Neidio i'r cynnwys

Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod III

Oddi ar Wicidestun
Pennod II Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion

gan Henry Hughes, Bryncir

Pennod IV

PENNOD III.
BRYNENGAN: EI ARDAL A'I EGLWYS FABWYSIEDIG.
(Parhad.)

Brynengan yn Jerusalem Eifionydd a sir Gaernarfon.—Safle ddaearyddol y lle.—Lleoedd hynod yn yr ardal.—Darlun o'r capel.

YN Methodistiaeth Cymru yr ydym yn cael y cyfeiriad canlynol yn cael ei wneyd at Frynengan, gan awdwr y gwaith hwnw ei hun:—"Yr oedd Brynengan yn orsaf sefydlog gan y Methodistiaid pan oedd Penrhyndeudraeth yn ei fabandod, er fod y Penrhyn yn un o'r lleoedd hynaf yng Ngwynedd. Yr oedd yn eglwys fawr liosog—ystyrid hi yn Jerusalem Eifionydd; yr oedd ynddi amryw o bregethwyr buddiol a llafurus, a diaconiaid effro ac ysbrydol." "Y dystiolaeth hon sydd wir." Ac yn wir, credwn y gallasai awdwr Methodistiaeth Cymru ymhelaethu a dweyd mai Brynengan oedd Jerusalem sir Gaernarfon, a rhanau helaeth o sir Feirionydd. Yr oedd felly mewn mwy nag un ystyr. Yr oedd felly mewn hynafiaeth. Yr oedd yma eglwys beth bynag yn y flwyddyn 1755, pa faint bynag cyn hyny; oblegid yn y flwyddyn hono cawn fod Lowry Williams yn symud o Bandŷ Chwilog i Bandŷ y ddwyryd, yn sir Feirionydd, yr hon oedd yn aelod yn Mrynengan. Yr oedd felly hefyd mewn lliosogrwydd. Bu am lawer o flynyddoedd yr eglwys liosocaf yn sir Gaernarfon. Yn hanes y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Llanllyfni, Hydref 5ed, 1780, cawn fod casgliad Brynengan at ddiddyledu y capelau yn fwy na chasgliad yr un eglwys arall yn y sir. Ac yr oedd y casgliad hwnw yn ddangosiad o nifer pob eglwys; oblegid yr oedd i fod yn ddimai ar gyfer pob aelod yn yr eglwys. Yr oedd ei chasgliad hi yn £1 5s 5c., tra nad oedd yr un arall wedi cyrhaedd punt, ond yn unig, Tirbach, Rhoslan, lle nad oes yr un eglwys yn perthyn i'r Methodistiaid er's dros gan' mlynedd. Ac nid oedd ond tair o eglwysi yn Ngogledd Cymru yn fwy eu casgliadau na hi, ac felly yn lliosocach mewn nifer, sef y Bala, Bontuchel, a Llansannan. Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1799, nid oedd ond dwy o eglwysi yn holl sir Gaernarfon yn sefyll yn uwch na hi yn eu casgliadau at y Gymdeithas Genhadol, sef eglwysi Caernarfon a Phwllheli. Ac nid oedd casgliad Caernarfon yn fwy ond yn unig o haner coron, tra nad oedd Pwllheli yn fwy ond o swllt. Yr oedd Brynengan wedi casglu £10 15s. Priodol y gelwir hi yn Jerusalem hefyd oblegid y cyrchu fyddai yma o belldermawr i addoli, fel i Jerusalem gynt. Cynhaliwyd Cymdeithasfa sir Gaernarfon yma am y flwyddyn 1779. A gallesid meddwl oddiwrth yr hanes a roddir am dani gan Michael Roberts, ei bod yn fwy poblogaidd na chyffredin yn y blynyddoedd hyny. Fel hyn y rhoddir yr hanes ganddo ef: "Yn mis Medi, 1779, cynhelid Cymdeithasfa Gwynedd yn Bryneinion, ac yr oedd yno ar ddydd yr uchel—wyl gapelaid llawn, ac yn agos i lonaid y cyntedd o ddynolryw yr hyn ydoedd achos o sôn a syndod." Byddai yma gyrchu mawr hefyd cyn y "Neillduad," i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd; oblegid byddai y casgliad ar ddiwedd yr ordinhâd yn cyrhaedd weithiau dros ugain punt, pan fyddai rhywun o enwogrwydd mawr yn cyfranu, megis Jones, Llangan, neu Mr. Charles. A mynych, meddir, y byddai gini pen rhaw i'w gweled yn y casgliad. Bu yn unig eglwys Fethodistaidd yn holl Eifionydd am dymor. Ac nid yn unig hyny, ond yr oedd ei haelodau yn wasgaredig dros ranau helaeth o Arfon a sir Feirionydd. Cyrchent yma i'r cyfarfod eglwysig o ddeunaw ac ugain milldir o ffordd: o Landdeiniolen,[1] Llandwrog, a Chaernarfon, o un cyfeiriad; o Feddgelert a Nantmor o gyfeiriad arall; ac o Faentwrog a'r Penrhyndeudraeth o gyfeiriad arall. Wedi i Lowry Williams symud, fel y crybwyllwyd, i ardal Maentwrog, yr eglwys agosaf iddi er hyny oedd Brynengan; ac yma y deuai am ryw gymaint o amser, er fod ganddi tua deunaw milldir o ffordd.

