Neidio i'r cynnwys

Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod V

Oddi ar Wicidestun
Pennod IV Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion

gan Henry Hughes, Bryncir

Pennod VI

PENNOD V.

Y bregeth gyntaf yn ardal Beddgelert.—Cyrchu i Langeitho gyda John Pierce a Richard Morris. Priodi.—Teulu ei wraig.—Yn hynod am gadw seiat.—Ei erwindeb.—Yn adwaen ac yn trin rhodres.—Ei nodwedd fel pregethwr.—Rhai odfeuon grymus.—Ieuengrwydd ei ysbryd

YN fuan wedi dechreu pregethu, daeth ar ei feddwl i fyned a'r Efengyl i hen ardal ei enedigaeth, i Feddgelert. A phe cawsai gyflawni ei fwriad, efe fuasai wedi pregethu y bregeth gyntaf yno; ond nis cafodd. Fel hyn y rhoddir yr hanes yn Methodistiaeth Cymru:- "Yr oedd Robert Dafydd eisoes wedi symud i Frynengan, ac wedi dechreu pregethu yno. Daeth ar ei feddwl ymweled â'i hen gymydogion yn ardal Beddgelert, a thraethu iddynt air y bywyd. Penodwyd ar y Sabboth, a rhoddwyd y gair allan y byddai pregeth yno. Yr oedd rhywrai wedi darpar lle i gadw yr odfa ynddo; pa un ai gelynion a wnaeth mewn dichell, ai cyfeillion yn eu diniweidrwydd, nid yw hysbys. Y lle, pa fodd bynag, oedd Ty-rhisgl, neu adeilad y rhoddid rhisgl derw ynddo i gadw yn y tymor, yn nghymydogaeth Nantmor, yn nghwry plwyf. Cyn i'r amser ddyfod, yr oedd rhyw rai drwg eu bwriad. wedi crogi darnau o goed yn uchel uwchben yn y Ty-rhisgl, gyda yr amcan o'u taflu ar y gynulleidfa yn amser yr odfa.

"Erbyn i'r amser addawedig ddyfod i ben, lluddiwyd i Robert Dafydd ddyfod gan ryw amgylchiadau, a Robert Jones, Rhoslan, a ddaeth yn ei le. Daeth cynulleidfa fawr yn nghyd; llawer ohonynt gyda y bwriad o aflonyddu yr odfa, a baeddu y pregethwr. Ond rywbryd ar yr odfa, a chyn dechreu yr ymosodiad, gwnaeth daranau arswydus, nes oedd y lle yn siglo. Disgynodd braw aruthrol ar y bobl, ac yn fwy o lawer ar y rhai yr oedd yn eu bryd wneuthur aflonyddwch; yn enwedigol, gan nad oedd un arwydd o fellt a tharanau yn y tywydd ar y pryd. Cafodd y pregethwr ddwy fantais oddiwrth yr amgylchiad; sef llonyddwch a seibiant oddiwrth ymosodiad yr erlidwyr, ac achlysur neillduol i osod min ar ei weinidogaeth, aci ddeffro ystyriaeth ei wrandawyr at echryslonrwydd digofaint y Duw,—

"Yr hwn sy'n gyru'r mellt i hedeg,
Ac yn marchog brig y don;"

gan alw eu sylw at daranau bygythiol y Beibl, y rhai sydd yn cael eu cyfeirio yn erbyn yr annuwiol. Oddiwrth yr amgylchiad hwn y cododd dau beth, sef deffroad amrywiol o'r gwrandawyr i ystyriaeth o ddifrifwch yn nghylch eu cyflwr tragwyddol, a llareiddiad yr erledigaeth, megis yn ei gychwyniad."

"Ar ol yr odfa gyntaf hon, dechreuodd rhyw dair neu bedair o ferched, y rhai a brofasant radd o rym y gwirionedd ar eu cydwybodau, ymgasglu at eu gilydd i weddio, ac i gyd—ymddiddan yn nghylch y 'ffydd yn Nghrist.' Bellach, hefyd, cynhelid ambell odfa yn achlysurol, yn ol fel y ceid pregethwyr, mewn gwahanol fanau yn y gymydogaeth."

