedru deall dim. Credwn eu bod yn siarad yn rhy isel ac yn rhy gyflym."

"A fedri di Saesneg?

"Ychydig iawn," meddai Huw.

"Wel, a fedri di ddigon i wybod y gwahaniaeth rhwng Saesneg a rhyw iaith arall?"

"Medraf, 'rwy'n meddwl."

"Wel, p'run ai Cymraeg ai Saesneg a siaredid yn yr hwylfa y noswaith honno? "

"Meddyliodd Huw cyn ateb. "Yr oedd yn anodd dweyd," meddai. "Nid oeddwn yn clywed y geiriau, fel y dywedais, ond yr oedd y sŵn yn debycach i Gymraeg nag i Saesneg. Ond yr oedd y ddau yn siarad yn gyflym ofnadwy."

"Wel, a fedrai Carrier Gymraeg?"

'Na fedrai, mae'n siwr. Barn y pentref oedd mai Sais oedd, canys bob tro y clywid Capten Gruffydd ac yntau yn siarad, Saesneg oedd eu hiaith."

"Y mae'n debyg na fedri di ddim Ffrangeg?" "Na, dim un gair."

Wel, mi ddywedaf i ti un peth. Gelli fod yn hollol sicr fod Alun Tomos yn ddieuog. Gan dy fod yn credu mai Cymraeg a siaradai y ddau ddyn yn yr hwylfa, a chan dy fod yn meddwl—ac yn wir yr wyf yn digwydd gwybod dy fod yn iawn—na fedrai Carrier ddim Cymraeg, y mae'n sicr mai Ffrangeg oedd yr iaith. Yn awr, a fedr Alun Tomos Ffrangeg?'

"Chwarddodd Huw. "Dim un gair," meddai.

"Yn hollol felly. Wel, ti weli os mai Ffrangeg a siaradai y ddau ddyn yma nad Alun Tomos oedd un ohonynt. Am ei bryder o am dy gael di o'r wlad, y mae hwnnw yn hawdd iawn ei esbonio. Gwyddai, os oedd Capten Gruffydd wedi penderfynu tadogi y lofruddiaeth arnat ti fod tystiolaeth y gyllell yn ddigon i dy grogi. Y mae yn llawer diogelach i ti fod yma hyd nes y medrwn ni ddangos mai rhywun arall oedd y llofrudd. Ac yr wyf yn meddwl na bydd hynny ddim yn hir iawn."

Edrychodd Huw mewn syndod ar y dyn tawel o'i flaen.

"Tybed—a ydych chwi yn gwybod?" gofynnai.

"Nac ydwyf—ddim yn gwybod i sicrwydd. Ond y mae rhoddi dau a dau wrth ei gilydd yn gymorth i ddyn wneuthur pedwar, wyddost. Ac y mae gennyf beth arall hefyd. Yr oedd gen i Ffrancwr ar fwrdd y scwner yma, ac mi laniodd hwnnw yn Llanwennol heno. Yr wyf yn digwydd gwybod ei neges o—na hidia sut—a mi wn na bydd yn dda iawn gan dy gyfaill Capten Gruffydd ei weld o. Paid a phryderu, fy marn i ydyw y daw popeth yn iawn eto. Ond y mae'n rhaid i mi gael amser i ystyried pethau ac i feddwl beth i'w wneud."

"Ond," meddai Huw, "pwy oedd y llofrudd yn eich meddwl chi?"

Trôdd John Ambros i edrych ar Huw, gyda rhyw hanner gwên ar ei wyneb.

"'Dwyt ti ddim wedi meddwl am hynny eto?" meddai.

"Naddo."

"Ond Capten Gruffydd, wrth gwrs," meddai John Ambros.

Edrychodd Huw mewn syndod ar John Ambros. Credai am foment fod y llongwr o'i go', ond yna daeth i'w feddwl lu o bethau a ystyriodd ef, pan ddigwyddasant, yn ddigon dibwys. Ond yn awr yr oedd ystyr newydd i bob un ohonynt. Credai Huw ei fod yn gweld goleuni.

"Capten Gruffydd!" meddai. "Capten Gruffydd yn llofrudd! Ond beth oedd ei amcan? Yr oedd Carrier yn gyfaill iddo ac yn aros gydag ef."

"'Dywed ei fod yn aros gydag ef, 'machgen i," meddai Ambros gyda gwen, a phaid a sôn am fod yn gyfaill iddo. Ffrancwr oedd Carrier."

"Ond beth oedd ei neges yn y Plas?"

"Ha! dyna'r cwestiwn. Ond mi wn i rywbeth am hynny hefyd. Mi ddywedodd y Ffrancwr arall yna, D'Alton, dipyn, ac mi gesglais innau fwy. Pe cawsai cyfraith Prydain siw neu miw am yr hyn ydi Capten Gruffydd, fe'i crogid yfory, heb sôn am ladd Carrier."

"Beth!" meddai Huw, mewn syndod. "Beth y mae o wedi ei wneud?

"Y mae'n hawdd dweyd hynny ar fyr eiriau," meddai Ambros. "I ddechreu, y mae o cyn dloted â llygoden eglwys, ac mewn dyled ymhob man. Peth arall, y mae o wedi dyfod i feddiant, y nefoedd fawr a ŵyr sut, o rai o gynlluniau y Llywodraeth Brydeinig ynglŷn â'r rhyfel. Wel, dyna i ti ddyn tlawd a chanddo rywbeth gwerthfawr i'w werthu. A weli di y sefyllfa, 'rwan?'

Ysgydwodd Huw ei ben.

"Wel, dyma i ti ychwaneg o oleuni ynteu," ebe Ambros. "Yn ystod y rhyfel daeth y Capten rhagorol i gyffyrddiad â rhai o'r swyddogion Ffrengig. Rywfodd neu gilydd daethant hwy i ddeall fod ganddo rywbeth gwerth ei gael yn ei feddiant, a chynygiwyd pum mil o bunnau iddo am y gyfrinach. Dyna oedd neges Carrier. Gallaswn dybio, oddiwrth yr hyn a glywais, fod y Capten naill ai yn gofyn am ragor o arian, neu yn teimlo oddiwrth bigiadau ei gydwybod. P'run bynnag, nid oedd y pethau yn mynd cyn gyflymed ag y disgwylid gan y Ffrancod, a'r tebyg ydyw fod Carrier wedi dechreu bygwth y Capten, a'i fod yntau mewn congl, yn methu a gwybod beth i'w wneuthur. Gwn, fel mater o ffaith, fod gan D'Alton rai llythyrau oddiwrtho fuasai yn ddigon i brofi ei euogrwydd unrhyw ddydd. Fy marn i ydyw fod Capten Gruffydd yn meddwl mai gan Carrier yr oedd y rhai hynny, ac iddo ei ladd er mwyn cael gafael arnynt. Dyna i ti'r stori. Y mae peth ohoni yn sicr, ac y mae'r gweddill, 'rwy'n barnu, er mai tybiaeth ydyw, yn bur debyg i'r gwir."

"Ond beth am y Ffrancwr arall yna?" meddai Huw.

"D'Alton? O, dyna lle mae dy iachawdwriaeth di. Yr oedd y Ffrancod yn gweld Carrier yn hir, ac wedi dechreu meddwl fod yna ryw ddrwg yn y caws yn rhywle. A dyna nhw yn anfon D'Alton i wneud ymchwiliad. Ac os iawn yr adwaen i D'Alton, mi wnaiff ymchwiliad trwyadl hefyd. Fuaswn i ddim yn hidio am fod yn lle dy Gapten Gruffydd di heno. Mi fydd ganddo lawer o waith esbonio."

Chwarddodd John Ambros yn ddistaw, fel petai'r chwerthiniad i lawr yn ei frest yn rhywle. Yr oedd y chwerthiniad yna yn un o nodweddion y dyn. Nid oedd ei lais na dim o'i gwmpas yn uchel nac yn drystfawr, ond yr oedd rhywbeth yn ei ddistawrwydd yn peri mwy o fraw i'r rhai yr oedd yn ymwneud â hwy na sŵn pobl eraill.

Rywfodd neu gilydd llwyddai John Ambros i wybod llawer iawn o bethau y byddai yn well gan bobl iddo beidio eu gwybod. Dywedid weithiau na phetrusai ddefnyddio ei wybodaeth i fynnu ei ffordd pan yn delio ag ambell un. Ond beth bynnag am hynny, dyna'r fath ddyn oedd,—dyn distaw, gwyliadwrus, yn gwybod mwy na'r cyffredin. Yr oedd Huw eisoes yn dechreu meddwl nad oedd waeth iddo ef heb geisio celu dim rhagddo.

Pan oedd Huw ar fin dywedyd rhywbeth am y dadleniadau rhyfedd a glywodd, daeth un o'r llongwyr i ben grisiau'r caban, a gofynnodd a ddeuai'r Capten ar y dec.

"Be' sy'n bod, Watkin?" meddai John Ambros. "Y mae yna oleu o'n blaen," meddai'r llongwr. "Goleu? Goleu beth?"

"Dyna sy'n anodd ei wybod, Capten," meddai Watkin. "Fy marn i ydi mai goleu llong ydyw."

"O'r goreu," meddai Ambros, "mi ddof yna 'rwan. 'Does dim yn rhy ofalus i ni fod," ychwanegai, gan droi at Huw. "Tyd i fyny."

Aeth y ddau i fyny ar y dec. Yr oedd hi eto yn nos, ac yn bur dywyll, er fod yr awyr yn dechreu llwydo ychydig tua'r dwyrain. Yr oedd y llongwyr yn sefyll wrth un ochr i'r llong, gan edrych yn bryderus i un cyfeiriad.

"Lle mae'r goleu yma?" meddai John Ambros.

"Acw, Capten," meddai'r llongwr a siaradodd o'r blaen. "Y mae i'w weld yn gliriach yn awr."

"Ataliwch y llong, a rhiffiwch yr hwyl fawr," meddai Ambros, ac yna neshaodd at yr ochr a chraffodd i'r tywyllwch. Gwnaeth Huw yr un modd.

"A weli di rywbeth?" meddai'r Capten.

"Gwelaf," meddai Huw, "mae yna oleu draw acw rhyw hanner milltir i'r gorllewin, gallwn dybio."

"Ie, mi welaf," meddai'r Capten. "Goleu beth ydyw, yn dy farn di?"

"Y mae'n rhy isel i fod yn oleu llong," oedd ateb Huw, "ac nid ydym yn agos at y lan. Rhaid felly mai goleu mewn cwch ydi o."

"Ond beth a wna neb mewn cwch cyn belled oddiwrth y lan a hyn?"

"Yn hollol felly," meddai Ambros, "y mae'n ddirgelwch, ond y mae'n rhaid i mi gael goleuni arno. 'Does yna fawr o berygl oddiwrth un cwch, beth bynnag. Yr ydym yn tynnu tuag ato, ac mi gawn weld yn y man."

Yr oedd y scwner yn hwylio yn arafach yn awr, ond eto llithrai drwy'r dŵr yn weddol gyflym i gyfeiriad y goleu. Edrychodd Huw gyda chryn ddiddordeb arno. Ymddangosai iddo ef fod yr annisgwyliadwy yn digwydd o hyd yn awr, ac ni ryfeddai at ddim. Credai ei fod yn ddiogel oddiwrth ei erlidwyr, os oedd ganddo erlidwyr hefyd, a chan fod Ambros wedi rhoddi gobaith iddo y gallai ei glirio ei hun yn llwyr yn y man, yr oedd yn teimlo ei galon yn llawer iawn ysgafnach. Yr oedd yn barod i fwynhau dipyn ar y bywyd newydd.

