Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod IV
| ← Pennod III | Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion gan Henry Hughes, Bryncir |
Pennod V → |
PENNOD IV.
BRYNENGAN: EI ARDAL A'I EGLWYS FABWYSIEDIG.
(Parhad.)
Yr enwogion a gododd yn yr ardal.—Pa gyfrif sydd i'w roddi am hyn?—Eglwys hynafol Capel Helyg. Henry Maurice.—Deddf y Pum' Milldir. Yr eglwys yn cyfarfod ar ochr craig mewn coedwig. Deddf y Cyfarfodydd Gwaharddawl. Ystafell hynod yn Cae'rtyddyn.—Dyfodiad Lewis Rees, Jenkin Morgan, a Howell Harris i'r wlad.—Odfa gyntaf Howell Harris yn y wlad hon, yn Glasfryn—fawr.—Eglwysi cyntaf Eifionydd.—Cychwyniad eglwys Brynengan, a'r crefyddwr cyntaf yn yr ardal. Robert Owen, Brynygadfa.—Y cyrchu i Frynengan a Ty-mawr.—Dim erlid yn Mrynengan. Erlid yn yr holl amgylchoedd.—Richard a Morris Griffith, Penybryn
MAE y darllenydd wedi sylwi, yn ddiau, ar y nifer mawr o enwogion sydd wedi codi yn ardal Brynengan, a'r rhai hyny yn perthyn i'r dosbarth cyntaf. Yn mha le yn Nghymru y cododd meddylwyr galluocach ac eangach eu hysbryd na Richard Jones, y Wern (Coedcaedu), a John Owen, Ty'nllwyn (Gwindy)? Pwy a dderbyniodd fwy o ddawn y weinidogaeth na Robert Roberts, Clynnog; John Williams, Llecheiddior; a Moses Jones, yn enwedig y cyntaf? A pha lanerch yn ein gwlad a gynyrchodd feirdd mwy awenyddol na Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Eben Fardd, a Nicander? Gallem enwi rhai enwogion ereill a fu yn dal cysylltiad â'r lle am ryw gymaint o amser, nad ydym wedi eu henwi yn flaenorol, megys y Parchn. Robert Jones, Rhoslan; John Roberts, Llangwm; John Pierce, wedi hyny o Lanidloes; a John Griffith, Bethesda, Dylasem enwi gwr ieuanc arall a ddaeth i fri mawr yn nghychwyniad y cyfarfodydd llenyddol yn Eifionydd, sef y diweddar Mr. Daniel Roberts, Ffridd; ond ei haul a fachludodd tra yr ydoedd hi yn ddydd. Pecawsaieinoes, diau y daethai i sylw fel llenor a bardd, os nad hefyd fel pregethwr. Yr oedd efe yn ŵyr i Robert Dafydd.