Priodol iawn y gelwir yr eglwys hon yn Jerusalem hefyd, am mai oddiwrthi hi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig yn Eifionydd ac Arfon, ond hefyd yn mhob man yn Ngorllewin Meirionydd. "Y gyfraith a ä allan o Sïon, a gair yr Arglwydd o Jerusalem." O Frynengan yr aeth Evan Richardson i Gaernarfon, yr hwn a fu yn fywyd o feirw i'r achos Methodistaidd yn Arfon. "Llin yn mygu" oedd Methodistiaeth Arfon cyn hyny. Y fath oedd yr ysbryd cenhadol oedd yn yr eglwys, hon, fel pan ddaeth dau frawd o Gaernarfon yma i geisio gan Evan Richardson fyned yno i aros, ac y dangosai yntau anmharodrwydd i fyned, "oblegid," meddai, "os deuaf acw, y bobl a'm lladdant," pan y cododd hen chwaer o'r enw Sian i fyny yn yr eglwys, gan ddywedyd gyda brwdfrydedd mawr, " Y mae yn rhaid i ti fyned, Evan bach—ni wneir niwed i flewyn o dy ben; am hyny, dos gyda hwy." Dwy wraig, aelodau yn eglwys Brynengan, a gychwynodd Fethodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Mynediad Lowry Williams o Bandŷ Chwilog i Bandŷ y ddwyryd, yn y flwyddyn 1755, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, fu yn foddion i roddi cychwyniad i grefydd bur yn ardaloedd Maentwrog, Ffestiniog, Trawsfynydd, a'r Penrhyndeudraeth. A'r un modd mynediad Jane Griffith, Erwbach, Dolbenmaen, i Ddolgellau, i gadw ysgol yn y flwyddyn 1766, a roddodd gychwyniad effeithiol i Fethodistiaeth yn y wlad hono, ac a fu yn foddion i sefydlu amryw o eglwysi yn yr ardaloedd hyny. Mae darllen hanes llafur, sêl, hunanymwadiad, a brwdfrydedd y ddwy chwaer yma yn y lleoedd hyn, yn ddigon i doddi y teimlad mwyaf caled, yn enwedig pan yr ystyriom yr erledigaeth danllyd oedd arnynt. Ac y mae hyn yn dweyd rhywbeth yn ddiameu am yr eglwys y daethant ohoni. Nid rhyfedd fod cymaint o son am hen grefyddwyr Brynengan os oeddynt o'r un ysbryd â'r ddwy chwaer yma, fel y mae yn ddiau eu bod. A chredwn mai o ardal Dolgellau yr aeth Methodistiaeth i "Ddosbarth y ddwy afon," fel ei gelwir. Mae hyn yn dangos fod Methodistiaeth yn holl gylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yn ddyledus am ei gychwyniad i'r ddwy chwaer hyn, a chymeryd golwg ddynol ar bethau, a'r ddwy yn aelodau yn Mrynengan. Cofied Arfon liosog a Gorllewin Meirionydd flodeuog eu rhwymau i Frynengan fechan a syml. Credwn fod yr uchod yn ddigon o reswm dros alw sylw y darllenydd at hanes y lle hwn.