Yr oedd cyrchu mawr yn mysg y Methodistiaid yn y blynyddoedd hyn, ac er's amryw flynyddoedd cyn hyn, o holl siroedd Gogledd Cymru, i Langeitho i wrando Daniel Rowland. Yr oedd y son am ei ddoniau, ac am yr arddeliad rhyfedd a fyddai ar ei weinidogaeth y fath, fel na allai lai na chodi awydd cryf yn meddyliau y crefyddwyr ieuainc i gael ei wrando. Yn mysg ereill, cododd awydd yn Robert Dafydd a'i gyfaill John Pierce i fyned yno. Yr oedd John Pierce yntau yn aros yn ardal Brynengan ar y pryd, er mai nid un oddiyno ydoedd yn wreiddiol. Yr oedd efe yn bregethwr lled boblogaidd, a threuliodd ei flynyddoedd olaf yn Llanidloes, ac yno y bu farw pan yn lled ieuanc, sef yn 49 mlwydd oed, yn y flwyddyn 1793. Gan faint eu hawydd i weled a chlywed y diwygiwr enwog, a bod yn dystion o effeithiau rhyfedd ei bregethu, a gweled y cynulliadau mawrion ac addolgar a fyddai yno, nid oedd cerdded rhyw 80 milldir ond dim yn eu golwg; er nad oedd i'w ddisgwyl ar y ffordd ond gwawd ac erlid yn y pentrefi yr aent trwyddynt; ac felly y bu iddynt hwythau y tro hwn. "Hwtiwyd hwy yn ffyrnig yn Nhanybwlch, a bu llefain gwawdlyd ar eu holau yn Nolgellau, ond cyrhaeddasant Langeitho yn lluddedig, erbyn amser yr odfa ddydd Sadwrn o flaen ycymundeb. Ond cyn pen llawer o fynudau o wrando Rowland, yr oedd eu holl ludded wedi diflanu, eu holl ofidiau wedi eu hanghofio, a'u llestri yn rhedeg drosodd gan orfoledd yr iachawdwriaeth."

Nid dyma yr unig dro i Robert Dafydd fod yn Llangeitho, ac nid y blinderau uchod oedd yr unig bethau blinion a'i cyfarfyddodd wrth fyned yno a dychwelyd oddiyno. Yr oedd anhawsderau ereill ar eu ffordd y pryd hwnw nad oes genym ni yn y dyddiau yma nemawr ddychymyg am danynt. Yr oedd y ffyrdd yn anhygyrch, ac weithiau cyfarfyddent a thywydd blin o wynt a gwlaw, neu o eira a lluwchfeydd, nes y byddai yn anmhosibl yn mron iddynt fyned nemawr yn mlaen. Yr oedd peryglon y ddau draeth, y Traeth mawr a'r Traeth bach, hefyd yn chwanegu yr anhawsderau i grefyddwyr Lleyn ac Eifionydd. Bu y pethau hyn yn flinder mawr i Robert Dafydd unwaith wrth ddyfod oddiyno. Ei gyfaill y tro hwn oedd Richard Morris, yr hwn oedd yn byw yn amaethdy Brynengan, a'r hwn hefyd oedd y blaenor cyntaf yn y lle. Ar eu dychweliad o Langeitho, pan yn croesi y Traeth bach, cawsant eu hamgylchynu gan y llanw, a bu y ddau yn agos i angeu. Dywedir fod Robert Dafydd, yr hwn oedd o faintioli lled fawr, hyd at ei geseiliau yn y dwfr, a Richard Morris, yr hwn oedd yn llai o faintioli, at ei wddf. Ac heblaw fod y dwfr yn ddwfn, yr oedd yn noson oer iawn hefyd o rew ac eira, a rhyfedd oedd iddynt ddianc a'u bywydau ganddynt. Buont am ddyddiau cyn gallu cyrhaeddyd i'w cartrefi, gan faint oedd y lluwchfeydd eira, a chan mor anhawdd oedd myned trwyddynt.

