Neidio i'r cynnwys

Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Pennod I Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion

gan Henry Hughes, Bryncir

Pennod III

PENNOD II.
BRYNENGAN: ARDAL AC EGLWYS FABWYSIEDIG ROBERT DAFYDD.

Nid plwyf ydyw.—Mynydd y Cenin.—Hynafiaethau yr ardal.—Cytiau'r Gwyddelod."—Mynachdy-gwyn a Mynachdy-du.—Hen arch hynod.—Cysylltiad y Puritaniaid a'r Anghydffurwyr â'r ardal. -"Anerchiad trigolion sir Gaernarfon at Richard Cromwell."—Pwy lawnododd yr anerchiad?—John Jones, y gŵr a roddodd brydles y capel.—Yr anhawsder i'w chael.—Enwau yr ymddiriedolwyr cyntaf

FEL y cyfeiriwyd yn y bennod o'r blaen, blinderau teuluaidd o achos ei grefydd a barodd i Robert Dafydd ymadael â'i ardal enedigol. A hyny, yn nghyda'r breintiau crefyddol oedd i'w cael yn ardal Brynengan, a barodd iddo ymsefydlu yn y lle diweddaf. Ac nis gallasai gael ardal fwy cydnaws a'i ysbryd yn yr holl wlad. A chredwn nad annyddorol fydd gan y darllenydd gael rhyw gymaint o hanes yr ardal a'r eglwys ddyddorol hon.

Nid enw ar blwyf na phentref ydyw Brynengan. Nid oes dŷ o fewn nemawr lai na haner milldir i'r capel, oddigerth amaethdy Brynengan. Ac oddiwrth yr amaethdy y cafodd y capel ei enw; ac oddiwrth y capel y cafodd yr ardal ei henw. Saif y capel yn mhlwyf Llangybi; ond y mae y gwrandawyr yn dyfod iddo o chwech o blwyfi, sef o Langybi, Llanarmon, Llanystumdwy, Llanfihangel-yPennant, Clynnog, a Llanaelhaiarn. Saif wrth odre mynydd y Cenin, yr hwn sydd ar y tu gogleddol iddo. Nid yw yn hawdd gwybod paham y galwyd y mynydd wrth yr enw hwnw. Efallai iddo gael ei alw felly am mai dyma lysieuyn nodweddiadol y Cymry; neu am fod y llysieuyn hwnw

CAPEL BRYNENGAN
(O ddarlun gan Edward Williams, Swyddfa'r "Genedl.")

yn tyfu arno mewn cyflawnder ar ryw adeg. Neu, efallai, iddo gael ei alw felly oddiwrth rhyw berson o'r enw Cynan. Neu, hwyrach, iddo gael ei enw oddiwrth y gair "cen," yr hwn sydd o'r un ystyr a'r gair "pen." Gwelir hyny yn y gair "talcen." A mynych y gelwir mynyddoedd wrth yr enw hwn; oblegid y tebygrwydd, mae yn debyg, sydd yn ffurf y naill a'r llall. Ac, efallai, fod yr olddod in yn Cenin yn fath o fychanigyn (diminutive) i ddangos mynydd bychan (gan mai mynydd bychan yw mynydd y Cenin); yn debyg i fel y mae y gair "cynyn" yn cael ei ddefnyddio am gi bychan. Mae arwyddion arno ei fod yn cael ei breswylio er amseroedd boreuol iawn; oblegid y mae ol trin ac amaethu arno i'w ben uchaf. Ar un ochr iddo y mae olion "Cytiau'r Gwyddelod," y rhai sydd o darddiad boreuol iawn. Myn rhai fod y "Cytiau hyn o darddiad mor foreu ag amser y Rhufeiniaid. Byddai y Rhufeiniaid yn trin y tir, meddir, ac yn cario y cynyrch mewn llongau i'w gwlad eu hunain. A defnyddid y "Cytiau" hyn, meddir, yn fath o ystordai i gadwyr yd. A thybir fod ffordd Rufeinig yn myned dros un cwr iddo.[1]

