Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod IX
| ← Pennod VIII | Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion gan Henry Hughes, Bryncir |
→ |
PENNOD IX.
EI DDISGYNYDDION.
Ei blant.—Ei fab a'i ferch yn nghyfraith.—Ei wyrion, ei orwyrion, &c.
BU ganddo deulu lliosog: bu iddo ddeg o blant, a thyfasant bron i gyd, os nad oll, i gyflawn faintioli. Bu iddo chwech o leiaf o feibion. Ni rodiodd dau ohonynt beth bynag—William a Sion—yn llwybr eu tad, er fod llawer o dalent eu tad ynddynt. Bu dau arall—Enoch a Dafydd—farw yn lled ieuanc, un yn y fyddin a'r llall yn yr hospital. Cafodd ddau lythyr gyda'r un post yn hysbysu am farwolaeth y ddau, yr hyn a fu yn ergyd drom iddo. Y ddau arall—Daniel a Robert —a fuont wyr defnyddiol yn eu hoes. Bu Daniel Roberts yn flaenor medrus a galluog yn Mrynengan am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn wr darllengar iawn, a chasglodd gryn lawer o lyfrau yn ei oes. Cymaint oedd ei wybodaeth dduwinyddol fel y byddai pregethwyr ieuainc yn arswydo pregethu yn ei wydd. Cadwai ysgol ddyddiol yn Mrynengan am ryw ysbaid o amser. Bu am ysbaid yn awyddus am fyned i bregethu. Byddai bob amser ar hyd ei oes yn esbonio y bennod wrth ddechreu y cyfarfodydd. Yr oedd gan Dr. Owen Thomas feddwl uchel ohono, a pharch mawr iddo. Clywsom ef yn dweyd fod ganddo doraeth anarferol o hanes yr hen Fethodistiaid, a bod yn resyn na buasai rhywun wedi eu hysgrifenu a'u cadw mewn coffadwriaeth. Fel hyn y cyfeiriai ato yn Nghofiant John Jones, Talsarn, tud. 823:"Clywsom hen flaenor call yn Mrynengan, Daniel Roberts, mab i'r hen bregethwr Robert Dafydd, yn adrodd am dano [sef Robert Roberts, Clynnog], unwaith yno. 'Chwi wnaethoch imi gofio yn y capel yna,' meddai, 'am Robert Roberts. Yr oedd o yn pregethu yma, a'r nefoedd yn tywallt ar ei ben, ac am ben y gynulleidfa. Ond rywbryd ar y canol, dyna fo yn troi at y pared, ac yn gwaeddi, —' Atal, Arglwydd; cofia mai enawd ydwyf; cofia nas gallaf fi ddal gormod!' Ac yna, dyna fo yn troi atom ninau, ac yn gwaeddi allan ar frig ucha'i lais,—'Gogoniant am obaith boreu y byddaf fi wedi fy nghylchio ag anfarwoldeb; y gallaf fi ddal fy llon'd o'r Duwdod heb gracio byth!" I Daniel Roberts felly yr ydym yn ddyledus am fod yr hanes hwn ar gael. Bu farw Medi 18fed, 1842, yn 53 oed, wedi bod yn flaenor yn Mrynengan am ddeunaw mlynedd. Er nad oedd ei fab arall, yr hwn oedd o'r un enw ag ef ei hun, Robert, mor alluog â Daniel, eto yr oedd yn un nodedig mewn duwioldeb a lledneisrwydd ysbryd.
Cyfeiriwyd fwy nag unwaith yn nghorph y llyfr hwn at Rhisiart William, y pregethwr. Yr oedd efe yn briod a merch i Robert Dafydd. Yr hyn sydd wedi gosod hynodrwydd arno ef ydyw mai efe oedd yr offeryn a ddewisodd y nefoedd i gychwyn y diwygiad mwyaf grymus a fu yn Nghymru erioed — "Diwygiad Beddgelert." Ni bu yn wiw gan neb yn ystod ei fywyd gymaint a chysylltuei enw â'r diwygiad hwnw, mewnargraph, er iddo gael byw lawer blwyddyn ar ol hyny, ac er i'r hanes gael ei gyhoeddi. Ac am lawer blwyddyn ar ol ei farw dyma y cwbl a gyhoeddwyd am dano: "Richard Williams, Brynengan; ffyddlawn a diniwed, ac anwyl oedd efe yn ei ddydd." Ond tra fyddo crefydd a diwygiadau Cymru mewn bri,—a gobeithiwn a chredwn y bydd hyny ddyddiau y ddaear,—fe fydd enw Rhisiart William ar gael.