Scwner ahoi! "

"Helo," meddai John Ambros, "dyna lais o'r cwch. Mi treiwn o yn Gymraeg." Yna gosododd ei law wrth ei geg a gwaeddodd, " Pwy sydd yn y cwch yna?"

Daeth yr ateb yn ol mewn iaith na ddeallai Huw ddim ohoni.

"Ffrancwr eto, myn cebyst!" meddai John Ambros. Ydi'r môr yma yn heidio efo Ffrancod mewn cychod deydwch?

Yna gwaeddodd yn Ffrangeg, "Oes arnoch chi eisiau dyfod ar fwrdd y llong?"

"Oes," meddai'r llais, a sylwodd Huw yn awr ei fod yn bur wannaidd, megis llais dyn bron a diffygio.

"O'r goreu," meddai John Ambros, a chyn pen dau funud yr oedd y scwner wrth ymyl y cwch, a gwelwyd dyn yn ceisio codi ar ei draed ynddo, a bron a chwympo wrth geisio.

PENNOD IX.
D'ALTON YN CLYWED AM DYNGED CARRIER.

RHAID i ni droi yn ol bellach, a dychwelyd at y ddau yng nghoed y Plas. Yr oedd Capten Gruffydd a'r Ffrancwr, D'Alton, pan y'u gadawsom ddiweddaf, wedi cyrraedd i dywyllwch y coed, ond eto heb gyrraedd at y Plas ei hun. Yr oedd wedi mynd yn sgwrs rhyngddynt am Carrier, ac yr oedd Capten Gruffydd wedi cyfaddef nad oedd Carrier yno.

"Beth!" oedd geiriau D'Alton. "Ymha le y mae, ynteu?"

Yr oedd rhywbeth yn llais y Ffrancwr yn dra gwahanol i'r dôn gyfeillgar, hanner cellweirus, yn yr hon y siaradai cynt. Yr oedd rhyw dant newydd i'w glywed,—sŵn awdurdodol, fel dyn yn gofyn cwestiwn ag yr oedd ganddo hawl i ateb iddo.

Yr oedd Capten Gruffydd yn oedi ateb, a gofynnodd y Ffrancwr drachefn,—"Pa le y mae Carrier?"

"Nid myfi ydyw ceidwad Carrier," meddai y milwr. Ceisiai roddi ei holl hunan-hyder a'i wroldeb yn ei lais, ond er ei waethaf, yr oedd rhyw gryndod ynddo.

"Feallai, fy nghyfaill," meddai D'Alton, "mai nid chwi ydyw ceidwad Carrier, ond y chwi a ddelir yn gyfrifol amdano serch hynny."

"Dim o'r fath beth!" meddai'r Capten, yn brochi. "Ni ofynnais i iddo ddyfod yma. Nid oedd arnaf eisiau ei gwmni, ac nid oeddwn fawr balchach arno."

"Gall hynny fod, hefyd. Yn wir, Capten Gruffydd, nid wyf yn eich amheu. Ond yn awr, pa le y mae Carrier?'

Yr oedd rhywbeth caled, penderfynol, di-droi yn-ol, yng ngwaith y Ffrancwr yn gofyn ac yn ail—ofyn yr un cwestiwn o hyd. Nid am ddim y dysgodd D'Alton yn ysgol ei feistr, Napoleon.

"Dowch i'r tŷ," meddai Capten Gruffydd yn anesmwyth, "a dywedaf yr holl stori wrthych. Nid oeddwn yn meddwl peidio ei dweyd, ond yr oedd eich dull yn peri i mi deimlo dipyn. Fel mater o ffaith y mae'r stori yn un brudd a chynhyrfus ddigon."

"Felly," meddai D'Alton, "yr oeddym yn ofni fod rhywbeth yn bod."

"Pwy oedd yn ofni?"

"Y ni—yn Ffrainc. Y mae'n debyg eich bod yn deall."

"Ydwyf, mwy neu lai,—ond y mae ynoch duedd i siarad ar ddamhegion. Ond dyma ni wedi cyrraedd at y tŷ. Rhaid i chwi esgusodi'r croeso heno. Y mae'n hwyr iawn, ac y mae fy nhad wedi mynd i'w wely er's meityn. Y mae yn hen ŵr, ac yn bur hen ffasiwn ei ddull. Ond gallaf gael tamaid i chi, ac y mae yma ystafell a gwely yn barod i'm cyfeillion bob amser. Nid oes gan fy nhad gyfeillion—neb, o'r hyn lleiaf, fydd yn arfer galw i edrych amdano."

Siaradai Capten Gruffydd yn gyflym, fel pe'n ceisio dywedyd rhywbeth ar ei gyfer i droi'r stori. Yr oedd D'Alton yn hollol hunan-feddiannol drwy'r cwbl.

"'Rwyf yn sicr," meddai, wrth gerdded gyda'r Capten drwy'r drws mawr i hen neuadd dywyll y Plas, "fod eich tad yn falch o gwmpeini mab fel y chwi yn ei unigedd. Yr ydych yn gysur iddo yn ei hen ddyddiau."

Nid oedd Capten Gruffydd yn hoffi y dôn, ond nid oedd dim i'w wneuthur ond bodloni i'r geiriau yn ddistaw.

Goleuodd gannwyll, a gwelodd D'Alton eu bod yn sefyll yn neuadd fawr hen blasdy Cymreig gwledig. Yr oedd popeth ynddi yn henafol. Yr oedd y darluniau ar y mur, fel y distiau uwchben, yn ddu gan oedran. Yn ei ymyl yr oedd y lle tân—tân ar lawr yn ol yr hen ddull, a simddai fawr agored. Clywai sŵn y gwynt yn y corn.

Nid oedd y gannwyll a oleuodd Capten Gruffydd yn hanner goleuo y lle. Yr oedd cysgodion tywyll ym mhob man, ac nid oedd modd gweld ffordd allan o'r neuadd. Yn unig gwelid grisiau llydan yn cychwyn yn un lle ar gyfer y drws, ond buan iawn yr oedd y rhai hyn hefyd yn ymgolli yn y tywyllwch.

Ond yr oedd Capten Gruffydd gartref. Agorodd ddrws, ac aeth a'r Ffrancwr i mewn i ystafell arall, lai o gryn lawer.

Yno yr oedd bwrdd a llian arno, a gweddillion pryd o fwyd.

"Y mae'n ddrwg gennyf nad oes gennyf ddim gwell i'w gynnyg i chwi," meddai'r Capten.

"Ond y mae yma win go lew i olchi y bwyd oer yma i lawr. Eisteddwch wrth y bwrdd."

Eisteddodd y Francwr, a dechreuodd fwyta.

Gofalodd am eistedd yn y fath fodd fel ag yr oedd Capten Gruffydd yn sefyll yng ngoleuni y gannwyll. Gafaelodd D'Alton yn y gannwyll, megis pe'n ddifeddwl, a thynnodd hi ychydig yn nês ato. Yr oedd bellach dan ei lywodraeth ef, ac ni fedrai Capten Gruffydd ei chyffwrdd, heb estyn dros y bwrdd i wneuthur hynny.

Eisteddodd y Capten ar ei gyfer. Yr oedd golwg anesmwyth arno. Yr oedd ei wyneb coch, llyfn-dew, wedi gwelwi. Yr oedd pantiau duon dan ei lygaid. Ceisiai edrych yn ddifraw a naturiol, ond methiant truenus oedd yr ymgais.

Ar y llaw arall yr oedd y Ffrancwr yn berffaith dawel. Nid oedd ei wyneb gwelw a'i lygaid duon yn dangos beth oedd yn mynd ymlaen yn ei feddwl o gwbl. Ond weithiau taflai olwg graff a threiddgar i gyfeiriad y Capten. Ni ddywedodd air am beth amser, ond bwytaodd ac yfodd yn selog.

Ond cyn pen hir deffrowyd y Capten o'i fyfyrdod dwfn gan lais D'Alton. "Yn awr," meddai, "pa le y mae Carrier?"

Yr un cwestiwn o hyd.

"Y mae wedi ei wedi ei lofruddio," ebe Capten Gruffydd.

Yr oedd cwestiwn nesaf D'Alton yn un rhyfedd. "Gennych chwi?" meddai.

Neidiodd Capten Gruffydd ar ei draed. "Pwy sy'n meiddio deyd peth fel yna?" meddai, gan geisio bod yn ffyrnig. "Pwy sy'n meiddio fy ngalw i yn llofrudd?

"Neb, hyd yn hyn," ebe D'Alton. "Peidiwch a cholli eich tymer, fy nghyfaill. Eisteddwch i lawr ar unwaith, a dywedwch yr hanes."

Rhoddodd Capten Gruffydd ochenaid drom, ac eisteddodd i lawr. Yna, mewn llais isel, dechreuodd lunio stori am farwolaeth Carrier. Gosododd yr holl fai, wrth reswm, ar Huw Anwyl. Dywedodd fod Carrier wedi cyfarfod Huw pan oedd hwnnw yn dychwel o'r traeth; fod Huw wedi meddwl mai un o'r swyddogion oedd, ac, hyd y gwyddai neb, wedi ei ladd yn y fan.

"Chwilio am y llofrudd yr oeddwn heno, pan gyfarfuasom," meddai Capten Gruffydd, yn dechreu sirioli tipyn wrth weld D'Alton yn gwrando mor ddistaw, "ac yr ydym yn sicr o'i gael un o'r dyddiau nesaf yma."

"Felly," meddai'r Ffrancwr, ac nid oedd modd gwybod beth oedd ei syniad am y stori. "A dyna ddiwedd Carrier druan! Un o filwyr dewraf y fyddin fawr yn cwympo mewn hwylfa dywyll dan gyllell llofrudd! Llofrudd, onide, fy nghyfaill?"

Gwingodd a gwelwodd Capten Gruffydd.

"Ie, wrth gwrs," meddai.

"Ie," meddai'r Ffrancwr, "llofrudd a dyhiryn. Ond ym mha le yr oeddych chwi? Nid ydych wedi dweyd hynny."

Yr oeddwn wedi aros yn y pentref," meddai'r Capten. "I ddeyd y gwir, yr oedd yno eneth,—yr oedd arnaf eisiau ei gweld—yr ydych yn deall wrth gwrs?"

"Yn hollol," meddai D'Alton. "Ydwyf, yr wyf yn deall yn hollol." Yr oedd yn rhoddi y fath bwyslais ar ei eiriau nes peri i'r Capten Gruffydd edrych arno. Ond ni allai'r Capten edrych yn hir. Yr oedd gannwyll yn llosgi yn isel erbyn hyn, yr oedd y tywyllwch yn ddwfn yn yr ystafell oddigerth o amgylch y bwrdd, ac yr oedd distawrwydd y nos yn y tŷ yn llethol.

Yna cododd D'Alton. "Wel," meddai, "os ydyw Carrier wedi mynd, gallaf fi wneud ei waith. Ond yr wyf yn lluddedig. A wnewch chwi ddangos y ffordd i'r gwely i mi, gyfaill?"