Mae amaethdai yn yr ardal yn dwyn yr enwau, Mynachdy-gwyn a Mynachdy-bach, neu fel y gelwid yr olaf gynt, Mynachdy-du. Saif y cyntaf yn mhlwyf Clynnog; a diameu fod y lle unwaith wedi bod yn gartref lliaws o fynachod, o urdd y mynachod gwynion. A digon tebyg fod y sefydliad yn dal cysylltiad â hen eglwys fawreddog Clynnog. Gerllaw iddo y mae maes a elwir Manerch-Maneirch. Arwydda hyn fod mynwent wedi bod gerllaw y lle ar ryw adeg. Yr oedd ty hefyd ar y tir hyd yn bur ddiweddar, a elwid Maes-mriog neu friog, yr hwn air sydd o darddiad eglwysig neu fynachaidd. Saif Mynachdy-bach yn mhlwyf Llangybi; a bu yma hefyd fynachlog ar ryw adeg, mae yn bur bosibl, ac yn dal cysylltiad âg eglwys Llangybi, ac o urdd y mynachod duon. Mae maes gerllaw y ty hwn hefyd a elwir hyd heddyw yn "Cae y fynwent." Yr oedd y sefydliadau hyn yn aros hyd adeg y Diwygiad Protestanaidd, mae yn bur debyg, yr hwn a sefydlwyd yn Lloegr yn y flwyddyn 1537. Dinystriwyd yr holl fynachlogydd y pryd hwnw, trwy orchymyn y brenin Harri yr Wythfed, a digon tebyg fod y mynachdai hyn yn aros hyd yr adeg hon, ac iddynt gael eu dinystrio yn adeg y dinystr cyffredinol.

Yn y flwyddyn 1893, doed o hyd i rywbeth tebyg i arch ar dir Ynyscreua, yn yr ardal hon. Caed ef wrth agor ffos ddofn mewn mawnog, ac yr oedd yn ddwfniawn yn y ddaear. Ni allesid myned ato, gan mor wlyb oedd y lle, ond ar dywydd sych iawn, fel yr oedd y flwyddyn hono. Nid oedd caead arno, ac felly nis gellir gwybod yn sicr pa beth oedd ei gynwys ar y dechreu. Yr oedd llawer o goed llosgedig o'i gwmpas yn mhob cyfeiriad. Y mae o wneuthuriad cadarn iawn, o dair i bedair modfedd o drwch mewn rhai manau. Ei hyd ydyw oddeutu pedair troedfedd a haner, ei led oddeutu dwy droedfedd a haner, a'i ddyfnder oddeutu dwy droedfedd. Tybir mai math o arch ydyw, ac yn cynwys gweddillion corph dynol llosgedig.[2] Caed rhai tebyg iddo mewn manau ereill yn y wlad; a thybir ei fod mor hen a'r canrifoedd cyntaf. Clywsom oddiar awdurdod pur uchel ei fod o darddiad Rhufeinig, oblegid byddai y Rhufeiniaid yn cafnio gwaelod eu heirch, ac y mae gwaelod y gisten (box) hon felly. Bernir fod olion hen ffordd yn croesi y fawnog gerllaw y lle y caed ef.

Mae yn bur amlwg fod cydymdeimlad â'r Anghydffurfwyr yn yr ardaloedd hyn er yn foreu iawn, mor foreu ymron ag amser y Puritaniaid. Yroedd un o hynafiaid teulu Brynengan yn Uchel Sirydd sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1648. Ei enw oedd William Lloyd. Yr oedd y "Rhyfel Cartrefol" newydd fyned heibio, a phlaid Cromwell a'r Senedd wedi gorchfygu y brenin Siarl y Cyntaf. Ond yn y flwyddyn hon yr oedd amryw mewn gwahanol fanau wedi codi byddinoedd i wrthwynebu Cromwell drachefn. Yn mysg ereill yr oedd Syr John Owen, Clenenau, ac amryw o brif foneddigion sir Gaernarfon wedi gwneyd hyn. Yr oedd yr Uchel Sirydd gyda byddin yn aros yn nhref Caernarfon, pan warchaewyd ar y lle gan Syr John Owen a'i fyddin. Aeth William Lloyd a'i fyddin allan o'r dref i ymladd â byddin Syr John Owen yn y maes agored. Y canlyniad a fu i fyddin Syr John Owen orchfygu y fyddin arall. Archollwyd William Lloyd a daliwyd ef. Gosodwyd ef ar farch i ganlyn y fyddin am amser hir, yn archolledig ac yn ei waed; ac ar ol hyny ar elor-feirch. Y canlyniad a fu iddo farw yn fuan, pan hwyrach pe cawsai ymgeledd briodol y gallasai wella o'i archollion.