Clywsom amryw, wrth siarad â hwy am y nifer mawr o enwogion sydd wedi codi yn yr ardal hon, yn datgan eu syndod at y peth, ac yn methu cyfrif am hyn. Sylwent nad oedd dim mewn natur i roddi cyfrif am dano. Nid oes yma olygfeydd prydferth, swynol, a rhamantus, i ddeffro y meddwl ac i gyffroi yr enaid. Mae hyn weithiau yn cael ei ddefnyddio fel rheswm paham y mae rhai talentau disglaer wedi codi o ambell i ardal. Ond rhaid chwilio am yr achos o hyn i ryw gyfeiriad arall yn y lle hwn. O'n rhan ein hunain, ni a gredwn mai crefydd yr ardal a fu yn foddion i ddeffro y meddyliau galluog hyn. Mynych y mae deffroad mawr gyda chrefydd wedi bod yn ddeffroad i dalent ac athrylith. Gwelwn engraifft amlwg o hyn yn y Diwygiad Protestanaidd. Rhoddodd y cynhyrfiad aruthrol a gafodd crefydd gynhyrfiad hefyd i feddyliau dynion. Pa bryd yn holl hanes y byd y gwelwyd y fath gewri mewn meddwl ag yn yr oes hono? Y mae crybwyll enwau Martin Luther, y diwygiwr; John Calvin, y duwinydd; Shakespeare, y bardd; a Bacon, yr athronydd, yn ddigon o sicrhad o hyn, heblaw nifer mawr o enwau ereill allesid grybwyll. Yr un fath am y diwygiad yn amser y Puritaniaid a'r Anghydffurfwyr yn Lloegr. Y fath restr o dduwinyddion galluog a ddaeth i'r golwg y pryd hwnw, megys Dr. Owen, John Howe, Charnock, Goodwin, &c. Mae yr un peth yn wirionedd am y Diwygiad Methodistaidd. Ni chynyrchodd unrhyw oes dduwinydd galluocach na Jonathan Edwards, na phregethwyr mwy dylanwadol ac effeithiol na George Whitefield a Daniel Rowland. A phaham nad all yr un peth fod yn rheswm am godiad y fath nifer o wyr enwog yn ardal Brynengan? Yr oedd gwres y crefyddwyr a phoethder y diwygiadau yn fanteisiol iawn i dalent ac athrylith flaguro. A blaguro a thyfu a gwasgaru eu peraroglau a wnaethant dros holl Gymru.
Mae y plwyf lle y saif Brynengan ynddo, sef Llangybi, wedi bod yn hynod mewn cysylltiad â chrefydd bur er's llawer o oesoedd. Yn y plwyf hwn y saif Capel Helyg. Yr oedd eglwys gan yr Annibynwyr yn y lle hwn yn agos i gan' mlynedd cyn dechreuad Methodistiaeth yn Mrynengan. Myn Mr. Richard Jones, Llangybi, yn ei draethawd manwl a llafurfawr ar hanes eglwys Capel Helyg, fod yma gapel wedi ei adeiladu mor foreu â'r flwyddyn 1652. Nid ydym ni yn gweled ei resymau yn ddigon cryfion i'n hargyhoeddi o wirionedd hyn. Pa fodd bynag, mae yn amlwg fod eglwys yn arfer ymgynull yn yr ardal yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn. Dywed yr enwog Henry Maurice, mewn llythyr at un Edward Terril, yn y flwyddyn 1675, "Yr eglwys gyntaf, a'r unig eglwys ffurfedig yn y sir hon, yw yr un sydd yn cyfarfod yn gyffredin yn Llanarmon a Llangybi." Yr un eglwys oedd hon ag un Pwllheli: a byddai yn cyfarfod ar adegau yn Mhwllheli, a phryd arall yn Llangybi, yn ol fel y byddai yr erledigaeth yn y naill le a'r llall. Pan erlidid hi yn y naill le, ffoai i'r llall. Ac y mae yn amlwg mai mewn canlyniad i Ddeddf y Pum' Milldir, yr hon a basiwyd yn y flwyddyn 1664, yr oedd yr eglwys yn cyfarfod y pryd hwn yn Llangybi. Gwaharddai y Ddeddf greulawn hon i unrhyw weinidog bregethu o fewn pum' milldir i'r lle yr oedd yn gweinidogaethu ynddo o'r blaen, nac o fewn hyny o bellder i unrhyw fwrdeisdref. Gan hyny enciliodd yr ychydig