Gafaelodd yn y ganhwyllbren ei hun, ac yna gadawodd i Gapten Gruffydd ei arwain i fyny'r grisiau llydan, tywyll, ac yna ar hyd oriel hir, heb yr un drws na ffenestr yn y muriau oddeutu. Yna aethant i lawr ris neu ddwy, a safodd y Capten wrth ddrws arall. Sylwodd D'Alton mai hwn oedd yr unig ddrws yn y golwg.

"Dyna'r ystafell," meddai Capten Gruffydd. "Hyderaf y cewch noswaith dawel."

"Yr wyf yn hollol barod ar gyfer unrhyw beth a all aflonyddu arnaf. Diolch i chwi am eich dymuniad yr un modd."

Agorodd y Capten y drws, ac aeth y Ffrancwr i mewn i'r llofft. Dywedodd y ddau nos da wrth ei gilydd, ac yna caeodd D'Alton y drws. Gwrandawodd yn astud am ysbaid nes clywed sŵn traed Capten Gruffydd yn darfod yn y pellter. Yna edrychodd am allwedd i'r drws.

Nid oedd yno yr un.

Edrychodd D'Alton o'i gwmpas, a gwelodd ei fod mewn ystafell pur fawr, hen lofft hen ffasiwn yn gweddu i'r plasdy gwladaidd yr oedd ynddo. Ni thaflai y gannwyll fawr o lewych, a gwelodd yntau fod yn rhaid iddo roddi tro o gwmpas y lle cyn y medrai ddeall ei amgylchoedd yn iawn. Ond yn gyntaf, treiodd y drws, a chafodd ei fod yn agor tuag i mewn.

"Goreu oll," meddai D'Alton wrtho'i hun.

Yna cymerodd y canhwyllbren, a rhoddodd dro o gylch y llofft. Yr oedd y gwely yn un mawr, gyda tho uwch ei ben, a llenni o'i amgylch, tebyg i'r hen welyau a welir mewn ambell i fan hyd heddyw. Trwm, garw, a henafol oedd yr holl ddodrefn hefyd, ond sylwodd D'Alton gyda boddhad fod un o'r cistiau derw trymion yn symudadwy ac heb fod ymhell oddiwrth y drws.

Pan welodd hynny dechreuodd ei symud yn araf ac yn ofalus i gyfeiriad y drws. Gofalai, hyd y medrai, rhag gwneuthur sŵn. Yr oedd yr hen gist yn dderw drwyddi, ac yn drom iawn, ond yr oedd y Ffrancwr yn ddyn cydnerth, a llwyddodd, wedi chwysu dipyn, i'w gosod yn erbyn y drws fel na ellid agor hwnnw.

"Dyna!" ebe D'Alton. "Digon o waith i neb ddyfod i mewn y ffordd yna beth bynnag. Ond feallai fod yma ryw gilfach arall yn yr hen lofft yma."

Edrychodd y muriau yn ofalus. Yr oedd yr oll yn baneli derw, gyda darlun henafol yma ac acw, ond nid oedd arwydd yn unman fod yr un ffordd i ddyfod i mewn. Yna edrychodd y ffenestr. Yr oedd honno yn y mur pellaf oddiwrth y gwely. Cafodd fod dau far haearn cryf yn ei chroesi, ac yr oedd mor dywyll, fel nad oedd modd gweld dim allan.

Yna, ac yn olaf, trôdd ei sylw at y lle tân. Nid yn aml y ceid lle tân tebyg iddo hyd yn oed yn y plasau Cymreig yr adeg honno. Yr oedd gwaith plaster addurnedig uwch ben y silff, ac o amgylch hwnnw ym mhob man yr oedd y paneli derw.

Yr oedd y simddai yn fawr ac agored, ond wrth edrych i fyny gwelai D'Alton far neu ddau rhyngddo ag awyr y nos.

Ymddangosai yn lled fodlon ar yr ymchwiliad.

"Hyd y gallaf weld," meddai wrtho ei hun, "nid all yr un creadur byw ddyfod i mewn ond drwy y drws. Yr oedd yr hen Gymry a adeiladodd yr ystafell yma yn bobl gall—nid oeddynt am beryglu eu bywydau drwy wneud llwybr y gelyn yn rhy hawdd. Ar yr un pryd, hoffwn gael sicrwydd nad oes yr un o'r paneli yna yn cuddio dim ond mur. Clywais am lwybrau ym muriau hen dai. Ond p'run bynnag, rhaid i mi gymryd fy siawns bellach. A rhaid i mi gysgu. Y mae'r hen wely yma yn debycach i arch na dim arall, ond y mae'n well na'r llong ofnadwy yna. Ffŵl oeddwn i i gychwyn ar y daith yma o gwbl,—ond rhaid mynd trwyddi bellach."

Gosododd y gannwyll ar y bwrdd yn ymyl y gwely, a thynnodd ei gôt a'i esgidiau. Yna gosododd ddau bistol ar y bwrdd, yng nghyrraedd ei law, a neidiodd i'r gwely fel yr oedd, heb dynnu rhagor o'i ddillad. Yr oedd mor flin, fel y cysgodd cyn gynted ag y disgynnodd ei ben ar y gobennydd.

Cysgodd felly am awr, neu feallai ddwy. Pan ddeffrôdd, deffrôdd yn sydyn, a'i deimlad cyntaf oedd fod yno rywun yn yr ystafell.

Eisteddodd yn y gwely ar unwaith, ac estynnodd am ei bistol, canys yr oedd yn hen filwr, wedi arfer deffro yn hollol effro ar foment o rybudd. Er ei fraw nid oedd y pistol ar y bwrdd!

"Pwy sydd yna?" gofynnai'n uchel, gan wneuthur ei lais mor awdurdodol ag y medrai. "Gwyliwch eich hun. Y mae gennyf bistol arall yn fy llaw, ac mi daniaf yn y munud."

Yr unig ateb oedd chwerthiniad isel, hir, ond yr oedd rhywbeth yn y chwerthin hwnnw yn fwy ofnadwy i D'Alton na bygythiad dyn. Canys nid oedd y chwerthin yn hollol ddynol. Yr oedd rhywbeth annaearol a gwyllt ynddo; rhyw dinc a barai i wallt D'Alton godi ac i'w groen oeri trosto.

"Diable!" meddai, hanner wrtho ei hun. "Beth ydyw hyn? Nid oes arnaf ofn yr un dyn byw,— ond beth ydyw hwn? Ond, o ran hynny, beth well fyddai ysbryd o ddwyn fy mhistolau i?"

Rhoddodd y syniad ryw gysur iddo. Cododd dros erchwyn y gwely, a chafodd ei draed ar lawr.

"Yn awr," meddai, "pwy bynnag sydd yna, dyn neu gythraul, gadewch i mi gael gafael arnoch, neu dywedwch eich neges."

Ond y chwerthin isel—ha, ha, ha!—oedd yr unig ateb eto.

Yr oedd hyn yn ormod i D'Alton, a rhoddodd ddau gam ymlaen, ac yna teimlodd ddwy fraich gref yn gafael amdano o'r tu ol, anadl boeth ar ei war, a'r chwerthiniad annaearol, yn gymysg â rhyw sŵn disynnwyr yn ei glust.

Yr oedd y Ffrancwr, fel y dywedwyd, yn ddyn cryf, wedi caledu drwy lawer ymdrech galed a brwydr boeth. Pan deimlodd y breichiau yn gafael amdano gwnaeth ei oreu i ledu ei freichiau ei hun, er mwyn torri yr afael haearnaidd, ond er ei holl nerth methodd a'i datod.

Yna dechreuodd brwydr chwyrn a ffyrnig yn y tywyllwch. Yr oedd D'Alton yn gwingo ac yn ymdrechu dyfod yn rhydd, a'r clwm haearnaidd amdano fel pe'n tynhau o hyd nes gwasgu yr anadl allan o'i gorff. Ceisiodd y Ffrancwr gicio'n ol, ond yn ofer, canys nid oedd y creadur a afaelodd ynddo fel pe'n teimlo ei draed. Yna ceisiodd lithro drwy ei freichiau, ond methiant oedd hynny drachefn, canys yr oedd yr afael cyn dynned amdano fel na fedrai yn ei fyw. Ni fedrai weiddi chwaith, canys yr oedd ei wynt yn fyr, a theimlai ei hun yn gwanhau yn brysur yn y wasgfa ofnadwy. Daeth niwl coch o flaen ei lygaid; teimlai ei nerth a'i ymwybyddiaeth yn pallu; y peth olaf a glywodd oedd rhyw hanner chwerthiniad, hanner ebwch gwallgof gan y creadur oedd y tu ol iddo, ac yna suddodd D'Alton i'r llawr, yn swp diymadferth. Ac yna, ac nid cynt, y llaciodd gafael ofnadwy y breichiau. **** Bu distawrwydd am ennyd, ac yna daeth goleuni o rywle. Yr oedd yr hyn a ofnodd D'Alton wedi digwydd, canys daeth Capten Gruffydd i mewn i'r ystafell drwy dwll yn y mur a wnaed drwy i un o'r paneli derw lithro yn ol. Yr oedd gan y Capten lanter yn ei law.

Daeth ymlaen hyd at ochr y gwely. Disgynnai y goleuni ar y Ffrancwr yn gorwedd yn swp diymwybod ar lawr, ac ar y dyn a'i gwnaeth felly. Penliniai hwnnw yn ymyl D'Alton, a'i ddwy law fel pe'n barod i orffen y gwaith a ddechreuodd, ond pan ddywedodd Capten Gruffydd,—" Dyna ddigon, Wil, saf draw," cododd, gan fwmian wrtho ei hun, a chiliodd at y gwely.

Yr oedd un olwg ar y truan yn ddigon i ddangos y fath un ydoedd. Un o'r creaduriaid lloerig hynny oedd yn weddol gyffredin yng Nghymru unwaith â'r bwystfil yn gryfach o lawer ynddynt na'r dyn oedd Wil. Ni siaradodd air croyw erioed, ac nid oedd yn gymwys i fod yn agos at ddynion. Eto, lled-ddeallai yr hyn a ddywedid wrtho, ac yr oedd yn ofni Capten Gruffydd fel yr ofna ci ei feistr. Nid oedd neb ond y Capten yn gwybod, neu wedi sylweddoli, beth bynnag, fod ffyrnigrwydd peryglus yn natur y truan, a bod yr agwedd honno yn datblygu ynddo yn brysur. Deallodd y Capten hynny, modd bynnag, a manteisiodd ar hynny ac ar ei feistrolaeth ef ei hun arno y noswaith hon.

Efe a'i gollyngodd i mewn drwy'r panel, gan orchymyn iddo gymryd dau bistol y Ffrancwr oddiar y bwrdd yng nghyntaf, ac yna ymosod arno. Nid oedd wedi meddwl y gwnai Wil y gwaith cystal, a chafodd beth braw ar y dechreu, gan iddo feddwl fod D'Alton wedi marw. Ond rhoddodd ei law ar ei galon, a chafodd ei fod eto'n fyw.