Cyn myned yn mhellach, hwyrach y dylem egluro pa le y mae Brynengan yn sefyll. Digon tebyg fod y rhan fwyaf o'n darllenwyr na wyddant yn y byd pa le y mae, er iddynt glywed rhywbeth am dano. Mynych hefyd y cymysgir Brynengan a Llanengan â'u gilydd gan yr anghyfarwydd, ac y rhoddir y naill am y llall. Clywsom un mewn lle cyhoeddus yn dweyd fwy nag unwaith mai o Lan engan y daeth Evan Richardson i Gaernarfon. Bydded hysbys fod Llanengan yn mhellach o tuag wyth milldir yn Lleyn na Phwllheli, tra y mae Brynengan yn sefyll yn agos i linell y rheilffordd sydd yn rhedeg o Afonwen i Gaernarfon, o fewn tua dwy filldir i Brynkir Station, ar y llaw aswy wrth fyned yn y cyfeiriad hwnw. Wrth edrych o'r lle diweddaf yn nghyfeiriad y gogledd-orllewin, gwelwn fynydd lled isel, tua dwy filldir oddiwrthym. Dyna fynydd y Cenin. Ymddengys fel yn rhedeg o'r gogledd i'r dehau; ac y mae capel Brynengan yn sefyll ar y pen deheuol iddo. Fel y mae ei enw yn arwyddocau, saif y capel ar dipyn o godiad tir, yn gwynebu i gyfeiriad Porthmadog, ac y mae y rhan fwyaf o gwmwd Eifionydd i'w weled o'i ddrysau. Gwael a chorsiog yw y tir o'i ddeutu mewn amryw gyfeiriadau, ac nid yw y ffyrdd ato i'w canmol. Byddai y diweddar Barch. John Owen, gynt o Dy'nllwyn, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn yr ardal, yn arfer dweyd fod yr hyn oedd yn fantais i Frynengan yn y dyddiau gynt, yn y blynyddoedd diweddaf wedi troi yn anfantais iddo. Cyfeiriai at y lle fel lle neillduedig, ac felly allan o gyrhaedd erlidwyr i raddau helaeth. Dyma y fan wedi'r cwbl a fu yn fath o Jerusalem i Fethodistiaid sir Gaernarfon am lawer blwyddyn, a'r lle y cyrchai y llwythau Methodistaidd i addoli.