ffyddloniaid i gyfarfod â'u gilydd i ochr craig fawr mewn coedwig dewfrig gerllaw Capel Helyg, yr hon oedd tua phum' milldir o Bwllheli. Cawsant lawer cyfarfod hyfryd, meddir, yn y lle anial hwnw. Yn agos i'r un amser ag y pasiwyd y Ddeddf uchod, pasiwyd un arall greulonach fyth, yr hon a elwid Deddf y Cyfarfodydd Gwaharddawl, yr hon oedd yn gwahardd pob math o gyfarfodydd Ymneillduol, os ceid pump neu ychwaneg o bobl heblaw teulu y ty yn bresenol. Dan y ddeddf hon dirwywyd yr eglwys ddwywaith i haner cant o bunau. I ochel y gyfraith hon, gwnaed ystafell ddirgel yn amaethdy Cae'rtyddyn i'r eglwys ymgynull iddi. "Ty tô gwellt, a'r bargod yn ei gefn yn un â'r ddaear, oedd hen dŷ Cae'rtyddyn; a gwnaed rhyw fath o daflod uwchben y siamber, ar ran o'r ty, a thorwyd twll yn y tô yn nghefn y ty i fyned i'r ardd, a thrwy yr hwn y gallai yr addolwyr ymwthio pe buasai yr erlidwyr yn dyfod i'r ty. Yr oedd y twll wedi ei gau gyda swp o wellt yn y fath fodd, fel na wyddai neb oddiallan fod yno un. Elid i fyny iddi gydag ysgol, yr hon a dynid i fyny wedi i'r cyfeillion ymgynull yn nghyd. Dyma'r ddirgelfa y bu eglwys Capel Helyg, am amser maith, yn ymgynull iddi yn nyfnder y nos, heb na goleu na chanwyll." (Traethawd Mr. Richard Jones). Ond er i'r naill ystorm ar ol y llall chwythu ar y ganwyll fechan hon, daliodd yn oleu ac yn wresog hyd amser y Diwygiad Methodistaidd. Mor gydnaws oedd ysbryd y ffyddloniaid hyn âg ysbryd y Diwygiad, fel pan glywsant am dano yr aeth un ohonynt, Walter Williams, Ty Llywelyn, Penrhos—hen daid i Mrs. Ambrose, priod y diweddar Barch. Wm. Ambrose (Emrys), Porthmadog,—yr holl ffordd i Lanbrynmair at Lewis Rees, yr hwn oedd yn llawn o'r tân diwygiadol, i'w wahodd i ddyfod i'r wlad hon i bregethu. Wedi i Lewis Rees ddyfod yma, ac iddynt glywed ganddo am y nerthoedd oedd yn cydfyned â gweinidogaeth Howell Harris yn y Deheudir, a'r arddeliad oedd ar lafur Jenkin Morgan yn amgylchoedd y Bala, aeth un ohonynt, sef Francis Evans, Cae'rtyddyn, y dydd Llun canlynol i'r Bala, a daeth â Jenkin Morgan gydag ef adref, i fod yn ysgolfeistr yn yr ardal, ac i gynghori tipyn. Addawodd Lewis Rees hefyd y gwnai ei oreuiddylanwadu ar Howell Harris, gyda'r hwn yr oedd yn gyfeillgar iawn, i ddyfod i'r wlad hon i bregethu. Cymerodd hyn le, gallem feddwl, yn nechreu haf y flwyddyn 1740. Yn fuan wedi hyn, sef yn Ionawr, 1741, llwyddwyd i gael Howell Harris i ddyfod yma. Aeth Jenkin Morgan i Lanbrynmair i'w gyfarfod, a bu gydag ef am amryw ddyddiau fel cyfaill ac arweinydd iddo yn ei deithiau, gan fod Howell Harris yn hollol ddieithr yn y Gogledd, oddigerth ychydig ranau o sir Drefaldwyn ac amgylchoedd y Bala. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn yr holl wlad, y tuallan i'r rhanau uchod, yn Glasfrynfawr, yn y plwyf hwn, cartref yr enwog William Prichard. Dyma'r bregeth gyntaf i unrhyw Fethodist yn y rhanau yma. Nid dibwys erbyn hyn ydyw gwybod yn fanwl pa bryd, yn gystal a pha le, y cymerodd y ffaith le. Nos Sadwrn, Ionawr 31, yn y flwyddyn 1741, y bu hyn. Gwelir, gan hyny, fod Ymneillduaeth wedi gwreiddio yn ddwfn yn y plwyf hwn er yn foreu, ac hefyd mai yma y planwyd Methodistiaeth gyntaf o unrhyw ran yn yr holl wlad, yn blanigyn tyner a gwanaidd.