Yna dechreuodd chwilio ei dillad yn brysur, ond yn fanwl. Wedi methu cael dim yn y rheiny chwiliodd dan y gobennydd a than y gwely, ond yn ofer o hyd. Edrychodd yn ffyrnig ac yn siomedig ar ol methu ym mhob man, a cherddodd at y Ffrancwr diymwybod, fel pe am roddi cic iddo. Gwnaeth Wil sŵn yn ei wddf wrth weld hynny, gan ei fod yn meddwl fod ei feistr am orffen y gwaith a ddechreuasai efe. Daeth hynny â'r Capten i'w bwyll,

"Na," meddai, "y mae gwaed un ohonynt yn ddigon ar fy llaw. Rhaid nad yw y papurau gan hwn eto. Y maent yn rhy gyfrwys i mi. Ni chefais ddim ond yr arian gan Carrier; y maent yn dal y moddion i'm difetha yn eu dwylo o hyd. Ond y mae'n rhaid i mi gael y llythyrau—rhaid, rhaid! onide ni bydd bywyd yn werth ei fyw."

Yr oedd y dyn wedi cynhyrfu yn ofnadwy, a dychrynodd y gwallgofddyn yn yr olwg arno. Ond rhoddodd D'Alton dro anesmwyth ar y llawr—arwydd ei fod yn dadebru.

"Y mae'n dyfod ato ei hun," meddai'r Capten "Rhaid i mi siarad ag ef. Dos i'th genel, Wil."

Deallodd Wil y gorchymyn, ac aeth ymaith, dan fwmian yn anfodlon, drwy'r panel agored. Yna caeodd y Capten hwnnw, cododd D'Alton ar y gwely, ac yna ciliodd ei hun trwy'r twll yn y mur.

PENNOD X.
TROI YN OL.

Roedd John Ambros a Huw, pan adawsom hwynt, yn siarad gyda'r Ffrancwr oedd yn y cwch. Cyn pen hir iawn yr oedd y cwch wedi cyrraedd at y llong, a chynorthwywyd y Ffrancwr gan y llongwyr i ddyfod ar fwrdd y scwner.

Yr oedd golwg druenus arno. Yr oedd yn welw ei wedd ac yn afler ei ddillad. Yr oedd halen y môr wedi casglu hyd ei wallt ac wedi ei wneuthur fel eira o'r bron. Yr oedd yn amlwg arno nad oedd wedi cael tamaid o fwyd ers hir amser.

Edrychodd o'i gwmpas fel dyn hanner gwallgof, a cheisiodd ddywedyd rhywbeth yn ei iaith ei hun, ond yr oedd yn rhy floesg i siarad yn hyglyw. Gafaelodd Ambros ynddo ac aeth ag ef i lawr i'r caban, lle yr oedd bwyd a diod.

Nid oedd Huw gyda hwy. Yr oedd yn llongwr, ac nid peth anghyffredin iawn iddo ef oedd gweld dynion wedi bod yn hir mewn cychod, wedi suddo rhyw long, ac ni chymerodd ddiddordeb o gwbl yn y Francwr truenus hwn. Synnai dipyn at awydd Ambros i'w ymgeleddu, ond un rhyfedd oedd Ambros erioed, ac un rhyfedd a fyddai hyd y diwedd.

Cerddodd Huw yn ol a blaen hyd ddec y llong fechan, gan fyfyrio cryn lawer ar y ffawd anhapus a'i gyrrodd fel hyn i grwydro na wyddai i ba le. oedd yn ffyrnig iawn wrth feddwl am Gapten Gruffydd; awyddai am ddial, a chynhyrfai i waelodion ei enaid pan feddyliai am y tric a chwaraewyd ag ef. Yna meddyliodd am ei fam, am Sian, ac am ei thad.

Yr oedd y wawr ar dorri. Yr oedd yntau yn flin a chysglyd. Penderfynodd fynd i lawr i chwilio am le i orwedd, a gadael rhwng John Ambros a gofalu am gwrs y llong. Ni wyddai—nid oedd modd iddo wybod—fod rhywbeth yn digwydd yng nghaban y capten oedd yn agor y drws iddo yntau. Ni wyddai—nid oedd modd iddo wybod—mai y peth rhyfeddaf a ddigwyddodd yn ei hanes oedd y cyfarfyddiad hollol ddamweiniol hwn â'r Ffrancwr yn y cwch. Ni feddyliodd Huw mai trwy y creadur hwnnw, truan yr olwg arno, ac ar lwgu, yr oedd gwaredigaeth i ddyfod iddo ef.

Aeth i'r gwely heb feddwl na gwybod dim am hyn, a chysgodd.

Cysgodd rai oriau cyn deffro. Ac nid deffro ohono ei hun a wnaeth y pryd hynny, canys bu raid i Ambros ei ysgwyd yn hir cyn agor ohono ei lygaid. Yna gwelodd y capten yn sefyll uwch ei ben, a cheisiodd godi.

"Yn ara' deg," meddai Ambros. "Paid a chodi mor sydyn. Ar yr un pryd, y mae'n well i ti ddeffro. Y mae gen i rywbeth i'w ddeyd wrthyt ti."

"Beth sydd yn bod," meddai Huw. "Ydi popeth yn ddiogel?

"O, y mae'r cwbl o'r goreu. Ond y mae gen i rywbeth yn fy mhoced sydd yn siwr o agor dy lygaid ti."

"Beth?"

" Aros, i ti ddeffro yn iawn."

"Yr ydw i yn hollol effro."

"Felly," meddai Ambros, yn edrych yn graff arno, "welais i erioed yr un llongwr yn cysgu'n drymach. Ond mi gredaf dy fod ti'n effro 'rwan."

"Ydwyf, yn hollol effro. Ond beth sydd gennoch chi i'w ddeyd?

Eisteddodd John Ambros ar gist, ac yr oedd golwg foddhaus anghyffredin arno. Yr oedd rhyw wên ar ei wyneb caled, a goleu buddugoliaeth yn ei lygaid.

"Ddeydais i ddim wrthyt ti," meddai, "fod arna i hen chwech fy hun i'r Capten yna. Ond y mae—ac mi talaf o hefyd. Yr oedd yna eneth yn—ond hidia befo hynna. Stori arall ydi honna, ac os a i ar ei hol hi mi fyddaf yn barod i wneud rhywbeth cyn y diwedd. Ond yr ydw i wedi cael pen y llinyn, wel di, ac mi saethaf ddau dderyn ag un ergyd—os medri di saethu hefo llinyn hefyd. P'run bynnag, mi gaf dalu'r pwyth i Capten Gruffydd, dial fy merch, a'th gael dithau yn rhydd o'i afaelion hefyd."

Erbyn hyn yr oedd cwsg wedi ymadael yn hollol oddiwrth Huw. Yr oedd yn effro, gorff a meddwl. Yr oedd rhywbeth yn null Ambros yn ennyn cywreinrwydd anghyffredin yn ogystal a rhyw gymaint o ofn. Yr oedd fel dyn wedi cael ei elyn dan draed, ac yn barod i wneuthur unrhyw beth i ddial arno.

Chwarddodd wrth weld Huw yn rhythu arno, gyda'i lygaid yn llydain agored.

"Yr wyt ti yn methu gwybod beth sydd arna i," meddai. Wel, dyn yn gorchfygu o'r diwedd ydw i. Ond rhaid i mi ddeyd y stori wrthat ti o'r dechreu. Yr wyt ti yn cofio beth a ddywedais i am Gapten Gruffydd a'r Ffrancwr?"

"Ydw', o'r goreu."

"Wyt, y mae'n debyg. Wel, rhaid fod ganddynt ryw afael arno fo. Rhaid fod ganddynt ryw bapur dan ei law o ei hun, oedd yn ddigon i'w grogi o ym Mhrydain os byth y deuai o i'r golwg. Fy marn i o hyd oedd fod y Capten yn meddwl fod hwnnw gan Carrier, ac mai dyna pam y lladdodd o fo. Ond mi wyddwn i o'r goreu na 'doeddan nhw ddim yn ddigon o ffyliaid i roddi'r papur yn unlle lle y medrai Capten Gruffydd gael gafael arno fo. Ac mi wyddwn na 'doedd o ddim gan D'Alton chwaith. Wyddost ti ym mha le y mae o?"

"Na wn i," atebai Huw yn syn.

"Y mae yn fy mhoced i!"

"Beth!" meddai Huw mewn syndod aruthr. "Yn eich poced chi?"

Chwarddodd Ambros drachefn. "Ie," meddai. "Y mae gen i ddigon yn fy mhoced i grogi Capten Gruffydd y funud a fynnaf. Ac mi wnaf, hefyd."

"Sut y cawsoch chi o?" oedd cwestiwn nesaf Huw.

"O, y ffŵl Ffrancwr yna. Y mae'n ymddangos mai partner D'Alton oedd o, a'u bod nhw wedi gwneud a'i gilydd i hwn aros nes y deuai D'Alton yn ei ol yn fy llong i, fel yr oedd y trefniad. Gan hwn yr oedd y llythyr, rhag ofn y byddai ei eisiau. Ond cymerodd yn ei ben fynd allan hefo'r cwch—mi ddaeth yn dipyn o dywydd arno, ac mi gollodd y rhwyfau, a phob syniad am y fan lle'r oedd o. Ac felly, wel di, mi ddaeth i'n dwylo ni."

"Ond sut y cawsoch chi y llythyr, John Ambros?" Winciodd Ambros. "Y mae'n talu i ti gymryd arnat dy fod ti'n gwybod mwy nag a wyddost ti weithiau. Y mae'r brawd yna yn y caban wedi yfed peth cynddeiriog o'r brandi goreu sydd gen i—ac y mae hwnnw'n un da—ac yn meddwl fy mod i'n gwybod cymaint am symudiadau a chynlluniau D'Alton â Napoleon ei hun, os nad chwaneg. Ac feallai fy mod i."

"Ond y papur, John Ambros," meddai Huw, wedi ei danio gan y syniad fod rhyddhad yn y golwg o'r diwedd, "y papur! Beth sydd ar hwnnw?"

Digon 'chydig," meddai y llongwr yn hamddenol, " ond y mae'n ddigon i wneud trefn ar Capten Gruffydd, y scoundrel felltith.' Cochodd ei wyneb, a fflachiodd ei lygaid—yr oedd fel petae storm wedi torri yn sydyn ar ganol diwrnod tawel yn yr haf. Ac yn y funud honno gwelodd Huw gip ar ddyfnderoedd natur y dyn yn ei deimladau at ei elyn yntau.

"Beth a wnewch, 'rwan?" meddai Huw.

"Gwneud! Mynd yn ol i Gymru, siwr iawn, a rhoddi terfyn ar einioes y burgyn yna!'

Fel mater o ffaith yr oedd eisoes wedi gorchymyn newid cwrs y llong. **** Yr oedd yn oleu ddydd, a scwner John Ambros yn ddïogel mewn hafan glyd rhyw bum milltir o Lanwennol. Nid oedd y capten yn ofni dim, canys nid oedd ganddo ddim anghyfreithlon ar ei bwrdd. Yr unig beth o'r golwg oedd y Ffrancwr, druan. Cloid ef yn y caban, "hyd nes y byddai ei eisiau," chwedl John Ambros.