Mae yma braidd bob ty, a chae, a chlawdd, a llanerch, yn yr ardal, wedi eu cysegru gan adgofion am ryw un hynod mewn talent a chrefydd. Hwyrach y caniateir i ni ar y cychwyn i gymeryd rhyw gipdrem frysiog ar y manau hyn cyn dyfod yn fwy manwl at hanes yr achos yn y lle. Mae y Ilwybrau neillduedig sydd yn dyfod at y capel wedi eu sangu ganoedd o weithiau gan hen grefyddwyr gwresog yn ymddiddan am bethau ysbrydol. Mynych y cyfeiriai y diweddar Barch. Moses Jones, yn ei afiaeth wrth bregethu, at hen grefyddwyr Rhoslan yn myned at eu haner yn y corsydd, wrth gyfeirio tua chapel Brynengan. Llawer gwaith y clywyd yr awyrgylch yn adsain gan "sain cân a moliant" rhai yn dyfod o'r capel; neurai yn cynal cyfarfodydd gweddiau yn y meusydd; neu rywun â'i lestr wedi rhedeg drosodd wrth ddal cymundeb â Duw mewn rhyw gongl mewn beudy, neu yn y maes. Gwnaeth y diweddar Barch. Richard Owen gyfeiriad effeithiol at hyn unwaith, wrth bregethu mewn Cyfarfod Misol yn y lle. "Dywedir," meddai, "am Robert Roberts, Clynnog, pan y cafodd o olwg ar ei gyflwr, ei fod o'n gyffrous iawn gyda'i waith yn y caeau, ac yn gwaeddi yn anghyffredin, ac yn myned rhyngddo a'r capel yma dan waeddi, â'i ddwylaw i fyny. Ac mae'r hanes yn dweyd fod llawer o'r bechgyn hyd yr ardaloedd yma wedi eu hachub wrth glywed Robert Roberts yn gwaeddi." Yn y ty capel y bu Betti Marc yn byw, yr hen wraig hynod a fyddai yn teithio ar hyd y wlad i gynal cyfarfodydd eglwysig; ac yma y bu farw yn y flwyddyn 1801, yn 63 oed. Mewn ystafell gysylltiedig a'r ty capel y treuliodd merch foneddig o'r enw Miss James ei blynyddoedd olaf—neu fel y gelwid hi, Jenny James—yr hon a gafodd droedigaeth hynod drwy Evan Richardson. Ar ol hyny bu William Jesus yn byw yma, hen flaenor enwog iawn yn ei ddydd, yr hwn oedd yn dad i Pedr Fardd, ac yn daid i Nicander. Yr oedd yntau yn fardd medrus meddir, er nad mor enwog a'i fab a'i wŷr; oblegid dywedai ei fab am dano :

"A phrydydd hoff ei rediad
Addfwyn o hon[2] oedd fy nhad."