Ganwyd a magwyd ef yn ardal Bwlchderwin, mewn lle o'r enw Foel Derwin, yn y flwyddyn 1781. Tarddai o deulu oedd yn teimlo yn gynes at grefydd ac addysg; oblegid un o'i hynafiaid ef oedd Catrin ach Rhisiart, yr hon a fu yn foddion dychweliad y Methodist cyntaf yn ardal Brynengan. Ac fel y cyfeirir mewn rhan arall o'r llyfr hwn bu yma un o ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, am ysbaid. A'i deulu ef oedd perchenogion y lle; ac felly yr oeddynt yn gallu rhoddi croesaw i grefydd ac addysg heb ofni erledigaeth. Tlawd er hyny oedd ei deulu, a thlawd oedd yntau. Pan yr oedd yn blentyn bychan taenodd tad a mam y Parch. Richard Jones, y Wern, eu hadenydd drosto, a chymerasant ef i wasanaethu i Coedcaedu. Ond oblegid ei fod yn rhy wanaidd o gorph i wasanaethu amaethwyr, rhoddasant ef yn brentis o wehydd gyda Robert Dafydd. Drwy hyny yr oedd wedi myned yn bur gartrefol yn Coedcaedu, a phawb o'r teulu yn bur hyf arno. Hyd yn nod wedi iddo ddechreu pregethu yr oedd yr hen enw yn glynu ynddo——Dic William. Yr oedd hyn yn dipyn o flinder i Risiart William. Ac un tro wedi i wraig y ty ei alw wrth yr enw hwnw trodd ati yn bur chwyrn, a dywedodd wrthi,—"Sian Jones, mae'n rhaid ich'i beidio fy ngalw i yn Dic William; rhaid i ch'i gofio fy mod i yn bregethwr, ac y mae y plant yma yn sylwi."
Dyn eiddil, gwanaidd, ydoedd; ac yn hytrach yn fychan o faintioli. Yr oedd diniweidrwydd yn elfen amlwg yn ei gymeriad. Bu yn "gyfaill" lawer gwaith i'r Parch. Simon Llwyd, y Bala; ac yr oedd y ddau yn nodedig o hoff o'u gilydd. Llawer gwaith y gwelwyd y ddau wedi sefyll ar y ffordd: Simon Llwyd yn traethu ar ddirgeledigaethau llyfr y Datguddiad, a Rhisiart William yn gwrando mewn syndod ac edmygedd. Yr oedd John Jones, Tremadog, yn dipyn o feistr Rhisiart William, fel yn wir ar liaws eraill o bregethwyr sir Gaernarfon. Pan fyddai Rhisiart William yn myned ar daith i'r Deheudir, gofalai am beidio rhoddi ei "hancas wen" i fyny un amser cyn myned trwy Dremadog. Ac yr oedd yr un mor ofalus wrth ddychwelyd am ei thynu cyn cyraedd y lle hwnw. Bu ar daith unwaith yn y Deheudir gyda John Williams, Llecheiddior. A gofynodd John Jones, Tremadog, iddo pa fath daith a gawsant. "Wel," meddai yntau, "John oedd yn myn'd a hi yn sir Aberteifi; ond wedi myn'd i sir Benfro y fi oedd yn myn'd a hi o ddigon. A gwyddoch ch'i, John Jones, o'r gora mai swn sydd ar bobl sir Aberteifi eisio gael, ac mai sylwedd sydd ar bobl sir Benfro eisio. Mae John yn well am waeddi na mi; ond pan a i i waeddi, mae hi yn myn'd yn ryw wich gin i." Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Mwlchderwin unwaith, a'r "degwm" yn lled brin yno. Gofynodd yr hen flaenor, Robert Prisiart iddo—"Gym'ri di ddim naw ceiniog am dro, Rhisiart? mae yr arian wedi myn'd yn brin iawn yma." "Na wna i wir," meddai Rhisiart William, "yr ydw i yn cael swllt ymhob man."
Mae yn amlwg fod llawer o wit yn natur Rhisiart William. Cwynai John Jones, Tremadog, mewn Cyfarfod Misol unwaith, fod y pregethwyr ieuainc yn myn'd yn ryw fân iawn, ac yn debyg iawn i'w gilydd. "Yr ydw i yn eich gwel'd ch'i," meddai, "yn debyg iawn fel y bydd y ffarmwr weithiau wrth edrych dros ei wartheg, yn eu gwel'd nhw yn fân iawn." "Ie," meddai Rhisiart William, "ond rhaid i ch'i gofio John, mai gwartheg blwyddiaid yda ni rwan, fe ddown ni yn ddwyflwydd toc." Yr oedd rhywbeth yn dra chartrefol a buddiol yn ei weinidogaeth. Dywedai un hen or pur hynod am dano,—"Dywedwch ch'i a fynoch ch'i am y collegians yma, mae yn well i'r werinosyn druan gael Dic William."