Pan fu farw Oliver Cromwell yn y flwyddyn 1658, anfonwyd "Anerchiad gan drigolion sir Gaernarfon" at Richard Cromwell. Fel hyn y mae yr anerchiad:

"Anerchiad gostyngedig Ustusiaid heddwch, boneddigion, gweinidogion, ac ereill, deiliaid ufudd a chywir eich uchelder, trigolion sir Gaernarfon, yn gosod allan nas gall goruchwyliaeth bresenol Rhagluniaeth ddwyfol, gyda golwg ar farwolaeth ei ddiweddar uchelder, ac yn trefnu eich uchelder breiniol fel ei olynydd yn llywodraethiad y cenedloedd hyn, lai na chynyrchu ynom wahanol ystyriaethau, o farn ar un llaw, yn gystal ag o drugaredd ar y llaw arall; ac am hyny, heblaw ein herfyniadau at Drefnau Ollddoeth y rhagluniaethau hyn ar iddynt beri cynydd cyfaddas ar ei ogoniant, a lles y genedl, yr ydym yn gwneyd yn hyf, trwy yr anerchiad yma o'r eiddom, i amlygu ein cydnabyddiaeth o'ch uchelder yn y llywodraeth hono, o dan ba un, fel yr oedd ei heisteddiad yn eich tad, o ddedwydd goffadwriaeth, yr oedd barn yn rhedeg fel dwfr, a chyfiawnder fel ffrwd nerthol; duwioldeb yn cael ei feithrin, a gelynion gwirionedd a heddwch yn cael eu hanghefnogi, a'r cenhedloedd hyn wedi eu gwneyd yn drigfanau uniondeb, ac yn fynydd o sancteiddrwydd. Achan ein bod yn cael fod Duw y nefoedd yn llaw yr hwn y mae calonau tywysogion) wedi gwisgo eich huchelder ag ysbryd, trwy ba un y mae wedi eich cyfaddasu i drin materion pwysig y cenhedloedd hyn, a rheoli y bobl fawr yma, yr ydym yn edrych arnom ein hunain fel o dan rwymau i erfyn ar yr Arglwydd, ar fod iddo lwyddo eich cynghorau, a'ch ymgymeriadau uchel gyda golwg ar grefydd ddiwygiedig oddicartref, a diwygiad gartref. Erfyniwn hefyd ar eich uchelder, gan ddilyn camrau eich tad, ar fod i chwi fyned ymlaen fel y dechreuodd efe, ac ateb disgwyliadau mawrion y genedl, trwy lethu heresi, coelgrefydd, halogrwydd, ac anghyfiawnder, a chefnogi y dwyfol ordeiniadau o ynadaeth a gweinidog. aeth; mewn bod yn dad i'r rhai a ofnant yr Arglwydd, ac mewn gwneyd eich person a'ch llywodraeth yn arswydus yn nghalonau eich holl bobl, trwy eich ymddangosiad fel amddiffynwr i'r dwyfol wirioneddau hyny a dueddant i ddyrchafu Crist, ac i gadw y cenhedloedd hyn mewn heddwch. Ac ar fod i'ch uchelder fyned ymlaen yn ddedwydd yn y pethau hyn y bydd i chwi gael gweddiau gwasanaethwyr ffyddlonaf eich uchelder."