Yr oedd y lle a ddewiswyd yn hen gyrchfan gan Ambros. Yr oedd y glannau yn ysgythrog iawn, ac yn y fan honno yr oedd y creigiau yn codi yn glogwyni uchel ar bob llaw. Rywfodd neu gilydd, modd bynnag, llwyddodd y tonnau i dorri bwlch ynddynt mewn un man, nes ffurfio porthladd bychan wedi ei amgylchu, ac eithrio o du'r môr, gan glogwyni uchel. Nid oedd yr agoriad tua'r môr ond cul iawn chwaith, ac yr oedd eisiau llongwr medrus i fynd â'i long i mewn trwy'r adwy. Ond unwaith i mewn, yr oedd y llong yn ddiogel, nid yn unig rhag ysbiwyr ar y môr, ond hefyd rhag cynddaredd y tonnau. Nid oedd waeth pa mor erchyll y storm yr ochr allan, byddai y môr yn y porthladd bychan naturiol hwn bob amser yn dawel, a bu'n noddfa werthfawr i John Ambros a'r scwner lawer tro.

Ar yr olwg gyntaf ymddangosai y creigiau danheddog yn hollol ddi-lwybr. Nid oedd le i hyd yn oed ddafad roddi ei throed arnynt o'r man lle y golchid hwy gan ddŵr y môr hyd y lle y tyfai yr eithin. Ond yr oedd Ambros wedi darparu moddion i gyrraedd diogelwch hyd yn oed yma. Mewn un man disgynnai cadwyn o gopa y graig hyd at y dŵr, ac nid oedd yn amhosibl i ddyn medrus ddringo i'r lan gyda chymorth y gadwyn honno.

Yr oedd Ambros wedi gwneuthur ei gynlluniau yn barod. Gosododd y llythyr yn ei boced, a rhoddodd bistol yn y boced arall. Rhoddodd bistol hefyd i Huw, gyda gorchymyn caeth i beidio ei ddefnyddio heb orchymyn uniongyrchol ganddo ef. Yna dywedodd wrth Huw ei fod am iddo ddyfod gydag ef i Lanwennol cyn gynted ag y byddai wedi dechreu tywyllu.

Aeth y dydd heibio o'r diwedd, a phan yr oedd yr haul wedi suddo, yn belen goch, dros donnau'r gorllewin, a'r môr wedi duo ac oeri ei liw, rhwyfwyd Huw a'r capten at droed y graig lle'r oedd y gadwyn.

"I fyny a chdi," meddai Ambros, a gafaelodd Huw yn y gadwyn, a dechreuodd ddringo. Nid oedd yn waith hawdd, a bu agos iddo fynd yn sâl ar y canol pan ddigwyddodd edrych i lawr i'r dyfnder odditano. Meistrolodd ei hun, modd bynnag, a llwyddodd i gyrraedd pen y clogwyn yn ddiogel.

Yna dilynwyd ef gan Ambros, yr hwn oedd yn hen gynefin â'r gwaith. Safai y ddau yn awr ar forfa gwyllt, heb yr un tŷ yn agos atynt. Yr oedd y lle yn hollol gymwys i bobl yn dymuno gwneuthur rhywbeth heb ormod o gyhoeddusrwydd, canys anaml iawn y byddai pobl yr ardal yn ymweld ag ef. Ond nid edrych o'u cwmpas oedd gwaith Ambros a Huw yn awr, a dechreuasant gerdded yn brysur i gyfeiriad Llanwennol.

"I ble yr ydach chi am fynd?" oedd cwestiwn Huw, ar ol cael ei wynt, wedi dringo'r clogwyn.

At Capten Gruffydd, i'r Plas," oedd yr ateb. "I'r Plas!" Yr oedd Huw wedi synnu. A beth wnewch chi'yn y fan honno?"

"Y mae gennyf amryw bethau i'w dweyd wrtho," meddai Ambros; "ac mi fedri feddwl beth. Y mae arnaf eisiau gwybod beth sydd wedi digwydd i D'Alton. Mi gei di weld Sian cyn hir, ond y mae arnaf eisiau dy gwmni yn awr. Wn i ddim yn iawn sut hwyl fydd ar y Capten."

Dechreuodd Huw weld goleuni ar y cynllun, a cherddodd ymlaen yn ddistaw. Nid oedd hwyl siarad ar John Ambros chwaith, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn meddwl am rywbeth. Sylwodd Huw hefyd ei fod yn medru'r ffordd yn dda iawn, er tywylled oedd hi, a chasglodd oddiwrth hynny ei fod wedi cerdded y ffordd honno lawer gwaith o'r blaen. Ac yr oedd yn ei le.

Daliasant at lwybr y morfa o hyd, ac felly cadwasant rhyw filltir o bentref Llanwennol. Ni chyfarfuasant â neb chwaith, a chyn pen hir cyraeddasant odre coed y Plas.

"Aros di," meddai Ambros, yn y fan honno; "y mae yma lwybr yn y fan yma yn rhywle. Mi fûm i yn ei gerdded o lawer gwaith ers talwm."

Dyfalodd Huw pryd y gallai hynny fod, ond ni ddywedodd yr un gair. Yr oedd Ambros yn cerdded yn ol a blaen, ac o'r diwedd tarawodd ar y fan yr oedd yn chwilio amdano.

"Dyma fo," meddai, fel pe'n siarad wrtho ei hun. Yr oeddwn i'n meddwl ei fod yma yn rhywle. Y mae fy nghof i am yr hen lwybrau yn dal yn fyw o hyd, mi welaf. Ffordd yma, Huw."

Yr oedd yno lwybr, ond yr oedd yn anodd i ddyn anghyfarwydd ei weld. Nid oedd tramwy wedi bod arno ers llawer blwyddyn, ac yr oedd y rhedyn, y drain, a'r mieri wedi tyfu trosto. Ond eto yr oedd yn llwybr, a medrodd Huw ddilyn ei arweinydd ar hyd-ddo, er rhwygo ei ddillad, ac weithiau ei ddwylo hefyd, yn yr ymdrech.

"I fyny a chdi,' meddai Ambros."

Yr oedd gweld John Ambros yn deall ei ffordd cystal yng nghyffiniau Plas Llanwennol yn peri cryn lawer o syndod i Huw, a phan gafwyd lle gweddol glir ar y llwybr, rhwng y coed, beiddiodd ofyn iddo sut y daeth i wybod cystal am y lle.

"Pan oeddwn yn fachgen," oedd yr ateb, ac yna tawodd, fel dyn oedd wedi dwedyd mwy nag a fwriadai.

"Ond na hidia am hynny," ychwanegodd.

"Y mae yna lawer o bethau y cei di eu gwybod gyda hyn, ac mi fydd yn rhaid i ti eu cadw nhw yn ddistaw, cofia."

"O'r goreu," meddai Huw; "mi fedraf gau fy ngheg."

"Y mae honno yn ddawn brin, wel di," oedd ateb Ambros. "Ond arfer hi 'rwan, canys yr ydan ni yn bur agos at y tŷ."

Yr oedd Ambros yn ei le, a chyn pen munud neu ddau daethant i le agored yn rhywle yng nghefn y Plas, hollol ddieithr i Huw. Safent yng nghysgod darn croes, un o ddarnau hynaf yr hen Blas, a gallesid meddwl, wrth edrych ar y muriau tywyll, nad oedd neb o gwbl yn byw yno. Tyfai y gwellt yn hir yn y fan honno, a dangosai y pant yn y tir y bu yno ffos ddŵr o amgylch y muriau ar un adeg. O amgylch y llecyn y safent arno tyfai coed, ac yn un man yr oedd derwen fawr fel pe'n pwyso yn erbyn y mur. Yr oedd pob man yn ddistaw; nid oedd sŵn na llais yn unlle.

"Edrych i fyny," sibrydai Ambros yng nghlust Huw, ac edrychodd yntau.

Gwelodd fod bwlch yn y mur ar gyfer brigau uchaf y dderwen. "Y mae ffenestr yn y fan yna," meddai Ambros yn isel. "Rhaid i mi gyrraedd ati."

PENNOD XI.
YR HYN A WELWYD TRWY'R FFENESTR.

YR oedd rhywbeth unig a bygythiol o gwmpas y rhan honno o'r tŷ. Yr oedd yn hen, yn llawer hŷn na'r darnau eraill, ac anaml iawn y defnyddid yr ystafelloedd. Yno, yn ôl dychymyg yr ardal, yr oedd ysbryd y Plas, ac yr oedd hwnnw yn ysbryd ofnadwy iawn, yn ôl tystiolaeth y sawl a'i gwelodd—neu y rhai a dybient eu bod wedi ei weld.

Un o amddiffynwyr y Plas rhag y Piwritaniaid adeg y Rhyfel Mawr oedd, meddid, un Syr Tudur Gruffydd, gŵr enwog am ei rysedd gyda phob math ar annuwioldeb. Yr oedd yn ddychryn i'r ardal, ac osgoid ef hyd yn oed gan ei ddosbarth ef ei hun. Yr oedd yn gablwr ac yn feddwyn, a dywedid ei fod yn llofrudd hefyd; yn wir, prin yr oedd drwg yn bod nas priodolid i Syr Tudur Gruffydd, a barn y rhai a'i hadwaenai oedd nad oedd yn cael rhyw lawer o gam.

Yr oedd ei ddiwedd, beth bynnag, yn ddiben cymwys i'r cymeriad a roddid iddo. Nid oedd traddodiad yn dywedyd beth a ddigwyddodd yn y Plas ryw noson stormus yn yr Hydref, yn y flwyddyn 1649. Y cwbl a wyddid oedd fod yno loddesta a phob gormodedd. Rhywbryd clywodd y gweision dychrynedig weiddi mawr, fel petae ddyn mewn poenau ingol,—ac yna cwbl ddistawrwydd.

Yn y bore cafwyd Syr Tudur yn eistedd yn ei gadair wrth ben bwrdd y wledd. Yr oedd yn amlwg y bu yno gwmni, yn ddynion ac yn ferched, gydag ef y noson cynt, ond nid oedd olwg amdanynt hwy. Yr oedd Syr Tudur yn farw, a dywedai traddodiad fod y fath wedd ar ei wyneb fel na allai y gweision edrych arno.

Amser cythryblus oedd hi y pryd hynny. Yr oedd cymeriad gŵr y Plas yn gyfryw fel na ryfeddodd neb yn fawr at echryslonrwydd ei farw. Claddwyd ef yn ddi-stŵr, a theyrnasodd ei etifedd yn ei le.

Ond byth er hynny, meddir, ni feiddiai neb fyw yn y rhan honno o'r Plas. Yn ystafell y wledd clywid, wedi nos, sŵn gweiddi a chwerthin ellyllaidd. Bryd arall clywid y waedd ofnadwy a glybuwyd y noson y bu Syr Tudur farw. Taerai rhai o'r gweision iddynt weld Syr Tudur ei hun yn eistedd wrth un pen i'r bwrdd a'r diafol yn eistedd ar ei gyfer wrth y pen arall. Gwelwyd y weledigaeth yma fwy nag unwaith, ac o'r diwedd caeodd un o ddisgynyddion Syr Tudur y darn hwnnw o'r tŷ yn hollol, a rhoddodd orchymyn caeth nad oedd neb i fynd yno.