Yn fuan ar ol dyfod i aros i ardal Brynengan, priododd Robert Dafydd, a bu iddo deulu lled liosog. Enw morwynol ei wraig oedd Elizabeth Williams, ac yr oedd yn ferch i un William Jones, Tirdewin, Brynengan. Yr oedd iddi bedair, o leiaf, o chwiorydd, y rhai a ddaethant yn wragedd i rai o brif flaenoriaid yr ardaloedd, sef John Richard ac Evan Ellis, y Garn; a Richard Morris a Robert Hughes, Brynengan. Mae yn rhaid eu bod yn wragedd crefyddol, ac o ragoriaethau neillduol, cyn y buasent yn dyfod yn wragedd i ddynion mor ragorol. Ond yr oeddynt hefyd o dymer danbaid iawn. Mae chwedl am danynt yn aros yn yr ardal sydd yn dangos hyn. Yr oeddyr hen bregethwr Rhisiart William, wedi priodi merch i Robert Dafydd; ac yr oedd chwaer i'w mam, sef gwraig Robert Hughes, y Cenin, yn byw gerllaw iddynt. Daeth Rhisiart William i'r ty un diwrnod, a chlywai sŵn ystorm rhwng y fodryb a'r nith. Ond gwyddai Rhisiart William sut i'w thawelu. Ac meddai, "Hwi hen frid Wil Sion Genin," ac i ffwrdd ag ef. Trodd yr ystorm ar ol hyny i gyfeiriad Rhisiart William, ond yr oedd ef yn ddigon pell erbyn hyn. Daeth yn ol cyn pen ychydig fynudau, ac yr oedd y ddwy yn eistedd yn dawel a siriol wrth y bwrdd, ac yn cyd-yfed tê yn hapus. Enw a roddodd cablwyr y Methodistiaid ar William Jones oedd yr enw uchod, mae yn ddiau. Bu y teulu unwaith yn deulu lliosog yn yr ardal, ond erbyn hyn nid oes braidd yr un yn aros.

Y gwaith, meddir, yr oedd gan Robert Dafydd fwyaf o gymhwysder iddo o bobpeth oedd, cadw seiat. Edrychid arno braidd yn ddigyffelyb yn hyn. Yr oedd amryw bethau yn peri fod ganddo gymhwysder i hyn. Yn y cylch hwn, fel y cyfeiriwyd, y byddai cyfeiriad ei bregethau braidd bob amser. Yr oedd ei blaender hefyd yn ei gymhwyso at y gwaith yma. Honid hefyd iddo ryw graffder mawr i adnabod y rhai y byddai yn ymddiddan â hwy yn y seiadau, trwy fath o reddf grefyddol. Ystyrid fod gan amryw o'r tadau Methodistaidd y gallu hwn. Y penaf o bawb efallai oedd Williams, Pantycelyn. Yr oedd efe yn meddu rhywbeth tebyg i ysbrydoliaeth yn hyn, rhyw ddawn tebyg i'r un y cyfeiria yr Apostol Paul ati,-"gwahaniaeth ysbrydoedd." Yr oedd Ebenezer Morris hefyd yn hynod iawn yn hyn. Ac edrychid ar Robert Dafydd fel yn meddu y ddawn hon i raddau helaeth iawn. Yr oedd yn mysg y "cedyrn cyntaf yn y peth yma. Braidd na allasai ddweyd am dano ei hun yn debyg i fel y dywedodd Pedr Fardd am ei le ef yn mysg beirdd Eifionydd

"Yn drydydd minau droediaf."

Clywsom y diweddar Barch. Dr.. Owen Thomas yn dweyd y byddai galwad mawr arno i'r eglwysi i gadw seiat, am yr ystyrid fod ganddo y gallu hwn mor helaeth. Byddai llawer o'r hen dduwiolion syml, meddai efe, yn awyddus am iddo ymddiddan a hwy, er mwyn gwybod beth oedd ei farn ef am danynt; oblegid ystyrient fod ei farn ef am eu cyflwr braidd yn anffaeledig. Yr oedd yn seiat Fourcrosses un tro, ac yn ymddiddan â'r hen wraig grefyddol hono, Ellin Jones, Llwyndyrus, am ei phrofiad. Wedi holi rhyw gymaint arni, deallodd fod ei meddwl a'i hysbryd yn gythryblus oblegid rhywbeth. Ac yr oedd mor graff fel y deallodd beth oedd yr achos, a gofynodd iddi, "A oedd rhywbeth wedi bod rhyngddi â rhai o'i chymdogion yn ddiweddar?" Bu raid iddi hithau ateb fod hyny yn wirionedd. Mae yr ystori ganlynol hefyd yn bur hysbys yn y wlad. Yr oedd yn Nghaer unwaith yn cadw seiat, ac yn ymddiddan â gŵr mawr a chyfoethog iawn, ond yr hwn a ystyrid yn bur fydol a chybyddlyd. Wedi ymddiddan cryn lawer âg ef, a methu a chael dim ganddo, dechreuodd ddweyd pethau llym iawn wrtho. Teimlai y diweddar Barch. John Parry, Caer, ei fod yn myned braidd yn rhy bell, ac ofnai iddo ddywedyd pethau bryntach. O'r diwedd dywedodd, "Mae hi yn amser dibenu." "Dibena di," meddai Robert Dafydd, "mae y dyn yma yn pydru yn ei bechod gen ti." Yr oedd yn bur hyf ar Mr. Parry gan mai un o sir Gaernarfon oedd efe o'i ddechreuad. Clywodd y diweddar Barch. Moses Jones Mr. Parry yn adrodd yr hanes ei hun, a byddai yntau, Mr. Jones, yn hoff iawn o sôn am hynodion Robert Dafydd wrth bregethu ac mewn ymddiddan cyffredin. Un cymhwysder mawr oedd ganddo at y gwaith yma oedd côf cryf. Mae yn amlwg fod ganddo gôf cryf iawn yn ei gylch ei hun. Yr oedd yn cadw seiat yn Mrynaerau, Clynnog, rywbryd, ac yr oedd yno un gŵr yn dweyd ei brofiad. Yn mhen y flwyddyn aeth yno drachefn a chafodd yr un profiad gan yr un gŵr. Ac meddai Robert Dafydd wrtho,— "D—— anwyl, yn yr un fan yr wyt ti eto! Dydi'r bugail byth yn cadw y defaid ar yr un tir i bori o hyd, ond yn eu symud i borfa newydd yn feunyddiol. Felly mae'n bryd i tithau symud dy borfa, neu yr wyt ti'n siwr o lwgu yn y fan yma o hyd."