Er mai Annibynwyr oedd Lewis Rees, Jenkin Morgan, a William Prichard, mewn enw, eto yr oeddynt wedi yfed yn helaeth o ysbryd y Diwygiad Methodistaidd, ac yn gyfeillgar iawn a'r Diwygwyr. Gellid cymhwyso atynt hwy yr hyn a ddywedodd Michael Roberts, gyda'r min hwnw oedd ar ei eiriau, pan yr oedd rhyw arlliw o ddyryswch ar ei feddwl, am yr hen bregethwr, Dafydd William Dafydd, o'r Deheudir:— "Dafydd enwog o Forganwg—rhyw Ddissenter a Methodist, haner yn haner—fel Mr. Tibbot a Mr. Gray, hen frid y tir—y goreu o ryw a welodd Cymru eto; a gwyn fyd na welai yr ysgrifenydd gant o'u bath cyn huno ohono yn yr angeu."
Ni sefydlwyd yr un eglwys yn perthyn i'r Methodistiaid yn Lleyn ac Eifionydd am rai blynyddoedd ar ol hyn. Ymgasglai y dychweledigion a argyhoeddwyd yn Lleyn, drwy weinidogaeth Howell Harris ac ereill o'r Methodistiaid, i eglwys Pwllheli at yr Annibynwyr. Digon tebyg hefyd fod dychweledigion Eifionydd yn myned i gapel Helyg. Yn yr eglwysi hyn yr oeddynt yn aelodau, ac yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd. Pregethodd Howell Harris dair gwaith yn Glasfrynfawr y tro hwn. A gallwn fod yn lled sicr fod lliaws wedi eu hargyhoeddi trwy yr odfeuon; oblegid nid oedd yr un odfa i'r gŵr hwnw y blynyddoedd yma nad oedd rhyw nifer yn cael eu dychwelyd. Sefydlwyd dwy eglwys fechan yn foreu iawn yn Eifionydd, fel ffrwyth yr odfeuon hyn, a llafur personau ereill: un yn Mrynygadfa, plwyf Llanaelhaiarn, a'r llall yn Foelderwin, yn ardal Bwlchderwin. Yr oedd y rhai hyn ychydig flynyddoedd yn hyn na Brynengan. Cawn gyfeiriad at y ddau le, ni a gredwn, mor foreu a'r flwyddyn 1747, mewn llythyr o eiddo un o'r cynghorwyr boreuol o'r enw William Richard at Howell Harris. Dyddiad y llythyr ydyw Mehefin yr 20fed y flwyddyn hono. Fel hyn y rhydd yr hanes:—"Dydd Gwener, ar fy nychweliad o Leyn, yr oedd genyf gyhoeddiad mewn lle rhwng Caernarfon a Phwllheli. Mi a bregethais yno i nifer o eneidiau tlodion ac anwybodus, a chefais odfa felus iawn. Hyderaf fod yr Arglwydd wedi agor drws yn y lle hwn [sef Brynygadfa neu Helyg-irion]. Gofynodd un o'r brodyr am dŷ arall i bregethu ynddo rhwng y lle yma a Phenmorfa, ond gomeddwyd ef. Ond cawsom le mewn bwthyn bychan yn agos i'r ty hwnw. Pregethais yno [sef Foel Derwin], i tua dwsin o bobl; a chawsom odfa hapus iawn. Felly dychwelais drachefn i'r Bala, ac