Daliai pobl yr ardal i ddweyd nad oedd hynny wedi llonyddu dim ar yr ysbrydion. Clywid gweiddi dychrynllyd o'r hen ystafelloedd o hyd, yn enwedig pan fyddai ystormus yr hin yn yr Hydref. Credid yn ddiysgog fod y gwleddoedd uffernol yn parhau yno, a bod Syr Tudur, am ei aml bechodau, yn gorfod eistedd ar ben y bwrdd gyda chwmni o ellyllon, a bwyta pob math o aflendid ofnadwy.

Dywedid fod un gwas yn y Plas, mwy mentrus na'i gilydd, wedi dringo at ffenestr yr ystafell un noswaith yn yr Hydref. Cafwyd ef drannoeth yn crwydro yn ol a blaen yn yr ardd, yn ynfytyn hollol. Soniai rywbeth am oleuni a gweiddi, ond nid oedd cysylltiad o gwbl yn ei stori, ac ni chafwyd gwybod byth beth a welodd, canys parhaodd yn ynfytyn hyd ei farw, ac ni bu hynny yn hir.

Beth bynnag am hynny, yn y darn yma o'r tŷ yr oedd y Ffrancwr, D'Alton. Pan gaewyd y lle, ni symudwyd y dodrefn, ac yr oedd Capten Gruffydd wedi cymryd ffansi at y darn yma, ac yn treulio cryn lawer o'i amser ynddo. Ni chredai ef yn yr ysbryd, ond yr oedd gweddill trigolion y Plas yn parhau i gredu'n ddiysgog, ac nid gwaeth gan y Capten hynny. Yr oedd hynny yn sicrhau na aflonyddid arno yn yr hen ystafelloedd tywyll ac unig hyn, a phan gafodd nad oedd yr ynfytyn a ddefnyddiodd i ymosod ar D'Alton yn ofni'r lle chwaith, defnyddiodd ef mewn amryw ffyrdd yn y rhan yma o'r tŷ.

Bu D'Alton yn hir cyn dyfod ato ei hun yn iawn ar ol yr ymosodiad ffyrnig a wnaed arno. Pan ddadebrodd fe'i cafodd ei hun yn y gwely, ac oni bai am y cleisiau ar ei gorff a'r poenau a ddioddefai, gallasai feddwl mai wedi breuddwydio y cwbl yr oedd. Ond gwyddai yn amgenach oddiwrth ei gleisiau.

Cododd i edrych o'i gwmpas, a chafodd fod y drws wedi ei gloi. Edrychodd allan drwy'r ffenestr, ond er fod brigau derwen fawr yn cyrraedd hyd ati nid oedd modd mynd allan, canys yr oedd barrau haearn ar y ffenestr.

Cynddeiriogodd y Ffrancwr wrth weld ei hun mewn trap fel hyn, a dechreuodd guro yn ffyrnig ar y drws. Gwnai sŵn arswydus, ond ni atebai neb. O'r diwedd blinodd.

"Tybed," meddai wrtho ei hun, "fod y dyn yn meddwl fy nghadw yn y fan hon nes fy llwgu i farwolaeth? Yr oeddwn yn ffŵl yn fy ymddiried fy hun yn agos ato o gwbl."

Ond yr oedd yn rhy ddiweddar i edifarhau yn awr. Yr oedd y drwg wedi ei wneud, a'r cwestiwn bellach oedd sut i ddyfod allan o'r cyfyngder.

Chwiliodd yr ystafell, bob twll a chongl, ond methodd a chael un ffordd allan. Yr oedd yn sicr fod yno ffordd, canys gwyddai fod y sawl a ymosododd arno wedi dyfod i mewn drwy rywle heblaw drwy'r drws. Ond yn ei fyw ni allai D'Alton gael hyd i'r panel. Blinodd wneuthur hyn hefyd o'r diwedd, ac eisteddodd i lawr ar erchwyn y gwely i aros i'r nos ddyfod, ac i ddisgwyl i rywun ddyfod i mewn. Nid oedd yn disgwyl ond y gwaethaf bellach.

Tua'r adeg yma y cyrhaeddodd John Ambros a Huw i ardd y Plas.

"Aros di funud," meddai Ambros. "Yr ydw i yn ddigon hyddysg yn yr hen goeden yma. Mi âf i fyny i edrych beth wela i. Rho help llaw i mi gychwyn, ac yna cadw dy lygaid yn agored, rhag i neb ddwad yma heb ei ddisgwyl."

Aeth i fyny'r goeden yn hwylus iawn. Yna dringodd yn ofalus ar hyd y brigau cryfion, nes dyfod at y ffenestr. Gosododd ei hun yn y fan honno, fel y gallai edrych i mewn.

"Welwch chi rywbeth?" gofynnai Huw yn bryderus.

"Taw!" meddai Ambros. am dy fywyd."

Paid a gwneud sŵn,

Distawodd Huw, ond yr oedd yn mynd yn fwy pryderus o hyd. Cadwodd ei lygaid ar y ffenestr, a daeth pob hen stori i'w gof. Nid oedd yn hanner. cysurus, ac y mae'n sicr na buasai yn aros yno am funud onibai fod John Ambros gydag ef.

Yr oedd y ddau yn edrych ar y ffenestr felly pan oleuodd y lle yn sydyn.

Dychrynodd Huw; tybiodd am funud fod ysbryd Syr Tudur yn cerdded ei hen gynhefin, a rhoddasai lawer am gael rhedeg i ffwrdd; ond yr oedd cofio fod Ambros yn y goeden yn ei gadw rhag gwneuthur hynny. Yr oedd yn amlwg nad oedd Ambros wedi dychryn o gwbl. Safai ar y brigyn o hyd, â'i ddwylo ar sil y ffenestr, fel dyn wedi ymgolli mewn diddordeb yn yr hyn a welai yn yr ystafell. **** Dygwyd y goleuni i'r ystafell gan Gapten Gruffydd. Daeth i mewn yn sydyn, pan nad oedd D'Alton yn ei ddisgwyl, a chanhwyllbren yn un llaw a phistol mawr yn y llall. Ni ddywedodd yr un gair wrth y Ffrancwr ond trôdd a chaeodd y panel ar ei ol.

Safai D'Alton heb fod ymhell oddiwrth y ffenestr ac wynebai'r Capten yn ddigryn. Gwyddai ar olwg y dyn ei fod yn beryglus, ac aeth aml i gynllun sut i ddod yn drech nag ef trwy ei feddwl. Gwelai fod pethau yn edrych yn bur ddu, canys nid oedd ganddo ef arf o gwbl, ac yr oedd pistol Capten Gruffydd yn fygythiol. Gwyddai amcan hefyd fod yn rhaid eu bod mewn congl unig iawn o'r tŷ, ac y gallesid gwneuthur unrhyw beth iddo heb i neb wybod. Cofiodd na welodd neb ef yn dyfod i mewn y noson honno, ac yr oedd efe eto dan yr argraff mai Capten Gruffydd ei hun a ymosododd arno pan gododd o'i wely.

Yr oedd golwg dyn wedi penderfynu gwneuthur ei waethaf ar y Capten. Edrychai yn sarrug, ond yr oedd yn bur ddigyffro. Gosododd y canhwyllbren yn ofalus ar y bwrdd, a sylwodd D'Alton na allai ef gyrraedd at y goleuni heb basio'r Capten.

Hyd yn hyn ni thorrwyd gair rhyngddynt, ond o'r diwedd torrwyd y distawrwydd gan Gapten Gruffydd.

"Wel, fy nghyfaill," meddai, "y mae pethau wedi troi, ond gwyddech, os nad ydych yn ffŵl hollol, beth oedd eich perygl pan ddaethoch yma."

"Gwyddwn," ebe D'Alton yn dawel, "fy mod yn dyfod i dŷ dyn diegwyddor oedd yn ceisio dianc rhag ei addewid."

"Gwgodd y Capten. Yr oeddych yn dyfod yma," meddai, "i geisio'm gorfodi i wneud yr hyn y gwyddech nad oeddwn yn fodlon ei wneud."

"O! Tybiais mai chwi a gynygiodd werthu cyfrinion eich byddin i ni. Ni ofynasom i chwi, ond yr oedd arnoch gymaint o eisiau arian fel y cynygiasoch wneud hynny ohonoch eich hun. Yr ydych eisoes wedi derbyn rhan go dda o arian y pwrcas—gallesid rhoddi enw hyllach arno—ac ymddengys fod eich cydwybod wedi deffro ychydig ar ol hynny. Y mae'n amlwg nad yw wedi deffro digon i beri i chwi ddychwelyd yr arian a gawsoch."

"Y mae hynny yn gelwydd!" ebe'r Capten. 'Daethoch chwi a Carrier yma i geisio'm hudo. Yr ydych wedi methu, dyna'r oll."

"Lol!" meddai D'Alton. "Nid oes yma neb yn gwrando arnom, a gellwch roddi'r rhagrith yna o'r neilltu. Cofiwch fy mod yn gwybod am eich llythyrau. A chyda llaw, cynllwynwr go anfedrus sydd yn ysgrifennu llythyrau felly. Y maent yn bethau anghyfleus iawn i'r sawl a'u hysgrifenno weithiau, wyddoch."

Yr oedd yn amlwg fod hyn wedi cyffwrdd Capten Gruffydd i'r byw.

"Lle mae'r llythyrau?" gofynnai yn floesg.

"'Roeddwn yn meddwl mai dyna eich hamcan," meddai'r Ffrancwr. "Lladdasoch Carrier gan feddwl eu bod ganddo. Siomwyd chwi, a cheisiasoch daflu'r bai ar longwr ieuanc oedd eisoes dan erledigaeth gennych am eich bod yn chwennych ei gariad."

"Sut y gwyddoch chwi hynny?" ebe Capten Gruffydd.

"Na hidiwch ar hyn o bryd. Gwn gryn lawer o bethau, fy nghyfaill. Yn awr y mae'n debyg eich bod yn meddwl gwneud yr un peth â mi ag a wnaethoch â Carrier, ond dylech wybod erbyn hyn fod y llythyrau yn eithaf diogel."

"Gwn nad ydynt gennych chwi," meddai Capten Gruffydd, "ond gwn hefyd eich bod yn gwybod pa le y maent. Ac yr wyf am i chwi ddweyd wrthyf."

"O, felly."

"Ie, felly! Os na ddywedwch, fe ddigwydd yr un peth i chwi ag a ddigwyddodd i'r ffŵl arall. Y mae yma le mwy cyfleus; nid oes neb yn gwybod eich bod yma. Ni ŵyr neb eich colli. Ni waeth gennyf gyfaddef na pheidio bellach mai myfi a laddodd Carrier, ac y mae'n dda gennyf fy mod wedi gwneud. Y mae'r creadur a gafodd y bai wedi mynd yn ddigon pell—wedi ffoi o'r wlad, fel y mae gwaetha'r modd, onide buaswn wedi ei grogi. Yn awr, os ydych am gael eich bywyd, dywedwch wrthyf i ble i anfon am y llythyrau."

Ystyriodd D'Alton am funud, ac yna gofynnodd,—Ac wedi i chwi eu cael—beth wedyn?

"Cewch fynd adref i Ffrainc, a gwynt teg ar eich hol."

"Pa sicrwydd sydd gennyf am hynny?"

"Ond yr wyf i yn dweyd wrthych.".

"Pah! Eich gair chwi!" ebe D'Alton yn ddiystyrllyd. Beth yw gwerth hwnnw, fradwr llofrudd?"