Y mae yr anerchiad hwn wedi ei law-nodi gan Thomas Madryn, John Jones (gweinidog), Ellis Rowlands, Robert Jones, (gweinidog), David ap Robert; Evan Lloyd, Griffith Jones, Robert Owen, Hugh Gwynne, Richard Glynne, Owen Hughes, William Owen, Henry Glynne, Owen Robert, William Richard, David Evans, Thomas Owen, William Lloyd.

Bu yr ysgrifenydd yn cael pleser iddo ei hun wrth ddyfalu pwy allai y gwroniaid hyn fod. Thomas Madryn oedd un o hynafiaid y diweddar Syr Love Jones-Parry, ac a fu yn aelod Seneddol yn amser Oliver Cromwell. Credwn yn sicr am y tri nesaf mai hwy oedd y tri gŵr eglwysig a ddaeth adref i sir Gaernarfon o Brifysgol Rhydychain ychydig flynyddoedd cyn hyny. Dywedir am y tri wŷr hyn iddynt fod[3] "yn Rhydychain, a chael eu dwyn yno i wybodaeth y gwirionedd, ac ar ol dychwelyd adref, eu bod yn pregethu yr efengyl yn ei disgleirdeb." Credwn mai yr un oedd John Jones a'r John Williams a sefydlodd eglwys Ymneillduol yn Mhwllheli, a'i fod yn cymeryd ei gyfenw weithiau oddiwrth enw cyntaf ei dad, a phryd arall oddiwrth ei gyfenw. Bu raid i Ellis Rowlands ffoi yn fuan ar ol hyn isir Gaer, ac yno y bu farw tua'r flwyddyn 1683. Robert Jones oedd weinidog plwyf Llandwrog. A dywedir fod offeiriad y plwyf hwnw[4] "yn dyrchafu ei lais fel udgorn, a'u bod yn ei glywed dros chwarter milldir o ffordd." Credwn yn bur gryf mai y Robert Jones uchod oedd y gwr hwn. Credwn mai rhai o deulu Plas hen oedd Evan a William Lloyd. Mae yn bur debyg mai [5]Griffith Jones, Brynengan, oedd y Griffith Jones uchod. Yr oedd mabi G. Jones, o'r enw William Griffith, wedi priodi merch i W. Lloyd, yr Uchel Sirydd uchod. Yr oedd un o'r enw Owen Hughes yn byw yn Nhrefan, ger Llanystumdwy, yr adeg hon. A beth oedd yn fwy naturiol nag iddo ymuno â'i gymydogion i anfon yr "Anerchiad" uchod? "Hugh Gwynne" oedd o Benarth-fawr, ac un arall o hynafiaid y "gwron o Fadryn." Richard a Henry Glynne, ni a gredwn, oedd o deulu Lleuar ac Elernion. Daethant yn bleidiol i Cromwell trwy i un o brif gadfridogion ei fyddin, yr enwog Filwriad George Twistleton, briodi Mary, aeres William Glynne o Leuar. Tybiwn fod William Robert a Thomas Owen o deulu Cefnisa, a bod David Evans yn un o Evansiaid y Berthddu.[6] Cymered y darllenydd y dyfaliadau uchod am yr hyn ydynt o werth; ond cred yr ysgrifenydd fod seiliau cedyrn iddynt, a rhesymau cryfion drostynt.. Yr oedd Brynengan yn sefyll yn agos i ganol cartrefi y gwŷr enwog uchod. Ac nid damwain, ni agredwn, oedd i Frynengan, yn mhen oesoedd i ddyfod, ddyfod yn ganolbwynt dylanwadau Methodistaidd. Credwn fod marwor a thân y Puritaniaid a'r Anghydffurfwyr wedi ei gadw yn fyw ar allorau eglwysi Pwllheli a Chapel Helyg, ac i Howell Harris ddyfod heibio fel corwynt a'i chwythu yn wenfflam. Agwreichion o'r marwor hwnw a ddisgynodd yn ardal Brynengan.