arosais yno hyd ddydd Llun; ac yr oedd yn ogoneddus iawn yno." Yr oedd hyn rai blynyddoedd bod dim wedi dechreu yn Mrynengan. Ffurfiwyd eglwys yn ylle rywbryd rhwng y flwyddyn 1751 a'r flwyddyn 1755.Yr oedd yma eglwys, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn y flwyddyn olaf, pan symudodd Lowry Williams i sir Feirionydd. Ac wrth gymharu gwahanol amgylchiadau â'u gilydd, credwn nas gallai fod yma ddim cyn y flwyddyn 1751. Tua'r adeg hon cymerodd amgylchiad le a fu yn gychwyniad i Fethodistiaeth yn yr ardal. Cyfeiriwn at droedigaeth y cyntaf yn yr ardal. Clywsom y diweddar Mr. Robert Roberts, Hendre Cenin, yn adrodd yr hanes fwy nag unwaith. Yr oedd efe yn nodedig o hyddysg yn hanes Brynengan, yn fwy felly na neb a welsom. Fel hyn y mae efe yn ysgrifenu yr hanes:—"Daeth yr hedyn yma o Foel Derwin yn nghalon hen ferch o'r enw Catrin ach Rhisiart. Yr oedd teulu wedi dyfod i'r ardal hon (i Hendre Cenin) o Maesllech. Aeth un o'r bechgyn yn sâl o glefyd trwm. Teimlodd Catrin awydd i'w rybuddio o'r perygl o farw yn annuwiol. Gwellhaodd John Morris oddiwrth y clefyd, ond gadawodd y cynghor effaith arno ar hyd ei oes. A'r John Morris yma (yr hwn oedd ewythr, frawd ei daid i Robert Roberts), oedd y crefyddwr cyntaf yn yr ardal. O'r teulu a enwyd yr oedd amryw o feibion; a bu Sion a Rhisiart Morris yn byw yn Mryneinion; ac yma y buont feirw. Ac yn moreu oes y ddau yr oedd Howell Harris, Daniel Rowland, ac ereill, yn dyfod o'r Deheudir i bregethu." John Morris felly oedd Methodist cyntaf yn yr ardal; a'i frawd, Richard Morris, meddir, oedd y blaenor cyntaf yn y lle. Yr oedd brawd arall iddynt yn Hendre Cenin, o'r enw Robert Morris; un arall yn y Gwindy, sef Ellis Morris; ac un arall yn Tuhwnt i'r mynydd, o'r enw Griffith Morris. Buy brodyr hyn yn noddwyr da i'r achos yn ei fabandod, ac y mae eu disgynyddion wedi bod felly hyd y drydedd a'r bedwaredd genedlaeth. Ac y mae y rhai hyny erbyn hyn yn lliosog iawn, a nifer mawr ohonynt yn Fethodistiaid gweithgar a selog, a rhai ohonynt yn swyddogion eglwysig. Caniataer i ni enwi rhai o'r swyddogion hyn. Yr oedd Morris Prichard, Llandudno, yn ŵyr i Richard Morris; y mae Dr. Roberts, Penygroes, a'r Parch. Morris Griffith, B.A., Llanidloes, yn orwyrion i Ellis Morris; a Mr. R. G. Thomas, Brynengan, yn orwyr i Robert Morris. Nis gallwn gofio am neb arall.