Ar ol hyny bu yr hen bregethwr hynod, Robert Dafydd, yn byw yn y ty; ac yma y bu farw, yn ei gadair. Yma hefyd y treuliodd Sian Griffith ran fawr o'n hoes, yr hon oedd mor hynod am ei hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau, fel y dywedai John Jones, Tremadog, am dani, mai hi oedd ei Concordance ef; oblegid bu gydag ef yn gwasanaethu dros ryw dymor. Mewn cyfeiriad gogledd-ddwyrain o'r capel y mae Hendre Cenin, lle yr oedd cartref y Methodist cyntaf yn yr ardal, sef, John Morris; a'r lle hefyd y mae teulu sydd wedi bod yn achles ac yn garedig i Fethodistiaeth er's oesoedd, o ddyddiau yr hen Robert Morris hyd ddyddiau ei ŵyr, y diweddar Mr. Robert Roberts. Ychydig draw, ar odre Mynydd y Cenin, yr ochr nesaf i Frynkir, y mae Myrddin coch, yn llechu mewn cesail glyd, cartref hen flaenor da o'r enw Robert Jones. Am y lle hwn y gwnaeth Moses Jones sylw hynod with bregethu ar y gair, "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno," &c. Y peth cyntaf a ddywedodd ar ol cymeryd ei destyn yn Mwlchderwin unwaith oedd, "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno, ond yn Myrddin coch." Dro arall cyfeiriai ato wrth ddarlunio lle neillduol yn ngwlad Canaan. Byddai efe yn dra hoff o ddarlunio lleoedd yn y wlad hono. Gofynai ar ganol ei bregeth yn yr hwyl fawr un tro yn y Pennant, "Ddowch ch'i gyda mi am daith i wlad Canaan?" Ac meddai un o hen lanciau y Gilfach (William), "Down wir bob cam, Moses bach." Ac wrth ddarlunio rhyw le nodedig am ei dawelwch, dywedai "Y lle tebyca' welsoch ch'i 'rioed i Myrddin coch." Ychydig draw ar ochr y mynydd y mae Tai newyddion, lle yr oedd Moses Jones pan yr oedd yn dechreu byw, a'r lle yr oedd pan fu ar daith yn Môn, pan yr aeth y wlad i gyd yn un goelcerth gan dân y diwygiad, er nad oedd ar y pryd ond 29 oed, ac wedi dechreu pregethu er's rhyw bedair blynedd.[3] Yn uwch i fyny ar y mynydd y mae Cil—llidiart, cartref yr hen bre—gethwr diniwed a dirodres, Rhisiart William, ond yr hwn a fu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i gychwyn dau o leiaf o ddiwygiadau grymus, sef "diwygiad Beddgelert" (1817), a diwygiad arall yn Tymawr, Lleyn (1811), yr hwn oedd mor rymus a "diwygiad Beddgelert," ond fod ei gylch yn llai. Dechreu—odd y diwygiad gydag ef hefyd yn Llanllyfni yn 1831. Bu Eben Fardd yn gweithio ei waith fel gwehydd yn Cil—llidiart, pan yr oedd yn fachgen ieuanc. Gerllaw y lle diweddaf y mae Pantycelyn, lle a fu yn meddiant y diweddar fardd enwog Dewi Wyn (a'r hwn le sydd yn meddiant ei deulu hyd heddyw), yr hwn a roddodd yr enw ar y lle o barch i goffadwriaeth " Pêr ganiedydd Cymru." Yr ochr arall i'r mynydd, yn nghyfeiriad y gogledd o'r capel, y mae Tyddyn—ruffydd, lle yr oedd Robert Dafydd yn byw, pan y bu am ryw ysbaid bob dydd am ddwy flynedd yn ei ystafell, yn ymdrechu â Duw, am gael gweled diwygiad cyn marw, a chafodd fyw i'w weled.[4] Mewn ty arall gerllaw o'r un enw, yr oedd (Margaret) chwaer Robert Roberts, Clynnog, yn byw, yn briod âg un Humphrey Hughes. Merch i'r rhai hyn oedd gwraig Moses Jones, ac ŵyrion iddynt ydyw y Parchn. J. Michael Hughes, yn awr o'r America, a Benjamin Hughes, Llanelwy. Ychydig yn nes ar y chwith y mae Mynachdy-gwyn, lle y bu Ysgol Sul am dros ddeugain mlynedd. Cynhelid cyfarfod gweddi yn mhob ty yn yr ardal yma bob nos Sul dros yr un tymor, a dywedir y byddai ryw eneiniad rhyfedd ar y cyfarfodydd hyny bob amser. Ar dir Tyddynmawr, yn fwy ar y chwith eto, y mae hen faen mawr, a fu yn bwlpud, meddir, i Howell Harris. Ac y mae fel pe byddai wedi ei wneyd gan natur i'r gwron hwnw; oblegid y mae o faintioli anferth. Ychydig yn fwy i'r gorllewin y mae Mynachdybach yn sefyll, lle y treuliodd y bardd enwog Robert ap Gwilym Ddu ei ddyddiau olaf, a'r lle hefyd y bu farw. Efe, fel y mae yn hysbys, oedd awdwr yr englynion godidog ar yr Iawn; Crist ger bron Pilat, a Pilat ger bron Crist; ac efe oedd awdwr yr emyn melus hwnw yn mysg ereill :

"Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweyd yn iawn am dano.

"'Mhen oesoedd rif y tywod mân
Ni bydd y gân ond dechreu;
Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud
A ddaw o hyd i'r goleu."