Am foment aeth y ffyrnigrwydd oedd yn llosgi ynddo er y dechreu yn drech na'r Ffrancwr, a mynegodd ei deimlad. Ond nid oedd y geiriau cignoeth a ddefnyddiodd yn peri i'r Capten golli golwg ar ei nôd. Cochodd ei wyneb, y mae'n wir, ond yr oedd ganddo ar y pryd lywodraeth lled lwyr arno ei hun.

"Cymerwch ofal," meddai. "Peidiwch rhoddi gormod o brawf ar fy amynedd. "Gwaith hawdd fuasai eich saethu yma."

"Nid oes berygl yn y byd i chwi fy saethu," meddai D'Alton, " hyd nes—ond gwyddoch beth yw fy mwriad ynglŷn â'r llythyrau yma. Efallai eu bod eisioes ar eu ffordd i ddwylo eich cadfridog."

Edrychodd Capten Gruffydd yn sydyn ar y Ffrancwr ac am funud neidiodd braw—y braw oedd o hyd yn llechu tu ol i'w ymddygiad eofn—i'w lygaid. Yna dywedodd," Ha, nid yw hwnna ond cais i'm dychryn. Ni enillasech chwi ddim felly. Rhaid i mi gael gwybod lle y mae'r llythyrau i'w cael, a rhaid i mi gael llythyr dan eich llaw yn gorchymyn eu trosglwyddo i mi."

"Ac os na chewch hynny?"

Gofynnodd y Ffrancwr y cwestiwn yn ddigon didaro. Cododd Capten Gruffydd ei bistol ac edrychodd yn awgrymiadol ar y Ffrancwr.

Ac felly yr oedd y ddau yn edrych ar ei gilydd pan lithrodd troed y gwyliwr anweledig oedd y tu allan i'r ffenestr. Collodd ei afael ar sil y ffenestr hefyd, a disgynnodd yn swp trwm i'r llawr wrth draed Huw.

PENNOD XII.
JOHN AMBROS A CHAPTEN GRUFFYDD.

CLYWODD y ddau ddyn yn yr ystafell y sŵn oddiallan, ac anghofiodd y ddau eu sefyllfa yn eu syndod a'u dychryn.

Rhuthrodd Capten Gruffydd at y ffenestr, ond yr oedd mor dywyll fel na allai weld dim. Edrychodd drwy'r gwydr, ond nid oedd yno ddim ond brigau yr hen dderwen fawr.

Yna cododd ei law at dop y ffenestr, a chyffyrddodd â rhyw gliced gudd yn y fan honno, ac agorodd y ffenestr. Yr oedd D'Alton, er ei graffed, wedi methu a chanfod y tric yma, ac iddo ef, gan hynny, edrychai y ffenestr a'i barrau haearn fel peth na fwriadwyd i'w hagor erioed. Gwenodd wrth weld Capten Gruffydd yn ei hagor mor rwydd.

Pwysodd y Capten allan drwy'r ffenestr agored, Am y funud, anghofiodd bopeth am y Ffrancwr, a deallodd D'Alton hynny. Gwelodd fod y Capten wedi gadael ei bistol ar y bwrdd, ac ni bu eiliad cyn i D'Alton feddiannu hwnnw. Teimlai yn awr y gallai fforddio aros hyd nes y troai Capten Gruffydd yn ol oddiwrth y ffenestr.

Ni bu hynny'n hir. Daeth y Capten yn ol i'r ystafell, gan ddywedyd,—"Nid oedd yna neb. Rhaid mai rhyw aderyn a darawodd yn erbyn y ffenestr."

"Aderyn trwm iawn, i wneud y fath sŵn ym mrigau'r goeden," meddai D'Alton, a rhoddodd ddau gam, nes gosod ei hun rhwng Capten Gruffydd a'r ffenestr agored. Gwelodd y Capten,—neu tybiodd ei fod yn gweld ei fwriad, a thrôdd i gymryd ei bistol oddiar y bwrdd. Gwelwodd ei wyneb pan welodd nad oedd y pistol yno.

Na," meddai D'Alton, gyda gwên; "buoch dipyn yn esgeulus, fy nghyfaill. Funud yn ol, gennych chwi yr oedd y llaw uchaf; yn awr, y mae gennyf i. Bu'n rhaid i mi wrando arnoch chwi. Eithaf peth, bellach, fydd i chwithau wrando tipyn arnaf finnau." Dangosodd ei bistol a chyfeiriodd ef at y milwr. Tynnodd Capten Gruffydd yn ol, ac aeth ei wyneb yn wynnach nag erioed, canys ni hoffai berygl.

"Na," meddai D'Alton, fel pe'n darllen ei feddwl, "nid wyf am eich saethu ar hyn o bryd, er mai dyna yw eich haeddiant. Rhaid i mi gael amser i ystyried. Eisteddwch i lawr ar y gadair yna."

Eisteddodd Capten Gruffydd. Nid oedd dim arall iddo ei wneuthur.

"Yn awr," meddai D'Alton, fel dyn yn siarad wrtho ei hun, "y mae'n anodd gwybod beth i'w wneud â'r dyn hwn. Y mae wedi lladd fy nghyfaill Carrier, ac felly y mae'n haeddu marw ar fy llaw i. Y mae wedi bradychu, neu wedi cynnyg bradychu, ei wlad, ac y mae'n haeddu marwolaeth ar law swyddogion ei wlad ei hun. Ar y llaw arall, y mae arnaf eisiau ei gyfrinach-helo! beth yw y mater yn awr?"

Yr oedd rhyw gyfnewidiad rhyfedd wedi dyfod tros wyneb Capten Gruffydd. Yr oedd yn amlwg nad oedd yn clywed dim a ddywedai D'Alton wrtho. Rhythai, nid ar y Ffrancwr, ond ar rywbeth y tu ol iddo, yng nghyfeiriad y ffenestr agored.

Yna clywodd D'Alton sŵn hefyd, a thrôdd yn sydyn. Dywedodd air mawr yn ei iaith ei hun pan welodd John Ambros yn dyfod i mewn i'r ystafell, a Huw gydag ef.

"O'r goreu," meddai John Ambros, yn dawel, yn y Ffrangeg; peidiwch a chynhyrfu dim, Monsieur D'Alton. Yr ydym ni ar ol y dyn arall yna. Gellwch chwi fynd, ac y mae'r scwner yn yr hafan yn aros amdanoch."

"Ond sut y daethoch chwi yma?" meddai'r Ffrancwr, mewn syndod.

"Y mae hynny'n stori rhy hir i'w hadrodd yn awr. Y mae yma waith i'w wneud. Gellwch aros hyd y diwedd, os mynnwch. Huw," gan droi at Huw Anwyl, a siarad yn Gymraeg, "dal dy bistol, a chadw'dy olwg ar y Capten."

Ond nid oedd fawr angen cadw golwg ar y Capten. Yr oedd ef fel pe wedi troi'n garreg. Eisteddai yn ddiymadferth. Rhythai o hyd ar John Ambros, fel dyn wedi gweld drychiolaeth. Yna trôdd Ambros ato, ac yr oedd goleu ffyrnig a dieithr yn ei lygaid.

"Yr oedd rhyw gyfnewidiad rhyfedd wedi dyfod tros wyneb Capten Gruffydd."

"Capten Gruffydd," meddai, "yr ydych yn fy adnabod i?"

Ceisiodd y Capten siarad, ond yr oedd y geiriau yn marw ar ei fin. O'r diwedd, ar ol ymdrech fawr, syrthiodd yn ol yn ei gadair, a dywedodd, mewn llais bloesg, crâs,—"Phylip!"

"Ie," meddai'r llall; "Phylip Morgan. Yr wyf finnau, fel chwithau, yn bur hyddysg yn y rhan yma o'r tŷ. Ond gan eich bod yn cofio cymaint, a ydych yn cofio Myfanwy Morgan hefyd?

"Eich merch?"

Yr oedd geiriau Capten Gruffydd ychydig yn gliriach yn awr, ac ymddangosai fel pe'n adfeddiannu ei hun.

"Fy merch!" Yr oedd ing a chwerwder yn llais Ambros (neu Phylip Morgan fel y galwai Capten Gruffydd ef). "Ie, fy ngeneth wen, ddiniwed, a hudaist, ac a ddifethaist, ac a leddaist. Ni wn sut na buaswn wedi dy ladd ers llawer dydd. Ond daw dial i'r hwn a'i herys. Y mae dy ddydd dithau wedi dyfod."

"Yr wyt yn drysu," meddai Capten Gruffydd yn frysiog. "Ni wnes i ddim iddi hi. Hi, nid y fi—.

"Taw, ddyn!" meddai Ambros yn ffyrnig. Llofrudd, twyllwr, bradwr,—beth sydd ddrwg nad wyt ti! "

Edrychodd Huw mewn ofn a syndod ar y gynddaredd oedd fel pe'n ysgwyd enaid John Ambros—John Ambros oedd bob amser mor dawel ac fel pe'n tosturio wrth bobl eraill pan ddangosent deimlad. Ond yn awr yr oedd ef wedi ei gynhyrfu hyd yr eithaf. Edrychai fel pe'r hoffai ladd y dyn a eisteddai o'i flaen. Yr oedd fflam ei ddigofaint yn deifio Capten Gruffydd, ac ni atebodd yr un gair iddo. Yr oedd D'Alton hefyd, er na ddeallai yr un gair, yn gweld fod rhywbeth rhyfedd rhwng Ambros a'r Capten.

"Yn awr," meddai Ambros, ei lais yn tawelu ychydig, "fe ddaeth dydd y cyfrif. Lleddaist Carrier, a cheisiaist osod y bai ar ysgwyddau yr hogyn yma. Ceisiaist wneud yr un peth â'i gariad ac a wnest â— rhywun arall. Y mae'n debyg y buaset wedi llwyddo i erlid Huw Anwyl o'r wlad am byth onibai i mi ddigwydd taro arno. Yn awr, y chdi sydd i fynd."

"Sut hynny?" Sibrydai Capten Gruffydd y geiriau.

Am fod rhaid yn dy anfon. Rhaid iti ysgrifennu papur yn cyfaddef mai tydi a laddodd Carrier, a bod Huw Anwyl yn hollol lân oddiwrth y cwbl. Nid wyf am iti ddifetha dau fywyd eto."

"Beth os na wnaf?"

"Yna," meddai John Ambros, yn araf, 'fe'th grogir am fater arall." Rhoddodd ei law yn ei boced a thynnodd ddau neu dri o bapurau allan. Edrychodd pawb arno yn bryderus.

Agorodd Ambros un o'r papurau, a dangosodd lythyr wedi ei ysgrifennu ar ddalen fawr o bapur. Daliodd hi o flaen Capten Gruffydd.

"A adwaeni di hwnna?" meddai. Nid oedd raid wrth ateb. Syrthiodd Capten Gruffydd yn ol yn ei gadair, ac edrychodd gyda llygaid dyn wyneb yn wyneb ag angau, neu â chywilydd sydd yn deifio dyn gorff ac enaid, weithiau ar Ambros, weithiau ar y ddalen yn ei law.

Edrychodd D'Alton hefyd, a neidiodd ar ei draed. "Y llythyrau a ysgrifennodd Capten Gruffydd atom ni!" meddai.

"Yn hollol," meddai Ambros. "Credaf y bydd iddo wneud yr hyn a geisiaf ganddo bellach."