Fel y crybwyllwyd o'r blaen, yr oedd dwy eglwys yn Eifionydd o flaen Brynengan, sef Brynygadfa ar un tu, a Foel Derwin ar y tu arall. Y rheswm paham y cafodd crefydd loches yn Mrynygadfa oedd am mai yno yr oedd yr hen bregethwr boreuol hwnw yn byw, sef Robert Owen. Yr oedd efe yn un o bleidwyr mwyaf selog Howell Harris. Byddai llawer o erlid, meddir, yn y lle hwn. Mynych y gwelwyd y swyddogion gwladol yn dyfod i mewn trwy un drws, a'r crefyddwyr yn dianc ymaith trwy y drws arall. A chyn hir erlidiwyd yr hen bregethwr ymaith o'i ffarm. Aeth wedi hyny i'r Helyg Irion, yn agos i balasdy Glasfryn Ucha'. Credwn erbyn hyn mai yn yr Helyg y bu Robert Owen gyntaf, ac iddo symud oddiyno i Frynygadfa. Rhoddodd groesaw i grefydd wed'yn yn y lle hwn. A chawn yn Methodistiaeth Cymru fod rhai yn dyfod i addoli i'r lle hwn o Lanberis, tuhwnt i Gaernarfon. Dybenodd yr hen bregethwr ei oes mewn lle o'r enw Pencaechwith, sydd yn awr yn rhan o dir Bodfal, ac yn mhlwyf Llanor. Ac am a wyddys, nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn. Yr oedd eglwys fechan hefyd, fel y cyfeiriwyd, yn cyfarfod yr ochr arall i Frynengan, mewn lle o'r enw Foel Derwin, yn nghyfeiriad Clynnog. Yma yr oedd cartref Catrin ach Rhisiart y cyfeiriwyd ati gan Mr. Robert Roberts, yr hon oedd hen ferch nodedig o grefyddol. Mae yn amlwg hefyd fod yr hen ferch hon a'i theulu yn gefnogol iawn i addysg yn gystal ag i grefydd ; oblegid yr ydym yn cael fod un o ysgolion y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn cael ei chynal yn y ty hwn, yn y blynyddoedd 1761 a 1762. Cyn hir, wedi i eglwys gael ei sefydlu yn Mrynengan, diflanodd yr eglwysi bychain hyn. Yr oedd Brynengan, mae yn amlwg, yn meddu ar fwy o fanteision i lwyddo. Yr oedd yn lle mwy diarffordd a neillduedig na'r naill na'r llall, ac felly yn fwy allan o gyrhaedd erlidwyr. Yr oedd perchenog y lle hefyd (Mr. Henry Jones), er nad oedd yn aelod ei hun, yn hollol ffafriol i'r crefyddwyr, ac yn ddyn nodedig o garedig. Rhwng pobpeth mae yn amlwg mai rhaid oedd i Frynengan gynyddu ac iddynt hwythau leihau. Daeth yn eglwys o gryn fri yn fuan iawn. Ty Mawr yn Lleyn, a Brynengan yn Eifionydd, oedd cyrchfan y pererinion Methodistaidd er yn foreu iawn. Buont yn daith Sabboth, meddir, lawer gwaith, er fod tua deunaw milldir rhwng y naill a'r llall. Cyrchent o ardal Brynengan i'r Ty Mawr, rhai ar feirch a rhai ar draed, erbyn yr odfa ddeg o'r gloch, a chanlynent y pregethwr yn ol i Frynengan at odfa y nos. Gwnai crefyddwyr Lleyn yr un fath pan fyddai y pregethwr yn dechreu yn Mrynengan. Llawer gwaith y buont ar fwlch yr Eifl, ar ol cerdded deg neu ddeuddeg milldir o ffordd, pan fyddai yr haul yn codi, ac yn cyrchu i Frynengan at yr odfa ddeg o'r gloch. A llawer gwaith y bu crefyddwyr Arfon ac Eifionydd yn yr un lle cyn i'r wawr dori yn cyfeirio am Ty Mawr. Clywsom Mr. Thomas Ellis, Carnguwch, yn dyweyd yn ddiweddar fod Sion Griffith, Bryn'rodyn, wedi dyfod laweroedd o weithiau i'r Hafod, Llithfaen, —cartref ei daid o'r un enw, sef Thomas Ellis, yr hen bregethwr call, cywir, a dirodres, cyn iddi ddyddio, ar ol teithio tua deng milldir o ffordd. Wedi hyny marchogent gyda'u gilydd i'r Ty Mawr at yr odfa ddeg.