Ychydig yn nes i'r capel yr oedd Brynbogelydd, cartref yr hen bregethwr boreuol hwnw—Richard Hughes. Ychydig a wyddys am dano; ond fel hyn y mae Williams, Pantycelyn, yn cyfeirio ato, yn ei farwnad i'r Parch. W. Davies, Castellnedd:

"Richard Hughes a welodd yno, [y nefoedd]
Deithiodd holl fynyddau maith
Arfon arw a Meirionydd,
Fflint a Dinbych lawer gwaith;
Ac amgylchoedd dir y Deheu
Gydag awel bur y nef
Fel dyn addfed i'r wlad nefol,
'Chydig cyn ei symud ef."[5]


Yma hefyd y ganwyd ac y magwyd y pregethwr effeithiol hwnw, y diweddar Barch. Griffith Williams, Bwlan. Yn fwy ar y chwith, ar dir Coedcaebach, yr oedd cartref Pedr Fardd, ac yno yr oedd, mae yn debyg, pan y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mrynengan, pan nad oedd ond rhyw 10 i 11 oed. Gerllaw, mewn lle o'r enw Ynyscreua-bach, yr oedd John Pierce yn byw, llenor medrus yn ei ddydd. Yn nes eto ar y chwith y mae Cefn-pen-coed, cartref hen flaenor da o'r enw Sion Dafydd. Bu Robert Roberts, Clynnog, yn gwasanaethu yn y lle hwn am tua phum' mlynedd. Ac yma yr oedd Moses Jones pan y daeth at grefydd. Daeth ei feistr, yr hen flaenor, heibio iddo un diwrnod, ac yntau yn gweithio gyda'i raw yn y cae, gan ofyn iddo a ddeuai gydag ef i'r Seiat, yr hon a gynhelid ar y pryd yn y dydd. Gwrthododd fyned yr adeg hono; ond wedi i'w feistr fyned i ymyl y capel, fe gymerodd ail feddwl, ac fe daflodd ei raw o'i ddwylaw yn ddigon pell, ac fe ddechreuodd redeg a neidio fel ebol yn nghyfeiriad y capel; ac felly yr aeth i'r Seiat.[6] Yn ymyl y lle hwn y mae Gors Uchaf, lle y cartrefai hen ysgolfeistr enwog yn ei ddydd, o'r enw Thomas Gough. Efe oedd un o ysgolfeistriaid yr ysgolion cylchynol Cymreig, o dan Griffith Jones, Llanddowror, a Lady Bevan. Ychydig yn nes ar y chwith y mae y Gaerwen, cartref y bardd enwog Dewi Wyn o Eifion, a'r lle y ganwyd ef, a'r lle y treuliodd braidd ei holl oes, a'r lle hefyd y bu farw. Ar dir y Gaerwen y ganwyd ac y magwyd bardd enwog arall, sef Nicander, mewn lle o'r enw Beudy'r Gaerwen. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau eglwysig yn Mrynengan, a digon tebyg ei fod yntau wedi bod am ysbaid. Dywedir ei fod wedi bod yn dyfod i'r Ysgol Sul i Frynengan, ar fraich ei fam; a'i fod yn gallu "darllen ei Destament" pan oddeutu tair oed. O flaen gwyneb y capel, o fewn rhyw haner milldir oddiwrtho, y mae Coedcaedu, y lle y ganwyd y gŵr galluog a duwiol hwnw, y Parch. Richard Jones y Wern. Yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, a'r rhan fwyaf o'i oes fel pregethwr, ac wrth yr enw hwnw y byddai yr hen bobl yn ei alw ar hyd ei oes, "Richard Jones, Coed-cae." Yma hefyd yr oedd Robert Roberts pan y dechreuodd bregethu. Ac yn yr Ynys-galed, lle ar y pryd ar dir Coedcaedu, yr oedd Robert Roberts yn byw. Yma yr oedd yn byw rai blynyddoedd cyn dechreu pregethu, ac yma y bu tua haner tymor ei weinidogaeth. Ac yn y lle hwn y cartrefai pan yr oedd yn athraw ar ysgolion cylchynol Mr. Charles. Gerllaw y capel y mae amaethdy Brynengan, oddiwrth yr hwn y cafodd y capel ei enw, ac ar dir yr hwn y mae wedi ei adeiladu. Perthynasau i'r rhai roddodd y tir i adeiladu capel yma ar y cyntaf, sydd yn byw yn y lle yn awr, y rhai sydd wedi dangos caredigrwydd i'r achos bob amser. Rhoddwyd y tir lle y saif y capel arno yn ddiweddar yn rhydd-feddiant am byth i'r Cyfundeb gan berchenog y lle, sef Mr. Evan Griffiths, Chwilog Fawr. Nid ystyrir y Gwindy a'r Llecheiddior, erbyn hyn, yn dal unrhyw gysylltiad â Brynengan; ond yma y deuai preswylwyr y lleoedd hyn, am yn agos i gan' mlynedd, gallem feddwl. Dyma gartrefi y ddau bregethwr hynod, John Owen a John Williams. Ganwyd a magwyd y ddau yn ymyl eu gilydd, a chladdwyd hwynt yn ymyl eu gilydd; ond anfynych y gallesid taro ar ddau mwy anhebyg. Maddeued y darllenydd i ni am y crwydriad hwn; ni feddyliasom ar y cychwyn y buasai y daith mor hir.