Dyma yr offeryn wedi'r cwbl a ddefnyddiwyd gan yr Arglwydd i gychwyn diwygiad penaf Cymru. Ac y mae yn amheus a fu pregeth erioed yn Nghymru fwy grymus na phregeth Rhisiart William yn Hafod-y-llan, y nos Sabboth bythgofiadwy hwnw, yn Awst, 1817. Ei destyn oedd Ioan v. 44: "A'r hwn a ddel ataf fi nis bwriaf ef allan ddim." Mae gofod yn prinhau, neu buasai yn dda genym ddyfynu darluniad effeithiol y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, ohoni. Cafodd bregeth arall hynod iawn yn fuan ar ol hyny mewn cwr arall o blwyf Beddgelert, sef yn y Tylyrni, Nantmor. Ei destyn y tro hwn oedd Matthew xxv. 10: "A'r rhai oedd barod, a aethant i mewn gyd ag ef i'r briodas: a chauwyd y drws." Yr oedd rhyw nerthoedd rhyfedd yn canlyn y bregeth yma hefyd, fel yr oedd y dynion cryfaf yn methu ymatal heb waeddi allan. Bu Rhisiart William farw yn nghanol ei ddyddiau, Chwefror 4ydd, 1834, yn 54 oed.
Sian Griffith a fu yn briod gyda Robert, mab Robert Dafydd. Yr oedd hithau yn un hynod ar lawer cyfrif. Yr oedd yn nodedig mewn hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau. Bu yn gwasanaethu am lawer o flynyddoedd gyda'r Parch. John Jones, Tremadog; a dywedir mai hi oedd ei Concordance ef. Bu yn cadw ty capel Brynengan am amser maith; a byddai llawer o bregethwyr yn cymeryd mantais ar ei chydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau i gael adnodau ar faterion eu pregethau. Llawer gwaith y gwnaeth Michael Roberts hyn. Bu hefyd yn cadw ysgol yn y capel. Dosbarthodd lawer o gyhoeddiadau misol, a llyfrau eraill yn yr ardal. Prin yr oedd yn bosibl ei throi draw yn hyn. Yr oedd ganddi graffder mawr i adnabod duwioldeb. Dywedai am y diweddar Barch. Robert Roberts, Morfa Nefyn, pan yn fachgen ieuanc, yn dechreu pregethu :—"Dyna fachgen ieuanc wedi ei oreuro a santeilddrwydd." Yn lle wylo ar ol ei gŵr pan y bu farw, yr oedd hi yn canu wrth feddwl am y cyflwr dedwydd yr oedd efe ynddo. Bu farw Medi, 1866, yn 75 oed; a chladdwyd hi yn mynwent Capel Salem, Llanllyfni; ac y mae careg dda wedi ei gosod ar ei bedd.
Mab i Rhisiart William, ac ŵyr i Robert Dafydd, oedd y diweddar Mr. Robert Williams, Runcorn, yr hwn oedd yn bregethwr ieuanc poblogaidd ac addawoliawn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1825, os nad cyn hyny. Yr oedd llawer o debygrwydd yn ei ddawn i ddawn y diweddar Barch. John Jones, Talysarn. A chafodd rai odfeuon grymus iawn. Sonir am bregeth neillduol o'i eiddo ar y farn a'r adgyfodiad. Desgrifiai y corph a'r enaid yn cyfarfod a'u gilydd yn yr adgyfodiad, gyda dylanwad mawr. Bu yn cadw ysgol am dymor yn y capel. Tua 1829—30 symudodd i Runcorn i gadw ysgol. Daeth i sylw mawr yno fel pregethwr. Ac yn niwedd y flwyddyn 1830 cafodd wahoddiad taer, unfrydol, a chynes, oddiwrth eglwysi y Methodistiaid yn America i fyned yno i'w gwasanaethu. Addawent ei gynal yn anrhydeddus os ai yno. Dyddiad y llythyr ydyw Hydref 6ed, 1830; ac ymddangosodd yn y Drysorfa am 1832. Cawn ymadroddion fel hyn yn y llythyr : —" Yr ydym fel un corph, o un llef ac un galon, yn anfon atoch y cais hwn, A ddeuwch chwi yma i lafurio yn ein mysg yn y weinidogaeth, a