Bu ennyd o ddistawrwydd ar ol i Ambros siarad. Yr oedd pethau wedi digwydd yn llawer rhy gyflym i'r dynion eraill fedru dywedyd dim, ond o'r diwedd torrodd Ambros ei hun ar y distawrwydd.

"Yn awr, Capten Gruffydd," meddai'r llongwr, a ydych yn barod i ysgrifennu eich cyfaddefiad?

"Beth ydych am ei wneud i mi?" meddai'r adyn yn floesg.

"Cawn weld," ebe Ambros. "Nid eich lle chwi ydyw holi hynny. Y mae yma inc a phapur. Yn awr, ysgrifennwch."

Yr oedd meistrolaeth ac ynni anorchfygol yn llais y llongwr yn awr, a phlygai y milwr o'i flaen fel brwynen o flaen y gwynt. Eisteddodd wrth y bwrdd a gafaelodd yn y pin. Yna edrychodd ar Ambros a gofynnodd, "Pa beth a ysgrifennaf?"

"Ysgrifennwch—'Myfi a laddodd M. Leon Carrier, Ffrancwr. Er mwyn cadw'm pen ceisiais osod y bai ar Huw Anwyl. Ysgrifennaf hyn er mwyn ei brofi ef yn ddieuog.' Yn awr, rhoddwch eich enw yn llawn wrth hwnna."

Ysgrifennodd Capten Gruffydd y geiriau yn araf ac â llaw grynedig. Petrusodd cyn rhoddi ei enw wrth yr hyn a ysgrifennodd, ond o'r diwedd torrodd ei enw, a chymerodd Ambros y papur oddiarno.

"Ie," meddai, wedi ei ddarllen. "Y mae hwn yn ddigon, heb ddim arall."

"Dewch a'r llythyr i mi yn awr," ebe Captain Gruffydd. "Cawsoch eich pris melltigedig amdano, ac nid oes arnoch ei eisiau mwy."

Chwarddodd John Ambros, chwerthiniad cas, coeglyd, a chreulon, oedd yn newydd i Huw. "Tybed," meddai, "eich bod yn meddwl mai dyna bris eich cyfaddefiad? Tybed eich bod yn meddwl fy mod yn ddigon ynfyd i ymddiried dim ynoch mwy? Na, cadwaf y ddau, ac os teimlwch ar eich calon rywbryd wadu'r papur yma, bydd cofio fod y llythyr hefyd yn fy llaw i yn gymorth i chwi ar ffordd geirwiredd."

Am funud edrychodd Capten Gruffydd fel dyn cynddeiriog ar Ambros. Yna, gyda rheg, neidiodd arno a cheisiodd ei dagu. Rhuthrodd Huw a D'Alton ymlaen i wahanu'r ddau, ond nid oedd angen eu cymorth Yr oedd Ambros yn llawer cryfach dyn na'r Capten, er ei fod yn fyrrach, a thaflodd ef ymaith ar ol ymdrechfa fer iawn. Taflodd ef oddiwrtho gyda'r fath rym nes disgyn o'r milwr yn swp yn ymyl y ffenestr. Torrodd allan i feichio crio fel plentyn wedi cael curfa, ac yr oedd yr olwg ar ddyn fel efe yn y safle honno yn un ofnadwy—ei hunan-barch a'i hunan-feddiant wedi mynd, a rhwng ei ocheneidiau dywedai rywbeth mewn geiriau drylliog am Ei enw a'i bopeth wedi eu cymryd oddiarno." Nid oedd fel pe'n cofio fod yno neb ond efe ei hun. Edrychodd y tri ar yr olygfa drist ac arswydus am funud, ac yna trôdd John Ambros ei gefn arno, gan ddywedyd, "Gadewch iddo, fe ddaw ato ei hun yn union."

"Beth am y llythyr yna? Ple cawsoch chwi ef, Ambros?" meddai D'Alton. "Y mae'r cwbl yn ddirgelwch mawr i mi."

"Ydyw, y mae'n debyg," ebe Ambros. "Ac nid oes gennyf amser i esbonio'r peth i chwi yn awr, Fe dyr y wawr yn union, ac y mae gennym waith i'w wneud eto."

"Ond beth a wnaf fi?" meddai D'Alton, dipyn yn ddigllon. "Nid yw fy rhyddid, na'm bywyd efallai, yn werth dim os gwelir fi yma ar ol hyn. A sut yr wyf i orffen fy neges efo'r creadur yna? mae eisoes wedi cael mwy na hanner yr arian."

"Nid yw eich neges yn ddim i mi," meddai Ambros yn.ddidaro ddigon, "ond os ydych am ddychwelyd i Ffrainc bydd y scwner at eich gwasanaeth yn y prynhawn. Yr wyf fi yn mynd yno. A chyda llaw, beth pe deuech a'r Capten gyda chwi? Nid wyf yn hoffi ei gwmni—helo! dyna fo wedi mynd!"

Yr oedd hynny yn wir. Tra bu'r tri yn siarad, gan droi eu cefnau ar y ffenestr, gwelodd y Capten ei gyfle. Gyda chyfrwystra gwallgofddyn—nid oedd yn awr fawr gwell na hynny—ymgododd yn araf nes medru cael ei draed dros y ffenestr, ac yna gollyngodd ei hun i lawr. Disgynnodd yn ysgafn, a'i sŵn yn disgyn a dynnodd sylw Ambros.

"Ar ei ol!" meddai'r llongwr yn gynhyrfus, "Does wybod beth a wna os gadawn iddo ddianc. Y mae'n rhaid i ni ei ddal."

Ambros ei hun oedd y cyntaf i fynd trwy'r ffenestr Ar ei ol aeth Huw, ac ar ei ol yntau D'Alton, canys gwyddai'r Ffrancwr nad oedd ddiogelwch iddo ef yn awr ond trwy gadw gyda John Ambros. Wedi eu cael eu hunain ymhlith y coed gwrandawsant am ennyd, ac yna clywsant sŵn oedd yn profi nad oedd y ffoadur eto ymhell iawn.

Yna dechreuodd ymlid hir ac ystyfnig yn y tywyllwch. Arweiniai Ambros, a gwelai Huw ei fod yn gwybod am bob llwybr ac am bob tro. Er hynny yr oedd yn rhaid iddynt sefyll weithiau, gan eu bod yn colli'r trywydd, ond yn awr ac yn y man deuai sŵn a ddangosai iddynt wedyn pa ffordd i redeg. O'r diwedd daethant allan o'r coed ac i'r morfa agored. Yr oedd y wawr yn agoshau a'r tywyllwch yn troi'n llwydni gwelw, ac yn y lled-oleu hwnnw gwelsant y ffoadur yn rhedeg ar draws y morfa, gryn bellter o'u blaenau.

"Beth sydd i'w wneud yn awr?" meddai D'Alton. A fyddwn ni rywfaint gwell ar ei ddal? O'm rhan i gadawer iddo fynd. Goreu po gyntaf gennyf fy nghael fy hun yn ddiogel o'r lle hwn."

"Awn ar ei ol," ebe Ambros. "Yr wyf am weld y diwedd."

"Y diwedd?" gofynnai Huw, gan ddal i redeg.

"Cawn weld," oedd ateb Ambros. "Y mae'n mynd tua'r geulan."

Ac felly yr oedd. Rhedai Capten Gruffydd i gyfeiriad glan y môr. Nid oedd yn meddwl am ddim ond am roddi cymaint pellter ag oedd modd rhyngddo a'r dyn y gwnaeth y fath gam ag ef. Yr oedd ei feddwl yn dryblith ar ol digwyddiadau ofnadwy y noson honno. Wedi bywyd o ddichell, oferedd, a brad, gwelai ei holl gynlluniau yn dymchwel am ei ben. Gwelai fod y pethau y tybiodd ef iddo eu celu cystal yn dyfod i'r amlwg. Ac yn ddiweddaf oll, yr oedd wedi arwyddo yr hyn a olygai fod y cwbl wedi ei adael, a bod yn rhaid iddo yntau ffoi o'r wlad Bellach dianc, dianc, neu farw yn waradwyddus. dianc oedd yn llanw ei feddwl, ac yr oedd yr un gair hwnnw yn troi yn ei ymennydd fel olwyn o dân.

Rhedai yn gyflym. Gwyddai fod y lleill yn ei ddilyn. Ni wyddai i ba le yr oedd yn mynd, a phrin y teimlai y tir dan ei draed. Daeth i ymyl y graig serth a ddisgynnai yn y fan honno i'r traeth. Hyd yn oed ar ddistyll ni byddai y môr yn ei gadael yn llwyr, ac yn awr yr oedd yn ben-llanw.

A'r tri ymlidiwr yn edrych arno, cyrhaeddodd ymyl y geulan; safodd am foment fel delw-ac yna diflannodd o'u golwg dros y dibyn i'r môr islaw.

Prysurodd y tri, mewn distawrwydd, at ymyl y geulan, a gwelsant fod y llanw yn uchel. Nid oedd olwg ar Capten Gruffydd, ac nid oedd raid holi dim am ei dynged. Cadwodd y môr ei gyfrinach.

"Diangodd o'n gafael," ebe Ambros, "ond nid yw hynny nac yma nac acw bellach. Y mae popeth yn iawn gyda thi, Huw. Dos adref. Mi ofalaf i am drefnu popeth."

"Beth amdanaf fi?" meddai'r Ffrancwr.

"O, dywedais fod y llong at eich gwasanaeth, fy nghyfaill. Y mae un o'ch cydnabod ar ei bwrdd eisoes, a chewch fynd yn ol i Ffrainc gyda'ch gilydd. Y mae eich gwaith yma ar ben."

"Diolch am hynny," meddai D'Alton, gan godi ei ysgwyddau a lledu ei ddwylo. Yr oedd ef wedi cael hen ddigon ar y wlad ac ar yr hyn a ddigwyddodd ynddi mewn cyn lleied amser.

"A minnau?" gofynnai Huw. Rhyfedd fel yr aeth Huw a'r Ffrancwr i ddibynnu ar farn a chyngor John Ambros.

"Dos adref," meddai'r llongwr. "Rhoddaf fy ngair na chlywi di ddim am hyn eto. Mi ddaw'r gwir hanes allan. Paid a bod yn rhy fentrus. Nos da!"

Gafaelodd Huw yn ei law a diolchodd yn ddrylliog iddo.

"Lol!" meddai Ambros. "Wnes i ddim anghyffredin. Heblaw hynny, yr oedd gennyf bwyth i'w dalu i'r dyn yna —,"a chyfeiriodd at y môr islaw. "Yn awr, D'Alton; nos da, Huw."

Aeth D'Alton ac Ambros ymaith, gan gerdded yn gyflym ar hyd ymyl y clogwyn. Edrychodd Huw ar eu hol am ysbaid ac yna trôdd yntau tua chartref unwaith eto, yn ddyn rhydd ac yn ddyn dibryder.

A bu John Ambros cystal a'i air. Ni aflonyddwyd ar Huw byth ond hynny—a chyn pen hir, mewn rhyw ddull neu gilydd, daeth si am y gwir hanes i'r pentref. Yr oedd hynny ychydig cyn diwrnod priodas Huw a Sian.



ARGRAFFWYD GAN
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR), CYF.,
CAERDYDD.

Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.