Cyn gorphen y bennod hon dymunem alw sylw y darllenydd at y darlun o'r capel a geir yn y llyfr. Wrth ochr y drws sydd. ar y chwith gwelir ysmotyn gwyn, yn yr hwn ar gareg galed y mae ffigyrau wedi eu tori, sydd yn dangos yr adeg yr adeiladwyd y capel cyntaf, ei ail-adeiladiad, a'i adgyweiriad ar ol hyny. Fel hyn y maent:—

1777.
1826.
1870.


Credwn yn sicr mai gwaith llaw Robert Jones, Rhoslan, ydyw y dyddiad cyntaf; oblegid efe a wnaeth waith coed y capel cyntaf. Ac yr oedd wrth ei swydd yn arfer tori ar gerig beddau, &c. Gynt yr oedd drws oddiallan, rhwng y ddwy ffenestr, i fyned i'r pwlpud, yn debyg i fel y mae capel Llangeitho wedi bod ar hyd yr oesoedd, a'r hwn sydd yn parhau felly hyd y dydd hwn. Ar adeg o eira mawr unwaith, chwythwyd eira i mewn i'r pwlpud drwy y drws, nes yr oedd wedi ei haner lenwi. Uwchben y ffenestr agosaf i'r ty capel y mae careg lâs, ac yn argraffedig arni:—

"Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn yspryd a gwirionedd." —Ioan iv. 24.