Mae y darllenydd wedi sylwi, mae yn ddiau, mai rhai o brif nodweddion cymeriad Robert Dafydd oeddynt plaender, gonestrwydd, a gerwindeb. Deuai hyn i'r golwg yn fynych wrth iddo bregethu, ac yn arbenig wrth gadw seiat. Yr oedd yn hallt iawn yn erbyn pechod. A deuai y nodweddion hyn i'r golwg wrth ymosod ar wahanol bechodau, yn enwedig balchder a chybydd-dod. Byddai yn erwin yn erbyn balchder, a phan dybiai fod arwyddion ohono mewn gwisgoedd a ffasiynau neillduol, ni arbedai neb pwy bynag fyddent. Yr oedd merched ieuainc o gyfeiriad Pwllheli wedi dyfod i ymweled â chyfeillion iddynt yn ardal Brynengan, ac yn eistedd yn y capel yn hollol ar ei gyfer. Gwisgent ryw bethau am eu penau oeddynt yn hollol waharddedig gan Robert Dafydd. Meddyliodd ar unwaith mai y diafol oedd wedi dyfod â hwy yno yn bwrpasol i'w boeni, a chynhyrfodd ei holl natur. "Gwyliwch chi," meddai, "y bydd y rubanau yna yn fflamio o gwmpas eich penau eto yn uffern." Dychrynodd y merched ieuainc trwy eu calonau. Yr oedd yn cadw seiat unwaith yn nghapel Penmount, Pwllheli. Yn mysg merched ereill yr oedd Mrs. Ellin Hughes, Yoke House, nain Mr. Griffith Jones, y twrne, a hen nain y diweddar Mr. Picton Jones, yn adrodd ei phrofiad. Yr oedd rhai ohonynt yn defnyddio veils dros eu hwynebau. Wrth fyned atynt dywedai,—D——— anwyl, mae arna i'ch ofn chi. Yr ydach chi yn debycach i bobl yn eu heirch o lawer na dim arall." Ac fe roes wers hallt iawn iddynt ar falchder. Ond byddai pawb yn barod iawn i faddeu iddo ef, gan y meddwl uchel fyddai gan bawb o'i gywirdeb a'i onestrwydd.

Pwy a anfonodd gini iddo cyn iddo gychwyn i ffordd, ond Mrs. Hughes, Yoke House.