Fel y cyfeirir yn mlaen, adeiladwyd y capel ar dir amaethdy Brynengan. Ac y mae y teulu sydd yn byw yno yn awr yn berthynasau i'r gwr a roddodd y tir ar y cyntaf ar brydles. Ar ddechreuad Methodistiaeth yr oedd yn anmhosibl cael tir i adeiladu capelau ar dir prif foneddigion y wlad. Ac felly y mae holl gapelau cyntaf y Methodistiaid wedi eu hadeiladu ar dir tir-feddianwyr bychain. Ac yr oedd yn rhaid adeiladu y capel yn rhywle lle y ceid tir, er iddo fod mewn lle anghyfleus iawn, ac felly Brynengan, nid oedd neb yn yr holl wlad yn barod i roddi tir ond y teulu caredig oedd yn berchen ar amaethdy Brynengan. Nid oedd y teulu oedd yn berchenogion ar y lle yn byw yno ar y pryd y rhoed y brydles gyntaf. Yr oeddynt newydd symud oddiyno i Lleyn. Rhoed y brydles yn y flwyddyn 1772, ac enw y gwr a'i rhoddodd oedd John Jones. Nid oedd efe ei hun yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid, ond yr oedd yn teimlo yn garedig iawn atynt. Cafodd gryn wrthwynebiad oddiwrth ei briod i roddi y brydles, oblegid yr oedd yn perthyn i deulu lled erledigaethus. Dywedir fod ei thad, Morgan Hughes, yn gryn erlidiwr. Bu yn rhaid i John Jones arfer tipyn o ddichell mewn trefn i roddi y brydles. Addawodd gyfarfod a rhai o gyfeillion Brynengan yn mhentref y Sarn ar ryw ddiwrnod penodol i'r amcan hwnw. Y diwrnod a ddaeth, ac yr oedd yntau yn hwylio i fyned i'r Sarn yn ol ei addewid, pan y gofynodd ei briod iddo i ba le yr oedd yn myned, "Yr wyf yn myned i'r Sarn i edrych beth yw prisiau y moch," meddai yntau. Ac felly y caed lle i adeiladu y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn Eifionydd. Nid dibwys, yn ddiau, fydd gan y darllenydd gael enwau ymddiriedolwyr cyntaf y capel. Dyma hwy:— Robert Jones, Rhoslan; John Pierce, Richard Hughes, Brynbogelydd, Brynengan; William Davies, Llanllyfni (y rhai oeddynt bregethwyr); William Ellis, Garn; John Richard, o blwyf Llanystumdwy; a Thomas Prichard, Tyddyn-uchaf. Y tystion oeddynt Robert Dafydd, a John Morris, Brynengan.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gelwir un man arni, neu yn agos ati, yn "Pant-ygwylliaid" enw, yn ddiau, o darddiad boreuol iawn. Yr oedd y "gwylliaid" hyn yn arswyd i'r wlad am dymor maith. Cafodd y Barwn Owen ei lofruddio gan "wylliaid cochion Mawddwy" yn y flwyddyn 1555, a bernir fod y gwylliaid hyny ymysg y rhai olaf yn y wlad. "Gwylliaid duon" y gelwid gwylliaid y Cenin.
  2. Caed un yn agos i Maes-y-pandy, yn sir Feirionydd, ac yn yr un math o le, sef mewn mawnog. Barnai rhai am hwnw ei fod wedi ei osod yn y fath le, am ei fod yn cadw yn well rhag pydru.
  3. "Methodistiaeth Cymru," Cyf. ii. tud. 122.
  4. "Drych yr Amseroedd," tud. 14.
  5. Mae yr ysgrifenydd wedi cael y ffeithiau hyn am deulu Brynengan o hen weithredoedd sydd yn meddiant y teulu; ac y mae Mr. Robert Hughes, sydd yn byw yn awr yn Brynengan, yn ddisgynydd yn y seithfed genhedlaeth o William Lloyd a Griffith Jones.
  6. Owen Robert oedd o deulu y Maenllwyd, ger Llangybi.