phethau perthynol i dŷ yr Arglwydd? . . . . Gobeithio yr ydym y bydd yr Arglwydd yn tueddu eich meddwl i ddyfod yma atom, ac y cewch gychwyn yn anrhydeddus, y cynhelir eich cerddediad, ac y cewch ddyfodfa i'n plith, gyda chyflawnder bendith efengyl Crist. . . .Yr ydym ni gyda ein gilydd wedi penderfynu cyn dechreu ysgrifenu atoch, y gwnawn ein goreu tuagat eich cadw yn gysurus yn ein plith, pa hyd bynag y byddo hyny. Ac os byddwch mewn amser i ddyfod yn awyddu am ddychwelyd i Gymru yn ol, yr ydym yn ymrwymo i rwyddhau y ffordd tuag at hyny ymhob ystyriaeth, gan ddwyn eich traul, fel y bo yr angen yn gofyn." Beth bynag oedd yr achos ni chydsyniodd â'r alwad. Yn y Drysorfa am 1832, cawn lythyr oddiwrtho dyddiedig Tachwedd 2il, 1831, yn hysbysu ei fod yn bwriadu dwyn allan lyfr ar Law—fer. Mae yn bur amlwg ei fod wedi llafurio llawer yn y cyfeiriad hwn; oblegid y mae yn enwi nifer mawr o awdwyr Seisnig yr oedd wedi ymgynghori a hwy. Ond ni chafodd ddigon o gefnogaeth i beri iddo gyhoeddi y llyfr; ac felly aeth ei lafur a'i anturiaerh yn ofer. Tua'r flwyddyn 1835 priododd; a darfu iddo ryw ymddyrysu wrth wneyd hyny, er na ddarfu iddo wneyd dim gwaradwyddus. Yn y Gwladgarwr am 1839, cawn y nodiad canlynol am ei farwolaeth:—"Bu farw, Gorphenaf 26ain, yn Runcorn, ar ol maith gystudd, Mr. Robert Williams, gynt o Frynengan, swydd Gaernarfon, yn 33 oed."
Wyr arall i Robert Dafydd, mab ei ferch oedd Daniel Roberts, y Ffridd, Brynengan. Yr ydym yn cofio yn dda ei weled yn myned yn mlaen i gael ei wobr mewn Cyfarfod Llenyddol yn Nhremadog, yn fachgen ieuanc 19 oed. Yr oedd yn gyfartal oreu gyda gwr o allu mawr, ac addfedrwydd oedran, sef Mr. Rees Roberts, Harlech. Ac yr oedd gwyr cedyrn eraill wedi ymgeisio, megis, Bardd Treflys, &c. Yr oedd hyn ar gychwyniad y Cyfarfodydd Llenyddol, pan yr oedd y cyfarfodydd hyny yn eu bri mwyaf; ac yr oedd o 16 i 18 wedi cystadlu ar y testyn hwnw. Bu yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau ar ol hyny. Aeth i Goleg Hyfforddiadol Caernarfon i barotoi ei hun i fod yn ysgolfeistr. Ond pan yr oedd wedi gorphen parotoi, ac wedi cytuno i fyned i gadw ysgol i'r Bontnewydd, ger Caernarfon, gwywodd, a bu farw, Ebrill 26ain, 1859, yn 24 oed.
Wyr arall i Robert Dafydd, mab i ferch arall iddo, oedd y diweddar Robert Jones, Pen Scoits, ger Nanhoron, Lleyn, yr hwn oedd wr hyddysg yn yr Ysgrythyrau, yn dduwinydd rhagorol, a pharod ei ateb yn y Cyfarfodydd Ysgolion, &c.
Yr oedd y diweddar Mr. John Hugh Jones, Brynrhos, ger Bryn'rodyn, yn fab i ferch Mr. Robert Williams, Runcorn, ac felly yn disgyn oddiwrth Robert Dafydd yn y bedwaredd genhedlaeth. Yr oedd efe yn bregethwr ieuanc o gymeriad nodedig o bur a gloew. Llafuriodd yn galed i gyraedd dysgeidiaeth, yn rhy galed i gyfateb i'w gyfansoddiad gwanaidd. Yroedd yn nodedig ar gyfrif ei gydnabyddiaeth eang a manwl â'r Ysgrythyrau. Pe cawsai oes, diau y daethai yn bregethwr cymeradwyiawn. Bu farw Ebrill 22ain, 1883, yn 26 oed.
Mae hyn yn dangos fod yr addewid hono wedi ei chyflawni i'r hen batriarch Robert Dafydd :"Plant dy weision a barhant, a'i had a sicrheir ger dy fron di."
DIWEDD.