Cafodd un hen frawd o'r enw William Cadwaladr droedigaeth wrth ddarllen yr argraff. Pan fyddai pregethwr poblogaidd iawn yn pregethu byddai yn fynych lonaid y capel a'r cowrt o flaen y capel wedi ymgasglu yn nghyd. Agorid y ffenestr agosaf i'r ty capel; a safai y pregethwr yn y ffenestr, gan bregethu i'r rhai oedd oddifewn ac i'r rhai oedd oddiallan. Cafodd John Elias rai o'i odfeuon mwyaf hynod yn y ffenestr hon. Un ar y gair hwnw," Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech." Rhoddai bwyslais neillduol o'i eiddo ei hun ar y gair "wnaech." Ac un arall ar y gair hwnw,—"Y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni." Gwaeddai y gair "gorwedd" mewn llais annaearol, gan ddal yn hir ar y ddau sill—"go—o—o—or—we—e—e—edd." A chlywid ei lais treiddgar, meddir, tua dwy filldir o ffordd. Bu Mr. Charles o'r Bala, yn cynal Cymanfa Ysgolion yn y cowrt o flaen y capel, a Moses Jones gyda'i lais uchel a chlir yn adrodd pennod ar y dechreu. Bu llawer o orfoleddu a neidio ar y llanerch hon; a chredwn fod cannoedd wedi eu hachub o fewn ac o flaen y muriau hyn. Cynhelid cyfarfod gweddi yma am hir amser bob boreu Mercher, yn amser y rhyfel â Ffrainc,[7] i erfyn am amddiffyniad dwyfol dros ein brenin a'n gwlad, ac i ofyn am lwyddiant ar yr efengyl. Ar ol cyfarfod gweddi pur hynod neidiai un hen frawd yn ei glocsiau yn y court gan waeddi,—"Ddaw o ddim yma yn wir bobol" (sef Bonaparte). Yr oedd wedi anghofio ei hun gymaint fel y collodd ei glocsiau, ac yr aeth i gryn bellder hebddynt. Tucefn i'r capel y mae clwt glas caeedig, lle gynt y troid ceffylau y bobl a ddeuai yma i wrando. Adeilad diweddar yw y ty capel presenol. Mae tua haner y ty o'r golwg yn y darlun, ac nid yw y ty mewn gwirionedd yn cyffwrdd â'r capel. Yr oedd yr hen dŷ yn cyffwrdd â'r capel, ac wrth ei ochr yr oedd ystabl, a llofft uwch ei phen, yn yr hon yr oedd teulu yn byw. Yr oedd grisiau cerig oddiallan yn myned i'r llofft. A chredwn fod pen y grisiau yn bur agos i'r fan lle y mae pen uchaf y drws presenol. Clywsom hen wraig yn ddiweddar yn dweyd ei bod yn yr ysgol ddyddiol yn nghapel Brynengan yr un amser a'r diweddar fardd enwog, Nicander. "Byddai Morris bach (dyna fel y galwai ef) yn myned i ben grisiau llofft yr ystabl," meddai, "i bregethu, ac yn gwneyd i ninau, y plant ereill, addaw bod yn right ddistaw, a rhoddi 'Amen' iddo. Byddai wrthi am tua deng mynud, a ninau o dano yn gwrando yn astud, ac yn rhoi 'Amen,' yn y lle y byddai eisieu, ag un llais." Fel y cyfeirir mewn man arall yn y llyfr, trwy y drws agosaf i'r ty capel y byddai y rhai fyddai wedi eu diarddel yn gorfod myned allan.

Nodiadau

[golygu]
  1. Bu hen wraig y Lleiniau, Llandwrog, yn dyfod yma i'r seiat am hir amser. Erbyn dyfod adref byddai yr hen wr wedi cloi y drws rhagddi; a byddai raid iddi hithau aros allan drwy y nos. Digwyddodd hyn lawer gwaith, meddir.
  2. Eifionydd.
  3. Rhwymo llyfrau y byddai pan yn byw yn y lle, ac y mae y ffenestr lle yr arferai roddi y llyfrau allan i sychu yn aros eto.
  4. Mae yr hen dy yn aros hyd heddyw, ond erbyn hyn wedi ei droi yn feudy. Mae yr hen adeilad er hyny yn gysegredig yn ein golwg, a byddwn yn barod i ddiosg ein hesgidiau wrth nesau at y lle wrth feddwl am y gweddiau a esgynodd ohono i'r nefoedd, a chanlyniadau y gweddiau rhyfedd hyny.
  5. Y mae y Parch. Edward Griffith, Meifod, yn or-ŵyr iddo.
  6. Yn mhen llawer o flynyddoedd ar ol hyny dangosai Moses Jones y cae hwnw i'w fab, Mr. Michael Jones, wrth fyned i'w gyhoeddiad Sabbothol. Dangosai hefyd glawdd gerllaw, y bu yn ei "gau," yr hwn a "gauodd" mewn wythnos; a dysgodd yr epistol at yr Hebreaid i gyd yn y fargen. Byddai y Beibl yn agored ar ben y clawdd ar hyd yr amser. "Ac os oes rhyw glawdd yn gadarn y mae y clawdd hwnw," meddai ei fab doniol.
  7. "Amddiffyniad i'r Methodistiaid," tud. 10.