Faith hynod mewn cysylltiad â Brynengan ydyw nad oes dim sôn fod yma erlid wedi bod erioed. Er fod erlid wedi bod braidd yn yr holl wlad o amgylch, eto diangodd yr ardal hon rhag y gelyn hwn. Mae son am erlid wedi bod yn yr holl ardaloedd cylchynol yn mhob cyfeiriad, yn ol ac yn mlaen, ar dde ac ar aswy. Bu erlid ar y llaw aswy yn Rhoslan, ac ar y dde yn Mrynygadfa a Llanaelhaiarn; yn ol yn Nghlynnog, ac yn mlaen yn Llangybi, Capel Helyg, Cae'rtyddyn, Penybryn (Corsydd), a Glasfrynfawr. Mewn canlyniad i waith Mr. Hughes, Trefan, yn anfon ei was i ganu corn i afionyddu yn Rhoslan, y gwnaeth Robert Jones, Rhoslan, y llythyr rhagorol hwnw a elwir, "Lleferydd yr asyn." Gŵr caredig oedd efe er hyny, ond fel y cafodd ei gamarwain gan rywrai. Cyfeiriwyd o'r blaen at yr erlid a fu yn Mrynygadfa, a Chapel Helyg. Wrth ddyfod yn ol o wrando Daniel Rowland yr oedd torf o erlidwyr yn disgwyl crefyddwyr Lleyn yn Llanaelhaiarn. "Curasant hwy yn ddidrugaredd," meddai Robert Jones yn Nrych yr Amseroedd, "fel pe buasent gŵn cynddeiriog, nes oedd eu gwaed yn llifo, a rhai ohonynt yn cwympo oddiar eu ceffylau; a chafodd y rhai oedd ar eu traed y cyffelyb driniaeth." Daeth person Clynnog, Mr. Ellis, y Gwynfryn, i Gapel Uchaf Clynnog un tro â chwip yn ei law; a bygythiai daro y pregethwr â hi oni bai i rywun el atal. Aeth John Pierce a John Jones (hynaf), y Penrhyn, i Langybi unwaith ar ddydd Llun y Pasg i gadw odfa, ac i ymosod ar annuwioldeb y lle; ond daeth person Llanystumdwy, a gŵr a gwraig foneddig oedd yn byw yn Ystumllyn, yno i gynhyrfu y bobl, ac i atal y pregethwyr. Llwyddasant i ostegu John Pierce; ondtrwy fod John Jones mewn gwth o oedran, arbedwyd ef. Pan welodd y foneddiges John Jones yn sefyll i fyny, "O," ebe hi wrth yr erlidwyr, "Peidiwch anmharchu pen gwyn, gadewch lonydd iddo." Ar hyn hwy a beidiasant; a dywedir i'r gair enill ei chalon i ddal ar yr hyn a leferid. Meibion Penybryn (Corsydd), oedd Richard a Morris Griffith, dau was Glasfrynfawr, a gafodd eu dychwelyd trwy ddylanwad eu meistr, William Prichard. Aethant gyda William Prichard i Fôn, a dioddefasant "ymdrech mawr o helbulon" yno, mewn cysylltiad â'u meistr. "Yr oedd un ohonynt yn yr ysgubor ryw ddechreunos, yn trwsio yr aradr, a bachgen bychan yn dal y ganwyll iddo, pan saethodd rhywun ergyd rhwng y ddau nes yr oedd yn dartsain yn y pared." "Daeth dau gwnstabl i'r ty ryw ddiwrnod," medd John William Prichard, Plas y Brain, mab William Prichard, " a chynorthwywyr yn eu canlyn, gan anelu yr amser yr oedd y teulu yn bwyta eu ciniaw, a gwarant i ddal un o'r gweision i fyned yn sowldiwr, sef Moris Griffith. Gofynodd ei feistres genad iddo fyned i'r llofft i roi esgidiau am ei draed, y byddai yn haws iddo eu canlyn; yntau a neidiodd allan trwy ffenestr y garret tucefn i'r ty, ac yr oedd yn rhy gyflym i neb ohonynt ei oddiweddyd." Aeth Moris Griffith i bregethu yn fuan ar ol hyn. Pan yr