Nid oedd neb a adwaenai rodres a hunan mewn dyn yn well na Robert Dafydd, a'u ffieiddiai yn fwy, nac ydoedd yn fwy medrus i dynu chwydd o ddyn. Bu un o'r enw John Rolant, o gyfeiriad Fourcrosses, yn pregethu am ryw gymaint gyda'r Methodistiaid, ac ar ol hyny gyda'r Annibynwyr. Yr oedd y gŵr hwn yn meddwl cryn lawer ohono ei hun. Un Sabboth yr oedd yn pregethu yn Mrynengan am ddau o'r gloch fel arfer, a digwyddai fod Robert Dafydd adref. Gofynodd i Robert Dafydd yn ffodog iawn—"Newch chi ddechra i mi, Robert Dafydd?" "Dechra hi dy hun," meddai Robert Dafydd, "ne gâd hi by—y—yth heb i dechra," gan roddi sain hir i'r llythyren y. Yr oedd un W. W., un arall o'r un tylwyth, yn pregethu yn Nghyfarfod Misol Brynengan, ac yn parhau i ymresymu nes myn'd yn faich i'r gynulleidfa. Bob tro yr ymestynai dros y pwlpud byddai bys a bawd Robert Dafydd bron a chydio mewn rhan neillduol o'i wyneb.

Fel pregethwr ni edrychid ar Robert Dafydd yn mysg y dosbarth hwnw a ystyrid yn rhai mawr, doniol, a phoblogaidd. Yn hytrach perthynai i'r dosbarth a elwid yn "gynghorwyr." Ni byddai pynciau athrawiaethol crefydd braidd byth yn dyfod o fewn cylch ei ymdriniaeth; ond ymdriniai yn fwyaf mynych ar grefydd brofiadol; natur argyhoeddiad, a marw i'r ddeddf; y gwahaniaeth rhwng y gwehilion a'r gwenith, y gwir Gristion a'r rhagrithiwr; a thaith y Cristion drwy y byd. Ond pa beth bynag a fyddai pwnc yr ymdriniaeth, medrai wneyd y cwbl yn ddyddorol i'r gynulleidfa. Dywedir am y diweddar Barch. Richard Jones o'r Wern, mai nodwedd ei ddawn oedd yr "afrwydd dyddorol." Gellir dweyd yn debyg am dano yntau, fod ganddo y ddawn i wneyd yr hyn fyddai ganddo yn ddyddorol i'r gwrandawyr. Ni byddent byth yn diflasu arno. Un rheswm am hyny oedd, ei fod yn naturiol. Yr un peth oedd Robert Dafydd wrth wau ar y gwehydd ag ydoedd yn y pwlpud. Byddai ei draed yn symud yn ddi—orphwys yn y pwlpud, fel wrth yru y gwehydd. Byddai ysgydwadau ei gorph yn debyg yn y naill a'r llall. Os na byddai pobpeth yn myn'd yn mlaen wrth ei fodd, odid fawr na byddai ei fysedd yn cyffwrdd â'i ben, ac yn crafu peth arno. Dyrysai edafedd yr ymresymiad ychydig, ac yna gwelid ei fysedd yn chwareu trwy ei wallt gwyn, i'w ddad—ddyrysu. Torai bryd arall, ac yna byddai â'i ddwylaw yn cael y ddau ben at eu gilydd, ac yn eu cylymu yn nghyd. Wedi gwneyd hyny, byddai yn chwareu y wenol yn esmwyth a rhwydd nes y deuai dyryswch drachefn. Ac yr oedd y cwbl mor naturiol ac esmwyth fel y byddai yn cario y gwrandawyr gydag ef. Byddai, er hyny, weithiau, yn cael odfeuon grymus iawn, nes gorchfygu yr holl gynulleidfa. Mae rhai yn fyw yn cofio un felly a gafodd yn amaethdy Llwyngwanad—gwahaniad dyfroedd, un ffrwd i ochr Clynnog, a'r llall i ochr Criccieth—yn ardal Bwlchderwin. Yr oedd gorfoledd mawr yn y lle, ac yr oeddynt yn gorfoleddu wrth fyned adref. Yr oedd y Parch. John Jones, Groeslon, yn bresenol, ac y mae efe yn cofio byth am y tro. Cyfeirir at odfa nodedig arall yn y Gwynfryn, sir Feirionydd, yn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd. Fel hyn y rhoddir yr hanes:—"Adroddwyd yr hanes canlynol wrth y Parch. David Jones, yn awr o Gareg Ddu, gan y blaenor adnabyddus William Richard, yr hwn oedd yn llygad dyst o'r ffeithiau. Digwyddodd ryw dro fod John Elias ar daith trwy y rhan yma o sir Feirionydd. Cyhoeddid ef i bregethu yn ol y trefniad yn y Dyffryn, ar nos Sabboth; yr un Sabboth yr oedd Robert Dafydd, Brynengan, yn yn y Gwynfryn, am ddau o'r gloch a'r nos. Wrth gyhoeddi ar ddiwedd yr odfa y prydnawn, anogai Robert Dafydd y neb a ewyllysiai i fyned i'r Dyffryn i glywed y gŵr enwog yn pregethu, yn hytrach nac aros yn y Gwynfryn i wrando arno ef. Aros, pa fodd bynag, yn y Gwynfryn a wnaeth llawer, a'r noswaith hono torodd allan yn orfoledd mawr yn y Gwynfryn, y fath ag y bu sôn am dano am amser maith. Yr oedd Humphrey Evans, wedi hyny o Lanfair, a John Davies, tad y Parch. John Davies, gynt o Lanelli, yn llanciau yn eistedd ar ymyl y gallery; a thra y cynhyddai y gorfoledd yn ei rym, neidiasant dros yr ymyl i'r llawr brwyn islaw; gan ymuno â'r gynulleidfa mewn neidio a molianu. Yn mysg y gynulleidfa ar y llawr yr oedd priod Richard Owen, wedi hyny o Runcorn, ac yn ddiweddaf o Penal, yn wraig ieuanc, a baban bychan yn ei breichiau. Hithau hefyd a ddechreuodd neidio a molianu, gan daflu y baban oedd ganddi yn ei breichiau i ffedog ei mam, yr hon a eisteddai yn ei hymyl. Edrychai y ddau hen flaenor o'r sêt fawr ar yr olygfa gyda mwynhad rhyfeddol; ac wrth wele d y wraig ieuanc yn taflu ei baban i ffedog ei mam, ebe John Jones wrth William Richard, Weli di, dyma y brophwydoliaeth yn cael ei chyflawni, "A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturia wrth fab ei chroth? ïe, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.'"