oedd i fod yn pregethu yn Llanrwst, safodd nifer o'r erlidwyr ar y bont, gan fwriadu ei daflu i'r afon; ond deallodd y brodyr eu bwriad, a throsglwyddwyd ef mewn cwch dros yr afon i'r dref. Pan yr oedd ar ganol pregethu cododd yno derfysg nid bychan; a cheisiodd rhai ddyfod trwy y dyrfa at y pregethwr. Pan welodd gŵr y ty nad oedd dim llonyddwch i'w gael diffoddodd y canwyllau, a chuddiodd y pregethwr mewn cist a chlô arno. Dywedir fod yr erlidwyr wedi bod yno hyd y plygain yn chwilio am dano, ond methasant a dyfod o hyd iddo. Priododd Richard Griffith ferch i Francis Evans, Pencaenewydd, yn y flwyddyn 1744, a daethant i fyw i Gae'rtyddyn, a dywedir ei fod wedi cysgu allan am lawer o nosweithiau yn y rhedyn ar ben y clawdd terfyn rhwng gweirglodd Cae'rtyddyn a Phentyrch-isaf, rhag ofn yr erlidwyr. Merch i Richard Griffith oedd Magdalen Richard, a ddaeth yn wraig i Robert Jones, Rhoslan. Ffodd Moris Griffith cyn hir i'r Deheudir. Aeth i Athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1750. Bu yn weinidog llwyddianus mewn eglwys liosog gyda'r Annibynwyr, mewn lle o'r enw Trefgarn, yn sir Benfro, am ddeuddeng mlynedd. Dywedir y byddai hiraeth calon arno am ei wlad enedigol; ac y byddai yn fynych ar ddiwrnod clir yn myned i ben rhyw fryn gerllaw, i edrych ar fynyddoedd ei ardal enedigol, ac yn tori allan i wylo yn hidl. Bu farw yno yn y flwyddyn 1769, yn nghanol ei ddyddiau, yn 48 mlwydd oed. Yr oedd y diweddar Barch. William Moris, Cilgeran, meddir, yn un o'i ddisgynyddion; a chlywsom fod ymddiddan dyddorol wedi bod rhwng William Moris ar un o'i deithiau yn y wlad hon, âg Isaac Moris, Pentyrch-isaf, am Moris Griffith, ac mai y pryd hwnw y deallodd ei ddisgynyddion i fanylrwydd un o ba le ydoedd.
Gwelwn fel yna fod erlid wedi bod yn holl amgylchoedd Brynengan yn mhob cyfeiriad; ond hynod son! prin y symudodd yr un ci ei dafod ar neb yn yr ardal hon. Ni a gredwn, creded ereill fel y mynont, fod yr Arglwydd wedi gosod terfyn o amgylch y mynydd hwn hefyd, ac wedi ei sancteiddio, rhag i'r gelynion ruthro a hylldremu, na myned i fyny i'r mynydd, na chyffwrdd â'i gwr ef. Cyflawnodd yr Arglwydd ei addewid yn llythyrenol â'r eglwys fechan hon: "Byddaf iddi yn fur o dân o amgylch." Credwn hefyd fod yr Arglwydd wedi cyflawni y rhan arall o'i addewid yn y lle hwn laweroedd o weithiau, "ac yn ogoniant yn ei chanol." Gwelwyd hyn lawer gwaith yn odfeuon Daniel Rowland, Robert Roberts, Clynnog; John Elias, Henry Rees, John Jones, Talsarn; a Richard Owen.
Dyma ardal fabwysiedig Robert Dafydd. A pha ryfedd iddo dyfu y fath gymeriad cryf a gwreiddiol yn y fath awyrgylch? Yr oedd y fath gydnawsedd rhyngddo ag awyrgylch grefyddol y lle fel yr attynwyd ef yma yn fachgen ieuanc. Planwyd ef yma yn blanhigyn tyner, a lledodd ei wraidd, ac estynodd ei ganghenau, a daeth yn bren cryf a chadarn, fel y bu yn gysgod i lawer planhigyn tyner am dros dri ugain mlynedd.