Un o'r pethau mwyaf neillduol yn Robert Dafydd oedd ieuengrwydd ei ysbryd ar hyd ei oes, ac i'w ddiwedd. Os byddai tipyn o eneiniad gyda'r pregethu, neu dipyn o hwyl yn y moddion, fe fyddai ef mor barod a neb i dderbyn yr argraff, ac i godi ei hwyliau i fyned gyda'r awelon nefol. Rhoddir yr hanes canlynol yn Methodistiaeth Cymru, am dano yn pregethu unwaith yn Nghapel Uchaf Clynnog, pan ddisgynodd rhywbeth sydyn a thra dieithriol ar y gynulleidfa:—"Cyhoeddwyd y byddai Robert Dafydd, Brynengan, a William Roberts, Clynnog, yn pregethu gyda'u gilydd yno ar ryw amser penodol. Yr amser a ddaeth. Pregethodd William Roberts yn gyntaf oddiar Luc ix. 62. 'Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i deyrnas Dduw.' Ond cyn iddo orphen pregethu, disgynodd dylanwadau mor rymus ar y bobl, nes aeth y rhan fwyaf ohonynt i waeddi, ereill i wylo, a phawb a ddaliwyd â syndod. Ni roddwyd cyfleustra i'r hen batriarch Robert Dafydd roddi gair i mewn. Safai yn y pwlpud yn syn, gan grafu ei ben a dyrysu ei wallt a'i ddwylaw, yn ol ei arfer; rhoddai arwyddion fod ei lestr yntau yn orlawn, a'i fod yn barod i dori allan i waeddi a'r holl egni." Danghosir yr un ieuengrwydd ysbryd yn yr ystori ganlynol. Yr oedd hwyl anarferol unwaith yn Mrynengan gyda'r canu, a Robert Dafydd wedi ymollwng gyda'r awelon yn gymaint fel y cydiodd yn nwylaw yr hen flaenor adnabyddus, William Jesus, tad Pedr Fardd, a thaid Nicander, a'r hwn oedd yntau hefyd yn fardd da ei hun. Aeth y ddau wed'yn i neidio a gorfoleddu, dan gydio yn nwylaw eu gilydd. Canai y ddau a'u holl egni y darn penill hwnw drosodd a throsodd,

"Wrth gofio'r llawenydd a fydd."

"Rhwng teiliwr a gwydd," meddai Daniel, mab Robert Dafydd, yr hwn oedd yn edrych arnynt yn hamddenol, ac yn mwynhau yr olygfa yn anghyffredin. Dywedai Daniel hyn yn sobr wrth ei gyfoedion, a chwarddent hwythau. Teiliwr oedd William Jesus, a gwehydd, fel y cyfeiriwyd, oedd Robert Dafydd.

Nodiadau

[golygu]